Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
8 erthygl ar y dudalen hon
YM SYTH O'R SENEDD I
YM SYTH O'R SENEDD I Ac i ddod Bob Wythnos. I [GAN mm GOHEBYDD ABBEIMIO]. I Llvn lain, Nos Lun, 7 jviiJ19i9_ I Pan ddaeth Cymro pennatr I byd adre. TAXR teymged hynotaf a mwyaf tarawiado wythnos Heddwch oedd teyrnged y Brenin i'w Brif Weinidog, teyrnged y Werin i'w Brenin a'i etifedd, a theyrnged Ty'r Cyffredin i'w Harweinydd. Amhosibl meddwl am y Frenhines Victoria, nac yn wir am Edward Frenin, yn cyrchu i Orsaf y Railway ar nos Sul i groes^wu unrhyw un o'u gweinidog- ion. Ond y mae'r Branin Sior yn deall oalon ei bobl, ac aeth jyn nes atynt nag erioed towy dalu parch i drefnydd Heddwch, a thrwy ei hynawsedd boneddigaidd tuagat Mrs. Lloyd George. Talodd ei bobl yr eohwyn adre iddo, oblegid ymgasglasant wrth y miloedd o dan furiau pal as Bucking- ham, a rhoddasant iddo ef a'i briod, ac i Dywysog Cymru, y fath arddangosiad o deyrngarwch na welwyd ond odid erioed ei gyffelyb. Ac am y drydedd deyrnged yn Nhy'r Cyffredin, pwy, a'i gwelodd ac a'i elywodd, a all byth ei hanghofio ? Pan ymddangosodd Mr. Lloyd George cododd y Ty ar flaenau ei draed (pob un oddigerth un Hogge a'i gydymaith), a rhoddwyd iddo dderbyniad mor wresog nes ei lwyr doddi. Ar ran yr Wrthblaid Ryddfrydol llefarodd ] Mr. Donald Maclean eiriau diolchus a chroesawus, a dangosodd Ty cyfan ei werth- fawrogiad trylwyr o'r gwasanaeth a gyf- lawnodd Cymro penna'r byd i'r Ymherodr- aeth. A phan chwythodd i'w I Utgorn Arian. Ond yr oedd yr hyn a ddigwyddodd ddydd Tau yn fwy significant, fel y dywed y Sais, na hyd yn oed y derbyniad brynhawn dydd Llun. Daeth Mr. Lloyd George i'r Tý yn *r blinedig gan bwysau gofalon, yn dioddef oddiwrth effeithiau misoedd o or- lafur, yn plygu o dan ddylanwad gwrth- weithiad y dyddiau diweddaf, ac o anghen- jheidrwydd yn llawn pryderon ynghylch galwadau'r dyfodol; ond teimlai fod yn rhaid cyfarfod y ddyletswydd o roddi cyfrif o'i oruchwyliaeth trwy'r holl argyfwng mawr yr aethpwyd trwyddo. Er gwaetha blinder sorff a phryder enaid, fe gyflawnodd y ddyletswydd; mwy na hynny, fc argyhoedd- edd ei wrandawyr-ac yr oedd yno am- heuwyr yn eu plith-fod Prydain yn ystod yr holl drafodaeth, er pan derfynwyd y Rhyfel, wedi gweithredu'n ddoeth, yn gyf- iawn, yn gymedrol ac yn drugarog. Ar ddalennau Hanes vn y canrifoedd i ddod, aid argre fLr dim ijiwv aid argrefir dim mwy gwir darawiadol na'r adroddiad am gampwaith y gwr o Gymro a gadwodd yn fyw Wareiddiad y Byd. Anghaffael Trwstan. j I "Defeat o] the Government!" crocMefal hysbyslenni'r newyddiaduron ddydd Gwener, ac yn wir bu'r Weinyddiaeth yn y lleiafrif yn un o ymraniadau'r prynhawn. Heddyw y mae Mr. Wedgwood Benn yn mynd i ofyn beth yw bwriadau'r Weinyddiaeth yn wyneb yr anghaffael." Nid yw'n debyg y rhydd Mr. Bonar Law ryw lawer o gymir iddo yn ei atebiad. Bwnglereiddiwch a chamddealltwriaeth oedd wrth wraidd y cyfan. Mesur Plaid Llafur—un i estyn breintiau'r marched—oedd dan sylw. Mae'r weinyddiaeth, i fesur, yn cydnabod egwyddor yr estyniad, oncf nid ydynt yn fodlon i'r trefniad a gynhygir oblegid hynny gwrth- wynebasant y trydydd darlleniad. Yr oedd Iliaws o'u canlynwyr, o'r ochr arall, yn rhwymedig i'r rhyw fenywaidd; ac yn hytrach na throseddu yn erbyn y rheiny, pleidleisiasant yn erbyn y Weinyddiaeth. Fel arfer, ymrannodd y Blaid Gymreig. Ymhlith eraill pleidleisiodd Syr Owen Thomas, Cymol Parry, a Major Morgan dros Mesur; pleidleisiodd Mr. Herbert Lewis, Syr D. S. Davies, a Mr. Lewis Haslam dros y Weinyddiaeth. Fel yr awgrymwyd, car- iwyd y trydydd darlleniad, ond ni ym- ddiswyddodd y Weinyddiaeth o dan yr amgylchiadau. Y cwestiwn yn awr yw beth fydd tynged y Mesur yn Nhy'r Arglwyddi ? I Yr olew a'r finegr yn nacau cymysgu I Gwyr y rhai sy'n talu sylw i'r golofn hon fod gennym yn y Senedd yn awr ddwy Blaid Gymreig, sef y Welsh National Party, lie ceisir cyfuno Rbyddfrydiaeth, Toriaeth a Llafur o dan arweiniad Mr. Thomas Richards a'r Welsh Liberal Parliamentary Party, sef yr hon sy'n weddill o hen yd y wlad, 0 dan reolaeth Mr. Vaughan Davies. Mae'r blaid gyntaf yn hollol genedlaethol ar fater- ion anwleidyddol; a gellid meddwl fod ,Cymru'n un pan gyferfydd o gwmpas yr horse shoe table yn No. 7. Ond nid peth hawdd, fel y gwyI' llawer, yw cymysgu finegr ac olew. Ac y mae'r National Welsh Party ym methu dal yn un ar Iwyfan etholiad Abertawe. Tra y mae Syr Edgar Jones, Major Edwards, Mr. John Hinds a Mr. Hugh Edwards yno'n cefnogi'r Henadur David Mathews (fel dilynydd i Mr. T. J. Williams), y mae Mr. Wm. Brace (cyn-is-ysgrifennydd y Swyddfa Gartrefol) a Mr. Thomas Griffiths (disodlwr Mr. McKenna) yno'n cynnal breichiau ei wrthwynebydd, Mr. David Williams. Mae'r ddau yn proffesu rhyw fath ar Ryddfrydiaeth, ond nid yw'r National WeUh Party yn abl i gymysgu eu helfennau fel y dymunir. Ac yn hyn fe wel rhai ddech. I reuad yr ymddatodiad. I Ormsby Gore, o bawb. Y mae Mr. Ormsby Gore, yntau hefyd' ymhlith y proffwydi. Chwi a'i cofiwch yn yr amser aeth heibio yn cynrychioli Torlaid Bwrdeisdrefi Dinbych cynxychiola ar hyn o bryd Doïraid Stafford. Ar wahan i hynny, ef ydyw etifedd Arglwydd Harlechj ac mae'n briod & merch i Ardalydd Salisbury. Ond er gwaetha'r amgylchedd, ceir fod gan Mr. Ormsby Gore ei fam bersonol ei hun ar bynciau gwleidyddol. Yn yr Ob- server am ddoe-papur Mr. J. L. Garvin yw'r Ob&erver—cawn yr aelod dros Stafford yn cynghori'r Prif Weinidog sut i ail drefnu'r Cabinet. Nid oes dim nodedig yn hynny, oblegid y mae bron bawb (nes y d6nt i le cyfyng) yn tybio'u hunain yn ddigon doeth i ddysgu Mr. Lloyd George sut y dylai ymlwybro. Yn ffodus, nid yw'r gwr biau Bryn Awelon yn talu nemor sylw iddynt. Yr hyn sydd yn hynod yn nhraethiad Mr. Ormsby Gore yw, nid ei gyngor, ond ei farn ynghyleh- mhlith pethau eraill-Ym- reolaeth Hwyrach mai un o..ddisgyblion ymarhous Mr. E. T. John ydyw, Nid ydyw hyd yn hyn wedi cyrraedd tir "iperffaith ryddid ei gyd-gynrychiolydd gynt yn Ninbych, ond y mae wedi dod i gredu yn devolution ac i'w bregethu'n ddifloesgni. Ac yn «icr y mae clywed Mr, Ormeby Gore, o bawb, yn yngan y shiboleth mor groew, yn un o arwyddion yr amserau. Bob yn Bwtll Nos Wener bu Syr Robert Thomas yn cefnogi'r Victory Loan mewn cyngerdd Cymreig yn yr Albert Hall. Gyd a'i haelioni arferol, cyfrannodd hanner can punt tuag at y treuliau. Tybed fod gwir yn y chwedl fod un o weinidogion Cymreig Llundain wedi gwrthod caniatad i ganu God ave the King yn ei gape] ar Sul Heddwch ? Anodd iawn credu'r stori, ond fe'i taenir. Nid yw'r Mil Blynyddoedd wedi gwawrio eto, ond yn sicr mae'r enwadau yn dod yn nes at ei gilydd. Bore ddoe gwelid hanner dwsin o Anghydffurfwyr yn eymryd rhan yn yr Orymdaith yn Eglwys Sant Paul. Neithiwr clywsom fod Mr. a Mrs. J Hinds, colofnau'r achos yn Castle Street (B.), yn cymryd rhan yn y gwasanaeth yn Jewin (M.C.). Hen Gymdeithas Hynafiaethol enwog yw'r Cambrian Archaeological Association, sydd bellach tros 70 mlwydd oed. Methodd gynnal ei gwyliau blynyddol yn ystod y Rhyfel, ond cyferfydd eleni yn Nolgellau, yr ail wythnos yn Awst. Syr Vincent Evans, F.S.A., sy'n dilyn yr Athro Boyd Dawkins o Fanchester yn y Llywyddiaeth. Yn ystod yr wythnos, ymwelir k Chymmer, Tomen y Mur, Corsygedol, Carneddau Hen- gwm, Gwern y Capel, Cam Dochan, Caergai, Nannau, Llangelynen, TOWYll a Chastell y Bere.
Advertising
Y BRYTHON," will be delivered free by post to any address in the U.K. or abroad at the following rates. *Home Abroad Three Months .2 /g 3/3 Six Months 5/5 .6/6 Shorter Periods, 1/- per month. ALL SUBSCRIPTIONS ARE PAYABLE IN ADVANCE. PREPAID ADVERTISEMENT RATES. Births, Marriages, Deaths, Situations Vacant Article for Sale, Wanted, Apartments, etc. 12 words 1/6 per insertion 2.4" 36" 5° » 3-6 » » This Scale applies to private indiriduals only. Announcements of public bodies, concerts, meetings, Trade Advertisments etc. on application. HUGH Ev ANa & SONS, 3SS Stanley Road, Liverpool.
BIccfitanlinsLi
BIccfitanlinsL i OHONO'I HUN Y DWEDODD.—Ebe Mr. E. Beynon Davies, is-olygydd Y Gorlan, misolyn eglwys Charing Cross Road, Llun- dain, yn rhifyn Mehefin Bron na chredwn y dylasai pob Cymro gwladgarol a llengar ddarllen Y Brython "—pe Mi ond fel mater, 0 ymarferiad i gadw'i chwaeth yn bur a'i iaith yn loew." Yn gwbl ohono'i hun y dwedodd hyn, nid oblegid i ni na neb arall bwnio'i benelin yn ddistaw bach o'r tu cefn. Ffordd honno y caiff rhai papurau eu plu benthyg. Ond tyfu ddylai plu, fel popeth iawn a byw. UN 0 DDYNION MYW A'R OESOEDD. Dyma ichwi bwt o'r hyn a ddywedodd Esgob Llanelwy am y Prif Weinidog, wrth siarad yng nghyfarfod gwobrwyo disgleir- ion Ysgol Sir Abergele ddydd Mercher diweddaf. Y mae'n werth ei gyfieithu Y mae'r Cymry'n bobl falch heddyw, oblegid hawliant fel eu cydwJadwr un o'r dynion hynotaf mewn hanes. Ystyriaf fod y Prif Weinidog wedi gwneuth- ur yr Ymherodraeth yn ddiogel, ac wedi gwneuthur Cymru'n anfarwol a pharha am byth bellach ymysg y rhai blaenaf o anfarwolion yr hil ddynol (mawr guro ar draed a dwylo). Yr oedd yn ddyn rhy fawr bellach i falio beth a ddywedai neb amdano i'w ganmol ond ei yrfa fo ydyw'r yrfa fwyaf rhyfeddol a rhamantus yn holl hanes Prydain Fawr. Deuthai a chlod ar Gymru, ac nid perthynasau tlodion mo'r Cymry erbyn hyn. Yr ydym yn bobl fawr heddyw, cofiwch hynny. Y mae hyn yn deimlad newydd sbon inni, a rhaid imi addef fy mod yn ei hoffi (chwerthin a churo troed a dwyJo drachefn am yn hir). Nes oedd y cyfarfod wedi poethi'n eirias erbyn i Mrs. Edwards, priod yr Esgob, godi i rannu'r gwobrwyon. V'I8'W "011 GW AELEDD CAD FAN.—Blin gan bawb oedd clywed i'r Parch. J. Cadfan Davies (Cadfan) gael ei daro'n wael yn Barri ddydd Cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol 1920 bythefnos yn ol. Bu'n anymwybodot am beth amser, ond daeth ato'i hun toe, a'r newydd diweddaraf ydyw ei fod yn gwella'n raddol raddol. Mae'n debyg na fu erioed Eisteddfodwr mwy eiddgar na Chadfan. Y mae iddo le anrhydeddus ymysg beirdd a phregethwyr ei oes; ac un o wleddoedd yr tvyl fyddai gwrando'i lais cryf, clochaidd, yn treiddio mor ddi- drafferth i bellafoedd y babell helaethaf yn y wlad, SUT Y JIAE HI'N GOLYGU TUA CHORWENl—Disgwyl pethau mawr mawr y mae Corwen yn yr Eisteddfod sy gerllaw. Dyma rai pethau sy'n cael eu gwneuthur partoi ysgolion bob dydd y dre i' fod yn gysgle i'r corau; partoi cronfa arall o ddwr, yn chwanegol at yr hon sydd yno eisoes, rhag bod prinder; swn hoelio a morthwylio mawr ar y babell sy'n cael ei helaethu i gynnwys y rhan fwyaf beth bynnag o'r dyrfa anferth sy'n sicr o helcyd tuag yno; y mae yna ddigon o fwyd, ac ni raid i neb ddod a dim o hwnnw gydag o, i sbybio ei ddillad a'u seimio'n hyll y mae'r cwmnloedd am ollwng digon o drenau at ddyddiau'r Wyl ac yn dda iawn, y mae'r LIywodraeth wedi caniatau i gorau. plant gael mynd yno'nol ac ymlaen am hemic r bris un ffordd. "Pwy sy'n mynd i ennill y Gadair eleni, tybed ?" ebe un "Y Goron?" ebe'r Hall. Dioddefwch eich cnoi nes daw adeg itwybod a ebyhoeddi.1 CYMRY SHANGHAI Cafodd Mr. W. R. Owen, Llundain (Lerpwl gynt) 1]21 oddiwrth Gymrodorion Shanghai, China bell, at drysorfa Glewion y Gogledd, ynghyd ailythyr oddiwrth Mr.W. J. Williams,brodor o Lanfair P.G., Mon, Y mae rhywbeth tlws a chu ymhopeth pell, yn enwedig at amcan mor dda. CYNYRCHION CORTVEN.-Dynia rif y cyfansoddiadau, etc., sydd wedi cyrraedd yr ysgrifenyddion erbyn Eisteddfod Corwen y mis nesaf :—Tr'aethawd, Cyjraniad Cymru i'r Ymherodraeth Brydeinig, 4. Eto, Cynghrairy Cenhedloedd, etc., 15. Y casgliad goreu o enwau lleocdd Meirionydd, 4. Y ddwy don oreu, 123. Awdl y Gadair, 18. Pryddcst y Goron, 18. Myfyrdraeth, Wrth fedd Hedd Wyn, 5. Cywydd, 6. Tair Telyneg, 22. Soned, 41, Darn i'w ladroddi 15. Emyn, Ymostyngiad, etc., 54. Emyn, Dathliad Heddwch, 52. Englyn, 236 (!). Deunaw o Benillion Telyn, 14. Darn bardd- onol Y Cynhaeaf, 3. Traethawd ar Bergson, 5. Eto ar Edward Samuel, 8. Gwerslyfr Diwyllio Tir, 3.Traethawd ar Eben Fardd, 3. Eto ar Fywyd Gwledig unrhyw Gwmwd, 5. Deg stori-dim ymgeisydii. Y Tair Pennod Olaf o Hunan-gofiant, etc., dim ymgeisydd. Ysgrifau Eglurhaol, 1. Cyfieithu Hen Lane Ty'n y Mynydd, 46. Eto o'r Ffrangeg i Gymraeg, 3. Eto, o Saesneg■ i Gymraeg, 12. Eto, o Gymraeg i Saesneg, 15. Adroddiadau Glyn Dwr, 45 Slave's Dream, 33 Dafydd y Garreg Wen, 25 Ynys yr Hud, 8 Eistedd- fod y Plant, 53 CAN a Pedwarawd, 5; Deuawd tenor a bass, 30; unawd soprano, 56; unawd mezzo soprano, 11; unawd contralto, 43; unawd tenor, 51; unawd baritone, 51 unawd i enethod dan 18, 33; unawd arbennig (baritone), 36. Canu penillion (dull y Gogledd), 11 canu gyd ft'r tannau (dan 18), 10; unawd i fechgyn dan 18, 23; unawd i enethod dan 16, 41. Offerynnol unawd y delyn deires, 2 unawd y delyn droed, 7; triawd offerynnol, 4; unawd 'cello, 5; unawd crwth, 9; unawd crwth (dan 16), 15; ar y piano (agored), 53 ar y piano (dan 16), 56 trefn. i gerddor- fa fach, 2 cyfansoddi canig, 5 casgliad o donau Cymreig, 21. Cyfanrif y celfyddydau a'r crefftau, 183. Ac am y 90 o gorau, sy'n mynd i dynnu'r dorch, ymddangosodd eu henwau hwy yn ein rhifyn diweddaf. ■ -■ 0
[No title]
Hysbysa Cyfarwyddwyr y London Joint City and Midland Bank, Limited rynglog' am yr hanner blwyddyn ddiweddaf yn ol 18 y cant yn flynyddol wedi tynnu Treth yr Incwm, taladwy ar y i8fed cyfisol. Yr oedd rhanlog y tymor cyfatebol y lyxiedd yn ol graddfa gyffelyb.
Clep y Clawdd
Clep y Clawdd 1 {jroeni r Heli.—Mae rhyw ysfa ym mhobl y Clawdd y dyddiau hyn i fynd am dro at y mor mewn modurau a cherbydau. GweIir hwy ar y ffyrdd yn codi cymylau o Iwch ar eu hynt. Da yw tipyn o gyfnewid, ond nid da y modd y gwerir arian mor ddireol i gyrraedd yr amcan. Hefyd torrir y Sabothau yn ddiseremoni i fynd am y trip- iau hyn. Rhaid galw sylw'r wlad at y peth. Ffroth civrzo ar eich canit tnazol.—Direol iawn yw y ffordd y gorfoleddir yn yr Oruchafiaeth ar y gelyn. Nid oes weledigaeth glir pa Sabath sydd oreu i'r gwaith o dalu teymged diolch i'r Goruchaf, ac nid oes, hyd yn hyn, unrhyw unffurfiaeth yn y cynllun Da fyddai i bwyllgor gyfarfod i ddwyn pobl y Clawdd ar ei gliniau i gyd yr un dydd, ac i godi can o fawl yr un ffordd, i'r Duw a'n gwaredodd. Heb hyn, rhanedig iawn fydd y peth. Rhaid cymryd mawr ofal hefyd rhag i dduw Bachue gael ei gydnabod yn bennaf. r byd yn tynnu bet iddo.-Mae y Clawdd yn siriol drwyddo oherwydd y mawr fri y mae y Brenin wedi ei osod ar Mr. Lloyd George. Ni allai dim fod yn well. Da hefyd fod y Prif Weinidog yn dal mor braff yn ei iechyd. Tro i'w gofio oedd gweld y Brenin a'r Tywysog ynghyd yn yr orsaf yn cyfarfod y tren oedd yn dwyn y Llwyd bach o Eifion o'r Cyfandir. Ac nid oedd trigolion y Brifddinas yr un iod yn ol !'w Brenin yn eu gwrogaeth iddo. Corwen Corwen !-Mawr yw'r partoi ar gyfer yr Eisteddfod. Nid oes eto ond mis byr. Anodd fydd i'r lluoedd ddaw gael llety. Mae pob stol bron wedi ei chymryd ers tro, rhwng Gwrecsam a'r Bala. Fe ga y Prif Weinidog dderbyniad digyffelyb ar ei ddyfodiadj yno. Mae Gwrecsam wedi fyrthic mewn cariad ag ef, ac am daflu ei breichiau am ei wddf. Gwncir hynny wythnos 11 Eisteddfod. Rhyfedd fydd gofyn "A oes heddwch?" yn y babell, a'r Prif yno wedi gwneud heddwch ihwng y cenhedloedd. Siom Caer.—Disgwylid y buasai Esgob LJanelwy yn cael ei ddyrchafu i Esgobaeth Caer; ond sum fu i lawer o bobl, os nad iddo fo. Crcdir ei fed ém- dani, a chred Ilawer mae da fyddai iddo groesi'r Clawdd am dro. Ond, nid fel y meddwl dyn y medd- wl yr awdurdodau. Ond llwyddwyd, meddir, i gael dyn da. i Teyrnged yr Esgob.—Dywedodd Esgob Llanelwy bethau gogoneddus yr wythnos ddiweddaf TJU Lloy r George. Gesyd ef mor uchel fel na all byth ei ddymchwelyd mwy. Da iawn, yr Esgob. Ni ddywedeochddimgwell o'ch pulpud erioed, na dhn mwy gwir. Daliwch ati. Mae'r Llwyd Bach j ;• werth ei ganmol. Pregethu i'r dyn i gyd.—Pwlston a'r Doctor o'r Lodge a bregethai yng nghyfarfodydd blynycMol Rhosrobin y flwyddyn hon a chaed hwyJ. Caec efengyl i'r corff ac i'r enaid.
Advertising
VS3ME3BIZSR For JOINEKS, CONIRACIOIRS and BUILDERS' REQUHMIMS 6: Sawn to sizes, byilatcst FVfschirery at fewest Prices. SAML.a STOTT & Co., Ltd., "d. W. ROBERTS. ManagE r. TIMB[R MERCHANTS, SAW IVll L VIOPEIE]CRS cud E(,,X MAMFACIURIRS. Offices —31 and 33 GARDNERS ROW, LIVERPOOL. Saw Mills and Box Works-ORIEL STREET. Yards—ORIELVST. and NAYLCR STREET. EITELEGRAMS.-I, STRENGTH." 'PHONE 1703 Central (2 lines.) Planing and aHg kinds of machine^ work promptly- executed. MONEY MAKES JMCOXsTE 8at Farmers, Dealers, Tradesmen and others,[requiring temporary CASK ADVANCES forlBusinesslPurposes can be read- ilyO"Lacccirrrcdated om:, moderate terms. Established 1870. confidence to GEORGEPA YNE & SONS, 3 CRESCENT! ROAD, RHVL- 000000000000,0000000000000000000000 1 AUR SICNnC90D LUCJf" f ? \? ??— ? lm g O GUJNEA HALF-DOZEN g s J????" ?/y???BTA7L?LS?\<\?..?'s?T S COTD «ST O o s WEDDING ??v ELECTZO- O 8 R)NCS t 1 il UwEDDlMC/ j/iSSt iO g  \A ?SPOONS ? ??' ? f EACH s \V )\ RnIiNllCASA (/ rs I g /?!S??(?-\?? \?l!P\fKS?uO?!? i OF A RINCI § 0 0 ?LL'???E?eEME!!imS i 0 AT PR!C?S TbS?TAL? 8 0 # eAL!?8 LUCKY WCODIHC RlNCDCTeV. Q 0 FTMSTR SIU CA«DS POST RSTK. 33, LowooN RoAo. LIVERPOOL. Poooooooooooooooooooooooooooooooooi NEW SONG (CAN NEWYDD), Bells of Peace" (C ycbau ,tiedd), Welsh words and Music by C. E. WILLIAMS! English words by Rev, 0..1 AD 4kM I,, B.A (Hawen). IN TWO KEYS, No J, Soprano or Tenor; No. 2. Contralto, Bass or Baritone- Suitable for Concerts and Eisteddfodau. 0 N. and Sol-fa combined; Price, post free 2/1 Nett. This fine Song is dedicated to the Whole World, and will be sung with immense- success by all Lovens of Peace. Pablish ed by D. R. JONES (Alaw Madog)- EISTEDDFOD MUSIC STOBES,25^ For Bedsteads and Bedding, W. WHITTLE- SON & StOTT, LTD. 116, 118 <» U0 WHITECFLAPEL, LIVERPOOL. 0 0 0 I Telephone 2137 Royal
Llyfrau Hen a Newydd.
Llyfrau Hen a Newydd. 10 Vol. Cwyddionadur, heb fod yn unffuri o ran rhwymiad, £ 2/10/ Geiriadur Charles 12/6. 3 Vols. "Esbcniad ar yr holl Feibi," gan J. Jenkins, Hengoed. Lledr Hardd, 17/6. "Cambria Sacra," sef Ilistory of Early British Christians, 7/0. Cofiantau Christmas Evans, Thos. Jones, Itinbyeh, D. Lloyd Jones, Llandinam, a llu eraillj JOEN EVANS, Llyfrwerwerthwr, 14 Wartoi Street, Caerdydd a Marcbnadfa, Pontypridd.
Advertising
mlynedd diweddaf. Da gennym am y bwr- iad i'w anrhydeddu yno gan ei gymdogion a'i gydwladwyr. Anrhydeddant eu hunain drwy hynny. Da gennym, yn anad dim, ei fod i gael gorffwy3 ennyd. Dywedid fod ei wedd yn llwytach a'i ddeurudd yn deneuacb nag arfer fel y safai i annerch Ty'r Cyffredin y dydd o'r blaen. Pa ryfedd ? Y rhyfeddod yw fod ganddo ddeurudd 6 gwbl i'w dangos i neb erbyn hyn. Onid dyma'r Gwas a lafuriodd galetaf trwy'r Armagedon i gyd ? Cydiodd yn ei waith ar unwaith, ymdafiodd iddo gorff ac enaid, a daliodd ato hyd i'r diwedd. Pwy bynnag oedd yn diffygio, ac yn cefnu, daliai et ymlaen. Pwy bynnag oedd yn gwan-galonni, llewyrchai hyder anniffodd yn ei wyneb ef. Pwy bynnag oedd yn beirniadu, âi ef ymlaen a'i waith. Er cael ohono'i ddirmygu, a rhai o'i genedl ef ei hun yn cymorth yr erlidwyr, cadwodd olwg ar ei nod yn ddiwyrni, ddiencil. Clyw- iom droeon furmurtebyg i gwerylon o gyf- eiriad y Llywodraeth ac uchel awdurdodau rhyfel, a gwyr fu enwog gynt yn dyfod allan, neu'n cael eu bwrw allan, o'u safleoedd: ond ar derfyn pob ffrwgwd a chyfnewid, ceid fod y Cymro rhyfeddol hwn yn parhau i wasanaethu ei wlad, a'i gymorth yn an- hepgor. Gwelsom ef yn Eisteddfod Bangor, a'i wyneb yn welw, ei wallt yn gwynnu'n Thy gynnar, a'i eiriau'n angerdd gwlatgar a dyngar, a Rwsia orchfygedig yn peri cryn- dod i'w acenion ond, er hynny, yn mynnu byderu, ac yn dal ei wyneb i gyfeiriad y wawr. Gan nad pwy oedd mewn awdurdod, bwrid y problemau mwyaf dyrya o hyd ar ben y dyn hwn. ai dros y Sianel i Ffrainc i ganol ami astrusi yno, a'r rhai a ddygid yho o wledydd ereill ac nid eithriad o beth fu ei alw'n ol i geisio setlo ryw gweryl cartrefol nad allai neb arall. Hawdd gennym gredu mai gwir a glywsom fod y peryglon y bu ei fywyd ynddynt yn llawer mwy nag y gwyr y cyhoedd. Beth na thalasai y gelyn am gymryd y castell cadarnaf a feddai Prydain Fawr yn ei erbyn-pen Mr. Lloyd George Dywedwyd ddarfod iddo osod ei hun yn nwylo Arglwydd Northcliffe; ond i'r gwrth- wyneb y digwyddodd-Arglwydd North- cliffe a roddes ei hun yn nwylo Mr. Lloyd George, a thruan o'r olwg oedd ar y pendefig wedyn Do, fe weithiodd y Gwas Mawr hwn i Brydain yn ddidrugaredd ato'i hun. Gwaredodd ei wlad rhag ei llnrpio gan y Baedd Gwyllt. Aeth o Gricieth i'r Senedd y tro cyntaf yn laslanc dibrofiad, ond talentog a dewr. Dychwelodd yno lawer tro wedyn wedi ymladd brwydrau ac ennill buddugol- iaethau dros ei genedl ei hun, a thros werin y Deyrnas Gyfunol. Aiff adref y tro hwn wedi ennill buddugoliaeth dros heddwch a rhyddid yr holl genhedloedd, ac yn arwr yng nghyfrif yr holl fyd. Cafodd y bachgen o Cyiiiro a arferai drafod cytundebau man ffermydd ei gwmwd yn Eifionydd yr hawl i osod ei sel ar y Cytundeb Heddwch yn Yersailles-o ffermydd i deyrnasoedd. Pryd- ferth oedd i'r Brenin gymryd Mrs. Lloyd George yn ei fraich, a bod y Dr. a Mrs. Evans yn y cwmni. Ond, wedi'r cyfan, pan gyrhaeddant i'r dref fechan yn Eifionydd, fe geir gweld ym Mr. a Mrs. Lloyd George ddeuddyn nad yw'r anrhydedd uchaf y gallsai Ymherodraeth Prydain Fawr ei osod ar neb wedi newid dim ar eu symledd natur- iol a dirodres. Ond mae ar y dyn a weithiodd mor galed, o ddechreu'r Armagedon i'w diwedd, eisieu gorffwys. BoedNawd d Duw a'i Dangnef dros y Bryn Awelon -0--