Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

ADDYSG.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

ADDYSG. [GAN ARTHUR HUGHES]. II. Gyda golwg ar y dull o gyfrannu addysg mcwn ysgolion, ni hoffwn ddweyd dim yn bendant am Argentina, gan nad wyf eto '11 ystyried fy mod yn gwybod digon am ddull y wlad hon i fedru barnu. Ond am yr Hen Wladigartref gallaf ddweyd mai perygl mawr yr ysgolion, a'r colegau hefyd o ran hynny, ar hyn o bryd, ydyw myned yn rhy beirian- nol, a chamgymeryd hyfforddiant am addysg. Un peth yw'r gwaith peiriannol ond angen- rheidiol o hyfforddi a rhoi gwybodaeth peth arall hollol wahanol ydyw addysgu. Rhoi gwybodaeth i mewn ydyw hyfforddi, dysgu rhywbeth i rywun tynnu allan ei gynheddf- au a'i addysgu i ddatblygu ei alluoedd arben- nig drosto 'i hun ydyw addysg-dysgu iddo fod yn rhywbeth, fel y dywedodd Goethe, nid dysgu iddo wneud rhywbeth. Oblegid ond i dÇ"D fod yn rhywbeth iawn i ddechreu, y mae'n sicr o wneud rhywbeth iawn. A chyda llaw, wrth feddwl am Goethe a'r Gerinaniaid, y mae eu cynilun hwy mewn rhai pethau yn rhagori af gynllun Prydain. Y mae gormod o arholi ym Mhrydain yn awr. Fel y dywedodcl yr ysgolhaig Celtaidd enwog, Dr. Kuno Meyer, wrthyf un tro pan oeddwn yn mhrifysgol Lerpwl: "In England you examine your students; in Germany we educate them "arlioll eich myfyrwyr y byddwch chwi yn Lloegr; eu haddysgu y byddwn ni yn Germani. Wedi'r cyfan, nid yw ysgolion a cholegau ond rhan fechan iawn a addysg dyn. Y mae rhai 'n medru addysgu eu hunain hebddynt o gwbl. Ac y mae dylanwad yr aelwyd yn llawer inwy, neu fe ddylai fod. Gwelir hyn yn amlwg yn y Wladfa, lie mae rhai wedi ennill meistrolaeth dda ar yr iaith Saesneg, er enghraifft, ac ar gerddoriaeth, heb nemor fantais o gwbl ond dylanwad yr aelwyd. Nid i'r ysgolion a'r colegau y bum ynddynt yr wyf fi fy hun yn ystyried fy hunan yn ddyledus am yr addysg y cefais y fraint o'i derbyn, ond i fy mam weddw oblegid yr aelwyd a gadwodd hi i mi tra bum gyda hi, oblegid yr awyrgylch o addysg fyddai bob amser o fy nghwmpas. Cof gennyf unwaith ofyn i'r Athro Anwyl, Aberystwyth, pam yr oedd rhai graddedigion ym mhrifysgol Cym- ru'n ymddangos mor fyr o addysg wirionedd- ol. "Am nad yw'r aelwydydd yn cyfateb," meddai yntau, "nac yn rhoi unrhywgymorth iddynt." Pan fo dyn neu ferch ieuanc yn gadael ysgol neu goleg wedi gorffen en haddysg," fel y dywedir, nid ydynt mewn gwirionedd ond prin ar drothwy addysg, ac megis yn dectireu deal] ac amgyffred, a myned i mewn i'r cyfrinion. Y mae dyn yn addysgu ei hun- an ar hyd Ilwybr y bywyd i gyd. Nid oes dim pen draw na therfyn ar addysg. A'r addysg oreu, a'r unig wir addysg ydyw'r addysg a rydd dyn iddo'i hun. Ni all yr athro goreu ddim mwy na dangos pa fodd i wneud, pa fodd i ddysgu, rhaid i bawb ennill ei addysg ei hunan. "Nobody," meddai Locke, "ever went far in knowledge by the discipline and restraint of a master"—nid aeth neb erioed ymhell iawn mewn gwybod- aeth drwy ddisgyblaeth a chaethiwed athro. Nid swm a sylwedd vr hyn a gyfrennir sydd yn bwysig, ond y dull. Gwaith mawr yr athro ydyw creu awydd am addysg yn y dis- gybl. Y disgybl ddylai holi'r athro, ac nid yr athro arholi'r disgybl. Pan wedi llwyddo i greu 'r awydd hwn, ni raid petruso rhyw lawer am ychwaneg. Y mae'r disgybl hwnnw ar y ffordd i ddechreu addysgu ei hunan. Hoffwn weled rhagor o ysgrifennu ar y pwnc dyddorol hwn, neu feirniadaeth ar yr hyn wyf fi wedi ei ysgrifennu uchod, yn enwedig o safbwynt y Wladfa. —————

Cynyrchion Eisteddfod Trelew…

Nazareth, Drofa Dulog.

Ymreolaeth i'r Iwerddon.

Advertising