Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

PONTYCYMER.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

PONTYCYMER. Cymanfa Gerddorol.-Cynbaliodd Annibyu- wyr Cwmgarw eu Cymanfa Ganu yng nghapel y Tabernacl, Pontycymer, dydd Llun, y 29ain o Fai, o dan arweiniad Mr W. Dunn Williams, G. & L., Caerfyrddin, yr hwn sydd yn dringo i boblogrwydd yng Nghymanfaoedd Morgan- nwg. Cafwyd hiti ffafriol a chynulliadau mawrion drwy y dydd. Yr oedd hon yn un o'r Cymaufaoedd goreu sydd wedi ei chynnal yn y cwm. Llywyddwyd cyfarfod y plant yn y bore gan y Parch J. Hughes, Nebo, Blaengarw. Holwyd y pwnc gan ei awdur, y Parch R W. Jones, Pontyrhyl, a chafodd atebion unol a chroyw gan y plant. Canal y plant ar eu goreu; yr oedd yr arweinydd a hwythau yn deall ea gilydd i'r tipyn, ac uchel y canmolwyd hwy am eu sylw, eu canu a'u hymddygiad rljag- orol. Cafwyd cryn flas wrth ganu y tonau. Anrhegwyd nifer fawr o'r plant A thystysgrifau Coleg y Tonic Sol-ffa, wedi cael eu harholi gan Mr J. H. Davies, L.T.S.C., Blaengarw. Llywydd- wyd cyfarfod y prynhawn gan Mr W. Rogers, Pontycymer, yn cael ei gyuorthwyo gan ei weinidog, y Parch D. Hughes, Tabernacl, a'r hwyr gan Mr John Rogers, Pontyrhyl. Yr oedd yn y cyfarfodydd hyn 61 diwylliant ar y cann-y lleisian yn gyfoethog, y sylw yn dda, a'r ysbryd a'r teimlad yn fyw iawn a gwresog. Yr oedd yma foliant mewn gwirionedd—y Ilif yn codi yn uwch wrth fynd ymlaen, hyd nes yr oedd yn anodd cael gorffen canu. Canwyd niter o donau y diweddar Dr Parry yn Ilawn hwyl; felly hefyd donau o waith Mri T. Bedford Richards a J. H. Davies, Blaengarw. Cawsom y dyferynau gwlith wrth ganu rhai o'r tonau, a'r nerthol a'r mawreddog yn y lleill. Rhoddwyd datganiadau gorflenedig o'r 'Blod- euyn Olaf (Ambrose Lloyd) a'r cydgan 'And the glory of the Lord' (Handel). Diolchwyd i'r cantorion a'r arweinwyr ileol am eu bod wedi paratoi cystal. Yr organyddes oedd Miss S. Butler, L.R A M. Arweinwyr y rehearsals: Mr G. Price a Miss M. E. Davies. Swyddogion y Pwyllgor:-Mri J. H. Davies, cadeirydd; Watkin Jones, is-gadeirydd; T. Loughor, trys- orydd; a T. J. Morgan, ysgrifennydd.

Capel Als, Llanelli.

Cymry Cymraeg Abertridwr

Advertising

SOAR, CWMPARC. j

Advertising