Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

DYDD IAU.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

a chalon lygredig. Y dyn da, o drysor da ei galon, sydd yn dwyn allan bethau da. Rhaid i gyfiawnder a sancteiddrwydd, rhyddid a chariad, wreiddio yng nghalonnau personau imigol, teulu- oedd a chenhedloedd cyn y gellir byth ddiwygio cymdeithas a gwneud wyneb y ddaear fel wyneb y nef. Bydd y byd ar ol y rhyfel yn dra gwahanol i'r hyn ydoedd cyn y rhyfel, ac y mae miliynau o bobl yn dyheu am ddiwygiad yn y cyfnod newydd. Ond diwygiad o ba natur ? Beth yw'r nod uchaf neu'r amcan pennaf y dylid cyrchu ato ? Diwygiad masnachol a gwleidyddol yw swm a sylwedd disgwyliad llawer. Dylem ni, fel Cristionogion, fod yn hollol glir a phendant ar y pwnc hwn. Nid buddiannau tymhorol yw'r nod pennaf, er mor dda ydyw nid gallu, er mor werthfawr ydyw, o'i iawn ddefnyddio; nid addysg, er fod gwybodaeth yn ogoniant i ddyn. Daioni tnoesol ac ysbrydol yw'r amcan pennaf, yn ol dysgeidiaeth Crist. Character yn unig sydd yn meddu ar wir werth, yn ol dysgeidiaeth Mab y Dyn. Er mwyn hyn y daeth Mab Duw i'r byd; er mwyn hyn y bu Efe byw i wneud ewyllys Ei Dad ar y ddaear; ac er mwyn hyn y bu Efe farw ar y Groes-er mwyn gwneud dynion drwg yn ddynion da, ac adfer y ddelw ddwyfol. Y MAE CYSEGREDIGRWYDD Y TEULU A'R CARTREF YN HANFODOL I'R DDYNOJVIAETH NEWYDD. Adfer, cadarnhau a sancteiddio'r berthynas deuluaidd a wnaeth Iesu Grist. Gosododd hi ar sylfaen gadarn, wreiddiol, gyffredinol a dwyfol, yr hon sydd i aros ac ymberffeithio holl oesau'r ddaear. Ar waethaf pechod, llwyddodd y teulu, yn fwy na dim arall, i gadw dynion rhag dirywio yn hollol. Y teulu yw'r gallu dynol a naturiol cryfaf mewn bod i ddiogelu pethau goreu'r ddyn- oliaeth. Hawliai Mab Duw y goreu naturiol a dynol. Dyma un rheswm iddo gael ei eni o wraig. Os gorchestwaith natur, neu orchest- waith Duw mewn natur, yw'r fam, fel y dywed Henry Drummond, rhaid i Iesu Grist gael y fam. Pob parch i goffadwriaeth y dyn rhagorol Henry Drummond, ond gwelodd Iesu werth y fam o'i flaen ef. Wrth son beunydd am y Mab yn derbyn plant bychain, ni ddylid anghofio'r mamau a'u dygasant ato. Nid oes leoedd tebyg i'r teulu a'r cartref i feithrin a datblygu rhai o brif egwyddorion y grefydd Gristionogol, megis tynerwch, ffyddlondeb, cydymdeimlad a chariad hunanaberthol. LIe y ceir y teulu dynol ar ei oreu, nis gellir ei wahaniaethu oddiwrth y Dwyfol a'r Goruwchnaturiol. Y mae'r cysegr sancteidd- iolaf hwn wedi ei halogi'n ddirfawr gan bechod, a rhaid cael cariad sanctaidd Aberth y Groes i buro a sancteiddio'r berthynas deuluaidd rhwng gwr a gwraig, rhwng rhieni a phlant, a rhwng y plant a'u gilydd. Y teulu yw'r gymdeithas hynaf ar y ddaear; ac wedi ei hadfer a'i sancteiddio, hi hefyd fydd y gymdeithas oreu a dedwyddaf. Mor hawdd fyddai galw llu o dystion i gadarn- hau dysgeidiaeth Crist am werth a chysegredig- rwydd y teulu. Gofynner i fechgyn a genet hod hen gartrefi Cymru sydd wedi eu gadael a myned i'r trefi mawrion, beth yw eu barn hwy am danynt. IS, gofynner i'r rhai sydd. wedi croesi'r moroedd i wledydd pellenig y byd, beth yw eu barn hwy am yr hen gartref annwyl a chysegr- edig. Onid hyn ?- 0, fel mae'n dda gen i 'nghartre Mae swyn bendigedig mewn cartref Chwiliwch y byd drwyddo i gyd, 'Does unman yn debyg i gartref.' Ni ddylid dibrisio tystiolaeth afradloniaid. Wedi i bawb eu gadael, ac i bob drws gau yn eu herbyn, y mae un drws yn agored led y pen—os na fydd balchter wedi ei gau. Balchter, ac nid sancteidd- rwydd, sydd yn cau'r drws yn erbyn yr afradlon. 1 1 Bu Sanct Duw farw dros holl afradloniaid y byd Gallem alw tystion o holl gyfyngderau mawrion bywyd--o borth angeu, o lan y bedd, ac o'r trenches ar faes y gyflafan-i ddwyn tystiolaeth i wir werth yr hen gartref annwyl a chysegredig, lie yr aberthodd cymaint drostynt ym more eu hoes. Teuluoedd da yw un o'r cyfryngau pennaf i ddysgu a lledaenu egwyddorion crefydd Mab Duw. Priodola llawer o brif enwogion yr Eglwys, yn bregethwyr a diwygwyr, eu dyled am eu llwyddiant yn fwy i fam dda ac enwog na dim arall, ond gras Duw. Yn wyneb y pethau hyn, dywedwn yn ddibetrus fod yr awduron hynny, pa un bynnag ai mewn nofel, neu mewn ffurf arall ar lenyddiaeth, neu ar y platfform, sydd yn anelu at fychanu a darostwng y teulu, eu bod yn pechu yn erbyn Duw, Creawdwr y teulu eu bod yn pechu yn erbyn natur ar ei goreu, a'u bod yn pechu yn erbyn JXE, HAWIJAU A GWASANAETH Y CHWIORYDD, MEWN CYMDEITHAS. Tra yn sefyll yn gadarn dros ddwyfoldeb a gwerth y teulu, a chydnabod dylauwad anghy- mharol y fam, eto credwn, er fod Cristionogaeth wedi rhyddhau a dyrchafu'r chwiorydd, y dylent gael rhagor o le a gwaith yn yr Eglwys, ac fod yn llawn bryd iddynt gael eu hawliau teg a chyf- iawn mewn cymdeithas er mwyn eu dylanwad a'u gwasanaeth. Yr ydys, yn yr argvfwng ofnadwy presennol, wedi darganfod y medr y merched gyflawni llawer o waith a arferid ei gyf- lawni gan y meibion, ac mewn llawer o amgylch- iadau ei gyflawni'n llawn cystal, ac mewn rhai yn llawer gwell. Onid yw'n bryd i'r Eglwys wneud darganfyddiad cyffelyb ? Y mae hanes y chwiorydd fel canlynwyr Crist yn nyddiau Ei gnawd yn swynol a diddorol iawn. Yn wir, y mae'n ddwyfol hardd. Cydnabyddir fod yr holl rinweddau dynol wedi eu datblygu'n berffaith yng nghymeriad a bywyd y dyn Crist Iesu nid yn unig y rhai sydd yn nodweddiadol o'r dyn, megis gwroldeb, cyfiawnder a doethineb, ond hefyd y rhai sydd yn nodweddiadol o'r ddynes, sef tynerwch, addfwynder, cydymdeimlad a chariad. Ar wahan i'r chwiorydd, nis gall yr Eglwys byth bortreadu cymeriad Crist yn llawn ger bron y byd. Wrth reswm, nid ydym wedi anghofio gwas- anaeth amhrisiadwy llawer o chwiorydd enwog a da, oes ar ol oes. Ond dylai eu nifer fod yn llawer lluosocach, a'u gwasanaeth, felly, yn fwy cyffredinol, a'u dylanwad yn helaethach. Dyled- swydd yr Eglwys yw defnyddio a datblygu'r holl adnoddau sydd yn ei meddiant. Oni ddylid rhoddi bellach i'r chwiorydd eu hawliau cym- deithasol a gwleidyddol ? Mae'r ffaith ddarfod i'r Mab roddi iddynt bleidlais ar bwnc eu tynged tragwyddol yn ddigon o reswm dros roddi iddynt bleidlais ar faterion annhraethol llai eu pwys yn y byd cymdeithasol a gwleidyddol. Pell ydym o gymeradwyo'r moddion anghyfiawn a gwarad- wyddus a ddefnyddiwyd gan ddosbarth ohonynt i geisio ennill y frwydr a chyrraedd y nod, ond rheswm gwael yw hyn dros wrthod iddynt eu hiawnderau. Synnwn i ddim na ddarfu i Handel roddi llawer sgrech afl.afar yn ei fabandod pan oedd angen bwyd arno ond wedi iddo dyfu i oedran gwr, ac i'w athrylith gerddorol ddihafal ddat- blygu, fe lanwodd yr holl fyd a melodi. Mae'r fam eisoes wedi cysegru miliynau o aelwydydd, ac wedi llanw cartrefi fyrdd a'i dylanwad sanct- aidd. Rhodder i'r chwiorydd eu hawliau teg a chyfiawn, a'u lie addas ym mywyd y genedl, ac fe lanwant hwythau hefyd gylchoedd geirwon cymdeithas a melodi'r nef. WYYWODRAKTHIR Y DDYN0I,IAETII NEWYDD CAN EGWYDDORION MOESOL. Camgymeriad dybryd yw dweyd na thalodd Iesu Grist un sylw i feddiannau tymhorol dynion. Condemniodd yn llym fawrion a chyfoethogion y wlad am osod beichiau trymion ar ysgwyddau y tlodion yn lie eu symud. Nid oes gondemniad trymach yn llenyddiaeth y byd ar gamddefn- yddio golud na ddameg y Goludog a Eazarus. Ar gyrff dynion y cyflawnodd Iesu Grist y rhan fwyaf o'i wyrthian trugarog. Nis gall yr Eglwys fod yn ffyddlawn i Iesu Grist lieb dalu sylw i bethau tymhorol, er mai nid hynny yw ei gwir genadwri. Y mae'n waradwydd, nid i Gristion- ogaeth, ond i genhedloedd sydd yn galw eu hunain yn Gristionogion, fod nifer bychan o ddynion yn berchen miliynau o bunnau, a mil- iynau o bobl yn byw yn yr un wlad heb hanner digon o fwyd, ac yn byw mewn tai rhy wael i anifeiliaid. Y millionaire yn mynecl i gofio angeu y Groes ar fore Saboth, ac yntau'n gwybod fod milwn o bobl yn byw yn yr un ddinas ag ef heb damaid o fwyd y bore hwnnw Nis gallwn ond cyffwrdd a'r mater. Y mae unlimited competition yn fethiant rhannol, a dweyd y lleiaf. Credwn y byddai difodi competition, yn sefyllfa bresennol pethau, yn gollex mewn mil o ffyrdd ond byddai llai o competition, a niwy o co-operation, yn well- iant dirfawr. Fe ddylai deddfau gwlad Gristion- ogol fod a stamp crefydd Mab Duw arnynt. Y mae eisiau deddfau nid yn unig i gosbi trosedd- wyr, i ddiogelu personau ac eiddo, ond hefyd deddfau gwaredigol (redemptive) eu hamcan, fel yr Old Age Pension Act a'r Insurance Act. Ond dyledswydd arbennig yr Eglwys yw pwysleisio egwyddorion moesol. Er cael tai da, cyflog byw ac awy-rgylch iach, ni cheir dedwyddwch os na fydd y -bobl fydd yn byw yn y tai yn caru eu gilydd ac yn ymddwyn yn gyfiawn y naill tuagat y 11 all. Ar wahan i burdeb moesol, cyfiawnder a chariad, y mae bywyd cymdeithas ddedwydd a dyrchafol yn amhosibl. Camgymeriad mawr llawer o arweinwyr meibion Llafur, a lliaws o'r bobl eu hunain, ydyw edrych ar ddynion yn eu cysylltiadau tymhorol, ac ar eu hawliau tymhorol yn unig. Y mae'n wir y soniant lawer am werth dyn ac am frawdoliaeth. I'r Testament Newydd y maent yn ddyledus am y termau hyn. Iesu Grist ddywedodd fod un enaid o fwy o werth na'r holl fyd ond faint, atolwg, yw gwerth dyn yngolwg Iesu Grist ar wahan i'w berthynas a Duw ac a thragwyddoldeb ? Nid oes neb yn gwybod, ac nis gall neb wybod, oblegid ni chollai yr Iesu byth olwg ar y ffaith fod dyn yn fod cyfrifol i Dduw, ac i fyw byth. Nis gellir gwella na newid dim ar y gorchymyn mawr, Car yr Arglwydd dy Dduw a'th holl galon, ac a'th holl enaid, ac a'th holl feddwl, ac a'th holl nerth.' Os eir heibio at yr ail, Car dy gymydog fel ti dy hun,' ni welir yr olaf byth yn ffaith mewn cymdeithas. Daear heb haul yw dynoliaeth heb Dduw.' Sugna'r cymylau eu cynnwys o'r mor cyn ei dywallt yn gawodydd maethlawn ar y ddaear a thynna dynion goreu pob oes eu hadnoddau o for cariad Duw. 'Ac o'i gyfiawn- der Ef y derbyniasom ni oil, a gras am ras.' EGWYDDORION MOESOL SYDD I LYWODRAETHU GENHEDLOEDD Y DDAEAR YN EU PERTHYNAS A'U GIEYDD. Gair mawr y Beibl ar y pen hwn yw cyfiawnder. Cyfiawnder a ddyrchafa genedl; ond cywilydd pobloedd yw pechod.' O na wrandawsit ar Fy ngorchmynion Yna y buasai dy heddwch fel afon, a'th gyfiawnder fel tonnau y mor.' Pe buasai'r cenhedloedd sydd mewn rhyfel a'u gilydd wedi cadw gorchmynion y Duw a broff- esant Ei addoli, yna buasai eu heddwch hwythau fel afon, a'u cyfiawnder fel tonnau y mor. Nid oes dim i gymryd lie cyfiawnder. Nid cyfiawnder yn ol deddf-lyfrau unrhyw deyrnas a olygwn, ond cyfiawnder Duw, yr hwn sydd yn anghyf- newidiol ac yn dragwyddol berffaith. Nid yw cyfiawnder Duw yn gwneud rhagor rhwng y cyf- oethog a'r tlawd, rhwng cenedl fawr a chenedl fach-yr un faint o gyfiawnder i genedl fach a'r genedl fawr. Os rhoddir might yn lie right neu gyfiawnder ar yr orsedd, o ddiafol y mae, ac nid o Dduw. I„lywodraeth gyfiawn yw llvwodr- aeth Duw. Y mae llywodraeth Duw yn cynnwvs llawer 0 amcanion, a'r oil yn is-waasnaethgar i'w amcan pennaf, terfynol. Rhagluniaeth yn debyg i'r cerbyd hwnnw welodd Ezeciel yr oedd iddo lawer o olwynion—olwyn mewn olwyn, ac ysbryd y peth byw ynddynt oil. Y mae Duw yn gweithio trwy holl natur, yr hon sydd red in tooth and claw.' Mae ganddo lywodraeth ar yr holl genhedloedd, da a drwg. Mae gan Dduw lywodraeth ar Satan a holl allu'r tvwyllweh-a diolch byth am hynny Rhoddod -Dliw ryddid mawr i Satan llyfr Job, ond rhyddid o fewn ter- fynau ydoedd. Yr oedd ond Duw yn derfvn i ryddid a gwaith Satan. Ond fawr yw ond Duw. Ond' l)uw—' ond anfeidrol ydyw A ydyw Duw, wrth ganiatau i ddynion a chen- hedloedd ryddid i weithio allan eu hiachawdwr- iaeth eu hiuiain, neu eu damnedigaeth, vn methu yn rhai o'i amcanion is, neu a ydyw'n goddef iddynt gael eu llesteirio am amser, nis gwn i. Ond un peth a wn i: ni oddef Duw byth i un gallu Ei rwystro i gyrraedd Ei amcan mawr, sef iachawdwriaeth y byd. ac adferiad y ddynol- iaeth trwy'r Mab ac er Ei fwyn. Ni ddylem byth golli golwg ar amcan mawr terfynol Duw, sydd i roddi terfyn ar bob rhyfel, ac i ddwyn tangnefedd ar y ddaear. IESU GRIST YW GWAREDWR A PIIEN Y DDYNOI,- IAETII NEWYDD. Nid yw enw a chymeriad a bwriadau grasol Duw yn ddiogel ar y ddaear ar wahan i Iesu Grist. Cyflawnir y gweithredoedd niwyaf uffernol yn enw Duw. Felly y gwnaeth y genedl Iddewig gynt. Proffesent addoli'r gwir DdllW, a rhoisant Ei Fab i farwolaeth. Ond tysti Jlaeth y Mab am danynt oedd nad oeddynt yn adnabod Duw Y Tad cyfiawn, nid adnabu y byd Dydi.' Cyf- lawnir llawer o'r gweithredoedd mwyaf ysgeler yn ystod y rhyfel presennol yn enw Duw. Ond pa Dduw ? Nid y Duw ddanfonodd Ei Fab i'r byd i fyw a marw er mwyn achub dynolryw. Pob casineb a hate a chelifigeii--le, pob Hymn of Hate '—o ddiafol y mae. 0 ddiafol y mae cenfigen yn yr Eglwys fel yn y byd ac o'r ddau, y mae'n fwy dieflig yn yr Eglwys nag yn y byd. Cenfigen yng nghalon Cymro, neu Sais, neu Ffrancwr, neu German, o ddiafol y mae. Ond caru, o Dduw y mae, oblegid Duw, Cariad yw.' Gwaredwr y byd, ac nid gwaredwr cenedl, yw Iesu Grist, a bu farw dros holl genhedloedd y