Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

Bank a'r Drysorfa Gynorthwyol.…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Bank a'r Drysorfa Gynorthwyol. Ymhlith y cyfranwyr haelionus at y Drysorfa Gynorthwyol ynglvn ag Ebenczer, Caerdydd, ceir enw'r London and Provincial Bank, Dlundain, am y rhodd garedig o £ 20. Trwy law Mr. L. Davies Lewis, un o Inspectors y Banc, yr hwn sy'n aelod parchus o eglwys Fbenezer, y gwnaed y cyfraniad, ac iddo ef y mae'r diolch cyntaf yn ddyledus am ddwyn teilyngdod y Drysorfa ger bron Prif Oruchwyliwr y Banc, Mr. Carruthers, a'r Directors, yn Llundain. Ond i'r awdurdodau hyn eu hunain yn y Brif Swyddfa y dylid diolch am y rhodd ei hun. Mynych y dywedir fod Banciau yn gwneud yn dda ar gefn y wlad, ond dyma un Banc beth bynnag yn ddigon mawr- frydig i gydnabod hawliau achos da a dyngarol mewn ffordd urddasol ac ymarferol. A chredwn mai dyma'r unig ariandy sydd hyd yma yn swyddogol, trwy bleidlais ei directors yn y brif swyddfa, wedi cyfranmi o gwbl tuagat y Drys- orfa deilwng hon. Pob parch a diolch iddynt, a hyderwn y dilyna banciau eraill sy'n elwa'n dda ar Annibynwyr Cymru eu hesiampl glodwiw. 0.

Mr. Lloyd George a'r SwyddfaI…

LLYTHYRAU AT FY NGHYD-WLADWYR.

I SEION, CAERAU. I-