Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
21 erthygl ar y dudalen hon
LLANFIHANGEL-TRE'RBEIRDD,…
LLANFIHANGEL-TRE'RBEIRDD, MON. Mai 28ain, gosodwyd congl faen eglwys y plwyf, yr Ion fwriedir ei hadgyweirio. Y contractor ydyw Mr. Henry Jones, ac mae ei waith yn hynod o foddhaol hyd yma. Sangodd yr hen adeilad ei seddan hyd yn hyn mor-gadarn a'r graig, er i ystormydd am dri chant ar ddeg luchio ei mellt o gylch ei mur. Cafwyd darlleniad o'r gwasanaeth apwyntiedig gan y Parch. R. Jones, y iheithor, a gosodwyd y gongl faen gan ei briod, Mrs. Jones. Yr ydoedd yn bresenol y Parch. Mr. Williams, Bodfean, ger Pwllheli, a'i fab, Bef carad y lie. Teilwng yw dweyd fod y canu yn destyn syndod, a.'r gwasanaeth yn fendigedig drwyddo. Edmygir yn fawr y caredigrwydd a amlygir gan amaethwyr y gwa- hanol blwyfydd trwy gludo pethau ynglyn a'r adgyweir- iad yn rhad; yn wir, parodrwydd nas gwelwyd ei gyffelyb yn un man o'r blaen. Mor hyfryd ydyw gweled teimlad yn cael ei arddangoa fel hyn er gogoniant Daw, a bendith eu heneidian anfarwol. Prysured y dydd y byddo adgyweiriad ax holl hen eglwysydd anaddnrnedig Mon, a dyged gweithgarwch yr offeiriaid wedd lewyrchus ar eu cynulleidfaoedd i geisio adnewyddu hen eglwysi ein tadau i ymddisgleirio megia goleuadau y byd fel yn y dyddiau gynt yw dy- muniad calon-Erasmws.
LLANDINORWIG.
LLANDINORWIG. Byctd y cyfarfodydd blynyddol yn cael eu cynal yn Eglwys Llandinorwig dyddiau Sadwrn a Sul nesaf, Mehefin 16eg a'r 17eg. Pregethwyr: y Parchn. J. W. Roberts, ficer Felinfoel, Llanelli, a D. Roderick, ficer Cockett, Abertawe.
CILGERRAN.
CILGERRAN. CYFARFODYDD BLYNYDDOL—Fel y nodwyd yn fyr yn y rhifyn diweddaf olr LLAN eymer dd y cyfarfodydd hyn le ddyddian Sul, Li n. Mawrth, a Mercher, Mehefin 3ydd, 4ydd, 5ed, a/x 6ed, pryd y cafwyd preg- ethau grymus gan y Parchedigion canlynol:—D. Bankes-Williams, Abertawe D. Worthington, Llan- fihangel-Penbe^v E. Thomas, Llanarth; D. Roderick, Cockett, a J. Da\es, Lerpwl. Cymerodd y Parchedigion canlyrol ran yn y^wasa/oasthau—sef yr Archddiacon North, Llangoedm<&; W. Powell, R.D., Castellnewydd- Emlyn; T. Jones^^jjandndoch; D. Francis, Llan- dugwydd; E. Evansj/Trewyddel; D. W. Herbert, Tremain; R. W. Owb, Aberteifi, a Thomas Jones, rheithor y lie. HeblAwN^r offeiriaid uchod, yr oedd hefyd yn bresenol y BarchrkR. J. Lloyd, Troedyraur H. Jones, Manordeifif; W. CWog Davies, Aberteifi; J. Williams, Llangelerk J. Jonea, Clydeg J. T. Lewis, Llanfyrnach; D. Jones, Penritt^ T. M.Jones, Eglwys- wrw W. WiUiama Eglwys wen; R. Berriman, Aber- porth; J. O. Evans, Llandugwydd; D. Griffith, Mynachlogddu; D. H. Davies, Genarth T. Thomas, Llechryd; A. Alban, Bridell; B. Griffiths, Hay; J. Griffiths, Nevern; J. P. Evans, Llandudoch; J. Griffiths, Leeds; D. Mathias, Trefdraeth, ac Isaac Morgan, curad Llangoedmor. Ni welwyd y fath gynulliad yn Nghilgeiran er's rhai blynyddan: yr oedd yr eglwys fawr yn llawn bob dydd, ond ddydd Mercher yr oedd Ilawer yn methu cael mynediad i mewn ac yn g or fad bod yn foddhaol trwy wrandaw odditan y Senestri oddiallan. Drwy ymdrech egniol y Parch. Thos. Jonea, B.A., rheithor y He, y mae y cyfarfodydd blynyddol hyn wedi cyraedd enwcgrwydd nchel ar hyd ailed y tair sir. set Penfro, Caerfyrddin, a Cheredigion. Yr oedd yno ddarpoxiaeth helaetho. fwyd ar gyfer dieithriaid yn yr Ysgoldy Cenedlaethol yn xhad ac am ddim, fel nad oedd eisiau i neb fyned adref o dan siom- iant, ond dywedyd mai gwir bleser oedd bod yno. Yr oedd y pregethau yn rymus a nerthol, y canu yn wresog, a'r casgliadau yn haelfrydig. Gwasanaethwyd ar yr organ gan Mr. J. Thomas, ysgolfeistr, yn fedrus iawn.— HE.
RHYMNI.
RHYMNI. GWYL GERDDOBOL.—Dydd Gwener, yr 8fed cyfisol, daeth corau plant o Dowlais a Pontlottyn i Rbymni i ?rnal yr wyl flynyddol yn yr Eglwys am dri o'r gloch. r oedd y cantorion mor lliosog fel y llanwyd yr eglwys ganddynt. Daeth tua 500 o Dowlais, a rhyw 300 o Pontlottyn, a cbynhwyaat plant Rhymni 500. Aeth- pwyd trwy y gwaith yn llwyddianus, o dan arweiniad y Parch. T. Reea, ficer Pentyrch. Y llyfr y tro yma oedd The Young Nazarine," yr hwn oedd yn gyfaddas droa ben mewn testyn ac mewn cerddoriaeth i'r plant ieu- anc. Y brass band oedd o Dowlais. Yr organydd oedd Miaa Shields. Holwyd y Catecism gan Canon Evans. Y mae y gwahanol arweinwyr yn haeddu clod am eu llafnr diflino yn dysga y fath lyfr mewn amser mor fyr i gynifer o leisiaa bychain. Mewn trefn i'r wyl fod yn fwy amlwg ac effeithiol, fel prawf o lafur a bywyd yr Eglwys, dylid cael lie llawer mwy eang i'w chynal, megis Cathedral Llandaf, oblegid nid oes lie i neb, fel y mas yn bresenol, ond i'r cantoriou yn unig; ac nid yw clywed eu lleisiau eu hunain yn cyrhaedd y diben. Gwledd a gafodd y rhai a allodd fyned i mewn i glywed y canu. A phrofasant eirwiredd y geiriau hyny, "0 enau plant, a rhai yn sagno y perffeithiaist foliant." Cymerwyd dyddordeb hefyd yn y Catecism. Carem yn fawr pe bae rhyw gerddor galluog yn gosod y Cate- cism ar g&n i'w gann mewn gwyl o'r natur yma. Yna byddai yn hawdd cael y plant i ymhyfrydu mwy mewn dysgu y llyfr gwerthfawr hwn. Y mae dyagu y Cate- cism, yn Gymraeg beth bynag, fel siarad caeth a thafod dieithr i'r plant. Y maent wedi arfer derbyn i fewn addysg trwy iaith arall. Onid oes modd cael rhywbeth mewn gwisg mwy naturiol na chyfieithiad Uythyrenol ? Wei, 08 nad oes, bydded i ni geisio ei gosod ar gin, er mwyn llyfnhau yr anystwythder preBenol. Hefyd, y mae cymaint o amser yn awr yn cael ei roddi i ddysgu y llyfr newydd bob blwyddyn, fel nad oes amser i ym- yfryda yn y Catecism. Pe cymerem y Catecism fel llyfr i'w ganu, gallem roddi yr holl amser iddo. Gwydd. om yr effaith ddaionus y mae canu y Credo yn ei adael, sef cynyddu dwysder a theimlad wrth ei ganu. Na fydded i neb feddwl ein bod yn condemnio yr wyl, ond am ei bod mor llwyddianus, yn ydym yn hyf yn cynyg gwlliantau a chyfnewidiadau o'r fath uchod. Feallai fod [rhywun yn barod i chwerthin a dweyd fod y Catecism yn rhy athrawiaethol i'w gann. Yr ateb a roddwn yw fod yr hymnan mwyaf poblogaidd yn llawn o athrawiaeth yr efengyl. Ac 09 oes gan rywan gynllun gwell i beri i'r plant hoffi y Catecism, bydded iddo ei osod gerbron a'i ddwyn i weithrediad. Ar ol yr wyl rhoddwyd te da i'r corau, ac pid oes angen dweyd fod hwnw yn llwyddiant mawr. Cymerodd Dowlais de y tro hwn yn Rhymni, ac yn Bier yr oedd yn well yn ngolwg y plant na the yn Dowlais.—Ehywun.
TiTIAWFTJIDAN. RHUTHYN-
TiTIAWFTJIDAN. RHUTHYN- Oynhaliwyd gwasanaethau neillduol yn yr eglwys nehod ar y 6ed, 7fed, a'r 8fed o'r mis hwn. Yr offeiriaid oeddynt y Parchn. Edwin Jones, Bangor; Morris Roberta, Brymbo; ac E. T. Davies, Aberdyfi. Cafwyd pregethan grymua a nerthol, ac yr oedd y gwrandawiad yn astud, ac yr ydys yn gobeithio y bydd i'r had da a hauwyd yno ddwyn ffrwythau toreithiog maes o law. Dyma'r unig ffordd i enill serch, a pheri i Eglwyswyr garu a theimlo dyddordeb yn hen Eglwys en tadau, gan wneyd eu goreu i hyrwyddo ex llwyddiant. Carem weled mwy o wresogrwyda, cariad, a gweithgarwch yn Eglwyswyr Dyffryn Clwyd nag y sydd, a charem weled gwasanaethau o'r natur yma. yn cael eu cynal ymhob plwyf, fel ag i ddychrynu y gwrtbddegymwyr, ac i ddangos iddynt fod yr Eglwys yn llawn bywyd, ac y bydd iddi lyncu i fyny ar fyrder y rhai hyny sydd yn euog o rwygo corpL Crist, oblegid un yw'r Eglwys i fod ar y ddaear, ac un hefyd fydd yn y nefoedd. Nid yw fod cymaint o sectau yn bodoli yn y wlad, ddim yn profi en hysgrythyroldeb; yn y gwrthwvneb, dywed yr Apoatol Paul fel hyn yn ei Epistol at y Corinthiaid, heblaw llyfrau eraill yn y Testament Newydd, Ac yr wyf yn atolwg i chwi, frodyr, trwy enw ein Harglwydd Ieau Grist, ddywedyd o bawb o honoch chwi yr un path, ac na byddo ymbleidio yn eich pJith, eithr bod o honoch wedi eich cyfangysylltu yn yr nn meddwl ac yn yr un farn." Fy nymuniad yw clywed fod gwasanaethan cy- hoeddus, cyfarfodydd Yseolion Sal, a gwylan corawl, yn cael eu cynal ar fyrder yn y dyffryn. Y mae yma ddigon o dalentan a gallu, ond y mae eisiea mwy o zell a phenderfyniad nag y sydd yn bresenol. Gobeithio y bydd i offeiriaid y gwahanol bIwyfi ymghynghori â'u gilydd, er mwyn dwyn hyn oddiamgylch yn fnan.
LLANUWCHLLYN.
LLANUWCHLLYN. Cynhaliwyd cyfarfod blynyddol yr Eglwya dyddiau Mawrth a Mercher, y 5ed a'r 6ed cyfisol. Gosper nos Fawrth, a phregeth gan y Parch. W. Williams, perig- lor Dolgellau. Dydd Mercher, am 8 o'r gloch y boreu, Cymun rlendigaid. Am 10.30, Borenol Weddi a phre- geth gan y Parch. W. Williams, Dolgellau, yn abaenol- aeb anocheladwy y Parch. R. Roberta, ficer Llanfach- reth. Am 2.30, Litani, a phregeth gan y Parch. R. Owen, periglor Llanfor. Am 7, Gosper, a phregeth gan y Parch. William Hughes, periglor Llanfechell, Mon. Yr ydoedd y Gosper nos Fercher yn gorawl drwyddi draw. Cynorthwyid cdr Llanuwchllyn gan g6r Dol- gellau. Gorymdeithiodd yr olaf yn en gwenwisgoedd, yn harddwych iawn, o'r ysgoldy i'r eglwys, a safai yr holl gynulleidfa enfawr oedd y tu fewn i'r eglwys ar eu traed yn weddaidd a thra threfnus tra y deuai'r offeir- iaid a'r cor i mewn trwy borth yr eglwys, ac yr oedd yr olygfa yn dra effeithiol. Yr oedd y canu yn gynulleid- faol iawn, ac unai pawb yn dra calonog yn yr emynau gogoneddus, "Braint, braint," Gwaed y groes," "leau, cyfaill pechaduriaid," II Glanyrafon," "Bryn Calfaria," "Roussaen's Dream," &c. Cafwydpregetihau neiilduol dda, canu gwresog, cynulliadau mawrion, ac addoliad gwresog. Dyma un o'r cyfarfodydd goren fu yn Eglwys Llanuwchllyn erioed. Gobeithio y dwg ffrwyth lawer a dymunol..
DEONIAETH WLADOL ARDUDWY.
DEONIAETH WLADOL ARDUDWY. Dydd Iau cyn y diweddaf cynhaliwyd cyfarfod deon- iaethol yn y Rheithordy, Talsarnau. Daeth nifer dda o glerigwjr ynghyd, a buasai rhagor yn bresenol oni bai i amgylchiadau eu lluddias. Y Parch. D. Jones, D. G., oedd yn llenwi y sradair. Dyma grynodeb o weithrediadau y eyf eifod:-I. Darllenodd yr ysgrifen- ydd weithrediadau y cyfarfod diweddaf. 2. Pasiwyd yn unfrydol fod i'r ysgrifenydd brynu Uyfr newydd er mwyn cofnodi gweithrediadau y cyfarfodydd deoniaeth- ol. 3. Darllenwyd yr efengyl am yr ail Sal wedi'r Drindod yn yr iaith wreiddiol. 4. Cyfarfodydd Eglwys- ig undebol. Pasiwyd fod y rhai hyn i gael eu cychwyn y flwyddyn hon yn y ddeoniaeth. Rhanwyd y ddeon- iaeth i dri dosbarth-(a) o Llanelltyd i'r Dyffryn (b) o'r Dyffryn i Llanfrothen; (c) o'r Blaeiaau i Traws- fynydd. 5. Darllenwyd llythyr oddiwrth Mr. Helm. 6. Penodwyd y Parch. John Harries i ddarllen papyr ar Ysgolion Sul" yn y cyfarfod nesaf. 7. Cynhelir y cyfarfod deoniaethol nesaf yn Nhrawsfynydd, Medi 6ed. Cawsom gyfarfod da y tro hwn eto. Ar ddiwedd y cyiarloct talodd pawb o'r presenolion ag oedd heb dalu o'r blaen i'r ysgrifenydd taag at y trenliau ssydd yngiyn a'i Bwydd. Yr ydym yn dra diolchgar i'r Pr-rcti. Mr. a Mrs. Evans am ddarparu mor dda. ar ein cyfer, ac am y croesaw a gawsom yn eu ty.
LLUNDAIN.
LLUNDAIN. YR EGLWYS GYMRAEG.-Wrth ddarllen Y LLAN o wythnos i wythnos y mae yn hyfrydwch mawr genym weled fod yr Eglwys bron ymhob parth o Gymrn yn adfywio, ae yn ymgymeryd o ddifrif â'i gwaith. Wrth deimlo yr hyfrydwch hwn dros lwyddiant yr Eglwys yn yr hen wiad, y mae yn ofidus. genym feddwi fod eiu Heglwys ni yma fel mewn cwsg gauafol, ac, fel y mae gwaethaf y modd, nid oes yr arwyddion lleiaf ei bod ar fin deffro. Nid yahydig sydd wedi ac yn cael ei ddweyd a'i ysgrifenu am dani, ond cysgu a wna yn swn allnuw- ioldeb a ffieidd-dra Llundain, heb Bylweddoli ei chyflwr yn fwy na chysgadur mewn if ar dan. Pa. hyd y bydd hyn, tybed ? Nis gwn i, er yr hoffwn yn fawr wybod. Y mae eisiau ei deffro, ond pwy a ymgymera a'r gwaith ? Byddaf yn meddwl yn ami pe buasai eich gohebydd doniol yr "Hen Domos" yn gadael e: Fwthyn Gwledig am ysbaid o bythefnos er mwyn talu ymweliad a rhai o'r Exhibitions yma, ac ar yr un pryd buddioli ei hun ag ymweliad a'r Eglwys Gym- raeg ar ryw foreu a nos Sul, y gwnaethai bethau o'i chwmpas yn bur anesmwyth. A ddaw ef, tybed? Gobeithio y bydd i'w lygaid craffjs weled hyn.— Excelsior.
LLANGUNLLO, CEREDIGION.
LLANGUNLLO, CEREDIGION. CYNGBAIR Y FRIALLEN. Cynhaliwyd cyfarfod ey- hoeddus mewn cysylltiad a'r symudiad yma yn Yagol- dy y Bwrdd, nos Sadwrn diweddaf, o dan lywyddiaeth Syr M. Lloyd, Bar., Bronwydd. Yr oedd yr ystafell yn llawn. Dechrenwyd trwy i'r cadeirydd hyabyau fod Captain Parry, yr hwn oedd i draddodi darlith ar Geidwadaeth, yn analluog i fed yn bresenol oherwydd afiechyd un o'i deuln, yr hyn a barodd aiomedigaeth cyffredinol. 0 dan yr amgylchiadau trowyd y cyfar- fod yn fath o gyngerdd, a chanwyd canigau, pedwar- awdau, deuawdau, a chanenon yn y ddwy iaith gan y Maesllyn Mills Choir, yn cael en cynorthwyo gan deulu Mount Gernos. Cyfeiliwyd gan y Misses Tyler ar y berdoneg. Cydrhwng y darnan cerddorol cafwyd anerchiadau byrion a phwrpasol er eglnro dibenion y cyngrair gan y cadeirydd, Rheithor y plwyf, ac hefyd gan y Parch. — Jones, curad Llandyssul, a Lady Lloyd, Bronwydd, yr hon foneddiges hawddgar aydd ben-awyddog y symudiad yn rhan isaf air Aberteifi. Felly trodd y cyfarfod ag yr ofnid a fyddai yu ddiflas oherwydd absenoldeb y prif ddyn—Captain Parry—yn gyfarfod llwyddianus a dyddorol iawn. Wedi rhoddi diolch i Syr M. Lloyd am lywyddu, a cheers brwdfryd- ig i Lady Lloyd a Mrs. Tyler, terfynwyd drwy ganu yr Anthem Genedlaethol. Bwriedir cael cyfarfod eto yn fnan, pryd y bydd Captain Parry ac eraill yn bresenol i siarad yn mhlaid y cyngrair.
YSTRADGYNLAIS.I
YSTRADGYNLAIS. EGLWYS CALLWBN.—Dydd Sadwrn, y 9fed cyfisol, rhoddwyd te parti i plant yr Ysgol Sul. Ar ol y wledd dosbarthodd Mr. Morgans, Nantrwydd, lyfrau gwerth- fawr i'r rhai oedd wedi mynychn yr ysgol oreu. Caf- wyd anerchiad byr at yr Ysgol Sul gan y Parch. A. Edwards, ficer y lie. Cymerodd v rhai canlvnol ran ynddo:—Mrs. Walking, Derry; Mrs. Morgans, Nant- rwydd; Mrs. Lewis, Shoulder Farm; Madam Proffit, Llundain; Miss Parry, Craig-y-Nos Castle; Miss Wat- kins, Derry; Miss Griffiths, Nantygwared Miss Mor- fans, Heffes Farm; Miss S. Lewis, Caliwen Vicarage lisa M. Lewis, Pencae; Mri. D. Powell (warden y plwyf); Lewis Lewis, Shoulder Farm; T. Watkins, Derry; Willie Watkins, eto; &c. Hefyd anerchwvd y-r ysgol gan Mr. Watkins, Derry (warden yr Eglwys). 1 Da iawn genym fod Mr. Morgan Morgan a Mr. Lewis Lewis yn gweithio mor, rhagorol o blaid yr Ysgol Sul I a'r canu, a gobeithiwn weled boneddigesau a boneddig- ion eraill yn cydweithio a hwy er daioni yn ein cym- ydogaeth.-Beta.
LLANFABON.
LLANFABON. Dydd Iau, y 6ed cyfisol, cynhaliwyd gwasanaeth yn Ysgoldy Genedlaethol y Nelson, ar achlysur o osod i lawr gareg sylfaen yr Eglwys newydd ag sydd yn awr yn cael ei hadeiladu yn y lie uchod, pa un a adnabyddir wrth yr enw St. Geoige." Llatarganwyd y Litani gan y Parch. R. J. Leigh, curad Blaenafon, mab ein narchus reithor. Yr oedd yn bresenol ar yr achlysur y clerigwyr canlynol:-Parchn. Daniel Leigh, rheithor, J. Morgan Evans, curad, a William J ones, curad, Llan. fabon; H. Thomas, ficer Ystrad Mynach; D. Jesse Evans, curad, a W. Lloyd, curad, Gelligaer; H. J. Williams, ficer, a S. Rowlands, curad, Pontypridd; Daniel Lewis, rheithor, a R. David, curad, Herthyr; W. Williams, curad, Aberdar; W. R. Compton Davies, curad, Penrhiwceibr; L. Usk Jones, rheithor, Llan- dough a Dr. Walters, Llansamlet. Ar ol y gwasan- aeth gorymdeitniwyd at yr aaenaa newyaa yn y arein ganlynol:—y cor, yr offeiriaid, a'r rhanarall o'r gynull- eidfa. Canodd y cor, o dan lywyddiaeth Mr. Jenkins, yr ysgolfeistr, yr emyn Onward, Christian Soldiers," yn ganmoladwy iawn. Hefyd chwareuodd Miss Thomas yn ardderchog ar yr harmonium, ac y mae hi wedi bod yn ffyddlawn lawn gyda'r canu yn y lie uchod. Darllenwyd y gwasanaeth oddiallan gan reithor y lie, ac yna trosglwyddodd drywel arian i Mrs. Thomas, Abernant, yr hon a aeth drwy y seremoni arferol mewn cysylltiad a gosod careg sylfaen. Traddodwyd anerch- iadau pwrpasol gan y Parch. Daniel Lewis, rheithor Merthyr, a'r Parch. Dr. Walters. Byddai yn dda genyf pe ba'i gofod yn caniatau i olrhain anerchiad Dr. Walters o'i dechreu i'w diwedd, oblegid ystyriaf hi yn un wir deilwng o ystyriaeth fanwl pob Eglwyswr, ac Ymneillduwr o ran hyny, oa bydd yn dewis ffurfio ei farn oddiwrth ffeithiau anwadadwy yn hytrach nag oddiwrth wrachiaidd chwedlau. Cyflwynwyd y tir tuag at adeiladu'r Eglwys newydd ynrhad gan Mrs. Mackin- tosh a Mrs. Wingfield. Hefyd, gosodwyd y rhoddion canmoladwy canlynol ar y gareg:—Mr. a Mrs. Thomas, Abernant, 950, Mr. a Mrs. Thomas, Brynllefrith, X50, ynghyd a symiau llai gan eraill. Wrth derfynn, dy- wedaf, er holl ruthriadau'r gelyn, yn ngeiriau agoiiadol y Magna Charta, Boed i'r Eglwys Frytanaidd fwynhau ei rbyddid."
CWMAFON.
CWMAFON. MABWOLAETH A CHLADDEDIGAETH MR. WILLIAM GRIFFITHS, PELLY STREET.—Ar y 5ed o'r mis hwn bu farw y brawd hoff ap anwyl Mr. William Griffiths, yn 23 mlwydd oed, ar ol byr gystudd. Colled fawr i Cwm- afon oedd colli ein diweddar frawd, gan ei fod bob amser yn cymeryd rhan flaenllaw mewn pob achos da perth ynol i'r Eglwys, ac yn enwedig gyda'r cann. Yr oedd ei dduwioldeb yn eglur i bawb, a theimlir colled fawr ar ei ol yn y plwyf a'r ardal yn gyffredinol. Yn ei gystudd yr oedd yn berffaith ioddion i ewyllys ei Dad nefol, a dioddefodd y cwbl yn dawel a dirwgnach. Cafodd ei godi i fyny gan rieni hynod o grefyddol, yr hyn fu yn fantais fawr iddo fel Cristion. Erfyniodd ar ei deulu i beidio wylo ar ei ol, gan ei fod yn myned at yr lesu, lie y byddai yn disgwyl am danynt i'w derbyn. Yr oedd yr ymadawedig yn aelod yn yr Eglwys Seisnig, yr Holl Saint, ac yn arolygwr yn Ysgol Tymlen. D'ydd Gwener canlynol ymgasglodd tyrfa liosog i dalu y gymwynas olaf iddo, pryd y darllenwyd lie y gweddiwyd yn y ty gan ein ficer parohns. Cyn codi y coryh canwyd yr emyn, How sweet the hour of closing day." Yna YIDffnrfiwydyn orymdaith fawr, Ysgolion Sul yr gl" yn blasnori, yn caeleu dilyn gtu go- yr HoU Saint, o dan arweiniad Mr. Harris, yr arweinydd. Wedi cyraedd mynwent Llanfihangel-ar-Afan, cyfar- fyddwyd yr orymdaith gany Parchn. J. Griffiths, Uwm- afon, a H. Morris, Aberafon. Tra yr oedd y corph yn dyfod i'r Eglwye chwareuwyd Voluntary ar yr organ gan Miss Rees. Darllenwyd y gwasanaeth yn yr eglwys gan y Parch. H. Morris, Aberafon. Yna can- wyd "Days and moments quickly flying." Tra yr oedd y corph yn dyfod alian o'r eglwys, chwareuwyd y Dead March" in Saul. Gweinyddwyd ar lan y bedd gany Parch. J. Griffiths, Cwmafoa. Yna rhodd- wyd gweddillion ein hanwyl frawd yn yr oerllyd fedd, mewn gwir ddiogel obaith o'r adgylodiad tragwyddol. Cyn ymwahanu canwyd .1 Bydd myrdd o ryfeddodou yn ogoneddus iawn. Gadawodd y trancedig dad a mam tyner iawn, pedwar brawd, a llawer iawn o berthynas- au i alaru ar ei ol. Bydded iddynt, felllawer eraill yn yr un amgylchiad, edrych i fyny at Ddnw am gymorth yn y tywydd blin.—J.A.D.
BRYNAMAN.
BRYNAMAN. Yr wythnos hon y mae y gorchwyl prnddaidd genym o gofnodi hanes marwolaeth a chladdedigaeth Mrs. E. Jones, anwyl briod Mr. D. Jones, Cwmgarw Road. Yr oedd yr ymadawedig yn wraig hynaws, yn fam dyner, yn gymydoges garedig, ac yn ddynes dduwiol. Yn ei dydd gwelodd lawer o ofidiau-gorfod drachtio dyfroedd Mara yn ami iawD, ond eto yr oedd yn liyderas yn ym- ddiried yn yr Arglwydd. Daeth at greiydd yn ieuanc iawn, pan yn 14 mlwydd oed, a pharhaodd yn ffyddlon hyd angau. Yr oedd yn aelod ffyddlawn yn Eglwys St. Catherine, y lie uchod, ac hyd oddeutu tri miB yn ol bu yn bur dda o ran iechyd. Ond dechreuodd y ty o glai ddadteilio, ar ddelw brydferth ddechreu gwywo, pryd y daeth angau creulon ymlaen, gan ymosod arjy ty o glai o saerniaeth nef. Dydd Llun, 4ydd cyfisol, ehedodd ei hysbryd at yr Hwn a'i rhoes, pan yn 70 mlwydd oed. Dydd Iau canlynol cludwyd yr hyn oedd farwol o honi i dy ei hir gartref i fynwent Capel Barau, lie yr hana gyda'i thadau hyd udgorn floedd yr archangel. Gwas- anaethwyd yn y ty gan y Parch. David Griffiths, offeir- iad Cwmaman, pryd y darllenodd Psalm ciii. ar ddy- muniad yr ymadawedig. Pregethwyd yn y capel gan y Parch. W. D. Thomas (A.), Brynaman. Gadawodd briod ac wyth o blant i alaru ar ei hoi. Heddwchi'w llwch hyd foren mawr y codi. Nos Sadwrn diweddaf cynhaliwyd cyngerdd mawr- eddog yn y lie uchod. Cadeiriwyd gan y Parch. W. D. Thomas; arweinydd, Watcyn Wyn. Chwareuwyd y berdoneg gan Mr. Luther Owen, Llanelli; a chvmer- wyd rhan gan y rhai canlynol:—Misa Lucy Clarke, Caerdydd Miss C. James, Mr. Evan (Alawydd Aman), Mr. H. Jones, a J. R. Jones. Brvnaman. vns-hvd &'r Brynaman String Quartette, a'r Brynaman Glee Society. Cafwyd cynulliad da.-Gohebydd.
TREFORRIS.
TREFORRIS. YR EGLWYS NEWYDD FWRIADEDIG.-Da. genym gael ar ddeall fod symudiad ar droed i adeilada eglwys newydd yn y lie poblog hwn. Medda Trefoiris ar bobl- ogaeth o droa 12,000, ac os cymerir i mewn Piaemarl, yr hwn sydd yn ffinio kg ef ac yn yr un plwyf, boblog- aeth o dros 18,000. I gyfarfod a'r boblogaeth anferth hon ni fedda yr Eglwys ond un adeilad i addoli ynddo, sef Eglwys St. loan, Treforris, yr hon ni chynwysa ond oddeutu 400. Oddeuta blwyddyn a haner yn ol gwa- hoddwyd y Parch. D. Watcyn Morgan, B.A., Aber- honddu, gan Eagob Tyddewi a phwyllgor dylanwadol o'r lie hwn, i ddyfod yma i adgyweirio y muriau syrth- iedig, ac i estyn cortynau yr Eglwys. 'Nid heb lawer o anhawsder y derbyniodd y gwr parchedig y gwahoddiad, ao yr ymgymerodd a. gwaith [mor ddyrus ac anhawdd. Y mae plans yr eglwya newydd yn barod, a thros £1,500 wedi eu haddaw tuag ati a buasai yr eglwya wedi ei hadeiladu yn barod onibae i anhawsder an- niBgwyliadwy gyfodi mewn cysylltiad â'r darn tir y bwriedir ei hadeiladu arno. Am flwyddyn gyfan yr pdys wedi bod yn ymobebu a'r Charity a'r Ecclesiastical Commissioners yn ei gylch, a choleddir gobaith cryf yn awr y sicrheir y darn tir at wasanaeth yr Eglwys ymhen ychydig fisoedd. CoNFFiRMAsiwN.-J^ynhaliodd Esgob Ty Ddewi Gon- ffirmasiwn arbenig yr eglwys^hon ychydig amser yn ol, pryd y cyflwynwyctaddeutu 80 o ymgeiswyr o Dre- forris yn unig. Golygfa, nad/ anghofir yn fuan yE Nhreforris ydoedd hon. ^Dyma y waith gyntaf i'r rhan fwyaf o'r trigolion weled e^otTbyw, a syniadau cyfeil- iornus iawn a feddent am fem/'dd esgob. Ba ymweliad ei arglwyddiaeth a'r lie yn aAriad llygaid i laweroedd- Datganodd yr Esgob ei syndo^i foddlonrwydd wrth weled cynifer wedi eu parpxoi ritewn amser mor fyr- Cafodd yr oil o'r ymgeiswyr eu hytfforddi yn athraW- iaetban yr Eglwya yn dd fal ae, yn yddlawn am dros dri mis o amser, ac y m^ent oil erbyriL hyn yn gymun" wyr cyson a zelog. X GWASANAETHAU CHWARTEROL,—Cynhaliwyd y cyntaf o'r gwasanaethau chwarterol ar y 3ydd cyfisol, pryd y pregethodd y Parchn. Lewis Jones, Cadoxton, a V- Bankes Williams, Abertawe. Gweinyddwyd y CymnB Bendigaid am 8 yn y boren; boreuol weddi am 11 ? Litani am 3; a'r brydnawnol weddi yn Gymraeg am 6. Canodd y cor Seisnig o dan arweiniad Mr. Y. James y Gloria," o Mozart's 12th Mass, mewn dull meistrolgar iawn. Chwareuwyd yr harmonium y a'r prydnawn gan Misa Naysmith. Yn yr hwyr canodd y cor Cymreig yn hynod rymua ac effeithiol, "Cenwch gan o fawl," o waith Dr. Rogers. Arweiniodd Mt; William Edwards mewn modd deheuig, a dangosodd el fod yn un o wroniaid y gan. Chwareuwyd yr harmonium gan Mr. Tom P. Rees. Y mae y ddau gor yn haeddfl clod uchel am wnenthur y gwasanaethau o Sul i sal mor atdyniadol; y rhai sydd yn llawn corawl bob am- ser. Casglwyd dies je21 tuag at yr eglwya newydd ytJ- ystod y dydd. Y WASG EGLWYSIG.-Y mae yr Haul, y Cy faill Eft lwysig, a'r National Church yn meddu cylchrediad hel' aeth ymhlith Eglwyswyr y lie, a da genym gael ai ddeall fod y Parch. D. Watcyn Morgan eisioes wedi apwyntio person egniol i ddoBbarthu'r LLAN, yr hwc sydd yn brysur wrth y gwaith o gasglu enwau derbyO" wyr. Wrth hyn, chwi welwch, Mr. Gol., nad yw eicb apgl o bryd i bryd at y gwahanol blwyfi yn ofer.
LLANDEGAI.
LLANDEGAI. YR YMWELIAD A PHENMON. Y mae'r gymdeithaiY Geidwadol wedi dyfod i'r penderfyniad o dalu ymWf'* iad a Phenmon prydnawn Sadwrn (yfory), pryd y diS' gwylir i bob aelod a phawb a fwriadant ymuno wrth y Grand Lodge yn brydlon erbyn nn o'r gloch at mwyn ffurfio gorymdaith. Blaenorir gan y Penrhyl1 Royal Band. Disgwylir i bawb wisgo y lliwiau priodow sef glas, gv^yn, a choch, neu l&s yn unig. pe byddai1 ychwaneg o gymdeithasau Ceidwadol ddilyn yr flIj cwra, credaf y gwnelai lea nid yn unig mewn dwyn rfc** o'r newydd i mewn, ond y creai fwy o ddyddordeb yn ? cyfryw tuag at lwyddiant yr achos.-Gohebydd.
LLANDAF.
LLANDAF. Dydd Sul, y lOfed cyfisol, urddwyd y boneddig^ canlynol yn Eglwys Gadeiriol Llandaf. ean Arelwy"" Esgob yr Esgobaeth -.—Diaconiaid Reuben EvaO8' CoJeg Duwinyddol Llundain; C. H. A. Green, L Coleg Keble, Rhydychain; D. H. Griffiths, B.A., CoJ0f Oorpas ChriBti, Caergrawnt; C. Harington, B A., 0°'^ Bel wyn, Oaergrawnt; L. B. Lasetter, B.A., Colci? date a, Khydycham Q. U. Lewis, oQw I Birmingham; G. W. Palmer, B.A., CoW Rhydychain. Drwy lythyraa gollyngol oddi< Tr&ls¥ £ di ^pdewi.-H. Lloyd, Coleg St. J. Griffith Mathias, B.A., Coleg Dewi Sant, Llanb#' Darllenwyd yr Efengyl gan Mr. C. H, A. Gre^. Trwyddedwyd y boneddigion canlynol i yn olynol i'r gwasanaeth Y Parchn.'R. Evans iAb gafeni, Mynwy; C. H. A. Green i St. loan, D. H. Griffiths i Glyn Ebwy, Mynwy ■ C. Haringt0^. Ferthyr Tydfil; L. B. Lassettar i St. German's, R Caerdydd; G. G. Lewis i Gwmyoy a Llanthow' Mynwy; G. W. Palmer i Trefynwy. Pregethwyd yr achlysur gan y Parch. J. J. Lias, Caergrawnt.
URDDIADAU YN ESGOBAETH LLANELWY.…
URDDIADAU YN ESGOBAETH LLANELWY. d Urddwyd y boneddigion canlynol gan ArgW^ Esgob Llanelwy yn ei Eglwys Gadeiriol ddydd tfa1 y diweddaf:—Diaconiaid: Joseph Davies, B A.,$ Dewi Sant, Llanbedr, i guradiaeth Treffynnon; Jones, B.A., Coleg Dewi Sant, Llanbedr, i guradiae. Llanfaircaereinion; Robert Llewelyn Parry, Coleg Dewi Sant, Llanbedr, i guradiaeth Liana'1111' Richard Spurrell, B.A., Coleg Corpus Christi, 0%* grawnt, i guradiaeth Gwiecsam. Ojfeiriad: He?Z Jones, B.A. Darllenwyd yr efengyl gan Mr. J. a phregethwyd gan y Parch. H. E. Ryle.
MARWOLAETH YR ARCHDDIACON…
MARWOLAETH YR ARCHDDIACON HANNAH. Drwy farwolaeth yr offeiriad enwog uchod y maSif Eglwys wedi colli un o'i dynion dysgedicaf a duwiol. Bu farw yr Archddiacon yn Brighton Wener wythnos i'r diweddaf. Llaiuriodd am yn ugain mlynedd yn y dref y ba farw ynddi, ae Y ffrwyth el oes yn sicr o barhau am amser maith. mae yrfa golegawl a chyhoe/ wedi bod yn llwyddianua iawn ymhob vstvr hed^ i'w lwch. J J
RHODD 0. £ 10,000 AT ADGYWErRI0…
RHODD 0. £ 10,000 AT ADGYWErRI0 EGLWYS. Hysbysir fod Mr. G. Woodcock wedi rhoddi f ardderchog o tlO,000 tuag at adgyweirio gl 11 Mihangel, Coventry. Y mae Mr. Woodcock yn by^L y dref, ac yn adnabyddua fel Eglwyswr « zelog. Yn ychwanegol at y rhodd uchod y pwyllgor wedi derbyn tanysgrifiadau sydd yn cyr»| {t £ 34,000. Aiff y gwaith o ail-adeiladu ymlaen ar
Y DIWEDDAR BARCHT W. S. WILLIXG",…
Y DIWEDDAR BARCHT W. S. WILLIXG", TRAWSFYNYDD. Y mae ffenestr liwiedig brydferth wedi ei goj^MI Eglwys TrawBfynydd mewn coffadwriaeth i'r op'4 0>( ymadawedig uchod. Cynwys y ffenestr ddarJ?1* j Arglwydd^ Iesu Grist yn gorcbymyn i St. -F borthi ei wyn." Cynllunwyr ac adeilapwyr Y "eP ydynt y Mri. Warrington and Co.
FICER NEWYDD LLANGOED,
FICER NEWYDD LLANGOED, Deallwn fod y noddwr, Mr. W. H. Hnghe^, cjj, Llangoed, wedi cynyg yr eglwya-fudd uchod i'r -V of Elijah Owen, M.A., curad Llanfaes.cnm-pentr;! ei'de"- Beaumaris, a bod y boneddwr parchedig wedi e.^< byn. Addysgwyd Mr. Owen yn NghoJeg 7 PS^&ot Dublin, ao urddwyd ef yn offeiriad gan Esgob J* yn jr flwyddyn 1876. Y mae apwyntiad wedi rhoddi boddlonrwydd cyffredinol. Yr wythnoa ddiweddaf urddwyd y rhai canlynfLnyf Esgob Llandaf:—Y Parchn. Morgan Evans on 1^f0jJ»rlJ Mawr; David G-ower i Bontnewydd; S' Aneti^ RobertB i St. Ffagan, Aberdar; a Togid A Williams i Beaufort.