Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

AT ETHOLWYR BWRDEISDREF! LERPWL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

AT ETHOLWYR BWRDEISDREF LERPWL. FONEDDIGION,-Pan gefais yr anrhydedd o Jf ymddangos rai misoedd yn ol mewn cyfarfod mawr a dylanwadol o honoch chwi yn yr Amphithe- atre, dewiswyd fi yn unfrydol, mewn cyssylltiad a'm cyfaill Mr Wm. Rathbone, fel ymgeisydd am gyn- nrychiolaeth Lerpwl yn y Senedd ddyfocloll, Yr wyf gyda balchder a boddhad yn derbyn y gwahoddiad, yr hwn a" oddai anrhydedd ar unrhyw ddyn cyhoeddus. Meddaf y fraint o gyfarch etholfan terfynau yr hon sydd wedi eu helaethu yn ddirfawr gan ddeddf ddiweddar. Nid wyf yn awyddus i feirniadu, mewn ysbryd annhyfeillgar, y mesur a etholfreintioddmil- oedd o'm cydwladwyr; ond gan mai tebygol yw y bydd i'r ddeddf ddiwygiadol fyn'd o dan raddau o gyfnewidiadau cyn hir, fy nyledswydd yw dangos y pethau yn mha rai, yn fy nhyb i, y geilw am well- iant. Y mae taliad personol y trethi-yr hyn a fynai y llywodraeth gael, er gkvaethaf gwrthwynebiadau parhaus y blaId Ryddfrydig-yn ymyriad anwarant- adwy a r trefniadau byny oedd rhwng perchenog tai a'u tenantiaid a wnaed er mwyn hwyluso ■easgliad y trethi. Y mae'r honiad fod taliad treth, ar wahan pddi wrth daliad rbent a'r drethyn un swm, yn saf- On cymhwysaer I arfer yr etholfraint, yn gecrus a thramgwyddus. CefnogTn l'wyx ddiddymiad y drefn er taliad personol y dreth. Blotyn arall ar y ddeddf y dymunwn ei ddileu ar unwaith ydyw y cynllun rhyfedd, dichell/ar, ao at- gas hwnw, trwy yr hwn y ceisir, mewn rbai ethol- fanau, a'r rbai mwyaf dylanwadol yn y deyrnas, diddymu llais y mwyafrif trwy roddi i'r lleiafrif lais uniongyrchol yn y gynrychiolaeth. Y mae diffyg amlwg arall yn y Ddeddf Ddiwyg- iadol, sef y dull anaddas yn mha un y dosrenir y gynrycbiolaetb. Yr oedd cynllunwyr y mesur yn gweitbredu ar yr egwyddor fympwyol na ddylai yr un lie, pa mor ddistadl bynag y byddo, yr hwn a feddiannai yr hawl o ddychwelyd aelod seneddol, gael ei hollol amddifadu o'r fath fraint. Trosedd- wyd yr egwyddor yma mewn rhan yn y mesu,r Ysgot- aidd, pan y difodwyd 7 o fan fwrdeisdrefi Seisnig er mwyn gwneud lie i gynrychiolaeth eangach yn ngogleddbarth yr ynys. Ond y mae etto yn aros lawer o drefi dinod, hawliau pa rai l "gynrychiolaeth uniongyrchol, os bu ganddynt y cyfryw erioed, sydd er's talm wedi myn'd yn ddirym. Ni wnawn, fodd bynag, fod yn blaid i ranu y wlad i etholfannau mawrion, i ddychwelyd cynrychiolwyr y tir ar un llaw, a chynrychiolwyr masnach ar y llaw arall. Byddai corph o gynrychiolwyr felly, mae'n wir, yn gydgyfarfyddiad nerthol, ond ni byddai yn Dy y Cyffredin. Byddai gallu etholiadol, yr hwn ni roddai gyfleusdra i fywyd cyhoeddus o fewn cyr- haedd dynion galluog ac uchelgeisiol heb fod yn gyssylltiedig uniongyrcbol a thir na masnach, yn waeth na dim nag a gafwyd o'r blaen. Nid oes genyf ddim. i ychwanega gyda golwg ar gwestiwn y gynrycbiolaetb, ond y gwnaf barhau i gefnogi fel yr wyf wedi cefnogi byd yma, y tugel. Yr ydym o bryd i bryd wedi pasio deddfau i rwystro llwgrwobrwy; ac yn y Senedd ddiweddaf gwnaed deddf fwy manwl fyth yn erbyn y cyfryw drosedd ond ni wnaed unrhyw gais eto i rwystro dylanwadau anheg a brawychus ar yr etholwyr-ffurf o arferiad Hygredig o'r braidd yn llai ffiaidd a dirywiol na llwgrwobrwy ei hunan. Yr wyf yn caru pleidleisio agored o flaen pleidleisio cuddiedig; ond yr wyf yn cefnogi y tugel fel yr unig amddiffyniad yn erbyn y cam-ddefnydd o allu a dylanwad. Parhad y Sefydliad Eglwysig yn yr Iwerddon mae'n debyg fydd ypwngc cyntaf ar ba un y gelwir ar y Ty Cyffredin newydd i roddi barn. Nis gallaf gofio yr amser pan yr oedd bodolaeth yr Eglwys yma mewn cysylltiad a'r llywodraeth yn cael ei ys- tyried gan y blaid Ryddfrydig yn ddim amgen na gwaradwydd ar ein Sefydliadau. Dadgysylltwn hi yn hollol; a dadwaddolwn hi mor bell ag y mae hi yn waddoledig o adnoddau cyboeddus. Dymunwn weled Addysg yn cael ei ledaenu trwy foddion mwy uniongyrchol a threfnus nag a ddef- nyddiwyd hyd yn hyn. Y mae cynllun y grants wedi gweithio ar y cyfan yn foddhaol; ond y mae'r amser wedi dyfod pan y dylai addysg ddechreuol y bobl ddibynu llai ar ymdrechion gwirfoddol. Gyda golwg ar y Prif Ysgolion taflwn hwy yn agored i fyfyrwyr o bob enwad crefyddol. Gan hyny rhoddaf fy nghefnogaeth lwyraf i fesur Mr Coleridge. Y mae'r cynnydd mawr yn y costau cyhoeddus o dan y weinyddiaeth fer bresenol wedi bod yn destyn sylw neillduol gan y gwleidyddwr sydd ganddo hawl arbenig i siarad ar y fath bwngc. Yr unig atebiad a gafwyd eto i gais Mr Gladsome am eglurhad gyda golwg ar y cynnydd yn y costau, yw fod amryw dreuliau ychwanegol, rhai dros amser byr, a rhai yn arhosol, wedi eu hachlys- uro o angenrheidrwydd. Nid wyf yn gwadu nad all rhai o honynt fod yn angenrheidiol; am rai, yn wir, y mae gweinyddiaeth Arglwydd Russell yn gyfrifol. Ond y cwestiwn yw, a ydyw Llywodraeth ei Mawrhydi wedi gwneud ymdrech i gyfarfod a'r treuliau newyddion yma, o ba rai y cawsant ddigon o rybudd. Dylai cyfrifydd bob amser gadw mewn golwg ddarpariaeth ar gyfer galwadau newyddion heb ei rhagweled. Ar gyfer y rhai hyn y mae ef un ai yn darpar gweddillo'rderbyniadau, neu yn cwtogi y costau, os bydd hyny yn ddichonadwy; y peth olaf a wna yw codi trethi newyddion. Y gwirionedd yw, y mae ein treuliau wedi cyflymu yn mlaen i raddau dirfawr yn ystod rhai blynyddoedd bellach. Yn y deng mlynedd, o 1850 i 1860, yr oeddy galwad- au ar y drysorfa, ar wahan oddiwrth y draul sefydlog ynglyn a'r ddyled gyhoeddus, ymron wedi eu dyblu. Y mae'r costau milwrol wedi chwyddo i'r fath swm na welwyd ei fath braidd mewn blynyddoedd o ryfel. Gwir fod rhan fawr o'r costau aruthrol hyn wedi bod yn anocheladwy, mewn trefn i osod Lloegr yn gydwastad 0 leiaf a theyrnasoedd eraill, o ran ei hamddiffynfeyda. Er hyny, y mae llawer o afrad- loneda WGGI bod, ac nid. oes dim yn GAL~W mwy 8-NI ddiwygiad na threuliau y llynges a'r fyddin. Tra yr ydym yn barod i amddiifyn anrhydedd y deyrnas yn erbyn ymosodiad, yr wyf yn gobeithio y gwnawn lynu yn fanwl wrth yr athrawiaeth o an- ymyriad mewn cwerylon axnmherthynasol i ni. Eglurid prif egwyddorion y blaid Ryddfrydig yn eu dychweliad yn 1830, ar ol alltudiaeth am yn agos i hanner canrif, yny geiriau, 'Heddwcb, Cyn- nildeb,' a Diwygiad. Trwy lynu wrth yr egwy- ddorion yna yr wy-f wyf yn ewyllysio g-wneud fy hun yn deilwng o'ch hyinddiried. Yr wyf yn gwbl wybyddus fod sylw i bethau lleol yn ffurfio rhan bwysig o'r dyledswyddau gorphwys- edig ar aelodau dros y fath etholfan a Lerpwl. Yr wyf yn gobeithio cael llawer o gylleusterau cyn yr etholiad i egluro yn llawnach nag sy'n bosibi o fewn cylch yr anerchiad yma, fy ngolygladau ar y gwahanol byngciau a nodir genyf, yn gystal ag ar unrhyw bwngc arall y teimlwch awydd i wybod fy mam amo. Ydwyf, Foneddigion, Eich gwas ffyddlon a rhwymedig, W. N. MASSEY. Llundain, Hydref 5,1868. [68-70

AT ETHOLWYll MEETHYR, Y FAEKOR…

[No title]

Advertising

YR WYTHNOS.

ETHOLIAD SIR GAERFYRDDlIf.j

CYFARFOD YMADAWIAD Y PAROJ!.J…