Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
12 erthygl ar y dudalen hon
BALADEULYN. I
BALADEULYN. Ar Ymweliad.—Talodd y Preifat Oled- wyn Jones ymweliad a'i dad a'r teulu yn 4, Baladeulyn Terrace, Nantlle, wedi bod oddicartref am un-mis-ar-bymthe^ Oaf- odd groeso ealon gartref, or nad oedd ei fam yno y tro hwn, gan ei bod wedi ei chladdu ers tair wythnos cyn i Bob ddod gartref. Llawenydd oedd ei welod yn edrych nior dda. Mae dau frawd arall iddo i flwrdd ers yn agos i dair mlynedd yn ymladd dros eu gwlad. Dymunwn naAvdd Duw drostynt i'w diogelu i ddod gartref yn fyw ac yn iach. Cymanfa Tal y Sarn.—Rhoddodd plant Baladenlyn gyfrif da ohonynt eu hunain J yn y Gymanfa, a dod a'r mwyafrif o'r gwobrwyon a'r tystysgrifau gyda hwynt « fel arfer. Rhagorol, blant diwyd, ewch rhagoch oto: "Ytiliob llafur y mae elw." Yn Wael.—Drwg gennym ddeall mai dal yn wael y mae Mrs Owen, Blaen y Garth gynt, a'i bod yu orweddiog. Nid oedd neb cysonach i foddion gras na hi pan yn iach, ac yn enwedig yr Ysgol Sul. Chwith yw gweled ei He yn wag. Boed iddi wella yn fuan i gerdded tua Seion.
GROESLON. -I
GROESLON. I Marw. Yi- wythnos hon cofbiawn am farwolaeth Ann Williams, Brynteg yn Ninbych, yn 67 mhvydd. Bu yno am yn agos i dair wythnos. Dygwyd ei ohorff adref mown modur, a dydd Sadwrn cladd- wyd hi yiti mynwent St. Thomas, y Parch R. Roberts, ficer St. Thomas, yn gwasun- aethu. Mae eiu c ydyindeiiiilitd itwvl-af a William yn ti alar dwfn. Galwad.-il,lao y Parch T. P. Williams, Hamoth (B.), wi-xli derbyn galwad i fynd i fugeilio eglwys Rhoshirwaen, ac y mae yntaii wedi derbyn yr alwad. Mac Mr Williams yn gymeradwv iawn yn ein plith, ac yn boblogaidd fel pregethwr, ac wedi gwneud enw da iddo ei hun fel bugail llafurus, ac yn gynnes iawn yn serchiadau yr eglwys. Er yn ei golli yr ydym yn dy- muno yn dda iddo yn ei faes iiciydd. Huno yn yr Angau. -Bore Sadwrn, y 14 o Ebrill, bu farw Mr Robert Williams, I Glynllifon Terrace, yn -50 mlwydd oed, wedi bod yn wael a diyniadferth am flyn- yddau lawer. Prvnhawn" dydd Mercher claddwyd ei weddillion ym mynwent Bryn- I rodyn. Mae yn aros eto ddau frawd a phedair cliwaer. Gwasanaethwyd yn yr angladd gan y Parchn J. Jones, Bryn- rodvik a W. Walters. Gosen.
- - FELINHELI.-I
FELINHELI. Angladd.-Di dd Mercher ydoedd diwr- nod angladd Mrs Maggie Jones, priod Mr John Jones, 89, Bangor Street (Mri R. Jones and Sons, butchers), pryd yr heb- ryngwyd ei gweddiliion i fynwent Llan- fairisgaer (angladd preifat). Bu cofnod- iad am ei marw yn ein colofnau yr wyth- nos ddiweddaf. Gwasanaethwyd yn y ty ac wrth y bedd gan y Parch William Ro- berts (A.), Plas Eryl. Yn y cerbydau yr oedd y perthynasau a'r cyfeillion a ganlyn —Mr John Jones (priod) Mr John Ellis, Mynytho (brawd) Mri Harry Jones a Robert Jones, 89, Bangor Street, Thomas Lillie, Glenvale. a William R. Williams, Y Dderwen (brodyr-ynghyfraith) Parch W. Roberts. Plas Eryl: Mri Thos. Jones, 86, Bangor Street, a Richard Williams, Penrallt (dau o ddiaconiaid Moriah); Captcn Wm. Jones, Bodwyn; Mri David Evans, Dinorwic House, a Richard Wil- liams, Menai Stores. Yr oedd*yr ymad- awedig yn aelod ffyddlon o Gymdeithas y Chwiorydd ym Moriah, a nos IÆll yn y gymdeithas hon, o dan lywyddiaeth Mis J. ¡p.. Jones, 84, Bangor Street, pasiwyd pleidlais o gydymdeimlad a Mr John Jones a'r teulu yn eu profedigaeth ddofn. Un o'r Milwyr.—Yr oodd y Preifat Al- fred Foulkes, trydydd mab Capten Foulkes. Dinas, ychydig yn ol wedi cael ei darro a gwaeledd peiyglus tra yn Ffrainc, a bu yno yn vr ysbyty am ysbaid. Yna anfonwd ef i'r wlad hon i Taplow, Bucks., i'r Duches ot Connaught Canad- ian Hospital, He y mae ar hyn o bryd. Da gennym ddeall ei fod erbvn hyn allan I o berygl, ac eiddunwn iddo Iwyr wellhad buan. Marw. Nos Lun, wedi dioddef gryn 'I nychdod, cymerodd manvolaeth Mr Thos. Edwards, 97, Bangor Street, le, yn ei 78 I mlwydd oed, gan adael ar ei ol briod, pedwar o feibion, dwy o ferclied, ynghyda pherthynasau eraill, a cliydymdeiuilir a hwy yn eu profedigaeth. Dydd Sadwrn cymerodd ei angladd le (preifat), pryd yr hebryngwytl oi weddillion i fynwent Llan- fairisgaer. a gwasanaethAvyd yn y ty gan Dr Owen Davies (B.), Caemarfon, ac yn y fynwent gan y Parch Evan Jones, B.A.. curad y plwyf. Cwrdd Plwyf. Nos Ian, yn Ysgol y Cyngor, cynhaliwyd y cwrdd uchod, o dan lywyddiaeth Mr John Pritchard, Belmont. Yn gyntaf rhoddodd yr ysgrifennydd, Mr W. R. Williams, Llanfair House,- grvn- hodeb o waith y flwyddyn, yr hwn oedd yn dra boddhaol. Yna cafwyd adroddiad y ddii prw\aeth a fu o flaen ymddiiiedolwyr Ystad y Vaenol ynglyn a'r cwestiwn o brynu tir i adeiladu y Neuadd Gyhoeddus. I Yr oedd yn dra calonnogol, gan fod ateb I ffafriol wedi cael ei roddi i'r cais, a bydd tir i'w gael at y pwrpas uchod, a rhodd- odd y cyfarfod hwn awdurdod i'r ddir- prwyaeth symud ymhellach gyda'r mater er siorhau y tir. Fel y gwyddis, y mae Mr John Roberts. Frondeg, wedi ymddi. swyddo o fod yn aelod ar v gwahanol Gynghoran, a phasiodd y cwrdd bleidlais o gydymdeimlad ag ef yn ei afiechyd a'i brofedigaeth o golli ei frawd, a diolc-hwyd yn gynnes iddo am y gwaith rhagorol a wnaoth am gyfnod niaith ynglyn a'r CVnghorau hyn a diolchwyd hefyd i aei oda u y Cyngor Piwyf am eu givasanael-ii ffyddlon tnvy'r flw^'ddyn ddiweddaf. CVngor Plwyf.—Nos Wener, yn yr un I He, cynhaliwyd cyfarfod blynyddol y Cyngor Plwyf, y cadeirydd ydoedd Mr J. Pritchard, Belmont, ac aiLetholwvd ef eto yn gadeirydd am y flwyddyn; is-gad- eirydd, Mr Owen Jones, Bush Farin. Yn overseers penodwyd y pedwar caniyiici: Mii John Griffith, Bryn; John Jones, 89, Bangor Street; -Ricilard Vodol House; a. Hugh Hughes, Greuor. Penod- wyd rheolwyr ar fyrddau llywod;*aothol yr ysgolion—Ar Ysgol y Cyngor, Mri Thos. Roberts, 22. Bangor Street, a Joha Prit. chard, Belmont. Ar yr Yagol Genedl- aethol, Mr Wm. Pierce, Estate Yard. I lenwi sedd wag trwy ymddUwj ddiad Mr J. Roberts, Frondeg, dewiswyd Mr Hugh Hughes, Greuor. Ar y Pwyilgov Arian- nol dewiswyd Mri Thos. Roberts, 22, Ban. gor Street; Edward Jones, Fronhyfryd a Wm. Pierce, Estate Yard. Y Pwyllgor Plwyfol, Mri Owen Jones, Bush Farm; Wm. Williams, Y Dderwen; Griffith Wil- liams, Helen Terrace; a W. Pierce, Es- tate Yard. Hefyd dewiswyd aelodau ar y gwahanol bwvllgorau eraill, sef y Llwybr- au, Goleuo, a Rhandiroedd. PonderfAn- odd y Cyngor i wneud heb dreth at dreuliau y Cyngor. Gwnaed yn hysbys fod tebygolnvydd y bydd y Cyngor Sir yn cymery.,1 mater y droedffordd yn Ban- gor Street i fyny, ac y bydd yn cael ei adgyweirio. Wedi darllen nifer o oheh- iaethau, a chael ymdrafodaeth ar amryw I faterion, terfynwyd y cyfarfod.
PENISA'RWAEN. I
PENISA'RWAEN. I Priodas.—Dydd Iau, Ebrill 12fed, yng nghapel y Glasgoed (M.C.), gan y Parch n. M. Jones, y gweinidog, unwyd mewn glan briodas Mr D. D. Roberts (Glan- ifor), Eryri Ten'ooe, Llanrug, a Mise A, i. Williams, iereii y diweddar Mr a .\1n; Jidward Widiams, Brynpistyll, Llan- rug. Khoddwyd y bj-uxiaiderch ymaiiii gau ei bj'awd, Mr jUoocrt I ia nis, a gvveinyddwyu let ty .scion gan Mr ii. H. Williams, Brynywaon, Poruunoi VMC, cein. der y briodasferch, a 3ir Robert Williams. Yr oedd hefyd yn bresennol Mt' O. Roberts, Eryri Terrace, tad y priodfab, a, Mrs Elli.s Williams, Brynywaen, Portdinorwio, mod. ry b y briodasferch. Wedi y seremoni awd am daith gyda cherbyd modur.— (Noded y "Diycli" Americana idd).
I __
I I tin fAiiwyt,Dit oedd gennym gwrdd u Mr J. V. dones, Coed y rai-c, wedi cloa auret am seibumt wedi gwaeledd trwm. Hyiryd yw ei weled yn gwella. iHi y Mri R. W. Jones, Heather Bank, ac Arthur Owen, Ty Newydd. gartref, ac edrychant yn rhagorol. Gwaeledd.—Drwg gennym am waeledd Mr Hugh Roberts, Tynycoed; Mrs Jones, Meillionydd, a Miss Jones, Craig Dinas. Da gennym weld yr hen gymrawd Mr Thomas Hughes, y Stablau, yn gwella'n dda. Adferiad llwyr doed i'r 011. Adref .-Gwelsom y Nyrs Gwladys Wil- liams, Craig y Dinas; Miss Katie Owen, Arthur Terrace, a Mr Hugh Jones, Pan- dy, yn ein plith, wedi bod oddicartref yn hir. Gwyliau hapus iddynt. Damwain.—Drwg gennym am y ddam- wain ddigwyddodd i'r hen gymrawd di- ddan Mr Daniel Williams, Plas Coch. Ca.fodd anffawd i'w ben yn Lerpwl yn y lie y gwreithiai; ond y mae'n gwella'n dda. Angladd. PrynhaAvn Sadwrn hebi-yng, vvyd gweddiliion Enid Rowlands, Pant Howel, i fynwenb Llanrug, a hi yn chwe mlwydd oed. Gwasanaethwyd gan y Parch Wyn Griffith. Dyma'r pedworydd angladd o'r ty hwn or dechreu'r flwyddyn. Drwg gennym golli anwyliaid ieuaino fel hyn. Marw. Wedi cystudd cymharol fyr, bu farw yr hen frawd doniol Mr John Owen, Pandy, yn ei 79 mlwydd oed. Gen- edigol ydoedd o Fon, a gweithiai yn Chwarel Dinorwig, He y bu vn .weithiwr caled a. gonest. Gedy o'i ol briod, a brawd, yr hwn 'a drigai gyda hwy;it. Ail-Ddechreu. Llawenydd i ni oedd gweled Miss Chariss P. Roberts, GIas. goed Stores, wedi gwella digon ar ol y ddamwain gafodd i'w choes chwe mis yn ol yng Nghaernarfon, fe ag i gymeryd ei He wrth yr offeryn yn y Glasgoed y Sul diweddaf: Hi dynn o'r tannau tynion Oreu fawl yn nlieml Ion. Cymerwyd ei lie tra bu'n analluog gan y chwaer ieuanc Miss A. J. Owen, Greuor Terrace, Llanrug. Teimla y cyfeiUion yn hynod ddiolchgar iddi am ei pharodrwydd aTi Bel trwy'r amser: Gyda- grym hi chwery'r don Mor gain a'r per awelon.
tiihiNhZER A R CYLCH. I
tiihiNhZER A R CYLCH. if»yaa.—jiuuuuucii cm guiicbyJu nyaaiou uia i ni tu^i ci newytltiion. Hllèilll aniOJl yn gym, 06 am le yn y teiiu. i,%Ltwyu.ti trist. Ir wytlinos ddi- wouuat aatL,] y newydd prudd i Mr a Mrs uiiam JJ. W illiams, Vaynol Terrace, E bunezer, rou eu mab, L, wiiiaiiuel, 25 mlwydd oed, wedi cwympo yn y frwydr yu Ffrainc. Efe ydoedd yr ieuengaf o'r chwe mao syud wedi ymuno. Yr oedd yu aelod o Eglwys Cefnywaen (M.C.), ac yn ffydd- luii yn yr Ysgol Sul.—Fore Sadwrn daeth brysneges i Mr John J. Davies, View Ter- race, Ebenezer, fod ei tab yn beryglus wael ym Mharc Kinmel; yn y prynhawn daeth un arall yn hysbvsu ei fod wedi marw. Nid oedd ond deunaw nilwydd ddau fis yn ol. Bachgen tawel, siriol, a gwen hawdd- gar ar ei wyneb bob amser ydoedd, ac yn aelod selog o eglwys Disgwylfa (M.C.. a hynod am ei lafur gy da'r Ysgol Sul. Cyd- ymdeimlwn a'r ddau deulu yn eu trailed dwfn a'u hawr gyfyng. Damwain.—Drwg gennym mai dal yn bur boenus y mae braich Mrs Elizabeth Thomas, 14, Deiniol Road, ar ol y ddam- wain nos Sul y Pasg. Dirwest.—Dydd Merchea-, Ebrill 18fed, dirwyinvyd tymor Cymdeithas Ddimestoi y Chwioa-ydd i ben drwy gyfarfod amryw- iaethol llewyrchus, o dan lywyddiaeth Mrs J. H. Jones, Yr Incline. Ein Milwyr. Hysbysir fod y Preifat Johnnie G. Williams, mab Mr a Mrs G. It. Williams, Y ictoria Terrace, Ebenezer, wedi ei glwyfo ym mrwydr Gaza ar y 27ain o Fawrth'; a'r Preifat Robert Lewis, mab Mr a Mrs William Lewis, Tabernacle Street, wedi ei glwyfo yn Ffrainc er yr 28ain o Ohwefror. Marw.—Dydd Sul y Pasg bu farw y Preifat W. H. Williams, mab hynaf Mr a Mrs W. H. Williams, Vaynol House, Clwtybont, yn 33 mlwydd oed. Bu mewn ysbyty ym Mangor am ddeng wythnos.— Dydd Llun y Pasg, bu farw Mrs Margaret Davies, Cae'r Gors, Dinonvig, yn 76 mlwydd oed.-Cydynldeimli.r a'r teulu yn eu trailed.
Advertising
o Dydd Sadwrn, Ebrill 28 hfd Dydd Sad., Mai 5. I RHYWBETH GWERTH SIARAD AM DANO YN YR AFR AUR CAERNARFON. CANNOEDD 0 DDARNAU 0 REMNANTS, ODDMENTS, 0 DRESS [ MATER-IALS a COSTUME CLOTHS, wedi eu marcio yn isel—Yr oil yn bethau nas galhvn eu prynu heddyw yn yr Wholesale am y prisiau. DEUWCH I WELED EIN STOCK II Y FWYAF, YR OREU, Y RHATAF YN Y WLAD. DYWEDWCH WRTH EICH FFRINDIAU. II PIERCE AND WILLIAMS. O r- 0
[No title]
GALWR MEDDYGON, Anfonodd Arglwydd Derby, Yfcgrifen. nydd Rhyfel, lythyr i feddygon y wlad yn galw am eu gwasanaeth yn yr ysbtai mewn gwledydd tramor. Penderfynodd y Llyw- odraeth drefnu ysbytai iiitni-n gwledydd tramor yngwyneb y ffaith fod y sub- marines yn suddo llongau ysbytol. Ym- wneir a'r meddygon o dan y Ddeddf Gwas- anaeth Filwrol. BRWYDR YR ARRAS. Ar doriad y dydd y Llun, bu y milwyr Prydeinig yn rhoi ymosodiadau cryfion ar linell y Germaniaid ar draws y Scarpe, cydrhwng Gavrelle, Guemappe, a Fon- tame-Ies-Croisenes. Cyfansodda'r safle yr atalfa olaf cydrhwng ein milwyr a phrif amddiffynfeydd Hindenburg, ac er adeg ein hymosodiad y mae wedi ei gyfnerthu'n fawr gan y gelyn. Mae Iwyddiant bodd- haol wedi ei gael, tir pwysig wedi ei ennill, colledion mawr wedi ei wneud i'r gelyn, a. llawer o garcharorion wedi eu cymeryd. CYMERYD PENTREF. Edrydd Syr Douglas Haig eu bod wedi cymeryd y pentef Trescault a'r rhan fwyaf o'r Havrincout Wood. Hysbysir yn an- swyddogol fod Garrelle wedi ei gymeryd. AH Y TIGRIS. Symud ymlaen y mac y Cadhidog Maude ar y Tigris, a'r gelyn wedi gadael y gweddill o'i sallcoedd yn Istabulat yn ystod y Sadwrn a'r Sul. Bore Sul erlyn- odd ein milwyr y Tyrciaid, gan gymeryd carcharorion, a howitzer 5.9 modfedd. Nos Sul, yr oedd ein milwyr yn ymosod ar y Tyrciaid chwe milltir yn nes i Samaria, ar oohr dde y Tigris. Y SUBMARINES. Mac suddiad y Zara gydag ynuudwyr Rwsiaidd gan submarine Germanaidd wedi creu cynnwrf ymysg Sosialwyr Rwsia. Ymysg yr anffodion ceir Karpovich yr ar- weinydd Sosialaidd enwog. Mae Cym- deithas Ryngwladwriaethol y Groes Goch wedi anfon Nodyn i Lywodraeth Germani yn protestio yn erbyn suddo Uongau ys- bytol. AWYRLONG BRYDEINIG. CredÜ- fod awyrlong y gelyn wedi llwyddo i danio un o awyrlongau Prydain, yr bon a ddisgynodd i Dover yn fflamau. SUDDO LLONGAU YSBYTOL. Ar Ebri] I 17, tra yn carlo clwyfedigion i un o'r porthaddoedd Prydeinig, torped- iwyd y ddwy long ysbytol Donegal a Lan. franc. Ymosodwyd araynt heb rybudd. Yr oedd y Donegal yn cludo achosion clwyfedig ysgafn a'r oil yn Brydeinwyr. Allan o'r rhai hyn mae 29 o'r clwyfedig- ion a 12 or criw ar goll, a thybir eu bod wedi boddi. Yn ychwanegol at 234 o swyddogion a milwyr clwyfedig Prydeinig, yr oedd 167 o glwyfedigion Germanaidd ar fwrdd y Lanfranc. Hefyd yr oedd 52 o'r adran feddygol a 123 o griw. Allan o'r rhai hyn y mae dau swyddog ac 11 o filwyT clwyfedig Prydeinig, un o'r R.A.M.C., pump o'r criw, dau swyddog a 13 o filwyr I clwyfedig Germanaidd ar goll, a thybir eu bod wedi boddi. Er yn gosod eu hunain yn a gored i ym- osodiad gan y submarine aeth Hongau cylchwyliol Prydeinig yno ac achubwyd 152 o glwyfedigion Germanaidd. Hysbysa y Morlys eu bod wedi pender- fynu gwneud i ffwrdd a'r nodau arbennig ar y llongau ysbytol, gan nad yw y Ger- maniaid yn cymeryd syIw ohonynt. CYNNYDD PRYDEINIG. I Pery y milwyr Prydeinig i wneud cyn- nvdd ynghyfeiriad Lens. Dywed Syr Douglas Haig yn ei adroddiad eu bod yn parhau i ymladd ddoe yn ne-ddwyrain Loos, lie yr enillwyd tir a chymeryd oaj- charorion. [ YMOSODIAD LLYNGHESOL. Nos Wener >g^vnacd ymgais gan pump o duistrywyddion Germanaidd i ruthro ar DiTver. Trodd allan yn fethiant. Sudd, wyù dwy, os nad tair, o'r llongau Ger- manaidd gall ddwy o olngau cylchwyliol Prydeinig. Llwyddodd y gweddill i ddianc yn y tywyllwch. Achubwyd 10 o swyddogion Germanaidd ac 108 o'r dynion gan y Prvdeinwyr. Yn ystod yr un noson tanbelenwyd ar Calais. I RHIF Y CARCHARORION. I Yn adroddiad Ffrengig, a gyhoeddwyd I nos Sadwrn, dyivtdir fod y Prydeinwyr a'r Ffrancwyr wedi cymeryd 33,000 o gar- charorion a 330 o ynnau rhwng Ebrill 9 a 20.
I GWYR Y FFORDD HAIARN..
GWYR Y FFORDD HAIARN. Achos o Athrod. Daeth yr achos o ahrod ddygwyd gan Mr J. H. Thomas, A.S., a swyddogion Undeb Gwyr y Rheilffyrdd yn erbyn Mr George Moore a swyddogion efaill Undeb y Gyr- ii-yr a'i- Tanwyr i derfyniad ddydd Sad- wrn. Rhoddwyd dediryd o blaid yr erlynwyr, a bydd yn rhaid i'r diffynyddion dalu 475p o iawn.
MARCHNADOEDD.
MARCHNADOEDD. Caernarfon, Ebrill 21.-Ymenyn, 2s lo y pwys; wyau, 7 i 8 am Is; dofednod, 5a 6c i 7s y cwpl. Pwllheli, Ebrill 18.—Ymenyn, Is lie y pwys (cyfanwerthol) 2s (retail), wyau, 15s yr 120; cig, 10c i ie 6c y pwye; perchyll, 28s i45s yr un moch tewion. IOlc y pwyje.
-,LLANBERIS.I
LLANBERIS. I Gwywo'n Gynnar.—Gyda gofid dwys a hiraeth y cofnodwn farw Mr Cledwyn Huws, Snowdon View, ym mlodau ci ddyddiau, pan yn cyrraedd i'r diwrnod ei 26 mhvydd oed. Dringodd mewn byr amser tnVjT ei ynidrechion ei hun i fod yn chief purser ar YI.5.8, Tamele, perthynol i gwmni'r Elder Dempster. Aeth i ysbyty yn New York yn Rhagfyr, 1915. ond deu- wyd ag ef adref, ac wedi cystudd blin a chaled bu farw ar y 12fed o Ebrill, 1917. Tiist oedd gweled un mor annwyl yn druan llesg a diymadferth, a chwith yw meddwl na cheir mwyach fwynhau ei gwmni di- ddan, tawel, a'i ddull bonheddig llednais. Ond aeth dnvv ei hoH afiechyd yn addfwyn a dirwgnach. Gafodd bob gofal cariad ga.n ei deulu, ac y mae ein cydymdeimlad dyfnaf a'i fam a'i chwaer a'i ddau frawd, I y naill a'i wyneb ar y mor 'r llall gyda'i* fyddin yn Ffrainc. Cafodd angladd (angyhoedd) parchus ddydd Mercher di- weddaf yn Llanrug, pryd y gwasanaeth- wyd yn y ty gan y Parch Thomas Lloyd, ac ar lan v bedd gan y rlieithor, y Parch A. E. Lewis, B.A., a'r Parch Thomas Lloyd. Teimlodd swn y mor a'i helynt- ion, a chafodd godidogrwydd golvgfeydd y Canaries a thraethau Gorllewin Affrig ar- graft ddofn ar ei feddwl. Gorffwysed bellach rhwng y mynydd a'r mor a garai i'r diwedd mor angerddol a chyson. Cyngor Plwyf.—Cynhaliwyd cyfarfod y Cyngor nos Wener diweddaf. Etholwyd yr is-gadeirydd, Mr W. J. Williams, yn gadeirydd am y flwyddyn ac etholwyd Mr J. G. Ellis yn is-gadeirydd. Ail-etholwyd yr Overseers blaenorot sef Mri E. W. Evans, W. J. Williams, Hugh Jones, a William Morris. Etholwyd iheolwyr yr ysgolion dyddiol-I)olbadai-n: Mri E. H. Williams a G. H. Jones; Nant Peris, Mri J. G. Ellis a William Morris. Y mddi- swyddiadau: Rhoddodd pedwar o aelodau tiyddlon eu seddau i fynv am eu bod oddi- cartrcf ers llawer o amser, ac heb unrhyw sicnvydd pa bryd y gallant ddychwelyd. Drwg gennym golli eu gwasanaeth. DJr- munir eu llwyddiant yn eu gwahanol fanau yng ngwasanaeth eu gwlad. Etholwyd y personau canlynol yn eu lie: Mri John H. Williams, Cae Esgob; David D. Roberts, Dinorwic House; William Davies, Upper Rock Terrace; a Richard Evans, Fron, Nant Peris.—Afonvdd a Llynoedd Rhydd- ion Penderfynwyd gwneud apel at Fwrdd Amaethyddiaeth a'r Pysgocffeydd i ollwng yn rhydd yr hoJl afonydd a'r llynoedd, er galluogj y bobl bysgota, a thrwy hynny ychwanegu at eu bwyd. Deallwn fod teimlad cyffredinol y dylai hyn gael ei wneud ar yr adeg bwysig a chyfyng pre- sennol.—Rhandiroedd: Y mae yma IfJ o erddi o'r newydd at I-,()di tatws. "edi eu cymeryd, a'r bobl yn dechreu eu ham- aethu o ddfrif.
————..... CORNEL Y CHWARiELWYR,
———— CORNEL Y CHWAR- ELWYR, I Y DIRPRY\ YW R A R CHWAREL- WYR. \niddengys fod Mr John Rowlands, y dirprwywr dros y Wasanaeth Genedlaeth- ol, yn talu ymweliadau a'r gwahanoJ chwarelau, gan gyfarfod y perchenogion. a'r :veithwT..3u ym Methesda a Nant. He yr wythnos ddiweddaf. Cafodd gwrdd yn Nantlle ddydd Iau, ac yr oedd y weled- igaeth yn agoriad llygad iddo, oblegid can- fyddodd nad oedd yno ond plant a hen bobl ymysg y gweithwyr. Amcan yr ymwel- iadau hyn vdyw cael nifer digonnol o'r chwarelwyr i fyned i weithio i'r gweith- feydd haearn, &c., fel y geHir boddloni y gofynion am wasanaeth genedlaethoi, a chadw y chwarelau i fynd. Mae'r cyflog gynygir yn dda, sef 2p 5s yn yr wythnos, a. 17s 6c at hynny i wyr priod at eu llety, re"'1l penbleth mawr y mae'r dynion, ac yn sefyll megig thwng dau dan. Nid amharodrwydd sy'n eu dal yn ol, ond sut mae gwneud y dewis a mynd yw'r cweeu tiwn. Ni charent er dim wold y chwar- elau yn can. ac eto ni theimlant, oher- wydd cu hoodran a'r cylchyniadau, ei bod yn waith hawdd torri y cysylltiadau. Dyna'r safle, y ma-ent megis rhwng dau feddwl, ac yn methu oybod pa gamrau i'w gymeryd. Un peth osodir i lawr ydyw na ellir tynu y ddiwydfa lechyddol oddiar y "restricted list" os na cheir 15 y cant o'r chwarelwyr i roddi eu gwasanaeth. Dyna'r amod, a sut i ddod i fyny gyda hi yw'r broblem fawr. Mae'n bwysig cadw y chwarelau i fynd, oblegid anodd fyddai rhoddi bywyd newydd iddynt unwaith y cauir hwynt.