Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

18 erthygl ar y dudalen hon

Hanesyn Mam Ienanc.

Lladd ei dau blentyn

GWYLIAU HAF.

Undeb y Brythonlaid,

DRYFHEWCH Y CYFANSODDIAD.

JDros Donnau'r Werydd ]

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

J Dros Donnau'r Werydd ] "Diych"W—^ dyf' nfad a S;inI-vn o "Drych —"Mae Fitzsimmons yn Jeilwng o glod neillduol am ei ymdd c-j^i weai ei orch- fygiad gan Jeffnes. isl yw .vedi ymes- gusodi, na hygylu, na beio neb, eithr cy- meryd ei dynged gyda gostyngeiddrwydd teilwng o Job. Tebyg foci gandtio ffydd yn y drefn fawr sydd wttui rhagordeinio oodiad a chwymp pobpeth." O'r pymtheg baban a anwyd i rieni Cym- reig yn mhlwyf Madison, Sir Jackson, 0 yn ystod y flwyddyn yn diweddu Mawrth 1 31ain, 1899, nid oodd ond un bachgen. Pa ryfedd i'r "Standard Journal" ofyn "What is the matter down in illadiron? That is not the way to increase the Republican vote, or to furnish Welshmen for hus- bands." Bachgen newydd ar lwyfan Eisteddfod America ag sydd yn debyg o wneyd nod yn y dyfodol yw Taranlais Thomas. Mae ganddo rai manteision naturiol; saif yn giamp o ddyn golygus, gwridgoch, dros chwech troedfedd o hyd, ac yn pwyso 225 o bwysau, a ohanddo gyfoeth o lais cryf a soniarus, ac y mae yn ddigon call i wybod fod angen diwylliant arno, a ohlywais ei fod o dan addysgiaeth y Protfeswr Sauvage, o ,N;ew York;. GeJlir disgwyl Uawer oddi- wrtho yn y dyfodol. JVIehefin 29ain, yn 5318, 5th Ave., Chi- cago, 111., bu farw Mr Evan Davies, yn 60 mlwydd oed. Ei afieehyd oedd cancr yn y cylla. Ganwyd a magwyd ef mewn lie o'r enw Waun Dasa, pIwyf Llanfihangel-yn- Pennant, sir Feirionydd. Dysgodd y grefft 0 saer coed, a bu yn dilyn ei grefft am rai blynyddau yn Barmouth a Towyn, ac yn nglyn a thlotty Machynlleth. Ymfudodd i'r America yn 1864, gan ymsefydlu yn Chi- cago. Yn y flwyddyn 1878, ymbriododd a gwraig weddw enedigol o sir Bonfro, o'r enw Mrs Manley. Trwy ddarbodaeth daeth i amgylchiadau cysurus, a chafodd bob gofal a charedigrwydd gan ei briod ac eraill hyd y diwedd. Gwasanaethwyd ddydd yr ang- ladd gan y Parch J. C. Jones, a ohafodd ei gladdiu yn barchus vn Oakwood Cemetery. Meheffn 9fed, yn Round Valley, Californ- ia, bu farw Mrs Mary E. Jones, gweddw J. E. Jones, yn 77 mlwydd, 10 mis, a 21 diwrnod oed. Ganwyd Mrs Jones yn Bedd- gelert. Er pan yr ymfudodd i'r wlad hon ac y croesodd anialdiroedd y gorllewin mewn wagen, gyda gwr claf a thri o blant, gwelodd Mrs Jones lawer o galedi, ond trwy y cyfan, meddianodd ei hun mewn amyn- edd. Symudodd ei phriod o Nevada i Owens Valley yn 1864, a'r flwyddyn ganlynol dilyn- wyd ef gan ei deulu ac yno y buont yn arwain bywyd diwyd, gan enill parch gan bawb ar gyfrif eu lletygarwch a'u natur dda. Mai 9fed, yn nhy Mr James Rice, Wauk- esha, Wis., tra yno ar ymwe'liad am ei iech- yd, bu farw y brawd anwyl a brwdfrydig, Wm. P. Hughes, Chicago. Mab ydoedd i William a Catherine Hughes, Penybryn, Bethesda, G.C. Cafodd fanteision addysg rhagoroL Ar ol treulio rhyw dymor mewn r, ysgol yn Liverpool, bu yn ngwasanaeth Greig Bros., ac yna gyda R. Davies & Co., a. gwnai ei gartref crefyddol yn eglwys An- nibynol Park road, dan fugeiliaeth y Parch D. M. Jenkins. Ymfudodd i'r America yn 1882, gan ymsefydlu yn Kansas City, Mo., Daeth i Chicago Ebrill 16eg, 1889, ac ym- aelododd yn eglwys Hebron (M.C.). Bu am flynyddau yn gweithio yn swyddfa rhjil- ffordld y Milwaukee- & St. Paul. D»th eynulliad lluosog yn nghyd i Hebron Mai lleg, i ddangos eu parch i'w goffadwnaeth. Gwasanaethwyd yn y capel gan y cantorion a'r Parchn. Wm. H. Jones, South Chicago, a J. C. Jones, ac ar lan y bedd gan yr Ifor- iaid a'r ddau weinidog. Evan R. Jones, amaethwr adnabyddus yn Gomer, Allen Co., Ohio, a ddywed na wel- odd wenith yn cael ei ddyrnu yn Mehefin cyn eleni. Dydd Gwener y 30ain, dyrnodd Thomas O. Morgan gnwd rhagorol ar fferm Edward Jones, yn cynyrchu ar gyfartaledd 21 bwsiel i'r erw. Milw?aukee, W^is., 'Gorph. 10.—Bwriada y cyfaill Z. A. Mather a'i briod gychwyn am Gymru ar y "Teutonic" ddydd Mercher, er treulio rhai wythnosou, yn benaf, yn Maentwrog a'r cylchoedd. Granville, N. Y., Gorph. lO.-Cyrhaedd- odd Mr a Mrs Lewis Morgan yma o rtesr- tiniog, G. C., gyda'r bwriad o ymsefydlu yn ein pentref. Arosant yn bresenol gydau mab, Lewis R. Morgiin a'r teulu. in mhlith yr ymwelwyr a pherthynasau yn ein pentref gwelwn»Mrs Robert^od y Pare; 1 Edward Roberts, Venedojj», Ohio, ar plant. Hefyd David O. Jones a'i briod o ddinas New York, y rhai a arosant gyda Mrs Owens (Glanmarchlyn). XJtica, N. Y.—Teimla pobl ei ofal yn bry- derus iawn yn nghylch eu bugail, y ParfJ.J- Hughes Parry ac offrymir llawer o weddiau ar ei ran. Pur anffafriol oedd y newyddion am dano o Poultnev yr wythnos ddiweddaf ond hyderwn y bydd wedi enill digon o nerth cyn diwedd yr wythnos hon i fyned i'w haf- dy ar lan y Ilyn- oberts, Llaliberis- Treuliodd Robert Roberts, Llallbens- gynt o Ty Mawr, Bethesda, y Sul diweddaf gyda'i gefnder, Alderman R. R. Roberts. Dychwelyd yr oedd o Mount Carmel, Pa., lie mae iddo ferch glaf, Mrs Mary Parry; a'r lie y oafodd yr hyfrydwch o gyfilrfod ei fab Richard R. Roberts, o Wardner, Idaho. Bydd Mr Roberts yn morio am Gymru yn y "Teutonic" yr wythnos bon. Yr wythnos ddiweddaf cychwynodd David Jones, Weatherford, Texas, i edrych am ei fam a'i frodyr yn Abergynolwyn. Hefyd, aeth ei ferch, Miss Susie Jones, ar ymweliad a'i mhodryb, Mrs Edwards, a 1 chyfnitlier, Miss Elizabeth Richards, yn Mankato, MDodgevflle, Wis., Gorph. 8.—Sabboth, Mehefin 25air, aeth Robert Roberts or ddinas hon i angladd hen gymydog, a chyd- filwr ag ef yn y rhyfel cartrefol, i le o'r enw Hyde, tua 15 milldir o'r ddinas hon; ao wrth ddychwelyd gnlwodd gydia John T. Williams, amaethwr yn Ridgeway, gyda r bwriad o dreulio ychydig oriau dyddan gydag ef fel hen gyfaill a chyn-gymydog. Wedi tynu ei geffyl o'r buggy, a'i osod yn yr vstabl, dringodd ysgol tuag wyth troed- fedd o uchder i ymofyn gwair 1 borthi y ceffyl, ac ar ei waith yn esgyn i fyny syrth- iodd ar ei wegil, ac ni chaed gair o'i enau mwyach. Yn mhen tua 15 mynud tynodd ei anadliad olaf. Cludwyd ei weddillion gart-ref tua haner nos. Ganwyd Robert Roberts yn sir Gaernarfon, G. C. Daeth i'r wlad hon gyda'i rieni pan yn chwe' mlwydd oed, gan ymsefydlu yn Sir Oneida, yn agos i tttio-i, New York. Yn 1852, ymunodd mewn priodas a Miss Ellen Thomas, merch Hugh a Margaret Thomas. Wedi hyny ymfudasant i Wisconsin, gan ymsefvdlu ar ffarm yn Mill Creek yn Ridge- way, lie y buont yn preswylio hyd o fewn 13 mlynedd yn ol. Cafodd angladd mawr ac anrhydeddus ar yr 28ain, pryd y daearwyd ef yn mynwent y ddinas. Gwa-s-anaethwyd gan y Parch D. Dyfri Davies, yn cael ei gyn- orthwyo gpn y Parchn G.Jones a H. Owens (T.C.), a T. Evans a Mr Everett (B.). Mae y Parch John C .Jones wedi myned i fwynhau y Gymanfa Ymdrechol yr wythnos hon i ddinas Detroit, Mich. Bydd yn pre- gethu i'r Cymry yno y Sabboth nesaf, a bydd y Parch T. R. Jones, Talsarnau, Cymru, yn Uenwi pwlpud Hebron. Emporia, Kas., Gorph. 8.—Dydd Llun, y 5ed o Fehefin, ar ol cystudd maith, bu farw yn ei chartref gerllaw Emporia, Kas., Mary Jane, anwyl briod Mr Thomas T. Hughes, Dow .Creek. Ganwyd hi yn Barbondjale, Pa., Chwefror 20, 18-52. Pan yn 16 oed ymunodd a'r eglwys Annibynol Gymreig yn Scranton, Pa., Ionawr 20, 1872, ymunodd mewn priodas gyda'n brawd Mr Hughes, yr hwn undeb a brofodd yn un dedwydd a llwyddianus. Dydd Iau, Mehefin 15, yn ei gartref, 121, Constitution street, Emporia, Kansas, o barlys yr ymenydd, yn ei 87 mlwydd oed, Owen Jones, y saddler. Ganwyd ef yn Bodorgan, Mon, G. C. Yno hefyd y mag- wyd ef, ac y dysgodd1 ei grefft. Bu yn gweithio yn Bangor a Lerpwl am flynyddau lawer. Daeth i America agos i haner canrif yn ol. Bu yn Utica am lawer o flynyddau, a soniai lawer am hen Gymry Utica hyd ei fedd. Diau fod yna rai yn fyw a'i cofiant yn dda. Daeth i poria 25 mlynedd yn ol. Yma, y claddcdd ei wraig gyntaf, ac y priod- odd ei ail wraig, yr hon sydd wedi ei gadael mewn galar ac unigedd. Wrth gofio, mae hi yn berthynas i'r Proffeswr J. W. Parson Price, New York, a hefyd i'r Hybarch W. D. Williams, Deerfield, N. Y. Heblaw ei briod, gedy ar ol un chwaer oedranus yn yr hen gartref yn Ynys Mon.

BUDD.UGOLIAETH GWYLFA YN CAERDYDD.

Y DEIYN GYMREIG

Meddwyn drud.

Advertising

Lladd ei Fertii.

_..--..... JACK 1 LLOMxWE'

Neidio o'r Gerbydres.

MARWOLAETH Y "MIS PUMP."

At Weision Ffarmwrs Mon.

Colli ei Fawd: lawn o 40p.

- Dlenyddlo Mary Ansell.

Arbrawf ar Wrtaffiflo Pytatws…