Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

j Y Llywodraeth aI Hen Gofadeiliau…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

[GAN Y GWYLIWR.] O'r Tibr, Westminster, Nos Fawrth, Awst 25, 1908 Y Llywodraeth a Hen Gofadeiliau Cymru, MAE'n dod i'iii -cof fod pobl dda yr hen Wlad a'r mwyaf ffodus o'm brodyr yn y Brifddinas yn edrych ymlaen gydag awyddfryd am •-< wythnos yr Eisteddfod." Yn y cynhulliad Eisteddfodol yn Llangollen, pe cawn fy ffordd, y carwn innau fod, ac nid yn gwylio gwleid- yddiaeth mewn na Thwr na pheth. Ac ar y fengoch i," chwedl fy hen gyfaill y Llyfr- bryf, nid af fi i geisio gwleidydda na'r wythnos 'ion na'r nesaf ychwaith; ond gan belled ag y mae a fynno gwleidyddiaeth a chwestiynau cenedlaethol. Mae'n tarro i fy meddwl nad ydwyf wedi dweyd gair yn y BRYTHON ar y Comisiwn Brenhinol a benodwyd ar derfyn y Senedd-dymor i wneud cofnod o lien Gofadeiliau Cymru, ac i gymeradwyo cadwcdigaetlv yinifer olion- ynt sydd yn haeddu hynny. Teimlad Cymro- aidd, a chariad at hynafiaetli y genedl y perthyn iddi, 'rwy'n credu, a barodd i Gang- hellycld y Trysorlys—ganddo ef y mae'r pwrs, onide ?-i roddi gwrandawiad mor barod i awgrymiad yr aelod dros Fwrdeisdrefi Caerfyrddin-Llwydfryn yr-Orsedd-y dylai Cymru yn gystal ag Ysgotland feddu'r modd- ion i achub yr encilion rhag myned yn gwbl i dir difancoll. Aiddgarwch y ddau Gymro gyda'u gilydd, mae'n ddiameu gennvf, a ddylanwadodd ar y Prif Weinidog i roddi ei lais yntau o blaid yr awgrymiad, ac ni byddai'n deg i mi adael allan Mr. Herbert Lewis, oblegid nid oes aelod Cymreig parotach nag ef i helpu ymlaen unrhyw fudiad fo yn ymwneud a hynafiaetli, dysg a lien ei wlad enedigol. Rhwng yr oil ohonynt, fe gafwyd yn lied ddidrafferth Gomisiwn Brenhinol i drin cwestiwn yr hen Gofadeiliau. 'Rwyf yn deall fod cyfansoddiad y Com- isiwn ar y cyfan yn rhoddi boddlonrwydd. Wrtli gwrs, ni foddiwyd pawb-ni wnelsid hynny hyd yn oed pe bai'r iComisiwn yn berffaith-ac ni raid i mi ddweyd nad oes neb yn honni ei fod felly. 'Does gan neb air i'w ddweyd yn erbyn y pen, sef y Prifathro Syr John Rhys, oblegid, fel y dywedir, nid yw yr hyn y mae ef yn anwybodus ohono ynghylch hynafion Cymru yn werth ei wybod Mae'r Athro lorwertli Anwyl—i roddi iddo yntau ei enw Eisteddfodol—yn gwybod cymaint am bopeth fel nas gall lai ra bod yn gaffaeliad" i unrhyw Gomisiwn. Fe ddywedir wrthyf fi gan wyr cyfrifol o Lerpwl fod yr Athro Bosanquet o Brifysgol y ddinas honno yn wr o gyrhaeddiadau uchel. Adwaenir Mr. Vincent Evans gan liaws o'i gyd- wladwyr fel cynrychiolydd Cymdeithas Hyn- afol y Cymrodorion ac ysgrifennydd Cym- deithas yr Eisteddfod. Y maehynafiaeth a lien yng ngwaed Rheithor y Cneugae, Dr. Hartwell Jones, a theimladau Cymreig yn rhedeg yn gryf yng ngwythiennau yr Hen- adur Hughes o Ciaerdydd. I'rysorydd y Cambrian Archajlogical Association yw'r Milwriad Morgan o Abertawe, a chyfrifir ef yn awdurdod ar ein hen Amddiffynfeydd. Yn yr ysgrifennydd, Mr. Edward Owen, o swyddfa India, brodor o Gaergybi, y mae i'r Comisiwn wr profiadol a hynafiaethydd gallu- og. Digon hawdd, hwyrach, fyddai cry- bwyll ereill ddylasent fod ar y Comisiwn, ond gydag ymroddiad yr ydym yn sicr y gall y Comisiwn fel y mae wneuthur gwaith ar- dderchog dros Gymru.

Advertising

Rhwng Dolgellou ac Abermaw.

Advertising

-----_---Gyda'r Clawdd.

OPIK