Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

17 erthygl ar y dudalen hon

ABERAERON.

FELIN FOEL.

LLANLLECHID.

LLEYN A'R AMGYLCHOEDD.

CORWEN.

LLANGOWER.

ABERMAW.

---TALSARNAU.

BLAENAU FFESTINIOG.

LLANDDAROG.I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

LLANDDAROG. GWYL GESDDOROL Y PLANT.—Ymwelodd Ysgol Sul yr Eglwys a Phontyberem ar ddydd Llun y Pasg i adrodd pwnc a chanu. Daeth Ysgol Snl St. loan i'n cyfarfod i'r pentief, ac ymffarfiwyd yn orymdaith fawr i fyned i fyny i'r hen d&ml ar y blyn. Yr oedd yr eglwys yn orlawn. Holwyd yr ysgolion gan y Parch. N. Thomas, Llanddarog, yn Nghredo yr Apostolion," ac yr oedd yr atebion yn gantaoiadwy iawn. Ar ol y gwasanaeth hwn, gorymdeiibiwyd i lawr i'r ysgoldy gan ganu tonau cysegredig yn hwylus. Yma yr oedd Mrs. Isaac Jones, a'i Ilawforwynion, wedi darparu gwledd odea bara brith i bawb. Ar ol te, cafwyd gwasanaeth corawl, sef Gweinidogaeth yr Iesu," gan y ddwy ysgol yn ar- dderchog. Arweinid y canu gan flaenor y gan o Bonty- berem, a chwaremd ai yr harmonium gan Mr. W. Harries, Llanddarog. DarlIenwyd y rhanau ysgrythyrol gan Mr. T. Seymour, Coalbryok House, yr hwn sydd yn cymeryd dyddordeb mawr yn yr Ysgol Sul. Trueni na byddai eglwys newydd yn cael ei chodi yn y pentref. Y mae y Parch. Isaac Jones yn llafarus iawn, ac yn cyflawni gwaith da yn Pontyberem, ond nid yw yn cael chwareu teg mewn eglwys mor fechan ymhell oddiwrrh y bobl. Yr cedd y ddwy ysgol wedi cynyddu mor fawr er y llynedd fel yr oeddym. yn synu wrth weled y fath dorf. Ymlaen yr elo. FFSTIFI YR EGLWYS.—Yr oedd yr ystafell hon mewn angen adgyweiriad yn Llanddarog er's hir amser. Ym- gymerodd y Ficer a'r gwaith, ac adnewyddodd hi yn drwyadl, gan roddi cwpbwrdd newydd o'i mhewn i ddat y gwenwisgoadd, &c. Mae genym yn awr eglwys mor hardd a threfnus ag a welir mewn un man. Mae y cynulleidfaoedd a'r Ysgol Snl yn fwy blodeuog nag y bnont erioed. a chynyddu y maent yn barhaus. Ffydd- londeb a gweithgarwch yn.mhawb sydd eisiau yn awr. -Pen.

PONTLOTTYN.

LLANBEDROG.

LLANDEILO.

GWRECSAM.

ABERTAWE.

RHYMNI.

HENDY GWYN AR DAF.