Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
17 erthygl ar y dudalen hon
Y SENEDD.
Y SENEDD. Mesur Dwfr Birmingham fu un o'r prif faterion gerbron y Senedd yr wythnos hon. Amcan y mesur ydyw cael dwfr o Gwm Elan, Maesyfed, at wasanaeth Birmingham a'r trefi cylchynol. Bwriedir gwneud llyn mawr tebyg i lyn Llanwddyn yn nghym- ydogaeth Nantgwyllt. Ail-ddarllenwyd y mesur nos Fawrth diweddaf drwy fwyaf- rif 0244 yn erbyn 102. Gwrthwynebwyd yr ail-ddarlleniad gan yr aelodau Cymreig a chan aeledau Llundain, y cyntaf ar ran pobl trefi Cymru, a'r olaf am y dylai pobl Llun- dain, meddent hwy, gael dwfr o Gymru yn gyntaf. Prydnawn dydd Mercher bu dadl frwd yn Nhy y Cyffredin ar Fesur Mr Bryn Roberts tuag at sicrhau y tiroedd ar ba rai yr adeiledir addoldai yn rhydd- ddaliadol i'r enwadau y perthynant. Gwnaeth Mr S. T. Evans araeth ragorol o'i blaid, a darllenwyd ef yr ail waith drwy fwyafrif o 238 yn erbyn 119, yn nghanol banllefau cymeradwyol ei bleidwyr.
.■ NEWYDDION MARCHNADOL
NEWYDDION MARCHNADOL YD.—Dim cyfnewidiad yn y farchnad. YMENYN.-Cododd ychydig yr wythnos hon. Pris heddyw (dydd Iau) yn marchnad Cork, yn ol telegram a dderbyniasom yw, Seconds 121, Thirds 95, Fourths 88. CIG.-I)im cyfnewidiad.
Central News Telegrams,
Central News Telegrams, DYDD IAU, MAWRTH 10fed Cymerodd Etholiad Seneddol le yn Belfast ddoe i ddewis aelod yn lie Mr. De Cobain. Yr oedd dau Geidwadwr ar y maes yn ym- fireisio Mr Wolff 4,748 Syr William Charley 2,607 Mwyafrif i Mr. Wolff 2,141 Pleidleisiodd yr Ymreolwyr dros Syr William Charley. Mae yn bwrw eira yn drwm agos dros yr holl wlad.—Yn nghyfarfod olaf yr Associate Chamber of Commerce heddyw, pasiwyd i ofyn i'r Llywodraeth i fyrhau yr amser dros ba un yr ymestyn etholiadau. Penderfyn- iad arall a amddiffyna y cynllun i ddilyn gyda'r un Mesurau o Senedd-dymor i Sen- edd-dymor, yn yr un Senedd.—Llosgwyd dau blentyn bychan, yr hynaf o ba rai oedd dair bhvydd oed, i farwolaeth, yn Pimlico heddyw. Yr oedd eu mam wedi myned i'r farchnad.
♦— NEWYDDION CYFFREDINOL
♦— NEWYDDION CYFFREDINOL Ddoe (dydd Mercher), dygwyd Mrs Osborne o flaen y llys yn Old Bailey, ar y cyhuddiad o dyngu anudon a lladrata mewn cysylltiad ag achos mawr y Perl. Cyfaddef- odd ei heuogrwydd, a dedfrydwyd hi i 9 mis o garchar gyda Ilafur. caled. Cyfranodd Mr James Jones, cyn-faer Abertawe, a brodor o gymydogaeth Aber- ystwyth, y swm o £ 25 at Ysbytty (Infirmary) Aberystwyth y dydd o'r blaen- Dywedir fod Prof. Lloyd, M.A., o Goleg y Brifysgol, Aberystwyth, wedi cael cynyg ar y swydd o Ysgrifenydd i Goleg y Brifysgol, Bangor.
Family Notices
MARWOLAETHAU DAVIES.—Chwef 22ain, MaryHetty, merch Cadben Davies, Queen's Hotel, Ceinewydd, yn 26ain mlwydd oed. Davies.—Chwef 28ain, yn ddisymwth, Jenkin Davies, morwr, Francis Street, Ceinewydd yn 78 mlwydd oed. Davies.—Mawrth 3ydd, Cadben David Davies Wal- ter Street, Ceinewydd, yn 59 mlwydd oed Jones.—Mawrth 6ed, Mr Roderick Jones, Pont- rhydfendigraid, yn 85 mlwydd oed. Perrot.—Mawrth 9fed, Mary, priod hoff Mr Joseph Denston Perrott, National Provincial Bank, Aberystwyth. Thomas-Chwef 26ain, Mrs Mary Thomas, Drem- ddufawr, Silian, yn 86 mlwydd oed. Jones.—Mawrth 8, Alexander Answald. plentyn Mr D Jones, diweddar manciple Coleg Dewi Sarit, 18 Station Terrace Llanbedr yn 4 blwcdd oed.
. NEWYDDION LLEOL
NEWYDDION LLEOL --+0.- ABERPORTH NEWYDD PRUDD O'R MOR.- Yr wythnos hon daeth y newydd i'n pentref fod Mr William Thomas, mab y Cadben Owen Thomas, diweddar o'r I I Brothers," wedi marw. Yr oedd ar fwrdd y Bala," s.s., o Caerdydd, a bu farw o'r bronchitis ar y fordaith adref o New York. Claddwyd ef yn y mor. TAN.—Prydnawn dydd Iau, torodd tan allan yn ngweithdy Mr Samuel Jones, crydd, Lletty. Sylwodd cymydog wrth basio ar y to gwellt yn fflamio, a rhedodd yn y man i roddi rhybudd. Yr oedd y perchenog oddicartrcf, ond llwyddodd y plant ac amryw o'r cymydogion i arbed ychydig o'r stoc, ond ilosgodd y rhan fwyaf o'r cwbl. Gyda chryn anhawsder y llwyddwyd i ddiffodd y tan cyn iddo gyrhaedd y ty annedd. Tybir mai yr achos oedd i rai o'r gwreichion o'r tan coed yn y gweithdy gael gafael yn y to gwellt.
GLAN AERON
GLAN AERON i, Clywais fod Methodisiiaid Bwlchyllan yn chwyrnu yn enbyd am fod cyuiaint o fradychwyr yn eu plith ddydd yr etholiad diweddaf. Fealiai mai y bradychwyr sydd yn clivvyrnu fvvyaf. Clywais fod Mr. D. Jones, Frongoch, yn colli dagrau pan glywodd mai y Tori oedd wedi cario, ac nad oedd Emlyn lawer gwell, ond nad oedd Aeronian yn gofidio rhyw lawcr. Clywas fod trethdalwyr Nantcwnlle yn bwriadu newid eu gwarcheidwaid eleni, yn enwedig Aeron- ian. Y bai roddir yn ei erbyn yw, na wnaeth fawr, os dim, ymdrech i, ddal ysgyfarnogod cloffion Tregaron. Clywais mai ar Emlyn y mae y bai fod Rhydd- frydwyr Nantcwnlle a Llanbadarn-Trefeglwys wedi colli yn y brwydrau diweddaf. Beirniadodd ormod ar areithiau Howells a Lewis. Dyna'r bradychwyr eto! Clywais mai cawl dwr i ginio, a deg-ar-hug- ain i'w wrando, gafodd y Parch. E. Evans, o'r Pennant, yn Bethania y Sabboth diweddaf. Pa- ham, wys ?
PENUWCH
PENUWCH Dydd Gwener, y 4ydd o'r mis hwn, cynhaliodd ysgol Sabbothol y lie hwn ei gwyl flynyddol. Yn y prydnawn cyfranogodd holl ddeiliaid yr ysgol o de a bara brith rhagorol oedd wedi ei ddarpar ar eu cyfer gan rai o foneddigesau caredig yr ardal. Yn yr hwyr cynhaliwyd cyfarfod adeiladol iawn. Math o gyfarfod cystadleuol crefyddol ydoedd. Yr oedd yr oil o'r testynau yn dal perthynas a maes Ilaf ur yr ysgolioii. Beirniadwyd yr ymgeis- wyr gan y Parchn. J. Owen, Blaenpeimal, a D. Jones, Berth. Aethant ill dau drwy eu gwaith yn foddhaol. Arweiniwyd y cyfarfod yn ddeheuig, fel arfer, gan Mr. J. Emlyn Jones, a chadeiriwyd gan y boneddwr doniol D. Davies, Ysw., o Lan- feiliog. Prof odd y cyfarfod fod addysg Feiblaidd dda yn cael'ei chyfranu i ieuengctyd yr ardal hon, a bod llawer iawn o ddeiliaid yr ysgol yn llafurio o ddifrif ar gyfer yr arholiadau dyfodol. Llwydd- iant iddynt. Yr oedd rhywrai o bob ty yn yr ardal yn bresen- ol, ond un. A synir yn fawr nad oedd neb o'r teulu hwnw yn barod i roddi dwy geiniog am gael myned i fewn. Barna rhai* eu bod yn cynilo eu ceiniogau er mwyn bod yn alluog i ranu gwlaneni y gauaf nesaf.
GOGINAN
GOGINAN EISTEDDFOD.—Cynhaliwyd eisteddfod lwydd- ianus yn y lie uchod prydnawn dydd Gwener, y 4ydd cyfisol, yn Ysgoldy y Bwrdd, dan arweiniad y Parch J. H. Price (B), pryd y gwobrwywyd y personau canlynol :-Yn gyntaf cafwyd anerchiad gan yr arweinydd can gan Mr J. Brenig Jones, Hen brocer bach gloew fy Nain adroddiad, Y fenyw fach a'r Beibl mawr goreu-Margaret James, Penrhyncoch unawd i blant, Llwyn Onn "-goreu, A. M. Williams, Ty'nllidiart beirniadaeth ar y Ffon Gollen—goreu, John Morgan, Cwerfyn unawd ar y Concertina— goreu, W. H. Davies, Goginan; beirniadaeth ar yr englyn goreu i'r Alabama," sef y cerbyd sydd yn rhedeg rhwng Goginan ac Aberystwyth-goreu, W. Evans, Cwmsymlog araeth ddifyfyr, testyn, Yr hen lane"—goreu, J. James, Llwyn unawd, "Breuddwyd y morwr bach "-goreu, W. H. Davies, Goginan adroddiad, Boxer, y ceffyl blaen "-goreu, D. Davies, Cwmsymlog pedwar- awd, Y plentyn hardd "-oroi-eu. W. H. Davies, Goginan, a'i barti; am y chwe' penill i Ddyffryn Melindwr "—goreu, D. Morgan, Cwmsymlog can gan Mr Brenig Jones am y llythyr caru—goreu, J. Davies, Cwmsymlog araeth, 8 munyd i'w thraddodi, ar Frawdgarweh goreu, J. Edwards, Bronllangwrda am y Glustog-goreu, Mrs R. Rowlands, Goginan; unawd i ferched, "Deio bach"—goreu, Eos Melindwr, Penllwyn, ond rhoddodd y beirniaid ail wobr i Miss M. E. Roderick, Goginan, am ei bod mor ieuanc ac yn canu mor rhagorol am y Mat Lamp—goreu, Lizzie Thomas, Goginan deuawd, Gwys i'r ga^c-I "-goi-eu, W. H. Davies a J. S. Nicholls, Goginan; am y Llwy Ymenyn—goreu, D. Morgan, Goginan dadl difyfr, "Paun gwell codi yn foreu neu ddal yn hwyr "—goreu, J. Davies a J. Thomas, Cwmsymlog; "Gosteg For," i gor o blant—goreu, Cor Goginan; beirniadaeth ar ysgrifenu y Salm gyntaf—goreu, T. James, Llwyn; wythawd, "Storm the fort of sin"— Parti Goginan a Penrhyncoch yn gydradd am y par hosanau rib—goreu, M. A Jones, Dollwen am y traethawd, "Hanes y Samariaid goren H. Edwards, Penllwyn, a Daniel, Salem yn gydradd i'r cor heb fod dan 30 o rif a gano yn oreu Dyddiau dyn sydd fel glaswelltyn." gwobr 13 a chadair i'r arweinydd daeth tri o gxyui i gystadlu, a rhanwyd y wobr rhwng Cor o V ystwyth a Chor o Gwmsymlog. Cafwyd cyfarfod adeiladol a difyrus iawn yn nghyda threfn dda ac ystyried fod yr adeilad yn orlawn o bobl, ac yr ydym yn deall fod yr eisteddfod wedi troi allan yn llwyddiant yn mhob ystyr. Y beirniaid oeddynt Cerddoriaeth, Mr E. Jones, Llangeitho bardd- oniaeth, Mr Caronian Evans, Tregaron traeth- odau, areithiau, a'r adroddiadau, y Parch J. P. Evans, Llanfihangel-y-Creuddyn; y cclfyddyd- waith, Mrs Lewis, Goginan, a Mr H. W. Morgan, Bronllangwrda, Capel Bangor.
LLANON
LLANON ETHOLIAD Y CYNGHOR SIPOL.-Dydd Iau di- weddaf oedd ddiwrnod pwysig iawn yma, fel ag yr oedd mewn llawer Llan arall yn y Sir, ar gyfrif yr etholiad oedd yn cymeryd lie yma. Yr oedd y ddau ymgeisydd yn Eglwyswyr, yn aelodau o'r Eglwys, end fod Mr Daniel Jones yn Eglwyswr mewn enw-hyny yw, yn aelod o honi ac ar yr un pryd, medd ef, yn ceisio ei chael i lawr-yn byw mewn ty ac ar yr un pryd yn ceisio turio dan ei sail i'w gael i lawr am ei ben. Mae Mr Hughes, ar y daw arall, yn aelod o'r Eglwys, ac yn unol a'i broffes yn amddiffynwr o honi. Bu yn ym- drech galed iawn. Yr oedd Mr Jones wedi bod wrthi yn gweithio er ys amser maith ar gyfer yr ad g- hon. Yr oedd wedi ymgydnabyddu a'r etholwyr er yr etholiad dair blynedd yn ol, ac yr oedd y rhai oedd yn gweithio drosto yn gweithio mown amser ac allan o amser, ac ni adawsant yr un gareg, fel y dywedir, heb ei throi. Yr oedd eu trefniadau yn bur berffaith. Nid oeddent yn cymeryd dim yn for granted, ond yr oedd yn rhaid cael pob peth, mor bell ag y gellid, yn sicr. Nid ".vcymhellwch hwynt i dd'od i fewn," ond" gor- fodwch hwynt hyd ag y mae modd." Dim byd yn lias ac yn llac ond pob peth mor dyn ac mor ddi- droi-yn-ol ag yr oedd modd. O'r ochr arall nid oedd Mr Hughes yn gwasgu ar neb, ond yn unig yn gofyn yn foneddigaidd i bawb ameucefnog- aeth. Ond gwelsom yn yr etholiad hon eto mai nid rhai felly sydd yn myned i fewn, ond treis- wyr sydd yn ei chipio hi." Ond er i Mr Hughes golli y tro hwn nid oes eisiau iddo wangaloni—fe gafodd un bleidlais yn fwy nag a gafodd Mr Jones yn yr etholiad tair blynedd yn ol 82 gafodd ef yr adeg hono, tra y cafodd Mr Hughes yn awr 83 a Mr Jones 112. Nid oeddem yn meddwl y cawsai efe gymaint o fwyafrif, er ein bod yn meddwl mai efe fuasai yn gorchfygu am nad oedd Mr Hughes na'i gefnogwyr yn gweithio gyda haner y fath egni a dyfal-barhad a'r Cadben Jones a'i gefnogwyr, ac yr ydym yn cwbl gredu pe ba'l parti Mr Hughes wedi gweithio mor dda ac mor ddi-droi-yn-ol a pharti Mr J ones, mae Mr Hughes fuasai wedi myned a hi. Ond yn awr mae'r frwydr wedi ei hymladd, ac wedi ei henill. Gadawn bob peth yn llonydd mewn cysylltiad a'r hyn sydd wedi myned heibio, er mai doniol a digrifol i'w ryfeddu a fuasai cael desgrifiad o faes y frwydr wedi'r ymdrech. Yr ydym yn teimlo mai gwaith sal fuasai cymeryd yr ysgrifell mewn llaw i ddarlunio yr hyn a allesid weled a'i glywed yma a thraw gan y rhai oedd yn perthyn i'r blaid oedd wedi cario'r frwydr. Ai nid gwell fuasai treio bod dipyn yn weddaidd ac yn gymedrol ? Fe adawn fel hyn heb enwi dim na neb y tro hwn, gan obeithio na fydd angen dywedyd dim am bethau anweddaidd eto rhagllaw.
ABERAERON
ABERAERON YR YSGOL FRYTANAIDD.-Cynhaliwyd cyfarfod gohiriedig o bwyllgor yr Ysgol uchod yn yr Ysgoldy, nos Fawrth, y laf o'r mis hwn. Yr oedd yn bresenol y Parch W. Evans (yn y gadair), Parch E. Morris, Mri D. Lewis, D. Lloyd, D. Harris, D. H. Jones, G. Williams, J. Jones, J. ReesjJ J. Evans, a J. T. Evans. Enwyd pump o ymgeiswyr am y swydd o brif athraw yr ysgol, sef y Mri W. Davies, Newfoundland, E. J. Griffiths, Saundersfoot, W. Jenkins, Pontrhydy- groes, J. Emlyn Jones, Penuwch, a J. Williams, Penlone. Dewiswyd yr olaf drwy fwyafrif clir.
LLANILAR
LLANILAR LLYS YR YNADON.—Dydd Gwener y 4ydd o'r mis presenol, o flaen larll Lisburne, a'r Mri. Vaughan Davies, a J. James, cyhuddwyd John James, Esgereithin, Lledrod, o esgeuluso anfon merch fach un-ar-ddeg oed i'r ysgol, Hefyd, gwnaed cyhuddiad cyffelyb yn erbyn Elizabeth Jones, Penrock, yn yr un plwyf. Dirwywyd hwynt i 5s. yr un. Gwnaeth Jane Morgans a Joel Morgans, Cwmceiro, Llanychaiarn, gyhuddo David Morris, Evan Morris, a John Morris, Llet- tyrgegin, Llanychaiarn, o ymosod arnynt ar y ffordd yn mhlwyf Llanychaiarn, ar y 22ain cyn- fisol. Rhwymwyd y tri yn y swm o '10p. yr un i gadw yr heddwch am chwe' mis. Cyhuddwyd Richard Jones, Cwmllechwedd isa, Llanilar, fferni- wr, gan John Jones, Tynycoed, o wrthod talu Treth y Tlodion. Tynodd yr erlynydd y cyhudd- iad yn ol am fod yr amddiffynydd wedi rhesti-u arch-ddeiseb methdaliad, &c.
BRONANT
BRONANT YMDRECHFA AREDIG.—Cynhaliwyd hon clcni dydd Gwener, Chwefror 26ain, mewn cao perthyn- ol i Mr. Evan Evans, Ty'n'resger. Cafwyd hin ardderchog, a throdd yr ymdrechfa allan yn llwyddiant pertfaith. Y goreu yn y dosbarth oedd W. Davies, Penybryn, ac yn yr ail ddosba, th dodwyd O. D. Williams, Navy Hall, a J. Richards, Blaenresger, yn gyd-fuddugol. Barnwyd gan Mr. James Hamer, ger Tregaron. Pleser mawr oedd gweled y llanciau yn cymeryd eymaint o ddyddor- deb yn y gangen hon o'u llafur, a'n dymuni&d ydyw ar iddynt eto ymdrechu ac ymberffeitho nos dyfod yn gampwyr y broydd. Y mae pob gwaith o r mwyaf i'r lleiaf yn werth ei wneud yn dda. Ye BRYTHON CYMREIG.—Y mae y BRYTHON wedi cymeryd gafael gref yn yr ardal yma, a chyhyd ag y deil heb chwareu second fiddle i unrhyw barti neu sect y mae ei lwyddiant a'i gynydd yn sicr. Hir oes iddo i ladd ysbryd plaid a sect sydd yn llwyr-fwyta nerth ac yni ein teimlad cenedlaethol Cymreig. PARCH. DR. REES.—Dywenydd genym hysbysu fod yr hybarch Ddoctor yn mwynhau iechyd rhagorol. Golwg brysur iawn sydd arno yr wyth- nosau hyn, a phwy na wyr nad ydyw eto yn parotoi rhyw lyfr mawr i'r byd. Y mae y Doctor wedi syrthio' mewn dwfn gariad a'r BRYTHON CYMREIG. GLAN CAMDDWII.
TRE'RDDOL
TRE'RDDOL LLYS YR YNADON.—Cynhaliwyd hwn ar y 3ydd o'r mis presenol, o flaen y Mri George Paddock, John Francis, a'r Parch J. M. Griffiths. Cyl-itiddod I James Jones, Llwyngroes, ffermwr, Evan Howells, Taliesin, o ymadael o'i wasanaeth yn anghyfreithlon. Cytunasant heb wneud eu hymddangosiad o flaen yr ynadon.—Cyhuddodd John Jones, Taliesin, clerc y Bwrdd Ysgol, John Jenkins, Taliesin, labrwr, o esgeuluso danfon tri o'i blant i'r ysgol ddyddiol. Dirwywyd ei i 5s am bob an o'r plant, i'w talu os na wnai y plant fod yn gyson yn yr ysgol yn y dyfodol.—Cyhuddodd John Enos, Borth, Casglwr Treth y Dw'r, Mary James, Phoebe Jenkins, a William Jones Wil- liams, o wrthod talu gwahanol symiau o dreth y dw'r. Terfynwyd y materion drwy dalu, a gohiriwyd pedwar achos arall o'r un natur.—Cy- huddodd David Evans, Clerc i'r Bwrdd Iechydol Machynlleth, Charles Jeffreys, Dovey Castle, o wrthod rhoddi amryw dai annedd yn mhlwyf 'Scyborycoed yn addas i'w trigianu. Gorchymyn- wyd iddo eu hadgyweirio tu fewn i fis.-Cyhudd- odd James Williams, Talybont, gwas ffarm, James Jones, Llwynglas, o wrthod talu S6 7s o'i gyflog. Taflwyd yr achos allan am ei fod wedi ymadael o'i wasanaeth yn groes i'w gytundeb a gwrthod dy- chwelyd. Trosglwyddwyd trwydded y Black Lion, Bow Street, o enw David Edwards i enw Elizabeth Edwards, ac eiddo'r Black Lion, Llan- fihangel, o enw Richard Jenkins i enw David Thomas.—Estynwyd awr o arnser gwerthu yn y Black Lion, Talybont, ar noswaith etholiad aelod o'r Cynghor Sirol, ar gais un Mr Herbert Stokes (un nad oedd yn dal cysylltiad a'r dafarn nac yn etholwr).
DERRY ORMOND
DERRY ORMOND TAN.—Prydnawn dydd Sadwrn diweddaf torodd tan allan yn nhy Mr Griffith Daniel, Bwlchffin, Derry Ormond, gan losgi y tai, dwy fuwch, a'r rhan fwyaf o'r cwbl a feddai. Y dydd Mawrth blaenorol y darfu iddo brynu un o'r gwartheg yn marchnad fisol Tregaron. Cydymdeimlir yn fawr ag ef yn ei brofedigaeth, gan fod ganddo deulu lluosog, ac nid oedd dim o'i eiddo wedi ei yswirio. Dylai hyn fod yn rhybudd i holl ffermwyr y wlad, yn fychain a mawrion, i yswirio eu holl feddianau, yn enwedig pan ellir gwneud hyny ar ychydig draul.
YSTRADMEURIG
YSTRADMEURIG CYNGIIEliDD. Cynbaliwyd cyngherdd mawr- eddog yn y lie uchod ar ddydd gwyl Dewi Sant. Cymerwyd y gadair gan y Parch John Jones, M.A., prif-athraw yr ysgol, a gwnaeth ei waith yn rhagorol fel arfer. Daeth lluaws yn nghyd, ac yr oedd yr adeilad yn llawer rhy fach i'w cynwys yn gysurus. Cymerwyd rhan yn y cyfarfod gan Miss Morgan, Bow Street, Miss Evans, Llanilar, Miss Evans, Aberystwyth, Miss Jones, Llanilar, Misses Jones, Bronmeurig, Mr John Davies, Llangeitho, Mr Charles Davies, Ystradmeurig, Mr David Davies, Pontrhydfendigaid, a'r Ystradmeurig Glee Party. Chwareuwyd ar y berdoneg gan Miss M. Lloyd, Pontrhydygroes, a Miss M. Davies, Ystradmeurig. Cafwyd cyfarfod hynod lwyddianus yn mhob ystyr. Cynygiwyd diolch- garwch i'r cadeirydd gan y Parch Evan Jones, ficer Strata Florida, ac eiliwyd gan Mr J. Price, a therfynwyd drwy ganu Hen wlad fy Nhadau. -D. J. R..
CAIO A LLANWRDA
CAIO A LLANWRDA ETHOLIAD Y CYNGHOR SInOL. Syr James Hills-Jolines, Dolaucothy (C) 263 Parch. Thos. Thomas (A.), Llanwrda (R) 110 Mwyafrif dros Syr James 110 Hip hip, hip, hwre Nis gallwn roddi gwell penawd i'n hysgrif na'r uchod. Sieryd y ffigyrau drostynt eu hunain. Mae plygion ar blygion o ystyr iddynt. Llefarant yn groew a digryn deim- lad gwerin onest Caio a Llanwrda. Pwyntia'r ffigyrau at ddewis-ddyn gwroniaid caredig a chym- hwys yr etholaeth, ac ar yr un pryd ceir ynddynt wers amlwg mewn dyledswyddau ymarferol i Mr. Thomas, a gwiriant yr hyn ddywedasom ni ac eraill mai ar grwydr o'i ddyledswyddau grasol oedd Mr. Thomas pan yn d'od allan fel gwrthwynebydd i foneddwr gloew ein hardal, sef Syr James. Hyd- erwn y cofia Mr Thomas a'r giwed a'i dilynai y gurfa hon. Darfyddodd ysgrechiadau oeraidd y pregethwr o Landilo mewn dim, fel y dysgwyliem, ehediadau areithyddol y clogyn-bregethwr o Crug- y-bar o'ent cyn uwched ag eiddo chwanen a fuont ddieffaith, ystori benbwlaidd a Chardiaidd y preg- thwr glas o Carmel oedd mor bell ei :dylanwad a'r llawr oddi-tano; cyfeiriadau piushy yr ex-minister o Borthyrhyd o'ent mor ddiflas a diddylanwad a'i bregeth. Dangosodd etholwyr Caio a Llanwrda fod ganddynt farn a deall eu hunain, a'u bod yn talu parch i'r hwn y mae parch yn ddyledus. Mae wedi myned yn ormod o'r dydd yn Nghymru i bregethwyr Ymneillduol ystwytho a thrin y werin ddeallus i'w dybenion uchelgeisiol eu hunain. Gwyn fyd na welem bregethwyr mor ddiwyd ac egniol gydag achub pechaduriaid ag ydynt i geisio enill votes yn amser lecsiwn. Well done, etholwyr Caio a Llanwrda am weithredu mor unol i ddych- welyd boneddwr mor gymwys a Syr James-gwr a'ch llesola yn mhob ystyr, ac a fydd bob amser yn gwylio eich buddianau (interests) yn y Cynghor Sirol. Mantell gwarth orchuddio bob bradwr an- niolchgar iddo, a'r bobl Wyddelig hyny wisgant luaws gwynebau dan yr un het; heddyw yn pleid- io Tori, ac yforu yn proffesu parodrwydd i farw dros Ryddfrydiaeth. Nid yw y dosbarth yma ond trash sydd yn mogi pob achos bleidiant. Gair eto yr wythnos nesaf ar yr etholiad. BRITWN.