Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
9 erthygl ar y dudalen hon
i Colofn y Celt.I
Colofn y Celt. GAN DDYFNALLT. Y Cynghrair Celtaidd. Yn Edinburgh y cynhelir y Cynghrair eleni, a threulir tri niwrnod, Hydref 6, 7, a'r 8, i ymdrin a materion a phynciau Celtaidd. Bydd yr ymdrafodaeth ar linellau'r pynciau a ganlyn: Lien Geltaidd yn yr Alban o 1,600 ymlaen. Polisi a Dulliau Addysgol y Gwledydd Celtaidd yn eu perthynas a iaith, lien a hanes y gwledydd hynny. Y Celt mewn Hanes. Cenedlaetholdeb a Miwsig- Miwsig y Celt yn yr Alban. Miwsig y Celt yn Iwerddon. Gwelir felly fod y Cynghrair am roi sylw ar- bennig i Fiwsig y Celtiaid. Rhoddir croeso i'r cynrychiolwyr yn ennv,r ddinas gn yr Arglwydd Brovost. Er yr anawsterau teithio deallwn y bydd yno fwy o gynrychiolwyr nag oedd yn y ddau Gynghrair blaenorol. Melldith Estron ar laith. Mae rhannau helaeth, modd y gwydd- is, o'r Iwerddon o dan ddeddf filwrol. Ni wyr ond y sawl a fu byw dan y fell- dith honno ddim am ei chieidd-dra a'i chreulondeb. Dywedodd un o swydd- ogion y Goron yn Nhy'r Cyffredin y nos o'r blaen nad y Wyddeleg a gondemnid, ond bradwriaeth yn y Wyddeleg. Dyma a ddigwyddodd yn Iwerddon yr un dydd ag yr oedd yr anwiredd uchod yn cael ei gyhoeddi. Cymerwyd i garchar Wyddel am roi ei enw mewn hotel yn y Wyddeleg. Yn yr un dyddiau gwa- harddwyd cynnal feis (math ar Eis- teddfod) yn Doon. Yn gymaint a bod yr oil o'r gwaith yn y Wyddeleg, y canu, y gerddoriaeth offerynol a'r dawnsio, rhaid oedd melldithio'r cyfan. Yn sicr, dylai ein pobl wybod am y rhagrith yma o eiddo"r Sais. Ni thrin- ir un pob] yn fwy annuwiol nag y trinir y Gwyddelod gan y gwyr a broffesant a'u tafod eu bod yn amddiffynwyr cyf- iawnder a chenhedloedd bach. Drwy Ganiatad. Yn un o bapurau Iwerddon yr wyth- nos ddiweddaf hysbys-Ld am y gweith- garwch eiddgar yn Nublin a pharthau ereill o blaid y Wyddeleg yn yr ysgol- ion, ac yr oedd y wybodaeth hon yn eiddo'r cyhoedd drwy ganiatad y cen- sor. Meddylier am fyw dan ormes fel hyn yn yr ugeinfed ganrif, a hynny ar ol gorffen rhyfela a'r Ceisar. Pa ryfedd fod gwlad yn dyheu am fynd yn Werin- lywodraeth 1 Pa ryfedd fod yn rhaid cadw 250,000 o filwyr yn Iwerddon, ac ni soniodd Churchill yr un gair am hynny neithiwr. Y mae'r anfadwaith mwyaf yn y byd am y pared a ni, .ac eto, ni waeth gennym am hynny nag iii am hynnv nag arall tra bo trachwant a chelwydd a thwyll yn cael eu ffordd. fiuom yn tybio fod barn byd-gyfan wedi'i deffro ar rai materion, ac yn barod i gael ei datgan, eithr nid felly yr arwyddion ar hyn o bryd. Addysg ein Cenedl. Polisi mawr Iwerddon ar hyn o bryd yn y mater o addysg yw Gwyddeleidd- io'r holl gyfundrefn yno. Gwyr y cyf- arwydd fod tynged addysg wir Gym- reig yn ein dwylo ar hyn o bryd. Mae Mesur Fisher yn rhoi hawl i ni lunio'n tynged y modd y mynnwn. Ond pa well ydym o hynyma oni bydd i gared- igion Addysg fod yn effro. Ai tybed fod modd i bob Cymdeithas Gymrodor- ol anfon Dirprwyaethau at yr Awdur- dodau Addysg ar y pen hwn. Nid yw a un diben anfon llythyrau. Dodir hwy yn barchus yn y fasged, ac. ni chlywir dim yn ychwaneg am danynt. Pe ceid y gwyr goreu eu dawn a'u henw mewn ardal i ymddangos o flaen y Cynghor- au diau y byddai i hynny newid ton ac ymddygiad rai o'n cynrychiolwyr glas- twraidd. Teg yw cydnabod fod y DARIAN yn cadw'r mater gerbron y wlad yn gyson.
HEN AlrAlj FACH LLANGURIG.…
HEN AlrAlj FACH LLANGURIG. I Hen ardal fach. Llangurig, Llawn blodau wyt o hyd, A'th goedydd braf cysgodol, Lie siglodd mam fy nghrud; Tra gull y Cymro ganu, Hawdd dweyd bydd yma fardd Yn arcs yn Llangurig I arddel gwlad mor hardd. Mao murniuf afon Cidno, A 11 if ei dyfroedd iach Yn codi awydd canu o iewn fy nghalon fach; Ond diles yw clodfori Prydferthion yma, dardd, Mae mwy o lfodau'n gvvywo Na welwyd yn yr ardd. Llangurig. B. Morgan, J
[Llythyrau at y Gol.
Llythyrau at y Gol. CHWARAETEG. Mr. Gol.Yn wyneb cymaint ym- drech a wneir y dyddiau hyn i chwerwi teimlad y cyhoedd yn erbyn y glowyr, carwn gael hyd bys i gyfeirio at un ffaith. Yn ein gwaith ni fe ofala'r swyddogion na cha neb fwy na hynny o trams a fydd yn angenrheidiol iddo i ennill y minimum wage. Clywir y dyddiau hyn lawer am 'gynnyrch' (out- put) a rhoir y bai ar y glowr mai efe sydd yn ei leihau a thrwy hynny'n codi pris y glo. Yn ein gwaith ni fe lanwai pob gweithiwr sydd yn y gwaith gryn lawer mwy nag a ganiateir iddo lanw. Nid dadleu dros genedlaetholiad wyf, nid dyna'r cwestiwn i mi yn awr, ond dweyd sut y gwneir yn ein gwaith ni. Carwn wybod sut y mae pethau mewn gweithiau eraill? A oes rhai o'r glo- wyr a ddywed air ar y mater gyd a chaniatad y Gol.? Dylwn nodi hefyd mai er pan gyhoeddwyd report y Barn- wr Sankey yn cymeradwyo cenedlaeth- oliad y cyfyngir ar y trams a roddir i'r gweithwyr i'w llanw. Dyma'r gwir yn erbyn y byd. Ni fuaswn i byth yn fod- Ion ar y minimum wage, pe cawn ennill rhagor, a gallwn wneud hynny. Yr eiddoch, etc., HEN GOLIER. NODION CASNODYN." (At Olygydd "Y Darian." Syr,—Byddaf yn mwynhau darllen y DARIAN bob wythnos, ac ymhlith ys- grifau ereill gaiff sylw gennyf gellir crybwyll "O'r Gogledd." Ni wn pwy yw, ond yr wyf wedi canfod amryw weithiau ei fod, fel y diweddar Daniel Owen, yn dra hoff o roddi cic i'r eglwys. Pe gofynnid iddo paham, diau na allai roddi rheswm. Yn rhifyn cyn y diwedd- af ceir a ganlyn yn ei nodion: "Collodd tref Fflint 75 o'i phlant yn y rhyfel, a bwriedir rhoddi tablet er cof am dan- ynt yn Eglwys Blwyf y lie- Pam yno ?" Rhyfedd fod dyn fel "Casnodyn" yn gofyn y fath gwestiwn not, ond diau mai dyn cul ei anianawd yw. Ni wn pa faint o gapeli sydd yn Fflint, ond cydnabyddir yn gyffredin mai eglwys y plwyf yw yr adeilad cysegredig pwys- icaf ymhob plwyf, a hynny am un rhes- wm, oherwydd. ei henafiaeth. Mae yn y dref lie y trigiannaf fi eglwys blwyfol a phump o gapeli yn perthyn i'r gwa- hanol enwadau. Meddylier am funud fod y tablet yn cael ei gosod yn un o gapeli yr Ymneillduwyr, byddai y lie yn wenfflam, a byddai ysgyrnygu dan- nedd am amser maith. Yr unig bwnc ag y mae y gwahanol enwadau yn un- edig arno yw ymosod ar yr eglwys, ac anawdd dirnad pa beth a fydd nesaf ar eu rhaglen wedi i ddadgysylltiad a dadwaddoliad ddyfod yn ffaith. Yr eiddoch, etc., COSMO. ATEB I'R GWYLIEDYDD. I Dear Sir,—Your letter published in Y DARIAN was so full of incorrect statements which someone had sup- plied you with that I waited to send you a, little pamphlet I was writing on certain, educational points and which has just been published. I send it forthwith. No meeting was held such as you describe. My Japanese friends would repudiate with scorn the sug- gestion that I wanted them to copy the West. I always taught "Be your- selves, copy no one, learn from all." The patriotism of Japan is stronger and ifner than that of any other nation in which I have lived. All classes equally were always asking "What can I give my country1?" Their gallant fight to get the best possible education at great sacrifice was that they might be more profitable citizens of their country. A knowledge of the Welsh language will, alas! not always make the strong and unselfish patriot! I hear a great deal more talk about Welsh nation- alism in Wales, where to some extent it pays, than in other countries visited by Welsh people where sometimes it does not pay at all! We are a very small nation. Let us try and use as perfectly as possible such special gifts as the ages have developed, in us, and .let us show the world we are losing the Welsh defect of constantly splitting up into sections be- cause we may differ in details. Please read my pamphlet, -Yours truly, E. P. HCGHES I E. P. (Merch Myrddin). j PenrheoL Barry,
[No title]
Tarian Fach y Plant. cMTicm…
Tarian Fach y Plant. cMTicm JO ?<L?t? y ? GAN IOAN Y RHINGYLL. F'annwyl Ffrindiau,— Mae hi'n brynhawngwaith teg o haf hirfelyn tesog, chwedl y Bardd Cwsg, yma heddyw, ac wrth edrych ar lethrau blodeuog y bryniau drwy ffenestr fy stydi, allwn i yn fy myw orchfygu'r demtasiwn o fynd allan am dro. A theimlo braidd yn euog yr wyf yn awr, eithr y mae'r gwaith a fwriadwn wneud heddyw eto heb ei wneud. Ond er bod y llythyrau a fwriadwn ys- grifennu, a'r coed a fwriadwn dorri, a'r gwersi a fwriadwn orffen yn pwyso ar fy meddwl pan oeddwn yn cychwyn, buan iawn yr anghofiais i amdanynt pan gefais fy hun yng nghwmni'r blodau. Ac i ddweyd y gwir, mi fwynheais fy hun yn well, a mi yn gwybod mai wedi "dianc" oeddwn, na phe buaswn wedi mynd a dim arall yn galw arnaf. Yn ami iawn y pethau hynny na chawn mohonynt ydyw'r pethau a fwynhawn fwyaf pan gawn hwynt. Gwrthodwch chwi rywbeth i rywun, a bydd yn fwy awyddus i'w gael. Mae gennyf frawd bach adref sydd newydd gael ei chwe mlwydd oed. Ac mi wyddoch cystal a minnau mai'r "Kaiser mwyaf yn fyw ydyw bach- gen o'r oed yna. Mae vn union fel y Dombey hwnnw y dywed Charles Dickens amdano-yn meddwl mai ef ydyw echel y byd; mai er ei fwyn ef mae'r byd yn troi; mai i roi cyfle iddo ef chwarae mae'r haul yn codi, ac yn machlud iddo ef gael cysgu; mai er iddo ef fod yn hapus mae ei dad yn gweithio drosto bob dydd, ac yn gwylio drosto bob nos; mewn gair, mai er ei fwyn ef mae pob peth yn bod. Ac er fod fy mrawd i, fel pob brawd arall, "yn hen iawn o'i oed," a'r "bachgen gore yn yr holl fyd," mae yntalf hefyd yn cael rhyw ffitiau rhyfedd o "Kaiserites." Mi ddaw o'r ysgol -yn y gaeaf, ac mi ofynna am bysgodyn o'r afon mi reda i'r ty yn yr haf a rhydd "ordors" am "plum- pudding" i de. Mae'n beth syn y gallu sydd ganddo i ofyn am y pethau mwyaf anodd eu cael. Ac wrth gwrs, pan geisiem ddweyd wrth "my naps" ei. fod yn gofyn am bethau amhosibl eu -cael, dyna "row" fawr ar unwaith. Ac yn awr, y peth cyntaf fydd yn ei groesawu pan ddaw i'r ty yw hwn- "Goronwy, cofia na chei di ddim jam i de." A dyna'r bychan yn gofyn ar un- walth am jam. Pam ? Dim ond am ei fod yn meddwl ein bod yn ei wrthod iddo. Pe buasem yn dweyd, "Goronwy, mi gei hynny leici di o jam i de," mae'n debyg na chymerai ddim ohono. Ond am ein bod yn dweyd wrtho na cha ddim, dyna yntau yn syth yn ei geisio. Ond dyna fi wedi crwydro oddi wrth y blodau. Dweyd 'roeddwn i ynte bod rhywun yn mwynhau rhywbeth y mae wedi ei "ddwyn" yn well na hyn a ga am ddim. Mewn rhyw ystyr wedi "dwyn" y daith oeddwn heddyw, ac yn ei mwynhau yn fwy o lawer oher- wydd hynny. Ond i fynd yn ol at y daith. Ac i'ch plesio chwi, mi wnaf eich gwahodd chwithau i ddod drosti eilwaith mewn dychymyg gyd a mi yn awr. Meddyl- iwch amdanaf yn crogi bag ysgol dros fy ysgwydd, yn rhoi pensil coch mawr yn fy mhoced, yn gofalu am lyfr da ar flodau dan fy mraich (llyfr sydd yn dweyd i'r dim faint o "pistils" a "stamens" a "sepals a "petals" sydd gan bob blodeuyn). Wei o'r diwedd, dyma fi'n cychwyn ac yn yn dringo i fyny ochr yr Henriw, fel y galwn ni'r plant y mynydd. A'r fath cyntaf sydd yn fy nghroesawu yno ydyw cae a'i lond o "rug y mynydd," y grug hwnnw oedd yn codi hiraeth am y wlad ar Ceiriog. "Grug y mynydd yn ei blodau!" Welwch chi nhw?" S6n am y gawod fanna o'r nefoedd, wir! Dyna chi gawod o aur pur yn eich wynebu. Mae'n dda gennyf feddwl na all hyd yn oed holl gyfoethogion y byd gyn- hyrchu dim tebyg i hyn pe defnydd- ient eu holl aur i geisio gwneud hynny. Rydym yn clywed swn di- daw ar bob Haw am allu a phosibil- rwydd arian; 'rydym yn clywed dynion yn dweyd nad oes dim ar y ddaear yma na all 1. s. d. ei gyflawni. Wel, gwnewch y "sym" bach yma i fyny, ynte, a chowntiwch mewn jQ s. d. faint a gostiai gwneud hyn i chwi— Edrychwch ar y mynydd mawr sydd o'ch blaen, mor llwm ac mor hagr mae'n edrych. Mae ei wyneb yn rhychau, a'i liw'n felyn, a'i holl olwg fel mynydd ar farw. Ond y ma Rhywun yn dod ac yn cribo tipyn ar ei wallt, ac yn llyfnu tipyn ar ei rychau, ac yn paentio tipyn ar liw ei wyneb. Ac yna yn rhoi rhosyn yn ei frest, a chadwen ar ei fynwes. Ac yn plethu ei ben a blodau'r grug, a'i draed å. brieill. Ac yr ydych yn deffro un. bore ac yn rhwbio eich llygaid wrth edrych arno. Yr ydych yn synnu at y gwahaniaeth mawr sydd ynddo, ac yn rhyfeddu o ba le y daeth. Mae'n taro eich meddwl yn sydyn na all holl gyfoeth y byd wneud y gwaith a gyflawnwyd yma. Wyddoch chwi faint mae e'n gostio i oleuo un ty am ddiwrnod? Wyddoch chwi faint mae e'n gostio i oleuo Llundain am ddiwrnod? Os gwyddoch, ceisiwch gowntio faint a gostiai i oleuo yr holl fyd am eiliad, ac mi gewch weld nad yw cyfoeth "dihys- bydd" millionaires y byd ond "di- feryn yng nghefnfor yr Atlantic" o'i gymharu a chostau'r ymdrech yma. Ac mae'r gwaith yn cael ei wneud yn hynod o dawel a digyffro, heb swn na morthwyl, na chyn, na lli, na bwyell. Ac wrth edrych ar y grug sydd o'm mlaen, mae stori fach John Evans, Eglwysbach, yn dod i'm cof 'Roeddwn i yn Lerpwl y dydd' o'r blaen," ebe Eglwysbach, "yn aros am dren. Ac yn sydyn dyma express gyflym yn rhuo trwy'r lie, ac yn gwneud digon o gynnwrf i ddeffro'r meirw. Mi glywech ddynion yn gwaeddi; y peiriant yn chwiban yr olwynion yn sgrechian, a'r man bapurau ar y platform yn cael eu hyrlio i'r awvr. Trwst dirfawr a thwrw anghyffredin-a dim ond rhyw beiriant bach o waith llaw dyn oedd yn mynd tn/y'r lie, a'r peiriant hwnnw yn cymeryd munud cyfan i deithio milltir. Ond dyna chi oleum haul Duw, sydd yn trafaelio gant a phedwar ugain o. filoedd o filltiroedd bob eiliad, goleuni all dramwyo seithwaith oddiamgylch y byd mewn eiliad, a/r goleuni hwn bob bore yn agor llygaid rhyw bryf bach ar goeden heb ei daro i law." Go dda, ynte? • Ac mae blodau Duw 'run fath- "grug y mynydd," manna aur o'r nefoedd. All neb beidio a dweyd wrth tdrych arnynt—"Y nefoedd sydd yn datgan gogoniant Duw, a'r ddaear- yn mynegi gwaith ei ddwylaw ef. Dydd i ddydd a draetha ymadrodd, a nos i nos a ddengys wybodaeth." Awn ymlaen gyda'r daith y tro. neszti-hw,yracti!-Yr ciddoch, yn bur,, J, ELLIS WILLIAMS, F.R.H.S., Penmachno, Bettws-y-Coed, Gogledd Cymru.
YR YSBRYD DRWG.
YR YSBRYD DRWG. Sir,-Fel y dywedodd y Parch. J. Lewis, Caersalem, Llanelli, tra bydd- om dan lywodraeth Satan-nid oes dim i'w ddisgwyl ond yr ysbryd drwg, a hynny fydd nes daw Crist i lyw- odraethu ar y ddaear. Beth a gyn- hygia y Cyngor yn Versailles ond- di'al, gormes a lladrad. Yr unig syn- iadau o dan wraidd yr amodau oil yw penderfyniad Ffrainc i fod yn ben ar Ewrop, a phenderfyniad Prydain i ladd pob cystadleuaeth fasnachol. Dyma a ddywed un o bapurau Awstria am yr amodau heddwch "Dygir oddi- arnom bopeth a ellir ei ddwyn. Rhwygin y cnawd byw oddiar Awstria ddiymadferth heb gywilydd, heb drugaredd, heb dosturi. Nid oes yn yr amodau olion Ileiaf cyfiawnder nac un lanadl o gydymdeimlad a'r wlad dlawd a thruan." Colled oedd colli'r rhai a ddylai fod yn arweinwyr ysbrydol Cymru, oherwydd aberthu o honvnt eu hunain ar allor Moloch a Mamon. Aeth ei gwleidyddion a ddylai hyrwyddo heddwch a rhyddid yn awduron rhyfel a gormes. Aeth pregethwvr efengyl tangnefedd yn weision recriwts i'r gwleidyddion. Sefydlir ysgolion yn holl bentrefi Rw'sia gan Bolshefiaeth, ac ni roddir i athro fwy na phump-ar-hugain o ysgolheigion. Ai nid un o achosion daUineb pobl i bechadurusrwydd rhyfel yw bod Eglwys Crist wedi ei sataneiddio trwy drysori creiriau rhyfel a moli ei henwogion? Llyg- rwyd yr Eglwys mewn canly'niad liv?l at -fod vn a hyd at fod yn analluog i'w gondemnio Dywedai merched o Germani yng Nghynhadledd Ryngwladol y Merched fod rhyfel a newyn yn peri dirywiad cymeriad: "Yr ydym yn dioddef, nid yn unig yn gorfforol, ond y mae'n heneidiau yn cael eu difetha." Pan ydym yn gwbl ddynol ni allwn neidio i yddfau ein gilydd; saif ein greddfau at fywyd cymdeithasol, a'n traddodiadau am ddelfrydau moesol yn y ffordd. "Os ydych," meddai Tagore, "am i mi droi i gigydda bodau dynol, rhaid i chwi dorri i fyny gyfanrwydd fy mod fel dyn trwy ryw ddisgyblaeth sy'n gwneud fy ewyllys yn farw, fy meddyliau yn ddideimlad, fy symudiadau yn beiriannol." Teimlir fod yr amodau heddwch a gynhygir i Germani yn awr yn greu- lon, ac yn anheilwng o Brydain Fawr, yn arbennig y cais am gymryd oddi- arnynt 140,000 o'u gwartheg pan mae eu plant bachyn marw o angen llaeth. Gelyn merched a gwragedd yw rhyfel. Ebe Miss Jane Adams, "Y bobl sydd o'r un feddwl a ddeil y byd wrth ei gilydd." Dywedir fod merch- ed Ellmynig wedi rhyfeddu clywed fod ym Mhrydain wrthwynebwyr cyd- wybodol. Syndod yw fod yr eglwysi hyd yma yn ddistaw. Deled dy deyrnas yw fy nymuniad.—Yr eiddoch, T. E. DAVIES. I Trimsaran, 23 Mehefin, 1919.
1 LLYFRAU CYMRAECI
1 LLYFRAU CYMRAEC Ceir stoc dda o Lyfrau Cymraeg yn y I Sri-nant House, Tonypandy. I at wasanaeth Ysgol Sul, Dosbarthiadau Cymraeg. I GELWCH I FEWN. J. HOWELLS.
- Y Cor Buddugol
Y Cor Buddugol Diolch i Ddewi Cynon am fy nghywiro. Yr oedd' Gol. gwyllt y Geninen ar fy nghefn, a thebig i mi. neidio yn ol ugain mlynedd. Os. felly, yn Eisteddfod Genedlaethol 1901 y digwyddodd y trychineb i gantorion Cymru. Cor o ardal y Crochendai, 0 dan arweiniad Mr. Whewall, aeth a'r gamp, onite? Cofial yn dda fod y Crochenwyr ag ysnoden fuddugot yn eu hetiau yn union wedi y dyfarniad, yr hyn a. brofai fod pob un a'i ysnoden yn ei- logell. Profai hefyd nad oeddynt yn ofni y cantorion Cymreig, er cymaint ei bri yr adeg honno. Yr wyf yn cofio yn dda (fel y noda Deyi Cynon) bod' Cor Taibach yn gwisgo'r galar ar ol eu hen arweinydd, Silas Evans. Nid wyf yn cofio am y ff rwgwd' rhwng Jarret Roberts a Dr. Parry. Pe buasai yn ffrwgwd rhwng dau fardd buaswn yn debyg o gofio. Diolchaf i unrhyv/ un am fy nghywiro yn fy "Atgofion" yn y Geninen, am fy mod am eu cael mor gywir ag sydd bosibl. Mae y cof weithiau yn hepian ar y goreu.— Y r eiddoch, BRYNFAB.
Advertising
LLFRAU CYMRAEC. Os am gyflawnder o Lyfrau Cymraeg addar, i'w rhoi'n Anrhegion i Blant YSGOLION SUI, A GOBEITHLUOEDD, anfoner at— Mr. JOHN EVANS, 14 Wharton Streets CARDIFF. Neu galwer gydag ef naill ai yn y cyfeiria^ uchod neu yn Nhy Marohnad, Pontypridd.