Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

I" CYMRU

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

I" CYMRU —Caed corff milwr o'r enw John James Donnegan ar linell y ffordd haiarn, ger Rhosneigr, a bernir mai syrthio a wnaeth o'r gerbydres a deith- iai o Lundain i Gaergybi. —Yn Ilys ynadon y Wyddgrug, y dydd o'r bl-aen, cyhuddwyd Robert Jones, Pentre, Helygain, o saethu ei frawd, David Jones, Ty Canol, Melinwynt, Hel- ygain, gyda'r amcan o'i lofruddio. Go- hiriwyd yr achos am wythnos. -Yn mrawdlys Derby, dedfrydwyd Robert Davies, "bugail Dartmoor," i dair blynedd o benyd-wasanaeth am dori i mewn i eglwys blwyfol Matlock. Yr oedd wedi treulio agos i haner can mlynedd yn y carchar ar w-ahanol adeg- au. -Yn llys ynadon Aberystwyth, cy- huddwyd William David Ladd, High St., Aberteifi; May Ladd, ei wraig; Florence Ridgway, Daniel Thomas Ladd, ac Eliz- abeth Ann Davies—yr oil o Aberteifi- o fod mewn meddiant o nodau arianol ffugiol, ac o geisio eu pasio. Traddod- wyd hwy i sefyll eu prawf, a chaniata- wyd meichiafon. o. —Dywed Es'gob Ty Ddewi y rhaid i'r- Eglwys yn Nghymru godi miliwn o bun- au er mwyn gwneyd i fyny yr hyn a gollodd drwy Ddadwaddoliad. A dyna y llywodraeth yn rhoi miliwn, a'r Cyng- orau Sirol i gael dim am ddeugain mlyn- edd! I ba le y mae'r arian yn myn- ed? —Trodd Lieut. Gwilym Evans, mab Dr. R. D. Evans, Blaenau Ffestiniog, yn ol i St. Johns, Newfoundland, i fyned i'r banc lie yr oedd cyn dyfod adref i ymuno a'r fyddin. Ei frawd, Dr. Carey Evans, yn myned yn ol i Bagdad tua'r un adeg. —Ymgymerodd gwyr ieuanc Bethel, Cilfynydd, yn ddiweddar, a myned ati i lanhau y festri. Golygai hyn arbed gryn draul, a dengys hefyd fod y bobl ieuainc yn Nghilfynydd a'u calon yn nghyfeiriad daioni, ac ni ddywed neb lai na chrefftwyr dan gamp sydd wedi bod wrthi. —Croesawyd Mrs. Bryan, priod Mr. Edward Bryan, o ffirm adnabyddus Bry- an a'i Frodyr, Cairo ac Alexandria, yn ol i gapel Beulah, Caernarfon. Tyst- iodd amryw filwyr i'r caredigrwydd neillduol a ddangoswyd gan Mrs. Bryan a'r teulu tuag at y byddinoedd Cymreig yn y Dwyrain. -Mewn cyfarfod o Bwyllgor Gor-elwa Bangor, yr wythnos o'r blaen, cwynai John Owen, Glanadda, fod Mrs., Lewis, chwegnwyddwr, wedi codi 2%c. am ddwy ganwyll, yn lie 2c. Ni wnaeth Mrs. Lewis ei hymddangosiad, ond ys- grifenodd lythyr i ddadgan gofid, ac i ddweyd ei bod yn barod i droi yn ol yr hyn oedd dros, ben y pris. Nid ei bwr- iad oedd codi gor-bris. Teimlai y pwyll- gor y dylasai hi fod yn bresenol, a go- hiriwyd yr achos hyd nes y deuai, a rhoed ar y clerc i'w rhybuddio o'r ddir- wy am beidio ymddangos. —Gwaith cyntaf Mr. Edward Ed- wards, M. A., fel maer Aberystwyth, oedd gosod blodeuglwm er cof am y bechgyn a syrthiodd yn y rhyfel yn y neuadd goffa yn nglyn a'r llyfrgell gy- hoeddus. Arni fe ysgrifenodd y geir- iau a ganlyn yn enw'r Cyngor Trefol: This tribute to the noble dead With reverent hand we lay, The glorious youth who ran ahead To the fury of the fray. Er gwaethaf brwydro ffosydd Ffrainc, Er cwsg mewn estron wlad, Fe ganant anorchfygol gainc Ar aelwyd ty eu Tad. -Da clywed y lleygwyr yn codi eu llef ar fater pwysig halogi'r Sabboth. Cwyna Mr. Thomas James, Y. H., Porth- cawl, fod y lie hwnw yn cael ei aflon- yddu yn fawr ar ddydd yr Arglwydd. Cludir y lluaws yno mewn cerbydau a moduriau, rhai yn cario ugeini-au, a nifer o honynt yn canu emynau, ac yn eu plith ddiaconiaid. Y mae yn llawn bryd, meddai ef, i'r e'glwysi gael gwared o'r genedlaeth hon, ond gofyn-a rhyw was beth am y pregethwyr sydd yn teithio ar y Sul. —Daw dydd o brysur bwyso ar yr enwadau crefyddol pan ddeuant wyneb yn wyneb a rhai o adran-au y Ddeddf Addysg newydd. Yn ol y ddeddf, medd- ir, gall pob eglwys a chymdeithas ffurf- io dosbarthiadau a chyflogi athrawon a chyn.al ysgol y babanod a'r ysgol barha- ol yn yr ysgoldai perthynol i'r capeli, a thelir y gyflo-g gan y wladwriaeth. Os gwir hyn, a yw'r enwadau Ymneill- duol yn barod i dderbyn arian y llyw- odraeth i'r pwrpas hwn? -Yn y "Wireless World," ceir hanes Gorsaf Marconi yn Nhowyn, Meirion- ydd, prif orsaf y pellebyr diwifrau. Des- grifir y modd y mae'r gwaith rhyfedd hwn yn cael ei gario yn mlaen. Danfon- ir cenadwriau o'r orsaf yn Towyn i'r orsaf ger llaw Caernarfon, a chyda peirianau sydd yn hollol dan reolaeth y swyddfa yn Towyn, danfonir hwy i Bel- mar, ger Haw New York, yn ol y cyf- lymder o gant o eiriau y fynyd. Der- bynir y cenadwriau o Belmar yn Towyn. —Dyma fel y canodd Twm Llewelyn, y Saer-hen gymeriad yn y Rhondda- ar achlysur bedydd trwy drochiad un tro: Fe fedyddiwyd tri-ar-ddeg 0 ddynion teg yr olwg, Rhai yn fawr, a rhai yn fan, Yn Ystrad lan Dyfodwg; Un o 'rhai'n oedd Mog, fy mrawd, 'Doedd ganddo ef ond crefydd dlawd, Fe drodd liw'r dwr ar ganol dydd O'r Ynysfach i Bontypridd. —Dadleuir lawer yn erbyn gwaith Llyfrfa'r Methodistiaid yn lladd y llyfr- werthwr teithiol. Gwnaed hyny yn llythyrenol drwy gynyg yr un telerau i Ysgolion Sul ac eglwysi ag a roddid i'r llyfrwerthwr. Clywais Mr. Richard Jones, Aberangell, yn dweyd fod hyny wedi ei ysbeilio ef o'i fywoliaeth. Ac nid dyma'r golled fwyaf. Erbyn hyn, gwelaf fod y Parch. John Owen, M. A., Caernarfon, am ail ,odi'r hen deithwyr. Gobeithio nad yw yn rhy hwyr. —Mewn cyfarfod o gynrychiolwyr treli glanau'r mor, o Aberystwyth i Bwllheli, pasiwyd penderfyniad yn gof- yn i'r Aelodau Seneddol weled y Post- feistr Cyffredinol ar y mater. Dylai pob tref gael yr un manteision, ac os yw yr Abermaw yn gofyn am eu llyth- yrau, paham yr esgeulusir trefi eraill. Dyna fel y dadleuir. Ond a yw Pwll- heli yn awyddus am ddylyn esiampl baganaidd yr Abermaw? —Crefydd Crist ynte Crefydd Cymru ydyw teitl ysgrif gan Mr. G. M. LI. Da- vies,-y gwrthwynebwr cydwybodol ad- nabyddus,—yn y "Geninen." Dadleu y mae fod blaenoriaid cred yn traethu pethau sy'n groes i Grefydd Crist. Gresyn fod neb yn cilwgu ar ddynion gel Mr. Davies. Mae digon o le i ddyn- ion o argyhoeddiadau dyfnion yn Nghymru, a'r rhai yma fydd y gwroniaid yn y man. Morwyr Seisnig a'u Hymarferiadau Campwrol o Fiaen y Tywysog Albert. Y lywysog yn eu Gwylio ar Fwrdd y Uong Rhyrel, "Exmouth." Ar ol hyny, Doscbarthodd y Tywysog Wobrwyon —Copyright Western Newspaper Union. -0 dan awrlurdod y Sergt. Major J.. T. Evans, yn dylyn y seindyrf pres a chwibianol, aeth 250 o gynfiiwyr i gapel Ymneillduol yr Ynysybwl i gynal gwasanaeth coffa i filwyr syrthiedig per- thynol i'r lIf. Cymerwyd rhan yn y cyfarfod gan y Parchn. Isaac Morris, B. A., B. D.; John Williams (E.), a J. Elias (B.). Canwyd gan gor y lie, o dan arweiniad Lieut. W. S. Jones. Yr oedd yr adeilad yn orlawn, a chawd gwasanaeth dwys dan lywyddiaeth y Parch. Arthur Jones, B. A. —Cynaliwyd cyfarfod yn St. David's, Pontypridd, o dan lywyddiaeth ddoath Mr. Moses John, i'r amcan o gael Llaf- ur a Christionogaeth yn nes at eu gilydd fel y dylent fod. Yr oedd y Blaid Laf- ur yno yn zryf, a rhai o honynt yn siarad synwyr, chwarea teg iddynt. Da ia.wn fod y goreuon yn eu plith yn dod i sylweddoli mai nid manteisiol na lles- ol i'w hachos ydyw cynal cyfarfodydd ar y Sabboth a diystyru pob gwasan- aeth crefyddol. Penodwyd pwyllgor, ac yn eu plith ddau weinidog, i hyrwyddo yr amcan daionus hwn, a hyderir y dwg ffrwyth buan. -J).aw'r newydd annysgwyliadwy o America fod y "Drych" mewn perygl. Mae ei berchenogion yn teimlo nad yw yn talu fel y dylai, ac y mae ei ddyfol- ol yn y glorian. Mae'r "Drych" yn cael ei ystyried y newyddiadur Cymraeg goreu yn y byd; ond ni wyddai fawr nel3 fod yn y ganmoliaeth argoel fod y di- wedd yn y golwg. Byddai'r gplled i Gymry America yn ddifrifol i'r ieittiaf. Ond gwyr pawb sy'n sylwi fod y Cymry yn suddo o'r golwg yn yr Americaniaid. Gobeithio y daw rhyw wawr o rywle, oblegid byddai'n chwith iawn i lawer o honom ar ei ol.— O'r "Cymro." —Y mae symudiad ar droed yn eg- lwys y Trinity, Abertawe, i gyflwyno tysteb i'r Parch. W. E. Prydderch, yr hwn sydd newydd derfynu ei gysylltiad bugeiliol ar ol pum mlynedd-ar-hugain o wasanaeth gwerthfawr. Y mae cyf- eillion y Trinity am roddi cyfle i ym- uno yn y dysteb i'r rhai hyny sydd wedi bod yn aelodau yn y Trinity yn ystod gweinidogieth Mr. Prydderch, ond sydd erbyn hyn wedi gadael y dref am le- oedd eraill. Derbynir rhoddion y cyf- ryw gyda diolchgarwch gan yr ysgrifen- ydd, Mri. Morgan Richards, 28 Crom- well Terrace, Abertawe, a E. Ll. John, 6 Cromwell Terrace, Abertawe, neu gan I y trysorydd, Mr. Owen Owen, Carmen Villa, Uplands, Abertawe. ————— o ————— MARWOLAETHAU CYMRU Gogledd Bala-Tachwedd 6, Miss Jane- Jones, Aran St., yn 53 oed.—Tachwedd 6, Mrs. R. Jones, gweddw Edward Jones, Plas-yr-Acre.—Tachwedd 11, Mrs. Owen, Blue Lion Temperance, yn 70 oed. Birkenhead-Tachwedd 10, Ellis Evans, Cedar St. Caer—Tachwedd 11, Eaton Rd., Alice A. Williams, yn 67 oed. Capel Curig—Tachwedd 5, Mrs. Ellen iioyd Jones, y llythyrdy, gynt ty y Capel (M. C.), yn 47 oed. Ffestiniog—Tachwedd 7, Maenofferen, David Lewis, Sun St. Lerpwl—Tachwedd 13, Henry Jones, Y. H., Newsham Drive. Manchester-Hydref 30, Miss Jane Jones, Eccles, yn 45 oed. Menai Bridge-Tachwedd 16, Griffith Williams, Uxbridlge House, yn 68 oed. Porthmadog-eWachwedd 17, Thomas Koberts, cyfreithiwr. Towyn-Tachwedd 7, John Jones, Bron- ygan, mab y diweddar John Jones, canwr. Trefriw—Tachwedd 16, Mrs. Jane Tho- mas, Hill Crest. Deheudir Abercarn—Tachwedd 6, Tylacoch, Mrs. Martha Lewis, Lanofer Estate. Aberfan—Tachwedd 10, y Parch. J. M. Davies (M. C.), yn 68 oed. Abertawe-Tachwedd 4, Helen's Road, David, mab y diweddar Roger James, Crughywel, yn 63 oed. Aberystwyth-Tachwedd 6, Olive Irene, merch Mr. a Mrs. Campton Evans, Madoc House. Barry—Tachwedd 4, Mrs. Martha Lloyd, Windsor St. Bridgend-Tachwedd 6, Dorothy May Davies, merch Mr. a Mrs. T. H. C. Davies, Auckland St. Caerdydd-Tachwedd 5, Manor St., Lil- ly, priod David John Davies.—Tach- wedd 2, Mary, gweddw John Jones, Salop St., yn 86 oed. Canton-Tachwedd 6, Surney St., Her- bert Arthur, mab Bert ac Annie Jones. Cwmafon-Hydref 31, Undeb Row, John Davies, Brynsadler. Llundain-Tachwedd 4, Miss Mary Jen- kins, merch Mr. a. Mrs. John Jen- kins, Chipsted St. Nantyfyllon—Tachwedd 3, Mason's Arms, Phillip Griffith, yn 54 oed. Pentwynmawr—Hydref 31, Dinas Farm, Mprgaret, priod Frank Ellis, yn 31 oed. Pontypridd-Tachwedd 3, Vaughan St., Pwllywaun, Mary, gweddw Morgan Davies, Pentyrch, yn 84 oed. Pontystieyll-Tchwedd 4, Tyledybont, Thomas Edward, mab Mrs. Morris. Ton Pentre-Ifor John, mab Mr. a Mrs. Wm. Parry, yn 16 oed.

Advertising

I HUMBOLDT PARK, CHICAGO,…

I "THE DRYCH" GOES TO $31

Advertising