Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

Sylwadau y Wasg.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Sylwadau y Wasg. Y "Times" a ddywed Y mae anghydfod Chwarel yPenrhyn o'r diwedd wedi ei setlo ar y telerau a wrth- odwyd gan y dynion yn Mai diweddaf, y rhai yn ym- arferol ydynt yr un a'r rhai y safasant allan yn eu herbyn yn mis Medi diweddaf. Gan nad yw gwaith i gael ei ddechreu hyd ddiwedd y mis presenol, bydd y dynion wedi colli cyflog Ilawn wyth a deugain o wythnosau Iteb effeitliio dim byd oddigerth dwyn y fasnach lechi i annhrefn, yr hyn sy'n debyg o gael eft'aith niweidiol ar eu buddianau am beth amser i ddyfod. Yr ydym heddyw yn cyhoeddi telerau gweithredol y cytundeb, yn nghyda'r telerau gynyg- iwyd ac a. wrthodwyd yn Mai, ac hefyd y gofynion t anghaniataol wnaed gan y dynion y pryd hyny, fel y gallo pob darllenydd fo'n hidio am wneud hyny benderfynu drosto'i hun pa faint ydyw "net result yr ornest annoeth hon. Yr adran gyntaf yw yr un sy'n delio a'r cwestiwn pwysicaf yn yr holl ddadl, sef y cwestiwn pa un a ydyw chwarel Arglwydd Penrhyn i gael ei llywodraethu ganddo ef ei hun, ynte gan bwyllgor o r chwarel wedi ei gyfansoddi o'i weithwyr ef ei hun. Er yn berffaith ddealledig gan y ddwy- blaid fel eu gilydd, ni ddygir y cwestiwn hwn allan Snewn geiriau sy'n ei wneud yn glir i'r rhai oddiallan i'r chwarel. Ond yr hyn y gall pob un oddiallan ei weled .'drosto'i hun ydyw mai yr un path yw yr adran yn y ddau bapyr, er wedi ei eirio ychydig yn fwy pen- dant yn ff-dr y meistr yn y drefn dderbyniwyd gan y dynion. 0 ganlyniad, os yw y cytundeb hwn yn paniatau yr liawl o gyfuniad, fel ag y cyhoeddir yn ddiddadl gan bersonau awyddus i daflu cysgod dros fethiant liollol y streic, yr oedd y caniatad yna yr un modd at alwad y dynion yn Mai neu Fedi y flwyddyn ddiweddaf. Ni fu yr hawl i gyfuno, mewn gwirion- edd, erioed yn y cwestiwn. M a2 rheolau y llywoctr- aethiad a. gorphorir yn y cytundeb presenol yn union yr un, os nad yn hollol lythyrenol, a'r rhai dvnwyd allan gan Arglwydd Penrhyn ddeuddeng mlynedd yn 01, a'r rhai y gweithredwyd arnynt byth er hyny. Mae y rheolau hyn yn caniatau yr hawl o "vfuniad yn y dull llawnaf; rhaid i bob darllenydd diragfarn addef eu bod yn darpar yn y modd helaethaf gogyfer .a gwrandaw ac ail wrandaw pob cwyn allai y dynion, un ,ai yn unigol neu gyda'u gilydd, ddymuno dwyn o flaen y rheolartli neu y perchenog ei hunan. Ond fe sylwu fod gofal yn cael ei gymeryd i sicrhau fod cwyn- ion yn cael eu gwneud, os yn unigol, gan y persona.u neu r criwiau fyddo'n achwyn os gyda'u gilydd, yna gan ddirprwyaeth yn cynwys dynion o'r un dos- barth a'i- adn,yny"on ac yn cynwys yr achwynydd- ion eu hunain. Nad yw y cyfyngiadau hyn mewn ffordd yn y byd yn cael eu hanelu yn erbyn yr hawl o gyfuniad sydd ddigon eglur ar wyneb yr adran, eithr gwneir ef yn gliriaeh fytli gan lythyr Mr Young am y 27ain o Fai, yr hwn a adgynyrchwn gyda, the!- erau y cytundeb. Yn y llythyr hwnw efe a gydnebydd yn bendant bawl y gweithwyrr i weithredu "ar yr eg- wyddor o; "achos un yn achos yr oll,"y yr hon, nyni a'i cymerwn, ydyw egwyddor cyfuniad yn ei agwedd Ictaf. Fe ellid gofyn am ba beth y bu yr anghydwelediad, os ydyw y dynion, am y deuddeng mlynedd diweddaf o lciaf, wedi mwynhau yr hawl hwn o gyfuno a'u gilydd er unioni camwri? Yr ateb ydyw, fod yr ar- weinwyr undebol, yr amser y cymerodd Arglwydd Penrhyn reolaeth y chwarel, wedi trawsfe:ddianu gallu oudd dros ben yr liyn sydd newydd ei ddesgrifio, ddarfod i'w tra-wsfeddianiad gael atalfa. gan y rheolau osododd Arglwydd Penrhyn i lawr ac wrth ba rai mae efe yn glynu, ac nad yw yr ymdrechfa sydd new- ydd derfynu wedi bod am yr hawl o gyfuno nac er buddiant y gweithwyr yn gyffredinol, ond er adenill y gallu i ymyryd yn rheolaeth yr eiddo oedd yn flaen- orol yn meddiant pwyllgor y chwarel. Yr oedd y pwyllgor hwnw—yn gynwysedig, o'r braidd y rhaid dweyd, o arweinwyr undeboI-wedi cymeryd iddynt eu hunain yr hawl i atal pob desgrifiad o gwynion allai'r dynion ddymuno wneud i'w meistr, i ddewis y rhai hyny ohonynt ag a dybient hwy yn addas, ac i ihyrwyddo y cwynion hyny allent eu siwtio hwy eu hunain. Y n union am yr un peth y buont yn ymladd yrwan. Mewn ymarferiad, y canlyniad oedd, ac a fuasai etc. y byddai Arglwydd Penrhyn i raddau mawr yn colli llywodraethiad ei eiddo ei hun a'r corph anghyfrifol hwn, a wtliiodd ei hun rhyngddo ef a'i weithwyr, yn cymeryd ei le tra, gyda golwg ar y gweithwyt eu hunain, nad oedd dim gwarecugaeth sicr yn bodoli i'r rhai hyny na ddewisent uno a'r undeb ac ymgrymu i archiadau ei bwyllgor gweinydd- iadol. Mae yr adran gyntaf fel y saif yn awr, fel y safai yn Mai diweddaf, fel y safai yn Medi diweddaf, ac fel y gweithiwyd hi am y deuddeng mlynedd di- weddaf, yn rhoddi i bob gweithiwr fynediad at y rheolwr Ileol, gyda hawl i apelio at y prif reolwr-ac yn derfynol, mewn achosion o bwysigrwydd, at Arglwydd Penrhyn ei hunan. Dyry yr adran yr un rhydd-fynediad i unrhyw ddirprwyaeth o weitliwyr cyhyd ag y byddo yn gwir gynrychioli dosbarth all un ai meddwl fod ganddo ef ei hun gwyn neu a welo yn addas wneud cwyn dyn arall yn eiddo iddo ei hun. Ond y mae yn gwrthod caniata.u i bwyllgor sefydlog o arweinwyr undebol osod eu hunain i fyny fel unig gyfrwng cymundeb rhwng Arglwydd Penrhyn a'i weithwyr, ac i ddefnyddio y safle hono i orfodi y gweithwyr ar un llaw a'r meistr ar y llall. Gall y dynion gyfuno fel y gwelont yn oreu, a gal'„yr undeb ffiirfio cynifer o chwarel-bwyllgorau ag a ddewiso. Nid oes gan Arglwydd Penrhyn ddim i'w ddweyd yn erbyn y gweithrediudau hyn, ond mae yn benderfynol na chaiff pwyllgor chwarel reoli ei chwarel ef uwch ei ben, neu, mor belled ag y gall ef ei rwystro, ni chant orthiymu ar ddynion nad ydynt yn dymuno gosod eu hunain dan dra-arglwyddiaeth yr undeb. Hwn fu y cwestiwn pwysicaf o lawer yn yr ymdrechfa ddiwedd- ar, canlyniad pa un yw fod Arglwydd Penrhyn yn parhau i lywodraethu ei chwarel yn union yr un modd ag y gwnai cyn dechreu y streic. Wrth gwrs bu ym- giprys uwchben cwestiynau eraill yn ogystal, y rhai y gallwn edrych arnynt fel y deuant yn eu trefn. Yr ail adran a ddywed y bydd i rybelwyr cymhwys gael bargeinion misol "yn ddioedi mor fuan ag y ca y rheolaeth hi yn ymarferol." Dynion ieuainc yn benaf ydyw y rybelwyr sydd wedi myned trwy brentisiaeth. ac yn aros eu tro am "fargeinion" misol, y rhai ydynt fath o "gang-contract" a jariant vn mlaen y gwaith o wneud llechi. Mai y gair "dioedi" wedi ei osod i mewn yn nhelerau. Mai, ond ni fydd un eilaith ymar- ferol ar weithiad yr adran. Yn y drydedd adran yr ydym yn cael pwnc pwysig arall. Ymdrechoctd y dynion rwymo y rli?i)la«th 1 lawr i edrych fod y dyn- ion yn yr holl fargeir.ion yn cael eu gosod ar safon berffaith gyfartal gilydd, ac na chaiio niter y gweithwjT a gedwid fod uwchlaw y cyfartaledd. Mao yr adran yn cadw gosodiad bargeinion yn gwbl yn nwylaw y rheolaeth ac befyd yn darpar mai hwy sydd i gyflogi yr holl djynion a weithiant ar y cyfiyw, heblaw edrvch fod pob un yn derbvn ei ran sryfiawn 0 gyflog. Eithr mae yn gosod o'r ncilldu y gofynion a bwysid yn mlaen gan y dynion yn Mai. Y mae j Adran IY. yn union yr "an peth ag a wrthwynebid gan y dynion yn Mai, oddieithr ei bod dmni yn fwy manwl mewn enwi swm y cyflog i wahanol ddosbarth- iadau. Bu ymgais y dyruon i benodi "minimum rates" yn fethiant hollol." f mae gwaith i gael ei ail fD" chwyn yn ol y cyliog iu a reolent yn Medi diweddaf. eithr nid yw y rhai hyn i gael eu parliau ond "cyhyd I ag y caniata masnach." Can hyny nid yw'r dynion wedi eniU dim yn swm eu cyflogau, tra y maent wedi niweidio cymaint ar fasnach fel y gallant yn fuan gael eu bod wedi colli cryn lawer. Vn yr adran olaf mae y geiriau "apelioa m" wedi ei ddodi yn lie y gair "dymuno," ond yr un yw yr effaith. Yr hyn y bu'r dynion yn dadlu drosto dan y pen hwn ydoedd ymgymeriad fod iddynt gael eu derbyn yn ol yn un corph—pob dyn i fyned i'w hen le ei hun." Nidyw yr hawl hwn i le neillduol yn y chwarel yn cael ei addef; ac er y bydd i bo ymdrech gael ei wneud i ffeindio gwaith i'r holl hen ddwylaw a ddymunant hyny, ni a dybiwn na fydd iddynt gael eu gollwng i mown heb wneuthur apel personol at y rheolwr. Yn wir, nis gallant gael. wrth weled yn ol pob tebygol- rwydd na fydd gwaith i bawb ar y dechreu. Fe welir, gan hyny, fod y dynion yn myned yn ol yn union ar yr un telerau ag y gwrthryfelasant yn eu herbyn agos i flwyddyn yn ol, a pha rai, trwy cael eu camarwain gan gynghor drwg, a wrthodasant hwy yn Mai. Yr unig "concession" maent yn gael, fe roddwyd hwnw iddynt gan Arglwydd Penrhyn cyn dechreuad y streic. Dytaa yw hwnw, addewid i roddi ataifa ar is-osod bargeinion neillduol, yr hyn mewn gwirionedd a olyTga amddiffyn y dynion rhag eu dosbarth hwy eu hunain. Y "Liverpool Daily Post" a ddywed :—Gyda bodd-' had mawr yr ydym boreu heddyw yn cyhoeddi telerau y cytundeb ar ba rai y mae anghydfod Chwarel y Penrhyn o'r diwedd wedi ei setlo. Ie, yn wir, o'r diwedd; braidd nad yw yr achos yn gofyn am yma- drodd cynefin swydd Lancaster, "at long last." Ni ddylai ataliad hapus rhwystr a dyryswch masnach, gyda'i holl ddilynyddion anffodus o waed drwg a chyni teuluaidd, ddim cael ei gymylu hyd yn nod gan feirn- iadaeth; ond mao yn anmhosibl peidio teimlo pa mor drycliinebus fu parhad diangenrhaid anghydwel- ediadau y Penrhyn. Mae yn awr wedi ei gael yn bosibl i Arglwydd Penrhyn a'i ddyn o fusnes yn nghyda ehynrychiolwyr y dynion ddyfod i delerau a'u gilydd. Ymddengys fod y cytundeb yn gaddaw i Arglwydd Penrhyn yr ymarferiad cyfleus a chysurus o'i awdurdod naturiol, tra mae yn gaddaw i'r dynion yr holl fantais all ddeillio iddynt oddiwrth hawlfreint- iau cydnabyddedig cyfuniad trefnus. Mor bell o fod ein dymuniad i feirniadu y digwyddiad boddhaol hwn mewn ysbryd dadleuol, ein dymuniad pendant yn gystal a'n rhwymedigaeth ydyw gadael y cytundeb i wneud ei effaith ei hun ac i ddwyn o amgylch, heb ymyriad allanol y naill ffordd na'r llall, y bendithion ddylai ei ganlyn. Y mae Chwarel y Penrhyn yn cynrychioli elfen gref iawn yn niwydiant a chyfoeth Cymru. Y mae gan y ddiwydfa a'r cyfocth yna eu proffit i'r lluaws yn gystal ag i berchenog yr eiddo. Nidges un rheswm deallus-braicld nad allem ddweyd nad oes un rheswm dealladwy—paham na ddylai'r chwarel ildio manteision digymysg ac* fe fydd i'r holl wlad,wrth groesawu newyddion boreu heddyw, goledd gobaith difrifol a diolchgar mai hyn fydao rhediad eu hanes dyfodol. I

Ymssiydlwyr Cymreig yn Canada-

Eigwyddiad Brawychus i Slant.

--------.--------Ardaangcsfa…

Penodiadan Eglwysig Esgobaeth…

.-Eisteddfod G-adeiriol a…

ANGflYDFOD CIIWAREL Y PENRHYN.