Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

Y SYMMUDIAD YMOSODOL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y SYMMUDIAD YMOSODOL. YR UGAIN MIL PUNNAU AT DDYLED Y NEUADDAU. Yr orchest fawr sydd yn awr gan y cyf- undeb Methodistaidd ydyw casglu 20,000p., nid i fod yn gronfa o gwbl, ond i dalu vmaith ar unwaith, a lleihau tipyn ar y ddyled o bedwar ugain a deg o filoedd o bunnau o I ddyled sydd yn aros ar addoldai y symmudiad uchod, fel y gallo y cynnulleidfaoedd tlodion a gipiwyd mor ddiweddar o'r gynneu dan, gario eu hacihosion yn mlaen heb syrthio dan eu beichiau. Dywedir fod Duw bob amser yn codi dyn arbenig at ddwyn yn tolaen unrhyw antur- iaeth newydd y myn Rhagluniaeth ei dwyn i fod. Yn ddi-os, fe godwyd John Pugh felly. Yr oedd ei holl natur ar dan i' ennill yr 800,000 o esgeuluswyr Cymru, y rhai oeddynt yn cliraclclio cymdeitnas, ac yn llygru yn ofnadwy deuluoedd ac awyrgylch foesol ein gwlad. Rhyngddo ef a'i gyd-weithwyr llwyddent mewn modd anamgyffredadwy a gwyrthiol i alw cannoedd a miloedd o'r cyfryw i wrandaw yr ystori am y Groes o'r newydd. Ond nid oedd gianddynt leoedd i'r miioedd druain i addoli ynddynt. Nid aent i addoldai neb j arall. Ond aent yn rhwydd i tent,' neu Hall hebardreth çjstedclleoedd, pan y sicrheiii hwy mai eiddo iddynt hwy a'u dosbarth oedd yr Hall. Un o'r pethau cyntaf, felly, oedd yn rhaid ei wneyd oedd adeiladu Halls mawrion, cad- arn, cyfleus, mor radlawn ag oedd yn bossibl —yn ol 3p. y sitting '—y rhai a lenwid yn dda er dydd eu hagordad hyd y dydd hwn. Ennilhvyd i wrandaw yn gysson o 20,000 i 25,000. Ffurfia y cyfryw gystal ag un cyf- arfod misol mawr yn chwanegodd at faint y cyfundeb. A thybir fod cynnifer a hyny, drachefn, wedi ymuno ag enwadau eraill, gan yr annogir pawb i ymuno ag unrhyw enwad yr oedd ganddynt ymlyniad ynddo. 0 gymmaint a hyny, y mae y symimudiad yn anenwadol. Costiodd y 50 Neuadd newydd tua 120,000p. Talwyd 30,000p. o'r swm hwnw eisoes, gan adael 90,000p. yn ddyled lethol arnynt hyd heddyw. Os ydyw efengyleiddio islums aflan ein trefi, a iachau a diogelu awyrgylch foesol ein gwlad, heb son am werth "tragwyddol y miloedd eneidiau a achubir, o werth mawr, ac y mae o werth mawr, ac yn anwyl iawn gan yr holl genedl, yn ddigon sicr mai teg a chyfiawn ydyw i'r cyfundeb a wthiodd y symmudiad gogoneddus hwn yn mlaell, yr hwn sydd yr anturiaeth grefyddol ryfeddaf yn mysg gwledydd Cristionogol yr holl fyd- teg, meddwn, ydyw rhoddi y lleoedd addoli 1 r bobl druain, yn gymmharol rydd o ddyled, gan mai eiddo y cyfundeb fydd yr Halls byth. Y mae personau anwyl a oharedig o fewn ac o'r tu allan i'r cyfundeb wedi cyfranu vn dda er talu 30,000p. o'r gost. Ac y mae egl- wysi y cyfundeb yn anwyl iawn wedi casglu yn flynyddol at gario y gwaith yn mlaen vn y Gorsafoedd, ac fe roddwyd rhai miloedd o'r casgliad mawr yn feuthj'g (loans), ar y neu- addau, y rhai y rhaid i'r cynnulleidfaoedd eu talu yn ol yn mhen 20ain mlynedd. Bvdd rhywrai yn y cynnulleidfaoedd a'r cyfundeb, y mae'n wir, yn gyfoethocach o'r miloedd hyny yn mhen yr 20ain mlynedd. Ond ni leihawyd dim o'r ddyled tnvy hyny, ac nid yw y cyfundeb yn ei holl eglwysi wedi gwneyd dim yn bendant at y ddyled o gwbl. Onid yw yn ormod, yn ormod o lawer, ac vn annheg disgwyl i dyrfaoedd o dlodion sydd newydd ymysgwyd o'r 11aid a'u trueni teulu- aidd, sydd heb fwyd na dillad i'w teulu- oeM, heb son am ddodrefnu ei hanneddau, i dalu dyled yr addoldai. Un o'r pethau mwyaf gwitliiol, bron, a bertlhyn i'r symmudiad yw y ffaith fod y cyn- nulleidfaoedd yn aros yn y neuaddau, ac nad ydynt yn ifoi ymaith o swn dyled, a dyled lethol yn'eu clustiau b hyd. A phe ffoent a gadael yr addoldai yn wag, byddai pethau yn ddifrifol iawn. Y Imae pob rheswm a thegwch dichonadwy yn galw ar i'r cyfundeb, (a phawb o'i fewn i ddeffro, ac i roddi eu hysgwydd dan y baich, ac i gyfranu, nid o'u gweddill, ond hyd eithaf eu galliu. eimla teulu caredig Llandinam mor ddwys yn yr olwg ar y cyfwng difrifol hwn fel y mae yn addaw rhoddi 3,000p. ac felly Mr. John Cory, Caerdydd, 1,000p., a'r Prifathr- aw Prys, 500p., ar yr a-mmod pendant fod 20,000p. yn cael eu casglu yn mhen chwe mis. Dyma Ragluniaebh fawr y nef, fel ei bar- fer, yn agor y ffordd. yn amlwg i ni. Bydd- ai imethu dyfod d fyny a'r ammodau, a cholli y 4,500p., yn andwyol, a bron na ddywedwn yn ddiraddiol, os nad yn anfaddeuol 3010m. Yn isicr, nid yw yr ymdrech hwn yn ormod, gan nid yn unig mae genym gyfoeth- ogion a allent roddi o'u llawnder rai can- noedd, os nad ambell un l,000p., etto, ond y mae y cyfundeb, fel yr 'holl genedl Gym- reig, yn ymgyfoethogi o oes i oes. Fel y dywed y Parch. Rees Evans, Llan- wrtyd, wrth gyflwyno ei rodd o 10p., pe ceid 2,000 o gyfeillion i roddi lOp. yr un, dyna yr 20,000p, ar ben ar unwaith. Y mae yn ddiddad 1 fod yna 2,000 a allent roddi lOp. yr un. Ond beth lam y miloedd lawer a allent roddi o Ip. ii 5p. yr un, ac y mae yna filoedd o weithwyr, meibion a merched gwerin a allent roddi man roddion—y gwlaw man, ys gelwid hwy. Dwyn eu haur a'u harian, a'r merched eu tlysau, a wnaed yn Israel gynt, at Babell y cyfarfod, nes y gorfu Moses waeddi attal. Ceisio rhoddion gan iiifer fawr o berson- au unigol ydyw y cynllun a gymmeradwywyd gan y cymdeithasfaoedd. Ond pa ham na elwir ar holl gynnulleidfaoedd y cyfundeb at hyn o orchwyl. Credwn y bydd yr eglwysi yn awchus i gael y fraint fawr hon, a sicr yw nad oes neb i w [hattal. Ond dealler, na wnai casgliadau ceinioca,' fel eu gelwdr, byth gyr- haedd yr amcan. Rhaid cael ein miloedd personau unigol i roddi rhoddion tywysog- aidd, ac nid 'o'r gweddill oedd ganddynt,' fel y dywed y Gwaredwr, liefi erys yr amcan yn holloi fet'hiant. Y mae y gwlaw man yn disgyn yn anwyl, ond disgwyliwn gawodydd trymion ar frys, gan mai 6 mis yw yr ammod. Agorir ffenestri y Nefoedd. meddir, a tOLiy- welltir bendith fel na byddo digon o le i'w dderbyn, yw yr addewid. Y gwaith mawr ar ol hyn fydd, darparu lleoedd eang i dder- byn y fendith.

CYMMANFA CANU CYNNULLEIDFAOL…

----DINBYCH.

WYTHNOS 0 GENHADAETH.

CYNWYD.

CYMDEITHASFA CHWARTEROL METHODISTIAID…