Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
9 erthygl ar y dudalen hon
Gorseinon a'r Cylch. ,
Gorseinon a'r Cylch. Anturiodd llu mawr o'n hardalwyr ar eu gwyliau eleni i wahanol gyfeiriadau, er nad oes son fod neb o honyiat wedi mynd yn bell, bell. Mwmblvls, Llan- stephan, Caerfyrddin, Llanwrtyd, a Llandrindod yw yr enwau a glywir gan y rhai fu ar eu hynt. Gwelwyd amryw hefyd o ymwelwyr yn ein hardal ninnau yn dod i geisio cyfnewidiad, a mwyn: hau awyr gwlad agored, o gymoedd y Rhondda, a'r rhai cyfagos, ac ambell un wedi dod o ardaloedd gwledig Caer- fyrddin, a Phenfro. Diau iddynt gael llawer o foddlonrwydd a hyfrydwch tra yn ein plith, ac y bydd yr adgofion yn felys mewn dyddiau i ddod. Sydyn iawn oedd marwolaeth Mr. J. G. Jenkins, Gowerton, y dydd o'r blaen. Dod i'r ty oddiwrth ei alwed- igaeth, a chwyno wrth y wraig nad oedd yn teimlo yn dda, gan ofyn am wydriad o ddwr. Aeth hithau i'w weini, ond cyn ei bod wedi cyrraedd yn ol, yr oedd ei gwr wedi huno yn yr angeu, yn ddwy a deugain oed, gan adael gweddw a dau fachgen, un-ar- ddeg a naw oed, ar ei ol. Yr oedd yn wr byw, gwasanaethgar iawn mewn eglwys a chymdeithas. Efe oedd ar- weinydd Parti Meibion Gowerton, ac yr oedd yn awyddus i'r cor i godi i safle anrhydeddus. Efe hefyd oedd ysgrif- ennydd Cymanfa^ Gerddorol Brynteg, a'r Cylch er's blynyddau. Dwy flyn- edd i Gymanfa y Pasc diweddaf cafodd ei anrhegu yn y Gymanfp, am ei sel a'i ffyddlondeb yn ei waith. Daeth llu mawr o wyr bucheddol a pharchus i'r angladd. Mae y Parch. R. W. Davies, gwein- idog Horeb, Casllwchwr, yn ymddeol o'i ofal gweinidogaethol ar gyngor ei feddyg. Nid yw wedi gallu pregethu dim er's blwyddyn. Bu ar ymweliadau ag Aberaeron, a Llanwrtyd, a Llan- brynmair (ei ardal enedigol), er ceisio adferiad iechyd, ond heb dderbyn fawr lies hyd yn hyn. Syrjquda yn awr i Aberaeron, gan obeithio y bydd hynny yn fantais iddo i ail-feddianu ei nerth. Mae yr eglwys a'r- ardal wrthi yn ddiwyd yn gwneud tysteb ioclo cyn ymadael, a chlywn fod swm anrhyd- eddus yn lied debyg o gael ei chyflwyno iddo. '?*?-?'
" SARZINE" BLOOD MIXTURE.…
SARZINE" BLOOD MIXTURE. I CROEN IACH A GWAED PUR.— Dyna yr hyn y mae Sarzine Blood Mix- ture yn ei sicrhau, a dim arall. Nid yw yn honi gwella pob peth, fel yr Yankee Patent Medicines, ond os blinir chwi gan groen afiach, ysfa, pimples, toriad allan Scurvy, doluriau, pen dynod, &c., yn tarddu o waed drwf-r ac anmhur, mynwch botelaid o Sarzine Blood Mixture' gan y Druggist nesaf atoch, iji\ a 2/6 y botel, neu gyda 3c. at y cludiad yn HUGH DAVIES, Chemist, MACHYNLLETH.
Mynyddcerrig. I
Mynyddcerrig. I Cafwyd y fraint o roesawu un. 01 ddewrion y mynydd adref am seibiant o faes y gad, sef Lance Corpl. William James, M.M. a D.C.M., mab Mr a Mrs J James James, Bryncrwn. Bu ar fin I dwy flynedd mewn brwydro caled yn Flanders, ac wedi ennill anrhydedd 1 iddo ei nun, fel y gwelir oddiwrth ei deitlau.—Dolaufryn.
Advertising
  LE GRAVEL n f B tBr I L L S I MIRACULOUS EFFECTS! I have suffered from Pile and Gravel for four years, during which time I was quite disabled, and never, during this time, had a whole night's rest. I was at last induced to try a box of your Pile and Gravel Pills, and incredible as it may appear, after I had taken but, a few doses, I felt as if I had had another body. Encouraged by tht effects of one box, I took another, and now I am free from all pain, a living testimonial to the miraculous effects of these Pills. Yours truly D. WILLIAMS, I Penralltwen, Newcastle Emlyn. B IMMEDlATE RELIEF I I feel happy in bearing testimony to the efficacy I of your Pile and Gravel Pills in my own case. Also in numerous other painful cases of long sta g in which your Pills have given immediate reliet, iLi1 in a short time effected a perfect cure so the weak in faith may be assured of their efficacy to accomplish what they are professed to do. Yours truly, THOS. PHILLIPS, Grocer, etc., ■. Caeremlyn, near Whitland. Y mae y Feddyginiaeth werthfawr hon i'w ohael mewn tri ffurf. No. 1, George's Pile and Gravel Pills (label wen) No. 2. George's Gravel Pills (label las) No. 3. — George's Pills for the Piles (label goch.) I Gwerthir y Peleni Byd-glodus hyn yn mhob man, mown Blyohaa 1/3, a 3/. yr un. Gyda'r Post am 1/4 a 3/2. Goohelwoh Dwyllwyr I-Gofynweh yn eglur am "George' Pills," a gwelwch eich bod yn eu cael. PERCHENOG— 1 PERCHENOG- J. E. CERCE, M!.?{.P.8., HtRW?M, ME?ARE, I
Pererindod i Gefn Brith.
Pererindod i Gefn Brith. I CARTREF JOHN PENRY. (Parhad.) Trannoeth i'r pererindod cafwyd cyfarfod dan lywyddiaeth Mr. J. R. Davies, Abertawe, ger Ffynnon Vic- toria, Llanwrtyd, i ystyried y priodoldeb o gael cof-goiofn i J. Penry. Cyfarfod brwd oedd hwn eto. Wedi anerchiad byr gan y Parch. E. Evans, Gorwydd, cynhygiwyd gan yr Athro Levi ein bod yn symud i gael cof-golofn i J. Penry, rel1 fore Cymru Efengylaidd. Eiliwyd gan Mr. Clements, Abertawe, a chefnogwyd gan Mr. Edwards, Ystalyfera, a'r Parch. Deri Morgan. Yna dewiswyd pwyllgor i gario'r gwaith i ben, gyda Mr. J. R. Davies ya llywydd. Dydd Iau, yn g'ysylltiedig a'r cyfar- fod gweddi arferol, cafwyd eto anerchiad gan y Parch. E. Evans, Gorwydd, ar "Enwogion y Cylch." Cyfarfod y fendith oedd hwn, a phawb "yn nofio mewn cariad a hedd wrth gofio, am gymwynaswyr Cymru. Yma eto cadarnhawyd yr un penderfyniad, yn cael ei gefnogi gan y Parch. Stanley Jones, Caernarfon. Bwriedir i'r golofn fod ar, y Square yn Llanwrtyd, fel y gall plant ymwelwyr, meddai'r Parch. Stanley Jones, chwarae wrth ei thraed a gofyn Beth a wnaeth hwn ? Hyderwn na fydd i'r penderfyniad farw yn ddi-ffrwyth, ond y gwelir colofn deilwng o'r gwr a roddodd ei fywyd dros ei wlad, yn ei gariad at y goreu, a'i awydd i gael Cymru i Grist a Christ i Gymru. PLENA. ■ i.
IGemau Gwr o Gwmgarw.
Gemau Gwr o Gwmgarw. Pwy fuasai yn meddwl gweld englyn ar y fath destyn a "Rhedyn?" Beth bynnag, dymai chwi ddau a welais: Hyd lethrau bryniau 'mhob bro,—ceir rhedyn Cariadus i hudo Y diriniol-dir yno, A'i roddi'n grand o dan do. Gwallt rhad tir gwyllt yw rhedyn-yn orchudd Erchyll llawer tyddyn; Crwys yw o ar fro, neu fryn, Ond da'n faich o tan fochyn. Da gennyf allu eich hysbysu fod y gwrysg rhedyn yma yn ildio i'r gwrysg tatws eleni. Mae golwg leAvyrchus iawn ar lawer o'r caeau tatws yma, er i lawer o honynt gael eu plannu ar ddydd gwaharddedig, sef y Sul. Mae rhyw haint, er hynny, wedi gwneud ei ymddangosiad ar y gwrysg yn rhai o'r parthebau, ac mae'r parth- ebwyr wedi cymeryd at eu torri i ffwrdd o fewn i rhyw chwe' modfedd i'r pridd. Dyna'r feddyginiaeth oreu, mae'n debyg, o dan yr amgylchiadau. Achwyn mawr, ac ochain mwy, am wn i, fydd y bobl sydd wedi eu car- charu rhwng cilfachau hen fynyddoedd Cwmgarw yma'r dyddiau hyn ar y gwlaw parhaus ydym ni yn gael. Diolch wn, Mr. Gol., mai gwlaw yw. Pe cai'r gelynion eu ffordd, mae arnaf ofn y cawsem rywbeth gwahanol. WAETH PWY.
I- Llith y Cobler. i
Llith y Cobler. "Dyma fi wedi dod a'r Genhinen yn ol i chwi, a diolch calon am ei ben- thyg." "vVel, beth i ti'n feddwl am lith Tywi 1 Wyt ti wedi gweled i nod- iad e i'm llith ddiweddaf yn y Darian T' "N ac ydwyf yn wir, y mae'r tywydd wedi bod mor wlyb fel na chefais ham- dden na hin i fyned i'r Library yr wyth- nos ddiweddaf." I'r Library! os posib os taw yn y Library i ti'n gweld y Darian! Wra, dyma geiniog a dimai i ti, ac er mwyn dy hen wlad a'i hiaith I cer at yr hen wr tlawd sydd yn byw gyferbyn a thi a phryn y Darian i ti dy hun. Y mae meddwl am dy weith- red anwlatgar yn gwneud i'r chwys dascu o'm corff." "N awr, chwarae teg i mi, Mr. Cobler. Ofnaf y dylech roi ceiniog a dimai i luaws o Gymry heb- law fl. "Os posib bachan." "Wel, dyna'r Parch. bu fe a fi just ffraeo un tro o flaen y Darian yn y Library. Dywedais wrtho i fod a wedi bod am awr solid yn darllan, a dylai, rhag cywilydd roi siawns i rywun arall weld y Darian heblaw efe ei hun." "Och, dyna fi wedi bwrw'm bys yn lie yr hoelan, wrth feddwl am y ffug-wladwr yr wyt newydd enwi. Bachan, dyna un o spouters mwya'r Cymrodorion." "Ma beth wi'n weyd, Mr. Cobler, yn eilhaf gwir. A beth i chi'n feddwl, yr Qe(\d un o rag y Saeson yn ei boced yr adeg honno." Pa un, bachan 1" "01 'John Bull. "Wel, ma'n anodd gen i dy gretu di." Gallaf ■enwi ugeiniau o spouters y Gymraeg yn gwneud yr un peth, os y'ch i am i fi." Wei, na'n wir, gad i yn y man yna yn awr, wi wedi cal shoe wrth dy glywed ,di." "Y r o'wn i yn siarad ag ysgol- feisty cyn dod i mewn atoch chwi, Mr. Cobler, ac yr oedd yn dweyd wrthyf fod Tywi yn para i ddweyd fod athraw- on yr Ysgol Ddyddiol yn gwneud scer- bwd o blant bach y Cymry. Os dim l'haid iddo, yn wir. Ma'r athrawon sydd yn Gymry yn alright, mi waranta. Yr athrawon sydd yn Saeson rone sydd wrth wraidd y drwg. A phity na bai Tywi yn tynnu. llinell wahaniaethol rhyngddynt. Pa sens sydd mewn rhoi y wers Gymraeg yn nwylaw athraw o Sa s? T, I I Sais Tynned Tywi ei sgrafell dros "Councils" ein gwlad ac nid ar yr athrawon druain. Os dewisaf lodes na wyr ond Ffrancaeg i ofalu am fy mhlant gartref, ai teg' ydyw beio y lodes am na wyr fy mhlant na Chym- aeg na Saesneg? Ai nid myfi yr hwn ai dewisodd sydd i'w feio? Gwn am ugeiniau o athrawon sydd a'u calon ar dan dros yr iaith Gymraeg. A gwn am rai o arolygwyr yr ysgolion hyn sydd a'u calon yn fflam dros yr iaith Gymraeg. A bron na fyddai gwell ganddynt fod heb eu ciniaw ar bob dydd Mawrth na bod heb y "Darian." Nawr, Mr. Cobler, gwn beth yr wyf yn siarad. A dyma'r geiniog a dimai yn ol i chwi. Yr wyf wedi penderfynu dilyn esiampl y bechgyn talentog hyn drwy brynu a darllen y "Darian" l mi fy hun yn hytrach my dilyn esiampl anwlatgar rhai sydd yn gwisgo brethyn o'r un lliw a shap ag eiddo fy hun." "Da iawn, yn wir. Pleser i mi yw dy glywed, a chredaf fod llond y 'Darian' o wir ym mheth yr wyt yn ei weyd. Ond meddwl am bregethwr yn prynu 'John Bifil' Dyna, feallai, fod y truan yn amcanu ennill un o'r ^250 prizes Whara teg iddo fa hefyd. Ma blaenoriaid ei gapel yn gneud eu gore i'w starvo. Ma'n wyrth fel y mae y truan yn fyw. Son am flaenoriaid; glywaist ti am y cwrdd mawr yna yn y M-- pa ddydd?" "Naddo'n wir." "0, 'rwyf felswn i yn gweld y blaenoriaid yn awr wedi cwrdd ar noson waith i benderfynu rhai pethau pwysig iawn ynglyn a'u cwrdd mawr nesaf. Dyco ,nhw, ac olion dyled eu capel yn rhychiau ar eu hwynebau. Nid oedd gwelwder wyneb eu bugail talentog gor-weithgar yn tycio dim arnynt. Ond dyna, yr oedd y ddyled yn aruthrol o drom. Yn awr, sut oedd ) gwneud jiwbili ariannol o'r cwrdd mawr oedd y cwestiwn llpsg- awl. Clywaf un o'r brodyr yn dweyd —"Ma plan net gennyf fi, a ma'r plan yn siwr o dalu'r ffordd yn iawn.' A dacw nentydd o lawenydd yn llenwi rhychiau eu hwynebau ac yn murmur caneuon o glod i'r gwr doeth a da. 'Y tro hwn, haws i ni fydd cael tri o bregethwyr yn ein cwrdd mawr. I ddechreu, dyna'n gweinidog ni ein hunain. 'Rwyn siwr y bydd yn falch calon ganddo gael siawns i bregethu mewn cwrdd mawr. Ag i chi'n gweld, bydd dim isha i ni dalu rhyw lawer iddo fe. Os posib, os cwniff a ddim adnom ni. Ma'r anrhydedd i ni yn rhoi arno yn siwr o fod yn ddigon o dal iddo. Ac i chi'n gwel'd, ma fa yn B. A. Ac fee, ddaw'r Bobloedd After him. Gydag ef, feallai gwell fydd i ni gael un a fo yn M. A. Ac y mae un ar bwys. Bachan noble, Master of Articulation, ac yn un o ser y pwlpud erbyn hyn. Gwrboneddig 01 bregeth- wr! A dim ond i'r Trysorydd ddweyd wrtho am ein dyled lethol, 'rwyn siwr y daw a am y peth nesaf i ddim. Ac yn olaf, dyna J- gweinidog B- ac yn y lie yma. Ac fel yr ych chi yn gwbod cystal a fi, iddi gapel ef mai cyfoethogion yr ardal yma gan mwyaf yn myned—gwyr y "golden watches a'r golden chains." A ma J fel 1 chi'n gwybod yn bregethwr first- class. Dim ond i ni gael e, fe ddaw gwyr mawr ei gapal a'r dre i'n cwrdd mawr. Ac yr wyf yn siwr, fe fydd J yn ei theimlo hi yn anrhydedd i gael pregethu unwaith yn ei fywyd yn ein capel ni. Ac fel i chi'n deall, bach iawn yw yr arian sydd yn angen- rheidiol i foddio y galon sydd a'r teimlad o anrhydedd fel mor o'i mewn." A dyna fel y bu. "AVel, faint gafodd y pregethwyr, a faint o arian wnawd o'r cwrdd pre- gethu hwnnw, Mr. Cobler?" "Lights out, please"
| Ar Dramp.,' I-
| Ar Dramp. I Mae rhan fawr o wyr Shir Forgan- nwg, Mynwy a Chaerfyrddin yn trampo yn yr haf, llawer o'r bechgyn o'r wlad yn mynd i weld eu mamau a'r merched wrth gwrs-priod a di-briod; y rhai priod am weld yr hen ddynion a chal lodgings chep, a rhai di-briod am gael meibion yng ngyfraith i'w mamau llawer yn trampo er mwyn iechyd drwy newid awyr yn y ffynhonnau a glannau'r I mor. Ac wrth weld y lluaws yn mynd fe es innau, yn cychwyn o bentref glofaol ar fore gwlyb; ond y trefniadau wedi gwneud, y llety wedi ei gymryd, a'r gobeithion yn uchel am dywydd braf drwy'r cwbl, ac ar y ffordd i'r or- saf fe waeddai un hen frawd "Fore da," a chan fy adgofio fod diwedd hyd yn nod i'r diluw, ac mor dda yW cael cwrdd a, hen optimist braf fel hwnnw oedd yn gweld diwedd i'r gawod fwya welodd y byd erioed. Gwlyb iawn oedd y daith yr oil o'r ffordd, hyd yn nod wrth groesi'r fferi i Llanstephan-dwfr o tanom, a dwfr yn disgyn yn gawod- ydd trymion arnom, nes yr oeddem yn barod i gahu pan y cyrhaeddom draw yr hen bennill ddaw i'm cof bob gwyl- iau gwlyb: Glaw, glaw, sy'n disgyn arnom yn dcli-daw, Does dim ond dyfroedd ar bob Haw, O'r bora bach hyd hwyr y dydd Mae'r cymyl oil a'u godrau'n rhydd Fel pe am olchi pawb yn lan, A'n spwylio fyth i unrhyw dan. Ond wedi cyrraedd Llanstephan, a chael ein hunain mewn hen gegin, a honno a than yn iawn ynddi, teimlwn ar un- waith yn gysurus, ac nid hir y buom cyn bod yng ngwlad hud, a throion yr yrfa ar efn taith wedi ein parotoi i hun hyfryd. Trannoeth wedi brecwast yn iawn, am dro i'r Sticks, ac yno cwrdd a llu o hen ffryndiau o gymoedd y Tawe, Towy, Cynon, Taf a'r Rhondda, ac ynghysgod y gegin fach yn trafod pob mater o bwys, yn wladol, crefyddol a, chymdeithasol, amryw wynebau, ae amryw farnau, ac mor rhwydd y rheda'r amser, cyn i'm droi megis y mae diwrnod cynta'r gwyliau wedi dod i'r pen. Trannoeth eto yn mynd i'r Sticks am dro, ac i'r gegin fach, ac yno yn trefnu Eisteddfod. Un o feirdd goreu'r genedl yn addaw cloriannu'r beirdd, un o weihidogion ieuanc Anni- bynia o'r gogledd, ynghyd ag un o feib- ion y Rhondda, yn addaw beirniadu'r gerddoriaeth. Y diwrnod eto yn cael ei lanw i'r ymylon heb gysgod segura ar un ran o hono. Trydydd diwrnod wedi ein glaniad yma yn caelein hunain mewn Eisteddfod yn yr Ysgoldy, oblegid ei bod yn rhy wlyb yn y Sticks. Digon o gystadlu ar adrodd, canu, ys- toriau, areithio, etc., a mynd yn iawn ar bopeth, pob rhan o'r sir yn cael ei rhan yn y gwobrwyon. Gweinidog pQblogaidd gyda'r Annibynwyr yn en- nill ar yr englyn a'r penhillion i "Gas- tell Llanstephan." Canwr da o Glyd- ach, Rhondda, yn ennill yr her unawd, a chantoresau ieuainc—un o Abercraf a'r llall o'r Mardy—yn ennill gwobrwy- on hefyd. Fel yna y treulir y gwyliau yn Llanstephan. Fe a rhai i gocsa, ereill i bysgota, a llu yn canu ar hyd y llwybrau, llawer yn caru, pawb yn ad- nabod eu gilydd, a'r hen iaith hefyd yn cael ei lie yn ei bro gynhennid. Y mae'r lie yna yn lan iawn oddiwrth snobyddiaeth, y capeli a'r eglwysi ar y Sul yn agored iawn, a'r bobl yn serch- og, yn peri i ddyn deimlo mewn gwir- ionedd fod iddo gartre oddi cartre. Gallwn i feddwl y bydda ma le do, iawn I i'r Tramp; mae amryw widwod, yma yn awyddus am ail gychwyn yn y byd priodasol, a llu o hen ferched serchog a graenus yr olwg. Fe allai y Tramp lodjo yn yr hen Gastell, gan i fod e yn gyfarwydd a chysgu ma's. Ond os bydd e yn dewis, nid hir y byddai cyn bod dan dô, ac ymgeledd gymwys gan- ddo. Brysied yma. I (
Advertising
?MM?M??Kiit?Mt?M??.????,???????? ? The Welshman's Favourite. £ MABON Sauce I ? S?* As good as its Name. 4 5 DON'T FAIL TO GET IT. g Manufacturers— BLANCH'S, St. Peter St., Cardie, I S