Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
SDr^cb. A WELSH WEEKLY ESTABLISH ED 1851. Issued Every Thursday Morning Thomas J. Griffiths & Sons. UTICA, N. Y. IMPORTANT TO ADVERTISERS.—'The, Attaatioa of business men In general Is called to Y DRYCH as a superior adver- tising medium, being read by thousands wbci cannot be reached by any other pub- lication. It has a large circulation. with subscribers In every State and Territory at the Uaion. in Great Britain and the British Dependencies. It is the recognised National Organ of the Welsh People.
..IAMSEROEDD ENBYD > .. I
AMSEROEDD ENBYD > I "Ar y rhai y daeth terfynau yr oesoedd" I Gan y Parch. R. Mawddwy Jones I Nid yw yn ormod dweyd ein bod yn byw yn un o'r cyfnodau pwysicaf yn hanes dynolryw. Mae y byd fel croch- an berwedig. Mae pedair ymerodraeth fawr wedi eu dymchwelyd-Rwsia, Ger- mani, Awstria a Twrci; a dichon y sef- ydlir gwerinlywodraeth yn mhob un o'r gwledydd hyiiy yn eu lie. Bu ymraf- aelion 'rhwng cyfalaf a llafur lawer gwaith, ond erioed ar raddfa mor hel- aeth ag yn awr. Mae y Bolsheficiaid gwallgof yn Ewrop, a'r 1. W. W. mil- einig yn y wlad hon. Mae tri parti y dylid eu cydnabod mewn annghydfod masnachol: Llafur, Cyfalaf, a'r Cyhoedd. Yr wyf yn enwi llafur yn gyntaf am mai efe yw y cyn- taf. Rhaid cael llafur i gynyrchu cyf- oeth-cyfalaf. Yr oedd y Vanderbilt cyntaf yn byw ar ychydig erwau am yr afon o New York, ac yn garddio, gan gludo cloron a moron a maip yn ei gwch i'r farchnad i'r ddinas. Dechreu- odd pob pendefigaeth yn gyffelyb. Mae llawer dyn yn awr yn cyflogi pum cant neu fil o ddynion, tra yr oedd ei daid yn ei glocs a'i garpiau yn ceisio enill ei fara beunyddiol. Yn yr ymrafaelion rhwng Cyfalaf a Llafur, mae y pleidiau yn fynych yn annghofio fod gan y Cyhoedd hefyd, rywbeth i'w ddweyd yn y ddadl rhyng- ddynt. Gwasanaethwyr y cyhoedd yd- ynt hwy; a beth ddeuai o honynt heb i'r cyhoedd brynu y nwyddau a gyn- yrchant? Mae ambell un yn Nhalaeth- au mawrion y Gorllewin yma ym perch- en ugain mil o ddefaid, a mil neu ddwy o wartheg a cheffylau. Ond ni fyddai waeth fod ganddynt ugain o ddefaid nag ugain mil, oni bae fod ar bobl y dinasoedd eisieu cig i'w*fwyta, a gwlan i'w wisgo. Golyger fod un dyn yn cyflogi mil o weithwyr, a bod can mil o bobl yn prynu y nwyddau a gynyrchant; y cy- hoedd felly yw y lluosocaf, os nad y pwysicaf, o'r tri phartner yn y drafod- aeth. Yn eu cwerylon rhwng cyfalaf a llafur, maent yn fynych yn amaghofio hawliau y cyhoedd. Ond yn y streics presenol, mae yr elfen hono yn amiyc- ach nag erioed. Iaith rhai o'r Undeb- wyr yw "Let the public be damned." Yn gyffredin yn yr ymrafaelion rhwng cyfalaf a llafur, bu cydymdeimlad y cyhoedd yn benaf gyda'r gweithiwr; ond nid yw felly yn awr, am fod y gweithwyr yn fwy afresymol na'r meistr. Ond yr elfen fwyaf difrifol yw y streics presenol, ac yn enwedig yn y streic a fygythia y glowyr Tachwedd 1, yw y ffaith mai y Bolshenciaid a'r I. W. W. sydd wrth eu gwraidd. Hwynt- hwy sydd yn cynyrfu yn mhob man. Pan holwyd un tyst yn Pittsburgh, cyf- addefodd ei fod yn ngwasanaeth y giwed felldigedig uchod. Tramoriaid heb fedru Seisneg yw mwyafrif y streicers. Deuwyd o hyd yn ddiweddar i fath o lawlyfr sydd i'w cyfarwyddo yn eu dich- ellion. Maent i arfer pob diefligrwydd y gellir ei amgyffred: twyll, rhagrith, celwydd, creulondeb, trais, lladrad a llofruddiaeth. Cymerer streic fygythiol y glowyr yn engraifft. Bu llawer o dori cytundebau yn mysg undebau y gweithwyr eleni; ond yr oedd amryw o honynt yn groes I gyfarwyddyd y swyddogion. Ond yn streic fygythiol y glowyr, swyddogion yr undebau sydd fwyaf yn y camwedd. Yn ol cytundeb difrifol, mae y glowyr yn rhwym i weithio yn ol telerau a ben- odwyd nes y cyhoeddir heddwch, neu, nid yn mhellach nag Ebrill 1, 1920. Cyhoeddodd yr Arlywydd nad ydyw heddwch swyddogol wedi ei lawnodi eto, ac nad yw Ebrill, 1920, wedi cyr- aedd eto. Ymddyga y glowyr at y cy- tundeb fel "scrap of paper." Ond nid y glowyr ychwaith fel cyfan- gorff yn gymaint a'u harweinwyr Bol- sheficaidd. Ni chafodd y glowyr eu hunain gyfle i bleidleisio ar y mater, pa un a dorent y cytundeb a wnaeth- ant ai peidio; ond mewn cyfarfod o'r cynrychiolwyr yn Cleveland, Ohio, pen- derfynwyd fod y glowyr i streicio Tach- wedd 1, os na chydymffurfiai y meistri a'r gofynion eithafol a wneid. Mae hyn yn groes i'r arferiad, ac yn gwneyd 3wyddogion yr undeb yn ben ar bawb. Dywedant mewn effaith, os na ddeuwch ohwi i'n telerau ni, caiff masnach ei dyrysu a chewch chwithau rewi heb ddim tan; a hyn oil heb roi cyfle i'r glo- wyr, y meistri, na'r cyhoedd i gyflafar- eddu ar y mater. Mae yn amlwg yn awr mai nid streic yn unig sydd mewn golwg gan y cynyrf- wyr, ond mai "hold up" pobl America a geisiant. Cyfaddefa'r dyhirod mai eu hamcan yw creu chwyldroad, dileu y llywodraeth, difodi eiddo personol, dwyn eu meddianau oddiar y meistriaid, a gwneyd y wlad yn bedlam o anarch- aeth. Cydnabyddir hawl llafur i ffurfio yn undebau, ond pan mae eu blaenoriaid yn cynllwyno i ddymchwelyd Gwerin- iaeth yr Unol Dalaethau, y cwestiwn yw pa un ai y llywodraeth ai hwy sydd i deyrnasu. Mae hi wedi dod i hynyna yn awr, yn ol barn yr Arlywydd ei hun. Os nad yw y tramoriaid ynfyd hyn yn foddjon i drefnu America, gwell idd- ynt ddychwelyd i'w gwlad eu hunain- ac aros yno. Os nad ydynt ewyllysgar i ymadael, dichon y dengys F'ewythr Sam y ffordd iddynt. Mae llywodraeth yr Unol Dalaethau wedi dal ystormydd saith ugain mlynedd, ac nid ydyw Bol- sheficiaeth i'w dymchwelyd.
ATHRONIAETH A DUWINYDDIAETHI…
ATHRONIAETH A DUWINYDDIAETH I SAM ELLIS Gan Dr. Daniel Williams I < ——————— Yn "Nrych" Hydref 2ail, ceir ysgrif gan Sam Ellis, yn mha un y mae yn trin y ddwy wyddor: Athroniaeth a Duwinyddiaeth. Ni buasai yr ysgrif hon yn werth sylw oni bae fod tyllau ynddi; rhai o honynt yn rhai difrifol a pheryglus. Mae mwy neu lai o berygl i'r dyn ieuanc dibrofiad ac anwybodus syrthio i un o honynt a thori ei wddf. Mae deffiniad Sam o athroniaeth a duwinyddiaeth yn gyfeiliornus. Dysg- eidiaeth yr athraw yw athroniaeth, a dysgeidiaeth y Beibl gan ddyn wedi cael crefydd ysbrydol yw duwinydd- iaeth Gristionogol. Mae yn wir fod gan y paganiaid eu duwinyddiaeth yn ystyr gyfyng y gair (gwybodaeth neu syniad am Dduw), ond mae duwinyddiaeth Gristionogol yn dysgu am Dduw, am y Duw-ddyri, am ddyn, ac am eu gweith- redoedd a'r berthynas sydd rhyngddynt. Nid yw yr athronydd o angenrheid- rwydd yn grefyddwr. Nid oedd yr hen athronwyr felly, Plato, Aristotl, Cicero, Seneca, &c., ac nid oedd Stuart Mill, ac eraill o'i fath yn fwy diweddar felly, ac eto ystyrir hwynt yn uchel fel ath- ronwyr gan bawb. Mae cylch y duw- inydd yn eangach na chylch yr athron- ydd. Cymer efe y Beibl, y Gyfrol Sant- aidd, i mewn. Mae yn wir fod yn rhaid iddo ddod i'r penderfyniad fod y Gyfrol Santaidd yn Air Duw, ac yn ymddiried- ol. Os nad yw yn credu hyn, nid yw yn dduwinydd o gwbl. Edrych yr athron- ydd ar ddyn fel dyn. Edrych y duwin- ydd ar ddyn fel dyn perffaith (Adda cyn y cwymp), dyn fel pechadur, dyn wedi ei adnewyddu drwy waith Ysbryd Duw, a dyn fel y bydd yn y nefoedd. Dyma y Pedwar Cyflwr Dyn yr ysgrif- enodd Boston ei lyfr gwerthfawr am danynt—"The Fourfold State." Mae dynion fel Sam Ellis, aydd heb wybod am duwinyddiaeth, pan ant i ysgrifenu ar dduwinyddiaeth, yn ym- drabaeddu yn y llaid. Yn debyg iawn i fel y buaswn i pe yn anfon erthygl ys- goleigaidd i'r "Drych" ar "influenza" neu "infantile paralysis"; buasai pob meddyg Cymreig drwy y wlad yn gwel- ed cyn darllen ei haner hi mai ffwl oedd yn ysgrifenu. Dywed Sam fod cre- fydd wedi cael niwad oddiwrth "dduw- inyddion goruniongred." Pa fodd mae yn bosibl i neb fod yn oruniongred? Os bydd llinell yn uniawn, anmhosibl iddi fod yn fwy uniawn. Beth daraw- odd ben Sam pan ysgrifenodd frawddeg fel hon? Mae Sam yn curo ar yr hen bwnc hefyd sydd wedi ei esbonio ganoedd o weithiau: rhyddid yr ewyllys. Yr wyf a wedi ysfenu i'r "Drych" haner dws- in o weithiau am y gwahaniaeth rhwng rhyddweithrediaeth a rhyddewyllys- iaeth. Mae y cyntaf yn wrthwyneljol i'w dynged (fatalism). Mae dyn yn rhydd i weithredu fel y myn, ac felly yn gyfrifol am bob peth a wna. Mae y milwr yn y rhengau yn gaeth. Y swydd- og sydd yn gyfrifol am ei symudiadau, ond mae dyn yn fod cyfrifol; mae yn rhydd i weithredu fel y myn. Mae rhyddewyllysiaeth yn derm mewn duw- inyddiaeth. Y term gwrthwynebol yw anallu. Deil y Calfin fod dyn yn an- alluog i garu Duw heb newid ei anian, heb ei ail eni. Mae ei ewyllys yn rhan o'i anian bechadurus ac yn gaeth i'r anian hono. Mae yn rhaid ei ail eni, medd y Calfin. Na raid, medd yr Ar- min. Nid oes angen ei ail eni, mae yn rhyddewyllysydd. Mae ei ewyllys yn rhydd yn awr, gall droi at Dduw a charu Duw yn awr os y myn; fel y gall fyned i'w dy, neu fel y gall fyned i'r capel. Dyma yr hyn sydd gan yr eglwys yn mhob oes yn erbyn Arminiaeth, ei bod yn gwadu yr angen am ail enedigaeth. Mae yn wir fod yr Armin yn arfer y gair ail enedigaeth, ond mae yn gwadu yr athrawiaeth, fel mae yr Universalist yn gwadu fod uffern, er arfer y gair; neu fel y gwada yr Undodwr fod Crist yn Fab Duw, er arfer y geiriau. I hyn y mae yr eglwys yn mhob oes wedi gweled fod credo yn anhebgorol angen- rheidiol. Mae cyfeiliornwyr bob amset yn llechu y tu ol i eiriau. Mae hyn yn. un o ystrywiau gwaethaf y diafol; ar- fer geiriau y Beibl gyda meddwl cyfeil- iornus iddynt. Gofyner i'r Undodwr beth yw yn feddwl wrth fod "Crist fn Fab Duw," ac etyb ar unwaith fod pob. dyn yn fab Duw. Hyny yw, mae yn gwadu yr athrawiaeth ddysgir yn y Beibl fod Crist yn Fab Duw. Yr un modd yn union gyda'r Armin. Mae yr Armin yn uchel ei gloch am "ail ened- igaeth" a "newid y gal on," &c.ond ar- fer y geiriau y mae tra yn gwadu yr athrawiaeth drwy roddi syniad cyfeil- iornus i'r geiriau. Gan fod Sam yn Armin,, ac yn dal rhyddid ewyllys, un o'r pynciau Armin- aidd, anmhosibl iddo ddal etholedig- aeth ddiamodol, o herwydd un o'r pync- iau Calfinaidd yw hwnw. Dyma y pum pwnc: (1) Etholedigaeth ddiamodol (amodol medd yr/Armin); (2) Pechod gwreiddiol, llygredigaeth, anallu i droi at Dduw mewn modd ysbrydol (mae ganddo allu medd yr Armin; mae ei ewyllys yn rhydd yn awr); (3) Ail en- edigaeth, newid yr anian, rhoddi gallu i ddyn ewyllysio caru Duw (nid oes angen hyn medd yr Armin; mae dyn yn rhyddewyllysydd, mae gallu dyn gan- ddo yn awr; nid oes eisieu newid yr anian neu ei ail eni. Pa angen rhydd- hau dyn os yw yn rhydd (ewyllysydd) yn barod?) (4) Cyfiawnhad. Gwaith Duw fel Barnwr yw hyn yn cyhoeddi y dyn hwnw, ac y mae ei anian wedi ei newid, wedi cael bywyd, ac felly yn gallu gweithredu ffydd fJioW yn Nghrist yn gyfiawn yn wyneb ei ddeddf a'i gofyn- ion. Anhawdd yw gwneyd allan beth yw "cyfiawnhad" gan yr Armin. "As long as you retain your justification." Beth yw hyn? Beth yw cyfiawnhad, yr hwn y gellir ei golli? (5) Parhad neu gadwedigaeth (pres- ervation) y saint. Cwymp oddiwrth ras sydd gan yr Armin. Nid yw o un diben ymhelaethu. Curo ar yr un twmpath mae Sam ar hyd yr ysgrif. Felly, gad- awn ar hyn y tro hwn. •»»
[No title]
—Pawb Am Ei Les Ei Hun. Rhaid cydnabod fod y cyhoedd ei hun yn gyf- rifol i raddau am y prisiau uchel a godir am nwyddau. Ychydig o gwsmeriaid sydd yn ceisio amgyffred pa beth a ddylai pris hyn a brynir fod. Talant heb wrthdystiad unrhyw bris a ofynir ganddynt. Ceir yn fuan' hysbysrwydd cyhoeddus pa faint yw pris teg holl brif reidiau bywyd. Nid oes ond ychydig wythnosau er pan ddaeth y ddeddf new- ydd i weithrediad. Ond yr ydys eisoes wedi erlyn 1350 o fasnachwyr am fudr- elwa, am godi mwy nag oedd yn deg ac yn iawn iddynt wneyd am eu nwydd- au. Dim ond 30 allan o'r 1350 hyn ddiangasat pan yr erlynwyd hwynt; cosbwyd y 1320 arall am fudr-elwa. mae y .dirwyon a dalwyd eisoes dros saith mil o bunau. Y masnachwr lleol, y siopwr cyffredin, a gosbwyd fel rheol hyd yn hyn. Ond yr ydys bellach yn edrych i mewn i fusnes y cyfanwerth- wr, yr wholesaler sy'n cyflenwi'r mas- nachwr lleol. Os ceir hwnw yn euog, bydd ei gosb yn llawer trymach nag eiddo y masnachwr lleol.
I NODIADAU CERDDOROL
I NODIADAU CERDDOROL I I Gan Pedr Alaw (Mus.Bac.) At Dr. Protheroe. Os La fwriedir cy- hoeddi "Alawon Cymru' 3yda'm cyf- ieithiad, diolchaf am Y <opi. Anfon- ais atoch drwy'r post, ond hwyrach, i'm dau lythyr fethu eich cyvedd. Byddaf" ddiolchgar am eich sylw i hyn. "Y Cerddor." Y mae pethau dydd- orol ("diddorol" ys dywed y "Cerddor") yn y rhifyn am Hydref. Y peth pwys- icaf ydyw y meddylddrych o sefydliad "Cymdeithas o Gerddorion Gymreig." Gwell, i'm tyb i, fyddai ei galw yn "Gymdeithas Cerddorion Cymru." Felly byddai ganddi ddrws agored i gerddor o unrhyw wlad ddygwyddai fod yn Nghymru yn cyframu addysg i'n myfyr- wyr. Gobeithiwn y sefydlir y fath gym- deithas. Gallai fod o gryn gymorth er codi'r Hen Wlad i fri yn ngolwg a barn y byd. "Carolau Nadolig" ydyw y gerddor- iaeth yn y rhifyn presenol o'r "Cerdd- or." Y cyfansoddwr ydyw Edward Ar- thur. Ceir pedair carel, ac y maent yn gryn welliant ar yr hen garolau sydd yn ein cof. Anfoner am danynt at Hughes a'i Fab, Wrexham, N. Wales. Rosini. Dyddorol ydyw yr ysgrif gan "Pari" ar Rosini, y cyfansoddwr byd- enwog. Wele ddyfyniad o honi: "Fel y gwyr y mwyafrif, terfynodd rhawd Rosini fel cyfansoddwr 'opera' yn rhy gynar ar ol ei 'William Tell,' yn 1829, er nad oedd yr adeg hono ond 37 oed, ac wedi ei dyngedu i fyw hyd 1868. I'w yrfa yn ystod y 40 mlynedd olaf o'i oes y dymunir tynu sylw. Yn 1867, cyfansoddodd Rosini ei 'Emyn Hedd- weh,' yr hwn a gyflwynodd i Napoleon III, ac i genedl wrol y Ffrancod. Per- fformiwyd yr emyn yn yr 'opera' gan 4,000 o gantorion, yn cynwys corau o offeiriaid, milwyr, ac erai'l, cyfeiliedig gan gerddorfa, band &~rJ}vol, dawns- feydd a thabyrddau. "Ymholwn yn synfawr pa fath emyn gyfansoddai efe "heddyw, pe wedi byw hyd y flwyddyn hon. i ddàthlu heddwch y byd? Y mae dychwelyd at y 'La Ban- tique Fantasque' yn hollol wrthgyfer- byniol i'r emyn yma o rodres a swn. Er hyny, cyflwynir Rosini ger ein bron yn awr, yn nghyfnod yr heddwch eyff. redinol, mewn arwedd arall ar ei ath- rylith greadigol, ei londer, bywiogrwydd a'i hoffder o fywyd. Y mae'n eithaf hysbys i Rosini, ar ol ei 'William Tell,' yn 1829, gefnu, braidd yn hollol, ar fyd y gerdd am ddeugain mlynedd. Ar ol buddugoliaeth ei 'opera' ddiweddaf, yr oedd i gyfansoddi un arall ar 'Faust,' ond ni sylweddolwyd y bwriad hwn; ac, yn rhyfedd iawn, treuliodd yomelstr hwn y gweddill o'i flynyddoedd mewn ffarmwriaeth ac arluniaeth. Ysgrifen- wyd Ilawer ar fywyd Rosini yn y cyf- nod hwn, yr hwn a dreuliodd rhwng Florence a Paris. Ceisiwyd priodoli'r cyfnod hwn o'i fywyd i gymeriàd prudd- glwyfus, chwerw ac anobeithiol. Dy- wedir iddo, pan gwrddodd a Richard Wagner, yn 1860, ddweyd yn chwerw wrtho: 'Yr oedd genyf fi rwyddineb, gallaswn fod wedi cyraedd rhywbeth.' A yw hyn yn wir, ai nad yw, gwyddom i Rosini dreulio y rhan fwyaf o'i gyf- nod yn Barisiad cywir. Ymsefydlodd yn Passy, lie y daeth yn ganolbwynt bywyd cerddorol Paris. Gwleddodd holl Paris, a chymerodd ddyddordeb ar- benig yn narpariaeth y Marcaroni ar gyfer ei bartion enwog. Bron yn mhob llythyr, cyfeiriai at ei ddewis fwyd. Gellir casglu pa mor werthfawr yr ys- tyrid gwahoddiad Rosini oddiwrth lyth- yr Meyerbeer, yn yr hwn yr ysgrifenai: 'Fy anwyl feistr, y mae bron yn an- mhosibl enill tair gwobr yr un pryd, ac eto, disgynodd y ffawd yna i'm rhan. Y wobr gyntaf, llawysgrif Rosini; yr ail wobr, llythyr swynol a charedig oddi- wrth y meistr anfarwol; trydydd wobr, gwahoddiad grasol gyda rhagolwg melus o wario ychydig oriau gyda Ju- piter cerddoriaeth wrth ei fwrdd hael- ionus.' "Yn y gwleddoedd hyn, ceid cerddor- iaeth hefyd. Perfformid gwaith cyfan- soddwyr ieuainc, ac ambell waith ddarn gan y meistr ei hun, yr hwn a ddarparai ar gyfer yr amgylchiadau hyn ddarnau lion, llawn gwawdiaeth, y rhan fwyaf o'r rhai, yn anffodus, sydd heb eu cyhoeddi. Y mae penawdau y darnau hyn yn ddigon i ddahgos tymer- edd, eu hawdwr. Yn eu plith cawn ddarnau i'r piano yn dwyn y penawdau: 'Hors-d'Deuvre, Radishes, Anchovies, Gherkins, themes variations.' Cawn hefyd ragchwareuon yn dwyn y pen- awdau hyn: 'Dried Figs,' 'Here I am,' 'Good Morning, Madame,' 'AllSonds,' 'It's Striking Twelve,' 'Good Night, I Madame.' O'r 'Albums' 4iawn ddarnau fel hyn: 'Anti-dancing valse,' 'A Fu- neral during carnival,' 'An Asthmatic Study,' 'An Abortive Polka,' &c. Yn y wythien Rwsiaidd, cyfansoddodd Rosini ddawns Siberaidd, Ymdaith Slavonaidd, ac hyd yn nod Bolero Tartaraidd, cyf- lwynedig i'r Arlunydd Rwsiaidd enwog, Ivanoff, yr hwn a drigai yn Rhufain, ac at yr hwn yr ysgrifenai yn 1848". O'r uchod, sy'n pefru o londer, y cyfan- soddir cerddoriaeth 'La Bontique Fan- tasque.' Cyflwynir rhifyn I canolog y Faled gan Rosini i Offenbach, cyfan- soddwr a edmygai y tu hwnt i bawb ar- 211 yn ei ddydd. Gelwir y darn yn 'Capriccio Offenbackique.' Llywod- raethir cerddoriaeth 'La Bontique Fan- tasque' gan y darn hwn a'i ofersain di- grifol. Y mae yn waith sydd yn llawn Q chwerthin, nodweddiadol o'r cyfnod, ac o ryddid yr awdwr oddiwrth ofalon a phryder." Gutyn Arfon. Drwg genym ddarllen am farwolaeth y cerddor hwn yn Bet- twsycoed, G. C., yn mis Gorphenaf. Yr oedd yn frawd i'r pregethwr 'a'r englyn- wr, Dewi Arfon. Bu yn ysgolfeistr am 1fddeutu 50 mlynedd, a hyny am gyflog bychan. Efe arweiniai yn yr ardal gyda phob symudiad dyngarol. Cerdd- odd ganoedd o filldiroedd, drwy bob tywydd, i gyfranu addysg gerddbrol i ddosbarthiadau, a hyny" heb unrhyw dal, eithr o gariad at y gwaith. Ysgrif- enodd rai anthemau canadwy iawn, a hefyd nifer luosog o donau-yn eu plith y don "LIef." Claddwyd ei weddillion yn Nant Peris, Llanberis. "Y Gelf o Ganu." Diau y bydd y sylwadau canlynol, o'r eiddo Mr. Gwil- ym Thomas, Ynyshir, yn nghyd ac er- aill i ddylyn, yn dderbyniol iawn gan ein darllenwyr. Dyfynir o'r "Cerddor": "Y sylw cyntaf a wnawn ydyw meis- troli'r tafod. Fe wyr pawb sydd yn rhoi eu meddyliau ar waith mai gorch- wyl mawr iawn ydyw meistroli'r aelod afreolus hwn yn mhob cylch o gym- deithas, ac y mae yn gofyn gofal ar- benig wrth ganu. Fi le priodol wrth seinio ar y llafariaid ydyw ar ei or- wedd ar lawr y genau, gan roddi blaen y tafod yn dyn yn erbyn y danedd isaf tra yn seinio ar bob un o'r Ilafariaid, a gofalu ei gadw yno. "Dechreued yr efrydydd ar y llafar- iad 'a,'— yr un bwysicaf, fe ddichon, o'r holl lafariaid. Golygwn fod y canwr yn eistedd wrth ryw offeryn, gan daro chord ar ryw nodyn tua chanol ei gwm- pas. Bydd y cynydd yn llawer cyflym- ach gyda chynorthwy offeryn i'r llais. "Cymered y canwr anadliad braf trwy'r ffroenau, a chychwyned y sain yn dyner, gan ei chwyddo allan yn raddol hyd y canol, a gwanhau hyd y diwedd; yna, rhodded dro a'i fys i'r genau, a chaiff fod y tafod wedi codi heb ei wybod iddo tra yr oedd yn dal y sain, a thrwy hyny yn rhwystro'r sain i ddod allan yn rhydd. "Aed ati eilwaith. Rhodded ei ddau fys un ar y llall rhwng ei ddanedd cyn cychwyn y sain, a chadwed ei enau yn agored gymaint a hyny hyd ddiwedd y sain. Aed dros y llafariad 'a' lawer o weithiau, er mwyn meistroli'r aelod af- reolus y cyfeiriwyd ato ar y dechreu. Aed dros ei hqll gwmpas ar y llafar- iad 'a,' an dynu sylw yn fwyaf arbenig i feistrolaeth y tafod. Bydd hyny yn ddigon o orchwyl i'r efrydytfd am fis, beth bynag." Cerddoriaeth yn Llundain. Dywed gohebydd yn "La Courriere Musicale" fod yno lawer o gerddoriaeth, ond nad yw o ansawdd dda! Cyhudda'r Sais o ddiffyg chwaeth yn ei ddewisiad o rag- leni, &c., ac, yn ei farn ef, ychydig o'r cyfansoddwyr Seisnig sydd yn deilwng o'u henwi gyda'r llu mawr o gyfansodd- wyr Ffrengig! D. W. Lewis, Brynaman, D. C. "Uh, uh," meddwn ar ol darllen am ei ddyr- chafiad diweddar yn Sir Gaerfyrddin. "Uh"—"U"—Ustus; "H"—Heddweh. Maddeuer i Gymro am ymgais i fod yn ddigrif!
[No title]
-Mr. Thomas Jones, yr Athraw J. E. Lloyd, a Mr. J. H. Davies, sydd ar y rhestr fer am swydd prifathraw Coleg Aberystwyth. Mab Cwrt Mawr ydyw Mr. Davies, ac efe yw cofrestrydd y Coleg. Bargyfreithiwr ydyw wrth ei alwedigaeth, ac y mae yn raddedig, mi gredaf, o Rydychain. Brodor o'r Rhym- ni ydyw Mr. Thomas Jones. Bu yn ddarlithydd mewn trefnyddiaeth yn Glasgow, ac yn athraw yn yr un gangen yn Mhrifysgol Belfast. Oddiyno daeth i Gymru, fel ysgrifenydd y mudiad yn erbyn y darfodedigaeth, ac yn ddiwedd- arach penodwyd ef yn ysgrifenydd i'r Dirprwywyr Yswiriant Cymreig. Brod- or o Lerpwl ydyw yr Athraw J. E. Lloyd. Y mae yn athraw yn Ngholeg Bangor er's blynyddoedd, ac yn awdwr "The History of Wales," y Hyfr goreu sydd genym ar hanes Cymru.
IEWYLLYSIAD A CHYFRIFOLDEB
I EWYLLYSIAD A CHYFRIFOLDEB I Gan Sam Ellis Darllenais gyda dyddordeb ysgrifau A. H. Williams a Lewis Gabriel ar yr ewyllys. Ceir crynodeb byr o ddaliadau y Stoiciaid gynt ar y pwnc gan A. H. W. (Dysgyblion y Stoiciaid ydyw y rheidiolwyr, yn faterolwyr a Chalfin- iaid). Dysgai y Stoiciaid "mai natur y dyn a'i amgylchiadau benderfynent ei weithredoedd, sef deddfau natur yn gweithio drwyddo." "Ond fe wna," meddent hwy, "yr holl wahaniaeth yn y byd pa un ai yw hyny er ei waethaf neu ynte yn unol a'i ddymuniadau. "Os yr olaf sydd wir, y mae yn gyf- rifol," meddent. Ni wahaniaethir cyd-' rhwng dymuniad ac ewyllysiad gan y caethewyllyswyr. Felly y rhith-ym- deimlad o ryddid ydyw sail cyfrifoldeb dyn. M blys arnaf gymeryd A. H. W. a L. G. "fesyl un," chwedl Morien Mon, am y casglaf mai oddiar safle yr union- gredwr yr edrychai ar y pwnc gan y blaenaf, ac mai oddiar safle y rhydd- feddyliwr (caeth) yr ymdrinir ag ef gan yr olaf. Gwahoddwn yr uniongredwr am dro i er's talwm cyn belled ag Eden. Yno canfyddwn ein cyndtl Adda yn. rhodio yn yr ardal mewn amgylchiadau hynod ffafriol, ac yn berchen natur ber- ffaith. Paham, atolwg, na buasai yn aros yn ei burdeb cynenid, os mai natur ac amgylchiadau benderfynent ei weith- redoedd? Gofyna A. H. W., "A ydyw yr ewyllys yn rhydd oddiwrth y rheswm, teimladau a'r gydwybod?" Na, ni ddylid synio am ddyn fel peiriant, eithr fel bod yn meddu ar bersoniaeth gyfansawdd. Credwn y gellir dosbarthu galluoedd y meddwl dynol i dri dosbarth: Dealldwr- iaeth, teimladrwydd ac ewyllys; ac ni ellir synied am weithredoedd moesol ar wahan i ddeail, teimlo ac ewyllysio. Heb y deall a'r teimlad, byddai yr ewyllys heb wrthrychau. Gellir ei gwa- haniaethu oddiwrth y cyneddfau eraill, eithr nis gellir ei gwahanu oddiwrthynt. Dylanwadir ar yr ewyllys gan gymell- ion, ond nid oes rheidrwydd arni i ufuddhau i unrhyw gymellion neillduol. 0 herwydd y ddeuolaeth sydd yn nod- weddiadol o ddyn, y mae ei feddwl megys yn faes brwydr cydrhwng y cnawd a'r ysbryd, cydrhwng y pur a'r anmhur. Mae hanes, sylwadaeth a phrofiad yn cyd-dystio fod dyn yn wrth- rych dylanwadau gwrthgyferbyniol. Mae yn ffaith fod dynion yn gweithredu yn groes. i ddyfarniad eu rheswm yn ami, ac nid oes gorfodaeth ar ddyn gvd- ymffurfio a dymuniadau el natur iselaf ychwaith. Pan safwn ar groesffyrdd bywyd, yr ewyllys beqderfyna pa ffordd drafaelir. Geilw Dr. Cynddylan Jones hyhi yn gyneddf ymerodrol, ac yn ffynonell moesoldeb, a dywed yn mhellach fod y syniad fod ewyllys bod moesol yn ddar- ostyngedig i ortodaeth mor anathron- yddol ac ydyw o annuwinyddol. Yn fy ysgrif ddiweddaf, dywedais, "Pe credai dyn fod ei weithredoedd yn effeithiail, dylanwadau anorchfygol oddimewn neu oddiallan iddo, y buasai edifeirwch am fai yn anmhosibl." Mewn atebiad, dad- leuir gan A. H. W., "Pan gyflawna dyn; weithred o dan ddylanwad nwyd an- orchfygol, mai dyna yr adeg o bob am- ser y bydd edifeirwch yn ei oddilwedd- yd." Tybed ai nid ydyw A. H. W. yn cy- meryd gormod yn ganiatol pan ddywed fod y "nwyd" yn anorchfygol. Gwrth- rych hunan-dosturi ac nid edifeirwch fuasai dyn felly. Un o hanfodion edi- feirwch ydyw yr ymdeimlad mewn dyn ei fod wedi gwneyd rhywbeth na ddy- ^lasai, a'r peth hwnw yn beth y gallasai beidio ei gyflawni. Dyna lie mae chwerwedd a gwirioneddolrwydd edi- feirwch. "0, na wrandawswn ar lais fy athrawon!" Nid beio ei hun am na allai wna'r edifeiriol, eithr beio ei hun am wrthod- iad gwirfoddol o'r da, a dewisiad gwir- foddol o'r drwg. "Gwell yw yr hwn a lywodraetho ei ysbryd na'r hwn a enillo ddinas." Ond pa wedd y llywodraethir yr hwn sydd yn gaeth i reidrwydd? Yn y ddwy frawddeg olaf o'i ysgrif, mae A. H. W. yn cloddio o dan gyn- seiliau y gyfundrefn y dadleua drosti, ac yn tynu yr holl adeiladwaith yn gan- ddryll ar ei ben. MedcTai, "Y mae euogrwydd am ddryg- ioni yn un o ddeddfau gorfodol y natur ddynol." O'r goreu, dyna y prawf cryf- af ellid ddwyn fod dyn yn fod cyfrifol. Mae holl ymgais athronwyr a duwinydd- ion tyngedfenol wedi methu a thor- fynyglu yr argyhoeddiad cyngreddfol sydd gan ddyn ei fod yn fod cyfrifol. Mae hyd yn nod termau iaith yn gwrth- od gwasanaethu y dosbarth hwn. Gwawdiai un atheist yr hyn a alwai yn "free-will delusion," a thystiai y buas- ai dynoliaeth yn Ilawer hapusach, pe buasent yn hollol rydd oddiwrth y gau ymdeimlad o ryddid yr ewyllys. Syl- wer ar y term "hollol rydd" oddiwrth yr ymdeitolad o ryddid. Tystiai Vol- taire mai "puppets of providence" ydyw dynion. Dadleuai Hume a Hobbes, Bob Ingersoll a Comte, a bron pob anffydd- iwr bychan a mawr, o blaid caeth- ewyllysiad. Y gwahaniaeth cydrhwng hwy a'r duwinyddion tyngedfenol ydyw h- Mae llawer o'r anffyddwyr yn ddigon; cyson ac eofn, neu, os mynweh, yn ddi- gon gwynebgaled i addef casgliadau rhesymol eu cyfundrefn, tra yr arswyda y duwinyddion wneyd hyny. Trist ydyw gweled Dr. Daniel Williams a'i ddysgyblion o dan yr un gwrthban a'r anffyddwyr a enwais, oblegid ofnaf y bydd efe yn fwy annghysurus nag yd- oedd Daniel yn ffau y llewod yn Mabi- Ion gynt. Enwaf Dr. Williams am mai efe ydyw pencapten y tyngedfenwyr ar faes y "Drych." Yr un yn y gwraidd yw ei athronlaeth ef ag eiddo Voltaire; "puppets of providence" ydym gan y naill a'r llall. Yn awr, gair mewn atebiad i Lewis Gabriel. I ddechreu, ceir ganddo am- ddiffyniad i Sagus, a sicrha nad mater- olwr yw Sagus, ac fel prawf o hyny, dywed fod Sagus yn credu mewn "mat- ter and motion." Onid ydyw pawb wel- odd un sylwedd yn symud yn credu hyn- yna? Ai tybed nad ydyw ysbryd yn rhywbeth amgen nag ysgogiad? N! ameuaf nad all Sagus fod yn gymeriad rhagorol; y mae llawer o'r rheidiolwyr mwyaf eithafol yn ddynion rhagorol er gwaethaf eu damcaniaethau gwrthfoes- ol. Ysgrifena yn dra helaeth i brofi fod dyn yn rhydd ac yn rhwym. Efallai fy mod yn bwl fy amgyffredion, ac mai dyna yr achos fod L. G. yn ymddangos i mi fel pe yn ymresymu mewn cylch, ac mewn perygl o gyfarfod ag ef ei hun mewn trofa. Pan ddel allan o'r cylch, cyll ei gydbwysedd, ac ysgrifena bethau pur rhonc, yn enwedig ei waith yn ceisio profi fod Crist yn gefnogydd i'r syniad nad ydyw dyn yn gyfrifol. Gwedir cyfrifoldeb gan Gabriel (nid yr archangel). Gofyna, "Os nad oes ond un ffordd ar hyd pa un y gall dyn fyn- ed, pa fodd y gellir ei feio am fyned ar hyd-ddi?" Nid bes angen cymeryd yn ganiataol mai un ffordd sydd i'w thrafaelu. Dysg ymwybyddiaeth a syl- I wadaeth fod dwy ffordd, ac mai ein dy- I lMewydd ydyw "ymofyn am y ffordd cflfe, a rhodio ynddi." I Sonl a. am ymddygiad grasol Crist at y wr. iig odinebus, a chyfeiria at ei weddi dros ei ddienyddwyr, er ceisio profi nad ydoedd gwrthrychau ei dru- garedd a'i weddi yn gyfrifol. Syndod yw i neb dynu'r fath gasgliad. Pa aivt-,n ydoedd eiriol am faddeuant i ddyuion annghyfrifol ? Gwir nad yd, oedd y dienyddwyr yn gyfartal euog a'r penaothiaid, helaethach eu manteision, ac nad oeddynt yn llwyr sylweddoli erchyildra eu hymddygiad. Beth am waeau ofnadwy yr Iesu wrth ben y Phariseaid a'r dinasoedd annghredin- iol? "Oni bai i mi ddod a llefaru wrth- ynt, ni fuasai arnynt bechod"; ond yn awr, nid.oes ganddynt esgus am eu pechod. Cyhudda hwynt hefyd o'i gas- hau ef a'i Dad yn ddiachos. Yn ngol- euni bywyd, dysgeidiaeth ac aberth Crist y canfyddir egluraf o bob man seiliau cyfrifoldeb dyn. Condemnia y gwas drwg a diog am gam ddefnyddio ei dalent, a dadgana yn bendant y cosb- ir neu y gwobrwyir dynion yn ol y def- nydd a wnaethant o'u rhyddid fel bod- au moesol. Maentumia L. G. fod dyn mor rhwym o ddewis yr hyn a ymddengys iddo ar y pryd y "daioni mwyaf," ag ydyw y tarw i ddylyn y dorch sydd yn ei drwyn. Cydmariaeth wael ydyw honyna, o her- wydd nid ydyw y tarw yn ddeilydd llywodraeth foesol. Pa faint gwell yw dyn na tharw? Ai tybed mewn difrif nad oes gwell esboniad ar athroniaeth bywyd na'i syn- iad fod dyn yn cael ei gylcharwain yn gaeth gerfydd ei drwyn? Efallai fod L. Gabriel yn fwy cyson wrth wadu cyfrifoldeb na'r duwinyddion tynged- fenol a geisia ddal rheidrwydd a chyf- rifoldeb yr un pryd. Ond y mae yn debyg fod llawer o I ddarllenwyr y "Drych" wedi sylwi fod L. G. yn dipyn o gritig. Paham y beirniada neb na dim os nad ydynt yn gyfrifol? Wrth gwrs, gall ateb nad ydyw efe ei hun yn gyfrifol ychwaith,