Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
ferns for Atteiisttm. I Class of Advertisements. ^fons. *JX a. d. Parliamentary Notices ) 0D. per Line Legal and Public Notices j per Insertion Auction Announcements > 4D. per Line J perlnsertion Eeligious Services and Lectures. 1 to 5 2 0 Bazaars, Concerts, & iiisteddfodau } ( 6 to ] 1 I 6 Publishers and Educational > ■< 12 to 25 | 3 Announcements 1 ( Business Addresses 26 and up. | Q PREPAID ADVERTISEMENTS. w One Three Six Insertion. Insertions. Insertions. s. d. s. d. s. d. 20 1 0 2 0 3 0 30 1 6 3 0 4 6 40 2 3 4 6 6 9 TRESE CHARGES, which, must be prepaid, apply only to consecutive insertions of the following classes of advertise- ments: Situations Wanted, Situations Offered, Apartments to Let, Apartments Wanted, Money Wanted, Partnerships, Businesses for Sale, Lost and Pound, Miscellaneous Wants, Houses, Shops, Offices, Specific Articles for Sale by Private Contract. ADVKRTISEMEXTS must reach the office not later than Thursday morning. IF THE INSERTIONS be not consecutive, or if payment be not made previous to publication, the business rate will be charged, but no order will be booked for less than three shillings. NOTICES of Bifths, Marriages, and Deaths are charged 1/- each, if not exceeding 20 words, and 6d. for each additional 10 words. In all cases the Notices must be authenticated by the Signature and Address of the sender. THE GREATEST CARE is taken to insert advertisements on the dates ordered, as well as to secure their being correctly printed; but we cannot be responsible for inaccuracies in either of these respects, nor for any consequences arising therefrom. CHEQUES and POST OFFICE ORDERS should be made payable to DANIEL OWEN & Co., Ltd., Publishers. Y Ilan" Olices, Cardiir. 3,!n ODizíau, &r. CURATE Wanted in Diocese of St. Asaph. Single; population, 3,400; Church Army work in parish.—Address Vicar, Bistre, Chester. 304 WANTED, Sub-Editor for Y LLAN, Welsh » Church Newspaper. Liberal remuneration.- Send applications, with testimonials, to Llangan Rectory, Bridgend. 301 0 E- V. J. J. DAVIES, Arbory Vicarage, JLL) Ballabeg, Isle of Man, desires Locum Tenency or Sunday Duty (Welsh or English, or both) from Jane 30th to July 20th. Single. Usual termo. 305 YN EISIAU, Cynorthwywr i Oruchwyl- iwr Cymro, canol oed, gyda gair da. Rhaid iddo fod yn ddyn cryf ac iach, ac yn gallu siarad, darllen, ac ysgrifenu Cymraeg yn rhwydd a chywir. Rhoddir y fiaenoriaeth i un o'r Deheudir.-Cyfeirier at Cymro, Post Office, Aberystwyth. 303 Y N EISIAU, Teuluyddes (Housekeeper) o Gymraes, mewn tenia urddasol yn Neheudir Cymru, heb fod o dan 35 na thros 55 mlwydd oed. Rbaid iddi fedru siarad a darllen Cymraeg yn rhwydd ac yn dda. Rhoddir y fiaenoriaeth i un enedigol o'r Deheudir. Bydd i'r gyflog ymddibynu ar gymwysderau yr ymgeisydd.—Anfoner llythyran cyixieradwyaeth, &c., at Cymro, Post Office, Aberystwyth, 302 ( £ |ilj0 £ i!toaiiau, ANTHEM, ]^[AWR YW YR ARGLWYDD YN SION." SALM XCIX. 2, 3 SALM CIII. 1.2 GAN Y PARCH. WM. HOWELL (HYWEL IDLOES) FICER GARTHIBRENGI. The above is suitable for Harvest Festivals. ENT. STA. HALL. Pris, Hen Nodiant, 3c.; Sol-ffa,2c. One Dozen Copies and upwards, prepaid, Post Free. All Orders to be sent to the Author, Garthbrengi Vicarage, near Brecon. 293 at tilt <§oftei)togr. Dymunwn alw sylw em darllenwyr, gohebwyr, a dosbarth- wyr at y cyfnewidiadau canlynol sydd wedi eu gwneyd mewn cysylltiad a. dygiad allan Y LLAN. 0 hyn allan cyfeirier NEWYDDION LLEOL A HYSBYSIADAU fel y canlyn :— THE EDITOR, LLAN Office, St. Mary Street, Cardiff. BAEDDONIAETH Kev. N. THOMAS (Marlais), The Vicarage, Llanddarog, Carmarthen. CYFANSODDIADAU, YSGRIFAU, A GOHEBIAETHAU cyhoeddus a chyfrinachol, &c., ynghyd â Llyfrau i'w hadolygu Rev. LL. M. WILLIAMS, The Vicarage, Beaufort, Mon. Dylai yr oil fod mewn Haw ddim yn ddiweddarach na boreu ddydd Mawrth. DALIER SYLW.—Oherwydd prinder gofod nis gallwn addaw gosod i fewn ysgrifau meithion a chan fod nifer ein goheb- wyr caredig mor lliosog, erfyniwn arnynt fod yn fyr a chryno. Rhoddir y fiaenoriaeth bob amser i adroddiodau a newyddion ^Buasai yn dda gan y Cyhoeddwyr benodi dosbarthwyr i wertliu Y LLAN He nad oes rhai eisioes. Am y telerau anfoner i'r swyddfa. GRONWN.—Yn ein nesaf. EWYLLYSIWR DA.—Y mae ein colofnau mor lawn yr wythnos hon fel naB gallwn hebgor gofod i'ch achwyn- iad. Yr wythnos nesaf os yn bosibl. D. T. JONES (Glais).—Gwnawn ymdrechu gosod eich llythyr i fewn yr un pryd ag eiddo "Ewyllysiwr Da" gan eich bod yn cyfeirio at yr un pwnc. DYFFRYN CLWYD.-Caiff eich awgrym sylw haeddianol. Can' diolch i chwi am roddi hysbysrwydd i ni. J. H. (TalsarDau).-Felly yr eiddoeh chwithau, Diolch. aff Gorfodwyd ni yr wythnos hon i dalfyru amryw yegrifau a dderbyniwyd oherwydd diffyg gofod, I
YR YSGOLION GWIRFODDOL.
YR YSGOLION GWIRFODDOL. Y MAE dau neu dri o bethau yn araith Mr. CHAMBERLAIN ar Addysg Elfenol yn Bir- mingham yr wythnos ddiweddaf sydd yn teilyngu sylw manwl caredigion yr Eglwys. Y mae ymdrechion Eglwyswyr, ar hyd a lied y wlad, i gadw eu hysgolion dyddiol yn agored yn haeddu y ganmoliaeth uchaf. Gwyddom fod y rhwystrau ar eu ffordd, mewn llawer ardal, bron yn anorfod, ac eto, yn ngwyneb yr holl anhawsderau, y maent wedi ymroddi, fraich a chalon, i ddarparu i'r to ieuanc yn eu plwyfydd addysg sydd yn cyffwrdd y galon ac yn ffurfio y cymeriad, yn gystal ag yn eu parotoi ar gyfer gwahan- ol orchwylion bywyd. Nid ychydig o aberth oedd ofynol i gyflawni y gwrhydri hwn, oherwydd y mae y Byrddau Ysgol yn gallu suddo eu dwylaw i logellau y trethdalwyr pan y mynont ac fel y mynont. Y canlyn- iad yw eu bod yn feddianol ar y gallu i gael y nifer a fynont o athrawon ac athrawesau, a phob math o gynorthwyon i wneyd y gwaith o addygu y plant dan eu gofal yn gydmariaethol hawdd, hylaw, a hwylus. I ddal eu tir, yr oedd yn angenrheidiol i Ysgolion yr Eglwys eu cyfarfod; ac.i wneyd hyn, nid oedd yr un drws yn agored iddynt ond yr Egwyddor Wirfoddol. Gwrandawn ar Mr. CHAMBERLAIN yn adrodd pa fodd y cyflawnwyd hyn. Ar ol sylwi mai dymuniad calon Cyngrair Addysg 1870, a mwyafrif mawr Anghydffurfwyr y wlad" oedd gweled yr Ysgolion Gwirfoddol yn graddol ddihoeni a marw, dyma yr hyn a ddywed: Yn 1871 yr oedd gan yr ysgolion ddarpariaeth t3 tD ar gyfer 2,000,000 o blant; yn awr cynwys- aut 3,452,000. Dengys hyn gynydd, mewn dwy-flynedd-ar-bymtheg o 70 y cant. Y pryd hwnw nid oedd cyfartaledd presen- oldeb dyddiol y plant yn Idynt ond 1,231,000; heddyw y mae yn 2,187,000—yn dangos cynydd o 75 y cant. Yr amser hwnw yr oedd y grant a dderbynid oddiwrth y Llyw- odraeth yn 10s. y pen, heddyw y mae ) n 17s. y pen. Dyma gynydd eto o 70 y cant. Swm pres y plant y pryd hwnw oedd £ 539,000, heddyw y mae yn £ 1,229,000— cynydd o 135 y cant. "Y rhodaion gwir- foddol a dderbynid y pryd hyny oedd £ 437,000, erbyn hyn y maent yn gwneyd y swm o £ 742,000. Dyma eto gynydd o 70 y cant." Nid rhyfedd i'r boneddwr anrhyd- eddus ychwanegu, Addefaf fod y cynydd ymhob cyfeiriad yn rhyfeddol ac yn annis- gwyliadwy." Cymaint a hyn am y gorphen- ol. Dymunwn o'n calon longyfarch cyfeill- ion Addysg Grefyddol. Diolch i ymdrech- ion yr offeiriaid, ac ymlyniad digyffelyb y ffyddloniaid lleygol, y mae ysgolion yr Eglwys wedi mwy na gorchfygu pob gwrthwynebiad. Ond beth am y dyfodol. Ofnwn fod yr ystorom yn agosau. Nid oes dim a foddlona wrthwynebwyr Addysg Grefyddol yn awr ond yr hyn a elwir Addysg Rad," hyny yw, ysgol i bawb yn rhad ac am ddim. Mewn geiriau eraill, bwriadant feichio y treth-dalwyr, sydd eisoes yngruddfan o dan eu pwn, â threth- oedd ychwanegol, er mwyn cael ysgol rydd i bawb. Caiff yr amaethwr sydd wedi ei lethu gan farweidd-dra masnach, nes y mae bron yn rhy wan i ymsythu, dalu trethoedd ychwanegol er cael addysg rad i blant y cz) siopwr cefnog. Bydd y llafurwr gyda'i aelwyd lawn, a'r gweithiwr gonest sydd wedi ymladd yn galed i gynal ei deulu, heb erioed ofyn ceiniog gan y plwy'—bydd y rhai hyn yn gorfod talu at ysgolion plant y gaffer, y stiward, a'r marsiandwr. A pha faint fydd raid iddynt dalu ? Atebed Mr. CHAMBERLAIN, yr hwn sydd yn ddigon hir- ben i weled pa le y mae y cynwrf gwallgof hwit yu rhwym o ddiweddu. Meddai ef, "os diddymir y tal wythnosol gan rieni, cauir i fyny yr Ysgolion Gwirfoddol. Bydd y golled iddynt yn filiwn a chwarter yn y flwyddyn. Bydd yn anmhosibl iddynt wneyd y diffyg hwn i fyny drwy roddion gwirfoddol. Felly nis gallant ond trengu. Wedi hyny bydd raid i'r Byrddau Ysgol ddarparu ar gyfer y 3 miliwn a haner o blant sydd yn awr yn yr Ysgolion Gwirfoddol. I wneyd hyn bydd yn ofynol adeiladu ysgol- ion ar draul o bymtheg miliwn ar hugain ( £ 35,000,000). Yn ychwanegol at hyn, bydd ganddynt i dalu pum' miliwn yn flynyddol am addysg y plant hyn." Safer yn bwyllog uwchben y ffigyrau hyn. Yn ychwanegol at y trethi gormesol sydd eisoes bron a'u llefchu, caiff y trethdalwyr eu beichio â 35 imiliwn o'r newydd, a 5 miliwn yn flynyddol, er mwyn trwytho y wlad ag addysg ddi-DDuw! Wrth y sawl sydd yn ymlynu wrth Yr Hen Lyfr-dirgelwch mawredd Prydain; I wrth y rhai sydd yn credu yr hyn a ddywed Yr Hen Lyfr—mai "Cyfiawnder a ddyrchafa genedl;" wrth y cyfryw dywedwn :—(1) Cadwch eich IIygaid yn llydan agored, fel na bo i'r cynllun gwirion-ffol hwn gael ei wthio drwy y Senedd yn lladradaidd. Penderfynwch na chaiff yr aelod dros eich rhanbarth benderfynu lpan ddygir y Mesur hwn gerbron y Ty. Bhoddwch ar ddeall iddo yn foneddigaidd mai trech gwladnag arglwydd," ac mai teimlad y wlad ydyw yr atgasrwydd llwyraf tuag at yr erthyl afiun- iaidd hwn. (2) Cynorthwywch ddwylaw eich offeiriaid i gynal i fyny yn effeithiol Ysgol yr Eglwys yn eich plwyf, lie y mae un i'w chael. Gwyddom fod ei faich ef, yn y cyfeiriad hwn yn annioddefol drwm ac, oherwydd y dirwasgiad presenol, gwyddom y daw yn drymach fyth am dymor o leiaf. Cydymdeimlwch ag ef-ymladd y mae ef dros iawnderau ei blwyfolion, nid drosto ei hun na thros ei deulu. Safwch ysgwydd- wrth-ysgwydd ag ef. Gwyddom am un plwyf lie y ffurliwyd Guild i gydweithredu a Phwyllgor yr Ysgol Genedlaethol. Yna rhanwyd y plwyf i ddosbeirth, a rhoddwyd dosbarth i bob un o aelodau y Guild. Dyled- swydd yr aelodau hyn oedd myned i bob ty yn y plwyf, egluro i'r trigolion gyflwr arianol 4n 9 yr ysgol, dangos yr angenrheidrwydd am ei 0 chadw yn agored, erfyn addewidion am danysgrifiadau blynyddol, ac yna, fel na 0 y byddai i neb deimlo ei danysgrifiad yn faich, casglu y rhoddion hyn yn chwarterol. A gawn ni gymeradwyo rhyw gynllun tebyg i hwn i sylw Lleygwyr yr Eglwys, fel y byddo iddynt drosglwyddo i'w holafiaid y gwirion- eddau gogoneddus a dderbyniasant gan eu cyndadau.
IAWN I DAFAKNWYR.
IAWN I DAFAKNWYR. MAE cryn amrywiaeth barn ynghylch ad- ranau trwyddedol Mesur y Llywodraeth Leol (Local Government Bill), ac yn neill- duol ynghylch gwneuthur iawn i dafarnwyr a gollant eu trwydded heb un bai ar eu tu hwy. Ond yr ydym yn hollol o'r farn y gallai fod rhai achosion ag y byddai iawn Yl1 ddyledus pe gwrthodid y drwydded heb ddim bai ar y tafarnwr. Y mae amryw o bynciau mewn cysylltiad a'r mater hwn ag y meddyliwn fod agos pob dyn da yn cyd- weled yn eu cylch. Yn gyntaf, fod y fas- naoh mewn diodyddmeddwol fel y dygir hi ytalaen yn bresenol yn felldith fawr i'r wlad. Yn ail, fod llawer gormod o dafarn- au at anghenion y trigolion, hyd yn nod pe na b'ai neb yn llwyrymwrthodwyr; pe b'ai pawb yn dewis cymeryd diod gref mewn cymedroldeb, byddai llai na haner y tafarn- au y sydd, yn ddigon i ddiwallu anghenion pawb. Yn drydydd, byddai yn well er lies moesol y wlad leihau nifer y tafarnau, oblegid y mae pob tafarn yn brofedigaeth i'r gweiniaid. Mae golwg tafarn yn cael effaith swynol ar y sawl sy'n dueddol i ormodedd. Os gwaith anhawdd ydyw i'r ffermwr, wrth ddyfod adref o'r ffair, fyned heibio i un, mae yn fwy anhawdd myned heibio i ddwy neu dair. Byddai lleihau nifer y tafarnau yn lleihau peryglon y meddwyn a'r sawl a demtir gan y diodydd meddwol. Yn bed- werydd, mai llwyr ymwrthod ydyw y modd- ion dynol mwyaf tebygol, os nid yr unig foddicn, i ddiwygio'r meddwyn. Gwyddom am lawer a gawsant. oruchafiaeth ar y gelyn creulcn hwn trwy ddirwest; nid ydym yn cofio clywed am neb a gafodd ddiangfa mewn un ffordd arall. Yn burned, cytuna llawer o honom mai dyledswydd y cryf ydyw cynorthwyo'r gwan trwy ymarfer a dirwest er mwyn rhoddi esiampl i'r gwein- iaid, ac ymwadu a'u hunain er mwyn dangos iddynt fod yn ddichonadwy i'r iach fyw heb ddiod gref. Cred- wn fod ilawer o ddynion da yn cytuno ynghylch yr oil o'r pethau a grybwyllwyd uchod meddyliwn nad oes nemawr o wahaniaeth barn ymhlith dynion da. Ond oddeutu rhoddi iawn i dafarnwyr pe baent yn colli eu trwydded heb un bai o'u tu eu hunain, mae, ysywaeth, lawer o amrywiaeth barn. Ond pe gellid dangos y byddai gwrthod trwydded yn anghyfiawnder mewn unrhyw achos, ni ddylai fod gwahan- iaeth rhwng dynion da, y dylid rhoddi iawn yn hytrach na gwneyd anghyfiawnder. N i ddylem wneuthur drwg fel y del da, ond mae o'r pwys mwyaf cofio, fod yr esboniad ar y gyfraith a roddwyd yn ddiweddar yn y Llys Uchaf yn Llundain yn gosod y trwy- ddedau y sydd, a'r trwyddedau a fydd, mewn sefyllfa hollol wahanol. Hyd yn hyn byddai pawb, Llysoedd Barn, Ynadon Heddwch, a Thafarnwyr yn credu yn hollol fod pob trwydded i dafarnwr i barhau o flwyddyn i flwyddyn cyhyd ag y byddai y dafarn yn cael ei chynal yn rheolaidd ac yn unol a'r gyfraith a byddai pob tafarnwr yn gosod ei arian yn y fasnach ar y telerau hyn. Ond yn awr, mae y ddedfryd ddiweddar wedinewid hyn oil. 0 hyn allan, cyhyd ag y parhao'r gyfraith fel y mae, rhaid i bob tafarnwr dderbyn trwydded ar yr amod y gall yr Awdurdodau wrthod ei hadnewyddu ymhen y flwyddyn. Rhaid iddo fyned i'r fasnach a'r perygl hyn o flaen ei lygaid. Ac os cyll ei drwydded hyd yn nod heb un bai o'i du ei hun, ni bydd ganddo unrhyw hawl am iawn. Eithr onid yw yn wahanol gyda golwg ar y tafarnwyr y sydd ? Onid ydynt wedi gosod eu harian yn y fasnach ar wahanol delerau? Credai yr ynadon, credai y tafarnwyr nad oedd dim modd i golli'r drwydded heb ryw drosedd yn erbyn y gyfraith neu fethu cyflawni gofynion y gyfraith. Cydnabyddai y Llywodraeth, a chydnebydd eto, fod y fasnach yn gyfreithlon, ac felly mae y tafarnau y sydd wedi cario eu masnach ymlaen dan nawdd y Wladwriaeth. ac y maent wedi myned iddi gan ymddiried na byddai byth yn gyfreithlon eu hamddi- fadu o'u trwydded oddieithr am eu bai eu hunain. Mae perchenogion y tafarnau wedi adeiladu tai costfawr, cymwys i'r fasnach, na byddent yn agos cymaint o werth at unrhyw ddiben arall. Gellid yn ddiau gau llawer o'r tafarnau bychain heb wneuthur colled i'r perchenogion; ond pa fodd y gellid troi yr Hotels mawrion, adeiladau costfawr, at unrhyw ddiben arall heb golled ddirfawr i'r perchenogion, ac i raddau i'r deiladon hefyd ? Nis gall unrhyw leshad i genedl gyfiawnhau anghyfiawnder. Nis gallai unrhyw fudd yn y byd i berson neu i genedl, wneuthur anghyfiawnder yn uniawn yn ngolwg Barnwr yr holl ddaear. Hen ddiareb Rufeinig a ddywed, "fiat justitia, ruat caelum (gwneler cyfiawnder pe syrth- iai y nef). Ac oni byddai yn anghyfiawnder i ynadon ddweyd wrth dafarnwr, yr ydym yn gwrthod adnewyddu eich trwydded mwy oblegid yr ydym yn barnu nad oes eisieu eieti ty chwi mwy, mae.digon o dafarnau hebddo. Y mae'n wir eich bod wedi adeil- adu ty helaeth a chostfawr i fod yn hotel, gan gredu y byddech yn sicr o gael trwydded o flwyddyn i flwyddyn, cyhyd ag y byddai y ty yn cael ei gynal yn iawn ac yn weddus. Ond nid yw hyny ddim i ni, yr ydym ac am leihau y tafarnau, a gwrthodwn drwydded i chwi eleni, beth bynag fyddo'r canlyniadau. Lies cyffredinol y wlad yw'r pwnc mawr yn ein golwg ni." Oni byddai hyn yn anghyf- iawnder, eithr "cyfiawnder a ddyrchafa genedl." > ,.í
NODiADAtj SENEDDOL. .
NODiADAtj SENEDDOL. GAN EIN GOHEBYDD ARB.E NIG.] MESUR ESGOBAETH ROCHESTER. Ar ail gyfarfydaiad Ty yr Arglwyddi ar ol gwyliati y Sulgwyn ddydd Llun, yr wythnos ddiweddaf, Cynygiodd Esgob Rochester ail ddarlleniad Mesur, amcan yr hwn ydoedd gwneyd darpariaeth ar gyfer penodiad esgob oynorfchwyol i Esgobaeth Rochester oherwydd y cynydd anarferol yn y boblogaeth. Ofnai Is-Iarll Middleton, er nad oedd yn dymuno gwrthwynebu y Mesur, y gwnelai y mudiad grou yin, ddiriedolaeth (trust) y byddai yn anhawdd ymrydd- hau oddiwrtho pan ddelai yr amser i ranu yr esgob- aeth i, o leiaf, ddwy esgobaeth. Dywedodd Ardalydd Salisbury nad oedd y Llyw- odraeth yn dymuno gwrthwynebu y Mesur. Galw- odd ei arglwyddiaeth sylw y Ty mewn modd neill- duol at yr anhawsder i basio mesurau mawrion a ohynwysfawr mewn perthynas a'r Eglwys. Yr oedd pasio y cyfryw fesurau yn myned yn fwy anhawdd Y naill flwyddyn ar ol y llall, ac yr oedd ef o'r farn i ddeddfwriasth ymarferol y buasai yn well pasio nifer o fesurau bychain, gan nad pa mor anmher- ffaith bynag y gallent ymddangos, na disgwyl am gyflawniad rhyw orchestwaith dyohymygol. ;Mae llawer o wir yn y sylw. Dyma y mesurau, fel rbeol a wna fwyaf o les i'r Eglwys, ac nid rbyw organic changes gwag-ddychymygol a mympwyol. Pasiodd y Mesur yr ail-ddarlleniad. MESUR Y CLASDIR. Derbyraiwyd yr adroddiad o'r gwelliantau ar V Mesur hwn, a gorchymynwyd ar fod i'r Mesur gaol ei ddarllen y drydedd waith. Gweithio yn ddirodres a businesslike y mae yr Arglwyddi, ao nid rhyw frygawthan tragywyddol fel Ty y Cyffredin. Y TERFYSG GWRTH.DDEGYMOL YN LLANEFYDD. Gofynodd Mr. Thomas Ellis, ddydd Llun, i'r Ys, grifenydd Cartrefol a oedd wedi gwneyd ymchwiliad i'r amgylchiadau ynglyn a'r ymosodiad a wnaed 99," yr heddgeidwaid ar y bobl oedd yn bresenol mewn arwerthiadau degymol yn Llanefydd, Sir Ddinbycb, ar yr 17eg o Fai, ao a allasai hysbysu i'r Ty yr aul- gylohiadau oedd yn cyfiawnhau yr ymosodiad. Atebodd Mr. Mathews ei fod wedi gwneyd yr1J" chwiliadau, a'i fod wedi derbyn adroddiad oddiwrth brif-gwnstabl y sir yn hysbysu mai nid ymosodiad gan yr heddgeidwaid ydoedd, ond i'r gwrthwy$eb > amgylobynwyd ac ymosodwyd ar y goruchwyliwr