Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
[No title]
Blin gennym oedd clywed am farw Mrs. M. Jones, priod y Parch. Morgan Jones, B.A., Whitland, dydd Llun. Cydymdelmlwi-i yn ddwys a'r brawd yn ei alar.
.Cyngor yr Undeb. I
Cyngor yr Undeb. I Cyfarfu Cyngor Uncleb Cenedlaeth- ol y Cymdeithasau Cymraeg yn Festri'r Triniti, Abertawe, Gorff. 12. Cafwyd adroddiad teg o'r hyn a wnaed gan gynrychiolwyr yr Undeb ar bwyllgor Cynhadledd Llandrindod gan Mr. E. T. John. Dylai'r mater fod yn glir bellach. Gwaith yr Undeb yw hyrwyddo'r delfrydau sydd ar ci raglen a, addysgu'r wlad gyda golwg ar werth Ymreolaeth, a thaflu hynny a fedr o'i ddylanwad i mewn i waith y pwyllgor arall, megis ag y gwnaeth yn Llandrindod. Ar gynnyg yr Athro j. Hughes, B.A., Abergwaun, pasiwyd y pender- fyniad a ganlyn:—" Ein bod yn galw ar bwyllgor addysg i baratoi ac aw- grymu cynlluniau Cymraeg dan y Ddeddf Addysg newydd i bob Pwyll- gor Addysg yng Nghymru a Mvnwy, a bod Ysgrifennydd yr Undeb i anfon at ysgnfennydd pob Pwyllgor Addysg yng Nghymru a Mynwy ynghvlch v mater. Galwodd Mr. E. T. John sylw at y cais a wneir yng Nghorwen i sym- bylu ffurfio Cymdeithasau Cymraeg yng Ngogledd Cymru. Hysbysodd Mr. Lewis Davies bod y ddeiseb ar ran tysteb Cadrawd yn barod. Hysbyswyd gan Mr. O. Jones- Owen, Porth, bod Llywydd Bwrdd Addysg wedi dewis Pwyllgor Adrannol i ymchwilio i'r safle sydd i Saesneg (iaith a lien) yng Nghyfun- drefn Addysg Lloegr, ac i gyfarwyddo sut i hyrwyddo astudiaeth o honi ymhob math ar ysgolion, a phender- fynwyd anfon cais at ysgrifenyddion y Cymdeithasau ar iddynt ofyn am i'r ddirprwyaeth hon dderbyn cynrychiol- wyr o'r Cymdeithasau Cymraeg. Galwodd Arthen sylw at y cais o gael llyfrgelloedd gwledig dan gyn- llun Carnegie. Gadawyd y gwaith o ffurfio cyn- Iluniau i'w cymeradwyo i'r Pwyllgor- au Addysg i'r Athrawon O. Jones- Owen a J. Hughes. Bu yno drafodaeth ar y priodoldeb o ddewis rhai i gadw materion ar- bennig ger bron y cyhoedd drwy'r wasg, ac yr oedd yno rai na wyddent fod y materion hynny yn cael sylw arbennig bron bob wythnos yn y DARIAN gan "Gylch Dewi," ac 'I mewn papurau eraill, ac nid grasol iawn oedd yr ensyniad mai "clic" oedd y cylch hwn. Nage'n wir. Ceisiwyd gan Morlais, yr Henadur ordan, a Mr. W. Lewis gynrychioli'r Undeb yn y Gynhadledd Geltaidd yn Edinburgh. Dylem ddweyd fod cleber rhai yn y Cyngor yn annioddefol, yr oedd yn amhosibl gwybod beth oedd yn mynd ymlaen yno. Rhaid i'r Henadur Jordan wneud rhywbeth mwy na gafael yn dyner yng nghot ambell un a'i dynnu i lawr. Beth sydd wedi dod o'r urddas oedd i'r Cyngor gynt? Paham y mae Arthen a'i ben yn ei blu? Mae'r Cyngor wedi dirywio'n druenus ers tro, ac y mae'n bryd dweyd hynny.
Ebion o'r Ebwy. I
Ebion o'r Ebwy. I Dyma'r haf gyd a ni eto, a'i heul- wen gynnes, er twrf, a mwg, a berw y Cwm. Ymwelodd y gog a ni i'n llonni a'n sii;ioli. Y mae ganddi hithau ei chenadwri i'r neb a astud wrendi. Diolchwn iddi, ac er nas deall ni wna'r Cyfieithydd mawr drosom, a daw eto.. Y mae rhyw annealltwriaeth neu'i gilydd yn parhau i aflonyddu ar fas- nach yr ardal hon ers talm bellach. Ar hyn o bryd y mae crefftwyr yr E. V. Co. allan, ac ymddengys yr I atelir y gweithfeydd mewn canlyniad. Dydd Llun, Meh. 30, bu math ar ddathlu cytundeb heddwch yn y dref, a bu gorymdaith, llosgi coelcerth goed, ) etc, ac hefyd cyfarfodydd crefyddol undebol yng ngwahanol addoldai'r ) He, a chynhulliadau da. Yn yr hwyr bu cyfarfod gweddi cyffredinol i Gymry'r dref yn Saron (A.) Llyw- yddwyd gan y Parch. T. Tudor. Cymerwyd rhan yn y cyfarfod gan y Parchn. E. Armstrong, E. Gorwydd Price, J. C. Owen, J. Harris, T. Grey Jones a Mr J. R. Evans. Cawd cwrdd hwylus ac arddeliad ysbryd Duw arno yn ddiau. Tybed a yw gweddeidd-dra a pharch i ordeiniadau lleoedd addoliad yn cael y sylw dyladwy gennym ni Gymry y dyddiau hyn? Yr oedd rhai personau ysywaeth yn dyfod i fewn ar ganol y darllen a'r gweddio mewn modd carbwl a thrystiog a tharo drysau'r seddau, etc.—"Santeidd- rwydd a weddai i'th dy Di, 0 Ar- glwydd byth. Dymunol iawn fyddai cael cyrddau amlach o'r nodwedd hyn mewn trefn o gael mwy o gyfrathrach cydrhwng Cymry'r Ebwy a'i giydd. Llongyfarchwn Mr. J. Harries, gweinidog siriol y Tabernacl (A.), Glyn Ebwy, ar ei lwyddiant yn dyfod allan ar ben y rhestr mewn diwinvdd- iaeth a hanes eglwysig fel myfyriwr yn nhymor 1918-19 o Goleg Coffa Aber Honddu. Y mae Mr. Harris yn frodor o Drimsaran, Sir Gaerfyrddin, ac yn gvmharol ieuanc. Y mae y gwr da hwn yn haeddu clod nid ychydig am ei ddyfalwch a'i benderfyniad i fynd rhagddo i gyfranogi o'r addysg uchaf a weddai i'r pulpud. Y mae wedi brwydro yn ddi-ildio yn wyneb rhwystrau ac anfanteision. Y mae Mr. Harris yn y sir hon ers rhai blyn- yddoedd. Bu yn flaenorol yn gofalu am eglwysi y Trinant a Llanhiddel, ac yn fawr ei barch yn y fro. Anwylir ef eto yn y Tabernacl. BUALLT.
Advertising
MEDDYG1NIAETH OREB YK Oita. iNFFLIWENSA. QUININE BITTERS CWILYM EVANS. Y TONIG LLYSIEUOL. iel Atalydd ni wyddom am ddim taafai ) QUININE BITTERS GVVTLYM EVAJVS. Profodd yehydig ddognau cryfion a gj- merwyd mewn pryd yn effeithiol lawe} gwaith i atal ymosodiadau o'r clefyd hwn, di llwyddodd bob tro i ddofi eu llymdra pan fyddai'r claf dan eu heffeithiau. QUININE BITTERS GWILYM EVANS YW'lt FEDDY G IN I AETH OREU AT 1NFFL1WENSA. Berkeley Road, Bristol, Melielin 18fed. Foneddigion,—Bum yn wael iawn datt lafiiiwensa, yri cael ei ddilyu gan Enyn. iad yr Ysgyfaint. Dair wythnos yn olyr oedd fy nghyfivvr yn beryglus, ac wedi i'r perigl fynd heibio, teimlwn yn isel u yn wan iawn. Bythefnos yn ol dywea- odd y doctor fod yn rhaid i mi gymeryd Tonic. Awgrymais Quinine Bitters Gwilym Evans. Y peth," ebe ef, "cymrrt'ch ef dair gwaith y dydd." (Mdiar hynny cymeraf ef yn rheolaidd, a theimlaf fy mod yn derbyn lies rhyfedd ol. Daeth a chryfder yn ol i'm haelod- an, a gwelihaodd fy holl gyfansoddiad. Yr eiddoch yn wir, B. P. CHICK. All OL INFFLIWENSA. Addefa cleition yn gyffredinol eu bod yo fwy isel eu hysbrvd ar ol cael Inffliwengs. na phan oeddent dan ei ddylanwad, ac yrr fwy nag ar ol ymosodiad o unrhyw glefyd arall. Y MAE'R GWAITH LLEIAF YN FLIN DER. Y MAE'R PETH OEDD YN BLESEH WEDI TROI YN LLUDDED. Y MAE'lt ARCHWAETH I GYD WEDt MYND. A DIGALONDID bron yn annioddefol. 1 SYMIO I FYNY-" MAE BYWYlJ YN FAICH i ddynion na theimlasent o'r blaen am un diwrnod y fath Brudd-der Llethol. BETH YW'R FEDDYGIN1AETH *r Y ffordd oreu i alltudio'r teimladan prudd hyn yw cymryd Bwyd Maethlon, as Ymarferiad Cymedrol, Osgoi Unigrwydc, ac ymgvmysgu at Chwmni Siriol, a chyro- ryd QUININE BITTERS GWILYM EVANS. DOES DIM SIRIOLDEB. Y MAE ISELDER YSBRYD. Y MAE'R TEIMLAD 0 BR-UDD-DF.K Nid gwin meddygol yw, ond y Tonic goreo i rai ar lawr ar ol Inffliwensa. Rhydd y dognau cyntaf wared o'r teimiad eich bo^ yn wan a d"mddiffyn a geir ar 01 pwi drwg. Os oymerir tri neu bedwar dogn mewn pryd gyrr hyn ymaith ymosodiad. a lleddfa bob amser ei lymdra. Mae 'DOES DIM MYND. QUININE BITTERS GWILYM EVANS yn donic gwerthfawr ac yn araeuiug WIT Inffliwensa, ac y mae yn amhnsu-dwy at Wendid, Iselder Ysbryd, Doluriau'r Fi-est, Methu Cysgu, Diffyg Traui, Gwendid Ult1.h. QUININE BITTERS CWILYM EVANS. Gwyliwch eich twyllt. Gwelwch enw GwilYm Evans ar y label a'r botel, heb y rhai hyn, nid yw'r Feddyginiaeth yr un iawn. GWERTHIR YM MHOBMAN. Mewn poteli 3s. a 5s. yr un, neu danfomr hwy wedi talu'r cludiad ar dderbyniad Uythyrnodau yn uniongyrchol oddiwrth yr unig berchnogion— THE QUININE BITTERS MANUFAC- TURING COMPANY, LIMITED, Llanelly, South Wales.
A Ddylid Dileu'r Senedd? j
A Ddylid Dileu'r Senedd? j GAN OHEBYDD. I Heb yn wybod inni, awn i gredu bod rhai pethau yn hanfodol i fywyd, a hod eu dileu neu eu llwyr gyfnewid yn amhosibl. Pa Ie y safwn mewn perthynas a'n Seneddau? Dengys hanes datblygiad cyfansoddiad Pryd-, ain fod ein cvfundrefn seneddol wedi .-i\nd trwy gwrs helaeth a helyntus iawn. Ychydig neu ddim tebygol-1 rwydd sydd rlnvng y Senedd heddyw a'r hyn a fu. Gvnt ceid ynddi ¡ ddyrnaid o urddasolion cyfoethog a redlai y deyrnas yn eu nerth eu hun- ain. Yn ara' deg daeth yr egwyddor gynrychioliadol i fewn. Ar y wyneb, ymddengys hon fel peth teg ac effeith- iol. Gellid tybio ei bod yn gosod y gwaith o lywodraethu y deyrnas yn nvvvlo'r bob!. Ond beth yw'r gwir? Da fydd ceisio aros i ateb y cwestiwn. Y gwir yw hyn, mai cyfoeth sydd1 N-ii rheoli y deyrnas ac yn setlo deddfau y wlad. Yn ol y gyfundrefn. bresennol, -all dyrnaid o arglwyddi a ¡ chyfoethogion ereill rwystro ewyllys1 gwlad bron yn hollol, a chanlyniad anocheladwy hyn'yw arwain i derfysg a gwrthryfel. Er i Aelod Seneddol" gael ei gyflog, a chostau etholiadol yn llai na chynt, eto i gyd ni all gwr tlawd fforddio ymladd etholiad. Gyrrodd hyn weithwyr i ffurfio trysor- feydd undebol i sicrhau cynrychiolaeth yn oi-eu hewyllys. Kr hyn oil a'r j drysorfa'n hesp gydag un etholiad. cvffredinol, ac yna bydd pawb at dru- garedd y gwr a'r aur. Ar y llaw arall, beth yw mil o bunnoedd at gost: gornest i'r mawrion? Heblaw hyn, arferiad y cyfoethog yw rhedeg ei bapurau newyddion, trwy yr hwn y gall liwio newyddion y dydd, hanes mudiadau mawrion, a chymer- iadau personau amlwg wrth ei ewyllys. Llwvddai i guddio'r gwir a chyhoeddi'r gau i redeg un' mudiad i'r llawr ac i godi'r Hall i'r uchelion. Bodola un newvddiadur dyddiol i hyrwyddo yn ddirgelaidd fuddiannau y Fasnach Feddwol; prif nod un arall yw sicr- j hau a chadw gorfodaeth filwrol a diffvndolliaeth. Cenhadaeth un arall yw atal Ymreolaeth a chadw yspryd rhyfel yn fyw er mwyn elw gwneuthur- wyr arf^u. I'r dibenion uchod def- nyddir pob ystryw posibl. Darnguddir y gwirionedd cyhoeddir celwydd enynnir teimlad drwg rhwng y gwledydd prynnir seneddwyr blacn- i llaw, a llenwir ineddyliau y darllen-1 wyr a phob rhagfarn. Cydrhwng I popeth yr aur sydd ben, a gall yr i ychydig lindagu bywvd cenhedloedd i cyfan. Sylwer ar hanes y deng-mlynedd-ar- 1. del f' L hugain diweddaf. Ers mwy na hynnv y mae Prydain yn argyhoeddedig ar fater Datgysylltiad yr Eglwys yng Nghymru, ac eto, heddyw, gydag anhawster mawr, y llusgir edlych o fesur i rym, a hynny gan waddoli yr emvad newydd yn helaeth ar draul gwlad. Yr un modd gydag Ymreol- aeth vr Iwerddon. Pe cawsai mwy- afrif mawr trigolion Prydain Fawr eu ffordd buasai'r Gwyddyl ers blynydd- oedd lawer wedi cael y mesur rhesym- ol hwn ac wedi troi'n gryfder i'r Ymerodraeth. Yn lie hynny, erys yr Ynys Werdd fel pair be'rwedig, ac enw Prydain yn isel yng ngolwg y gwledydd o'r herwydd. Ddeng mlynedd yn ol gallesid rhoddi mesur cymedrol i'r Iwerddon a roddasai foddlonrwydd. Heddyw, troant eu cefnau ar Senedd Prydain gyda dir- myg, wedi iddynt gael eu twyllo a'u siomi mor fawr. Gellir dweyd yr un peth ynglyn a Phwnc y Tir, Sect- yddiaeth yn yr ysgolion; traha a gorthrwm y Fasnach Feddwol. Cyn- rychiola pob un o'r pynciau hyn fuddiannau ariannol gwyr mawr y wlad, ac felly, trwy ddylanwad eu haur llwyddant i lesteirio ymdaith gwlad, a rhyddhad y bobl o gaethiwed, ac ymhob achos y Senedd yw'r arf mawr. Priodol felly yw gofyn oni ddylid dileu y Senedd neu ei chvf- newid fel ag i'w gwneud yn offeryn mwy pwrpasol at ofynion gwlad? Llenwir llygaid y bobl a'r syniad fod pob un yn cael ei gynrychioli, a bod gan bob un ei bleidlais. Ond pa les sydd mewn twyllymresymu fel hyn ? Ymddengys pethau yn dda ddigon ar bapur, ond methiant hollol ydyw mewn ymarferiad. Er ethol mintai o wyr selog, yn llawn ysbryd diwygiad, i Dy y Cyffredin, buan y dysgant mor eicldil ydynt. Gwelant bod y llywodraeth yn nwylo dyrniad o swyddogion, a diflanna eu sel a'i gobaith fel eirwlaw Mai. Llenwir y wlad gan gynnwrf ac anfoddogrwydd; codir crocbris am bopeth; ceir myrddiynau yn segur; aeth y tai yn beryglus brin, ac nid oes ond ychydig obaith am adeiladu yn fuan; ca'r fasnach feddwol ryddid fel cynt i wasgar ei difrod, a thrwy'r cwbl amlheir tiodion yn enfawr. Yng nghanol y cyfan, ffynna cribddeiliaeth yn rhemp, a cheir y Llywodraeth yn agored hollol yn ychwanegu ugeiniau o filiynau at elw gwaedlyd profiteers mawrion y deyrnas! Troir yn ol iddynt hanner can miliwn y gor-elw a arferent dalu i'r Llywodraeth. Ych- wanegir at grocbris eu tiroedd, er i hyn ychwanegu at bris y bwyd a llesteirio y gwaith o adeiladu a thu ol i'r cyfan, ceir y gyfundrefn seneddol, fel caer gadarn, i amddiffyn elw a mantais annheilwng y cyfoethog ac yn gyfrwng gorthrwm i'r werin ac i'r tlawd. Peth arall a dry'n wendid i'r gyfun- drefn yw y gellir rhuthro etholiad cyffredinol ar adeg annheilwng a chynhyrchu canlyniadau twyllodrus hollol, a phob tro y gwneir hyn try pethau yn evbyn y werin. Gwnawd hyn adeg Rhyfel De Affrica, a gosod- wyd beichiau ar gefn y wlad yr adeg honno sydd fel hunllef ar ei chefn byth. Trodd y llanw i gyfeiriad arall yn 1905 a 1906, ond yn hollol ofer, oblegid y dymaid gwyr mawr a deyrnasai. Weithiau defnyddiant Dy yr Arglwyddi i'w pwrpas; bryd arall gwneir y gwaith trwy y Cyfrin- gyngor, neu swyddfeydd y Llyw- odraeth, neu ynte gelwir ar yr aelod- au Seneddol yn groes i'w daliadau a'u 11 won etholiadol, i ategu y Llyw- odraeth ac ufuddhant hwythau, fel cwn bugail, i'r alwad. Diwedd hyn oil yw bod llanw anghenion a dym- uniadau gwlad yn cael ei atal gan wrthglawdd y cyfoethogion, a bod y cyfryw yn defnyddio ein cyfundrefn I Seneddol i'w hamcanion iselwael eu hunain. Os pery hyn lawer yn hwy, cyfyd cyflwr ar bethau ym Mhrydain na all neb heddyw d'dychmygu ei fath. j Arferasom barchu oyfraith ac awdur- dod, ond ceir arwyddion heddyw fod y werin yn colli ei hofn a'i pharch tuag at y cyf ryw. Ond atolwg, onid ydym wedi cael diwygiadau a chyfreithiau rhagorol trwy'r Senedd? Pa beth a gawsom erioed ond trwy orfodaeth hollol? Meddylier am bleidlais y merched: nid oedd rhoddiad hon ond ffrwyth aberth ac ymdrech y merched eu hunain. Gorfodasent y Senedd i'w rhoddi iddynt. Yr un modd y cawd codiad cyflogau gweithwyr. Ni ellir cvfeirio at unrhyw ddiwygiad a gaf- wyd, ond a dynnwyd trwy ddannedd ein huchelwyr. Yn ddiddadl, rhwystr enbyd i fywyd gwlad yw ein cyfun- k drefn Seneddol bresennol, ac os na cheir rhywbeth yn ei lie, neu ynte iddi gael ei hail-eni yn drwyadl achosa dywallt gwaed yn y wlad hon. Ond beth ellir wneud? Anodd gwybod ar unwaith. Ar yr un pryd ni fydd neb mor ehud a meddwl mai y gyfundrefn fethiantus a pheryglus bresennol yw yr unig un bosibl. Gwir y gellir ei diwygio trwy ddileu Ty yr Arglwyddi, yr hwn sydd dda i ddim ond i rwystro deddfwriaeth a gwarch- od buddiannau personol yr ychydig. Rhoddai hynny waredigaeth fawr, a symudai bob esgus oddiwrth Dy y Cyffredin dros esgeuluso, buddiannau ucha'r werin. Gellid hefyd amlhau seneddau lleol i ymdrin a materion lleol, gan roddi mwy o amser i'r brif senedd at faterion o bwys. Rhaid er hynny fydd lleihau oes y Senedd i flwyddyn neu ddwy o bellaf. Ynfyd- I rwydd noeth yw Senedd fel yr hon a etholwyd yn Rhagfvr diweddaf. Dylasai'r Senedd fod yn hollol rydd I oddiwrth gaethiwed yr aur melyn. Fel y mae pethau abertha budd a chysur gwlad er mwyn cyfoethogi rhyw ddyrnaid o dirfeddianwvr, o fragwyr, o berchenogion gweithiau, o wneuthurwyr arfau a chyfarpar rhyfel. Yn wyneb hyn, nid oes gan y gweith- iwr, ond ei undeb a'i direct action i osod terfyn ar bethau, ac yna ail gych- wyn adeiladu o'r newydd. Nid oes amheuaeth nad yw rhaib ryfygus yr ychydig a reola'r wlad yn cyflym yrru pethau i argyfwng ofnadwy oni pheidiant ac oni diwygiant yn fuan. Ond pa fath ar sefydliadau a ellir osod i fyny yn lie y Senedd bresennol? O'r braidd y gofalwn am ateb yr ym- holiad, oblegid teimlwn mai digon i'r dydd ei ddrwg ei hun. Gallwn, er hynny, ddweyd mai anodd fyddai gosod gwaeth trefniant i fyny, ac fod gennym berffaith hyder y bydd gwlad- weinydd yi dyfodol yn abl i gyfarfod a gofynion yr oes newydd a gwneud brawdoliaeth dyn a chydraddoldeb cymdeithasol yn ffeithiau byw, a chyfreithiau gwlad wedi gosod eirth a bleiddiaid sychedig am waed dan gadwyni oesol.
[No title]
I Clydach. Bu farw Mrs. James Davies, Rockfield House, dydd Mercher diweddaf, wedi byr gystudd, a chladd- wyd ei gweddillion brynhawn Sadwrn yri hen fynwent Bethania. Gwasan- aethodd fel byd-wraig yn yr ardal am 36 o flynyddoedd, ac yn ffyddlon a gofalus bob amser. Yr oedd yr un mor ymgysegredig fel aelod yng Nghalfaria a bu'n ffyddlon yno hyd y diwedd. Mab iddi hi yw Mr. Llewelyn Davies, y re- porter adnabyddus o Glydach. Gwas- anaethwyd yn ei hangladd gan y Parchn. T. V. Evans, D. Eiddig Jones, a J. Vincent Thomas. Golygfa hardd a gafwyd yng N ghal faria bore Sul wythnos i'r diweddaf, pan fedyddiwyd tair ar ddeg o ferched ieuainc ar broffes o'u ffydd gan y Parch. T. V. Evans. Mae Mrs. Eiddig Jones yn ymdrech- gar ac yn llwyddiarmus iawn ynglyn a sefydlu canghennau o Gymdeithas Merched y De yn yr ardal. Cafodd dros 900 o weithwyr gwaith nickel Mond rybuddion i ymadael am fod dwy ran o dair o'r gwaith i'w atal. Trimsaran.-Gorff. 12 bu cyfarfod anrhegu ym yn y ffurf o anerchiad i Mr Thomas Beynon, Amaethdy y Clyne, am ei wasanaeth fel trysorydd i'r Gym- deithas Gydweithredol y lie am amryw flynyddoedd, ac hefyd fel un o sylfaen- wyr y mudiad yn y pentref. Y mae Mr Beynon yn amaethwr cyfrifol ac yn ddiacon parchus gyda'r Trefnyddion Calfinaidd; a mab iddo ydyw y Parch. David Beynon, Pontlottyn. Cyflwyn- wyd yr anerchiad gan Mr. David Thomas mewn araith lawn o deimladau da. Siaradwyd hefyd gan Mr. W. G. Lewis, Abertawe, ar egwyddorion cyd- weithrediad; a siaradodd Mr. T. E. Davies ar y mudiad fel cyfundrefn gyd- genedlethol er rhwyddau heddwch dros yr holl fyd. Cynhygiodd Mr. David Thomas, Waunclun, ddiolch i'r cadeir- ydd a'r siaradwyr, ac eiliwyd gan Mr. W. L. Harris. Cafwyd can gan Master Reynolds, hogyn bychan. Cadeiriwyd yn fedrus gan y llywydd, sef Mr. Wm. Reynolds.
I Ein Senedd a'n .Seneddwyr.…
honno, ac ni phaid ei meibion a dyheu ac vmdrechu am ryddid mwy. Yn ei ddydd, fel ysgrifennydd India, gwnaeth Arglwydd Morley waith mawr drosti. Parodd Iarll Curzon ac yntau yn Rhaglaw y dalaeth gyffro mawr yno pan geisiodd rannau Bengal vn ddau ddarn, ond bu raid iddo beidio. Gwthiwyd Deddfau Rowlatlt arnynt, ac ni ddaeth ond blinder ohonvnt hwythau. Ceir rhai Indiaid dysgedig ac amlwg a gynhyrfa am Ymreolaeth, ac ami i dro y ceir y cvnhvrfvvyr hyn yn cael eu taflu i garchar. Ceir mintai gref o Indiaid o farn gymedrol a theyrngarol yn y wlad hon ar hyn o bryd. Dydd Mnvrth diweddaf aeth dirprwyaeth o honynt at Mr. Montague, ysgrifennydd India, a gosodasant eu cwynion ger ei fron. Ar y ddirprwvaeth ceir y gwyr cvfrifol a ganlyn :—Mri Surendranath Banerjea, Srinivasan Sastri, K. O. Roy, Prithwis Chandra Ray, Chintra- mani, Samarth, a Syr K. G. Gupta. Eu prif ddadi oedd fod y mesur sydd yn awr o flaen y Senedd yn syrthio lawer yn fyr o'r addewid a roddwyd gan yr Ysgrifennydd a'r Rhaglaw flwvddyn yn ol. Mewn ffordd o ateb ceisiodd Mr. Montague roddi eu tystiolaeth o flaen y Pwyllgor o'r ddau Dy sydd yn awr yn eistedd i ystyried deddfwriaeth i'r India.. ———=— I