Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
8 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
HYSBYSIADAU Cyhoeddir Hysbysiadau yn Ye BRYTHON CYMREIG ar Y TELERAU RHAD CANLYNOL Rhybuddion Cyhoeddus, ) v lUnoll v Cyfreithiol, a Seneddol f60" y Ume11 ? tro- Anvortliiadau 3c. „ „ Hvsbvsiarlnu (Yn ol trefniant, yn ymddibynu M^r, ^bnT ar eu safle, nifer y troion y 1 cyhoeddir hwynt, maintioli, &c. TELERAU NEILLDUOL AM FLAEN-DAL Am Hysbysiadau yn dais 20 gair neu lai, cysylltiad a Swyddi „ Unwaith, 6c. neu Leoedd, yn Eisiau. Ystafelloedd, Tai, Tir, yn „ Tair gwaith, Is. Oc. Eisiau, ar Osod, neu ar I Werth. f „ Ohwech „ Is. 6o. Masnach, Stoc, Dodrefn, Peirianau, neu fan Am bob 10 gair ych- bethau, ar Werth, neu wanegol, haner y yn cael eu cynyg ar Hur prisoedd uchod. Ni chyhoeddir Hysbysiadau yn dal perthynas a Rhedegfeydd, Gamblo, Hapchwareuon, Cyfferi Crach-feddygon (eithrir Cyfferi Breintiedig da eu gair), Arian Fenthycwyr, If Proffeswyr y Gelfyddyd Ddu," neu ryw hysbysiad arall o natur wrthwynebol, ar unrhyw delerau. Cyfleithir Hysbysiadau Saesonaeg, os bydd gal wad am hyny, yn rhad. Danfoner pob Gohebiaethau ac Archebion, mor gynar yn yr wythnos ag y byddo modd yn gyfeiriedig Y RHEOLYDD, WELSH PAESS OFFICE, LAMPETEB.
GOHEBIAETHAU -.
GOHEBIAETHAU (Nid ydynt yn gyfrifol am synictdaU ein Gohebwyr. Gal.] Y WERIN A'R BENDEFIGAETH. At Olygydd ye BRYTHON CYMREIG. Syr,—Fel y deallaf mae ye BRYTHON CYMREIG yn bapur hollol annibynol ar un blaid wleidyddol, a thrwy hyny credaf fod ynddo berffaith ryddid i bawb i draethu eu barn ar wahanol bethau. Felly dymunaf am eich caniatad i wneud sylw neu ddau ar ysgrif a ymddangosodd ynddo ar yr 8fed o Ebrill gan un a eilw ei hun Teryll y Bannau." Yn yr ysgrif dan sylw ceisia yr ysgrifenydd egluro IIUt y cynyrchwyd y gagendor sydd yn bodoli heddyw rhwng y werin a'r pendefigion. Priodola yr aflwydd hwn i'r Diwygiad Methodistaidd, a dywedfody pendefigion mor .Gymreig heddyw o ran ysbryd a theimlad ag y buont erioed, ac nas gellir gwneud heb y pendefigion, pwy bynag a ellir hebgor. Ni waeth i mi ddweyd yn eglur nad wyf yn hollol yr un farn a Teryll y Bannau," ond dydi fy mod i yn methu d'od i'r un farn a Teryll y Bannau yn effeithio dim ar y ffeithiau, o ba ochr bynag y byddont. Ac os y caniatewch chwi i minau adrodd fy nghyffes ffydd ar y pwnc mae yn debyg i hyn :— (1) Credaf mai yr unig afael sydd gan y pen- defigion ar Gymru ydyw y palasdai, y tir, a'r arian. (2) Credaf fod cydymdeimlad y pendengion <a,'r werin yn myned mor belled a'r vote, a dim pellach. (3) Credaf, o bob peth, y gall gwerin Cymru eu hebgor, nad oes dim yn hawddach., ac y gallwn wneud hebddynt yn well na'r tlodion. (4) Credaf mai melldith Cymru heddyw yw y pendefigion. (5) Credaf nad oes gobaith am iachawdwriaeth dymhorol tra y bendefigaeth yn ein plith, oddi- eithr iddynt ddysgu gwastraffu llai. Dyna yn fyr yr hyn a gredaf o berthynas i'r bendefigaeth, a gwelwch, Mr. Gol., fod gwahan- iaeth mawr rhyngwyf a "Teryll y Bannau," a dewch i ni gael ychydig ymgom dawel ar y pwnc. Buaswn yn dysgwyl i Teryll y Bannau" ddyfod a rhai rhesymau i geisio ategu ei osodiad, sef fod y pendefigion mor Gymreigaidd yn awr ag y buont erioed, Mae ein pendefigion yn ddigon Cymreig- aidd i anwybyddu pob peth Cymraeg. Anwyb- yddant ein iaith, treuliant eu hamser i ffwrdd y rhan fwyaf o honynt, a gwariant yr arian mae ffyliaid Cymru yn roddi iddynt yn nhrefi, a dinas- oedd mawrion Lloegr, a gwledydd eraill. Buaswn yn boffi cael gwybod pa nifer o honynt sydd wedi bod yn dadleu dros hawliau Cymru, a hyny y tuallan i esgynlawr yr etholiad pan fydd eisiau vote. Dywed T. B. hefyd fod y pendefigion a'r werin o ddeutu can' mlynedd yn ol yn cyd-ddifyru, yn cyd-filwrio, a chyd-addoli, ac awgryma mai felly y dylai pethau fod eto. Ond o'r braidd yr wyf yn meddwl fod Teryll y Banau o ddifrif yn y fan yma. Ai tybed mewn difrif yr hoffai T. B. weled y werin yn myned ar 01 y pendefigion tua'r rhedegfeydd ceffylau, ymladdfeydd creaduriaid direswm, a'r gambling rooms, neu a dyfod yn nes adref, a hoffai B. weled y werin yn dilyn y pendefig- ion i'r gwleddoedd nosawl yma sydd ganddynt ? Buaswn yn hoffi cael barn T. B. ar y priodoldeb o wahodd becbgyn a merched ieuainc at eu palasdai yn yr hwyr i fwyta, yfed, a chwareu, a'u cadw yno tan 2 a 3 o'r gloch y boreu. Dyna beth fyddai cyd-ddifyru a'r pendefigion. Ond a fyddai pethau felly yn tueddu i ddyrchafu moesau yr oes ? Peid- ied Teryll y Banau anfoddloni wrthyf am fethu cydweled ag ef, oblegid methu gweled priodoldeb peth felly a llawer eraill ydwyf fi, ond os gall efe neu rywun arall fy argyhoeddi mai dyna y ffordd oreu i efengyleiddio y byd, byddaf yn barod i ddweyd am i'r werin eto fyned a chyd-ddifyru a'r pendefigion. Bydd genyf ragor y tro nesaf, os caniateir hyny. Ydwyf, DEMOCRAT.
-—. AR YR ADEN YN MHATAGONU.
-— AR YR ADEN YN MHATAGONU. Lledais fy adenydd am wib pellach i lechwedd. au llethrog yr Andes fawr, yn nghydag eraill; myned yr oeddym ar ymchwil fanylach a mwy trwyadl am y cyfoeth cuddiedig enfawr yn: y Cordilleras, bon fryniau asgwra cefn y byd-i k I Cydgyfarfyddasom yn ngwaelod y Dyffryn Uchaf, y naill bedairolfen ar ol y Hall yn chwyddo y gwersyll, Cyn myned yn mhellach cawsomy fraint o gydaddoli a'n brodyr yn eglwys newydd ,brydferth, a chysurus Llan- ddewi. Fel y neshaem at y llecyn, sydd erbyn hyn yn gysegredig i galonau Eglwyswyr y Wladfa, torai yr hen gloch ar ddistawrwydd y dyffryn, a rhedai a ganodd Eben Fardd eto i'n cof, Yr un dingc laes red i'n clyw, yn gysonol y dydd heddyw," W,)$ a dychlamodd ein calon o lawenydd a boddhad. Cymerasom ein lie yn wylaidd yn nghysegr Duw, a mwynhasom y gwasanaeth sydd mor gynefinol i'n clust gyda boddhad llesmeirol, fel yr ymddyrchafai ac yr ymdonai mewn seiniau melusber o drawst i drawst, o'r darllenfa a'r cor, a chawsom wledd o'r berffeithiaf i'r golwg, y elyw, y teimlad, a'r enaid. Gwedi y gwasanaeth- au cynes ac adeiladol, ymgrynhodd yr offeiriad a'i gor penigamp at berffeithio anthemau, erbyn Gwyl y Nadolig, o waith. y pencampwr cerddor- ol Handel, un o ba rai oedd Haleliwia Chorus" yr harmonydd yn cyfeiliaw yn orchestol. Cawsom fwynhad o garedigrwydd a chym- deitbas yr baeddbarch offeii-iad yr hyn oedd yn yn ol o'r dydd; a boreu dranoeth hebryngodd ni i lan yr Afon Camwy, o ba le y cychwynasom i'r daith, wedi derbyn ei fendith a'i ewyllysion da. Cydgrynhoisom drachefnyn nhop y Dyffryn, lie er ein gofid, y bu i un dyn cryf o Landysul farw yn ddisyfyd; gwiria hyn iaith brydferth "y Llyfr Gweddi Cyffredin:'Yn nghanol ein bywyd yr ydym mewn angau. jDychwelodd, hefyd, yr hybareh fonwr o Fostyn adref yn wael; i gael ei gludo i'r gladdfa cyn ein dychweliad yn ol. Symud yn araf a wnai y fintai archwiliadol tuag i fyny, ac unigedd y peithiau ymestynol yn diaspedain gan lais gyrwyr y menni a gweryriad y meirch. Golwg hynafol a phatriarchaidd oedd arnom yn y gwahanol wersyllfaoedd ac ar y flordd. Pererinion, oedddym yn edrych am wlad well, ond fod hono yn un ddaearol- weithiau yn croesi afonydd, pryd arall yn ymwthio trwy gymoedd culion a gwastadeddau eangfaith, a'r llygaid yn blino wrth geisio edrych drostynt. Un adeg a'r reigiau clogwynog ysgythrog yn ymhongian uwch ein penau, dro arall a phenau banog yr Andres, o tan ei choron oesol o eira, i'w canfod yn y pellder draw. Heblaw hyn, deuem ar draws gwlad borfaog a phryd- ferth, yn llawn guanacos ac estrysod, ac am bell i lew (y puma) yn ymborthi yn chwaethus ar yr helwriaeth fras. Dyma wlad amaethyddol ogoneddus heb neb i'w medddanu. Ow gresyn na welid y miloedd Cymry sydd yna yn sathru traed eu gilydd yn d'od yma a meddianu y tir ardderchog hwn. Eilun ydyw o fanau goreu Cymru cymoedd, gwastadeddau, bryniau, a mynyddoedd; coedydd ramrywiol, ffrwythau blasus, a blodau amryliw liardd Yn y man, cyrhaeddasom faes yr aur, a dyma lawenydd gorwyllt yn med dianu y rhai a ddaeth- ant gyda ni wrth weled y fath arwyddion go- beithiol am yr aur melynliw gwerthfawr, yr hwn, yn ol barn yr arbrawfwyr profiadol, y rhai a ddaethant yn ddiweddar o Gymru, a ddywedant y bydd gororau yr Andes yn debyg o daflu i'r cysgodion aur feusydd y byd. Tra yn myned i fesur y tir cyfoethog hwn ar ein march, yn ymyl ffynon o ddwfr gloew-lan, yn swta dychrynodd ein ceffyl a neidiodd i'r naill ochr, gan adael ei farchogydd yn ei orwedd mewn glaswellt iraidd yn nghwmni wyth o lewod ar eu ciniaw o guanaco. Yn y fan neidiasom i fyny gan ddywedyd, Yrwan am ergyd." E. C* ROBERTS. Y Cast ell, Colonia del Chubut. (Tw barhau)
Clwyfy Traed a'r GenäU.
Clwyfy Traed a'r GenäU. Y mae Mr Chaplin, Llywydd BwIXld Amaeth- yddiaeth, wedi gwneud y mynegiad canlynol o m berthynas i glwyf y traed a'r genau yn y deyrnf as hon: .-Mae yr adroddiadau parthed clwy y traed a'r genau ar y cyfan yn foddhaol. Yn ystod yr wythnos yn diweddu Ebrill 2il ni hysbyswyd ond am ddau le yr oedd y clwyf wedi tori allan, sef un yn Knutsford, sir Gaerlleon yr hon sir oedd wedi ei chau yn barod trwy orchymyn y Bwrdd Amaethyddol; y llall yn Withington, ger Maceinion, yr hyn a achlysur- odd y gorchymyn i ran o swydd Lancaster fod dan waharddiad, Y mae y clwyf hefyd yn bod- oli yn siroedd Kent, Sussex, Essex, a Llundain, yn Lloegr; ac yn Perthshire a Middlothian yn yr Y sgdtland. Y siroedd sydd yn awr dan wah- arddiad ydynt sir Gaerlleon, rhan o Essex, Fife- shire, Kent, Kinross, swydd Lancaster, Mid lothian, Llundain, a dinas Glasgow.
Y Llofruddiaeth Waedlyd yn…
Y Llofruddiaeth Waedlyd yn Blaenavon. Yn fuan ar ol dau o'r gloch prydnawn dydd Mawrfch cynhyrfwyd trigolion Blaenafon gan hanes llofruddiaeth a ddywedid oedd wedi cym- eryd lie yn High-street, parth parchus a thawel ychydig o'r dref, lie y trigai Mrs. Stone, gwraig Charles Stone, plymydd, gyda'i merch briod. Yr oedd Mrs Stone wedi bod yn byw yn onest a diwyd trwy gadw siop wyrdd-lysiau yn King- street. Ymddengys fod y gwr allan o waith, ac iddo gael ei gynal allan o enillon caled y ddynes druan. Bu fyw am y pythefnos diweddaf yn gysurus yn nhy ei merch. Dydd Mawrthgalw-" odd Mrs Stone yn siop Mr Jabez Daniels, bwyd-werthydd, ac archodd swm o nwyddau, yr hwn oedd i gael ei yru adref gan y siopwr. Ym- ddengys i'r gwr, yr hwn a ymadawodd o'r Prince of Wales Hotel oddentu yr un pryd ag y daeth ei wraig o'r siop, ddyfod trwy High-street, ac fod yn rhaid ei fod wedi gweled ei wraig yn myned i'r ty. Aeth i mewn ar ei hoi. Tynwyd sylw y cymydogion gan swn ymrafael yno ar ol iddo fyned i mewn, a gwelsant yn ddiweddarach fod anfadwaith ofnadwy wedi ei gyflawni, a gwnaed y peth yn hysbys i'r heddgeidwaid yn ddioed. Daeth y Rhingyll Thomas a'r P.C. Coles a Morgan, a Mr. George Lightfoot (tir- fesurydd y Bwrdd Lleol) i'r fan, a chawsant y ddau anffodus yn gorwedd mewn llyn o waed oddiwrth niweidiau yn ngyddfau y ddau, a breichiau y gwr am wddf ei wraig. Codwyd y ddynes ar couch, ond cafwyd ei bod tu draw i gynorthwy meddygol gan fod ei gwddf wedi ei hacio yn arswydus, a bu farwt yn fuan ar ol hyny. Yna rhoddwyd sylw y Doctoriaid Haitland, Skrimshire, Averne, a Cronie, at gyflwr y gwr, yr hwn a symudwyd i'r ysbytty, ond bn yntau farw dydd Iau. Cynhaliwyd trengholiad ar y cyrph a chladd- wyd Mrs Stone dydd Gwener, yn mhresenoldeb tyrfa fawr yn Eglwys St. Pedr. Gwasanaeth- wyd gan y Parch. J. L. Clougher, B.A., ficer. Claddwyd y llofrudd heb unrhyw rrasanaeth na defod yn hwyr nos Sadwrn gan yr heddgeidwaid. Mrs Agnes Turner, 37, High Street, merch y drancedig; a ddywedai wrth gynrychiolydd y wasg fod y carcharor yn ddyn o dymher nwyd- wyll a chiaidd. Nid- oedd hi yn y t9' pan gym- erodd y llofruddiaeth le, ac unig dyst y gyflafan ydoedd ei merch fach ddwy-flwydd a phum' mis oed. Pan holwyd y fechan, dywedai i Stone daro ei wraig ar ei phen ac yna ei thori a. chyll- ell. Tynodd ysgrechfeydd y plentyn amryw gymydogion i'r t9', a chyrhaeddodd un Mrs. Meach, yn byw yn Broom Street gyfagos, mewn pryd i'w glywed yn gofyn, fel y tybiai hi, "Wnewch chwi faddeu i mi?" Rhedodd Mrs Meach o ddrws cefn y tt i'r ffrynt, ond erbyn iddi gyrhaedd yr oedd Mrs Stone wedi marw. Yr oedd y carcharor y diwrnod blaenorol wedi gofyn i'w wraig ddychwelyd ato, ond gwrthodai hi. Fe sieryd holl berthynasau y drancedig am dani fel dynes weithgar, barchus, a diwyd, tra y siaradant am y gwr fel dyn na weithiai ond an- ami ac a gamdriniai ei wraig a'i a'i blant yn rheolaidd, gan eu troi dros y drws ganol nos ac arfer creulonderau tuag atynt.
Mr T. E. Ellis, A.S. a Deddfau…
Mr T. E. Ellis, A.S. a Deddfau Tir yn Nghymru. Mewn nodiadau beirniadol o'i eiddo ar ysgrif Mr T.E.Ellis, yn y "Geninen" ddiweddaf ar Ddeddfau Tirol Cymru, dyma fel y dywecl Idriswyn:—0 safle hanesyddol, y mae ysgrif Mr Ellis yn hynod o ddyddorol, ac yn taflu cryn lawer o oleuni ar hen ddefodau ac arferion y Cymry yn nglyn a daliadaeth tiroedd. Ond cyn belled ag yr wyf fi yn gallu barnu nid yw yr hen gyfreithiau hyny yn un rheswm dros gael Mesur Tir i Gymru—hyny yw, mesur fel ag a gynygiwyd ganddo ef y dydd o'r blaen yn Nhy y Cyffredin. Y sgrifena. am adeg ar ein gwlad pan oedd y trigolion yn byw yn gyfangvvbl ar ei chynyrch, ac, o angenrheidrwydd, yr oedd yn rhaid i'r tir fod yn eu dwylaw; ond y mae pethau wedi newid; yn lie bod yn bobl fugeiliol," y mae cyfaDgorph y werin wedi troi yn grefftwyr, a ffolineb yw dadleu fod ein bodol- aeth yn ymddibynu ar amaethyddiaeth. Y mae dosbarth, mae'n wir; ond nid yw y genedl, yn dybynu ar lafurio y ddaear am eu cynhaliaeth; ac y mae hwnw yn ddigon galluog i gymeryd gofal o hono ei hunan. Tra y bydd egwyddor- ion masnach rydd mewn grym yn Mhrydain Fawr, nid oes gan y tirfeddianwyr lawer o le i orthrymu y tenant; tra mae blawd, cig, a menyn o holl wledydd y ddaear yn dyfod i'n marchnadoedd o dan drwyn y meistri tiroedd, nid oes perygl iddynt hawlio crogbris am eu ffermydd; a thra mae cymaint o alw am lafur yn y gweithfaoedd, y trefydd mawrion, yr Unol Daleithiau a'r Trefedigaethau, nid yw y fferm- wyr mor ffol a chydsynio i dalu rhenti afresymol. Y mae y pethau hyn yn llawn mwy o ddy- ogelwch i'r ffermwyr nag unrhyw lys tirol a sefydlir byth. Gwir fod gan y Cymry gariad angerddol at eu gwlad, a'r ffermwyr Cymreig at eu cartrefi, ond gellir dweyd yr un peth am bob dosbarth o weithwyr. Mawr y swn os dygwydd i anghydwelediad godi rhwng ffermwr a'i feistr tir, ac i'r tenant orfod ymadael, erei fod, dichon, yn werth canoedd o bunau ac yn alluog i gyf- arfod a'r amgylchiad yn ddigryn -pan gymer peth fel hyn le, codir stwr drwy yr holl wlad, ac fe wneir merthyr o'r ffermwr! Ond pan y mae gweithiwr yr un mor ddiwyd a gonest a'r fferm- wr, yr hwn sydd wedi gweithio yn galed i'w feistr am lawer o flynyddau ac wedi bod yn rhan amiwg yn nadblygiad y fasnach, a'r hwn sydd yn caru ei hen wlad yr un mor angerddol—pan mae hwnw yn cael ei dori ymaith ar ychydig ddyddiau o rybudd, 'does neb yn dweyd gair, a'r unig gysur gaiff ef a'i dyaid o blant ydyw, "0 mae'r byd yn ddigon llydan i tra nad oes gan y truan ddigon wrth ei gefn i fod yn segur am 9 In haner awr! Paham y gwneir y fath wahaniaeth, nis gwn; ond y mae arnaf ofn mai olioo ydyw o'r hen dybiaeth gyfeiliornus fod rhyw wahan- iaeth rhwng y naill ddosbarth a'r llall o bobl. Yr wyf yn hollol gydolygu a Mr Ellis yn y rhan ddiweddaf o'i ysgrif-y rhan ymarferol a synwyr- ol o honi-pan y dadleua y dylai Tiroedd y Goron gael eu rheoli gan ryw awdurdod yn Nghymru, ac y dylid gwisgo ein bryniau a'n mynyddoedd a. choedwigoedd, y rhai a ddeuent mewn amser yu eiddo cenedlaethol o fawr werth, Y mae angen cr eu ffynhonellau newydd o g- oeth, ond nid oes angen gwneud gwfhap* rhwng y naill ddosbarth a'r llall.
[No title]
Mr Courtney, A S., a'r Dadgo' Nos Iau anerchodd Mr Leonard 001 nifer o'i gefnogwyr yn St. Gen wall. Wrth gyfeirio at ddadgorphor efe a ddywedodd nad oedd yn medd, idogion ei Mawrbydi wedi penderfy: cymerai le, ond yr oedd ganddo ef sy yn Gorphenaf nesaf. Daliai efe fc frydwyr Undebol i'w cyfiawnhan o gwaith yn cadw bodolaeth waham berthynas i Fesur y Ffermydd Bychai ei fod yn fwy o arbrawf na dim laraI basiai y bil yn ffurfiol a therfynol, y b weithrediadau gael eu gwylio gyda dyv
Advertising
ADVERTISEMENTS Advertisements will be inserted in yo BBTTHOM CTMBEIG at the following CHEAP SCALE OF CHARGES Parliamentary, Law, and) 6d. per line per inser- Public Notices J tion. Bales 3d. do. do. Trade (By arrangenient, according to Advertisements 1 P°sition. number of insertions, Advertisements gpace required) &c SPECIAL PREPAID RATES For Advertisements re-\ 20 words, ferring to Situations, I „ One insertion, 6d Wanted, or Vacant I Apartments, Houses, or I |„ Three, „ IB. Oct .Land, Wanted to Let, I "7 for Sale f „ Six Is. 6d. Businesses, Stock Furni-1 ture, Mahinery/or Mis-1 Every additional 10 cellaneous Articles for words, half the above Sale or Hire. prices. No Advertisements relating to Racing, Gam. bling, Lotteries, Quack Medicines (except Patent Medicines of good repute), Money Lenders, Astrologers," Fortune Tellers, or others of an objectionable character will be inserted upon any terms. English Advertisements will be translated, if required, free of charge. All Communications and Orders should be ad- dressed, as early in the week as possible, to THE MANAGJSB, WELSH PitESS OFFICE, LAMPKTEB.