Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

SUDDIAD Y LUSITANIA. I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

SUDDIAD Y LUSITANIA. Yn Weithred Farbaraidd ac Vffen- ol. I Gan E. Edwards, Roslindale, Mass. Dyma farn onest ac unfrydol holl genedloedd y byd heddyw. Arferem feddwl fod rhyw dynerwch a math o ddynoliaeth yn perthyn iddynt. Os bu y cyfryw rinwedd ynddynt yn y gor- phenol. hid yw i'w gael heddyw. Ym- ogoneddant yn eu hannghyfiawnderau. Prin y ceir iaith digon llym a miniog i gondemnio eu creulonderau erohyll. Buasem yn meddwl fod y fath anfad- waith yn anmhosibl yn yr oes oleu hon. Agorjvyd ein llygaid. Meddylier am tua 1,200 o fywydau diniwed nad oedd iddynt ran na chyfran yn y rhyfel presenol, yn wyr, gwragedd a phlant, yn cael eu llofruddio mewn gwaed oer gan gythreuliaid mewn gwisg ddynol. Ie, 100 o-blant bach angelion gwynion y nefoedd yn eu mysg! Eto, dyma'r bobl ymffrostiant mewn tynerwch a moesoldeb, ac fod Duw y nefoedd o'u plaid! O! wiberod ragrithiol. Dechreuasant y rhyfel gan dori pob cytundeb a chyfraith, a nodweddir hwy a chreulondeb ar hyd y misoedd, ond ceir yr uchafddrwg- yn suddiad y trueiniaid ar y Lusitania. Sut y gall unrhyw ddyn yn ei synwyr amddiffyn y Kaiser a'i gyngorwyr yn hyn? Brysia yr Ymerawdwr Neroaidd a'i gefnogwyr i'r wasg i geisio amddiffyn 'troseddau hyllaf yr oes. Cyfiawnhant y dyhirwyr fod suddo y llestr odidog yn ddyledswydd arbenig, a chyfleant y meddwl y dylent gael coronau am eu gwrhydri. Nid oes ganddynt sylfaen dan eu traed. Pa hawl oedd ganddynt i ddinystrio y teithwyr? Safant o flaen y hyd heddyw fel llofruddion. Dyna ddedfryd gyfiawn pob llys dan y nef, ac yn y nef hefyd. Gwelais arluniad yn uitt o'r new- yddiaduron, a thebyg i amryw o ddar- llenwyr y "Drych" ei weled hefyd, yn yr hwn y portreadir y Kaiser yn sefyll yn ei wisg filwrol, ei l dan ei en, a pheiriant uffernol yn guddiedig dan ei amwisg. Ac wrth syllu ar ei wedd annynol, edrycha fel un yn cael ei frathu gan gydwybod euog. O'i fiaen cyfyd y plant bach a lofruddiwyd o'u dyfrllyd fedd, ac er wedi marw yn Ile- faru eto, a chan edrych ar y Kaiser dy- wedant yn eu diniweidrwydd plentyn- aidd, "Why did you kill us?" Ie, pa- ham y lleddaist hwy? Erys y weledig- aeth hon o flaen llygaid ei feddwl hyd ei fedd, ac fe fydd swn y geiriau hyn vn swnio yn ei glustiau lie bynag y bo. Er y condemnir yn Ilym y Kaiser a'i lywodraeth am eu hysbryd- gwaedlyd a'u gweithredoedd dieflig, eto y mae'n dda meddwl y ceir miloedd o German- iaid na chymeradwyant y modd y cerir y rhyfel yn mlaen. Un o'r rhai hyn yw yr enwog awdwr a'r gwir hynaws a chyfiawn Chas. Wagner o'r Dalaeth hon. Gwna ei feddwl yn glir ar y mater. A chyda llaw derbyniodd lyth- yr bygythiol heddyw gan ryw Ellmyn gwyllt a diegwyddor yn bygythio ei ladd o'r herwydd. Cyfansoddodd Wag- ner ddarn o farddoniaeth i gondemnio llofruddio gwragedd a phlant ar y Lusitania. Fel hyn yr ysgrifena: The German Empire is no more, The hand that struck unseen, An ocean's ruling queen Has stricken hearts of millions more, Than sank in waters green; Cursed be that hand unseen! The Emperor of Hate has smiled, And in his smile he lost What centuries have cost: The reverence born a German child: A people's love embossed; On union shield—yes, lost! 0, we whose veins prove Teuton sires, Who heretofore were proud Of German traits endowed, Must grasp Hate's fagots from war's fires. And hide its deeds with shroud, 0, God !ancl we've been proud. Gadawn i Mr. Wagner ddweyd yn ei eiriau ei hun beth achosodd y darn barddonol. Dywed: "I wrote that poem because my whole being revolted against the diabolical murder of peace- able men and women, innocent babes in arms, whose lives were snuffed aut when a German submarine sent the great ship Lusitania to the bottom. For the first time in my life, I was ashamed of my German name, and I firmly believe that every sentiment ex- presaed in those verses is echoed in the hearts of the great mass of German- American Citizens of America. So long as I am able to write I shall condemn such outrageous deeds."

RHYFEL Y RHYFELOEDD.I

CYMAWFA BEDYDDWYR CYMREIG…

NODLnAU 0 FYNYDD CYNFFIG.…

' INFORMATION WANTED. I

Fclmd am Gvmrc. -..,a

Y TY AR Y TYWOD I

"WRTH "FIT FFRWYTTTATT YR…

Advertising

Y DIWEDDAR EVAN 0. JONES,…