Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

-0 Gair o Gymru.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

-0 Gair o Gymru. Gofynodd amryw o'r fintai ddaeth yma o'r Wladfa yr un pryd a mi, a fuaswn yn anfon gair byr i'r DRAFOD yn hysbysu ein bod wedi cyrhaedd yma yn ddiogel. Cyrhaedd- asom yn y Deseado perthynol i'r Royal Mail i Liverpool Landing Stage naw o'r gloch y 23ain o Fehefin. Cawsom fordaith ddymunol ar y cyfan heb ond ychydig o dywydd garw, er hyny siglai y llong gryn lawer, yn herwydd, fel yr eglurid i mi, fod yndcli gymaint o gig rhew- edig yn crogi wrth fachau, a hwnw yn gweithredu fel pendil cloc yn mwyhau pob rholiad o'i heiddo. Yr oedd Mrs. Thomas, Bryn Gwyn, a Mrs. Richard R. Owens, Tir Ha!en, ar delerau pur dda a Neifion, yn wir yr oedd Mrs. Owen yn gwella bob dydd o'r daith. Bu Lily gyda ni, yn bwydo'r pysg am beth amser ac yn wfftio y mor a'r llong a phobpeth, ac eisiau troi pwynt y llong yn ol i'r Gaiman ond daeth hithau dros y pwl yn fuan ac yna nid oedd digon o ddireidi i'w wneud. Am John Thomas Jones a'i fab David, David Adna Davies, John Parry, Aled Morris a minau, yr oeddym oil fel cricsyn. Aled Morris yn wir oedd bywyd y cwmni. Datganai a'i lais rhagorol hen alawon Cymreig nes synu y teithwyr eraill, ac yr oedd mor llawen a'r gog ar foreu Mai. Aeth Mrs. Wm. Thomas ymaith wedi glanio yn nghwmni Br. Morgan Bowen a'i deulu am Swansea. Daeth Mrs. Richard R. Owen yma gyda ni, a daeth ei chwaer o Abergynolwyn yma i'w chyfarfod, acaethant dranoeth ymaith gyda'u gilydd am yno. Ni welais neb o'r Gwladfawyr sydd yma hyd yn hyn. Gwelodd y Br. Parry y Br. D. Rhys Jones ar yr heol yn Liverpool yn hwylio yn ol, ac er y gwyddai ein bod yno, ni ddaeth i edrych am danom. Rhyfedd mor oer yw'r tywydd yma er ei bod ganol haf, a'r rhan fwyaf o'r amaethwyr yn brysur gyda'r cynhauaf gwair, Dau Sabbath gefais yma hyd yn hyn. Un yn yr Albert Hall, Manchester, yn gwrando y gwr hynod, Mr. Collier, yr hwn wna waith mor fawr yno. Yr oedd y neuadd fawr yn orlawn odfa'r hwyr, a'r genadwri yn rhagor- ol. Treuliais y Sabboth arall yma, a mwyn- heais y gwasanaeth yn fawr iawn. Mae'r bobl yma yn hynod garedig a serchog tuag atom fel teulu. Ein cofion fyrdd at ein hen gydnabod.—Yr eiddoch, Bodlondeb, Bodlondeb, W. M. HUGHES. Dolgelley, Gorph. 7, 1913.

Tarddiad Bywyd. I

I,Ysgoldy Lie Cul.I

A Adawn Ni y Wladfa.