Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
9 erthygl ar y dudalen hon
MARWOLAETH UN 0 FERCHED Y…
MARWOLAETH UN 0 FERCHED Y BLEIDLAIS. Trwy ymdrech ryfygus derbyniodd Miss Davidson niweidiau drodd yn angau iddi. Ceisiodd rwystro ceffyl y Brenin George pan yn rhedeg mewn rhedegfa ceffylau yn Derby. Achosodd i'r ceffyl syrthio ac l'r marchog gael ei niweidio, a chollodd hithau trwy y niweid- iau dderbyniodd ei hymwybyddiaeth a bu farw cyn ei adenill. Dro yn ol ymosododd gyda chwip ar wein- idog Bedydlwyr yn Aberdeen gan dybio mai Lloyd George ydoedd. Yroedd hi wedi enill y radd o B.A. yn mhrifysgol Llundain. Y mae Mrs. Pankhurst unwaith etto wedi ei gollwng o'r carchar mewn cyflwr iechid peryglus oherwydd iddi wrthod cymeryd ymborth. 14^
Trelew. I
Trelew. Wythnos cyn y ddiweddaf darllenwyd papur ger broil "Cynideithas Camwy Fydd," gal) v Br. Ben Lewis ar First Aid, a dangos- oJd i'r cyfarfod pa fodd i weithredu mewn achos o ddamweiniau. Yr oedd y gwersi gafwyd yn .adeiladol" a dyddorol, a theimlid mai manteisiol fyddai cael cyfarfodydd o'r un natur yn amlach. Dywedodd y Br. Ben Lewis mai amcan y First Aid Society fel sef- ydliad yw addysgu rhai pa fodd i weithredu, hyd nes y cyrhaedda meddyg, pan y digwydda rhywun dori ei fraich neu rhyw aelod arall; neu ddangos pa fodd i weithredu pan y bydd rhywun yn ol pob. ymddanghosiad wedi boddi; trwy ddilyn cyfarwyddiadau roddir gan y First Aid Society, y mae canoedd wedi bod yn foddion i achub bywydau fu yn ymyl cael eu colli. Cafwyd gwasanaeth y Grama- phone yn y cyfarfod hwn, a chafwyd can ddwywaith, gyda chymeradwyaeth y cyfar- fod, gan y Br. R. Roberts, Gaiman. Yr wythnos ddiweddaf cafwyd trafodaeth ar y cwestiwn, "A yw Diafol yn berson ?" Cafwyd gwahanol syniadau y byd paganaidd a'r byd Cristionogol am darddiad Da a Drwg neu Daw a Diafol." Un syniad yd- oedd fod y Da yn ddiddechreu, a'i hanfod ynddo ei hun a Drwg wedi cael bod trwy weithrediad un o'r is dduwiau pan greodd y byd materol, ac felly fod mater yn ddrwg trwyddo. Siaradodd amryw a'r oil bron yn tueddu i gredu fod y Diafol yn berson ac mai pechod hunangynhyrfiol oedd ei bechod ef, ac felly mai efe yw "tad y drwg." Os yw Diafol yn berson dywedwyd ei fod yn meddu y pethau canlynol gan iias gellir bod yn berson hebddynt :deall, teimlad, ewyllys. Neu yn ol rhai hunanymwybydd- iaeth a hunan benderfyniad. Os cydsynirfod y Diafol yn meddu dealltwriaeth, ewyllys, hunanymwybyddiaeth, yna y mae yn rhaid cydsynio ei fod yn berson. Nis gall na ddel lies oddiwrth ymchwiliad i fateriol1 fel hyn a pho ddyfnaf a Ilwyraf yr ymchwiliad, mwyaf adeiladol ac effeithiol fydd ffrwyth yr ymchwiliad. Cafwyd ad- roddiad ar Ddiafol gan y Parch. William Roberts, adatganwyd gan y Br. R. E. Hughes —yr oedd y-naill a'r lIall yn ganmoladwy.
Advertising
s 0 s I A L A E T H 7TORIKH, Nos lau, Gorph. 3. TRADDODIR DARLITH yn y lie uchod, gan y Br. D. IAL JONES. = Drysau yn agored am 6 p.m., i ddechreu am 6.30. Mynediad i mewn trwy Docynau Oedogion $1.00, Plant, $0.50. Yr Elw at y Vestri.
Lleodraeth Trelew.I
Lleodraeth Trelew. Rhybuddir y Trethdalwyr y bydd amser talu y Dreth Dirol am y flwyddyn hon, i fynu ar y 30am o'r mis hwn, wedi hyny fe'i codir ynghyd a'r ddirwy nodwyd gan V Cyngfhor. J. T. SANCHEZ, Trelew, Meh. 7, 1913. Ysgrifenydd.
Advertising
AT EIN GOHEBWYR. MEWN LLAW.—Ysgrif ar y diweddar D. Emlyn Evans. DAMMEGION (Gan CREIGVRYN). 1. Parota'i addewid prina'i gyflawniad. 2. Diogel ffordd rydd ei cherdded. 3. Nid difyr ffordd, ond y gwyddis ei throfa. 4. Goreu '1 gan, yr hwn a'i gwyr. 5. Poed uwchaf can, can i'r Gwaredwr. 6. Tylota gwr, gwr heb Grist. 7. Na ddigia wrth ddawn dy gyd-ddyn. 8. Gwyr y ffolaf rywbeth nas gwyddost. 9. Nid wrth wisg yr adwaenir doeth. 10. Wrth dy rwbio yn nhroion y byd, bydd fel matsen yn rhoi goleuni, ond nid yn drwg arogli. HADAU ALFALFA. Trefna yr c. M. C. i dderbyn hadau Alfalfa yn Gaiman ddyddiau Llun ac lau o bob wythnos, pryd y bydd yno ddyn prof- iadol i'w dosbarthu yn briodol ac yn Nhrelew ddyddiau eraill yr wythnos. Ond er hwylus- dod i'r fferm wyr trefnir i dderbyn yn Gaiman ar ddyddiau Mawrth, Mercher, Gwener a Sadwrn, ond ni wneir y dosbarthiad yno, yn unig bydd raid i bob ffermwr nodi ei sachau gyda rhyw nod gwahaniaethol modd y gellir eu dosbarthu yn briodol wedi hyny yn Nhrelew. Er mwyn cael dosbarthiad manylach o'r oil glanheir yr hadau yn ofalns a chedwir cyfrif manwl o'r gwahanol ddosbarthiadau ac o'r gofer, er mwyn rhoddi i bob cynyrchydd yr hyn a deilynga yn ol ansawdd ei hadau. Y mae yn ddealledig wrth gwrs na dder- bynir hadau ond a fyddant wedi ei glanhau hyd y inaeyn bosibl gan y ffermwr ei hun. Yn ol y dullnewydd hwn o drin y cynyrch pwysig hwn sicrheir marchnad sefydlog, yr hyn nad ydym wedi allu ei wneud yn y gorphenol o herwydd anwastadrwydd an- sawdd yr hyn anfonid. Ar hyn o bryd bydd i'r Cwmni flaendalu $4.00 y 10 kilo ar A ;$3.00 ar B; a $2.00 ar C., ac yn ol y rhagolygon presenol bydd i'r gwahanol ddosbarthiadau glirio o leiaf ddoler a haner y deg cilo yn fwy na'r swm flaen- delir. CYFARFOD CYSTADLEUOL Y GAIMAN AWST 12, 1913. CYFNEWIDIAD.—Sylwed y Chwiorydd fod y Pwyllgor yn newid Rhif 19 ar Restr y Testytiati, -Pillow Case, yn lie 2% modfedd o led, y mae i fod yn 5 modfedd. BOB WILLIAMS, Ysgrifenydd. Yn Eisieu Prynu Pum' Mil o Ddefaid. Ymofyner a J. S. Dillon, Arwerthwr, Gaiman. AR WERTH. TAIR 0 GYFRANAU yn yr C. M. C. Ymofyner a JOHN LLOYD JONES, Dolavon, Dyffryn Uchaf. Y GYMANFA GANU. Oherwydd y gwlaw, ni ddaeth y Pwyll- gor yn ng'hyd. Gohiriwyd ef hyd Mehefin 28ain, am 2.30 p.m. yn Ngwesty Aberystwyth Dros y Pwyllgor, EDWARD R. EVANS. Mehefin 15, 1913. FFERMYDD AR OSOD. Y mae Ffermydd ar Osod rhwng Trelew a Rawson. Cyflenwad o ddwfr. Am bob manylion ymofyner a Mrs. WALKER. C. M. C. Archebion Arbenig. Yn ystod y mis hwn derbynir archebion am datws had mewn boxes, a phob math o goed ffrwythau oddiwrth G. & R. Morrison, Buenos Aires. Nis gellir ymrwymo i gyflenwi archebion dderbynir wedi diwedd y mis hwn. YR AROLYGIAETH, Trelew, Meh. 8, 1913. 1
LLONOAU.
LLONOAU. Avellaneda i'w disgwyl yn Madryn ar y 27ain cyfisol, am Buenos Aires. Pellegrini yn San Antonio, i'w disgwyl yn Madryn ar yr 28ain cyfisol. Mitre i adael Buenos Aires ar yr 28ain, gan alw yn San Antonio. Rawson i adael Buenos Aires ar y 30am cyf. gan alw yn San Antonio. Kenuta am Loegr i'w disgwyl yn Madryn ar y 4ydd o Gorphenaf. Esmeraldes o Loegr i'w disgwyl yn Monte- vidio ar yr 28ain cyfisol. Magellan o Loegr i'w disgwyl yn Bahia Blan- ca ar y 6ed o Gorffenaf.
Advertising
-+- CHIMHN. CYNHELIR -:CYNGHERDD:- Er budd yr Ysbytty. Nos Fercher, Gorphenaf 9, 1913. am 6 p.m. o'r gloch, Mynediad i mewn trwy docynau Oedogion, $i.oo; Plant, 50 cents. EISTEDDFOD TRELEW. Cynhelir yr uchod yn y NEUADD GOFFA, Tachwedd 14eg, 1913. Disgwylir i'r holl Gyfansoddiadau anfonir i'r Hen Wlad i'w beirniadu, fod yn llaw un o'r Ysgrifenyddion, ar neu cyn, y nfed o Gorphenaf. Copiau o'r Gerddoriaeth ar werth gan yr Ysgrifenyddion. Mae y Rhaglen yn y Wasg, a bydd yn barod yn mhen ychydig ddyddiau. TOM EDWARDS, )  A. H. WOODLEY, sg.
Pwyllgor Undeb Eglwysi Rhyddion…
Pwyllgor Undeb Eglwysi Rhyddion y Wladfa, MEHEFIN 19, 1913. L-Wedi trafodaeth faith ar fuddioldeb Gweinidogaeth Sefydlog. Pasiwyd yn unfryd unfarn, i osod y mater o flaen y gwahanol Eglwysi, er cael eu barn ar y priodoldeb o gael Gweinidogaeth Sefydlog. 2.— Penderfynwyd rhoddi llythyr cymer- adwyaeth fel Pregethwr yn y Wladfa, i'r Brawd W. M. Hughes, Ystordy Canolog-y Gaiman, sydd arhynt ymweliadol a Chymru. EVAN WILLIAMS, YSGRIFENYDD.
Cystad ! Cystad !!
Cystad Cystad Vn y GAIMAN, Dydd Sadwrn, Gorphenaf 5, 1913, am i o'r gloch. Oherwydd ymadawiad y Bonwyr Laforest, mae genyf archeb oddiwrthynt i werthu mewn cystad cyhoeddus a ganlyn:- Anifeiliaid a chelfi ar y fferm ddaliant ger Capel Cymreig y Gaiman Ceffylau, Cesig, Ebolion, Buwch odro gyda llo cymysg-ryw; Arfau Saer, Rhawiau, Ceibiau, Bwyelli, Gyfrwyau Seisnig i feibion a merched, Byr- ddau, Cadeiriau, Gwelyau, Gwely-esmwyth- fainc, Matresi, Gobenyddiau, Gwrthbanau, Tyweli, Catres Haiarn, Lulky a Ger, Llaw- ddryll, Revolver, Cwpbwrdd Dillad. Dau Beiriant Gwnio-gyda llaw a throed, Peiriant Tynhau Gwifr, Peiriant gwneud Ymenyn mewn munud, Peiriant golchi Coed Ffrwyth- au, Peiriant Tynu Lluniau, Awrljiis, Llestri da, Cyllill, Llwvau, Napcynau, Crochanau, Berwedyddion o amryw fathau a maint. Sugnedydd dwfr gyda phibellau, Oergig- flwch, Og tri darn, gyda llawer o bethau eraill a fyddant i'w gweled ddydd yr arwerth- iant. Comisiwn 10 y cant. J. S. DILLON, ARWERTHWR A PHRISIWR. Mae genyf hawl i werthu Press (Dain) o ychydig draul, gyda blwyddyn o arnser i dalu. Mae genyf hefyd ar werth Peiriant Dyrnu, ar amser; Ffermydd, Tai, Camp, Anifeiliaid.