Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
16 erthygl ar y dudalen hon
NEWYDDION MARCHNADOL TO.
NEWYDDION MARCHNADOL TO. Yd.-Dim cyfnewidiad. Ymenyn.-Gostwng. Pris heddyw (dydd Iau) yn ol telegram Cork, Firsts 98, Seconds 92, Thirds 73 swllt y 112 pwys. Cig.-Teuddu i godi ychydig.
Central News Telegrams,
Central News Telegrams, DYDD IAU. Hysbysa telegram o New York ddarfod i'r gwrthryfelwyr yn Venezuela enill budd- ugoliaeth fawr ar filwyr | y Llywodraeth. Collodd y Llywydd un ran o dair o'i fyddin. —Boddwyd wyth" o lowyr neithiwr yn nglofa Lyle, Minersville.-Gwrthwynebir Syr George Trevelyan yn Glasgow gan Mr Maughan (Ceidwadwr).
Y Gweithfeydd Glo Prydeinig
Y Gweithfeydd Glo Prydeinig Ddiwedd v mis diweddaf y cwblhawyd ystadegau y Fasnaeh lo am y flwyddyn 1891, yr hwn a ddengys y canlyniad boddhaol mai Cymru ydyw, nid yn unig y rhandir sy'n cynyrchu mwyaf o 16, ond hefyd sydd yn cadw y nifer luosocaf o weithwyr o holl randiroedd glofaol y deyrnas-ac yD yr holl fyd, o ran hyny Yn 1890 cymerid y fiaenoriaeth gan Durham, ond y pryd hyny nid oedd ond ychydig ganoedd 0 dun- elli o flaen Cymru. Yn 1891, a chyfrif yn ol un mewn 1000, cymerid yr arweiniaeth gan Gymru, yn cael eu dilyn gan Durham, Swydd York, Swydd Lancaster Dwyrain Ysgotland, Swydd Stafford, Swydd Derby, Gorllewin Ysgotland, Swydd Nottingham, Gogledd Cymru, a'r Iwerddon. 0 ran nifer y gweithwyr a gedwid, blaenorid gan Deheudir Cymru a Sir Fynwy gyda 86,919 o ddynion, Durham gyda 64,158, Swydd York 60,542, Swydd Lancaster 60,035, Dwyrain Ysgotland 38,020, Swydd Derby 27,500 Gorllewin Ysgotland, 26,688. Mae y nifer mor fychan yn yr Iwerddon fel y mae awdurdodau'r lie hwnw "wedi ei gadw allan o'r cyfrifon a ddychwelasant. Yn ystod y flwyddyn bu 711 o wahanol ddamweiniau angeuol, trwy y rhai y collod 879 o bersonau eu bywyd; yr hyn a dden- gys, o'i gymharu a chyfanswm y glo a gynyrch- wyd, fod 201,134 o dunelli o loargyfer pob byw- yd a gollwyd. Er hyny, y mae hyn yn wplliant nodedig ar y flwyddyn ddiweddaf, ac nid anob- eithia ystadegwyr i weled pwynt yn cael ei gyr- haedd pan na bydd i ffigyr is na hanr miliwn o dunelli gynrychioli pob bywyd a gollir*
Family Notices
MARWOLAETHAU BENNETT—Ebrill lOfed, yn Station Terrace,"Llan- bedr, Annie Bennett, morwyn, yn 29 oed. DAVIES.—Ebrill 14eg, Percival, baban bychan, Mr Walter Davies, Bridge Street, Llanbedr, yn 10 mis oed. EDWARDS—Ebrill 16eg, Mr Thomas Edwards, Gwarefel, Llanllwchaiarn. LEWIS—Ebrill 15fed, yn 5 mlwydd oed, Edward Vicor Lewis, mab Mr James Lewis, heddgeidwad, Ceinewydd. GRIFFITHS—Ebrill lleg, yn Thomas Street, Llan- Mary Griffiths, gweddw y diweddar George Griffiths, masiwn.
.( NEWYDDION LLEOL
( NEWYDDION LLEOL I: ABERTEIFI LLYS YNADON Y DREF.—Cynhaliwyd y Ilys dydd Llun diweddaf, o flaen y Mri. T. E. Davies a W. Woodward. Cyhuddwyd Elizabeth Morgan, William-street, Aberteifi, o fod yn feddw ar yr heol yn Aberteifi ar y 4ydd cyfisol. Dirwywyd hi i 10s a'r costau.—Cyhuddwyd John Davies, Warring, Llangoedmor, o yru pony yn ormodol ar y 26ain o Fawrth, yn Aberteifi. Dirwywyd ef i 5s a'r costau.—Cyhuddwyd Daniel Evans, Allty- cadno, o fod yn feddw pan yr oedd ceffyl dan ei ofal yn Aberteifi, ar y 9fed o Ebrill. Dirwywyd ef i 5s a'r costau.- Cyhuddwyd Griffith Phillips, Mwldau, o ladrata gwialen bysgota gwerth 2s 6c, o siop Mr Clougher, Aberteifi, ar y 7fed cyfisol. Profwyd cyhuddiad blaenorol o ladrata jam yn ei erbyn. Dirwywyd ef i 10s a lp 14s o gostau.
ABERYSTWYTH
ABERYSTWYTH BWRDD Y Gw ARCHEIDW AID.-Cynhaliwyd cyf- arfod cyntaf y Bwrdd yma dydd Llun diweddaf, y 18fed cyfisol. Cynygiodd Mr E. J. Evans, Cnwcybarcut, fod Mr C. M. Williams i fod yn Gadeirydd y Bwrdd. Eiliwyd gan Mr D. Morgan. Cynygiodd Mr J. R. James, Peithyll, welliant, sef od y Parch J. M. Griffiths, ficer Llanfihangel Geneu'rglyn, i fod yn gadeirydd. Eiliwyd hyn gan Mr G. Price, Llanafan. Pleidleisiodd 19 dros Mr Griffiths, a 17 dros Mr Williams, felly dewis- wyd Mr Griffiths. Etholwyd yn unfrydol Mr C. M, Williams a Mr E. J. Evans yn is-gadeirwyr. Penodwyd Miss A. E. Hughes, Old Bank, Aber- ystwyth, yn nurse i'r Tlotdy, am y gyflog o X25.
LLANYCHAIARN
LLANYCHAIARN MARWOLAETH P. C. EVAN EVANS (25).-Bydd yn ddrwg gan luaws i glywed am farwolaeth yr heddgeidwad Mr Evan Evans. Bu yn achwyn am tua mis, ac yr oedd yn dyoddef oddiwrth frest wan. Gweinyddid arno gan Dr Hughes, Llanilar, ac nid oedd neb yn meddwl fod ei ddiwedd mor agos. Bu farw dydd Llun diweddaf, wedi gwasanaethu yn ffyddlon yn heddlu Ceredigion am tua 20 mlynedd.
LLANBEDR
LLANBEDR Y CYD-BWYLLGOR HEDDGEIDWADOL.—Cyn- haliwyd cyfarfod cyntaf y cyd-bwyllgor presenol dydd Iau, y 14eg cyfisol yn Neuadd y Dref. Yr oedd yr holl aelodau yn bresenol. Prif waith y cyfarfod ydoedd dewis Cadeirydd am y flwyddyn, ac eleni daeth yr holl aelodau i gyd-ddealltwriaeth i ddewis un o Gynrychiolwyr y Llys chwarterol am eleni ac un o gynrychiolwyr y CynghorSirol am y flwyddyn nesaf, ac felly bod yn ail o hyn allan. Gresyn na fuasai y Cyd-Bwyllgor wedi gweithredu fel hyn yn y gorphenol, neu yn hytrach, gresyn na fuasai trefniant o'r fath wedi cael ei osod yn Neddf Llywodraeth Leol. Arbedasai lawer o amser, a llawcr iawn o siarad gwag a ffol, heblaw y bu- asai rhyw gynllun felly yn 11awer mwy rhesymol na phenderfynu y peth drwy dynu blewyn cwtta Etholwyd yn unfrydol Col H. Davies- Evans, yr Arglwydd Raglaw, yn gadeirydd am y flwyddyn hon. Ni fy unrhyw fater o bwys ger bron y Pwyll- gor y tro hwn.
ABERAERON
ABERAERON Cynhaliwyd cyfarfodydd ysgolion perthynol i Eglwysi y gymydogaeth hon ar ddydd Llun y Pasc, yn Eglwys y Drindod, Aberaeron. Cafodd saith o ysgolion eu holi gan yr offeiriaid canlynol: Parchn T. Jones, Cilcenin Williams, Mydroilyn Lewis, Llanychaiarn Eewis, Llansantffraid a T. Jones, Penbryn. Yr oedd yr Eglwys yn orlawn trwy'r dydd, canwyd yr anthemau i gyd yn ddieithriad yn rhagorol. Rhoddodd y Parch W. 0. Edwards, y Ficer, anerchiad byr a phwrpasol i'r gynulleidfa ar y terfyn. Yn yr hwyr, pregethwyd yn effeith- iol a dylanwadol i'r dorf gan y Parch T. Jones, Ficer Penbryn, yn ei hwyliau goreu. LLYS YR YNADON.—Cynhaliwyd hwn dydd Mercher, Ebrill 20fed, o flaen y Mri. T. H. Maddy, a Morgan Evans. Lladrad.—Dygwyd William Horley, tramp o stoker wrth ei alwedigaeth, 34, Heol Cardwell, Edge Hill, Lerpwl, o flaen y llys ar y cyhuddiad o ddwyn crys gwerth saith swllt oddiar y gwrych, eiddo David Owen, mab Henry Owen, labrwr, Tycam, Llanfihangel Ystrad.—Rhoddodd mam perchonog y crys dystiolaeth i'r perwyl mai ei mhab biai'r crys, ac mai hi a'i gwnaeth.—Dywed- odd y Cwnstabl, 36, iddo gymeryd y dyn i'r ddalfa yn Llanbedr, ac iddo gael y crys a adnabyddid gan fam David Owen fel ei eiddo, ar v carcharor.— Cydnabyddodd y carcharor ei fod yn euog, a dedfrydwyd ef i garchar am un mis. Meddwdod.—Cyhuddwyd J. Robertson a D. J. Williams, Abdraeron, o fod yn feddw acafreolus ar yr heol yn Aberaeron, nos yr lleg o Ebrill, gan y Sergeant Phillips. Dirwywyd y cyntaf i'r swm 0 10s a'r costau, a'r ail i 7s 6c a'r costau. BWRDD Y GWARCHEIDWAID.—Yn nghyfarfod olaf Bwrdd y Gwarcheidwaid, a gynhaliwyd dydd Mercher, Ebrill 13eg, dywedodd y Cadeirydd (Mr J. M. Howell), mai y swm a dalwyd allan i'r tlodion am y flwyddyn yn terfynu Mawrth 29ain. 1892, oedd X2,007 2s 2c. a bod hyny yn X81 14s lc yn llai na'r fiwyddyn flaenorol.—Cynygiwyd di- olchgarwch i'r Cadeirydd am ei wasanaeth yn y gadair am y flwyddyn oedd yn terfynu gan Mr J. D. Jenkins, Rhydybenau. Eiliwyd gan Mr D. Thomas, Pantcoch, yr hwn a ddywedodd fod gawddo feddwl uchel am allu a diwydrwydd y Cadeirydd, a'i fod yn gobeithio sicrhau ei wasan- aeth fel Cadeirydd am flwyddyn eto. Cynygiodd Mr James Evans, Esgerwen, fod diolchgarwch yn cael ei gyflwyno i Major Price Lewes am ei was- anaeth gwerthfawr fel Crdeirydd Bwrdd y Ffyrdd Plwyfol. Dywedodd Mr Evans ei fod yn edmygu y Major fel cadeirydd, yn enwedig am ei awydd a'i ofal bob amser i wybod a deall syniadau y distadlaf o aelodau y Bwrdd.—Cynygiwyd diolch- garwch i'r is-gadeirwyr, Mr Jenkin Jenkin, Blaen- plwyf, a Mr D. Thomas, Pantcoch, gan Mr J. M. Howell. Dywedodd fod yr olaf yn hynod am ei brydlondeb a'i ffyddlondeb. Nid oedd wedi colli un cyfarfod yn ystod y flwyddyn, ac yr oedd hyny yn syn wrth gofio ei fod yn byw yn mhell, a bod y gauaf wedi bod yn oer a garw.—Cynygiodd Mr Morgan Evans ddiolchgarwch i'r Swyddogion am eu gwasanaeth. Eiliwyd gan Mr Jenkin Jenkins yr hwn a ddywedodd fod ganddynt y Clerc goreu yn y wlad.
CEINEWYDD,--
CEINEWYDD CROESAWN SYR MARTEINE LLOYD, BARWN.— Dydd Llun diweddaf, talodd y pendefig urddasol o'r Bronwydd ymweliad a'r Ceinewydd ir dyben i ddiolch i'w gefnogwyr am ei ddychwel- yd i'r Cynghor Sirol gyda'r fath fwyafrif da, a hyny heb ofyn iddo drafferthu i ganfasio neb. Yn gydymaith iddo yr oedd yr enwog feddyg o Castellnewydd, Dr Powell. Aeth torf fawr i gyfarfod a'r cerbyd a'u cludai, rhyddhawyd y ceffylau, a thynwyd y cerbyd yn orfoleddus drwy brif heolydd y lie gan ugeiniau o bobl. Aeth- pwyd i'r Ysgoldy, ac ar ol i'r Cadeirydd-Dr Evans,—agor y Cyfarfod, diolchodd Syr Mart- eine yn wresog i'w bleidwyr am ei gefnogi mor wrol ac yr oedd yn teimlo yn llawen fod llwydd- iant wedi coroni eu hymdrechion. Addawodd wneud ei oreu yn mhob modd i'w gwasanaethu yn ffyddlon, ac i ddwyn y Ceinewydd i fwy o sylw a bri. Siaradwyd wedi hyny gan Mr W. Timothy, Cadben Morgan Dr Powell, Cadben Davies "Zen- obia," a Mr Lewis Davies. Dywedai Mr Davies fod y fellten wedi bod yn ddychryn i ddynolryw am ganrifoedd hyd nes y darfu i Franklin lwyddo i roddi cwlwm ar ei chynffon, a'i darostwng i was- anaethu dyn. Yr un modd y gellid dywedyd o bosibl am y bendefigaeth. Bu pobl yn crynu gan arswyd rhyw bendefig mewn gwahanol barthau o'r deyrnas, ond yr yr oeddent hwy yn y Ceinewydd wedi penderfynu gweud y bendefigaeth yn was- anaethgar iddynt, ac felly wedi sicrhau gwasan- aeth Syr Marteine i ddechreu cael y cynllun i weithrediad. Terfynwyd un o'r cyfarfodydd mwyaf brwdfrydig gawsom er ys llawer dydd yn y Ceinewydd drwy roddi tair bloddest i Syr Mart- enie, a thair arall i'r Arglwyddes Lloyd. —I.
I LLANARTH
I LLANARTH CYFARFOD CYSTADLETIOL.—Cynhaliwyd cyfar- fod cystadleuol eleni eto fel arferol, yn Ysgoldy y Bwrdd yn y lie uchod, dydd Gwener y Groglith, pryd y daeth tyrfa luosog yn nghyd, fel ag y llan- wyd yr adeilad yn fuan ar ol agor y drysau. Cym- erwyd y gadair gan yr Uch-Gadben Anderson Lone, yr hwn a aeth drwy ei waith yn dra chan- moladwy. Cafwyd anercdiadau gan- amryw o'r beirdd cyn myned yn mlaen at waith y cyfarfod. Am y llythyr Mab at ei rieni wedi ymadael a'i gartref am y tro cyntaf," goreu H. L. Jones, Nant- ernis. Am y Ffon Gollen, goreu E. Jenkins, North Parade, Llanarth. Am adrodd Y bachgen rhyfedd," o Drysorfa y Plant, i blant dan 15 oed, goreu H. Davies, Mydroilin ail: H. Williams, Llanarth. Unawd, i blant dan 15 oed, "lesu'n myned heibio sydd," Odlau'r Efengyl, goreu H. Davies, Llwyncelyn, Mydroilyn. Am ysgrifenu Gymraeg a roddwyd ar y pryd, goreu H. L. Jones, Nanternis. Solo Baritone, Can y Milwr," goreu E. Evans, Dihewid. Am y Llythyr Caru, 23 i law, goreu J. Evans, Heddgeidwad, Llanarth. Chwar- eu Llwyn Onn ar y Fife. goreu H. L. Jones, Nant- ernis. Am y tri phenill i'r Anwydwst, goreu Mr. Thomas, Sarnicol, Targarreg. Dadganu Wydd- grug i rai dros 50 oed, goreu S. Davies, C. M., Dihewid. Deuawd, Mae'r lan gerllaw," goreu E. Evans, Dihewid a'i gyfaill. Cyfieithiad i'r Cymraeg The sky lark," goreu E. T. Jones, Ty'npark 2il, Thomas, Jones, Pantcefnfach. Solo i ferch, Deio Bach," rhanwyd y wobr cyd- rhwng M. Davies, Tycoch, Llanarth ac E. Davies, Fronwen. Am y darn goreu i'w adrodd heb fod dros 60 llinell ar Yr ystorm," T. Evans, (Tel), Cwmaman. Dadganiad « A heibio'r cynheuaf," i gor o blant, goreu Cor y Wern dan arweiniad Mr J. W. Thomas. Pedwarawd, Gwaredigaeth Pedr," goreu Mr Lloyd Rees, Llanarth a'i barti. Dadganiad 0 am ras i garu lesu," rhanwyd y wobr cydrhwng Cor Llanarth a Chor Ceinewydd. Dadganiad Awn i ben y Wyddfa fawr," i barti o fechgyn heb fod yn 12 mewn nifer goreu, parti o Aberaeron dan arweiniad Mr J. Roberts. Dad- ganiad Y Blodeuyn olaf," i gor heb fod da,n 30 mewn nifer, pedwar yn cystadlu goreu Cor o'r Ceinewydd dan arweiniad Mr Gr. P. Davies, Beirn- iad y Gerddoriaeth ,Mr D. Lewis, Llanrhystyd; y Farddoniaeth, Mr Evans (Granellian), Mydroilyn; Amrywiaeth, Mr. J. M. Howell, Aberaeron Ar- weinydd, Mr J. E. Bees, diweddar ysgolfeistr Llanarth.
TREGARON
TREGARON Y FARCHNAD FISOL,-Fel y disgwylid gwnaed yr anrhefn mwyaf oedd yn bosibl yn nglyn a'r Farchnad ddiweddaf eto, drwy ei chynal mewn dau Ie ar yr un pryd, sef ar y Square, yn ol trefn ei sefydliad, ac yn y cae, fel yr ydys wedi ei chyn- al yn y blynyddau diweddaf. Y mae cryn lawer o lenyddiaefh (?) goethedig iawn yn cael ei gwas- traff u yn nglyn a'r cynhwrf. Dichon y ceir ham- dden i wneud adolygiad ar y cyfryw cyn bo hir. Dealler fy mod am gadw yn glir oddiwrth y naill blaid a'r llall; ond credaf ei bod yn ddyledswydd ar rywrai i ymyraeth. Nid wyf yn credu fod sef- yllfa pethau yn debyg o lwyddo tra y goddefir i ychydig bersonau ymgecran a'u gilydd yn nghylch y lie goreu i'w chynal. Gadawer i ni gael pwyllgor cryf, a chynrychioheth deg o'r amaeth- wyr, y porthmyn, a'r masnachwyr. Nid wyf yn gweled pa hawl sydd gan y naill o'r dosbarthiadau hyn ar y Farchnad mwy na'r llall. Os blaenoriaeth o gwbl, yr amaethwyr bia'r cyfryw; a chan mai hwy yw y dosbarth lluosocaf o lawer yn ein gwlad, credaf mai hwy ddylasent gael y nifer luosocaf ar y pwyllgor. Nid felly y mae pethau yn myned yn mlaen y dyddiau hyn ac nid oes neb yn petruso rhyw lawer pa un a ddaw amaethwr i bwyllgor ai peidio. Gwir y teflir gwahoddiad dros ysgwydd iddo fod yn bresenol mewn pwyllgor i'w gynal y pryd a't pryd; a hyny yn un o squibs di- enw y Farchnad ddiweddaf. Ai nis gellir cael personau cyfrifol i gymeryd yr achos mewn Ilaw, ac anfon cylchlythyrau i wahodd amaethwyr a masnachwyr y wlad gylchynol i gydgyfarfod ar adeg neillduol i ymdrin a'r pwnc yn bwyllog, i bwrpas, ac yn derfynol ? Rhaid cydnabod fod nn blaid yn amcanu mwy am gydweithrediad pwyllgor cymysg na'r Hall, yr hyn sydd yn arwydd o wendid yn mhlaid y Cae. Yr oedd y farchnad ddiweddaf wedi ei rhanu yn hynod gyfartal. o ran lluosog- rwydd anifeiliaid, ond yn y fan y daw'r drwg i fewn ydyw, fod y porthmyn yn gorfod rhedeg o'r naill le i'r llall, a cholli llawer o amser gwerthfawr yn mhoethder y farchnad. Dywedai rhai prynwyr trymion na ddeuent yma drachefn, oni ddygid gwell trefn oddiamgylch yn fuan. GLAN AERON.
GARN, BOW STREET
GARN, BOW STREET BAND OF HOPE.—Prydnawn dydd Mercher, y 13eg o'r mis hwn, gwnaeth tua dau gant o aelodau o'r Rhwymyn Gobaith y He hwn eu gorymdaith trwy Bow Street, yn cael eu blaenori gan Mr John Edwards, Garn Cottage, a'u canlyn gan y Parch T. J. Morgan, Pwllglas, Mri John James, Ty'nrhos, W. Morgans a D, Morgans, Garn House, J. T. Rees, Mus. Bac., a D. J. Morgans, Caer Villa. Yr oedd yr olygfa yn hynod o darawiadol Ar eu dychweliad i'r Garn yr oedd yno ddarpariadau hel- aeth wedi eu gwneuthur o De a Bara Brith, a chafodd pawb eu diwallu a'r danteithion, ac yna cafwyd cyfarfod gan y Band of Hope, pryd y cym- erwyd y gadair gan y Parch T. J., Morgan, a chaf- wyd araeth bwrpasol ganddo ar yr achos, ac yna aed yn mlaen gyda'r Rhaglen. Can gan y Band of Hope dan arweiniad Mr J. T. Rees, Mus. Bac. Adroddiad, Can' mlynedd i heddyw," gan Miss Margaret J Jones. Can gan y Band of Hope. Araeth, Creaduriaid direswm a diodydd meddw- ol," gan Miss S. A. James. Can gan y Band of Hope. Dadl, "Y Botel a'r Bachgen," gan Mr H. J. Owen a Miss M. Jones. Can, Yr hen hanes," gan Miss Davies Ysgol Bwrdd. Can Seisnig gan Mr E. Jenkyn Hughes, Nantyfallen. Dadl, 11 Y ddwy fam," gan Miss E. A. James, Mr D Morgan, Miss A. Jones, a Mr J. Pritchard. Yna cyflwyn- odd y Cadeirydd, ar ran y Band of Hope, Feibl wedi ei rwymo yn hardd i Mr John Edwards, yr oedd yn ysgrifenedig arno fel y canlyn:—"Cyf- lwynwyd y Beibl hwn i Mr John Edwards, Garn Cottage, gan aelodau Band of Hope y Garn, fel arwydd o ddiolchgarwch am ei ymdrechion gyda hwynt. Ebrill 13eg, 1892." Talodd Mr Edwards y diolchgarwch gwresocaf i'r aelodau am rodd mor werthfawr, a hyderai yn fawr y byddai i'r achos fyned yn mlaen yn llwyddianus yn y dyfodol fel yn y gorphenol. Hefyd, cafwyd golygfeydd ar- dderchog ar y Magic Lantern gan y Parch Griffith Parry, Llanbadarn dechreuodd gyda'r Planedau, ac aeth yn mlaen at ddarluniau o Daith y Pererin, yn nghyd ag amrywiol leoedd eraill, a rhoddodd ddesgrifiad helaeth o'r gwahanol olygfeydd, yr hyn a wnaeth y cyfarfod yn ddyddorol dros ben. Ar ddiwedd y cyfarfod, cynygiodd y Parch. W. Morgan ddiolchgarwch i Mr Parry am ei garedig- rwydd yn dyfod ar Magic Lantern a hyny yn rhad, eiliwyd ef gan Mr John James, Ty'nrhos, a phas- iwyd y cynygiad.
LLANON
LLANON MARWOLAETII MR J. P. LEWIS—Drwg genym hysbysu am farwolaeth y cyfaill caredig Mr J P Lewis, yr hyn gymerodd le boreu dydd Llun, y 18fed cyfisol. Bu yn dihoeni yn hir, a chyd- ymdeimlai pawb ag ef yn ei afiechyd blin. Yr oedd yn bregethwr cynnorthwyol gyda'r Metnod- istiaid Calfinaidd, ac yn barchus iawn mewn llaw- er o o-ylchoedd. Efe hefyd oedd; dosbarthwr ye BRYTHON yn Llanon; a gwnaeth lawer tuag at helaethu ei gylchrediad yn yr ardal.
PENNANT
PENNANT Dydd Mawrth y Pasg cynhaliwyd rehearsal gall gantorion cynulleidfaoedd y Methodistiaid Calfin- aidd yn nosbarthiadau Llanon ac Aberaeron. Cafwyd canu eithriadol o dda. Yr oedd y canu fu ar don Mr L. J. Roberts ar y geiriau 0 am ras i garu'r lesu," yn dra effeithiol. Yr oedd 170 o gantorion yn bresenol. Arweiniwyd gan Mr J. M. Howell, Aberaeron. Chwareuid y berdoneg gan Master Jenkin Davies Jones, North Road Aberaeron. Siaradwyd gan y Parchn J. Morgan, Rhiwbwys, a J. Davies, a Mr J. James, Y.H. Y mae y gymanfa i'w chynal yn Llanon dydd Gwener, Mehefin 13eg, pryd yr arweinir gan Mr J. Thomas, Llanwrtyd.
GLADSTONE A'R HEN GYMRO I-
Ymddiriedolwyr y capel uchod a Mrs Seymour Davies, mam y Milwriad Davies- Evans. Ni ddeallasom yn iawn beth ydyw, ond hyd yn nod a chaniatau fod Mrs Seymour Davies wedi llwyddo i ladrata Capel y Bont, a phob capel arall yn Sir Drefaldwyn yn y fargen, carem wybod gan y Parchedigion sydd yn golygu y Tyst, y Faner, Seven Cymru, &c., yn ol pa gyf- undrefn o resymeg, neu dduwinyddiaeth y mae yn bosibl cysylltu enw y Milwriad Evans a'r peth ? Nid oes a fyno efe a'r eiddo nac a'r mater mewn unrhyw fodd. Dangosodd amryw o brif AnghydfEurfwyr Ceredigion hyny mewn modd diamwys dydd Iau wythnos i heddyw drwy ei ethol yn unfrydol yn Gadeirydd Cyd-Bwyllgor Heddynadol y Sir. Ymddengys, pa fodd bynag, nad yw yn ddigon i geisio cysylltu enw y Milwriad Davies-Evans a helynt Llanbrynmair, ond drwy ryw gyfundrefn Gladstonaidd neu Wyddelig newydd rhaid i'r South Wales Daily News wneud ymdrech i gylymu enw Mr William Jones, yr ymgeisydd Undebol dros Geredigion a'r mater Dyna beth yw ei gwneud hi ivith a vengeance ¡" Mr Jones, yr hwn sydd yn dyfod allan ar ran ei frodyr Protestanaidd yn yr Iwerddon, i ymladd eu brwydr yn Ngheredigion yn erbyn y bobl sydd yn barod i'w gosod dan iau Ofleiriaid Pabaidd yr Ynys Werdd, y Mr Jones yma yn awr, mae yn debyg, sydd i gael ei wneud yn fwch diangol i gludo holl bechodau tirfeddianwyr Cymru i'r anialwch Rhaid fod achos y Gladstoniaid mewn cyflwr tra anobeithiol. > Mewn colofn arall gwelir hysbysiad fod y Parch Isaac Vance, gweinidog Presbyter- aidd, Gransha, Comber, Iwerddon, i dra- ddodi anerchiad yn Neuadd y Dref, Llan- bedr, nos Iau nesaf, yr 28ain cyfisol, ar •' Brotestaniaid yr Iwerddon, eu sefyllfa a'u rhagolygon." Dyma gyfleusdra i'r rhai sydd yn teimlo dyddordeb yn y pwnc Gwyddelig i glywed gweinidog Protestan- aidd sydd yn byw yn yr Ynys Werdd, yn lie cymeryd nwyfau ail-law oddiwrth bobl sydd yn honi eu bod yn gwybod pob peth am y Gwyddyl.