Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

32 erthygl ar y dudalen hon

Bangor.

Bethesda.

,Blaenau Ffestiniog.I

Advertising

[No title]

Bettwsycoed.

Caernarfon.

Criccieth.

Dyffryn Pantile a'r Cyfch.

Egrlwysbach.

Harlech.

Llanrug.

1Llanrwst.

Llanberis.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Llanberis. ARDDANGOSFA Y LLUNGWYN YN NGHAERNARFON.—Yr ydym yn llongyfarch Mr O. Rawson Owen, o Westy Pen y Pass, ar ei lwydd- iant yn enill y drydodd wobr yn yr arddangosfa hon, mewn cvstadleuaeth galed. m y dysbadd neu *y gaseg oreu o dan 14 dyrnfedd. DAMWAIN ALAETHUS. Prv-lnawn dydd Mawrth diweddaf digwyddodd damwain alaethus yn y bone a adwaenir wrth yr enw o Twll y Dwn- dwr, yn y Garret, Chwarelau Dinorwig. Yr oedd (dyn 33 mhvydd oed, o'r enw Richard Jones, o Rhiwlas, Pentir, yn gorphen "codi bonau" yn nhroed ei fargen, pan ysylwodd fod plyg uwch ei ben wedi ymryddhau yn sydyn. Sicrhaodd raff, a phan yn dechreu ei dringo i'w dynu cwympodd y plyg yn ddiatreg ar ei gefn, gan ei frifo yn dost. Rhvddhaodd ei gydweithwyr ef mor fuan ag y gallasent-ag efe' yn un o ddychweledigion y Di- wygiad-y gwnaeth gais rhvfedd. Gofynai o dan ei glwyfau iddynt ganu, "O! Dduw, rho i'm Dy hedd," etc., ar y don "Andalusia." (Ni fu H1, druan, fyw ond am ryw deirawr ar ol hyny.) Wrth gwrs, ni allasai ei gydweithwyr ufuddhau i'w gais, gan gymaint eu teimladau drylliog, ond diau iddo ef ollwng ei anadl olaf gyda gweddi yr hen cmyn yn dirgrynu a'r ei wefusau, a'i fod ef heddyw, "Uwchlaw pob loes achlwf." Hefyd, efe a wnaeth gais ar yr un adeg ar i'w gydweithwyr ofalu am ei weddw a'i chwe' plentyn. Nid oes am- heuaeth na fydd i'r chwarelwyr yn eu caredig- rv ydd arferol wneuthur hyny. TEILWNG 0 EFELYCHIAD. Yr ydym yn awr am gofnodi hanes gwr ieuanc o'r enw Mr Griffith Moses Jones, .mab Mr Moses a Mrs Elizabeth Jones, Bryn Glas, Gaerwen, Mon. Gweithiai ei dad yn Chwarelau Dinorwig, ac y mae iddo ef dair chwaer yn fyw, sef Mrs Thomas, Ty- croes, Llanfair, P.G., Mon; Mrs J. E. Davies a Mrs Job Owen, Llariberis. Anfynych y ceir engraifft o fwy o ymdrech a hunanaberth yn cael ei goroni a mwy o lwyddiant nag a geir yn hanes y gwr ieu- anc hwn. Wedi caet addysg dda mewn ysgolion elfenol, fe ymfudodd i'r America, oddeutu 15 mlynedd yn ol; yn llanc 18 oed, cafodd le i gadw ysgol yn Dakota, y lie y ffermiai ei frawd, William, yr adeg hono. Cynilodd ddigon o arian i dalu am gwrs duwinydd- 01 o addysg yn Ngholeg Ipswich, modd v gallai fyned i weinidogaethu gyda'r Annibynwyr. Yn y cyfamser gwerthodd ei frawd ei fferm, a chafodd le ar y jheilffordd yn Minneapolis. Dilynodd Grif- fith ef, a chafodd yntau le fel pen-cyfrifydd i'r Mri Howells, gwneuthurwyr offerj-nau amaethj'ddol yn Minneapolis. Ar ei ffordd yma yr oedd efe yn myned trwy y Sefvdliad Cymreig yn Cambria, a daeth i gvsylltiad a merch i Mr 'Lloyd. brawd i Mr Lloyd, Douglas H ill,Bethesda"Archddiacon Arfon." Sjrthias- ant mewn cariad a'u gilvdd, a phriodwyd hwy. Buont yn y wlad hen ar eu "mis rnel." Y pryd I hwnw dywedodd wrth ychydig o'i lierthynasau a'i gyfeillion mwyaf mynwesol fod yn ei fryd i fviied yn feddyg, pan y dyehwelai. Safod l at ei bender- fyniad, canys ymunodd a'r Coleg Meddjgol mawr ag sydd yn Minneapolis, gan weithio yn yr haf, a dilyn y coleg yn y gauaf. Gweithiodd yn galed a phasiodd bob arholiad. Ymawyddai am dreulio y flwyddyn ddiweddaf yn Ngholeg Meddygol byd-enwog Chicago, fel j; gallasai raddio jTn v fath fodd ag a'i galluogai i gario busnes yn mlaen fel meddyg yn y wlad hon, pe y penderfynai ar hyny. Golvgai bl\V^3dj~n yn y coleg hwn, fodd bvnag, lawer o arian, ae yn h\'t- rach na benthj'ca dim, efe a chwalodd ei gartref, ac a werthodd ei ddodrefn, ac a anfonodd ei briod a'i ferch bach i Cambria at ei rhieni, ac anturiodd yntau am ei flwyddyn ddiweddaf i'r coleg mawr a enwyd. Bu: yn Ilwyddianus yn mhob arholiad, ac ar y 6ed o'r mis hwn efe a dderbyniodd ei drwy- ddod fel meddyg yn meddu y gradd o M.D. o Brlf- vsgol Feddygol yr America. Y mae ganddo ef dri lie i ddechreu busnes ar ei gyfrifoldeb ei hun yn- ddynt, wedi Yo caffo ychydig seibiant yn Cambria. A'r hjn sydd j*n coroni ei holl hanes ydyw ei tod ef vn foneddwr tra chrefyddol. Dilynwch ei gain- rau ef, fcchgyn meddylgar Llanberis.

Llanllechid.

BEDD GELERT.

Porthdinorwig.

Porthmadog.

IPwllheli.""

^ Rhoslan.

Talsarnau.

Tregarth.

Advertising

Y Diwygiad yn Mon.

Ynadlys Pwllheli. ----

Advertising

Shipping.

Garn.

Llanfairfechan.

Advertising

Y diweddar Barch R. Edwards,…

Advertising