Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

IAM DRO YN NGHYMRU.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

AM DRO YN NGHYMRU. Caernarfon, Penygroes, a'r ardaloedd cylchynol.-Oddiyno i Ddeheudir Cymru. 1 Gan R. G. Morris, Granville, N. Y. Siomedigaeth i ni ydoedd gohirie,d yr Eisteddfod Genedlaethol, am ein bod wedi edrych yn mlaen gyda dyddordeb at ei chynaliad..Ni chawsom erioed y fraint o fod mewn un, ac y mae ein hym- weliad a Chymru yn hyn o beth yn fyr o gyraedd ei amcan. Fodd bynag, caw- som olwg ar y neuadd eang a'r maen Ilo,&,c., ac yr oedd hyny yn rhyw- beth i un am y tro cyntaif. Ond os siom- wyd ni o'r eyfarfodydd, cawsom fynd i Gaernarfon un noson i weled perfformio y d dram a "Beddau'r Proffwydi," glan y cwmni oedd wedi ei ethol i gystadlu yn erbyn cwmni o'r Deheudir yn yr Eis- teddfod, a chawsom ein boddhau yn ddirfawr yn y gwaith rhagorol a wnaed gan yr oil o'r cymeriadau. Yn ddiddadl dyma y p-erfformiad goreu o unrhyw ddrama Gymreig ag y buom ynddi er- ioed, ac y mae y ddrama ynddi ei hun yn dsilwng o'r awdwr ieuanc, yr hwn oedd yn .bresenol ar yr achlysur. Dy- lai cwmniau Cymreig y Celtiaid, Utiea, West Pawle,t a Poultney gael gafael ar hon a gwneyd defnydd o honi yn y dy- Podol. Cblegid byddai yn werth i Gymry America gael ei gweled. Yn llygad- lystion o honi yr oedd Mr. a Mrs. J. Humphreys-Griffith, Philadelphia; Row- land S. Parry ac Owen Griffith o New York; Miss Kate Thomas, Utica, a Griff- ith J. Williams, Granville, ac o bosib] -raill o'r A.merica nas gv/yddem am danynt. Cawsom hefyd dreulio peth amser yn nhref Caernarfon y dyddiau dylynol gyda perthynasau y wraig, sef y brodyr Thomas, Jchn ac Owen Owens a Mr. a. Mrs. Rees Hughes, Garnon St. Pobl iaredig dros be-n oedd y teulu oedd hyn ac mewn sefyllfaoedd anrhvdeddus yn y He. Cadwa Tholllas Owens y livery yn nglyn a'r Royal Hotel, a gofala Mr. Hughes, yr jiwn sydd berthynas agos i deulu y diweddar Griffith R. D'avies. ",fiddle Granville, am y castell. Oddi yma symudwn yn nesaf i Penygroes, lie y treuliasom wythnos gyda theulu Hugh Tones, County Road. a Mr. a Mrs. Hugh Williams ar yr un at*o7. Xis gallasem Idysgwyl mwy o groesaw yn unman nag a gafwvd yma, canys gwriaeth y cyfeillion hyn bob peth yn eu gallu i ni. Rhoddwyd cyfarfod croesawol i ni/ yn yr hwn y canodd y ddau frawd, Hugh Sam, amryw ddetholion yn rhagorol iawn, a threuliwyd noswaith hynod o hwyliog. Boreu Sat-both, aethom gyda Mr. Jcces i gapel y Bedyddwyr, a chawsom bregeth dda gan y Parch. Mr. Edwards, y gweinidog, gwr ieuanc a dytfodol addawol iddo. Yn yr hwyr, yn nghapel y Wesleyaid, pregethai y Dr. Hugh Jones, Bangor, a'r Parch. Thomas Hughes, cadeirydd y Dalaeth Ogleddol, ar yr achlysur o gynaliad y Cyfarfod Cyllideb. Da oedd genym gael I eyfle unwaith eto i wrando Dr. Jones yn traethu y genadwri gyda'r fath ddylan- wad, pan y cofiwn ei. fod dros 80 mlwydd ced. Eife oedd yr unig un o'r hen gewri a. gofiwn a glywais yn ystod fy holl daith. Yr oedd cynulleidfa dda yn ei wrando ac yn mwynhau yr oedfa. Gal- wasom gydag amryw o'r trigolion, mogys Mr. a Mrs. Harry Morris Jones, Rc-bert Evans, a fu gynt yn byw yn Granville, a llawenydd i ni oedd ei gy- farfod mor annys'gwyliadwy. Deallwn fod "Bcb" yn dod yn mlaen yn dda yn y busnes y mae ynddo yn Penygroes. Gyda Haw, ganddo ef yn unig y cawsom 'ke cream' yn ol y dull Americanaidd. Yn nghwmni ein cyfaill Griffith Wil- liams, Granville, cawsom dre,ulio diwT- nod yn nghyffiniau Llaiiberis, gan alw beibio amryw yno, ac yn Bryn'refail, Penllyn a Chwmyglo. Diwrnod o ddy- ddorde,b neillduol hefyd ydoedd un arall d.ros bont y Gim hyd Bontllyfni ac yn mlaen i Clynnog,, lie y cawsom olwg ar hen eglwys y plwyf, yr hon sydd dros 1400 mlwydd oed. Yn y fynwent hon y gorwedd gweddillion Eben Fardd. •Cerddasom ychydig y tu allo-n i'r pentref er cael golwg ar y cromlechau ac yn ol heilbio Ffvnon Beuno, sydd yn enwog yn yr ardal. Gan fod genym gamera gyda ni tynwyd darlun o'r ffynon henaif- ol hon, a merch fach oi'r enw Lizzie Ellis yno ar y pryd yn tynu dwfr i'w phiserau. Galwasom yn nghartref Mrs. Evan E. Jones, ond ni ddygwyddai nefo fod gartref ar y pryd. Wythnos a gof- iaf ar hyd fy oes, oedd yr wythnos a dreuliwyd yn Mhenygroes; er nad oedd y tywydd yn ffafriol o hyd. Parod i'n derbyn oedd cyfeillion bob pryd, ac an- hawdd iawn yn wir ydoedd i ni ollwng gafael a'r lie rywifodd, a cheisiodd am- ryw ein perswadio i aros yn hwy; ond rhaid oedd mynd neu fod heb orphen ein taith. Oddi yma yr oedd genym daith fawr i'w gwneyd am ein bod a'n gwynebau ar y Deheudir, ond edrychem yn mlaen ati gyda mwynhad perffaith, oblegid y ffaith ein bod i gael gweled chwaer a dau frawd arall i mi, sef Mrs. Edward Jones ac Owen Morris yn Aberfan, a William Morris yn y Fcchriw. Gadaw- Mm Penygroes oddeutu 10 o'r gloch yn y boreu gyda'r Cambrian, yn nghwmni deuddeg o fechgyn y lie oedd yn gorfod svmud gan fod y chwarel y gweithient ynddi wedi ei chau i ifyny, a chyraeddas- om Merthyr Tydfil am 7 yr hwyr. Gan nad oeddwn wedi gweled fy mherthyn- asau er's cymaint o amser pryderwn dipyn yn ngihylch eu hadnabod ac felly hefyd y teimlent hwythau mewn per- thynas i ninau; ond ni theimlwyd an- hawsder o unrhyw ochr. Adwaenais fy mrawd yn mhell cyn cyraedd ato, a fy phwaer yr un modd, a hapus 'oedd y cyfarfyddiad. Ni bum yn fwy llawen yn ystod fy holl oes na'r noson hon. Treul- iasom ddwy wythnos gyda hwy, a nibu i ni wastraffu dim amser tra yno. Cy- merid pdb diwrnod i fyny mewn modd deheuig a galwagom mewn degau o ben- trefl y Deheudir. Bu y tywydd yn hyn- od o ffafriol tra yma—dim dvfervn o wlaw a'r hinsawdd yn dymerus iawn. Ofer i ni fyddai ceisio enwi y person- au a welsom, ond rywfodd teimlwn dan rwymau i nodi rhai. Un o'r cyfryw yd- oedd y cerddor galluog ac adnabyddu0 Proff. Tom Price. Merthyr, gan yr hwn y cawscm dderbyniad cynes yn ei gar- trp'f elyci a gwnaeth ei oreu i'n dyddorl. Un arall ydoedd y Parch. J. W. Price, gweinidog gyda'r Annibynwyr yn Troed- yrhiw, ac yr oedd ef a'i briod hawddgar yn teimlo yn ofidus yn herwydd nas gall em dreulio wythnos gyfan gyda hwy. Aeth Mr. Price a ni i weld, ei gapel harddd a chaniataodd i ni esgyn i'w bwlpud, anrhydedd na chai pawb mo- honi, meddai ef. Dangosodd ni trwy luaws o adeiladau eraill yn Troedyrhiw, ac yr oedd ei gwmni a'i groesaw yn cael ei werthfawrogi genym. Bu ef drosodd yn America wyth mlynedd yn ol a dyna'r pryd y daethom i gyffyrddiad a'n gilydd yn Granville. Ychydig feddyl- iodd yr un o honom y caem gyfarfod yn Nghymru. Gydag ef y pryd hyny yr oedd D. J. Walters, ysgrifenydd ei eg- lwys. Gwelsom ef yn Aberfan, ac yr oedd pyrth ei anedd yntau yn agored o led y pen i'n derbyn i mewn. Gwnaeth Mrs. Walters a'i mam bob peth oedd bosibl er ein dedwyddweh. Gofidiwn am na welsom y Parch. T. Gwernogle Evans, yr hen weinidog yn Granville, a'n cysylltodd mewn glan briodas. Gwnaethom bob ymgais i ddod o hyd iddo, ond methasom hyd o fewn ychydig dyddiau i derfyn yr ymweliad a phob diwrnod wedi ei addaw i gyfeillion er- aill. Yn Llanstephan y mae ef ar hyn o bryd, ac yn pregethu gyda'r Method- istiaid Calfinaidd. Trwyddo ef y daeth- om i wybod fod ei frawd, Parch. E. D. Evans, hen weinidog 11th Street, New York, yn byw yn Pontypridd. Aethom yno er cael ei weled, ond yn anffodus nid oedd gartref. Oawsom lythyr oddi- wrtho yn erfyn arnom ohirio ein dy- chweliad fel y cai hamdden i dreulio un diwrnod gyda ni; ond nis gallem gyfar- fod ei ddymuniad.

Advertising

NEWYDDION CYMRU.

Advertising

f NODIADAU 0 SLATINGTON, PA.

HAMMOND, IND. I

I TORONTO, CANADA.

! > Joliet, III.

Advertising