Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

11 erthygl ar y dudalen hon

Y SALMAU YN Y BEIBL A'R LLYFR…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y SALMAU YN Y BEIBL A'R LLYFR GVVEDDI, At Olygydd "Y Llan a'r Dywysogaeth Syr,—Allwedd y dyryswch y mae Gronwn ynddo sydd i'w ohael yn y ffaith ganlynol:—Pan ail-gyfieitkiwyd y Beibl Saesneg yn 1611 gadawyd y Salmau yn y Llyfr Gweddi fel yr oeddynt yn yr hen gyfieithiad, am eu bod eisioes ar dafodau y corau ac yn fwy llithrig i'w canu. Tyndale, Coverdale, Rogers, a Cranmer oeddynt yn atebol am y cyf- ieithiad hwn, ac y mae yn ymdebygoli i'r Septuagint a'r Vulgate yn hytrach nag i'r Hebraeg. Ni chafodd y Beibl hwn ei droi i'r Gymraeg, ond cafwyd ei well ddeng waith drosodd yn y flwyddyn 1588 trwy lafur yr Esgob Morgan. Diwygiwyd hwn drachefn gan yr Esgob Parry yn 1621. 0 hwn y cymerwyd y Psalter i'r Llyfr Gweddi Gymraeg, ond er ei fod yn gywirach, nid ydyw mor esmwyth a llithrig i dafod cerdd a'r hen gyfieithiad Saesneg. Gormod o waith fyddai dwyn yr holl Psalter i gyd- gordiad a'r Saesneg, ac fally ni wnaed hyny ond yn y Canticles yn unig.-Yr eiddoch, &c., J.H.

"GWARFFRWD" A CHYLCHREDIAD…

[No title]

-¡LLITH UW'iHYN GWLEDIG.

HYDDID Y WASG YN GERMANI.

LLIFOGYDD AllSWYDUS YN :JAMAICA.

DIWEDDAR YMERAWDWR GERMANI.

[No title]

AT Y BEIRDD. f

AFON CEIDRYCH/

|DYFFRYN TEIFI.