Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

NODION 0 DDYFFRYN CLWYD.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

NODION 0 DDYFFRYN CLWYD. GAN E. S. Swn cwyno sydd yn mhob man y ffordd yma y dyddiau hyn. Nid yw y tywydd gwlyb yma heb osod ei nod ar ddegau o drigolion y Dyffryn, a'r Influenza sydd yn cael y bai. Yr oedd hen fonwr o Sais yn byw yn yr ardal lle'm magwyd i, yn cadw nifer o weith- wyr, a chymerwyd un o honynt yn sal, pan ddaeth yr Influenza o dan yr enw hwnw i'r wlad yma gyntaf. Nid oedd yr hen frawd hwnw wedi llwyddo i feistroli y gair, a phan aeth at ei feistr i ddweyd yr aehos ei fQd wedi methu do,i at ei waith er's dau ddiwrnod, dywedai, Wir, mistar, yr wyf wedi bod yn Pensyl- vania am ddau ddiwrnod." Dear me," meddai'r meistr, a ti ronndio'n ol yn quick iawn." Wel, Mr. Gol., bum innau yno yn ddiweddar, ond cymerodd i mi yn agos i bythefnos cyn roundio'n cl," a dyna y rheswm i mi fethu gosod fy nodion wrth eu gilydd yr wythnos ddiweddaf. Yr hyn ddywed llawer wrthyf y dyddiau hyn ydyw, nad ydynt yn cofio am y fath wlybaniaeth yr adeg yma o'r flwyddyn. Y mae afon fechan Clwyd yn afon fawr y dyddiau hyn, wedi ymchwyddo dros ei cheu- lanau yn mhell. Y mae genyf yn fy ngardd flodau o flaen y ty yr hyn sydd yn tynu sylw llaweroedd yn ystod y tri mis diweddaf, sef sypyn mwyaf cyfoethog a phrydferth o friallu a welais erioed yn Mai. Nid yn unig y mae y briallu a llygaid y dydd fel pe wedi anghofio eu hamser, ond hefyd yr adar-y maent yn canu mor swynol y boreuau hyn ag y clywais hwynt nemawr erioed ar foreu yn y gwanwyn. Da oedd genyf ddarllen Colofn y Merched am yr wythnos ddiweddaf, a'r ganmoliaeth rydd Gwyneth Vaugban i'r Hume Magazine." Mi gefais ddau o honynt i'm ty y dydd o'r blaen, ac wedi i mi daflu golwg drostynt, gwelais ei fod yn gyboeddiad bychan ardderchog i'w osod yn nwylaw y rhai hyny sydd yn hoffi darllen y Novelettes isel eu chwaeth, er treio codi eu chwaeth at y da, y pur, a'r sylweddol, a'u dwyn yn ol eto at yr Ysgol Sul a'r Beibl.

RUTHUN.

DINBYCH.

Advertising

CYNGOR PLWYF CORWEN. AT ÕLYGYDD…

GLAN'RAFON, LLA WRBETTWS.

COR AY EN P. S. A.

CORWEN P.S.A.

Family Notices