Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

MEBGHEO GYMRU FU.| --

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

MEBGHEO GYMRU FU. | Gan GWYNETH VAUGHAN. PENNOD XXIII-NEST-MERCH RHYS AP TEWDWR. Xr fedd Cymru lianes mwy rliamantus nag eiddo'r Dywysoges Ncst,na chwaith un a chymaint o'r gofidus ynddo a'i gymeryd i gyd i ystyriaeth. Galwydlii yn Helen Cymru am fed ei helyntion earwriaetliol hi wedi creu o'r bron gymaint o drallodion cenedlaethol ag eiddo Helen o Gaerdroia yn Groeg. Druan o Nest, faint bynnag oedd ei beiavi, nis gallaf lai na chredu fod beiau eraill fu yn difetha ei bywyd lawn mor fawr os nad gryn lawer yn fwy. Meddai hi ami i rinwedd digon prin hyd hedd- yw, ac yn ddiddadl gwroniaid fu hiliogaeth Nest, heb gorach yn eu mysg. Waeth pwy fyddai y tad, enwogion fu plant y dywysoges Nest. Feallai nad ydyw'n hawdd i ni yn yr ugeinfed ganrif ddeall y gwahaniaeth mawr cydrliwng ein safon ni o foesoldeb a'r eiddo'r unfed ganrif ar ddeg. Digon prin y gwnaeth- ai Abraham a Jacob flaenoriaid eglwysig yn ein dyddiau ni, a chan ein bod yn medru pasio lieibio beiau eu lioes yn yr hen Tddewon mor mor hwylus, hwyrach ond i ni ystyried tipyn y bydd yn haws i ni faddeu i Nest, na phe ceisiem faddeu i feibion anfoesol pendefigion Prydain heddyw sydd lawer iawn ohonynt yn fwy pwdr en hyiuarweddiad nag a fu Nest eciwed yn ol yr hanes am dani sydd ar gael ae Hid oes gan beehaduriaid aflan ein dyddiau ni yr un esgns dros eu hanfoesoldeb. Ceisiaf roddi stori Nest mor gywir ag y medraf weu yr edafedd a gesglait) yma a thraw yngliyd. Pan laddwyd ei thad y Tywysog Rhys ap Tewdwr yn 1093, yr.oedd Nest ieuanc gyda'i mam ynghyfraith—neu ei mam wen yn ol tafiodiaith Meirion—yng Nghastell Dynefor yn disgwyl Rhys yn ol o'r frwydr. Ond ni ddaeth y tywysog yno mwy, dim ond y genad- wri ei fod wedi ei ladd. Diangodd ei wraig a'i mab bychan Gruffydd, ond awd a Nest i gastell Caerdvdd He yr oedd y Tywysog Henry —wedi hynny Henry I.—o Loegr yn glodd- esta gyda'i gyfeillion. Swynwyd y tywysog gan brydferthwch anghymharol Nest o holl ferched Prydain ni fu un mor hardd a hi, ac yn lie ei noddi yn anrhydeddus fel y dylasai, neu ei chvmeryd yn wraig iddo ei hun, dar- ostyngodd Henry dywysoges o linach fren- hinol Cymru, a gwnaeth ferch Rhys ap Tew- dwr yn ordderchwraig i fab y bastard o Normandi. Mae'n anhawdd dwyn dyn oddi- ar ei dylwyth. Ganwyd mab i Henry a Nest, galwyd ef yn Robert Fitzroy a chrewyd ef yn larll Caerloyw. Er mor brydferth oedd Nest diau i Henry flino ami, ac yn ol arfer brenhin- oedd rhoddodd hi yn wraig i arall, sef i Gerald de Windsor, ac arglwyddiaeth castell Penfro gyda hi. Ymddengys oddiwrtli yr hanes fod Gerald yn hoff o'i wraig, a gallem feddwl nad oedd sercli Nest at ei gwr yn wan, canys help- odd ef i ddiahe o ddwylaw Owen ap Cadwgan a'i wyr ar y draul o syrthio i'w dwylaw ei hunan. Rywfodd neu gilydd prydferthweh Nest fu'r achos o'i holl helvntion. Pe heb ei gwyneb tlws a'i chorff lluniaidd digon tebyg y c-awsai Nest fyw bywyd llawer amgenacli. Ciywodd car iddi- Owen ap Cadwgan—son am ei harddweh a dygodd hi a'i phlant yn y nos o gastell l'cnfro, ac er holl erfyniadan ei phriod hi. a'i dad yntau, a 11 id y brenhin Henry. ni fynnai adael i Nest a i phlant gael ei rhyddid i ddychwelyd i Benfro. Ymhcn tipyn per wad i wy d • ef i anfon y plant yn ol at eu tad,ond cadwodd Nest mewn caethiwed hyd nes y gorfu iddo ddianc ei hun am ei fywyd, pryd y cafodd Nest y siawns i ddychwelyd adraf i Benfro at Gerald a'i plilant. Lladd- wyd Owen ap Cadwgan wedi hynny gan Gerald yn ddial am ei gamwedd tuag at ei wrai. Pan fu i'r brenhin Henry addaw mynvdd o aur i hen" lew Gwynedd os rhoddai Gruffydd ap Rhys i fyny iddo ef, Nest ei chwaer d larfu anfon canad i rybuddio ei brawd am y fradwriaetli, ac yma a thraw ceir hanes ambell i weithred o eiddo'r dywys- oges sydd yn esbonio ei chymeriad pe cawsai chwareu teg. Credaf y Imasai Nest, pe'i ham- gvlchiadau yn wahanol, yn un o frenhinesau gorou Prydain. Ond os hu i'r Nortnaniaid faeddu y Gymracs, maent yn ddyledus iddi am fagu mwv o enwogion na'r ini ohonynt. Bechgyn Nest oedd y dewrion fu ar y blaen ymhob ymgyrch o bwys yn Mhrydain yr adeg lionno. Wedi marw Gerald ymbriododd Nest ag Arglvvydd Raglaw castell Ceredigion a, bu iddynt ddau o feibion yn dwyn yr enwau, Fitz Stephen a Fitz Henry, ar ol en tad Henry de Stephen. Yr un meddwl sydd i Fitz Normaniaid ac sydd i Ap y Cymry. Yn Gym- raeg, Robert ap y Brenhin oedd enw larll Caerloyw, mab hynaf Nest,Robert Fitzroy. Yr un modd Fitz Ge,-ald oedd cyfenw meibion Gerald de Windsor. Treuliodd Nest y gwedd- ill o'i hoes yn dawel ddigon yng Nghastell Ceredigion, a byddai ei merch Angharad, mam Gerallt Gymro, neu Giraldus Cambren- sis, a'i meibion yn ymweled yn fynych a hi yno. Ar ol y fath fywyd mor llawn o'r cyn- hyrfus a'r phrofedigaethus a'r eiddo Nest, rhaid ei bod yn mwynhau y nawnddydd tawel heb stormydd. Mae ami i ysgrifenn- vdd wedi gwneud yr oil a allant i ddangos Nest yn y liiwiau dnaf, ond fel Cymraes nis gallaf fi. lai na chredu iddi gael llawer o gam. Un rheswm dros y grediniaeth yw v ffaith ei bod hi a'i plilant bob yr un ar y fath delerau rhagorol a'u gilydd. Pe rhyw faeden ddrwg fuasai Nest fel y myn llawer i ni gredu, nid yw'n debyg y buasai ei phlant mor gyfeillgar a hi. na chwaith y buasent yn troi allan yn blunt mor enwog. Arferai Gerallt. Gymro ymfalchio yn ei debygrwydd i'w nain. Mae gormod o duedd ynom ni fel Cymry i gredu hen chwedlau Seisnig am ein hynafiaid. bob ystyried y gorthrwm ofnadwy, n'r drin- iaeth greulon a dderbyniasant gan y Pagan- i aid Saeson." Stori dorcalonus iawn fuasai stori Nest yn ei diwyg Gymreig. Tywysoges ieuanc wedi ei chymeryd yn garchares, ei thad wedi rnan", ei brawd etifedd y goron yn ffoad- ur gyda'i fam, a harddweh Nest a'i hieuenctyd yn ei handwyo. Mae'n deilwng o sylw na fu i Hagluniaeth wenu ar gysyltliadau teuluaidd Henry 1. Pwy wyr, feallai fod Brenhin brenhinoedd ac Arglwydd arglwyddi yn talu'r pwyth iddo am dda.rostwng merch Rhys ap Tewdwr yn nydd ei phrofedigaeth. Dalen- Hail duon vdvw hanes brenhinoedd Lloegr ar hyd y blynyddoedd, dioddefodd Ilawei- fieb- law Nest, gam ar eu llaw. Mae'n hen bryd i n i ystyried pwy mewn gwirionedd oedd y pech- aduriaid yn lie cymeryd pob hen chwedl fel efengvl. ac anghofio fod dwy ochr i bob stori, yn enwedig pap geir Sai., yn ysgrifennu History of England." (I barhau.)

0 EIFION A MEIRION.

BARA BRITH.

Colofn y Beirdd

KNGLYN

YR EiTHINEN.

PAID TI A MADDEU.

LLINBLLAU.

Advertising