DARLLENWCH ERTHYGLAU (6)
News
Y BALA. CYNGHERDD.Afreidiol dyweyd mai llwydd- iant perffaith yn mhob ystyr ydoedd cyn- gherdd genethod yr Ysgol or Ganolraddol nos Fercher diweddaf. Amlwg ydoedd fod Miss Owen, y brif-athrawes, a'i chyd-athrawesau wedi cymeryd trafferth neillduol i'w addysgu a'u paratoi gogyfer a'r cyngherdd, ac y mae y clod uwchaf yn bosibl yn deihvng iddynt hwy a'r genethod am droi y cyngherdd mor boblog- aidd a llwyddianus. Yr oedd yr arddangos- fa goginio, gwniadwaith, &c., yn y prydnawn, hefyd, yn ddangosiad eglur y deil Ysgol Gan- olraddol y merched yn y Bala i'w chyimaru ag unrhyw ysgol yn Nghymru am ddiwyd- rwydd a ragoriaeth eu gwaith. DYRCHAFIAD.—Da genym ddeall fod Cor- poral G. E. Roberts, "B." Co., 3rd V.B., R.W.F., Porthmadog (gynt o'r Bala). wedi ei ddyrchafu yn Rhingyll. Dymunwn yn galon- og longyfarch Sergeant Roberts. Y MASNACHWYR.—O hyn allan bydd mas- nachdai y Bala yn gauedig am 7 o'r gloch yn yr hwyr, gyda'r eithriad o dri mis yn y flwyddyn, Gorphenaf, Awst, a Medi, pryd yr agorir hyd 8. Rhyw gau go drwsdan, onide ? PRIODAS.- Ddydd Llun, yn nghapel yr Annibynwyr, unwyd mewn glan briodas Miss Evangeline Jones, merch ieuengaf Mr a Mrs Jones, Gwernyrewig, Bala, a. Mr G. Davies- Hughes, mab hynaf Mr D. E. Hughes, Draper, Queen's Square, Dolgellau. Gwein- yddwyd y seremoni gan y Parch T. Talwyn Phillips, B.B., Bala, yn cael ei gynorthwyo gan y Parch David Eyans, M.A., Abermaw (ewythr y priodfab). Rhoddwyd y briodferch ymaith gan ei brawd, Mr Morris Jones, a gwasanaethwyd fel morwynion priodasol gan Misses Miriam, Annie, a Sarah Jones (chwior- ydd) Y gwas ydoedd Mr D. R. Williams (cefnder y priodfab). Daeth llu i'r capel i fod yn dystion o'r amgylchiad dyddorol, a derbyniwyd y par ieuanc ar eu dyfodiad allan gyda chawodydd o reis a confetti. Gwisgai y briodferch grey dress a white hat. Wedi'r seremoni cynhaliwyd y wledd briodasol yn Gwesty y Plascoch, ac yr oedd yn bresenol yn mhlith eraill, Mrs Morris a Miss Hughes (chwiorydd y priodfab), Parch a Mrs Evans, Abermaw Mr H. Jones, Minydon, Towyn Parch a Mrs T. T. Phillips, Bala, &c. Y mae yr anrhegion priodasol yn lluosog a chostus. Eiddunwn i'r par ieuanc fywyd priodasol hafaidd a dedwydd, ac y bydd iddynt gael estyniad hirhoedledd i'w fwynhau.
News
CYFLWYNEDIG I Mr G. Davies-Hughes, Queen's Square, Dolgellau, ft Miss Evangeline Jones, Gwernyrewig, Bala, ar ei hymuniad mewn glan briodas Ebrill 6,1.903. Ar Griffith a'i deg efengyles Disgyned bendithion o hyd, Cyflawnder bendithion y nefoedd, Cyflawnder bendithion y byd Mae gwanwyn eu bywyd yn ddedwydd, I'r diwedd boed ddedwydd eu hoes, A phan gyfarfyddont a thristwch Haul nef fo'n goreuro eu croes. Ar ddydd y briodas boed heulwen Ar ben Cader Idris heb ball, A llonydd boed dyfroedd Llyn Tegid Y naill mewn cymundeb a'r llall; Dylifed aur fryniau Meirionydd 0 gynwys eu coffran yn rhydd, Anghofied ystormydd eu rhuad, Y chweched o Ebrill yw'r dydd. Wel, frawd a chwaer hoff, nac anghofiweh Roi cynes wahoddiad i'r Gwr Fu gynt mewn priodas yn Cana, Efe fyddo'oh nodda a'ch twr; Os iddo eich oil ymddiriedwch Fe'ch eofia drwy'r byd a thrwy'r bedd, A phan y'ch gwanheuir gan angau Cyfarfod gawch eilwaith mewn hedd Mool View, Dolgellau. R. M. Ebrill 3, 1908.
News
Marwolaeth Mr. William Hughes, Gof, Bala. Wedi misoedd, os nad blynyddoedd, o gys- tudd blin a phoenus, cymerwyd Mr William Hughes oddiwrth ei waith at ei wobr nos Wener diweddaf, yn 58 mlwydd oed. Nid yn ami y ceir dyn wedi myned trwy gymaint o helbulon afiechydol yn dyoddef mor ddis- taw, dirwynach, a Mr Hughes. Ond pan y cofiem mai un distaw, addfwyn, a charedig ydoedd pan yn iach, efallai nad ydym yn rhyfeddu cymaint ei fod mor amyneddgar ar wely cystudd. Dyma un o'r dynion hyny sydd mor brin yn ein gwlad-dyn tawel, digyffro, aJ chanddo air da i bawb. Ychydig o elynion allasai dyn fel William Hughes wneyd, oherwydd parchai pawb fel eu gilydd, ac yr oedd ei gymeriad rhagorol yn enyn cyd- ymdeimlad pawb a'i hadwaenai. Yr oedd yn aelod o Gynghor Trefol y Bala, ond oher- wydd a plder a meithder ei ymosodiadau af- iechydol, ychydig o amser gafodd i wasan- aethu y trethdalwyr. Pe buasai yn mwynhau iechyd priodol, credwn y byddai yn un o'r aelodau mwyaf defnyddiol a gweithgar. Yr oedd hefyd yn aelod gyda'r Methodistiaid ac yn athraw yn yr Ysgol Sabbathol. Bu farw fel y bu fyw, yn dawel, diymffrost, a charedig. ac y mae ein cydymdeimlad liwyraf yn cael ei gynyg i'w weddw a'i blant a'r perthynasau oil yn eu galar wedi eu gadael yn unig ac amddifad o briod ffyddlon, tad addfwyn, a pherthynas caredig. Gadawed Duw ei aden amddiffynol drostynt.—E.W.E. >:1!i"l'"¡," ..b-r
News
HELPU MR. W. J. PARRY. Bydd yr iawn a'r costau yr archwyd i Mr. W. J. Parry eu talli yn y cynghaws diweddar o Z3000 i ^4000 Yn gymaint a bod, Mr. Parry wedi gwasanaethu'r cyhoedd yn ffydd- Ion am flynyddau, ac wedi gwneud 11a wer dros achos y gweithiwr, ffurfiwyi pwylhior dylanwadol i gasglu arian at dalu'r swm. Wele enwau'r swyddogion—Cadeirydd, Mr. I John Jones, Ogweti Terrace Is-gadeirydd, Parch. W. W. Lloyd, Brynteg Ysgrifenydd Arianol, Mr. E. R Jones, Ysgol y Bwrdd Trysorydd, Mr. Hugh Hughes. 30, Braich- melyn, Bethesda. Nodir y symudiad gan rai o brif wyr cyhoeddus Cymru a Lloegr.
News
CYNWYD, Cyfarfod Dirwestol,—Nos Iau, Ebrill 2il, cynhal- iwyd oyfarfod dirwestol yn addoldy'r MethodistiaiJ, dan lywyddiaeth Mr Christmas Roberts. Ar ol canu emyn, adroddorid Miss Nellie Rowlands, Der- wendeg, y bedwaredd benod o'r Diarhobion yn hynod o dda, o raD rhoddi y nieddwl allan acyn synhwyrol. Arweiniwyd mown gweddi gan Mr. Win. Williams. Ton Gynulleidfaol. Anerchiadau barddonol gan Mri. Daniel Jones a W. Davies. Dadl gan Kitty Daviies a Hannah M. Roberts. Datganiad gall barti Mr. Wm. Evans. DarJjeniad gan Miss Jones, Board School. Cystadleuaeth datilen i bob oed, goreu, Nellie Rowlands, Howell Davies, a Kitty Davies. Adroddiad, Arlunydd medrus, &c." yn rhagorol gan Mr. Evan Ed. Evans. Datganiad gan barti Mr Wm. Evans. Anerchiadau gan Mri. Wm. Williams, Dr. Jones, a J. Rhys Edwards. Cafwyd yn anerchiad Mr. Wm. Williams sylwadau ar fywyd a llafur y diweddar Mr W. S. Caine, A. S, Adroddiad, Bwth- yn y meddwyn," gan Miss Wood, Boaird School. Emyn ymadawol. Cynelir y cyfarfod nesaf yn add- oldy yr Annibynwyr, Ebrill 16eg. Drwg genym ein bod wedi gadael allan yn yr ad- roddiad o'r cyfarfod diweddaf, adroddiad, Yn nghamrau fy nhad," yn hynod o dda, gan Lizzie Tamar Williams, Salem hefyd anerchiad farddonol gan Mr R. Edwards (Trebor Trystion). Enwyd Edwards, Miss Pritchard, a Miss Wood i gynrychioli y gymdeithas ddirwestol yn Nghynwyd er cynorth- wyo darparu cyfleusderau dirwestol mewn bwydydd ar faes yr Arddangosfa Amaethyddol ddiwedd yr haf. Y GWANWYil. Daeth y gwanwyn eto Mor Bwynol ag erioed, Y ddaeafc wedi deffro, Blaguro wna y coed Yr adar mfin yn pyncio I Peroriaeth ar y pran, Ac yntaa y glaswelltyu, Yn siriol godi' ben. DANIEL JOXIB.
Advertising
AT BERCHENOGIOH j 150 o Ddefaid Mynydd ar Vi erth. AR DIF I BUCHES O DDEFAID YN P^ILLDIT J mynydd GWERCLAS, 0 bentref Cynwyd.—Am fanyl»°n | W. E. WILLIAMS, J,. GWERCLAS, C 0 RWJ" Ar Wertb, rTSSt CERRIG at adeiladu. fallylioat \J balmantu neu copeing. A ymofyner a i T. L. PHILUM^ CORWEN SLATE ^^0. YSGOL Y BWRDD, LLAHDO^ EISTEDDFOfl PLANT DERFEL, GWENER Y CRO(iLITIll (Dan nawdd Cymdeithas Plant —. Llywyddion,— J. E. JONES, Ysw-' a R. OWEN, fsw., » ^weinydd,—MK. J. J. Beirniaid Cerddorol- B, LL. EVANS, Tsw., Cyfeilyddes,—'Miss 0O@ WRHAGOLYGON ARDD^Rgyat. am gyfarfodydd tebyg i'r hen alIlS "t Cystadleuwyr o Llynlleifiad, ^festiD^0^' dyfrdwy, Corwen, Llan Irillo, Baia, n Awf Oymerir rhan yn y eysta.Hu Cef" la(2). Llmdrillo a Llandderfel Corau x piact f ^un$. s. m, Llandrillo, Llandderfel; Cora 0(jd Llandderfel; Hef d Parties l6eg o 1 QV" HER UNAWD GYMR^el4n *>' Cwpan Arian Gerfiedig 8 (nett.) 21 yn ymgeisio. Adroddiadau Oymraeg a Saesne8> yr un. 37 yn ymgeisio. 1 *0a 5-3°.(009)1 Dechreuir y cyfarfodydd am !• V iad i mewn trwy docynau 6c. (P^y jjaHe3f 1/6 (dau gyfarfod). Plant dan 16 gBl¡\1V, DARPERIR BWYD AR GYFER VIEIT dd, -7T vrl^elir g^TAm amser y PR :.LIMb 6V ei gala, 8 gf, yn awr yn barod, ac i'w cael yn 7la0dri^' Liev»elyn Edwards, Stationer; Evans LJechwedd Llan, y" farfod WEYi:,Vvi3K.-Cyu'«ii' Blynyddol y GymdeithaB ife fri 0'9 ar ol cyfarfod yr hwvr. i aelodau yn unig trwy Xjiyfr/rf0A- TQlg^ r?TheI^ycyf 4 1 5 o r gloeli, a° lieI-y Gellir ymaelodi yr un pryd- I yggfi' J. CYFARFOD LLEN^^1 POBL lEU AINC 1i POBL LEUAINOTCEWEZE^ (EBRILL 10, 1903,) JOES, Llywydd—Mr. J- Arweinydd-Mr. gOB Cyfeilyddes— iliss MY*^ A «i y P*y Sylwer.—Bydd Prelims os sagonrbeidial.