Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
26 erthygl ar y dudalen hon
MEYFUS
MEYFUS Y PRAWF CYHOEDDUS WEDI AIL DDECHREU. TYSTICOX YN ERBYN Y CAR CHAROR. CEISIO LLADD DADLEUYDD Y GARCHAROR. Dau Ddyn mewn Dalfa ar Ambenaetb. FFRAINC YN BERWI gan DEIMLAD IUCHEL. Yr cedcl y llys yn agored i'r Qyhoedd ddydd Sadwrn, pryd y rhoddwyd tystiolaeth gan M. Casimer Perrier, cyn-Lywydd y Weriniaeth, a'r Cadfridog Mercier. Eglurodd y diweddaf ei resymau dros gredu fod Dreyfus yn euog, ac ychwanegodd fod Ffrainc yn 1894 o fewn dim i fyned i ryfel a Germani. Ar un llaw yr oedd gan- ddynt eu safle wleidydclol i'w hystyried— yr oedd Ffrainc yn anmharod am ryfel- ac ar y Haw arall yr oedd ganddynt lythyrau yr oedd o bwys i lys mihvrol Dreyfus eu gweled. Rhoddodd M. Calmer Perrier arwyddion ei fod yn gofidio oherwydd yr ystori hon, ac ar y terfyn gofynodd am ganiatad i roddi tystiolaeth i'r gwrthwyneb. Ar un adeg yn ystod y gwrandawiad bu golygfa gynhyrfus. Dywedodd y Cadfridog Mercier pe buasai yn ei feddwl yr amheu- aeth leiaf o berthynas i euogrwydd Dreyfus y buasai y cyntaf i addef hyny. Yehwan- egodd hefvd, gan droi at Dreyfus, y buasai yn dweyd yr un modd wrth y carcharor ei fod wedi camgymeryd. Cynhyrfodd hyn Dreyfus yn ddirfawr. Cododd pi Bydyn, a'i wyneb yn welw, ac ymddangosai fel pe bai am ddisgyn ar y tyst. Ga.n godi ei ddwrn dywedodd, "Dyna ddylech ddweyd" (cymeradwyaeth). Yodid bynag, cymerodd swyddog milwrol ofael yn Dreyfus, a dododd ef i eisteuil. Fel yr elai y Cadfridcg Mercier o'r neu- add hisiVlyd ef. 8AETHU DADLEUYDD DREU uS. Achoswyd eyffro anghyffredin yn y Llys boreu ddydd Llun pan ail-agorwyd prawf Dreyfus. Cododd Me. Demange (prif ddad- lenydd y cybuddedig) ar ei draed a hysbys- odd y Llys fod ei gyfaill Me. Labcri wedi ei eaethu wrth ymyl y bont sy'n croesi'r afon. Gollyngodd y dyhirod dair o ergydion, a chymerodd dwy ohonynt. effaith. Cafodd Me. Labori ei saethu y ei wyneb, ac y mae yn gorwedd mewn ys-tad bervglus. Wedi cyflawni eu budrwaith diangodd y dyhirod. Wedi gwrando ar Me. Demange, gohiriwyd y Llys yn nighanol y cyffro mwyaf. Yr oedd M. Labori ar y pryd y saethwyd ef yn nghwinni y Milwriad Picquart a'i frawd—yn-nghyfraith. Gyda bod y tri yn ymyl y bont, neidiocld y dyhiryn o'i gudd- le, a cliyda llawddryll saethodd M. Labori yn ei gefn. Rhedodd y dyhiryn ymaith. Yr oedd gan M. Labcri ar y pryd yn ei law, yn cynwys papyrau yn perthyn i'r prawf. Cafodd y bag yma ei ladrata gan ddau ddyn oedd yn hongian o gwmpas. Aeth y belen o'r llawddryll rhwng dwy ys- gwydd Labori. CYFFRO MAWR. Creodd y dyhirwaith y cyffro mwyaf drwy bob rhan o'r wlad. Brysiwyd i alw y Wein- yddiaeth yn nghyd yn Paris, ac ofnid i wrthryfel dori allan. Pan wnaed yn hys- bys y weithred yn y llys yn Rennes, rhuthrodd gohebwyr newyddiaduron, bar- gyfreithwyr, a milwyr allan i fangre yr olygfa. Deallwyd fod personau yn ymlid y carcharor, ac yr oedd desgrifiadau wedi eu rhoddi ohono. Barna rhai o newyddiadur- on Ffrainc nad yw hyn ond rhan o gynllun eang i lofruddio per^cujau adnabyddus yn nglyn a phrawf Dreyfus. Y me y Wasg yn gyffredinol yn condemnio yr anfadwaith. "Nid yw hyn," meddir, "ond engraifft o'r dinystr ilr hivn y mae y wlad yn rhuthro iddo." DAL Y DYHIRYN. Daeth y tiewydd o Le Mans prydnawn dydd Llun fod peirianydd llyngesol o'r enw Gallet wedi ei gymeryd i fyny ar y cyhudd- iad o ymosod ar M. Labori, a dywedir ei fod yn tebygu yn hollol i'r desgrifiad o'r ymoscdydd. Tybir ei fod yn un o naid o ddynion sydd a'u bryd ar ddiny-trio. Pan geisiai y bobl ddal yr ymosodydd, dyna ddywedodd, "Yr wyf wedi saethu Dreyfus." HYSBYSU Y LLYS. Pan gvfa.rfu v llys boreu Llun, gofynodd Maitre Demange, cyd-d'dadleuydd Labori drcs Dreyfus, i'r Llywydd am ganiatad i ohirio'r Llys er mwyn ei alluogi i gael gwybod am sefyllfa ei gymrodyr, Maitrc Labori, yr hwn oedd wedi ei saetnu ar y ffordd i'r lIys. Y Llywydd Y mae hyn yn dra gofidus. Cyfarfu y llys eilwaiih ar ol y gohiriad. Ail-alwyd ar y Cadfridog Mercier, yr hwn a ddvwedodd drachefn nad oedd pi eredl] mai Est.erhazy, er yr oil a ddywedai ei hun, oedd awdwr y "bordereau." Er i Ester- hazy ddweyd mai efe oedd awdwr y papyr, eto creda y Cadfridog Mercier fed byn yn 'j?,slwyddog. Ac er mai nid Uawysgrifen Dreyfus oedd ar v papyr, credai er hyny mai efe a gyfarwyddodd iddo gael ei ysgrjf- ellU. Y CADFRIDOG BILLOT. cedd y nesaf i gael ei holi. Bu yn Wein- idog Rhyfel. Rhoddes hanes yr achos cyn ibelled ag yr oedd a fynai efe ag ef. Mewn atebiad i ofyniad yn nghylch ei amheuaeth un amser o euogrwydd Dreyfus, dywedodd y Cadfridog Billot iddo gael ei arwain i'r grediniaeth hono gan yr hyn a ddywedwyd wrtho gan y Milwriad Picquart. Ond yn awr, fell Lj-Lag, yr oedd yn axgyhoeddedig -6h" fod Dreyfus yn euog (cyffro yn y llys). Yr oedd wedi synu at dwyll Henry. Yna cyf- eiriodd y Cadfridog at ffaith newydd yn yr wchoi. Fe'i hysbyswyd gan .fasnachwr o Lyons, o'r enw M. nis Yilloii;, iddo glywed dau swyddog tramor yn siarad hefo eu gilydd. Ebai un ohonynt, "Y mae yn beth gwarthus, yr un pryd, fod swyddogion Ffrengig yn gwerthu eu gwlad." A'r llall a ddywedodd, "Y mne yn fendith i ni. Darin i Dreyfus, er engraifft, ddatguddio dirgelion y fyddin. a Cododd y carcharor i fyny, a dj-wedodd fod hyn oil yn gelwydd. M. CAAIGNAC. oedd y nesaf i roddi tystiolaeth. Bu yntau yn Weinidog Rhyfel. Y mae efe yn credu yn gryf fod DreyfGs yn euog. Aeth dros yr hanes a'i resymau dros ei gred, ac o o honynt oedd fod y carcharor wedi addef ei fod yn euog. Yna trodd i sylwi ar dwyll Henry, a dywedai fod y pipyrau twyllodrus hyn wedi eu dwyn yn mlaen fel rheswm dros ail-ymchwiliad, ond ni ddarfu i'r Llys Apel gyfeirio atynt. Dywedodd y carcharor ei fod yn synu fod y Cadfridog, oedd wedi dyfod yn mlaen yn y Tribune of Chamber- lain gyda phapyrau twyllodrus Henry, yn sefydlu ei hun ar weithrediadau at y rhai y gwnaed cyfiawnder gan y Llys Apel (cyffro hirfaith). Y CADFRIDOG ZURLINDER oedd y tyst nesaf. Bu yntau yn Weinidog Rhj-fel, a cliredai yn gryf fod Dreyfus yn euog o'r hyn y cyhuddid ef. Yn ystod. ei dystiolaeth daliai i gredu yn gadarn yn euogrwydd Dreyfus. Gyda golwg ar gael yr holl wir yn nglyn a'r bordereau, yr oedd yn angenrlieidiol iddynt gael o'u blaen y pedwar nodyn y sonir am danynt ynddo. Y Carcharor a ddywedbdd Yr wyf yn cytuno a'r geiriau yna, Filwriad. Yr wyf finau, hefyd, yn awyddus am y gwir. Nid wyf yn gofyn ond am y gwir (cyffro yn y Ilys). Y CADFRIDOG CHANOINE fu hefyd yn Weinidog Rhyfel, ac a roddodd ei dystiolaeth yn yr achos hwn. Credai fod y oarcharor yn euog. Dywedodd eto fod gwyliadwriaeth wedi ei chadw ar rai swyddogion neillduol, ac yn y diwedd canol- bwyntiwyd1 ar Dreyfus. Nid oodd gan y carcharor ddim i'w ddweyd ar y dystiolaeth yma. M. HANOTAUX a fu yn Weinidog Tramor yn Ngweinydd- iaeth Dupuy yn 1894, ac a roddodd dystiol- aeth rywbryd i'r un perwyl ag a roddodd o flaen y Llys Apel. Gohiriwyd y llys hyd foreu Mercher. YR YMGAIS I LOFRTJDDIO. Yn Berlin, prifddinas Germani, y mae yr ymgais i lofruddio M. Labori wedi creu cyffro anghyffredin, ac yn dangos mor uchel y mae tonau nwydwylltedd yn rhedeg yn Ffrainc. Pan ddaeth gwraig M. Labori ato, pan oedd yn-gorwedd ar ochr y ffordd, a'i law yn cynal ei ben oedd yn gorwedd ar y bag lie yr oedd ei bapyrau, dywedodd wrthi, "Mae yn dda genyf eich bod yma, yn awr." Aeth gohebydd ato, a gofynodd iddo, "A ydych mewn poen mawr ?" Atebodd yntau, "Ydwyf, mewn poen mawr. Y mae genyf belen yn fy nghefn. Ah! y dyhirod." Daeth dau feddyg yno, ac ebai Labori wrth Dr Brissaud, ei gyfaill, gan wasgu ei law, "Yr wyf yn falch eich bod yma." "Peidiwch bod yn bryderus. Nid yw yn ddim. Ceisiwch symud eich coesau. Wedi ei arcbwilio, dywedodd un o'r meddygon, pan ofynwyd a oedd yr achos yn un difrifol, "Yn wir, nid wyf yn meddwl hyny. Ni bu yn poeri gwaed. Y mae yn gallu symud ei goesau; yn rhwydd. Yr wyf yn gobeithio nad yw v belen wedi suddo yn ddvfnach na'r gewynau." Cludwyd Labori i Hotel Mualler gan y milwyr. Yr oedd gwraig Labori yn myned gydag ef i'r Llys ond ar ei ffordd yno cofiodd nad oedd tocyn mynediad i mewn gyda hi. Troos yn ol i'w geisio. Erbyn dychwelyd canfu ei gwr yn gorwedd ar lawr. Ni bu yn ab- senol ond ychydig fynydau. Bu Labori yn gorwedd ar lawr am ddeng mynud ar hug- rtiii heb neb yn gweini arno, ac meddai, "Dywedwch wrth fy ngwraig fod fy holl feddyliau gyda hi." CYDYMDEIMLAD A LABORi. Bu y Cadfridog Mercier a'r Milwriad Jouaust yn ymweled a. Labori. Y mae pellebron a Ilythyrau yn ymdywallt yn cydymdeimlo a'r dadleuydd dysgedig. Y WRAIG YN SAESNES. Y mae gwraig Labori yn Saesges o waed, ac yn adnabyddus yn y byd cerddorol fel Miss Maggie Okey, a bu yn chwareu yn y Covent Garden Promenade Concerts yn 1882. Yr oedd ar y pryd yn ddisgyybles yn Athrofa Gerddorol Llundain; ac ystyrid hi yn fedrus i chwareu ar y berdoneg. Bu ar daith drwy Awstria. a Germani. Yno cyfarfyddodd a'r perdonegwr, M. de Pach- mann, gyda'r hwn y priodcdd. Annedwydd fu yr ieuad; ac ysgarwyd y ddau, ar gais y wraig. Fel Madame de Pachmann, fodd bynag, bu y foneddiges yn chwareu yn y cyngherddau goreu-Popular, Crystal Palace, Philharmonic, ac ereill. Aeth i Paris, ac yno y cyfarfyddodd a'r bargyf- reitbiwr gobeithiol, Maitre Labori. Priod- ag ef, ond nid yw yn ymddiangos yn gy- hoeddus. Y mae y rhai a'i clywsant hi gar- tref yn Paris yn dweyd ei bod yn parhau i gadw i fyny yr arferiad o chwareu y ber- doneg, a'i bod yn chwareu mor swynol yn awr ag erioed.
NEWYDDION DIWEDDARAF.
NEWYDDION DIWEDDARAF. Yn ol y newyddion o Rennes ddydd Mawrth, r. ^^waith ddigwsg a gafodd M. Labori nos Lun. Y mae inewn poen dir- fawr. Er nad yw ei sefyllfa wedi gwaeth- ygu, o teimlir cryn bryder yn ei gylch. Erys un meddyg o hyd i weini arno. Par- heir i dderbvn llythyrau o gydymdeimlad o bob rhan o Ffrainc. Y TROSEDDWR HEB EI DDAL. Ymddengys nad yr un o'r ddau ddyn a g merwyd i'r ddalfa yw yr hwn a saethedd Labori. Y mae aanoedd, yn filwyr, hedd- geidwaid, a chudd-swvddcuion, wrth y gwaith o chwilia am dano. Methir a rhoddi rheswm paham y gallodd yr adyn ddianc ymaith. BETH DDYWED LABORI. Yn mysg rhai o'r geiriau a IdaTwyu gan Labori, ar ol iddo gael ei saethu, efe a ddywedodd !—"Nid oes neb yn lladd mewn achos cyfiawn. Dylai y Cadfridog Mercier ystyried ei hun yn ddyn lwcus. Yr ceddwn yn bwriadu gofyn rhai cwestiynau iddo." Dywed y newyddiadur Ffrengig, y "Matin" —Sibrydir fod Labori wedi dWelVd. "Nid wyf yn gwybod beth a ddigwydd i mfT"OTid dy- munwn yn neillduol wneyd vn hysbys, rhag i ddamwain ddigwydd, fod y Cadfridog Chanom wedi darganfod. twyll arall yn v oaodwyd gerbron y llys)." dossier (sef y casgliad o bapyraxi cyfreithiol
Damwain Angeuol yn Connah'sI…
Damwain Angeuol yn Connah's Quay. Ddydd Sadwrn derbyniodd bachgen o'r enw Bennett niweidian a brofasant yn angeuol tra yr oedd yn dilyn ei alwedigaeth yn rgwaith boras Connah's Qnay. Ym- ddengys iddo gael ei dynu i'r peiriant, a cbyn gallu ei ryddbau yr oedd ei gorph wedi ei falurio yn ddychrynllyd.
Y Cynghor Plwyf a Mesur y…
Y Cynghor Plwyf a Mesur y Degwm. ATewn cyfarfod arbenig o'r Cynghor Plwyf y Rhoe ddydd Gwener, dan lywydd- iaeth yr Henadur Hooson, pasiwyd pen- derfyniad yn unfrydol yn gwrthdystio vn gryf yn ertyn Mesur y Degwm fel ymgais anheg i waddoli yn mbellach yr Eglwys Wiadol trwy gynorthwyo y clerigwyr eir draul y tretbdalwyr yn gyflr-edinol, ac nid fel y dylai fod, trwy decysgrifiadau gwir- foddol Rglwyswyr eu hunain.
Lladd Gyriedydd.
Lladd Gyriedydd. Nos Sadvrn darfu i yriedydd o'r enw Wilham Llewelyn, ar linell y Great Western, ddisgyn oddiar ei beiriant gerllaw gorsaf yr Amwytbig, pryd y tarawyd ef i lawr ga-i beiriant a e!ai beibio ar y pryd. Dc'r- byniodd niweidiau ofnadwy. Torwyd ei fraich ymaith oddiwrth ei gorph, a bu far w yn yr ysbytty dair awr yn ddiweddarach.
"Llaw Dyn yn Llyw Danl." p.…
"Llaw Dyn yn Llyw Danl." p. ■ r Aeth tri i fyny mewn awyren o'r Palas Grisial, yn Llondain, ddydd L!un. Ba agos ilr tri golli eu bywydau. Gwnaed rbwyg- yn yr awyren, a dechreuodd ddisgyn gyda chyflymder. 8yrtbiodd ar nen ty, djm- chwelodd yn y codwm, a hyrddiwyd y tri bendramwnwgl allan ohono i'r ardd, otid heb eu hanafu,
Yr lanci yn Llefam. »
Yr lanci yn Llefam. » Bu beddgeidwad o New York yn Llundain yn ddiweddar. Argraff anffafriol a wnaeth y ddinas fawr ar ei feddwl. Y mae rhew yn brin yno; y mae yno ormod o ferched; sigarenau gwael sydd yno; nid oes neb fe lr "flacio esgid ni wyr yr eillwyr pa todd i eillio. A dyma y cwbl sydd i'w ddweyd am Lundain, medd efe.
46 yn Cael eu Lladd.
46 yn Cael eu Lladd. Y Sabboth digwyddodd damwain erch yn Skelton, talaeth New York. Neidiodd cer- bydres lawn o doithwyr ar y ffordd baiam drydanol oddiar y rheiliau, a ebwympod dros wrthglawdd i ddyfnder o ddeg Hath ar hugain. Lladdwyd chwech a deugain o'r teithwyr ac anafwyd eraill.
Anghoflo'l Enw. --
Anghoflo'l Enw. Bu eglwys Holton, yn sir Bhydychain, heb bregethwr y Sul diweddaf. Aethai y pa^s n ar ei wyl au, ond gwnaethai gytan- deb a myfvriwr o'r Brifysgol i ddyfod yn ei Ie, Anfonwyd cerbyd i Rydychain i gyrchu y clerig newydd; ond, ysywaeth, erbyn cyr- haedd yno yr ydoedd gyriedydd y cerbyd wedi anghofio enw y gwr yr oedd efe yn ymofyn am dano.
III AC ACW.
III AC ACW. Rhoddodd y diweddar Mr Robert Bonner, New York, dros 200,000,) tuag at achosion crefyddol ac eraill. Wrth gmfod fod neb yn deilwng ar y gadair yn Nghaerdydd, fel hyn yr ymfflam- ychodd Watcyn Wyn :— Cadair wag Wel, ewch a hi Oddiar y ffordd, gael lie i ni Gael Highland jig yn iach am dro, Can's rhywbeth felly wna y tro. Myned yn waeth-waeth y mae y rhag- olwg wleidyddol yn Bulgaria o ddydd i ddydd. Nid ydyw sefyllfa arianol y dy- wysogaeth o lawer yr hyn y dylai fod. Y mae swyddogion y Llywodraeth heb eu eyflogau er's dan fis, yr hyn na ddigwydd- odd yno erioed o'r blaen. Dywedir fod dau o aelodau y Senedd Brydeinig a dau feddyg anifeiliaid ar fedr myned yn ddioed i Moscow, er mwyn gwneyd ymchwiliad yno, ac mewn rhanau eraill o Rwsia, ar yr amgylchiadau o dan ba rai yr anfonir gwartheg o'r wlad hono i'r marchnadoedd Prydeinig. Trwy yr oil o dywysogaeth Bulgaria, achwynir yn dost o herwydd prinder arian, Yn y newyddiaduron gwrthwynebol i'w wladweiniaeth, condemnir y Tywysog Fer- dinand yn dost am ei fod, trwy ddiffyg doethineb ynddo ef a'i Lywodraeth, wedi gadael i'r wlad syrthio i'r fath gyflwr tru- anaidd. Yn Berlin, decbreuir edrych gyda chryn lawer o ffafr ar y drycbfeddwl o exodns Iuddewon yr Almaen a Rwsia i Thys Cyprus. Byddent yno dan reolaeth Bryd- ain. Y cwestiwn ag y teimlir mwyaf o anhawsder pa fodd i'w ateb ydyw :-0 ba ley ceir arian i dalu traul eu cludiad. Allan o rhyw gant o olygwyr newyddiad- uron ag yr anfon wyd atynt i ofyn a oedd- ynt hwy yn bleidiol i sicrhau hawlysgrif (copyright) mewn newyddion, ni atebwyd yn gadarnhaol ond gan un ar hugain, tra yr oedd yr oil o'r pedwar ar bymtheg a thri- uain gweddill yn wrthwyneb -1. Y dydd o'r blaen lladratawyl gwerth wyth mil o bunau o ysgrifrwymau oddi ar un o gwsmeriaid Atiaridy Parr yn Llun- dain. Rhybuddir pob banc trwy y deyrnas am y Iladrad, gan ddisgwyl y daw y lleidr i ryw un o honynt i geisio agor cyfrif gyda'r ysgrifrwymau ysbeiliedig, ac felly y delir :eft E! Er mwyn eangu a cliynyddu masnach y sugr yn Ffrainc, bwriada Llywodraeth y Weriniaeth roddi arbridau uwch nag arferol i'r masnaehwyr i'w diogelu rhag colledion. Dyma ffrwythau naturiol d nyndoUiaeth. 0 fewn y dyddiau diweddaf, y mae amryw ymwelwyr Prydeinig & Belgium wedi eu hysbeilio gan bigwyr llogellau. Oddi ar un lladratawyd 45p; oddi ar un arall 85p ac amryw eraill a ysgafnhawyd o symiau Uai. Beth a wna heddgeidwaid Belgaidd r Rhoddwyd gwledd longyfarch i weinidog t,ramor Ffrainc yn St. Petersburgh, y dydd o'r blaen, gan Ganghellydd Llywodraeth Kwsia. Yn yr areithiau a draddodwyd ar yr acblysur, yr unig beth y gosodid arbenig- rwydd arno oedd, fod yr ymwelydd weli gallu gwneyd y daith rhwng Paris a St Petersburgh mewn amser mor fyi. Chwilio am leidr penffordd y mae hedd- weieion Hoylake yn y dyddiau hyn. Dis- gynasai dyn ieuanc nos Lun oddi ar ei fisycl i oleuo ei lamp. Clywodd rywun yn dyfod ato. Cododd ei ben. Yr un foment, cafodd ddyrnod nes oedd efe yn ddideimlad. Pan ddadebrodd, yr oedd ei fisycl, 6p a rhai sylltau yn ngboll. Caed y bicycl ychydig latheni draw. Cael y lleidr yw y pwnc yn awr. Nid oss gan fwrdeisiaid y Transvaal eisiau rhyfel a Phrydain. Gobeithio nad oes gan Brydain eisieu rhyfel a'r Transvaal. Ofnwn nas gellir sicrhau hyn am bawb sydd yn meddu rhan yn nygiad y wlad- weiniaeth Brydeinig yn mlaen. Carem weled mwy o wyliadwriaeth ar eiriau, er mwyn baddianau goreu y ddwy blaid. Y mae hanes llosgiad y llong hyffordd- iadol Clarence" yn hysbys i'n darlienwyr. Nid yw yr achos o'r goelcerth yn wybyddus i neb, modd bynag. Gwneir ymchwil swyddol i'r peth yn y dyddiau hyn. Bwr- iada y Llywodraeth ddwyn y bechgyn i adeilad mawr sydd wedi ei gymeryd yn agos i dref y Wyddgrug ar eu cyfer. Am dori amod priodas & hi, M am ei darostwng, cafodd Jesse Mather, o Pad- gate, yn "1g08 i Warrington, gant a haner o bunau gan un Maurice Royston, o'r un gymydogaeth, o dan ddyfarniad y barnwr a'r rheithwyr yn mrawdlys ddiweddaf Lerpwl. Y Barnwr Bigham a eisteddai ar y fainc. -t Ceidw Mr Bryn Reberts ei lygad yn fanwl ar bob peth a wneir gan Ysgrifenydd y Trefedigaethau ynglyn k Deheubarth Affrica. Erbyn hyn, mae Mr Chamberlain yn gwybod yn a y gofynir cwestiwn gan yr aelod dros Eifionydd pa bryd bynag y gwneir dim yn amheus ganddo ef. Anhawdd yw gwybod pa un ai difrif ai digrif ydyw Mr William Legge, y garddwr yn Ottawa, Canada, pan yn dyweyd mai efe ydyw y gwir Iarll Dartmouth. Rhag i'r hwn a adweinir yn awr wrth yr enw hwnw gyffroi dim, efe a ddywed ei fod ef yn rhy hoff o fywyd yn Canada i ddyfed drosodd i geisio yr iarilaeth. O'r diwedd mae gweithiau barctdonol My- fyr Emlyn wedi eu cyhoeddi. Efe oedd awdwr y gan watwarus, Y D.D." Yn Llandudno, yn swyno gwyr glan y mor yr oedd Tom ThoL-as, y tenorydd, yr wythnos a basiodd. Beth mae'r aelodau Cymreig yn fwriadu ei wneyd yn ystod gwyliau yr haf ? Nid ydynt wedi gor-weithio eu hunain yn ystod y tymhof hwn, a gallant yn hawdd dreulio peth amser yn eu hetholaethau. Bydd Mr James Sauvage y cantor yn dy- chwelyd i'r America ymhen pythefnos. Fel y gwyddis, y mae Mr Sauvage yn fab-yn- nghyfi aith i'r hyglod Llew Llwyfo. Y rheswm paham foclayr aelodau Cymreig yn rhai mor rhagorol am roddi cwestiynau yn Nhy y Cyffredin yw eu bod wedi cael y fath ymarferiad inewn boli yr Ysgolion Sul. Bwriada Mr Balfour roddi tro i'r Cyfandir yn ystod y gwyliau, a chaiff pob helyntion gwleidyddol lonydd ganddo am dipyn, beth bynag. Bwriada sir Fon gael digon o ddwfr pur yn y man. Y mae cyullun ar droed i groni dwfr yn rhai o gymoedd yr Wyddfa, a'i gludo mewn pibelli o dan y Fenai i Fon. .{,æ P'un yw'r pechod mwyaf, canu caneuon maswedd a dawnsio, neu ynte bregetbu yr efengyl ? Ored pobl Llandudno mai yr olaf, ac am hyny gwnant eu goreu i atal y Parch J. Wood. Gadewir y bobl eraill yn llonydd Cynhaliodd y Coedwigwyr en Huchel Lys yn Nghaerdydd ddydd Llun, a bu yno or- ymdaith fawr o aelodau y Gymdeithas ddyngarol hon. Bu amryw o bobl blaen- llaw y De yn siarad yno. Yn ol Dob tebyg, bu raid i bobl Llan- dudno beidio a bod mor gul eu daliadau drwy wrthod i bregethau gael eu traddodi ar y traeth. Mae amryw o ddynion egwydd- orol a chrefyddol yn y Senedd yn gwllio eu gwaith y dyddiau hyn. Bn yr Henadur Roberts o Fanceinion ar daith o amgylch y byd yn ddiweddar, a'r wythnos ddiweddaf dychwelodd i'w gartref wedi cael llawer o leshad o'i seibiant. O'r diwedd y mae'r Seceddwyr yn cael gwyliau. Y maent yn ei haeddu hefyd, oherwydd ni weithiodd neb erioed yn fwy caled dros eu ffryndiau na'r llywodraeth hon. Buasai yn amheuthyn o beth i glywed fod Joe Chamberlain yn bwriadu myned i roddi tro am Kruger yn awr, pan nad yw'r Senedd yn eistedd. Gallasent yn hawdd setlo'r helynt cyn pen deuddydd. Am ddwyn cyhuddiadau gwaitbus yn erbyn un c'i morwynion, gorfu i Mrs Jones, Maesgwyn, Glyn Nedd, dalu can' punt o ia wn yn llys Abertawe dydd Mawrth. Yn Nghorwen, medd Mr O. M. Edwards' y oynullodd y fyddin Gymreig fwyaf a welwyd erioed. Yr oedd hyn yn adeg Glyndwr, a chredir mai yn mynwent Corwen y claddwyd yr hen arwr Uymreig. Mae si ar led yn y cylchoedd urddasol fod gweddw y diweddar Arglwydd Randolph Churchill yn mynd i ymbrio ii a mab Mr Coruwallis West. Yn Nghorwen ddydd yr Eisteddfod ddi- weddaf gofynodd bacbgen oedd yn gwerthu programmes ar yr heel i ddyn a elai heibio, "Programme, syr ?" "Nag oes; Eghvys- wr ydwyf fi; nid wyf yn mynd i'r Eistedd- fod." Yn ychwanegol at y pedwar plentyn sydd wedi eu gyru i Paris o ardal Pontardulais y mae cHwech arall wedi eu brathu gan y ci a ddinystriwyd, a gyrir y rhain eto i gael yr un driuiaeth yn ysbytty Pasteur. Hysbysir fod Syr John Bridge wedi ym- ddiswyddo o fod yn brif ynad Llundain. Efe draddododd Dr. Jim i sefyll ei brawf am y rhuthr yn y Transvaal. Yr ydym ni yn son am ein pleserdeithiau, end 'does genym yr un gair am picnic. Er hyny, y mae Eluned Morgan, golygyddes y "Dravod," wedi cael gafael ar air newydd— U gwigwyl'—i gyfateb a'r achos, ac nid oes eisieu ei well i ddynodi gwyl yn y wig. Yn wir, y mae yn rhaid i rhywun edrych ar ol y Parch J. Myfenydd Morgan. Yr wythnos ddiweddaf bu yn Liandrindocl, ac nid oedd yno yr un ferch gwerth wincio ami, meddai'r offeiriad a'r bardd-gweddw hwn. L n o ganlyniadau ymweliad y dieithriaid a'r Eisteddfod eleni yn Nghaerdydd ydyw y bwriad o gynhal gwyl gyffelyb yn nglyn ag Arddangosfa Fawr Paris yn 1900. Bydd yr arddangosfa hono yn debyg i Ffair y Byd a enwogAvyd gan Gomer Lewis-a. diau na fydd gwyl o'r fath yn gyflawn hyd nes cael Eisteddfod yn nglyn a hi. Fel y gwyddis, bydd adran yn yr wyl hon yn nglyn ag addysg Cymru. Yr wythnos hon bu farw Dr Davies, Johnston-proffeswr mewn addysg Feibl- aidd yn Mhfifysgol Aberdeen. Nid oedd ond wedi cyrhaedd ei 64 mlwydd oed, eto cred- ai awdurdodau y coleg flynyddau yn ol nad oedd yn abl i gyflawni y swydd a ddaliai. Ceisiwyd ganddo ymddiswyddo ond gwrth- ododd, a pharhaodd hyd y diwedd i hawlio ei gyflog er fod ei ran o'r gwaith yn cael ei ddwyn yn mlaen gan arall.
Gwlaw a Chenllysg.
Gwlaw a Chenllysg. Yn ol y newyddion o ranau canol Lloegr, a lleoedd agosach i Lundain, bu yn ystorm o fellfc a tharanaii a gwlaw trwm prydnawn ddydd Mawrth. Yn Fakenuam, disgynodd cenllysg mawr, a gorlifwyd rhanau o'r dref i ddyfnder o dair troedfedd. Yr oedd prif heolydd Kettering wedi eu gorlifo. Ofnir y bydd i hyn effeithio ar y cynhauaf.
A Geir Amgueddfa 1 Gymru ?
A Geir Amgueddfa 1 Gymru ? Y mae Mr J. Herbert Lewis bob amser yn effro i fuddianau Cymru. Pan y cynygiwyd grant at yr Amgueddfa Brydeinig yn Nhy y Cyffredin, yr wythnos o'r blaen, galwodd Mr Lewis sylw at y modd anghyfiawn yr ymddygir at Gymru. Gofynai am Amgu- eddfa Genedlaethol i Gymru, fod bob plaid yn teimlo dyddordeb ffafriol yn y mater. Ond dywedodd y Cadeirydd nas gellid sef- ydlu y fath Amgueddfa ond trwy ddeddf- wriaeth. Awgrymodd Mr Lewis gan hyny fod lie yn yr Amgueddfa Frytanaidd yn cael ei neillduo i hynafiaethau ac ysgrif-lyfrau Cyhireig. Ond nid oedd a'i hatebai, ac am hyny hawliodd yntau ranu y Ty ar y bleid- lais, a chafodd 51 o'i du. Dranoeth drachefn datganodd Mr Lewis obaith nad anghofid hawl Cymru i gael rhodd at Amgueddfa.' Y waith hon dywedodd Syr John Gorst nad oedd amheuaeth na roddid ystyriaeth ffafr- iol i'r cwestiwn o gael Amgueddfa i Gymru. Y mae rhyw ychydig o arwyddion felly fod blaen y cyn yn gafael. Diolch i Mr Lewis am ddal i gadw y mater ger bron.
CRYFBAIR LLYSIETJOL GWERTHFAWR.
CRYFBAIR LLYSIETJOL GWERTH- FAWR. Pan y byddom yn cael ein blino gan un- rhyw anhwylder neu afiechyd dylem ofalu fod y feddyginiaeth a gymerwn yn un o gynvrchion natur. Dffddfau natur wedi eu troseddu mewn rhvw fodd ydyw achos dech- reuad pob afiechyd. Cynyrch naturiol y ddaear, sef llysiau, yw y feddyginiaeth fwyaf naturiol a'r hon mae y byd anifeilaidd yn redjdfol yn ei cheisio. Mae y cryfbair llysieuol y cyfeirir af-o yn y penawd uchod y mwyaf gwerthfawr, llesol, ac ymddiriedol sydd! gerbron y cyhoedd, gan ei fod yn cynwys rhinweddau adgryfhaol a phutrol, y llysiaii meddyginiaethol mwyaf effeithiol sydd yn adnabyddus yn yr holl fyd. Y cryfbair hwn yw Quinine Bitters Gwilym Evans, yr hwn sydd feddyglyn hollol lysieuol wedi ei ddarparu yn wyddonol, a chyda'r gofal mwyaf sydd yn ddichonadwy,er sicrhau ei effeithiolrwydd gan un o'r ffer- yllwvr goreu yn y deyrnas. Cymeradwyir Quinine Bitters Gwilym Evans i gleifion gan feddygon a fferyllwyr mewn llawer o achos- ion pan y bydd pob meddyginiaeth arall wedi methu. Mae yn anmhrisiadwy mewn achosion o wendid, yn enwedig i wragedd a phlant, a phersonau yn dechreu gwella ar ol twymyn neu y cyffelyb. Mae miloedd yn ein gwlad a dystiant iV werthfawredld a'i effeithiolrwydd, ac nid oes dim cyffelyb iddo mewn achosion o'r fafh. Rhoddwch brawf arno. Gwerthir gan bob fferyllydd mewn poteli 2s 9c a 4s 6c yr un, neu anfonir ef am y prisiau hyn i unrhyw gyfeiriad trwy y post, yn uniongyrchol oddiwrth y perchenogion, Quinine Bitters Mauufacturing Co., Ltd., I Llanelly, South Waiis.
Diangfa o'r Grogbren
Diangfa o'r Grogbren Yn Mrawdlys Abertawe, o flaen y Barnwr Bruce, dydd Mercher d'iweddaf, dygwyd Henry Pelican gerbrcn r.m lofruddio un Wil- liam Kingdom (42), morwr, ae Ellmyn o genedl. Cymerodd y llofruddiaeth le noson y 9fed Mehefin diweddaf, mewn ty amheus yn Abertawe. Ni wnaeth Pel.can un ym- drech i ffoi, ond safodd ei dir a rhoddodd ei hun i fyny i'r swyddog v noson y cymerodd yr alanas le. Cyfaddefodd iddo wneyd y weithred, ond mai mewn nunan-amddJfyn- iad y gwnaeth. Wedi holi a chroesholi y tystion, daeth y rheithwyr yn unfarn i'r ddediryd o ddi- euog yn ei erbyn. Profai tystiolaeth y car- charor iddo gael jTnosodiad beiddgar oddi wrth Kingdom a'r ddynes y tynodd efe (Pelican) ati, ac yn y cyfwng hwnw tynodd ei gyllell gan drywanu i bob cyfeiriad. Cyfeiriodd y barnwr fod y gyfraith yn caniatau i un gymeryd bywyd un arall er achub bywyd ei hun. Rhyddhawyd y car- charcr ,a diolchodd ef yn fawr i'r boneddig- ion am ei dynged.
Eisteddfod Ceerdjdd.
Eisteddfod Ceerdjdd. Gyda golwg ar sefyllfa arianol Eisteddfod Caerdydd, dyma fel yr ysgrifena Idriswyn —"Heblaw gweithio'n galed am bron ddwy flynedd, yr oedd y pwyllgor trwy ddyfalwoh yr ysgrifenydd, Mr D. W. Evans, wedi llwyddo i gael y swm o 2016p mewn tanys- grifiadau; ond eto i gyd, ofnir y byddis mewn amryw gannoedd o bunnau o ddyled. Cyfrifir y bydd y treuliau oddeutu 6000p, ac y mae y derbyniadau fel y canlyn — Rhenti a phris y rhagleni, &c., 265p; dbr- byniadau wrth byrth y babell ddydd Mawrth 480p; dydd Mercher, 421p; dydd Iau, 600p; dydd Gwener, 677p; dydd Sadwrn, 200p; tocynau a werthwyd mewn lleoedd ereill, 653p; gwobrwyon a a tali wyd, 340p; cyfraniadau gwirfoddol, 2016p; cyfanswm o 5452p. Felly, mae y derbyniadau yn fyr o gyrhaedd y taliadau o oddeutu 350p. Dis- gwylir y gellir lleihau y swm hwn gyda thanysgrifiadau ereill sydd i ddod i mewn, fel mai swm cymharol fychan fydd raid dalu gan y rhai syddl wedi myned yn gyfrifol am y draul. Ond, yn sicr, ni ddylai pethau fod fel hyn, ac y mae'n llawn bryd i'n harwein- wyr ddyfeisio rhyw gynllun i gael yr Eis- teddfod i gydgordiad! perffaith a'r genedl, ac i gael Pabell Symudol, yn nghydag ysgrifen- ydd, os nid Pwyllgor Sefydlog i edrych fod y sefydliad yn cael ei gadw'n Gymreig o ran ei amcan, yn gystal ag o ran ialth."
Hela Byfrgwn yn Lleyn.
Hela Byfrgwn yn Lleyn. Bu helgwn Rug ac Ynysfor yn hela dyfr- gwn yn Lleyn ar y 5ed, 8fed, a'r 9fed cyfisol. Cychwynwyd wrth bont Abererch, am wyth o'r gloch boreu y 5ed. Yn ymyl Ty'nycoed tarawyd ar sawyr dyfrgi, a dilynwyd i fyny yr afon. Mewn rhyw dri chwarter milidir i Rhyd-y-Gwystl, gweithiodd yr helgwn sawyr dyfrgi i gyfeiriad Eglwys Llanarmon, a thua milidir tu draw i'r fan hono, pryd y daethant i ben y sawyr, yr hwn a brofedd yn dwyllodrus. Dygwyd yr helgwn yn ol ar unwaith, ac i Rhyd-y-Gwystl. Dechreu- wyd gweithio i fyny yr afon tua Thynewydd. Ond ni chafwyd lwc. Awd at y bont dra- chefn, ac oddiyno yn mlaen at Abererch. Haner milldir o'r bont, aroglodd yr helgwn ddyfrgi yn y ddaear, ac anfonwyd y daear- gwn i mewn. Aeth yn rhyfel breth yn y guddtfan, a gafaelodd y daeargwn yn y dyfr- gi. Gallodd efe ddyfod allan r ywfodd, ond buan y daliwyd ef gan yr helgwn, a. Uaddwyd ef. Pryf hen ydoedd, hefo bonion danedd. Pwysai tuag 20 pwys. Terfynwyd yr hela am y diwrnod. Aeth rhai o'r ewmui i Broom Hall dros y Sul, a thrwy ddydd Llun. Boreu ddydd Mawrth cyfarfyddwyd yn y Maes, Pwllheli. Awd at afon Talcymerau, a tharawyd ar sawyr yno. Gweithiwyd at Llanbedrog, gan groesi y ffordd a'r caeau i, Penrhos. Ond ofer fu yr ymsais hwn. Gal- wyd yr helgwn .yn ol, a gweithiwyd i gyfeir- iad Cefn Mine. Ni chafwyd dim. Yna dechreuwyd ar chwilio afon Penrhcs i gyf- eiriad Rhydyclafdy. Aneffeithiol fu hyn hefyd. 'Doedd dim i wneyd ond terfynu y gwaith am y dydd. Ae-th rhai o'r cwmni i Bodegroes, rhai i Nanhoron, ereill i Broom. Hall, ac ereill i leoedd gwahanol. Boreu dydd Mercher ymgyfarfyddwyd yn Aber- soch. Credid y gellid cael rhywbeth yn yr afon Soch, ac yn wir daethpwyd ar draws olion dyfrgi. Codwyd hivyl erbyn hyn, a gwnawd ttm Llangiari. Vii4 daethpwyd i ganol cyrs a gwellt gwyllt o bob math bron, a gwnawd gwaith yr helgwr. vn anhawdd iawn, iaWil. Buont yno yn llafu- 'o yn galed nes y blinwyd hwy y11 fawr. Nil ^allent na nofio nac ymlwybro trwy y cordd. Rhaid oedd terfynu y gwaitli. Yr cedd y dyfrgi mewn lie rhy ddiogel o lawcr i'r helgwn gael gafael arno. Dwy awr o lafur blin ac ofer gafwvd yma. Ail-ddechreuwyd y busnes o dan Hanengan. Cyn cjTrhaedd o'r helgwn bont Towyn, aroglwyd dyfrgi. Dilynwyd ef i fyny hyd at Seithbont, lie collwvd y sawyr. Tro wyd yn ol, a cheisiwyd lwc islaw Talsarn, gan basio Llandegwning, ac yn mlaen. Yma dyma hi yn "Tali He," ac yn mlaen a phawb at gatehouse Nanhoron. Yno y gwelwyd fod llawer o ddreiniau. Collwyd y pryf a thorwyd i fyny yr hela. Yn mysg V cwmni yr oedd Mr Lloyd Evin,, Broom Hall, a'i barti; Mr John Jones, Mr E. B. Jones, a'r Misses Jones (4), Ynysfor:. yr An- rhvdeddus Mr a Mrs C. H. Wynn, Rug, a'u parti: Mrs Vaughan Wynn, Mr Claude Lloyd Edwards, Nanhoron Mr J. G. Jones, Llwvnffynon Dr Hunter Hughes, Mr Rice O. Puehe, Mr W. S. Glynn a'i barti, Bryn- Hr: Mr Hamlet Roberts, Penygroes: Mr Richard Roberts, cvfreithiwr; Mr Owen .I'J;:?:¡t¿f)d: ac ugcriau oreill.
Deddf newydd Prlodl.
Deddf newydd Prlodl. Araf iawn ydyw yr holl enwadau i fan- teisio ar Ddeddf newydd gweinyddiad pri- odasau. Mae amryw resymau am hyny. Ceir llawer sy'n credu fod yr ben drefniad Y1: well na'r newydd. Feliy y dywedai y Parch O. Waldo James mewn papyr a ddar- llencdd mewn cyfarfod o bregethwyr yn y Rhondda. Anoga yr egwysi i beidiol mab- wysiadu y ddeddf oherwydd nad yw yn di- ddymu anghydra'ddoMeb, yn cysylitu y cap- elau Ymneilluol a'r Llywodraeth, ac yn caethiwo yn waeth nag y gwnai yr hen ddeddf. Mae'r gost o brynu cist haiarn yn rhwystr i lawer, hefyd. Costia y cistiau rhataf a gymeradwyir gan y Cofrestrydd Cjffredinol tua dwy bunt a chweigian. Pan y dadleuai y diweddar Dr Wallace yn erbyn mesurau hanerog fel hwn, gwaeddodd rhyw- un fod' yn well cael haner y dorth na bod heb ddim. "Ie," ebai y Dr, "ond a ydyw haner oriawr yn well na bod heb yr un ?"
Ergydio ar y Babaeth.
Ergydio ar y Babaeth. Amgylchiad dyddorol yn nglyn a'r Gyn- hadledd Wesleyaidd oedd y derbyniad roed y Sul yn St. James's Hall i nifer o gyn-offeir- iaid perthynol i'r Eglwys Babaidd yn Ffraine. Mae deunaw o'r rhai hyn yn awr ar ymweliad a Phrydainj a rhoed gwahodd- iad iddynt i adrodd ychydig o hanes eu mudiad yn erbyn y Babaeth a'i thrais mewn cyfarfod o'r Gynhadledd gan Mr Bunting a Mr Hugh Price Hughes. Arweinydd y mudiad yw Mr Bourrier, un fu am flynydd- oedd yn offeiriad Pabaidd yn Marseilles, ac er yn awr yn wrthwynebol i'r enw Protest- ant, eto gweithia. a'i holl egni, yn ei eiriau ei hun, "i wneyd gwell Cristionogion o'r Pabyddion." Gwna ei oreu drWy'r wasg, a chyhoedda bapyr sy'n ca,el cylchrediad o tua deng mil, yn benaf yn mysg yr offeir- iaid,-ffaith sy'n siarad yn uchel am bosibl- rwydd y mudiad. Hyd yma yn fisol y mae wedi dod allan, ond apeliodd Mr Price Hughes am help i'w alluogi iddo ei wneyd yn bapyr wytbnosol, a chaed 250p at yr amcan yn y cyfarfod. Mae gormes y Bab- aeth wedi gyru y dynion yma i chwilio am wirionedd Gair Duw, ac fel y dvwedodd Mr Bourrier mae y Beibl yn awr yn dechreu cael ei astudio gan offeiriaid Ffrainc yn dra gwahanol i'r hyn y bu erioed o'r blaen. Nid yw y cwmni i gyd yr un farn a M. Bour- rier, ond yn ol ellir gasglu mae eu cymhell- ion yr un a'u bryd ar ffurfio eglwys ddiwyg- .9- iedig yn Ffrainc, lie mae llygredd y Bab- aeth yn lefeinio pob cylch, a phurdeb Cristionogaeth wedi ei golli yn llwyr.
Y TRANSVAAL
Y TRANSVAAL Y DADBLYGIADAU DIWEDDAR. Yn ol y newyddion a dderbyniwyd o Cape Town, ddydd Sul, ymddengys fod pwysau cryfion yn cael eu rhoddi, o gylchoedd cyf- eillgar, i berswadio yr Arlywydd Kruger i oedi ac advstvried y genadwri mewn ateb- iad i gynygiad Mr Chamberlain i benodi cyd-ymchwiliad ar y pwnc o estyn yr ethol- fraint i'r Outlandliaid. Tybir ei bod yn bosibl y derbynir y cyn- ygiad am gydymchwiliad os nad ydyw yn cynwys cydnabyddiaeth o oruchafiaeth Prvdain. Credir fod y symudiad yn mysg y bwr- deiswyr yn ffafr cymhwysder o"bum' mlyn- edd, neu saith mlynedd ar ol symud ataliad, yn un gwirioneddol. DERBYN Y CYDYM vHWILIAD. Y mae y newyddion o Johannesburg yn dweyd fod yr Arlywydd, gyda chymeradwy- aeth y Weinyddiaeth, yn myned i hysbysu LlOegr fod y Llywodraeth yn Neheudir Affrica yn barod i dderbvn y gwahddla4 i gydymchwiliad i effeithiau yr etholfraint newydd ond darparu nad oes ymyraeth i fod ar annibvniaeth y Weriniaeth. ARFOGI!R BOERIAID. Johannesburg, Awst 14. Y mae gorchymyn wedi ei roddi i arfogi, yn rhad heb dal, pob un o'r bwrdeiswyr di- arfog. PLE'R YMOSODIR Cape Town, Awst 14. Tybia yr awdurdodau milwrol ei bod yn debygol, os tyr rhyfel allan, mai ar Kimber- lev yr ymosoda y Boeriaid gyntaf, neu ochr ogleddol y dref, gyda'r amcan o ddinystrio cymundeb rhwng v Cape a Rhodesia. Gwneir trefniadau i warchod rhag pob ymosodiad sydyn, ac hefyd i warchod pont y rheilffordd sydd yn croesi yr Afon Vall vn Fourteen Streams, He y mae gan y Boeriaid catrawd. YN BAROD AR AWR 0 RYBl ^D. Y mae catrawd Gogledd Laneashir6 Uedi derbyn gorchymyn i fod yn hollol barod i fyned i faes v gwaed yn Bechuanaland ar fvnyd o rybudd. Anfonwyd llwythi enfawr o gad-ddarpariadau i Bechuanaland. Nid oes dim atebiad wedi cael ei dderbyn eto oddiwrth Lywodraeth y Transvaal i g3Tiygiad Mr Chamberlain am ddirprwy- aeth unedig, Sibrydir v bydd i'r Arlywydd Kruger dderbyn y cynyg YD. ttWlodol; ond, ar yr ochr arall, dywedir fod y sefyllfa yn dwyn arwedd fwy difrifol. Gosodir cryn bwys ar vr hysbysrwydd a, wnaed yn swvdd- ogol ddvdd Mawrth, fod yr ITch-gadfridog Butler wedi cael ei ad-alw o lywyddiaeth y milwyr Prydeinig yn y Cape; olynir ef yn y swydd yma gan Syr Frederick Forester Walker. ——
[No title]
Bydd i un gvrres o feddvginiaethau Cuti- citra cymysgedig o Sebon Cuticura i lanhau y croen, Enaint Cuticura i iachau y croen, a Cuticura Resolvent i 1 nro y gwaed, yn ami fod yn ddigon i iachau yr anhwylderau mwyaf hagr a phoenus, tarddiantau oddi- wrth waed drwg a cholliant gwallt, wedi i "nb peth arall fethu. Y cynllun o drin- iaeth ydyw—cymeryd baddon cynes gyda Sebon Cuticura, i lanhaTi y croen oddiwrth gramenod, ac iro gyda Enaint Cuticura i esmwythau y gosfa, llosgiad, ac enyniad, a chroeni briwiau, dogn o Cuticura Resolvent i oeri y gwaed, bydd i'r uchod feddygin- iaethu yn gyflym a pbarhaol a hyny yn rhad, pan fydd y meddygon goreu wedi ffaelu. Pris y set, 6s; neu y Sebon, Is. Enaint, 2s 6c: Resolvent, 2s 6c, wedi talu y cludiad oddiwrth F. Newbery and Sons, London, "•E.C., neu gan Jferyllwyr.
Dinystrio Pymtheg o Longau.
Dinystrio Pymtheg o Longau. Bu y troellwynt diweddaf yn yr Unol Daleethau yn dra. dinystriol. Bau ferwed- ydd melin yw yr oil sydd wedi eu gadael o dref M'Intyre. Yn Lanark hyrddiwyd gwestyyn ei gyfanerorph i'r oulfor. Dinystr- iwyd pymtheg o longau. Miliwn o ddoleri yw amcangyfrif gwerth yr eiddo a ddifrod- wyd. Yn Carrabell gwnaed dau gant o deuluoedd yn ddigartref.
IGorsedd Rwsla. -
Gorsedd Rwsla. Y mae yr Ymherawdwr Nicholas wedi gosod bryd ei galon ar ddisgyn oddiar or- sedd Rwsia, medd un hanes. Michael ei frawd aydd i esgyn iddi yn ei le, medd un banes; a rhywbeth ynglyn a'r fusnes hon sydd wedi anton Oyeinidog Tamor Ffrainc i St. Petersburgh y dyddjau hyn, fe ychw.-tn- egir. Hanes a-iall a ddywed nad oes galr o wir yn yr banes hwn.
Rbellffordd Ysgafn i Ebenezer.…
Rbellffordd Ysgafn i Ebenezer. r ■■ (At Olygydd y Werin.") Syr,—Ychydig wytbrosau'n ol yr oedd plwyf Llanddeiniolen mewn berw etholttd, trwy ba nn yr oedd i'w benderfynu pa un o'r tri lie oedd i gael y pen arall i'r Jiuell, —Bangor, Caernarfon, ai ynte Porthdiuor- wig. Canlyniad yr etholiad hwnw ydoedd dewis Caernarfon gyda mwyafrif m "wr Mewn canlyniad, priodol gofyn, Beth liae Caernarfon yn myndi wneyd ? Mae dyn;on goreu y dref wedi bod yn anerch cyfar od- ydd cyhoeddus trwy y plwyf, ac y m lent wedi gwneyd addewidion pwysig. A yd >m i gredu unwaith eto mai addaw yn unig sydd i fod ? Yn sicr i chwi y mae plwyf LUu- ddeiniolen yu disgwyl rbywbeth bellach mwy sylweddol nag addewidion, oherwydd- mae pwnc y rheilffordd ysgafn i Eben-zpr yn bWlJc ag y maent o ddifrif gydag t-f. Mae'r ymdeimlad o angen rheilffordd i'r Jle wedi gafael yn y bobl, ac rid ydym 81D roddi i fyny yr ymdrech hyd nes cario barn fuddugoliaeth. i Mac n ffaith gysurlawn i'r ardal fod Mr Henry Owen, Liverpool House, yn dechreu adeiladu un at hugain o dai yn un o'r lle- oedd iachaf, mwyaf dymunol ya yr ardal. Bydd yn gaffaeliad mawr mewn lie ag y mae cymaint o angen tai. Mae hyn yn dweyd Jlawer am ddyfodol yr ardal, a dis- gW) iivm weled Caernarfon yn dod allan i gynorthwyo y pwyllgor fel ag i sicihau rheilffordd i'r lie. —Yr eiddoch, ROBERT JONES. Ty Capel, Sardis.
Claddedigaeth yr Henadur 0…
Claddedigaeth yr Henadur 0 Griffith, Pensarn, Hon. Cymerodd claddedigaeth y boneddwr uchod le ddydd Mawrth, yn mynwent Llan- wenlhvyfc. Cjaihaliwyd gwasacaeth, o dan lywyddiaeth Mr Lewis Hughefs, Y.H., vn nghapel Bozrah, yn mha un y cyinerwyd rhan gan y Parchn J. Owen, Pare; R. Wil- liams, Llangwyllog; W. Roberts, Gors- lwyd W. Hughes, Bethania R. Mathews, Nebo; O. Parry, Cemaes; D. Rees, Y.H.; a W. M. Jones, Lerpwl. Yn mhlith ereill ceddyiit. bresenol yr oedd y Parohn O. Hughes, Caergybi; R. O. Williams, Am- lwch; Mri T. Williams, C.S. A. M'Killop, Y.H.; O. E. Jones, Y.H.; R. L. Edwards, C.S.; E. Roberts, C.S.; W. Roberts, C.S., a gwarcheidwaid a swyddogion Undeb sir Fon. Yn mynwent Llanwenllwyfo ac wrth y bedd gwasanaethai rheithor y plwyf. Yr oedd yn gladdedigaeth mawr iawn, ac arwyddion o alar i'w eanfod yn m-hob cyfeir- iad.
Rhyw Helynt hefo'r Eglwys…
Rhyw Helynt hefo'r Eglwys eto A ydyw yn gyfreithlon defnyddio arogl- darth fel rhan o wasanaeth Eglwys Loegr, ac ai cyfreithlon yw cario goleuni mewn goryrmdaith yn ei haddoliad ? Dyna y cwestiwn y bu y ddau Archesgob yn gwrando arno yn cael ei ddadleu am ddyddiau yn yr wythnosau diweddaf hyn. Ac wedi gwrando yn sobr ac yn ddytai ar y ddadl o blaid ac yn erbyn, hwy a dd-,ethant i farn —barn bwyllog yn ddiau—ar y mater, ac y mae y farn hono wedi ei datga-n gyda phob difrifoldeb, ac y mae hono, ar fyr eiriau, yn erbyn; y mae y naill beth a'r llall yn cael eu gwahardd. Ond y mae y ddau Arcbesgob yn datgan eu barn mewn ymadroddion o felfed, a geiriau o sidan. Yr oeddynt yn mhell o ddyweyd fod arogl-darth ynddo ei y hun yn anmhriodol neu annymunol i'w ddefnyddio gyda'r, addcliadi cyhoedd'us;" ond yr oeddynt "yn rhwym o ddyfod i'r casgliad nad oedd defnyddio arogl-darth yn yr addoliad cyhoeddus, ac fel rhan o'r addol- iad hwnw, yn bresenol yn cael ei orcnymyn na'i oddef gan gyfraith Eglwys Loegr." Ac am hyny yr oedd yn ddyledswydd arnynt "erchi i'r clerigwyr oedd yn ei arfer felly i roddi yr arferiad heibio." Yr un modd hefyd gyda chario goleuni, y mae y datgan- iad hwn o "opiniwn" yr Arche--Yobion wedi "syfrdanu" y "Church Times" ac yn ei syfrdandod y mae efe yn traethu barn ar "opiniwn" yr Archesgobion. Ond yr ydym braiddyn meddwl mai tuedd i gymell ymos- tyngiad a gwrthdystiad y mae y papyr hwnw. Ond nid yw Syr Oracl-Arglwydd Halifax—wedi llefaru eto.
Beth sydd ar Bersanlald Sir…
Beth sydd ar Bersanlald Sir If lnt? Beth yn enw pob rheswm sydd ar ber- ca-niaid Sir Fflint ? Nid oes fawr o amser er pan oedd person Fflint yn cyhoeddi celwydd o'i bwlpud am Mr Tom Ellis, ac er iddo gael digon o gyfle i dynu ei eiriau yn ol, dilyn y mae esiampl Archesgob Caergaint gydag achos arall. Dyma berson Prestatyin eto yn ysgrfenu llythyr i felldithio y -nyrddan Ysgol fel gwaith y diafol a'i griw, a hyny oherwydd fod y plwyfolion wedi galw am Fwrdd Ysgol, a Mr Balfour wedi dweyd eu bod i'w gael. A oes rhyw ddallineb wedi disgyn ar y personiaid hyn ? Betli fyddai i Esgob Llanelwy eu galw yn nghyd, a chael tipyn o seiat gyda hwy ? Nid pobl eraill sydd yn dioddef oddiwrth yr ebychiadau hyn o nwyd ddrwg, ond y personiaid eu hunain. Bychan yw e'u cyfle i wneyd daioni ar y goreu; ond am berson mewn tymer ddrwg, nid oes yn bosibl iddo wneyd lies i eraill, a thry ei holl nerth i wneyd drwg iddo ei hun.