Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
I BEATY I LTD,I CELEBRATED TAILORS I DEMOBILIZATION I CONCESSION To all who have served in HIS MAJESTY'S FORCES 2/6 IN THE S Discount on all purchases of Clothing (If made within a period of 4 months from date of discharge), ORDER YOUR SUIT WHILE ON LEAVE. BEATY BROS., Ltd., 37 to 43 London Road, 28 & 30 Churh Street, Open until 6 30 p.m., Wednesdays until °Pv en 111111.1 6."30-' ?"m Saturdays 1p.m. Open until C) 30 p.m., Wednesdi-t*s until til 6-30., p-m.3aturdav s I p.m. I p.m., Sciturd-?iys ii.xitil 8-30 p.m. Phone 3925 Bank. Phone 580 Booth Wimil. GRif f ITPS SONS MAKERS OF SMART CLOTHES 29 South John St., Liverpool, AND 349 Stanley Road, Bootle, Military Uniforms. Lounge Suits. ji Naval Uniforms. Overcoats. Costumes. Ladies' Coats ™|||| 111 ■■■'■ "J Llygald yn etch felliao ? Yw pathau'n trora niwlog ac aiislwig ? Dyna arwydd a rhybudd llethdod y llygad, a dylech ga el eu hedrych rhag blaaa ou gwaethyga wm'u hotgoulao. Gailwa ni, gyda'n hollar gwyddonol, ddwayd wrthych 08 oes arnoch angexi gwydrau ac os ffilly, eich oyfleawi rhai a barai fwyaf o lea i chwi. Galwch heddyw— A??Hae??a??a Kyealghi Specialists, 73 LOR0 STREATI Safydlwyd 1848. LIVE RPOOL, HARTLEY & CO., Liverpool 12 MOSS STREET. gSALES BY AUOTION EVERY UEgDAY AND FRIDAY AT ONE, SATURDAY NIGHT AT SEVEN VALUABLE HOUSEHOLD FURNITURE OF ALL DBIIGRIPTIONS. MAGNIFICENT NEW AND SECOND-HAND PIANOFORTES, LAEG E VARIETY OF BEDSTEADS BEDDING, &e. EVERY NECESSITY FOR HOUSEKEEPING ATTEND THESE SALES AND SAVE AT LEAST ao BP HE CENT. A MAGNIFICENT SELECTION OF SUPERIOR FURNITURE IS ALWAYS KEPT IN STOOK, AND ANYTMNU MAY BE PURCHASED ) STOCPKR, IVATE TREATY. GOODS STORED. ) On view 8.30 a.m.to 9.30 p.m.; Saturday 1pm telephone 1793 Royal. CONSIGNMENTS (EITHER LARGE OR SMALL) OF ANY DESCRIPTION INVITED FOR SHESE SALES. BESP RESULT GAURANTEED. For Baths, Lavatories Closets, Brass Fittings, Lead Pipes, etc., apply to- JAMES CHEW & CO., Ltd., Plumbers'^Merchants and Brass Founders. Tel. No. 58 3 60 PAP%TIISr. STREET BanK 3402 LIVERPOOL. KiSMaTiufaQturera of Copper Cylinders, Boilera, Gag, Washing Boilera. LIVERPOOL I The SHAFTESBURY," MOUNT PLEASANT, <Hc?i ? >«w. ma }'?"Si nc m. 4 aj' !Ie nt* .? :>ihii9'So ioioi. Moderate «b I ri,}t > «{ Pk'ttu J SK FOR IRIS Table Waters Iffl Sjrpkosa Botils& iOBA W A TEA, POTASH WATER, SELTZER WATsa, LEMONABlt DRY OINGER ALii. Etc., etc. IDRIS & Co., Ltd., Northumberland St.. t LIVERPOOLI D. GRIFFITHS 6 SON 221 BrocS and 9 Moss Si. L'pssl. Pianos & Organs by all the leading maker*, From S¡m per month. T-al -466X Aafleli) a 3772 Ituy AI: Rhastr Testynau Eisteddfod Gsnedlaethol BARRI, 1920. Bydd yr Uchod Allan o'r Wasg, GORFFENNAF 14. I'w cael gan y Llyfrworthwyr Pris 9c. Trwy y post, I BLAEN DAL. neu oddiwrth HUGH EVANS & SONS, Swyddfa'r 'Brython.' 358 Stanley Road, Liverpool ROBERTS a EDWARDS ESTATE AGENTS, 64 Kirlidale Rd., Liverpool Telephone i 3194 Royal. I- 1-1-
Trem III-.-Seiblant Mr. ,Llovd…
Trem III-Seiblant Mr. Llovd George, Ym Mryn" Awelon, ° Criccieth, .yl dydd iau hyn, derbynnir dyn na chafodd fawr o orffwys ddydd na nos, am yr agos i'r pum
Advertising
DONEGAL TWEED CO. I,FIVOERRE ,PMOOOSLTIS TAlLOR6S LIVERPOOL'S   lallllty   is the principle on which we i 1 Quarity irst have b?Ht up and conducted JM——————— .—————— our business.?  Smart ana perfectly Tailored Gairmentss Made to Measurt- and to Fit. JUDGE FOR YOURSELF Joww«„ that idealShas FOR YOURSELF been maintained, ',( by placing your order with us for that NEW SUIT. Note change A4 inj3R CT LI"R pn kd- dchreasnsg:e- 2a 0! R ?D ,¡ f C. bUi lUfUC-WHU-HU'-WUf I JOHN JONES.. A.Iso 9 5,1015, 16 5 Grange Rd., S'head Oymro am byth. at 226 High Street, Bangor, 23 Hope Street, Wrexham, We specialise in Ladies' Tailor-Made 46 Lime Street, Liverpool. Costumes to orders and throughout the Kingdom
Advertising
ASK FOR fp 6 SIRDAIP9  AUC Delicious and Appetising.
Advertising
?=?? ^OUARftNIEEQ^^ PURE FOOD Ask for KEENORA' SELF-RAISING FLOUR. CUSTARD POWDER. BAKING POWDER. BLANC-MANGE.:etc., etc.) Manufacturers- rs MORRIS & JONES, Limited, Liverpool, Monaboster, ansl*. INewcastle-on- Tynom
Trom I-Araith y Prif Weinidog.-
Trom I-Araith y Prif Weinidog. TRADDODODD y Prif Weinidog ei Araith yil Nhy'r Cyffredin ddydd lau—araith awr a deugain munud o hyd, ac o'r diddordeb mwyaf, yn gymaint a'i bod yn goleuo ar ystyr a rhagolygon y Cytundeb Heddwch o safbwynt yldyn ag y cydnebydd y byd yn gyffrediaol ddarfod iddo wneuthur mwy na neb arall i sicrhau buddugoliaeth i Brydain Fawr ac i Ryddid dynoliaeth. Er fod prif linellau'r Cytundeb*yn wybyddus i'r cyhoedd o'r blaen, datguddiwyd amryw fanylion tarawiadol iawn oedd hyd hynny'n gyfrin- ach. Un o'r cyfryw yw'r penderfyniad unfryd y deuthai'r Cynghreiriaid iddo o ddwyn y cyn-Gaiser i'w brawf, a hynny yn Llundain. Breuddwydiasai ef am ymwel- iad pur wahanol a Llundain fel a Pharis, ond rywfodd neu'i gilydd dyryswyd ei raglen. Anodd meddwl am wrthgyferbyniad mwy na'r hyn a geir rhwng breuddwydion y cyn-Gaiser a'r hanes sydd iddo ar hyn o bryd. Eto, ni a gredwn fod y cysondeb dyfnaf rhwng y breuddwyd a'r ffaith— cysondeb y ddeddf ddigyfnewid: Yr hyn a heuo dyn, hynny hefyd a fed ef." Heuodd y cyn-Gaiser ddigon o "wynt," a chaiff yn awr fedi'r "corwynt." Da gennym ddeall fod y dyn hwn i gael ei brofi. Bydd hynnyin gyfiawn ato ef ei'hun yn gystal ag at ereill. Cyhuddir ef o'r trosedd erchyllaf ei ganlyniadau'n hanes y byd, a dygir tystiolaethau golygus o bob cyfeiriad i gefnogi'r cyhuddiad. Cyhoeddir ei fod yntau'n ymgyfiawnhau, a bod iddo'i dystion. Os gall gyfiawnhau ei hun, bydd ei ddwyn i brawf yn gyfle iddo wneuthur hynny. Cynhygiodd Hollweg, cyn-Ganghell- or y cyn-Gaiser, gymryd lle'i hen feistr yn y prawf ond priodol yr awgrym a gafodd yn yr ateb iddo-ei fod ef ei hun ar restr y drwgweithredwyr. Os yw'r dyn hwn i ddianc heb ei brofi, yna gwneler i ffwrdd a phob cosbedigaeth a disgyblaeth trwy'r holl fyd, a gollynger Uffern yn rhydd arnom yn ei holl nerth. Un o'r pethau anesbon. iadwy i ni yw gwaith rhai a honnant fod yn werinwyr yn ceisio cysgodi dyn fel hwn— yr unben balchaf a mwyaf gqrmesol a welodd byd gwareiddiedig. Yr ydym yn ormod o werinwr i gydnabod y dylid arbed Caiser mwy na dyn eyffredin. Gobeithiwn, er hynny, mai nid o nwyd ddialgar y dywed- wn hyn a chredwn i nad e. Dymunasom y goreu i'r gftr hwn ar hyd y rhyfel a chan y credem mai hynny fai'r goreu peth iddo ef ei hun, deisyfasom am iddo gael ei orehfygu. Bu buddugoliaeth ar yr Almaen y peth goreu iddi hi'n ogystal ag i ninnau. A chyd a golwg ar y trefedigaethau, dywed- odd y Prif Weinidog fod y tystiolaethau o gamdriniaeth yr Ellmyn i'r brodorion, a'i feithriniad parhaus o ysbryd casineb a brad- wriaeth yn erbyn y Prydeinwyr mewn trefed- igaethau cylchynol, yn orlethol, Addefwn mai da fuasai i hanes Prydain ei hun fod yn llawer gloywach mewn rhai achosion tramor ond nid yw dau ddu'n gwneuthur un gwyn, ac ni fu gan Brydain y fath bolisi 'o gasineb a chreulondeb yn cael ei weithio allan yn benderfynol o ganolbwnc ei gorsedd a'i lJywodraeth ag a geid yn hanes yr Almaen. Ceir cyflawnder o brofion fod yr hyn a dorrai allan yn weithredoedd drwg achlysurol yn hanes Prydain a chenhedloedd ereill yn bolisi cyfrwys, cudd, parhaus a phenderfynol o galon ymherodraeth yr Almaen. Bu cyhyd o amser yn hau cenhedloedd y byd a hadau llid a brad fel y tybiodd fod y cyn. heaf yn aeddfed iddi fwrw'r cryman iddo, a dyna paham y rhuthrodd allan yn Awst 1914. Pa fodd y gellid ymddiried y dyfodol i genedl fel hon heb ei gosod,o leiaf am ysbaid, tan gyfyngiadau tyn ? Hired oedd crafangau militaraidd a diplomataidd Berlin, a dyfned eu gafaelion am fywyd y gwledydd, fel nad oedd fodd i'w rhyddhau heb eu torri. Dadleuir dros wahodd yr Almaen i Gynghrair y Cenhedloedd, Buan y gwawrio'r dydd pan ellir gwneuthur hynny a hi On4 ai diogel gwneuthur hynny cyn y dgys arwyddion o'i chydnawsedd ysbryd ag amcanion y Cynghrair ? Ai diogel fai gwneuthur hynny pan y mae rhai o'i phiif arweinwyr, a chynrychiolwyr pleidiau cryf- ion o'r genedl, yn cyhoeddi'n agored eu parodrwydd i ddal ar y cyfle cyntaf i ddi- rymu'r Cytundeb Heddwch ? Byddai gwa- hodd yr Almaen i fewn i Gynghrair y Cen- hedloedd cyn dangos ohoni gyfnewidiad yn ei hysbryd a'i hamcanion yn ynfydrwydd, ac yn demtasiwn iddi ddilyn ymlaen yn ei hen grefft gynllwyngar, a pheri galanastra arall yn Ewrop cyn hir. Bu'r gelyn am agos i ddeugain mlynedd yn cynllunio, ac am dros bedair ohonynt yn cyflawni, anfad- waith gadawer iddo ychydig amser i feddwl am ei gyflwr, ac edifarhau, cyn ei wahodd i gadair Heddwch, ar aelwyd Cyngor y Cenhedloedd. Pan ddelo i'r cylfwr hwnnw, dylai gael ei groesawu i'r teulu, ac ni fydd y cylch yn gyfan hebddo. Mae dynion wedi eu creu i fod yn gyd-ddibynnol, a chenhedl- oedd yr un modd, fel yr awgryma cwpled AI—uuiio t i r Ser.: Y naill yn cyfarch y llall, Ac yn euro gwen arall,
Trem I!—Cynghrair y Oenhedioedd.
Trem I!—Cynghrair y Oenhedioedd. Pan grybwyllodd Mr. Lloyd George y mater hwn gyntaf yn ei araith, ymddengys ddarfod i rhywun hanner chwerthin. Beth bynnag, buan y gwelwyd nad gwegi'n ei olwg ef oedd y symudiad hwn. Ni lefarodd yn fwy difrif a phendant ar ddim arall. Mae ganddo hyder cryf yn ei bosibilrwydd. Ni fynnai inni ffol-dybio'n bod wedi cefnu ar bob anhawster yr oeddym wedi cefnu ar yr anhawster pennaf, ond yr oedd eto rwystrau mawrion ymlaen, a gwaith mawr i'w wneuth- ur tuag at ddiogelu heddwch a llwyddiant y -byd. I wynebu'r dyfodol, tybiai mai yng Isghynghrair y Cenhedloedd yr oedd ein cyfle, ac mai doethineb ymhawb a garai ryddid a chynnydd yr holl fyd fai ymuno i weithio'n ei ffafr. Brawddeg gref oedd ganddo'n niwedd ei araith-yn gobeithio na olygai dadgorfforiad y Fyddin ddadgorffor- iad yrysbryd gwladgarol. Yn y fan yna y mae'r perigl. Mor ddibynnol yw pobl ar amgylchiadau allanol ac achlysurol fel ag i golli golwg ar yr elfennau sy'n aros, ac yn ddigyfnewid, pan fo'r ffurf ddamweiniol iddynt yn diflannu. Bu llawer yn selog pan oedd gwladgarwch yn gymhleth a rhamant Armagedon, nad ydynt yn flebyg o'i nabod yng ngwisg gyffredin heddwch. Un o bethau rhyfeddaf y ddynol natur yw'r modd y gall dynion fynd i fewn ac allan mewn teimlad a thymer, yn ol fel y cyfnewidia'u ham- gylchoedd. A da yw hynny'n fynych. Yr hyn sy wir am gyfansoddiad dyn yn gyffredinol sy wir hefyd am ei deimladau- fod newid gwaith gystal a gorffwys. Ond prawf o arwynebolrwydd dyn yw amddifad- rwydd o ryw egwyddor ddigyfnewid ac am- can aruehel a bair unoliaeth i'w fywyd a'i brofiacl i gyd, boed Ion boed leddf, boed ddigrif boed ddifrif, boed chwarae boed waith, boed ryfel boed heddwch. Rhaid wrth feddylgarwch a doethineb i ganfod a gwerthfawrogi rhinweddau mewn gwisg gyffredin. Ap Fychan a ddywedai petai'r haul yn codi mewn rhialtwch, a gwaith dynion yn gwaeddi a rhodresa'n angenrheid- iol i'w godiad, y buasai'r wawr yn llawer I mwy poblogaidd nag y mae. Ond IDae'p" haul yn gar i ddistawrwydd. Mae gennym achosion i ganu clych buddugoliaeth, ac i orohfan uchel a maith; ond y perigl ywj wedi'r elo'r swn heibio, ac y tynnir cyfar- edd rhamant y rhyfel a'r fuddugoliaeth oddi arnom, y bydd i lawer ohonom fynd yn ddicra am gyflwr ein gwlad, Os felly y digwydd, fe brawf nad oeddym o'r blaen tan lywodraeth yr egwyddor wladgar, eithr mai rhyw dwymyn a'n daliodd dros amser- twymyn yn cadi o hinsawdd anghyffredin, ac yn cilio pan gyfnewidio'r hin. Ond i ddychwelyd at Gynghrair y Cenhedloed/^ dyma rywbeth i bawb sy'n caru gorcu dynoliaeth ganoli eu holl egnion ar geisio'i sylweddoli. Ni fu'r cenhedloedd erioed yn y fath ffwrnais o'r blaen, a gellsid disgwyl iadyns fod, fel eynifer o farrau ha earn, I mewn cyflwr addas i'w goscd ar einicJi Cynghrair, a'u cystwyo i undeb a'i Fel y crybwyllasom dro'n ol, ofnwn na syiweddQlir y delfryd hwnnw'n fuan, ac ni ellir y gwir ufidob hyd oni newiuir calon fawr y byd. Ond daeth yr aaeg fwj"iif cyfleus i sicrhau trefniadau ffafriol i heddwch rbyng- wladwriaethol a gafwyd erioed o'r blaetl. Tybiwn weld cysgodau Henry Richard ac Eleazar Roberts yn dod amom Bu'r cyntaf ar ymdaith trwy Ewrop, ac yn ymbil a phenaethiaid y teyrnasoedd ar ran cyflafar- eddiad yn lie rhyfel, a bu'r Meddyliwr am. ryddawn yn dadlu dros yr un pwnc ar lwyfan a thrwy wasg. Y mae gennym heddyw Gymro ag y gwrandewir ei lais yng nghynghorau'r teyrnasoedd, ac yn un o'r nerthoedd mwyaf yn y byd yng Nghynghrair y Cenhedloedd ac mae amom hefyd eisieu dadleuwyr dros heddwch adref yn ein plith ein hunain. Rhaid wrth y naill a'r llall. Y ffordd y gall y mwyafrif ohonom weithio i bwrpas yn ffafr Heddwch cyffredinol yw drwy ddechreu'n y cylchoedd uniongyrch yr ydym ynddynt. Y cymorth mwyaf i undeb cenhedloedd fydd undeb heddychol pob cenedl a hi ei hun. Ynfydrwydd yw inni ddeisyf undeb rhwng cenhedloedd y byd a'i gilydd os byddwn ni ein hunain, ddosbarth a dosbarth, blaid a phlaid, sect a sect, mewn ymrafael parhaus a'n gilydd. Y fendith fawr a ddylai ddilyn yrArmagedon erchyll yw i bawb ohonom gredu mor gryf yng Nghynghrair y Cenhedloedd nes plygu ohonom bob gallu a feddwn i'w amcan gogoneddus.