Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

o Big y Lleifiad.

DAU T U"R AFON.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

DAU T U"R AFON. Awst 29, yn Ffrainc, daeth diwedd i Rifleman W. H. Hughes, 94 Brookdale Road, Smithdown Road, yn 28 oed. Mab hynaf oedd i Mrs. Hughes a'r diweddar Mr. John Hughes (estate agent), genedigol o Ros- colyn, Mon. Magwyd y dyn ieuanc caredig a pharod ei gymwynas yn Webster Road, a bu'n ffyddlon iawn i'r moddion ar y Saboth, fore a hwyr. Yr oedd yn gwir ofalu am ei fam weddw, ac wedi dod i safle bwysig fel cyfrifydd yn Victoria Street, Liverpool. Cydymdeimlir a'i fam a'i fodryb—Miss Jones,, sydd yn byw byw gyda'i chwaer; hefyd ei brawd sydd yn Litherland. Yr oedd Mrs. (Parch.) J. R. Jones, Maelgwyn, Bryndu, Mon, yn chwaer i'w fam.-R.J.G. Medi; 9, yn y Royal Infirmary, bu farw Mr. John Ellis Jones, annwyl briod Mrs. Anne Jones, 34 Kemble Street, Prescot. Nid oedd wedi bod yn dda ei iechyd ers tro, ond ym- egniodd i gyflawni ei ddyletswyddau hyd o fewn pu wythnos i'r terfyn. Bu'n briod caredig a thad gofalus yn flaenor effro am 20 mlynedd yn eglwys Siloh, Whiston; yn ysgrifennydd yr eglwys o'i sefydliad; yn athro am flynyddcedd jm ysgrifennydd medrus ac ymroddedig i'r Whiston & District Co-Opera. tive Society yn gyfaill calon, ac yn gynghor- wr doeth i liaws mawr yn Gymry a Saeson, yn y parthau hyn. Claddwyd Medi'r 14, ym mynwent Ymneilltuol Penrhewl, Mostyn, ynghanol arwyddion a barch a galar. Cafwyd gwasanaeth yn y ty cyn cychwyn hawdd oedd gweled o'r ty i'r orsaf yn Prescot fod gwr annwyl yn cael ei hebrwng i dv ei hir gartref. Daeth Mr. John Williams, Wigan, i'w hebrwng o'r ty i orsaf Prescot, ac ymwel- odd y Parchn. J. H. Morris, Edmund Griffith, > J. Evans, D. Jones-Hughes, a Mr. Lewis Andrews a ni yn ystod yr amser y buom yn aros yn Lime Street. Cafwyd gwasanaeth yng nghapel yr Annibynwyr ym Mostym (He y dygwyd ef i fyny), dan arweiniad ei weinidog, y Parch. J. Williams. Darllen- odd a gweddiodd y Parch. R. R. Owen (A.), Connah's Quay (cyn-weinidog yr Eglwys Annibynnol yn Prescot), a dygwyd y dystiol- aeth uchaf i fywyd ein cyfaill gan Mr. Pen- dleton, llywydd pwyllgor y Co-Operative Stores Mr. Ward, cyn-aelod o'r un pwyllgor, a Mr. Darbishire, un o'r managers y Parch. J. S. Roberts, Dinbych (a fu'n weinidog ya Whiston), a Dr. Pan Jones, wrth draed yrhwn y dygwyd ein brawd i fyny. Gwasanaethwyd wrth yr offeryn g an o rg anydd yr eglwys Anni- bynnol ym Mostyn, chwaraeodd y Dead March, a gofalwyd am y canu gan Mr. E. Ll. Thomas, Whiston. Aed i'r fynwent, a chymerwyd rhan yno gan yParchn. J. Williams a J. S. Roberts, a therfynwyd drwy ganu 0 frynian Caersalem. Cludid yr arch gan weithwyr y Co -Operative Sto res. a swyddogic 11 eglwys Whiston. Anfonwyd cynifer a 23 o wreaths, a h ardd oedd yr olwg arnynt. Gedy briod aphedair o ferched, llu o berthynasau, a ehylch mawr o gyfeillion i alaru ar ei ol. Nid oes gennym ond dymuno ar i Dduw pob diddanwch eu cysuro, ac ar i Berchen y gwaith godi eraill o gyffelyb ysbryd i gario ei waith ymlaen. Pymtbeng wythnos i'r diwrnod y cleddid gennym yr hen dad annwyl a diacon ffyddlon, Thomas Twiss, a'r ddau wedi bod yn mynd i mewn ac allan yn ein plith am flyn- yddoedd. Nid oeddis yn gwarafun i Thomas Twiss gael gollyngdod oddiwrth ei waith at ei wobr, am ei fod yn 75 mlwydd oed ond am John Ellis Jones, cymerwyd ef oddiwrthym o ganol ei waith a'i ddefnyddioldeb, yn 50 mlwydd oed. Daeth y newydd trist fod un arall o Gyrgry Bootle wedi cwympo yn Ffrainc, yn aberth i raib y Rhyfel ofnadwy sydd wedi ein goddi. weddyd, sef Private John Davies, mab ieu- engaf Mrs. Davies a'r diweddar Wm. Davies, 9 College View Bootle. Nid oedd gair wedi dod oddiwrtho ers tros bythefnos, ac yr oedd ei fam a'i frodyr yn bryderus iawn amdano, gan yr arferai ysgrifennu adref gyda chyson- deb. Bore dydd Mercher, Medi 13, daeth gair ei fod wedi ei ladd, Awst 27ain, yn ^r ieuano 21 mlwydd oed, a dyfodol disglair o'i flaen. Bu yn y coleg hyd nes yr oedd yn 18 oedv cymerodd brentisiaeth mewn insurance office, ac yr oedd newydd orffen ei dair blynedd pan ymuno dd A'rF yddin tua blwyddyn yn ol a'i ddywediad wrth rai o'i gyfeillion wrth ymuno oedd Gan fy mod yn mynd allan, af lie y caf wynebu'r ddrycin ni cheisiaf lechu rhag wynebu'r gelyn. G*r ieuanc hoffus ydoedd, ffraeth ei air a gloew ei feddwl; o gymeriad glan, ac o benderfyniad; wedi ei fagu a'i f eithrin yn egwyddorlon rhinwedd a moes, gan rieni gofalus, sydd wedi magu pump c fechgyn sydd yn anrhydedd i unrhyw dad a mam, ac i gyd wedi eu dwyn i fyny yn eglwys M.C. Stanley Road un ohonynt, Mr. David Davies, yn un o organyddion yr eglwya, Bu'r tad farw naw mlynedd yn ol, a thua blwyddyn yn ol bu'r trydydd mab, Nit. Wm. Owen Davies, farw. Mae Mrs. Davies wedi cael ei rhan o brofedigaethau bywyd, a chyd- ymdeimlir yn ddwys a, hi a'r tri brawd sydd yn aros, yn y brofedigaeth lem a chwerw hon. Mewn llythyr at gyfaill tua mis yn ol, dy- wedai John Davies Diau pe y buaswn adref y gofynasid i mi, Onid yw yn edifar gennyt fod wedi ymuno a'r Fyddin weithiau byddaf ym teimlo felly, oherwydd y gwaith a'i galedwch bryd arall teimlaf yn falch fy mod wedi dod, oherwydd yr wyf wedi gweled llawer o bethau a dysgu llawer na welswn ac na ddysgaswn mewn bywyd cyffredin. a rhaid talu'n ddrud am addysg. Credaf fy mod wedi talu'r llawn bris er pan wyf yn y trenches. Mae gweled dynion yn lladd ei gilydd yn beth dieith r iawn. Parhad ar tudal. 6.

Advertising