Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
11 erthygl ar y dudalen hon
MARWOLAETHAU. j
MARWOLAETHAU. Y Deheudir. Abertileri.—Mehefin 2 2, Cwm. John Phillips, yn 69 oed.—-Meh. 23. Nyth- fa, Gelli Crug, y Parch. Elisaph Ed- wards. Abertridwr.ITeh. 27, Cymmer House, Evan Dewi Truman, talwr glofeydd Windsor. Aberystwyth.—Meh. 24. North Parade, John Kenneth Raymond Williams, mab Mr. a Mrs. D. Emrys Williams, yn 18 oed.-Meh. 26, Mill St., Ellen Arter Thomas, priod James Thomas. yn 51 oed. Blackmill.—Meh. 20, Moses Lewis, yn 69 ded. Caerau.—Meh. 24, Caerau Road, Mrs. Jenkin Thomas. Caerdydd.—Meh. 24, William Thomas, priod Hannah Bowen, yn 63 oed.- Meh. 20, City Rd., Mary, gweddw John Jenkins.—Meh. 17, Pearl St., Alfred, priod Bessie Lewis, T. V. V., iyn 52 oed. Cilfynydd.-Meh. 22, Tydycelyn, Evan James, yn 90 oed. Cowl)i-idge.-Meh. 24, yn Eglwys- brewis. Harriet Maria, gwetfiw D. Holford Davies, Y. H., yn 60 oed. Crossvane.-Meh. 26, David Bevan, Crossvane Cottage, yn 77 oed. Crughywel.—Meh. 23, Derwen Deg, Richard George James, Y. H., yn 80 oed. Crumlin.- Yn ddiweddar. yn y Post Office, Miss Myfanwy Richards. Ffynon Daf.—'Meh. 25, Cardiff Rd., Evan Davies, dilledydd. yn 72 oed. Tilandebie.-Meh. 26, Red Lion, David Evans yn 62 oed. Merthyr.-Yn ddiweddar, Belle Vue, Polly, priod D. J. Davies (grocer, Dowlais). Xew Tredegar.—Meh. 17, yn Glan- alarch, Cwmsyfiog, Mary George, yn 78 oed. Pentre, Rhon.dda.-Meh. 21, Emlyn Stores, Anne, priod J. Emlyn Jones, grocer. Pontllanfraith.—Yn ddiweddar, Mar- garet Jenkins, IJinllwyn House, gweddw Wm. Jenkins, Penllwyn Mawr. Ponfyprid(I.-ieh. 26, Bracklands, Tyfica Road. John Davies Jones, di- weddar ysgolfeistr. Rudrv.—.Meh. 27, yn y ficerfa, y Parch. Wm. Jones, yn 72 oed. St. Clears.—Yn ddiweddar, Pencoed, Mydrim. Esther, gweddw Thomas Lewis, yn 78 oed. Ti-edegai, Junction.Nfeh. 22, Black- wood Rd., Eliza, gweddw John Mor- gan. Y GoLyledd. Bethel.—Yn ddiweddar, Owen Owens, Aden. Carmel.—Meh. 19. J. W. Thoifias, Bay View, vn 24 oed. Carno.—Meh. 12, John. Jones, Siop y Groes. yn 59 oed. Caernarvon.—iMeh. 23, Miss Margaret Williams. 21 Palace St. Cefnmeiriadog. —Yn ddiweddar, yn Tanygraig. Mrs. Williams, gweddw Thomas Williams. Corris. Yn ddiweddar. Humphrey Williams. Ty'nllechwedd. Dinbych—iMeh. 27. Elias Ellis, Chap- man Terr.. yn 47 oed.-Peter. mab Mr. a Mrs. Ithel Jones. Ffolt, Peniel, yn 17 o-pd.-Robert Williams, Cys- arodfa, Chapel St., yn 76 oed. Dalaellau.—Yn ddiweddar, Mrs. Eliza- beth Jones, South St., yn 74 oed. EsJwvsbach.—Meh. 19. Edwin Wynne, Tv'nvbryn. vn 71 oed. Ffpqtinioz. -Yn drliweddar, William Thomas. Tanybwlch. Bethesda.— Mrs. David Lewis. 1 Glandwr Terr, Glpmlyfndwv.—Yn ddiweddar. Price Jones, arynt o Ty Canol. Llandderfel.—Yn ddiweddar, Mrs. E. 0. Jones. Tv Uchaf. T-.I-nclii(lno.-Mebefin 18. yn Malton. York. Parch. Price Williams, gwein- ioocr gnla'r Bedvddwvr. yn 58 oed. T.la^eefni.—Meh. 20. Richard Jones, nlastrwr. Church St. Llanrwst.—Yn ddiweddar, Robert Wil- liams. Tu hwnt i'r afon. Gwytherin, vn 6 4 oed.—Edwin Wynn, Ty'ny- bryn, Maesau. yn 71 oed. Llanuwchllvn.—M"eh. 27, Mrs. Jane .Tnn°s. priod Thomas Jones, Plas Marfog. yn 60 oed. Maentwroa:. —Yn ddiweddar. Miss Elizabeth Jones, Cemlvn. Minffordd.—Yn ddiweddar, Edward, bachgen hynaf Mrs. Davies, Der- Iwvn. yn 8 oed. Penrhyndeudraeth.—Meh. 17, Miss Mary Jones, Fron Heulog, yn 59 oed. Pwllheli.—Meh. 16, Miss Gwen Jones, Wnion House, yn 61 oed. Trefriw.—-Meh. 20. Henry Griffith, Llety, yn 82 oed.
Advertising
Llyfrau Maes Llafur Undeb Ysgolion Sab- bothol y T. C. "CYSONDEB Y FFYDD" (DR. CYNDDYLAN JONES). • Cyfrol IV. "Person yr Ysbryd Glan a'i Waith." Allan o'r Wasg. Pris $1.25. Anfonwch eich archeb yn ddioed i sicrhau copi. Llawlyfr Cymraeg ar Efengyl loan, Penod I-VIII., i'r Dosbarth Hynaf a'r Canol, gan Dr. J. Cynddylan Jones. Pris, gyda'r Post, 65c. Llawlyfr Saesneg ar Efengyl loan, Pen. I.-VIII., i'r Dosbarth Hynaf a'r Canol, gan Proff. Marcus Dods. Pris gyda'r Post, 60c. Gwerslyfrau ar Efengyl loan, Pen. I-VIII. i rai o dan 16 oed (Cymraeg neu Saesneg) gan y Parch. T. E. Roberts, M. A., Aberystwyth. Pris 5c.; y dwsin, 50c. Rhodd Mam, Dr. Davies (dwy-ieithoig), 5c.; 50c. y dwsin. Rhodd Mam Cymraeg (Parch. John Parry, Caer), 3 8c. y dwsin. Llyfrau Dosbarth Rhag- barotoawl, 38c. y dwsin. Pob math o Lyfrau ar gyfer Ysgolion Sabbothol. LLYFRAU ERAILL. Llawlyfr ar y Gwyrthiau (Parch. J. E. Davies, Treffynon), 35c. Blagur Awen Ben Bowen, 35c. Short Stories of Welsh History (0. M. Edwards), 20c. Arfon y Dyddiau Gynt, 40c. Ceinion y Gynganedd (Alaton), 40e. Rhys Lewis (Nofel) yn yr laith Saesneg, 75c. Agoriad i Dduwinyddiaeth y Testament Newydd (Parch. James Charles. Dinbych). $1.10. Rhyddiaith Ben Bowen, $1.10. Crefvdd a Bywyd (Parch. D. Miall Edwardsi.$1.10. Owen Glyndwr (English),$1.50 i'w werthu am $1.10. Llyfrau ar Gerddoriaeth. Llyfrau Adrodd. Dramodau. CERDDORIAETH CERDDORIAETH Canoedd o Unawdau mewn stoc. Anfonwch am gatalog o'r Gerddoriaeth. Telir sylw manwl i bob archebion. R. Morris Williams, Box 256, Utica, N. Y Plant Mis Gorphenaf Y mae arnom eisieu i bob plentyn a enir yn mis Gorph- enaf i gael Cyfrif Llogawl yn y Citizens Trust. Agorwch gvfrif iddo yma gydag $1.00. Ychwanegwch ato o leiaf ddwywaith yn y mis-o bosibl, unwaith yr wythnos. Yn mhen ugain Gorphenaf, pan fydd y plentyn wedi tyfu i fyny bydd y cyfrif o ddoler wedi cynyddu yn swm mawr. Pe byddai i famau ofalu dysgu cynildeb i'w plant, fel y gofelir am ddysgu darllen ac ysgrifenu iddynt, byddai llai o famau farw o dor calon, a mwy o ddynion a merch- ed llwyddianus yn y genedlaeth nesaf. CITIZENS Trust Company 0 dan y Faner Phone 546-Private Branch Exchange. SENECA SQUARE, UTICA, N. Y.
[No title]
Mae y llongau wedi eu gwerthu I bron yn llwyr yn Porthmadog, ac an- J ami y gwelir llong yn y porthladd yn I awr. j I.
YMOFYNIAD AM I
YMOFYNIAD AM I WM. O. HUGHES. mab i'r diweddai* Owen, Hugffes, gof, Gallt y Foel, Llandinorwig, sir Gaernarfon. 0 her- wvdd marwolaeth ei frawd John, bydd o fantais iddo ohebu a'r isod. Neu, os oes rhywun arall yn gwy- bod rhywbeth am dano, yn fyw neu farw, byddai gair oddiwrthynt yn dderbvniol. Cyfeirier-W. W. Griffith, Penlan, Buckingham Co., Va. I
NODION 0 NEW YORK. I
NODION 0 NEW YORK. Ar y 6ed o'r mis hwn, yr oedd Mrs. Martha J. Owen, o 67 St. East, yn dathlu pen ei 70ain mlwydd o oedran, a derbyniodd ar yr achlysur hapus nifer fawr-agos i gant—o dorchau o flodau a llythyrau llongyfarchiadol oddiwrth ei chyfeillfon. Yn mhlith y llythyrau yr oedd nifer wedi ysgrifenu eu llongyfarchiadau mewn barddon- iaeth dlws, a'i phrofiad ydyw ei bod yn teimlo rai blynyddoedd yn ieuengach wedi derbyn y fath arwyddion o deim- ladau da. Pleser iddi ar y diwrnod hwnw oedd cael cymdeithas ei brawd, .T. Quincy Hughes, a'i briod, a'u merch, Mrs. Josephine Miller, o Utica, y rhai ddaethant ar ymweliad a'r ddin- as. Merch yw Mrs. Owen i'r anfarwol Gymro Hugh Tegai, ac mae yn aelod o eglwys A. lltli St. Mynd a dod sydd yn ein mysg ar hyn o bryd, y tywydd teg yn galw am seibiant. Mae amryw o Gymry adna- byddus y ddinas ar eu seibiant hafol. Maent yn rhy luosog i'w henwi. Go- beithio y cant amser da. Mae yn mwriad cyfrinfaoedd Glyn- dwr, Cambrian a Ruth i gynal eu pic- nic blynyddol fel arferol ar ddydd Gwyl Llafur yn Orchard Grove, Graniteville, S. 1. Mae cryn frwdfryd- edd yn nglyn a'r symudiad, ac y mae y pwyllgor yn prysur barotoi rhaglell., fel y bydd i bawb allu mwynhau eu hunain. Gobeithio y bydd i'r Cymry un ac oil fanteisio ar y cyfle. Yn nghyfarfod rheolaidd cyfrinfa Glyndwr nos Fercher diweddaf, lleol- wyd y swyddogion am y chwe mis dy- fodol gan yr ysgrifenydd: Cyn-lywydd, J. O. Jones; uwch-lywydd, Charles Jones; ysgrifenydd cofnodol, Robert R. Williams: ysgrifenydd arianol, Rees E. Nicholas; arweinydd, E. C. Evans; goruchwyliwr, William R. Jones gwyliedydd mewnol, Hugh Morris; gwyliedydd allanol, John Davies; cyf-; eilydd ac arweinydd y gan, E. C. Evans. Mae golwg addawol ar y Gyf- rinfa ar hyn o bryd, ac ni raid i neb o'r Cymry sydd o fewn oedran priodol ofni ymuno, o herwydd y mae hi mewn safle dda iawn mewn ystyr arianol a rhifedi aelodau.—Colwynian.
CYFA'R'FOD CHWARTEROL ANNIBYNWYR…
CYFA'R'FOD CHWARTEROL ANNI- BYNWYR TALAETH NEW YORK. Cynaliwyd yr uchod yn eglwys Salem (A.), New York Mills, ddyddiau Sadwrn a'r Sul, Mehefin 17 a 18, y gynadledd brydnawn Sadwrn, pryd y llywyddid gan y Parch. Abram Jones. Yn absenoldeb yr ysgrifenydd, Dr. W. Caradog Jones, dewiswyd Robert Hughes, Holland Patent, yn ysgrifen- ydd am y tro. Yr oedd y cynrychiol- wyr canlynol yn bresenol: Bethesda, Wm. Pritchard, J. Francis Owen, John H. Rees. John G. Roberts a E. H. Jones; New York Mills, Hugh Jones a R. W. Thomas; Rome, David R. Jones a Thomas Jones; Plainfield, Francis Griffiths; Nelson, Wm. R. Williams; Remsen, David E. Jones; New York, Wm. Parry; Holland Patent, Robert Hughes. Gweinidogion, Parchn. Rich- ard Hughes, J. Velindre Jones, Abram Jones, R. L. Williams, Griffith Evans a Joseph Evans. Darllenwyd cofnodion y cyfarfod blaenorol gan yr ysgrifenydd. Dar- llenwyd llythyr cymeradwyol i'r Parch. Griffith Evans, o Vermont, ac hefyd papyr cymeradwyol o Bridgeport. Pasiwyd ein bod yn cynal y Gyman- fa fel arfer, a dewiswyd y Parchn. J. Vinson Stephens. Pittston, a Henry R. Hughes, Plymouth, i ddod yma i was- anaethu. Cafwyd g-air gan Mr. Wm. Parry, o New York. Coffawyd am y diweddar John B. Jones, New York Mills, gan weinidog yr eglwys, a'r Parch. Abram Jones, a phasiwyd i'r Parch. Joseph Evans, New York, i anfon llythyr o gydym- i deimlad i'r teulu. Pasiwyd i anfon gair i Dr. Caradog Jones yn cydymdeimlo ag ef yn ei waeledd. Penderfynwyd fod y pwnc dirwestol yn cael sylw arbenig yr holl eglwysi yn nghylch y Gymanfa. Pregethwyd nos Sadwrn a'r Sul gan y gweinidogion oedd yn bresenol.-i Robert Hughes, Ysg. am y tro. I »
Advertising
WHY NOT? AK!U' 'J k' H"ING THE LITTLE H I (iH ER "THAT IRRESISTIBLE FLAVOR. Y Tebycaf i gig Mock Cymreig yn y Talaethau. SOLD~BY "ALL" THE^BEST GROCERS AND BUTCHERS F. A. FERRIS & COMPANY, 262. 264. 266. 268 & 272 Mott St.. New York City. Tri Chan Miliwn Bwsiel yo 1915 9*I Ffermwyr yn Talu am eu Tir Gyda Cynyrch ir I A I un Flwyddyn. Rhagolygon y Dy- [ fodol yn Ddysglaer. WW Dywert dyn busnes .adnabyddus am Orllewin- W barth Canada fel cynyrchfa gwenith: Mae safle M Canada yn fwy dyogel nag erioed; mae yno J fwy o wenith, mwy o geirch, a mwy o rawn ) i anifeiliaid. 20 y cant mwy o dda byw na'r flwyddyn ddiweddaf. a mwy o foch. Mae ar farchnad Ewrop eisieu ein g-weddill. Am y cynyrch gwenith y mae yn aruthrol, ac yn sail ddyogel i adeiladu ymddiriedaeth arno. Mae'r cnwd uwchlaw pob dysgwyliad. Gwenith ar gyfartaledd yn 1915 dros 25 bws. yr acer. Ceirch ar gyfartaledd yn 1915 dros 45 bws. yr acer. Haidd ar gyfartaledd yn 1915 dros 40 bws. yr acer. Prisiau uchel. marchnadoedd cyfleus, tir rhagorol, o $12 i $30 yr acer. Trefad rhad mewn cyflawnder, ac heb fod yn bell o'r rheilffyrdd, ac wrth ymyl ysgolion rhagorol a chapeli. Mae'r hinsawdd yn iachusol. Nid oes dreth ryfel ar dir na gorfodaeth filwrol. Am fanylion yn nglyn a'r lleoedd goreu i sefydlu, tollau y rheilffyrdd a manylion eraill gyda llenyddiaeth, cyfeirier CANADIAN GOVERNMENT AGENT, 301 East Genesee Street, Syracuse, N. Y. Nid oes Eisiau Passports i Fyned i Canada.
[No title]
Yn y "Paris Journal" dywed goheb- ydd o Erzerum fod dwy filiwn o Ar- meniaid wedi eu llofruddio er dechreu 191-j. Ar ddechreu y flwyddyn hono amcangyfrifir fod dwy filiwn a haner o Armeniaid yn trigo yn Twrci. Heddyw nid oes ond 500,000 yn fyw.
Advertising
SUMMER RESORTS. PEN Y BRYN. A restful place to spend a vacation on Sparta Mountain. Large airy rooms, fine veranda, home cooking. MRS. JOHN E. HUGHES. R. F. D. No. 1. SPARTA. N. J. THE BENNETT PIANO COMPANY WHOLESALE MANUFACTURERS OF Grand, Upright and Player Pianos Write today for Catalogue and special "Factory to Home" proposition "Gellir gohebu yn'GymraegjOS^myner.' BENNETT PIANO COMPANY, MARTYN THOMAS, Manager, Wholesale Piano Manufacturers 2648 W. North Avenue, CHICAGO, ILL. The Triumph of the Coffee Blender's Art t t A New Delightfully Different Flavor. Supreme Quality at Moderate Price. A MOST VALUABLE PREMIUM COUPON PACKED IN EACH CANISTER You know the goodness of Te-Y-Brenin (King of Teas). COFFEE-Y-BRENIN is of the same high standard. To-day, buy a pound from your dealer. It will surprise and delight you. 35c A POUND, IN AIR-TIGHT CANISTERS ONLY DEALERS, write at once for special limited time inducement. Very attractive. !4" G. T. Matthews & Co., 93 Water St., New York I Gair at Ddynion Busnes 1 H wn ddylai fod eich Banc. 1 Mae'r First National Bank of Utica wedi bod yn ffigiwr yn j| ? nghynydd yr ardaloedd hyn am flynyddoedd. Profion an- s ? nghyfnewidiol o gydweithrediad y banc hwn a'r ddinas a'r sir, || ? y trigolion a'r gwahanol gwmniau yn y cylch, yw fod ei gyfalaf |j|| h yn $1?50,000, a'r gweddill ac elw yn $1,3T6,OOO.  ? Gwahoddwn chwi i agor cyfrif busnes yma. || j§ Talwn 3. y cant am fuddsoddion yn yr Adran Llogawl. el First National Bank of Utica 1 Cyfalaf o $10,000,000.. | Q ->0\ ¡w Arian Mawr Mewn Allforion. j ICWMNI NEWYDD YN CAEL EI FFURFIO ? § GAN DDYNION BUSNES I GASGLU Y f CNWD TOREITHIOG SYDD I ? YN EU HAROS. | BUSNES ARUTHROL MEWN ALLFORION YN AROS EIN 1 g GWNEUTHURWYR NWYDDAU. | g Ni welwyd yn hanes ein gwlad y fath gyfle yn nglyn ag g ? allforion, ag a geir yn awr. Mae y gwledydd tramor nad s |t ydynt yn ymladd yn galw am ein nwyddau. Y mae hyn |t ? yn neillduol wir am Dalaethau Canolbarth a De America |§ ? (Central and South American Countries) a'r West Indies, 3 ? y rhai a ymddibynant bron yn hollol arnom ni am eu nwydd- § ? au. 5 ? Bydd y gofyn hwn yn fwy eto wedi y darfyddo y rhyfel, |f H gan y bydd y cenedloedd sydd yn ymladd, a'u dwylaw yn g ? llawp yn ceisio cyflenwi eu hangenion eu hunain, ac ni all- || ? ant gystadlu a ni am fusnes allforawl am.rai blynyddoedd,  ? tra y bydd eu marchnadoedd agored hwy yn cynyddu yn |f ? mhellach ein hallforion ni. || ? Dynion profiadol yn y busnes hwn, yn sefyll yn uchel o || ran eu cymeriad, ac yn awr yn llywodraethu busnes allforio cynyddol, sydd wedi ffurfio y cwmni hwn, i gario yn mlaen W fusnes yr allforio (general xport business). Y mae y dynion |I hyn yn experts yn y busnes, ac y mae y cwmni sydd dan eu s| ? rheolaeth yn awr gyda chyfalaf digonol i' w weithrediadau ? ac yn dwyn elw sylweddol, ond gyda maes eangach a chyf- ?g ? leuscferau newyddion, rhaid yw i'r cwmni newydd wrth || H gyfalaf ychwanegol. g ? Dyma fuddsoddiad o'r math mwyaf derbyn?ol, gyda gol- « ? wg am elw mawr, o herwydd y gofyn parhaol, a chynygir || ? hyn i'r rhai allant werthfawrogi y modd cadarn y sefydlir y m ? cwmni, a'r modd gofalus y Ilywir ei weithrediadau. jf ? Rhoddir cyfle i bawb wneyd ymchwiliad trylwyr, a chan sf ? y bydd y cyfalaf newdd yn cael ei gyfranu yn gyflym, dylid M ? gweithredu yn uniongyrchol. Cyfeirier— j)| 1 EVAN. T. OWEN. | ? 92 Beaver St., New York City. I m Ysgrifenwch yn Gymraeg neu Saesneg. ||
-NEWYDDION CYMRU.I
 NEWYDDION CYMRU. I —Dvwed Ysgrifenydd y Swyddfa Rhvfel yn Mhrydain fod 86 o Groesau Buddug, 130 o Groesau Milwrol, 6,150 o D. C. M.'s, a 1,700 o Fathodynau Milwrol wedi cael eu henill yn ystod y rljyfel hon gan swyddogion a milwyr. -Dywedod(i Llewelyn Williams, A. S., yr hwn lywyddai mewn nodach- fa yn Llundain, mai tri Bedyddiwr mawr sy'n fyw heddyw, sef Mr. Hughes, Prif Weinidog Awstralia; y Barnwr Hughes, o'r Unol Dalaethau; a Mr. Lloyd t-eorge. O'r tri credai mai'r hen Fedyddiwr o Griccieth oedd y mwyaf. -Mae cynadledd wedi ei chynal rhwng llywodraethwyr chwarelau sir Feirionydd a chynrvchiolwyr Swyddfa RyfeJ yn nglyn ag ymuniad chwarel- wyr a'r fyddin. Penderfynwyd fod chwarelau a chant o ddynion yn gweithio ynddynt i ryddhau 30 y cant, a chwareiau a dros gant yn gweithio ynddynt i ryddhau 40 y cant. —Mae Griffith Richard Owen, corn merchant, Pwllheli, wedi dangos gwr- oldeb anarferol trwy achub bywyd bachgen chwe mhvydd oed, o'r enw John Evans, Muldoon, Waterloo, Ler- pwl, rhag boddi yn mhorthladd Pwll- heli. Yr oedd y bachgen yn ceisio cerdded dros beipan' ysgarthion, f syrthiodd i ddwfr dwfn. Dygwyddai Mr. Owen fyned heibio ar y pryd, a chlybuodd waeddiadau plant. Neid- iodd yn ei lidillad, a llwyddodd i ddod a'r bachgen i'r lan. —Beth amser yn ol, darfu i Ellis Roberts, yr arlunydd Cymreig adna- byddus, baentio darlun o Miss Olwen Lloyd George fel 'morwynig Gymreig.' gan ei gyflwyno er budd y milwyr Cymreig. Yn awr, bwriada nifer o gyfeillion brynu y darlun am bedwar can' gini, a'i gyflwyno i Mr. a Mrs. Lloyd George. -Yn ol y Barnwr Bryn Roberts, nid oes llawer o sylw i'w dalu i ymrafael- ion niferi o deuluoedd yn ardaloedd y De, canys gwelir hwy heddyw yn cof- leidio ac yn cusanu eu gilydd, tra yfory byddant a'u cleddyfau yn ngyddfau eu gilydd. 'Dyw'r tywydd perthynasol ddim i ymddibynu arno. Mae mantais ac anfantais yn nglyn a hyn. —Darfu i Preifat Charles Coleman, o'r South Wales iBprderers, yr hwn sy'n aros.yn Nghaergybi. tra'n pysgota ger yr Admiralty Pier, fachu oriawr aur. Wedi ei dori arni yr oedd "Anrhegwyd i Samuel O'Connor gan wasanaethydd- ion y Mri. Burne a'i Gwmni, Limerick. ar achlysur ei vmadawiad o'r dref yn 19141." Canfyddwyd ei gorff yn nofio yn mhorthladd Caergybi mis Mai y llynedd, ac yn y cwest bwriwyd rheith- farn o "CafwYd wedi boddi." —Hysbysir aim farw Miss Sarah Jane Rees (Cranogwen) yn Cilfynydd, ger Pontypridd. Yr oedd yn adna- byddus trwy holl Ddeheudir Cymru a rhan o'r Gogledd fel un lafuriodd yn selog dros yr achos dirw-estol. Bu yn gwa?anaethu am nynyddoedd fel i,s grifenyddes Cvmdeithas Merched y De. a thraddododd hi mawr o areithiau a darlithiau oddi ar lwyfanau cvhoeddus y wlad. Cymerai ddvddordeb neillduol yn symudiadau yr Eisteddfod Genedl- aethol, ac yr oedd yn aelod o'r Orsedd. ———— < t ————
I NEW YORK A VERMONT.
NEW YORK A VERMONT (Parhad o tudalen 5). Helvntion Holland Patent. N. Y. Holland Patent, Gorph. 17.—Y «mae yn wir ddrwg genym i ni gyfarfod ag anffawd flin i'n rhwystro gyda'r Nod- ion trwy fod cymaint o bethau wedi dvgwydd yn ystod y tair wythnos a aeth heibio. Yn nghvntaf. diolch o galon bur i bawb sydd wedi 'bod mOl" garedig wrthym, yn anfon ucydym- deimlad a ni. Taled Duw i chwi oil, anwyl gyfeillion. Bu yn adeg ddifrifol iawn yma am- j ser yr ystorm fawr a gawsom. Gwnaed difrod pwysig ar yr adeiladau, yn tori ffenestri yn deilchion mewn llawer o'r tai, ond ni anafwyd neb, a diolchwn yn fawr iawn am hyn. Yr oedd rhai wedi dechreu meddwl fod diwedd y byd wedi dyfod, ond aeth yr ystorm fawr heibio. Gadawodd ei heffaith yn drwm ar' ein gerddi a'n maesydd. Gallasai fod yn llawer gwaeth. Diolchwn yn fawr i C. Clark Jones am y card anfonodd i ni. Brysied adref. Y mae yn chwith ar ei ol. Y mae Mrs. John T. Owens wedi symud i Utica i aros gyda Mr. a Mrs. Edward Owens, perthynasau iddi. Daliodd y siwrnai yn bur dda. Y mae Mr. Owens yn fab i'n chwaer ffyddlon, Mrs. Jennie Owens. Y mae yn dda iawn genym. fod Mrs. O'.vens wedi dyfod adref i aros. Y mae ei lie yn wag iawn pan ymaith. Bu Mr. a Mrs Thomas Parry, o Constableville, yn talu ymweliad a'i chwaer, Mrs. John R. Roberts a'r teulu. Yr oedd yn dda iawn genym eu cyfarfod. Y mae y brawd a'r chwaer yn meddwl yn fawr iawn o'u gilydd. Bu Mrs. Wm. J. Roberts, Trenton, yn galw ar ei ffordd i Utica i aros am beth amser. Yr oedd yn dda genym ei gweled. Bu Mr. R. G. Lloyd a'r teulu, Mrs. Jones, mam Mrs. Lloyd, ac Edwin Jones, brawd Mrs. Lloyd, a'r Parch. J. R. Prichard, Wilkes-Barre. Pa., yn ein gweled. Yr oedd yn dda iawn genym weled Mr. Prichard yn edrych mor dda a chalonag, a'i fo'd wedi cael amser dedwydd yn Utica. Dymunwn lwydd- iant i'n hawyl frawd a'i deulu gyda gwaith ei Dduw. Drwg oedd genym glywed fod Dr. Cara-dog Jones yn teimlo mor wan. Hyderwn y daw lawer yn well ar ei hoe hafol. Cofion ato ef a Mrs. Jones. Llongyfarehwn Thomas A. Hale, Utica. a'i anwyl briori yn nyfodiad etifedd bychan w cartref. Thomas Arthur! Hale. Jr. Y mae ei hen hen fodryb yn dweyd o galon "Bendith Duw ar y 'bychan anwyl." Y mae yn or-orwyr i'r diwedd ar anwyl dad, T. L. Davies, New York Mills. Rhyfedd fel y mae Amser yn myned heibio! Dymunwn fendithion nef a daear i Mr. a Mrs. Ellis, Xew York Mills (ein Mary Davies gynt) a hir fywyd defn- yddiol gyda y gwaith goreu. 'Bu Miss Margaret Jones, New York Mills, yma i dreulio y Pedwaredd gyda'i ffrynd, | Miss Kitty May Gittins. Y mae y ferch iuanlC hon yn anwyl iawn genym oil. Yr oedd y tywydd yn hynod o boeth yma y Sabboth. ond daeth cynulleidfa gryno i'r gwasanaeth. Y mae yn ddrwg iawn genym golli cymaint o gyfarfodydd. Diolch fod Duw yn gallu bod yn bresenol gyda ni oil sydd yn methu. Yr oedd yn ddiwrnod caled i'n hanwyI weinidog i drafaelio trwy gwres mawr. ond y mae Duw yn gwo- brwyo ffydclloncleb.-R. IIion, N. Y. Dvgwyddiad Alaethus yn Ilion.- [ Difrifol iawn fyddai gweled y penawd j uchod uwch ben ysgrif mewn newydd- iadur; buasai yn creu braw nid bych- an, a da genym nad oes sail iddo wedi'r cwbl, gan fed brawd ieuanc o Dolwydd- elen rhyngddo a bod yn ffaith, ac mae clod ac anrhydedd yn ddyledus iddo am ei ddewrder, a'i arddangosiad o bresenoldeb meddwl cryf yn yr am- gylchiad a gymerodd le. Y noswaith o'r blaen aeth amryw frodyr o'r ardal am dro gyda glan yr Erie Canal er ceisio awel i oeri y corff gan mor llethol oedd y gwres, a thybiodd rhai mai buddiol- fyddai iddynt ollwng eu hunain i ddyfroedd y Canal. Yn m-hlith y rhai hyn, gwelwyd ein parch- us ohebydd Xem Roberts yn ymsymud ar ochr y Canal, mewn blys mynd trwy ac ofn, ond yn ddisymwth fe'i gwel- wyd yn suddo o dan y dwr, ac yr oeddym yn myfyrio ynom ein hunain beth tybed fyddai ganddo i ddweyd wrthym yn y "Drych" wedi iddo d,ram- wyo gwaelod y canal. Ar amrantiad dyma'r brawd yn ymddangos ar y wyneb, ac yn parablu mewn laith nad oedd na Chymraeg, Groeg na Lladin, ac yna diflanodd drachefn. Gwnaeth ei ail ymddangosiad, y tro hwn yn nghanol arwyddion, a pharahliadau na chlywjd eu tebyg gan ddyn nac angel. Yn yr argyfwhg hwn cawn i':r brawd Peter, Jones blymio yn isel, a chododd ein hanwyl ohebydd. i fyny, oblegid yr oedd wedi deall anai iaith a defosiwn dyn ar ddarfod am dano oedd eiddo Nem, a thynodd ef ar dir sych, a hwyliodd ei gerddediad tua'r Jones' Block, yn nghanol banllefau, wrth feddwl fod Pedr wedi achub an- hydyn bentewyn o'r dwr. Diolch i' Peter Jones am ei wrhydri amserol, ac hefyd teimlwn yn llawen weled ein gohebydd yn fyw ac iach ar ol carthu dvfroedd y canal o'i gyfansoddiad. Y wers ydyw, Nem, ipaid ti a chario y syniad fod ymolchi gwyneb nos a boreu mewn dysgl ymolchi, a trochi dy draed yn Sylvan Beach ar Fourth of July yn 'dy wneyd yn nofiwr profiadol. -Noflwr. o ARDALOEDD Y CHWARELI. Poultney. Vt. Gorphenaf 10, 1916.-Fel y cofnOd-\ wyd yn y "Drych" yr wythnos ddi-I weddaf, bu farw Miss Jennie 0. Wil- liams, anwyl ferch Mr. a Mrs. Owen M. Williams, yn dra sydyn y 3ydd cynsol. Yr oedd allan nos Sadwrn gyda'i chy- feillesau, ond tra ar gychwyn i or- phwys, tarawyd hi gan boen dirfawr yn ei phen. Gwaethygodd yn gyflym hyd y boreu uchod, pan yr aeth o gyr- aedd ei phoenau. Bu pedwar o fedd- ygon yn gwneyd eu goreu iddi, ond nis gallent benderfynu beth oedd ei chlef- yd. Wedi iddi huno galwyd am y meddyg enwog, Dr. Stone, Burlington, Vt., i wneyd archwiliad ar y corff, a'i farn ef oedd iddi farw o doriad gwaed ar yr ymenydd. Tarawyd yr ardal a dychryn pan ddeallwyd fod merch ieu- anc mor gref ac iach wedi ei galw ymaith mewn amser mor fyr, pedair awr ar hugain. Yr oedd Jennie yn meddu ar gymeriad rhagorol, yn wyl- aidd a thawel, a'i hymddygiad bob atn- ser yn enill edmygedd pawb yn y cylchoedd yr oedd hi yn troi ynddynt. Yr oedd wedi ei dwyn i fyny yn gref- yddol, ac wedi ei magu yn yr eglwys, ac yr oedd ei hymarweddiad yn gyson a'i phroffes. Rhoddodd y prydferthion hyn yn ei bywyd iddi gylch eang o gyf- eillion yn y gymdeithas oreu, a theim- lir colled fawr ar ei hoi ar yr aelwyd, yn yr eglwys ac yn mysg ei chyfeillion. Cydymdeimlir drwy'r ardal a'r cylch- oedd a'r teulu trallodus yn nyfnder eu profedigaeth lem ac annysgwyliadwy, a'u hiraeth llethol. Ond mae ochr oleu i gwmwl du, a gwyddom y gallant hwy ganfod hono, er caleted y ffaith annealladwy iddynt, "Jennie nid yw mwy." Daeth tyrfa fawr y dydd Iau eanlynol i dalu y gymwynas olaf iddi, ac yr oedd capel Poultney wedi ei len- wi cyn i'r angladd gyraedd yno. Prudd a tharawiadol oedd gweled chwech o'i chyfeillesau iefuainc yn eu gwisgoedd gwynion yn cerdded ar ol yr elorgerbyd. Gwasanaethwyd yn effeithiol gan ei gweinidog, y Parch. John W. Morris, yr hwn oedd yn dwyn tystiolaeth uchel i'w gyrfa grefyddol. Yr oedd nifer mawr o flodau prydferth wedi eu plethu yn gywrain yn gor- chuddio yr arch, wedi eu hanfon gan berthynasau a chyfeillion. Rhoddwyd eigweddillioni orphwys. yn mynwent Poultney.-loan Eryri. West Pawlet. Vt. I Gorphenaf 16.—Bydded hysbys hyn i bawb y perthyn wybod, ddarfod i'r hybarch Dafydd Parry yr wythnos hon gyraedd adref yn ddyogel wedi bod tua dinas y "Drych" yn edrych am ei fab, Hugh, yn nghyù a pherthynasau eraill. Hawdd ydoedd gweled ei fod yn falch o gyraedd yn ol i West Pawlet, a da gan bawb o honom ei gael gartref o herwydd fod amseriad y tren ac an- sawdd y tywydd a phob peth wedi bod yn eithaf didrefn yn ei absenoldeb. Gwelsom hefyd y brawd Isaac Hughes y nos o'r blaen wedi cyraedd yma, ar ol bod am dymor draw tua Denver yn gweithio. Mawr obeithiwn y bydd i Isaac aros bellach, gan y gall- asai fod yn dra defnyddiol i'n pentref mewn ystyr gerddorol, eto fel yn y dyddiau gynt. Y mae amryw eto o'n cyfeillion ag y buasai yn llawenydd mawr i ni eu gweled yn dod gartref, ond efallai fod rhai o honynt wedi cael gwell lie nag sydd yma iddynt. Go- beithiwn y goreu. Y mae rhai o hon- ynt yn fechgyn lied ieuainc, ac wrth feddwl am danynt wedi mynd yn mhell oddi cartref i demtasiynau amrywiol a dyeithr, teimlwn ar bwys ein proflad fel i'w cyngori i fod yn wyliadwrus rhag ymollwng i arferion ameus, "Cerddwch fechgyn anwyl bob amser ar ganol llwybrau rhinwedd a daioni," gan gofio mai gydag ochrau y ffyrdd y tyf "drain a miri." Fel y sylwasom wythnosau yn ol fod y Jjrawd William Morris, Spruce Gum, wedi cyfarfod a damwain, drwg iawn genym hysbysu mai yn araf iawn y mae yn gwella, ac ofnir y bydd yn lied hir eto. Rhywbeth yn debyg y parha Mrs. Tom Edwards eto, ond llawenhawn ei gweled yn cael dod ar y stoop yn ddvddiol. Teimlir ci-yn bryder yma yn nglyn a'r afiechyd sy(ld yn ymledu yn mhlith ulant bach dinasoedd talaeth New York, a chymerir mesurau rhagochel- iadol mewn rhai achosion lie mae plant wedi bod ar ymweliad a'r cyfryw ddinasoedd. Buaii y delo'r dydd y bydd yr afiwydd hwn wedi ei vmlid o'r byd.-Gwlithyn. Fair Haven, Vt. I Gorph. 15, 1916.-Da genym hys- bysu fod y Parch. H. D. Jones, yrhlwn sydd yn gwasanaethu yn y cylch yma am dri mis gyda'r Trefnyddion Calfin- aid-d yn rhoddi boddlonrwydd cyffred- inol i'r holl eglwysi. Y brawd ieuanc, Idwal H. Owen, sydd wedi gwynebu am Ilion. Chwith genym ei golli ef o'n plith. Cof gan amryw o ddarllenwyr y "Drych" am ei ysgrifau ef o dan y ffugenw Mona Bach. Mehefin 27, ganwyd bachgen bychan (cyntafanedig) i Mr. a Mrs. John J. Williams-. Dutton Ave. Gelwir ef John Rathbone. Drwg genym hysbysu fod y brawd John R. Thomas, Carnarvon, St., wedi ei gaethiwo i'w dy er's tro. Da gen- yma ddeall ei fod ychydig yn well y dyddiau diweddaf yma. Mae amryw o ymwelwyr yn ein plith. Mr. a Mrs. Frank Lane, o Utica, yn nghyd a'u mab, Stewart, fu yn ym- weled a pherthynasau yn Bryn Llys. Hefyd Miss Annie Gibson, o Boston, Mass., yn aros gyda Mr. a Mrs. John Lloyd ar W. Main 1St. Hefyd, Mrs. Thomas, o New York, sydd yn ym-" weled a'i rhieni, Mr. a Mrs. William J Francis, ar Pleasant Ave.—Goh.