Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
3 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
Undeb y Cymdeithasau Cymraeg. ADRAN DYFED. CYNHBUR Cyfarfod ar fore'r Cadeirio yn C Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth (Iau, Awst I7eg. 1916, am II o'r gloch) yn Neuidd Coleg y Brifysgol. Cadeirydd, B. C. John, Ysw., A.S., Llywydd yr Undeb. Llefar- wyr, y Parch J. Jenkins, M.A. (Gwili); Dan Jenkins, Ysw., C.M., Yagol Llanycrwys; a Swyddogion yr Undeb. Y Gymraeg yn Siroedd Dyfed' fydd pwnc y cyfarfod. Penodir Trysorydd i'r Adran yn y cwrdd, a chesglir at y treuliau. Croeso calonnog i holl garedigion y Gymraeg, ac yn enwedig i Gymry Dyfed. J. DYPNAWvT OWEN, Caerfyrddin, Llywydd yr Adran. JOHN HUGHES, Abergwaun, Ysgrifennydd.
AT EIN GOHEBWYR.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
AT EIN GOHEBWYR. Conwyl Elfed.—Cafodd arall y blaen arnoch. Diolch, er hynny. Mewn Llaw —Hanes Eglwys Libanus, Tre- forris-Annibynnwr-Treffynnon-Hyn a'r Llall o Babilon Fawr—I,lanymddyfri—-Llandeilo-—Bro Morgannwg-Taberuac1 Newydd, Port Talbot- Llanf aircaereinion-Severil-road a Mount Stuart, Caerdydd-Glyn-nedd Blaenycoed-Arholiad Ysgolion Sabothol Cyfundeb Gogleddol Morgan- nwg—Cyfarfod Chwarterol Dwyrain Morgannwg —Cyfarfodydd, &c.
Y RHYFEL AC ADDYSG.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y RHYFEL AC ADDYSG. GAN YR ATHRO D. MORGAN LEWIS, M.A., ABERYSTWYTH. YMHOUAD pwysig i bawb sydd yn meddwl yn ddifrifol beth fydd ar ol y rhyfel ofn- adwy hwn yw yr un y galwyd sylw ato y dydd o'r blaen gan Arglwydd Haldane yn Nhy yr Arglwyddi. Pa gyfnewidiadau ddylid eu gwneud, yn ein cyfundrefn addysg i gyfarfod a. gofynion masnachol i y cyfnod newydd ? Cred Arglwydd Hal- dane, a llawer eraill hefyd, y bydd cyd- ymdrech Germani am farchnadoedd y byd yn dynnach nag erioed ac yn ei farn ef, y genedl wnaeth y darpariaethau goreu mewn addysg fasnachol fydd y fwyaf lwyddiannus. Teimla y bydd yn rhaid paratoi'r genhedlaeth sydd yn codi—yn foesol, yn gorfforol ac yn feddyliol—ar gyfer yr ymdrech, os ydym fel gwlad i gadw ein lie ymysg cenhedloedd y byd. Ofna ein bod ni ymhell ar ol cenhedloedd eraill, megis Switzerland ac America, mewn parodrwydd i fabwysiadu cynllun- iau newydd. Cydnebydd ein bod wedi symud ymlaen i raddau eisoes yng nghyf- eiriad addysg wyddonol, ond y mae gal- wad am fwy o aberth ac ymdrecli eto i gymhwyso gwybodaeth wyddonol at amcanion celfyddyd a masnach. I gyr- raedd hyn cred ei bod yn rhaid i ni gadw ein pobl ieuainc addawol yn hwy yn yr ysgol. Sylwa mai nifer fechan ar y goreu o holl blant y wlad sydd yn cael man- teision addysg ganolraddol. Rhydd ffig- yrau ar gyfer y wlad yn gyffredinol. Dichon fod sefyllfa pethau, o safbwynt ffigyrau, yn well yng Nghymru; ond nid ydynt yn rhy foddhaol gyda ninnau, ac ni fedrir peidio sylwi mai achwyn glywir yn awr lie y bu unwaith ganmol a llon- gyfarch. Yr ydym wedi cyfeirio at Arglwydd Haldane wrth ei enw, nid yn unig ar gyfrif ei allu a'i safle, ond hefyd am mai efe yw Cadeirydd y Royal Commission y mae ein darllenwyr, yn ddin, wedi sylwi sydd newydd ei benodi i wnelid ymchwil- iad i safle a gwaith Prifvsgol Cymru a'r Colegau Cenedlaethol a chyda llaw, y mae'n bur debyg y cymerir sylw hefyd o'r darpariaethau addysgol a arweiniant, i'r addysg uwchraddol. Y mae ei safle ar y Commission hwn felly yn ychwanegu at y diddordeb a deimlir yn ei syniadau am addysg yn gyffredinol. Fel gwleidyddwr ac athronydd, nid yw yn debyg y temtir Arglwydd Haldane i anwybyddu addysg glasurol, hanesiol neu athronyddol ond yn yr argyfwng pres- ennol, gwneud addysg yn fwy ymarferol— yn fwy cynorthwyol i amcanion peiriannol, gweithfaol a masnachol--debvaem, yw'r amcan mawr yn ei olwg. Bu amser pan y dibrisid y cymwysiadau ymarferol. Ceisio am ddisgyblaeth feddyliol trwy efryd- iaethau cymwys oedd yr amcan yn amser ein tadau, a bernid fod dysgu Uadin, Groeg a Mathematics yn neilltuol o effeith- iol i gyrraedd yr amcan hwn. Cododd cenhedlaeth arall na theimlai mor sicr y medrent roi y liberal education y soniai pobl yr hen brifysgolion am dani. Syrthiasant hwy yn ol at y syniad mai amcan mawr yr ysgol yw adeiladu cy- meriad' a dyma glywir eto oddiar y llwyfan yn rhy fynych. Erbyn hyn y mae pobl yn canfod mai'r peth mwyaf anodd o bob peth i'w gynhyrchu yw cy- meriad. Mae disgyblaeth foesol yn galet- ach hyd yn oed na disgyblaeth feddyliol. Felly, dyma ni bellach yn cael ein har- wain yn ol gan ein profiad, a'n eyfeirio hefyd o dan yr amgylchiadau presennol, gan wr o safle Arglwydd Haldane at hen amcan. cynefin a chyffredin ysgolion y j dyddiau gynt dysgu rhywbeth defn- yddiol. Arferem glywed pleidwyr y disgybl- aethau yn gwawdio'r hen amcan syml hwn fel un annheilwng o oes oleuedig a phwy a wyr nad oedd Arglwydd Haldane ei hun yn eu mysg ? Ond yn wyneb yr argyfwng presennol, pan y mae llwydd- iant masnachol yn ymddangos fel anghen- raid i fywyd y genedl, teimlir y rhaid i ni fodloni ar yr ymarferol, a gadael heibio y delfrydol. Rhaid cydnabod fod yr ymarferol, pan ddaw yn gyjyng ayiiont, yn anodd ei droi o'r neilltu. Ar yr un pryd, fel nad ar fara yn unig y bydd byw dyn, nid ar lwyddiant mewn cydymgais mas- nachol chwaith yn unig y bydd byw cenedl. Nid mantais yn y pen draw fydd. esgeuluso elfennau hanfodol gwir cldiwyll- ylliant. Mae'n amlwg nad yw Arglwydd Haldane wedi anghofio hyn yn llwyr, canys dywed Os mynnwn gynhyrchu mwy o wyddoniaeth, y mae'n rhaid i ni gael mwy o addysg gyffredinol yn yr ystyr ehangaf. Fe gostia hynny fwy o arian, ond bydd yn rhaid eu gwario os ydym i gynhyrchu dosbarth o industrial experts.' Ac i'r ysgolion canolraddol y mae'n edrych am y cyflenwad hwn. Fel mwy nag un aeth o'i flaen, ofnwn fod Arglwydd Haldane yn rhy hyderus yn ei allu i fyned heibio i'r anhawster cref- yddol ynglyn a'n haddysg. Teimla nas gall addysg fod yn effeithiol heb gyn- horthwy moesoldeb a chrefydd ond yn lie cymryd y rhai hyn yn ganiataol a diolchgar, trefna i sicrhau cymaint ohonynt ag sydd yn angenrheidiol i lwyddiant yr addysg fasnachol. I sicrhau disgyblaeth gorfforol, barna y dylai cyfundrefn v Scouts fod yn rhan angenrheidiol o fywvd ein hysgolion elfennol, ac y clylai Cadet Training fod yn orfodol yn ein hysgolion canolraddol a gweithiol, ac y dylai Ofifcers' Training Corps fod yn elfen gydnabydd- edig yn y brifysgol. Fel un y bu Haw ganddo i ddwyn gwelliantau pwysig i'r Fyddin, y mae'n naturiol i Arglwydd Haldane wneud yn fawr o'r elfen filwrol ond prin y gellir disgwyl i bawb gytuno ag ef yn yr awgrymiadau hyn. Y mae'n wir fod pob dosbarth yn y wlad wedi ymuno'n galonnog i ennill buddugoliaeth yn y rhyfel presennol ond i lawer, rhyfel ydyw i roi terfvn ar ryfel. I'r rhai hyn y mae dwyn disgyblaeth filwrol i mewn i'n hysgolion er mwyn llwyddo'n fasnachol yn darostwng y pethau uchel i wasan- aethu'r pethau is. At hyn eto sylwa ei arglwyddiaeth: 'Any system of national training which would make the future generation fit to bear the burdens which would devolve upon them must include moral and relig- ious training.' Yma eto sylwer mai er mwyn llwyddo mewn masnach y mae'n rhaid cael crefydd. Fel hyn y trefna Arglwydd Haldane The teachers could inculcate truthfulness, honesty, courage and other virtues, and parents who desired definite religious teaching for their child- ren ought to have the means of getting it, not necessarily through the teachers, but through people who had access to the schools for that purpose.' Fel y crybwyllwyd, o f n w n fod ei arglwyddiaeth yn llawer rhy hyderus yn ei fedr i setlo dadl crefydd yn yr ysgol. Mae eraill wedi ymaflyd yn y gorchwyl mor hllnan-hyderns ag yntau, ac wedi metlm. A chware teg i'r pleidiau gwrth- wynebol yn y ddadl hon, dros grefydd er ei mwyn ei hun yr ymladdent. Ond yma, debygid, nid eisiau crefydd gyflawn sydd —dim ond digon o grefydd i sicrhau y cymwysterau angenrheidiol i lwyddo mewn masnach. Nid ceisio ynghyntaf Deyrnas Dduw, ond ceisio ynghyntaf v pethau hyn' a chymaint o Deyrnas Dduw ag sydd yn gynorthwyol i'w sicrhau Mae'r ymdrafodaeth uchod yn awgrymu ymholiadau diddorol nad oes amser ar hyn o bryd i fyned ymhell ar eu hoi. Ni cheisir yn awr ond eu hawgrymu. I ni fel enwadau crefyddol, pwnc addysgol pwysig yw'r paratoad ar gyfer y weinid- ogaeth. A fydd yr addysg newydd sydd gan Arglwydd Haldane ac eraill mewn golwg mor gymwys i'n myfyrwyr a'r hen addysg ? Yn y cysylltiad hwn y mae'n ddiddorol sylwi mai o dan nawdd ac ynglyn a chymhellion addysg y weinidogaeth y datblygwyd ein haddysg ganolraddol ac uwchraddol. Darpariaeth gan weinidog neu offeiriad ar gyfer addysg ymgeisydd am y weinidogaeth roddodd gyfle i fech- gyn eraill gael manteision cyffelyb. Awgryma'r hyn wyddom am yr ysgol- ion hyn rai ymholiadau diddorol ynglyn a'n trefniant cenedlaethol. Er enghraifft, A raid i yrfa ysgol fod yn ddifwlch ? Paham y rhaid cadw pob bachgen addawol mewn rhyw ysgol yn barhaus nes iddo fyned i'r coleg ? Paham nas medrir gadael iddo ddysgu rhyw waith am bum neu chwe biynedd—ei brofiad yn addfedu, a'i gy-