Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

13 erthygl ar y dudalen hon

NEW YORK A VERMONT.

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

NEW YORK A VERMONT. UTICA, N. Y., Tachwedd 12, 1919.— Y Parch. W. H. Davies, Ilion, fydd yn Moriah, hwyr Sabboth hesaf; y Parch. John Davies, D. D., William R. Tho- mas ac R. M. Williams yn Ilion yn cyn- orthwyo i ddewis pwyllgor yn nglyn ag eglwys Gwylfa. —Nos Nadolig, yn Thorn Memorial Chapel (Tabernacle Church), bydd "Band of Hope" Moriah, dan arweiniad William R. Griffith a David Jones, yn dadganu "Santa Claus at Miss Prim's." —Tachwedd ltaf, yn yr Homeopathic Hospital, ganwyd i Mr. a Mrs. Edward J. Williams, 506 Leah St., fab cyntaf- anedig, a'i enw yw Walter Henry. Y mae y fam a'r bychan yn dod yn mlaen yn dda. Daeth Mrs. Williams yma gyda'i phriod o Lachine, Canada, yr hwn a fu yn ngwasanaeth byddin Can-. ada. -Da iawn gan luaws gyfeillion Ed- ward Parryv 1143 Brinckerhoff Avenue, fydd deall ei fod wedi troi ar wella, wedi bod yn bur wael am tua bythef- nos. Hyderwn y parhao i wella, ac y cawn ei weled o amgylch yn fuan. -Ca Mr. a Mrs. Thomas Williams, Deerfield, longyfarchiadau ar ddyfodiad mab i'r 'teulu, a gelwir ef Russell. Mae'r fam ac yntau yn'cael gofal da yn ysbyty St. Luke. —Y cyn-filwr, Hugh Pugh, sydd yn enill nerth yn raddol yn ysbyty St. Luke. Y mae John D. Jones, Eagle St., yn anhwylus ac yn dyoddef er's cryn amser. Un arall sydd yn dyoddef gan y gwynegon yw Mrs. R. W. Owen, ac yn methu symud o'i chartref. —Nos Fawrth, wythnos i'r diweddaf, priodwyd Owen H. Jones, Trenton, a Miss Jane Owen, Steuben, y Parch. J. Vincent Jones yn gweinyddu yn ei gar- tref Y mae dymuniadau lawer yn eu dylyn. —Cafodd John E. Williams air oddi- wrth Pte. R. T. Roberts, o Efrog New- ydd, yn hysbysu iddo gyraedd Efrog Newydd ar y llong "Martha Washing- ton" yr llfed o'r mis hwn o -Germani, a chaiff ei gyfeillion y fraint o'i groes- awu ar fyrder. —Newydd dyddorol gyhoeddid yr wythnos o'r blaen oedd fod cwmni tai a thiroedd Hugh R. Jones, Elizabeth St., wedi ei ddewis a'i benodi yn gyn- rychiolydd yr S. W. Straus & Co., 150 Broadway, New York. Arwydda hyn fod Hugh R. Jones & Co., yn cyraedd safle uchel o ymddiriedaeth yn y wlad. —Rhoes Miss Katherine E. Edwards, 1017 Steuben St., barti i longyfarch ei brawd, J. Roosevelt Jones, ar ben ei aifed flwydd. Yr oedd tua 18 o'i gyfeill- ion ieuainc yn ei gartref, 1125 Steuben Street, nos Sadwrn. Wedi ciniaw, mwynhawyd chwareuon a rhaglen gerddorol. —Mae yn dda genym ddeall fod Mrs. Evan T. Williams, 128 Wall Street, yn gwella. Cyfarfyddodd a damWain pan yn myned i bleidleisio, ddydd Mawrth- cyn y diweddaf, a chafodd waredigaeth wyrthiol. Mae yn bryd i'r awdurdodau roddi atalfa ar y gyru gwyllt ar yr otos. yma. Lleddir neu clwyfir rhywun yn barhaus. —Cynaliwyd arti gwniadurol dydd- orol, ddydd Mercher o'r wythnos o'r blaen, gan foneddigesau eglwys. Ply- mouth, yn nghartref Mrs. J. V. Evans, 2 Hobart Street,- er cynydd cronfa ar- benig perthynol i'r achos, a gwnaed swm sylweddol. Yr oedd yno nifer dda o foneddigesau, a mwynhawyd amser da a danteithion. —Ddiwedd yr wythnos, hysbysodd R. W. Owen, llywydd y Cymreigyddion, rodd o $500 oddiwrth Mr. John A. Rob- erts, un o fasnachwyr blaenaf Uti'ca. Y mae hyn yn ysbrydoliad i'r mudiad, ac yn rhagaddawol y llwyddir i gasglu y $15,000. Y mae Mr. Roberts yn Gym- ro o iaith, ac yn frodor o Remsen, ao yn cymeryd dyddordeb yn mudiadau ei genedl. —Yn nghartref John G. Roberts, 303 Spring Street, rhoddwyd parti i Miss! Elizabeth Owen gan Mrs. Samuel Prit- chard, er anrhydedd iddi ar ei phriodas agoshaol. Anrhegwyd hi a parlor-lamp a llestri tor-wydr. Mwynhawyd ieise4 a choffi. Yr oedd tua 40 yn bresenol. Y priodfab yw Idris J. Davies. —Nos Fawrth ddiweddaf, cynaliwyd cvfarfod rheolaidd gan Gymdeithasi Meibion eglwys Moriah, pryd y cafwyd dadl ar y testyn, "Pa un ai Cyfoeth ai Addysg yw y gallu cryfaf mewn cym- deithas." Siaradwyd o blaid Cyfoeth gan Thomas H. Jones a John Owen; Addysg, William H. Jones a William Humphrey. Hefyd, cafwyd ychydig eir- iau gan Sam Ellis, William R. Thomas- David Jones a D. Lloyd Davies, yn* nghyd ag adroddiad gan yr olaf. Bydd y cyfarfod nesaf, Tachwedd 25ain, yn un agored, pryd y ceir darlith gan Mr. H. O. Prydderch, Scranton, Pa., ac es- tynir gwahoddiad cynes i bawb. -Rhoddwyd cyfarfod unol o ddath- DARLUN O'R GYNADLEDD IFORAIDD A GYNALIWYD YN POULTNEY, VERMONT, AWST 12-15, 1919 Had pen blwydd ac ymadawel i Mr. a. Mrs. Henry Parry, 1619 Bennett Street, ar eu hymadawiad i ymsefydlu ar ffarm yn Sir Herkimer, nos Fercher, pan y daeth tua 50 yn nghyd, yn benaf o eg- lwys Bethesda, o'r hon eglwys y mae Mr. a Mrs. Parry yn aelodau. Yr ach- lysur oedd dydd pen blwydd Mr. Par- ry. Anrhegwyd hwy a Beibl Teuluaidd hardd, a gwnaeth y Parch. J. Vincent Jones, D. D., y cyflwyniad. Caed rhag- len o ganu, adrodd, ac anerchiadau, a mwynhawyd danteithion amrywiol. —Dydd Mercher, Tachwedd 5, priod- wyd Mrs. Margaret Griffiths, 122 Ad- dington Place, ac Arthur T. Brown, Litchfield, am 2 o'r gloch, yn nghartref y briodferch. Gweinyddai y Parch. John Davies, D. D., gweinidog eglwys Moriah. Y gwas a'r forwyn briodasi oeddynt Earl Brown, mab y priodfab, a Mrs. Elizabeth Davies Griffiths, merch-yn-nghyfraith y briodferch. Ar ol taith briodasol i New York, Washr ington, Richmond, Raleigh, N. C., a Southern Pines, byddant gartref yn 122" Addington Place ar ol Mai 1, 1920. Y mae Mr. Brown yn amaethwr blaen- llt^w yn Litchfield, Sir Herkimer, ac yn aelod o eglwys y Presbyteriaid yn Nor- wich Corners, a Mrs. Brown yn amlwg yn eglwys Moriah, Utica. —Derbyniodd Mrs. J. H. Williams, Riverside Drive, Deerfield, newydd o Gymru am farwolaeth ei chwaer, Miss Maggie Pritchard, Gaerddu, Rhosgad- fan, G. C. Bu farw ar y 13fed o'r mis diweddaf; hefyd, yr oedd y ddiweddar chwaer yn chwaer i Hugh O. Pritchard, Philadelphia, Pa., gynt o'r ddinas hon. Cydymdeknlwn a hwy yn eu profedig- aeth. Yn. yr un llythyr, hysbyswyd Mr. Williams i'w fodryb, Mrs. Ellen Jones Hafodtalog,. Rhostryfan, gael ei chym- eryd ymaith yn ddiweddar drwy oruch-. wyliaeth angeu. Cymdeithas Rydd y Cymry, New York Mills Nos Fercher, Tachwedd 5ed, cynal- iodd y gymdeithas uchod ei chyfarfod rheolaidd, ac ar y diwedd cafwyd ffug- brawf (mock trial) ar un o'r aelodau. Mewn cysylltiad a'r prawf hwn, cafwyd v fath hwyl na annighofir mo hono am lawer o amser. Y cyhuddedig oedd Llewelyn Thomas, New York Mills,' a'r cyhuddwyr oeddynt, R. O. Salisbury, Morris Owen ac Owen Thomas, y rhai a wnaethant eu gwaith yn rhagorol; a'r amddiffynydd oedd R. W. Davies, Yorkville, twrne o'r iawn ryw. Wedi croesholi a throi a throsi, aeth y rheith- wyr o'r neilldu am ychydig amser, a'r ddedfryd a1" y diwedd oedd dieuog. Y barnwr oedd R. T. Edwards, llywydd y gymeithas. Wedi hyny, darllenwyd papyr ar "Balchder" gan R. W. Davies, yr hwn a gafodd gryn sylw gan yr oil o'r brod- yr, a diolch cynes i'r brawd am ei lafur. Yr wythnos nesaf, bydd y gymdeithas yn cael gwledd ac ychydig ddifyrweh. Gwledd yw hon i roi derbyniad cynes yn ol i'n plith i'r bechgyn anwyl a fu yn y fyddin yn adeg y rhyfel. Aeth chwech neu saith o honynt i'r fyddin, ac aeth tri o honynt i ffosydd Ffrainc i wneyd eu rhan yn ganmoladwy, a chawsant eu harbed i ddod yn ol. "Ben- dith Duw fo arnynt oil."—Gohebydd. Ilion, N. Y. Nos Fercher diweddaf, Tachwedd 5ed, cafwyd perfformiad rhagorol o'r gantata "Ruth" (Alfred Gaul) yn yr M. E. Church, Ilion. Treuliwyd y rhan gyntaf o'r cyngerdd yn amrywiaethol, pryd y cafwyd deuawd, "0, Lovely Peace," gan Mrs. Arthur Roberts a Lewis Roberts, allan o weithiau Handel. Fel yr oil o weithiau Handel, y mae hwn yn dàeuawd clasurol a lied an- hawdd; er hyny, cafwyd dadganiad rhagorol a gwir feistrolgar o hono gan- rtdynt. Cafwyd unawd ar yr organ gan Miss Luella Roberts, a chymerodd am- ryw eraill ran mewn dadganu ac ad- rodd yn y rhan hon. Yna Per! yn niiaen at brif waith y cyfarfod, sef perfform- io y gantata, a chafwyd dadganiad rha- gorol gan y cor, a gwnaeth y rhai oedd yn cymeryd rhan yn yr unawdau, sef Mrs. Arthur Roberts (soprano); Mrs. George Daniels (contralto); Miss Kate Campbell (mezzo-soprano), a Mr. Ed- ward Roberts (bass), yn gampus. Mr. Arthur Roberts ydyw arweinydd y cor, a gwnaeth ei waith yn hynod ddirodres, ond yn wir effeithiol, ac yr oedd y per- fformiad drwyddo yn wir dda; ond rywfodd y tri chorus diweddaf gaf- odd fwyaf o afael arnaf fi; yn arbenig felly y chorale, "Look Down, 0, Lord, We Pray," a'r olaf, sef "Rejoice, Re- joice." Yr oedd hwn yn ddiwedd ar- dderchog i'r oil, ac yr oedd lleisiau yr hogiau Cymreig oedd yn canu y tenor a'r bas i'w clywed yn treiddio yn son- iarus trwy yr oil. Mae y chorus, "Look Down, 0, Lord, We Pray," wedi ei ys- grifenu yn y cywair lleiaf (minor) (peth lied annghyffredin yn yr America, ynte?); a'r chorus olaf, "Rejoice, Re1- joice," yn llawen. Mrs. Moses Roberts, Ilion, fu farw yn hynod sydyn ddechreu yr wythnos ddiweddaf. Derbynied ein cyfeillion ein, cydymdeimlad llwyraf yn y brofedig- aeth lem. Mae Mr. a Mrs. Roberts wedi bod yn ffyddlon iawn gyda yr achos Cymreig yn Ilion, Y Sabboth nesaf mae Cyfarfod Ys- gol y Dosbarth i'w gynal yma yn Ilion. Am 10 y boreu, bydd cyfarfod y cyn- rychiolwyr; ac am 2, holi y plant; a'r dosbarth hynaf yn y benod gyntaf o'r Actau, a phregethir am 7 gan y Parch. Dr. John Davies, Moriah. Taer erfynir am i Dftwb fod yn ffyddlon yn nghyfar- fod y boreu a'r prydhawn. Mae yn debyg y daw pawb yn weddol rwydd i wrando Dr. Davies y nos. Pa fodd bynag, rhoddir gwahoddiad calonog i'r oil o'r cyfarfodydd. Hefyd, derbynied Mrs. Griffith .Rob- erts, Morgan St., Ilion, ein cydymdeim- lad o herwydd marwolaeth ei mam, Mrs. Larunia Jones, Granville, yr hon oedd weddw er's llawer blwyddyn, ac yn wraig rinweddol a pharchus iawn. Brodores oedd yn enedlgol o Blaenau Ffestiniog. Cof genyf am ei thad er's llawer dydd, yr hwn oedd yn gweith- io yn chwarel y Duffws, Ffestiniog, fel foreman yr engineers, ac adwaenid fel Evans y Duffws, a'i phriod oedd Rob- ert Jones, mab Edward a Mary Jones, Pantllwyd, Ffestiniog, yr hwn a fu farw tua 40 mlynedd ynt ol. Yr oil wedi myned i dawelwch erw Duw er's amser maith.—Dewi Ilion. .Nelson, N. Y. Medi 12, 1919, cyfarfu nifer luosog o gyfeillion a pherthynasau y brawd a'r chwaer, Mr. a Mrs. Nelson Richards, yn eu cartref ar North Road, Nelson. Am- can y cyfarfod oedd dathlu y ffaith fod Mrs. Richards wedi cyraedd ei thrigain mlwydd oed. Trwy garedigrwydd ei merch, Mrs. J. M. Pritchard, yr hon oedd ar ymweliad a'i rhieni, gwahodd- wyd ni at ein gilydd y nos hono i gyd- lawenhau a llongyfarch Mrs. Richards, gan ddymuno iddi lawer ofiwyddi eto i fwynhau bendithion goreu bywyd. Trefnasai Mrs. J. M. Pritchard raglen ragorol, a chafwyd amser da wrth fyned trwyddo. Canwyd nifer o'r hen emyn- au Cymraeg gyda hwyl, ac yn mhlith pethau eraill, cafwyd cystadleuaeth frwd ar ganu yr emyn, "Dwy aden col- omen pe cawn." Yr oedd chwech yn y gystadleuaeth, a than feirniadaeth y cerddor galluog, W. R. Williams, Nel- son, barnwyd mai y brawd, J. H. Rich- ards, ein Hynad Heddwch, oedd y goreu. Cystadleuaeth arall bwysig oedd yr un Seisneg ar "Rock of Ages," ac allan, o chwech, barnwyd mai Mrs. R. B. Owens oedd y goreu. Cafwyd hwyl fawr wrth wrando ar chwech yn y gystadleuaeth ar ddarllen darn heb atalnodau, a barnodd y ddau feirniad, Mr. Gershom Owens a J. D. Thomas, mai y peth goreu fedrent wneyd oedd rhanu y gobr rhwng y brawd J. O. Jones, a'r chwaer Mrs. Newton Richards. Cafwyd sylwadau pwrpasol gan y brodyr R. B. Owens, j ü. Jones, Simon Davies, D. W. Jones, a J. D. Thomas. Gwnaeth bardd ein pentref, y brawd W. R. Williams, ddar- Hen penillion da iawn i'r pwrpas, gaq ddymuno i Mrs. Richards bob bendith. Hefyd, darllenodd ychydig benillion i'r Parch. J. M. Pritchard, gan ddymuno egwyl hapus yn Hen Wlad y Menyg Gwynion, a dychweliad dyogel at ei eg- lwys a'i deulu. Da iawn genym fuasai ei gael gyda ni, ond nid oedd yn bosibl, gan ei fod mor bell oddiwrthym. Blin genym nad oedd Miss Margaret Richards yn alluog i fod gyda ni, gan ei bod yn cadw ys- gol yn Binghamton. Wedi'r rhaglen, cafwyd hwyl wrth wneyd cyfiawnder a'r ddarpariaeth oeddynt wedi ei threfnu ar ein cyfer. Cafwvd coffi, teisen a hufen rhew. Fel arwydd o'n parch a'n dymuniadau da, cyflwynodd y cyfeillion a'r perthynasau depot hardd i Mrs. Richards, gan ddy- muno iddi lawer o flwyddi i fwynhau bywyd. Wedi noson lawer, aeth pawb i'w cartrefleoedd yn hapus, ac yn wir ddiolchgar i Mrs. J. M. Pritchard am yr oil a wnaeth i wneyd y cyfarfod yn ddyddorol ac yn hwylus.—Shirgar. I Rome, N. Y. Yr wyf yn dymuno cyflwyno i ddar- llenwyr y "Drych" bust o'r Cymro en- wocaf gan Brython Jones, mab y Parch. W. Caradog Jones, D. D. Ar ol cael ceisiadau lawer am bust o'r Anrhydedd- us David Lloyd George, yn ddiweddar, cydsyniodd i wneyd llun o hono. Tua thair blynedd yn ol, gwnaeth lun o hono o'r blaen, a gwerthodd bob un o honynt, ond y mae y llun hwn yn tra rhagori ar yr hen. Y mae y bust hwn wedi ei lunio o dan oleuni tanbaid, ac y mae Bust o'r Anrh. D. Lloyd George mynegiad y wyneb i'w weled oreu gan wedi ei osod ar fwrdd He y bydd y gol- runi yn taro arno. Y mae Brython Jones wedi agor studio yma lie y mae yn cynllunio ac yn gwneyd ei waith- megys bronze tablets at wasanaeth teuluoedd, cymdeithasau, treffdd a di- nasoedd. Gwelir yn y "Drych" yr wyth- nos hon ddarlun bychan o bronze tab- '¡'let, un o'i ?amrywiol ddyfeisiadau, yn dangos y milwr Americanaidd yn ei waith. Efe sydd yn gwneyd models i'r Doyle Bronze Works yn Rome, ac y mae wrthi yn awr yn gwsithio ar tablet mawr iawn i ddinas Savannah, Georgia. Gydag eraill, dymunwn bob llwyddiant i'r brawd ieuanc hwn yn ei anturiaeth. -R. G. Morris. Helyntion Holland Patent, N. Y. Tachwedd 10, 1919.-Gair am waith y Sabboth fel y peth cyntaf yr wythnos hon. Yr oedd cor eglwys New York Mills wedi dweyd wrth Dr. Hughes y gallent ddyfod yma brydnawn Sabboth, ac y buasai, hefyd, y gwasanaeth yn ganu cysegredig os byddai hyny yn foddhaol i'r bobl, a phasiwyd yn un- frydol iddynt ddyfod; a gallwn sicrhau na fu eu dyfodiad yn ofer ,a theimlem trwy yr holl wasanaeth fod Duw yn Ei bresenoldeb yn agos atom; a gall y cor anwyl hwn deimlo nad ofer fu idd- vnt ddyfod. Ni allwn fanylu ar bob darn a ganwyd rhag bod yn rhy faith, ond gallwn ddweyd hyn, fod pob un gymerodd ran yn y gwaith vn gwneyd i ni deimlo eu bod yn canu i'r Arglwydd yn ei deml; a dyna y canu sydd yn cyr- aedd hyd y nef. Yr oedd cynulleidfa dda wedi dyfod yn nghyd, a chawsom ganu cynulleid- faol gyda'n gilydd, a phawb yn gwneyd ei oreu. Ar ddiwedd y cyfarfod, gofyn- odd Dr. Hughes i bawb godi ar eu traed i ddiolch o galon. am eu gwasanaeth trwy y .cyfarfod. Cyfododd pawb yn un frydol, gan ddymuno na fydd yn hir iawn cyn iddynt ddyfod eto, cyn y daw y gauaf mawr. Hefyd ,diolch yn fawr i Mrs. Dr. Hughes am gyfeillo ar yr organ, ac i'w brawd, George W. Owens, am gyfeilio gyda'r cornet. Gall Dr. Hughes deimlo yn, falch o'r cerddorion sydd ganddo yn ei eglwys yn New York Mills, yn rhoddi cynorthwy mor fawr i gario y gwaith goreu yn mlaen; ein hen gartref yn y dyddiau a fu; cartref a garem mor fawr. Ewch ytf mlaen, anwyl gor, hyd berffeithrwydd. Yr oedd Miss Anna Roberts, Steuben Valley, yn cael ei derbyn trwy lythyr i'r eglwys y Sabboth. Yr oedd yn dda iawn genym ei gweled, a da iawn gen- ym weled ein nifer yn cynyddu yn lie lleihau. Derbyniodd John D. Lloyd lythyr oddiwrth ei wyr, Harold Lloyd, ei fod yn iach ac yn dyfod yn 'mlaen yn dda, yn ei waith, yr hyn oedd yn newydd da i'w anwyl daid. Yr oedd WilHam R. Thomas a'r teulu, Utica, yn talu ymweliad a'u mam, Mrs. Meredith, a'u brawd, "Robert Meredith, ddydd Sadwrn. Y maent yn meddwl yn I fawr o'u gilydd. Da iawn oedd genym weled Mrs. Meredith yn y gwasanaeth, y Sabboth. Yr oedd yn edrych yn bur wan; eto yn mwynhau y gwasanaeth. Yr oedd yn dda iawn genym gael Miss Kitty May Gittins gyda ni yn y prydnawn a'r hwyr. Y mae hi yn llen- wi ei lie pan yn bresenol. Pur wael yw Mrs. Alma Jones y dyddiau hyn, ond f mae yn dawel iawn yn ei chystudd. Bu Mr. John Morris, Utica, yn treul- io y Sabboth gyda Mr. Lloyd. Yr oedd ar gychwyn i fyned i Gymru i ymofyn ei wraig a'i blentyn bach adref, ond ni all fyned hyd ddydd Sadwrn nesaf. Y mae streic ar y llongau wedi ei rwystro, deallwn. Yr oedd hyn yn siomedigaeth iddo. Dymunwn iddo daith ddyogel. Y mae Mrs. Frank Roberts, a'i chwaer, Mrs. George Krill, wedi myned i Washington i dalu ymweliad a'u merched, Miss JHorence E. Roberts a Miss Ada Kril. Dymunwn i'r ddwy chwaer daith hapus, a dychweliad dy- ogel. Bu R. D. Spencer, Utica, a'i fam, Mrs. Harry Abbott. New York Mills, yn ym- weled a ni ddydd Gwener, yr wythnos ddiweddaf. Yr oedd yn dda iawn gen- ym eu gweled. Yr oeddynt yn dweyd yr hanes am yr "Hallowe'en Party" oeddynt wedi ei gael yn yr anwyl hen gartref i wneyd y rhai bach yn eu teulu- oedd yn ddedwydd. Yr oedd pobpeth wedi ei addurno yn ol dull y dydd, a Mrs. Abbott wedi bod yn ofalus i roddi yr addurn mwyaf wrth ddrws y ffrynt, sef "ponken" fawr, a gwneyd danedd a llvgaid mawr, a dyna y difyrwehf y rhai bach yn ofni dyfod yn agos ar y dechreu, ond darfu iddynt gynefino yn fuan. Bydd y plant, os cant fyw, yn cofio am yr amser da a gawsant yn yr anwyl hen gartref pan fydd y trefnwyr wedi gorphen eu gwaith. Buasai yn dda iawn genym allu bod yn bresenol, ond rhaid oedd boddloni. Llawer awr ddedwydd dreuliasom ar yr aelwyd gar- tref. Bendithied Duw y teuluoedd presenol i fod yn debyg i'r anwyl rai sydd yn tawel huno.—R.

Advertising

LEBO, KANSASI

MARWOLAETH YN NEW YORK -I

[No title]

WILKES-BARRE, PA.

LLYFR Y PROFFWYD AMOS I

Advertising

! VANCOUVER, B. C. 

COST BYW

[No title]

[No title]

YMOFYNIAD