Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
ijpoiys, | f 10 GOODS jt jjj ? JYou Can SAVE 5/- in the & I "Ii5IF YOU t)M I M UFURNISH FOR CASH, 1 A Visit to our Showrooms, or, if this is impossible, a P;Tusal Of Our 1? ■ N t LARGE ILLUSTRATED CATALOGUE I will convince you of this fact. ?N g| ?Bt N FIFTY YEARS REPUTATION FOR VALUE: 1F I LE*59 I ?J ? ? ? 3?'3?38?0.42'4??6?8'L?DOMRD< tm ? ?MM!f.?/?.?7?? LtVEM?SL* 1    J  t YN AWR YN BAROD. Dais o Main YSGRIFAU MYFYRDOD GAN PETER HUGHES GRIFFITHS 2/= nett. r HUGH EVANS A'l FEIBION. Swyddfa'r Brython," LERPWL.
Ffarwel, 1913!
Ffarwel, 1913! MAE dal y Drych ar yrfa blwyddyn yn mynd yn fwy an odd i ni dro ar ol tro, ac, efallai, am ddau reswm—prysurdeb gwaith, ac amlder profiad. Mae ampcr fel y mesurir ef gan haul a lleuad ac awrlais yr un hyd yn union i bawb ond yn wahanol iawn fel y dirwynir ef trwy brofiadau dynion. Ein profiad ni pan yn ifanc ydoedd, fod blwyddyn yn mynd i fyny'r allt, ac yn aref iawn. Hir oedd diwrnod o waith, hir oedd oedfa'r ysgol ddyddiol, a hir, waetha'r modd, oedd ambell saiat a chyfarfod gweddi. Gwir, pan yn chwarae ar y pentref, nid unwaith na dwy- waith y byddai raid galw arnom i'r ty, ae yn y diwedd, ond odid na byddai raid inni wrth fonclust ac ysgwd i'n helpu i ddeall ein dyled- swydd, a bod amser yn mynd ond yr oedd o'n mynd yn gyflym ofnadwy tan draed chwaraewyr y pentref Eto, er holl gyfaredd y chwarae, hir oedd amser ar y cyfan y pryd hwnnw, ac araf oedd treigl blwyddyr. Yr oedd disgyblaeth yn tolli ar chwarae'r plant, a gweith yn gafael ynddynt yT gyrnar iawn yT adeg honno. Yr oeddynt yn uohelgeisiol i fod yn ddynion, fel tae. Dyheai bachgen am fod yn bymtheg oed, wedi hynny'n ugain, a thybiai fod rhyddid gwynfydedig yn dod i'w ran. Dyna a fu ein profiad ri, beth bynnag am ere ill. Erbyn hyn, modd bynnag, mae elfennau ereill wedi dod i'n profiad, yr peri'r teimlad fod amser yn fyr—nid chwarae, ond gweithio, a pharatoi ar gyfer diwedd oes. Yr oedd gennym gynifer o bethau mewn arfaeth, ac yn wir awyddus i'w cyfiawai, ar ddschreu'r flwyddyr hon, 1913, ond a fethasom, fel nas gallwn lai na "gofidio eil 'inyned heibio. Modd bynnag, mae hi, par ysgrifennwn hyn, ar gael ei tharo tros y dibyn, i'r llynclyn mawr a gaeodd ar ei chwiorydd afrifed, yn y Gor- fltennol mawr. Ffarwel iddi Maddeuer y myfiaeth h"n inni. Mae llawer o ddarllenwyr Y BRYTHON ym mhrofiad maboed ereill yn y canol oed, ac ynghanol brn ydr bywyd; He ereill, fel pinnau, yn eyllu tua'r g.-)rw-1. Callwn gydymdeimlo a'r owbl ohonynt. Ni fynnem er dim i'r plentyn farw allan ohonom, a gallu ymddigrifo gydag ef nis gall profiad y canol oed, a'i ymdrech a'i bryderon teulu, fod yn ddiaithr inni ac nis gallwn yn ein byw gau drws ein bywyd rhag yr hen wr sy'n prysur ddod i'w etifeddiapth- beth bynnag a fydd yr hyn a geiff, druan Gallwn i gyd, i ba ddosbarth bynnag y perth- yown, ymuno mewn diolch am gael byw hyd yn hyn. Pan feddylir am y peth, onid yw fel gwyrth fod calon dyn yn dal i guro'n ddiball, ddydd a nos, yng nghwsg ac yn effro, am 60, 70, ac ymhell dros 80 mlynedd ? Y naill anadliad yn dilyn y llall am amser mor hir Dyma ryfpddod Ni fynnem er dim fynd heibio i'n dar- llenwyr fu'n dioddef poen cystudd, siom, a thrallodion ar bob math, yn ystod 1913. 0 dan bo-p-th all fod m-wn newyddiadur, yr ydym yn frawdoliaeth ddynol, ac rid yw popeth llenyddol a wnawn end gwegi a rhagrith onid ops ynr am gydymdeimlad a'n gilydd. Ofer ysgrifcnnu'n ddansoddol neu ddamcaniaethol am frawdoliaeth dyn oni fyddwn yn teimlo hawliau'r frawdoliaeth honno yn ergydion o gariad yn ein calonnau. Da gennvm y gallwn ddywedyd yn onestna chafodd neb ei drallodi gan gystudd, na galar, nac adfyd, nad ydym yn cydymdeimlo a'r •cyfryw, ac na bunsai'n dda gennym allu gweinyddu cysur iddo, neu iddynt. Er enghrnifft, sawl un o'n cydwladwyr fu'n dioddef vn ysbytai'r ddinas hon yn ystod 1913 ? Owyddom ni am lawpr, a g y Parch. John Evars, Beaconsfield Street, am fwy. Ymwelodd Mr. Evans a'r sefydliadau rhagorol hyn gynifer a, 209 o weithiau, ac a 617 o bersonau. Rhad Duw ar ei lafur cariad Dymunem ninnau i bob un o'n cydgenedl, rhai ohonynt yn hen gyfeillion inni, a fu'n dioddef mewn ysbytai, neu yn rhywle arall, ddeall fod cydymdeimlad y Drych hwn a phob un ohonynt. Wrth drafaelio'r ffordd hon, nis gallwn lai na chofio am y Danchwa drychinebus fu yn Senghenydd. Bydd hanes 'hon yn fare annileadwy ar 1913. Mae'r Drych yn crynru yn ein llaw wrth geisio ei ddal ar y golygfeydd calonrwygol. Cyfeiriasom at yr amgylchiad o'r blaen, ac nid oes gennym fawr ddim newydd i'w ychwanegu. Modd bynnag, mae yn hyfryd meddwl am y cydymdeimlad ymarferol a ddanghoswyd at y rhai a adawyd mewn cyni a galar trwy gyfranru at eu hang- henion, a gwainyddu i'w cysur. Cafodd calon cymdeithas ei tharo, a llifodd cyd- ymdeimlad hael allan ohoni. Credwn mai syniad doeth yw yr un a fynnai gasglu trysorfa gyffredinol ar gyfer trychinebau glofaol, modd y byddai cyflenwad yn barod pa bryd bynnag, a pha le bynpag, y di- gwyddai'r anffod. Fe sicrheid felly i bob achos teilwrg, prun bynnag ai ychydig reu lawer y n if r, i gael ei gwrdd a phan y byddai gweddill mewn llaw, fe ddisgynnai'n naturiol i'r drysorfa. Ceid pwyll a doethineb i reoli a threfnu teimlad a charedigrwydd. Mae creigiau a glofeydd Cymru, a'r llongau a ant allan o'i phorthladdoedd, yn allorau ar y rhai yr offrwm llawer o'i meibion glewaf eu byw- ydau i ddyledswydd. Bu 1913, ar y cyfan, yn bur lwyddiannus o ran masrach a gwaith yng Nghymru. Yr elfen fwyaf annymunol fu ymfucliad cynifer o bersorau a theuluoedd i wledydd tramor. Ond ymddengys y bu llai o ddioddef tlodi ac angen yn ystod y flwyddyn yng Nghymru, fel trwy'r wlad yn gyffredinol, nag a welsid yn ddiweddar. Diau fod a wpelo Deddf Yswir- iant Cenedlaethol beth a hynny. Mae afor, buddiant y Ddeddf yn llifo ac yn chwvddo beunydd, a llawer o'r cwynion yn ei herbyn ar y cyntaf yn cael eu boddi yn ei rhwysg. Bu amryw fan streiciau, a bygwth ereill, yn ein gwlad. Ond mae'n eglur, o'r diwedd, fod mwyafrif arweinwyr Llafur o'r farn mai ynfydrwydd yw rhuthro'n ddibris i streic, gosod adnoddau undebau Llafur i gefnogi streic cyn dihysbyddu pob moddion arall, nac i chwarae a chysegredigrwydd cytun- debau a ffurfiwyd rhwng gweision a meistri. Dim ond i Lafur gadw'i ben, a pheidio ail- adrodd y Samson a chwara3ai a'i nerth, fe ddaw'n alluog i ennill ei etifeddiaeth deg yn llawer rhwyddach a mwy effeithiol. Bu'r flwyddyn yn adsain gan gynnwrf brwydr y Dadgysylltiad Cymreig. Mae Eglwys Lo egr wedi eyffroi trwyddi, ac yn bygwth plaau dychrynlfyd ar ein cenedl os dadgysylltir ac y dadwaddolir hi. Pe buasai ei chyffro ysbrydol wedi bod yn debyg i'r un politicaidd diweddar, gallesid cydymdeimlo mwy a hi. Eithr pwysai ar ffafr Gwlad- wriaeth ac ar waddoliadau cenedlaethol a phan welodd y ceisid ei rhyddhau oddiwrth y Wladwriaeth, daliwyd hi gan bangfeydd anobaith, a gellsid meddwl na fedd Eglwys Gristionogol adnoddau i ymgynnal yn ei meddiant ysbrydol ei hun. Ymwelodd y Carsoniaid a Chymru, i ddychryn y bobl a bygythion o wrthryfel Ulster. Ord, rywfodd, mae Cymru Ymneilltuol wedi ystyfnigo'n benderfynol yn ei hawl i Grefydd Rydd, ac yn dawel yn ei hyder ei fod ar ddyfod iddi. Ni fu cyffroadau crefyddol reilltuol yng Nghymru eleni, ac ni welsom fod Ilyn ei diwin- yddiaeth wedi ei gynhyrfu gan neb. Wedi'r I cynnwrf a fu dro'n ol, ymddengys fod rhai o arweinwyr y Ddiwinyddiaeth Newydd wedi dod raddau yn ol, a bod tuedd gyffredinol yn yr Uniongredwyr i ddod raddau ymlaen. Felly y digwydd yn gyffredin ym myd y mBddwl ymhob cylch. Ymddengys fel petai raid i rywrai fynd yn rhy bell cyn y bydd i ereill symud ymlaen o gwbl. Credwn fod rhai tueddiadau arbennig yng nghrefydd Cymru wedi cryfhau yn ystod y blynyddau diweddaf, ac yn parhau i enrill n°rth. Mae hyn yn wir am ddwy duedd allai ymddangos ar y wyneb yn wrthwynebol i'w gilydd-crefydd ysbrydil, a chrefydd ymarferol. Nid ydym yn credu y cafwyd Pulpud Cymru erioed yn chwilio'n ddyfalach am yr ysbryd sydd mewn dyn, r ac yn cyfeirio ei ^.enadwri'n fwy uniongyrchol ato. Mae hyn yn wir, o tan yr holl wahaniaeth all fod yn syniadau diwinjddol y weinidogaeth yn awr a chynt. Mor wir a hynny yw fod yr argyhoeddiad yn cryfhau'r gred y dylid cvmhwyso Cristionoga^th at gwestiynau cym- deithaqol a pholiticaidd y byd, a dwyn holl fywyd amlochrog a chymleth cenhedl- oedd tan lywodraeth ei hysbryd, ei hegwy- ddorion, a'i delfrydau hi. Nid oes wrth- wynebiad gwirioneddol rhwng y ddwy agwedd hyn ar grefydd. Nid ydynt amgen dwy ochr i'r bywyd Cristionogol c\fan. Mater o ganolbwnc ac amgylchedd yw'r cyfan. Yn lied ddiweddar, fe deimlwvd fod tuedd i wneuthur canolbwrc bywyd o berthynas dynion a'r byd materol ac amgylchiadol. Gwelwyd cyn hir nas gallsai cymdeithas fod yn ddiogel felly, a bod ar symudiadau eym- deithasol angen eu llywodraethu gan alluoedd moesol ac ysbrydol. Gwelodd llawer y perygl, ac argvhoeddwyd hwynt, os eid i ehangu crefydd ymarferol, fod yn rhaid dyfnhau crefydd ysbrydol. Mae pob sact ac enwad erhyn hyn yn credu, ac yn datgan, y rhaid i grefydd ymagweddu ar gyfer gofynion clynion mewn cnawd, ac yn byw ar y ddaear a chyda hynny,fe'u gorfodir i gredu mai'r unig ddiogelwch i ddiwygiadau tymhorol, a'r hyn a'u glared rhag ymwylltio i chwyldroadau dinistriol, yw iddynt gael eu dwyn ymlaen tan reolaeth cymhellion a delfrydau moesol ac ysbrydol. Ni fu blwyddyn a bwysleisiodd hyn yn fwy na 1913. At hynny hefyd, mae enwadau Ymneilltuol Cymru o leiaf yn ymbalfalu am ffordd i fwy o undeb rhyngddynt a'i gilydd, pe gallent rywfodd ei chaal. Mae'r awydd amdano'n ddwfn, a'r symudiad tuag ato'n cryfhau. Mae'r pwnc hwn yn rhwym o ennill ystyriaeth dynion diragfarn a difrifal ymhob epwad ac eglwys. Wrth gwrs, ofer disgwyl toddi'r holl enwadau i un, me-wn undydd unnos. Ni oddef deddfau meddwl dyn i orchest felly gael ei chyfiawni. Ond bydd raid i bob rhagfarn a chulni meddwl enwadol a sectol roi ffqrdd i'r eangfrydedd a ddwg y gwahanol enwadau ynghyd i gydweithrediad mwy calonnog, yn yr hyn sydd gyffredin i'r cwbl. Dylai'r ffaith o'r cydgyfarfyddiad cymdeithasgar rhwng meibion a merched Cymru, o bob sect ac enwad, mewn ysgolion a cholegau, secularaidd a diwinyddol, baratoi'r cenedlaethau sydd yn codi ar gyfer hynny. Mae arwyddion fod cenedlaetholdeb Cymreig yn gyffredinol yn ymgryfhau mewn undeb ac, yn ddiau, fe ellir disgwyl i enwadaeth Cymru ymehangu ac ymuno hafyd. Ond yr ydym yr ymdroi. Yn union deg, fe fydd miliynau o bobl yn gwylio munudau olaf y flwyddyn hon. Terfynwn ninnau'r Drych hwn ami gyda-Ffarwel, 1913 I Croeso, 1914! I Nid awn i broffwydo dim yn ei chylch ar hyn o bryd. Gallem ddyfalu llawer, ond nid oes gennym ofod bellach. Nis gwyddom chwaith a gawn fyw i'w gweled. Beth bynnag, mae hi, fel y daw oddiwrth ei Danfon- ydd, yn rhwym o ddod yn llwythog o ddaioni. Oherwydd hynny, mentrwn gymaint a hyn amdari cyn iddi ddod i fewn—CBOESO,1914.
Ffetan y Gol.
Ffetan y Gol. [Cofied pawb fo'n anfon i'r Ffetan mai dyma'r gair sydd ar ei genatt:- I NITHIO'R GAU A NYTHU'R GWIR. I I Dyled Beirdd i'w gilydd. I At Olygydd Y BRYTHON. I ANNWYL SYR,—Nid wjf fi wedi gweled y llyfr Seisnig sy'n gwadu gwreiddioldeb Will- i ams, Pantycelyn, end yr wyf wedi sylwi ar yr ergydio ami sydd arno yn ddiweddar yn ein gwahar ol gyfnodolion, ac nid heb achos yn ddiau. Ni wyf fi ychwaith yn honni bod yn awdurdod o gwbl ar Feirdd. Ond y mae'n gof gennyf i mi yn 1906-ryw saith mlynedd yn ol bellach,—anfon gair i'r Llusesn ar y teyn uchod. Dichon nad yw'r hyn y cyfeiriaf ato yn newydd o gwbl i'r cyfarwydd, ond nid gwaeth y gwir o'i ail-ddweyd. Wrth droi nifer o hen gyfrolau, yr eddwn wedi dod ar draws copi o'r Night Thoughts gan Edward Young. Argraffesid ef yn 1752. Ganwyd Young yn Upham, yn agos i Win- chester, yn 1681, a bu farw Ebrill 12fed, 1765. Cair many lion ei hanes yn Johnson's Life of the Poets, wedi ei ysgrifennu gan Herbert Croft. Ysgrifennodd lawer, ond y Nos- Feddyliau yw ei orchest-gamp. Cyhoedd- wyd y rhannau cyntaf o'r gwaith yn 1742. Ymddengys iddo ennill poblogrwydd mawr I ar unwaith ymysg y blaid Efengylaidd, ac hefyd, rhyfedd yw dweyd, yn Ffrainc. Yr oedd amryw o'r hen bregethwyr wedi eu trwytho ynddo. Yn Noswaith IV" gwelir darn yr ym- ddengys i mi fod yn rhaid fod Williams, Pant y celyn, wedi ei weled. Ganwyd Williams yn 1717, a bu farw yn 1791. Cymharer yr hyn a ganlyn a'r Emyn 369 (394) yn Llyfr Hymnau y Methodistiaid. Yng ngwaith Young, darllenwn, {,,&¡¡; lvhere turn my thoughts 1 To rest from wonders? Other wonders rise tw-and strike where'er they ron. Ac yng ngwaith Williams.^ n 'Nol edrych ar ol edrych, o gwmpas i mi mae Rhyw fyrdd o ryfeddodau, newyddion yn parhau. Pan bwy'n rhyfeddu unpeth, un arall ddaw i'm bryd. Yn Young, drachefn, ceir My soul is caught Heaven's sovereign blsssings, clust'ring from the Cross I Rush on her (-the soul) in a throng, and close her round The prisoner of amaze. Ac ebai Williams, Bendithion ar fendithion, trjsorau angau loes, Grawnsypiau mawrion addfed, yn hongian ar y groes. Sydd yn cwmpasu'm henaid, rhinweddau mawr ea grym, A minnau yn eu canol heb allu dwedyd dim. Unwaith eto, ebai Young,) His blest Life I see the Path, and in his Death the price, And in his great Ascent—the proof supreme Of Immortality. '4" Ac ebai Williams,^ aE- KMi welaf yn ei Fywyd y ffordd i'r Nefoedd fry, Ac yn ei angau'r taliad a roddwyd drosof fi Yn ei esgyniad gwelaf drigfannali pur y nef, A'r wledd dragwyddol berffaith gaf yno I, gydag ef. Nid wyf yn nodi'r pethau hyn i brofi nac i awgrymu fod Peraidd Ganiedydd Cymru yn lln-leidr. Yr un pryd, yr wyf fi bob amser yn arfer credu nad yw fod dyn yn arwr cenedl- aethol yn brawf terfynol o berffeithrwydd. Yr hyn sy'n bwysig yw cadw at y gwir, pa ochr bynnag y bo. Onid oes brychau ar yr ha-Lil ? Dywedir fod llawer o bregethu wedi bod yng Nghymru unwaith ar Bregethau Robert- son o Brighton. Mae'r argraffiadau" rhad. wedi lladd y fasnach honno erbyn hyn. Ond ni ddiangodd Robertson ei hun heb ei ameu o beth tebyg. Pregethodd Dr. Horace Bushnell -y pregethwr a'r diwinydd Americanaidd enwog-bregeth yn Llundain yn 1846, a chy- hoeddwyd hi. Ei phwnc oedd Dylanwad Anymwybodol (Unconscious Influence). Gwnaeth Robertson dd'fnydd o'r un syl- wadau. Pan adroddwyd hynny i Bushnell, ni fynnai efo gredu am foment i Robertson yn fwriadol wneud hyn, am nad oedd raid i Robertson syrthio yn ol ar neb. Y tebyg ydoedd iddo ddarllen sylwadau Bushnell yn y newyddiaduron, i'r syniadau ei daro, iddo ollwng yr holl fater o'i feddwl, ac yna, wedi hynny, iddynt ddod yn ol iddo wrth fyfyrio a'i fod ef yn tybio ar y pryd eu bod yn hollol wreiddiol iddo, tra nad oedd mewn gwirionedd ond yn adgynhyrchu o'i gof. Rhedodd ei fyfyrdod, er oddiwrth destyn arall, at y llinell o feddwl a ddarllenasai. Felly'n hawdd y gallai Williams, mewn enghreifftiau fel hyn ac ereill y gellid eu casglu, fod yn gwisgo yn ei iaith ei hun, ac er budd y Cymry, syniadau a gawsai mewn awduron ereill. Mae o leiaf yn dod i fyny d'r i-inig egwyddor sy'n cyfreith- loni'r fath beth mewn cerddor a bardd,—ei fod yn gwella ar y gwreiddiol. Mae gwir ddiwylliant yn cynnwys fod y meddwl wedi ei faethu ar wdth pawb. Oni fedd athrylith yr hawl, os bydd angen, i anfon gorchymyn allan, fel Augustus Csesar, i drethu yr holl fyd ? -Yr eiddoch, T. CHARLES WILLIAMS. Menai Bridge. Bias ar Y Beirniad." I At Olygydd Y BRYTHON. I SYR,—Disgwyliem yn awchus am rifyn y gaeaf o'r Beirniad yn bennaf am fod yr Athro D. Miall Edwards wedi addaw pennod arall ar Athroniaeth Henri Bergson." Yr oeddwn, o'r cychwyn, yn falch dros ben o'r Beirmad fel cylchgrawn cenedlaethol, teilwng ohonom fel cenedl ond wedi darllen y rhifyn hwn yr wyf yn falchach fyth ohono a fedraf i ddim peidio, Mr. Got., agysgrifennu yr ychydig linellau hyn i'r BRYTHON, i ddiolch yn ostyngedig i'r gwyr dysgedig a gwrol am yr erthyglau campus sydd ynddo ar bynciau sydd mor bwysig ac amserol, i ni y Cymry, ar hyn o bryd. Y mae'r rhifyn mor llawn o bethau sy'n cyffwrdd a thannau dyfnaf fy nghalor fel mai anodd iawn yw imi benderfynu pie i ddechreu son tipyn am ei gypnwys. Dywedai'r di- weddar Llyfrbryf wrthyf mai ei arfer ef, pan gaffai lyfr newydd, oedd dechreu ei ddarllen tua'r diwedd ac yr wir, byddaf innau hefyd yn cael fy hunan, yr reddfol megis, yn gwneud yr un peth, yn enwedig gyda'r Beirniad. Fel rheol, ymysg yr adolyg- iadau y c?ir gwaith yr Athro John Morris Jones, ac yr wyf wedi darllen popeth gawswn afaal arno o'i waith ef ers ymhell dros chwar- ter canrif. Dilynais bwnc yr orgraff yn fanwl o'r dechreuad, a llawer ymrafael fu rhyngof a rhai o'm cyfeillion Cymroig yn ei chylch, ac hefyd ynghylch Cymra°g Rhyd ychen." Y mae hyn, a llythyr y Parch. J. H. Hughes, Manchester, yr Y BRYTHON am Rhagfyr 18fsd, dan y penawd Orgraff yn lie Orgraff an," yn fy atgofio am helynt fit rhyngof a Llyfrbryf, dros ugain mlynedd yn ol, ynglyn a rhagbn cyfarfnd llenyddol. Gwrthodai Mr. Foulkes, yn bendant, ag argraffi.'r rhaglen yn orgraff Pwyllgor Cymdeithas yr Iaith Gymraeg," a phwyswn innau arno i wneud hynny Yr ydych chwi,' Mr. Gol., yn cofio'r ffrae yn iawn, mi wn. Modd bynnag, y diwedd fu, i'r rhaglen gaelei hargraffu yn yr orgraff ddiwygiedig, heb enw'r printiwr ar waelod y tudalen olaf, yn ol yr arferiad. Erbyn hyn, y mae pob llyfr a rhyw ronyn o raen llenyddol arno wedi ei ysgrifennu yn yr orgraff ddiwygiedig," a gellir edrych ar y pwnc hwn fel wedi ei setlo. Er pan oeddwn yn hogyn rhwng deg a deuddog oed yn Sir Fon, breuddwydiais lawer breuddwyd (ac y mae amryw ohonynt wedi dod i ben, hefyd) am y pethau y sonia Mr. H. Parry Jones, Casnewydd-ar-Wysg, am danynt yn ei ysgrif ar Y Gymraeg a Chen- edlaetholdeb ac, a dweyd y gwir wrthych, yr wyf, bob amser, yn ymddigrifo yng ngwaith macwyaid y colegau yma ac am yr un rheswm yr hanner addolwD" Emrys ap Iwan (o fendigedig goffadwriaeth). Erbyn heddyw, y mae'r enw dirmygedig Welsh, fel y dywed Mr. Parry Jones, wedi mynd yn beth i ymfalchio ynddo. Nid felly y bu yn y gorffennol, a da y gwyr rhai ohonom sydd wedi trigo yn Lloegr, a theithio llawer ym Mhrydain Fawr a'r Iwerddon ers yn agos i ddeugain mlynedd ac nid heb reswm chwaith y gofyn Yr Athro yn ei Nod- i adau A oes argen gwadu inni fod yn hir dan gwmwl ? Oni bu gywilydd gan gannoedd ohonom, hyd yn oed arddel ein bod yn Gymry ? Er fy mod yn caru'r hen iaith yn angerddol, eto y mae'r pynciau crefyddol a drafodir mor bwyllog, ac mor urddasol (mewn Cymraeg a gafael arno) yn fwy pwysig yn fy ngolwg i, hyd yn oed nag orgraff unffurf a Chymraeg Cymreig (chwedl y Parch. J. Puleston Jones) Gofyn Mr. D. J. Jones, Caergrawnt, ar gych- wyn ei ysgrif, Paham na choir ymdriniaeth agored a diduedd ar fater a phynciau cref- yddol ? Wel, dyma ni wedi cael, o'r diwedd, ddechreu canmoladwy iawn, beth bynnag, ac edrychaf i ar hyn fel Toriad Gwawr y byd crefyddol Cymreig. D;sgwyl- iodd rhai ohonom yn hir iawn am hyn :— Disgwyl clywed pyrth yn agor, A chadwyni'n mynd yn rhydd. Ond ni frysia'r hwn a gredo chwaith. Dylai ysgrif Mr. D. J. Jones ar Drafodaeth Pynciau Crefyddol," ac un y Parch. E. Tegla Davies ar Grefyddwyr leuainc y Dydd," gael eu darllen a'u hystyried yn fanwl a difrifol yn enwedig gan swyddogion Ysgolion Sul Cymraeg (pob enwad) Cymru a Lloegr ac eithaf peth fyddai i Undeb Ysgolion Lerpwl a'r cyffiniau argraffu un Tegla yn bam- ffledyn, a'i ledaenu drwy'r holl gylch. Os ydyw'r Ysgol Sul i lwyddo yn y dyfodol, rhaid yw inni, yn hwyr neu yn hwyrach, wynebu'r anawsterau yr ymdrinir arnynt yn yr ysgrifau hyn. Goddefwch imi ddyfynu ychydig allan ohonynt yn y fan yma :— Er y cwyno a'r griddfan i gyd, credaf fod manteision crefyddwyr iueainc heddyw'n uwch nag y buont erioed, ac fod iddynt gyfleustra i wneuthur crefydd yn rhyw- beth ardderchocach nag a ddychmygodd dyn erioed amdano Os oes "rhywbeth sicrach na'i gilydd ynglyn a'n hoes ni, dyna ydyw, mai oes ieuanc y w hi. Ceir arwyddion o hyn ar bob llaw,—yn y deffroad cenedlaethol, y deffroad meddyl- iol, cymdeithasol, a chrefyddol. Y mae (C cynnwrf a rhwyg ym myd llafur, ym myd y meddwl, ym myd crefydd ceir hen \i."1 awdurdodau, hen syniadau ac athraw- iaethau'n dymchwel ymhobman. Mynn y werin addysg i'w phlant, ac nid oes ar werin hen eisieu dysgu mynn y gweith iwr hawl i fyw,—a'r hen sy'n caru awdurdod mynn y crefyddwr wisg nevrydd i'w grefydd nes bod gwahan- iaethau erwadol hanner can mlynedd yn ol wedi mynd yn ddiystyr. Arwydd yw hyn oil mai oes ieuanc iawn yw'n hoes ni. Pan fo ysbryd y byd yn ieuanc y bydd debycaf i Ysbryd Duw, er gwaethaf popeth all ymddangos yn wahanol, am mai Duw ieuanc ydyw Duw, gyda brwdfrydedd, gweledigaethau, a delfrydau Duw ieuanc yn eiddo iddo. Er cymaint ei rwystrau, ni siomwyd ef ac ni ddigalonnodd erioed, ac ni ddaeth cysgod anobaith dros ei feddwl,—a pherthyn i'r hen y mae siom, digalondid, "ae anobaith Mawr y cynnwrf hefyd yn yr eglwyd hanner can mlynedd yn ol, pan ddechreuodd Darwin ddysgu "deddf datblygiad. Yr oedd dyfodiad' y goleuni newydd hwn i'r eglwys fel dyfodiad goleuni'n sydyn i ystafell, ganol nos, a ffoai crefyddwyr, fel pryfetach, i bob congl y teimlent fod cysgod ynddi. I'r hen, y mae awdurdod yn gryfach na rheswm, a ffoent dan gysgod awdurdod yr eglwys, a dechreuodd Rhufain godi'i plien. I'r ieuanc, y mae rheswm yn gryfach nag awdurdod, a chan y credent fod Darwin yn rhesymol, ar ei ol yr aent, gan gilio o'r eglwys. Erbyn heddyw, newidiodd pethau, a dangosir hynny yng ngwaith yr eglwys yn cydnabod Galileo a Darwin, nid fel ei gelynion, ond fel "proffwydi'r Arghvydd, yn ymladdwyr dewr ym myddin y Gwirionedd. Y cyfleustra arbennig i grefyddwyr "ieuainc ynglyn a hwy ydyw, nid fod llyfrau rhad yn eu hymyl, ond fod ysbryd y llyfrau'n fantais i'r uchaf sydd yn eu bywyd, a'r ysbryd hwnnw yw ysbryd ymchivil am y gwirionedd heb gydnabod "unrhywawdurdod ond awdurdod y gwir. ionedd ei hqzn a rhoi sel eu bendith ar yr ysbryd hwn yw n6d amlycaf arweinwyr yr eglwys heddyw.Y Parch. Tegla Davies. Ai yn ofer, gan hynny, y gwneir apal am ymdrafodaeth agored a didUr-dd ar gwestiynau crefyddol ? Yn y cylch hwn y byddys yn hawlio rhyddid nesaf. Onid oes le iddo, ac oni ddylai deyrnasu ? Y mae'r dadleuon mawr, ymhob cangen bron, wedi peri cyffro ac wedi cynhyrchu teimladau annheilwng iawn ond y mae "llawer cylch wedi dysgu'r wers bwysig o roi rhyddid barn i ddynion. Rhodder i ryddid barn ei le, hyd yn oed ped ai i wadu'r hyn a deimlwn ni bwys- ,c icaf; na chyffroer ni gan elyniaeth, a chas, a thymherau drwg ac na chaffed neb ni yn methu yn y pethau hyn pan ddelo dydd prawf ein cred gan ddiwyll- iant ac addysg ein hoes.D. J. Jones Orassendale, G. GRIFFITHS. Nadolig, 1913. Mawrion Plwyf." At Olygydd Y BRYTHON. SYR,Gwelais awgrym gan Pertheos mai da fuasai i rywun wneud rhestr o wyr mawr y plwyf hwn (Llanfrothen). Gan na chyd- syniodd neb arall a'i gais, wele i chwi restr fechan. Hyd y gwn i, nid oes hanes am yr un arwr o bwys wedi codi yn y plwyf, a fu yn enwog ym mrwydrau'r hen amseroedd. Ond y tebyg yw y bu, end eu bod wedi eu hebar- gofi yn hollol :—Yr Esgob H. Humphreys, .D.D., 1648-1712 y Parch. J. Clough William Ellis, M.A., 1833-1913; y Parch. W. M. Evans, pregethwr Cymraeg cyntaf Awstralia, 1827-1883 y Parch. W. R. Jones (Goleufryn), 1840-1898; Mr. Richard Owen (Glaslyn), 1831-1909 Mr. R. D. Williams (Eos Brothen), a fu farw yn yr Amerig. Er na anwyd hwy yr y plwyf, tra yma y daeth y Parchn. Richd. Jones, y Wern, a J. R. Jones, Ramoth, i fwyaf o amlygrwydd. At y rhai a enwyd, gellir nodi y rhai canlynol sy'n fyw :-y parch. D. D. Williams, Manchester Brvfdir; Namorydd, Awstralia Misses Laura Evans ac Elizabeth Williams, cenadesau ar Fryniau Casia.. I.B. Daniel Evelyn, Heretic." I To the Editor of Y BRYTHON. DEAR Sm.-Someone has sent to me a copy of your neatly-printed and well-edited paper, containing what purports to be a challenge )
Advertising
ANNUAL SALE. CREAMERS GREAT, CLEARANCE SALE OF Furs and Fur Garments Now in Progress. SWEEPING REDUCTIONS. 56 BOLD STREET LIVERPOOL.