Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

[No title]

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y Kaiser. Aeth a'i ddwrn i ffwrnas—do, yr hen Aeth a'i drwyn i fflam-las; (hwrdd Ca'i losgi a'i gosbi'n gas Am lunio'i chwim alanas. BYDWELLTYDD. -0-- Y Tugel. I Yn y cudd, mantais fuddiol—yw'r tugel Er tegwch pleidleisiol; Trwy hwn pawb tra yn y pol Feddant bleidlais wirfoddol. TROSERCH. o Y Gwanwyn. I Y gwanwyn per su'n gwenu'n hardd Trwy'r maes, trwy'r ardd a'r mynydd, Ac egin bywyd ar bob llaw'n Pelydru bron o'r newydd; Y gornant fu dan glo y glyn Sy'n sisial rhwng y bryniau, A chor y wig mewn peraidd gan A seiniant eu telorau. Mae anian ferth yn fyw drwy'r byd, Yn dangos ardderchawgrwydd; Y lili wen ddyrchafa'i phen Dan wenau ei Chreawdydd; Yr oen dinam sydd ar y ddol Yn prancio hwyr a borau; A'r byd yn lion o'u hamgylch sydd Dan goron hardd o flodau. Nid yw y greadigaeth oil Ond Beibl i'n haddysgu Fod dydd gauafol angeu erch Yn fywyd yn yr Iesu; Er cael ein gosod yn y bedd I huno mewn adfeiliad, Trwy ffydd yn Hwn 'rwv'n llawenhau, Fe ddaw i'm adgyfodiad. THOMAS J. EVANS (Bryndewi). Johnstown, Pa. o Gwalia Wen. Ni raid i Walia wen, Am enyd i gyffroi; I'w geg ca'r Ellmyn gwyllt Fwy tamaid nas gall gnoi: Bydd heb un dant o fewn ei ben Cyn cura'r ddewr hoff Gymru wen. Ac er i'r Kaiser gwyllt Am ugain blwydd bar'toi, Am feirch a maglau tan I goncro'n yn ddiymdroi: Ei fwriad ffol ni ddaw i ben; Ni chaiff roi troed ar Walia Wen! Yn llechog aeth i maes; Ymffrostiai ynddo i hun; 'Does neb a all ei droi 0 hyd o'i heriad blin! Ond, druan bach, 0 Wil ddi ben, Mae dewrion fyrdd yn Nghymru wen! Mae'r Kaiser erbyn hyn Yn gwel'd y rhod yn troi; Yn nghanol mwg a than Ar frys fe'i ceir yn ffoi: Ar dir a mor, ac entrych nen, Ni threcha Wil fyth Walia Wen! R. C. EVANS. Ovando, Montana. Fy nghariad tuhwnt i'r don. O! 'rwyf yn cofio fy Olwen fad, Fel yr eisteddem gynt, Ar lan yr afon ger ty dy dad I wrandaw ar y gwynt Yn suo-ganu'n bereiddia' 'rioed, Fel i'n difyru'n dau; Ond nid y miwsig yn nail y coed Wnaeth i ni lawenhau. Wyt ti yn cofio i ni mewn stwr Fyn'd hyd at fin y don? Tlws oedd dy wyneb yn nrych y dwr, Gwnaeth i mi lamu'n lion! Gwyl oedd y nefoedd a'i mil-mil ser Tra yn dy ymyl di Yn nwr yr afon; gogoniant ter Oe't i fy nghalon i! Prndd yw fy nghalon o dan fy mron Er pan adewais di, Nid yw mwynderau'r ddaear gron Ddim heb dy gwmni cu; LIon oedd ein can pan oe'm ar y fron O! wyt ti'n cofio'r pryd Pan y soniasom am groesi'r don Draw i'r gorllewin fyd? Byth 'rwyf er hyny fel meudwy prudd; Dim ond adgofion mad Ddaw gyda chugan i'm gwelw rudd— Balm o fy anwyl wlad; Yn yr adgofion 'rwv'n teimlo'n lion, Gwen o fy wyneb ddaw! Tyr'd O! fy Olwen, paid ofni'r don! Rhof fodrwy ar dy law. Chicago, Ill. JOHN T. JONES. -0-- Y Bwthyn Cyffion. Mi dreuliais flwyddi meithion Dan nawdd rhieni cu, Yn nyddiau mebyd gwiwlon Heb adwaen trallod du; Os nad oedd gwaliau'r cartref Ond cyffion prin o swyn, O'i fewn ymgronai tangnef, Yn wynddydd cariad mwyn. Os gwair oedd to y bwthyn A gaselodd dwylaw nhad, Fe brofodd yn amddiffyn Rhag holl dvrnestloedd gwlad; Disgvnai curwlaw arno Heb dori ar fy hedd, I lithro'n ddystaw drosto Ar ffordd ei olaf fedd. Os llawr o bridd yn unig, Heb orchudd o un rhyw Oedd dan ein gliniau gwledig 0 amgvlch allor Duw; Cvsegrodd dagrau cariad Fy nhad y fan i mi, Tra'n gweini fel offeiriad Mewn tvner, santaidd fri. Mi gofia'r adeg hono, A'r bwthyn llwvd ei wedd Llp'm dysgwyrl i benlinio Dan law fy mam mewn hedd I ddvspru gww'si tyner Gwasanaeth Iesu Grist, Yn moreu gwvn fy amser, Cyn profi siomiant trist. Ymffrostied meibion golud Yn eu palasau llawn; Yr addumiadau hyfryd A'r dodrefn costus iawn; Bydd cof y bwthyn cvffion Yn nod fy ymffrost i, Groesawodd nef genadon Fydd mewn anfarwol fri. I Fe alwyd fy rhieni Gan eu Gwaredwr cu I'w devrnas i'w coroni Mewn gwvnfvd nerffaith fry; Y cartref dedwvdd hwnw, Lie cwrdd y.teulu yn nghyd Am bvth o gvraedd marw, Ar ddelw Crist i gyd. 'Rwvf finau am fynd yno, A hvnv'n eb'rwvdd iawn: Yn ymchwvdd hedd y wenfro A'i holl fwynderau llawn; Mi gofiaf wersi'r bwthyn, Yn ngwydd fy Iesu'n wir A'm dysgodd gynt i'w ddylyn Ar Iwybrau'r anial dir. JOHN R. JONES (Hendref). Columbus, Wis. o Y Trail-Hitters. Cyfansoddwyd y llinellau canlynol yn ngwres y rhes o gyfarfodydd Diwyg- iadol a gynaliwyd yn eglwys Bethan- ia, Bellevue, Scranton, ar hyd y mis- oedd diweddaf. Arglwydd Iesu, dyro gymorth I ni yn yr oedfa hon; Gofyn'r ydym am gynorthwy I ymostwng ger dy fron; Gwael "trail-hitters" ydym lesu Wedi dod i'r gorlan glyd; A "trail-hitters" wedi cefnu Ar uffernol bethau'r byd. Bendith nef yw cael gwir lywydd Cafwyd hwn yn George yn wir, Ei uchelgais ef bob amser Yw ymdrechu bod yn bur; Gweld "trail-hitters" wedi syrthio, Sydd yn gwneyd ei fron yn friw; Mae ei galon gyda'i enaid Dros trail-hitters o Bellevue. Diolch i Ti, lesu hawddgar, Am fendithio'r eglwys hon, A bendithion pur y nefoedd Bendith nef sydd ger ein bron; Na ollyngwn afael arni Bendith nef yw bendith Duw; Dyma'r fendith a fendithir Ar trail-hitters o Bellevue. Tyred dithau o bechadur Dyma fendith ryfedd yw I gael rhodio tua'r nefoedd Yn nghwmpeini meibion Duw; Nid oes dwyllwr yn y dyrfa Sydd yn rbodio llwybrau'r nef; Dim un Judas i gusanu Ei wynebpryd santaidd Ef. Diolch i Ti, Arglwydd grasol, Am y diaconiaid gwiw, Sy'n addurno y sedd flaenaf Yn Bethania hoff Bellevue; Eu hymdrechion a goronwyd Trwy wel'd llu yn dod at Dduw; Ac yn wir y maent yn caru Y trail-hitters o Bellevue. Clyw fy ngweddi, lesu anwyl, Cyfaill i Ti yw D. Wynne; Mae ei harddwch a'i gymeriad Fel y lili yn y glyn; Yn ei sel a'i fawr frwdfrydedd, Canodd i ni swynol gan, "Dewch at lesu, dewch at Iesu," Lifodd dros ei galon lan. Yn Bethania mae ei harddwch Fel y rhosyn teg ei wawr; Perarogli mae'i rinweddau Drwy yr ardal lesu mawr; Gwr pum talent ydyw'n cyfaill, Yn dysgleirio yn ein plith; 0, fy lor, 0, taena'th aden Amddiffynol drosto byth! Diolch Iesu am Bethania, Dim mab hynaf yn ein plith; Duw a roddodd orchwyl iddo Yn y maes i aros byth; Diolch am y brodyr anwyl A'r chwiorydd yn gytun; 'R oil yn uno o un galon I ddyrchafu Mab y Dyn. Cyfeiriad sydd yma am George L. Jones, llywydd cyfarfod y "Trail- Hitters;" a hefyd at ein hanwyl wein- idog, D. Wynne Rees, yn tori allan i ganu yn ddiarwybod iddo ei hun yn un o'r cyfarfodydd. I HENRY D. JONES.

I NODlON 0 GAERGYBI, G. C.

I MONTREAL, CANADA.

Advertising

"Rhydd i Bob Meddwl ei Farn…

WIND GAP, PA.

W- YN EISIEU

HOLIAD AM GYMRO.

GWYL DEWI YN SAN DIEGO, CALIF.