Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
8 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
8 erthygl ar y dudalen hon
MORIAH, BEDLINOG.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
MORIAH, BEDLINOG. Ymadawiad Giveinidog.—Br syndod mawr a siomedigaeth flin i'r eglwys ym Moriah, gwnaeth y Parch T. J. Jones, ei pharchus weinidog, yn hysbys y Saboth o'r blaen ei fod wedi derbyn gwahoddiad i yrasefydtu yn yr Unol Daleithiau, a'i fod hefyd wedi penderfynu mynd yng nghyfeiriad yr alwad i'r tuhwnt i'r Werydd. Deallwn ei fod wedi derbyn rhagor nag un gwahoddiad, ac yn arbennig un oddi- wrth eglwys sydd gyda'r gryfaf a'r barchusaf o eglwysi Cymreig y Gorllewin. Llongyfarchwn ef yn galonnog iawn yn llwyddo i ennill serch mewn ffordd mor ddistaw, heb ddim ond y son sydd am ei lwyddiant, ac am dano yntau fel cymeriad, gweithiwr a phregethwr. Mawr fydd y llawenydd yn ddiau pan gyrhaedda ef at y son sydd am dano-pan y gwelir ac y clywir ef ei hun, ac y ca'r briodas ei selio Dymunwn iddo ef a'i briod hawddgar y llwydd- iant a haeddant y tuhwnt i'r llyn. Boddlawn a fyddo iddynt fynd drosto mewn tawelwch Cydymdeimlwn hefyd a'r eglwys ym Moriah wrth orfod gollwng ei gafael o un oedd mor ddwfn yn ei serch, a'i pharch tuag ato mor fawr. Ei harwain a gaffo eto gan yr un ysbryd doeth a da yn y dyfodol.
ITELERAU RHESYMOL HE DOW CH.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
I TELERAU RHESYMOL HE DOW CH. I YR HYN A FED RUM YN RHESYMOL HI OFYN. j GAN E. T. JOHN, A.S. j (A ganlyn yw sylwedd erthygl a ysgrifeimwyd ar I ,ais i'r -Jrbi't;,(ttcr, ac a ymddengys yn rhifvn Awst o'r cylcligrawn.) Fel pleidiwr ar hyd fy oes o egwydxlor fawr Cyflafareddiad Rhyngwladwriaethol, yr wyf yn ei chael hi yn anawdd iawn i ffafru o gwbl barhad hawl ofnadvvy rhyfel i benderfynu cwestiynau mewn dadl rhwng gwledydd. Megis ag y teimlai cyfeillion heddwch inai eti dyledswydd ydoedd gwneuthur popeth yn eu gallu er rhagflaenu rhyfel, ymddengys i mi yr un mor rhwymedig aruynt i lafurio yn ddibaid dros adferiad buan teyrnasiad rheswm. Ni all adferiad heddwch, fel y cyfryw, fyth fod yn gynamserol, er, o bosibl, y geill amodau yr heddwch hwnnw gael eu trefnu ar linellau difEygiol a chamsyniol. Tra nas gellir auwyhyddu, mewn vmdrafod- aeth heddwch, nertholdeb sefyllfa filwrol well, gan nad pa mor ddrud y'i prymvyd-a geill v gost yn rhwydd orbwyso yr ennill—camgymer- iad sylfaenol yw tybied y geill rhagorbwys milwrol, ar y naill ochr na'r Ilall, fod yn ddigon ynddo ei hun i sicrhau heddwch parhaol. Yr oedd buddugoliaeth Prwsia ar Ffrainc yn 1870 yn sicr yn ddigon pendant; ond yr hyn a sicr- haodd oedd, nid heddwch parhaol, eithr 44 mlynedd o aflonyddwch yn Ewrop a gyrhaeddodd ei uchafnod yn y cydfflamiad arswydlawn pres- ennol. A geir, mewn gwirionedd, addewid a sicrwydd am ganlyniadau gwell na hynny yn y gorawydd cynhyrfus am weled goresgyn Ger- mani, ac yn y cydfradwriaeth rhyngwladwr- iaethol sydd mewn bwriad i foicotio masnach Germani ac i lethu ei diwydiannau ? Pan welir cyngor mor anffodus a hyn yn cael cefnogaeth swyddogol, nid syn fod dynion llai anghydbwys eu meddyliau yn barnu mai dynumol fyddai rhagnodi telerau rhesymol heddwch. Nid ydys yn awgrymu am foment y dylid caniatau i Germani ac Awstria sicrhau yr un droedfedd o diriogaeth drwy eu hymosodiad anghyfiawnadwy nac ychwaith y dylid can- iatau iddynt ddianc rhag y rhwymedigaeth gyf- iawn o wneud i fyny, cyn belled ag y bo hynny yn bosibl,' am y niwed anfesuradwv a wnaed ganddynt yn Belgium a Serbia yn arbennig. Rhaid amddiffyn cyfraith y gwledydd drwy gyd- nabod mewn modd ymarferol a theimladwy ei mawredd treisiedig. Ac ni ddylai fod yn amhosibl i gynnyg telerau, y rhai tra yn eithafol o annymunol gan benadur- iaethau Hohenzollern a Hapsburg (hynny yw, teuluoedd brenhinol Germani ac Awstria), a chan eu canlynwyr milwrol, a fyddent yr un pryd yn ddeniadol ac yn hudol i werin yr ymerodraethau hynny. Ac ol dwy flynedd o ryfel difrodol, byddai y syniad o weled sefydlu Gweriniaeth German- aidd Gynghreiriol ac egwyddorion Masnach Rydd a gwrth-filwrol, yn byw mewn heddwch dros byth a'i chymdogion, yn apelio yn gryf at werin Germani. Ceisiai yr hen ddiplomyddiaeth ranu a gorchfygu ei gelynion ceisia y wladweiniaeth newydd y moddion mwy grymus o'u huno yn annatodol, gan wneuthur eu gorchfygu yn drychinebus o anawdd a drudfawr. Nis gall Prydain Fawr ei hun, wrth gwrs, gynnyg telerau heddwch ar ei phen ei hun; rhaid iddi weithred.11 mewn cydundeb a'i chyngh- rheiriaid, a'r rhai hynny yn ddiddoredig, i fesur helaeth, ym mhroblemau Alsas-Lorain, y Tren- tino, Asia Leiaf, a Chaercystenyn problemau nad ydynt bob amser yn hanfodol, neu hyd yn oed yn gymhorthol i ddifodiant militariaeth Brwsiaidd. Ond perthyna gwir fuddiannan gwerin Ewrop i ddosbarth hollol wahanol. Iddynt hwy, yn ofer ac am ddim yr ymladdwyd. y rhytel hwn os na chanlynir ef gan heddwch a sicrha Fasnach Rydd gyffredinol awdurdodol ac effeithiol- elfennau hanfodol anwahanadwv gysylltiedig A'il. gilydd. Eithr ymha le ymhlith Canghellorau Ewrop y ceir prawf o'r bwriad lleiaf i sicrhau y fath derfyniad bendithfawr i'r Rhyfel ? Ymddengys hyd yn oed gwladweiniaeth Prydain fel yn gwrth- gilio oddiwrth ei thraddodiadau aruchelaf, ac oddiwrth amcanion honedig y rhyfel adfydus hwn-canys rhaid fyddai i barhad rhyfel traf- nidol neu fasnachol sicrhau parhad hefyd arfog- aeth a militariaeth. Sicr ydwyf mai da fydd i gyfeillion heddwch benderfynu parhau i amlygutnewn amser ac allan o amser, y llinellau ar y rhai y tybiant y dylesid trefnu dyfodol y cenhedioedd. Cyn hir bydd i werin pob gwlad ddarganfod moddion effeithiol i orfodi arosod eu hewyllys ar y brenhinoedd. a'r gwladweinwyr sydd yn awr yn trosglwyddo eu meibion mewn niferi mor arswydlawn i ddioddef- iadau anllhraethadw\i farwolaeth anaddfed a chyuaiuserol. _h -u
I Bryn Seion, Pencoed.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
I Bryn Seion, Pencoed. Gwasanatth Cc)-cidorol.-Nos Sul, Gorffennaf Lliag, newidiwyd ychydig ar ffurf y gwasanaeth drwy i'r cor roddi datganiad o'r Service of Song 'No Surrender.' Cafwyd cyfarfod a fwynhawyd yn fawr gan gynulleifa bur luosog, a gwnaeth y canterion oil eu gwaith yn ganmoladwy. Danghosai y cyfau ol llafur mawr a diflin. Cor bychan yw hwn, ac megis blagur tyner, end os bydd iddo barhau i ddysgu gweithiau o'r natur yma, y mae dyfodol gobeithiol iddo. Dechreuwyd y cyfarfod trwy adroddiad o'r wythfed Salm gan John David Williams, Prospect House, ac adroddiad o'r wythfed bennod o Diarhebion gan Maggie Jones, Pantruthin, yn cael ei ddilyn mewn gweddi gan un o'r brodyr. Yna cydiwyd yog ngwaith y cyfarfod. Canwyd unawdau gan Maggie Thomas a Cassie Jones deuawdau gan Maggie Thomas a Cassie Jones, a Hilda Smith ac Annie Lewis pedrawd gan Maud James, Katie Thomas, Flossy White a Jessie White. Rhoddwyd cynhorthwy gwerthfawr i'r gwaith gan foneddiges o'r ardal trwy ddarllen allan ystori o'r llyfr oedd yn cael ei berfformio; diolchwyd yn gynnes i Viiss Salathiel am ei charedigrwydd. Arweiniwyd gan Mr Owen James, ysgolfeistr yn Ysgol y Cyngor, a chwareuwyd yr offeryn gan Miss Evans, Glanffrwd. Hyderwn nad yw hwn ond blaenfErwyth o ragor i ddod yn ystod misoedd y gaeaf. Bwriedir mynd trwy yr un gwaith ychydig nes ymlaen gydag ychydig o newid. 1 O. J.
I CASTELLNEDD A'R CYLCH.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
I CASTELLNEDD A'R CYLCH. Maesyrhaf.—Mae y Parch W. E. Daniels, B.A,, gweinidog yr eglwys hon, wedi derbyn galwad oddiwrth eglwys Siesaeg Emmanuel, Cas- newydd, Mynwy, a bwriada ddechreu ar ei weinidogaeth yn ei faes newydd ar fyrder Dymunwn iddo lwyddiant raawr yn y cylch pwysig a chynyddol y mae ei wyneb arno Syr Thomas Price. K.C M.G.—Bu y gwr enwog ac adnabyddus hwn ar ymweliad yn ddiweddar a'i dref enedigol, ac, yn ol ei arfer, bu yn y gwasanaeth yn Soar a Siloh, Melin- crythan, gyda pha rai y mae yn dal pertbynas oddiar dyddiau ei febyd. Ar achlysur ei ym- weliad k Soar. rhannodd y llyfrau i'r plant, fuorrfc yn casglu at y Genhadaeth. Edrycba yn dda, a phery ei galon i guro yn gynnes tuag at yr achos goreu. Sardis, Efailfacli.—Bu y Parchn T Ogwen Griffith, Port Talbot, ac O. Lloyd Owen, Pont- ypridd, yn gwasanaethn gyda hwyl ac arddeliad yng nghyfarfodydd yr eglwys hon yn ddiweddar. Siloh, Cwmgwrach —Sul a Llun, Gorffennaf 16eg a'r 17eg, pregethwyd yn dra effeithiol yng nghyrddau blynyddol yr eglwys hon gan y Parchn Joseph James, B.A., Llandysilio, a W. J. Rees, Alltwen. GOHBBYDD.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
——— qp CAPElL SUL, CYDWELI.—Pregethodd y Parch J. Phillips, Mountain Ash, i ni yma Sul a nos Lun, Gorffennaf 23ain a'r 24ain, gydag arddeliad. Dechreuodd Miss Thomas, Soar, yr odfa nos Lun yn wylaidd ac effeithiol. Yr oedd y cynulliadau yn gryf a'r canu yn effeithiol. Casglwyd ymhob cyfarfod ryw gymaint ar gyfer adnewyddu'r hen, neu godi capel newydd ryw ddydd. Yr wyf wedi gwrando cenadwri'r Groes mewn naw a deugain o gyfarfodydd blynyddol yn y capel hwn, faint bynnag sydd yn ol.W. C. J.
Family Notices
Hysbysiadau Teulu
Dyfynnu
Rhannu
GEHl PBIQDi A MARW. GENEDIGAETHAU. EVAKS.—Gorffennaf lieg, i'r Parch a Mrs A. Evans, Cwmgwrach, merch.
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
BRIGHTEN YOUR HOME By getting your Electro-Plated articles Silver-Plated as new- at Small Cost. WRITE FOR FREE PRICE 1,1ST TO TOWNSHEND'S LTD., ERNEST STREET, 9 BIRMINGHAM.
ILLYTHYRAU AT FY NGHYDiWLADWYR.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
yet another generation and France will no longer be a Christian state (tudal. 127). O'm rhan fy hun, fe fyddai yn well gennyf i'm mab fod yn dlawd byth nag iddo orfod wynebu'r peryglon hyn yn ei ieuenctid. Feallai eich bod yn meddwl gwneud athrawes o Olwen. Ond oni welwch chwi, heb i mi ddweyd, fod eisieu cannoedd lawer o athrawon Cymraeg am bob un o athrawon y Ffrangeg ? Fe ddaw amser pan y disgwylir i bob athraw yng Nghymru allu dysgu'r Gymraeg i blant yn drwyadl, ac ni fydd eisieu ond ambell athraw Ffrangeg mewn ysgol ganolraddol. Cofiwch, hefyd, y bydd yn rhaid i Olwen, os am gael lie fel athrawes Ffrang- eg, fyw yn Ffrainc am flwyddyn neu ddwy, ac ni fydd hithau yn rhydd o demtasiynau lawer. filOnd efallai mai am i'ch plant gymryd diddor- deb yn llenyddiaeth Ffrainc yr ydych os felly darllenwch The object of the French novelist usually appears to be to crowd into his book as many suggestive scenes and details as possible The commoner type of novel deals as a matter of course with adultery (tudal. 360). Ydych chwi'n cofio'r helynt fu rai blynyddau yn ol ynghylch rhai o'r llyfrau Ffrangeg ddar- llenid yn yr ysgolion sirol ? Dywedir i'r diweddar Syr Edward Annwyl byth oddiar hynny fynnu darllen yn fanwl pob llyfr cyn ei osod fel llyfr darllen i'r ysgolion, rhag bod ynddynt rhyw duedd at yr aflan a'r anfoesol. Ond y mae y gwron hwnnw yn ei fedd, ac nis gwn pa sicr- wydd sydd ynglyn a'r mater hwn yn y dyfodol. Efallai eich bod am i'ch plant ymhyfrydu yn nrama Ffrainc ? Wel, darllenwch eto Impure as the French novel may be, it finds its equal in the French drama the lighter side of drama is nothing but a perpetual incitement to moral laxity. More ofter still, the writer of light French plays shows us a complete little world engaged in gratifying its passions every one illicit, in an absolutely unscrupulous manner (tudal. 361 a 362). Neu eto, efallai mai am i'ch plant astudio arluniaeth Ffrainc yr ydych Not only does the French artist revel in the nude, but he indulges in the suggestive modern French art seems to rely as much upon the suggestive as upon the beautiful' (363). Fe allwn ddifynnu llawer iawn yn rhagor i'r un cyfeiriad, ond ymataliaf. 'Rwy'n credu i mi ddweyd digon i'ch argyhoeddi mai y Gymraeg ddylki eich plant ei hastudio yn hytrach na'r Firangeg. Nid oes llyfr yn y Gymraeg nad allwch ei roddi yn ddiogel i'ch plant i'w ddarllen ni chant ddim aflan ynddo, ond lies ac ysbryd- iaeth i fywyd gwell. Da chwi, felly, pan a'ch plant yn ol i'r ysgol ar ol y gwyliau, mynnwch weld eu bod yn astudio'r Gymraeg. Os ydych am ragor o symbyliad i wneud hynny, prynnwch y llyfr, Dysgu'r Gymraeg (6c), gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Undeb y Cymdeithasau Cymreig. Gellir ei gael am saith a dimai drwy'r post oddi- wrth yr ysgrifennydd, Mr. D. Arthen Evans, 15, Somerset-road, Barry. Dywed y beirniaid nad oes dim pwysicach ar y mater wedi ei gy- hoeddi erioed, ac y dylai fod yn Haw pob pen- teulu a phob athraw. I mi, y mae yn herald o ddechreu cyfnod newydd a rhagorach yn hanes ein hauuwyl wlad. Yr eiddoch yn wladgar, ATWEBYD.