Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Treorci.I
Treorci. Cynhaliwyd Cwrdd Llenyddol yma nos Fawrth Awst 2ofed, pryd y cadeiriwpd gan y Br. Evan T. James, ac yr arweiniwyd yn ddeheuig gan y cyfaill Richard W. Jones. Cafwyd cyfarfod lied dda, wrth gwrs buasai yn well pe bae rmvy wedi teimlo dyddordeb ynddo ac wedi dysgu adroddiadau etc., ar ei gyfer. Dyma raglen y cyfarfod :—Can agoriadol gan y Br. David Jones, gresyn na fai mwy yr un fath ag ef, gan ei fod yn gwneyd ei ran bob ainser. Adroddiad Ys- baeneg gan Gwynn Jones araeth ddifyfyr i fechgyn, goreu Br. James Evans unawd Pa !e mae fy mac h gen hon gan Miss El- Pa le mae fy machgen hoff," gan Miss El- vira Davies, yn yr unawd hon gwelsom ddar- lun byw o deimladau cannoedd o famau y byd heddyw sy'n hiraethu am eu hanwyliaid sydd yn y rhyfel darllen darn heb atalnod- au, cydradd y Bwyr. James Evans a Robert Thomas unawd gan y Br. D. Ial Jones, yn dderbyniol iawn a diolchwn am ei barod- rwydd i geisio gwneyd y cyfarfod yn llwydd- iant gan mai ef hefyd oedd beirniaid yr araith ddifyfyr a chystadleuaeth y Ilythyren, y goreuon yn y gystadleuaeth hon oeddynt, dosbarth bechgyn, Br. James Evans, dos- barth merched, Miss Vera Jones, dosbarth plant, Edward Parry adroddiad gan Nefydd H. Cadfan pedwarawd gan y Br. Robert Thomas a'i gyfeillion, yn swynol a da ad- roddiad gan Miss Vera Jones, yn ganmolad- wy fel arfer, ac ymwahanodd pawb i'w car- trefi ar ol i Ial adseinio Hen Wlad fy Nhad- au. Da genym fod y pwyllgor am roddi di- weddglo fawreddog i'r cyrddau llenyddol. eleni, trwy gynhal te parti a chyngerdd cys- tadleuol yn yr hwyr, yr hyn a fwriedir ei gynhal yr i8fed o'r mis nesaf, mae'n debyg y gwel y pwyllgor yn ddoeth i'w gyhoeddi yn y DRAFOD er llwyddiant y symudiad. Gobeithio na rydd ieuenctyd Treorci y gwobrwyon i ardaloedd eraill o ddiffyg aidd- garwch a brwdfrydfedd llenyddol. Blin iawn genym am afiechyd hir y Br. Abbiah Griffiths, dywed y meddyg Jubb ei fod yn awr wedi cael ymosodiad ysgafn o'r Typhoid calfed ryddhad llwyr a buan o'i afiechyd yw dymuniad dyfnaf ein calon. Yr ydym yn falch iawn fod yr ardal hon wedi cyfranu mor ragorol at achos tnor deil- wng, sef Cronfa Goffadwriaethol Arglwydd Roberts, i filwyr a morwyr sydd wedi eu hanalluogi yn y rhyfel," feI y dengys y tan- ysgrifiadau rhagorol, ac y mae clod yn ddyl- edus i'r rhai fu wrthi'n casglu yn yr ardal at y gronfa-y Bonesau D. Hughes Cadfan a Rhys Thomas. AP SELYF. ■ I HI e,
Yr Ysmaldod Dirwestol.
Yr Ysmaldod Dirwestol. [Allan o Waith TREBOR MAI, prif Englyniwr Cymru, cyhoeddedig gan Foulkes, Lerpwl, 1883.] Trwy law UMBALAH. [PARHAD.] 11 FY MARN INAU. Gormod o ddiod i ddyn,—nid yw ddoeth, Nid yw dda, i undyn Aeth ami wr, fel isel asyÙ, I fol y clawdd, a hawdd yw hyn. Haner peint ar y pentan-a wna les, Mae'n wlyb da, os gloew-lan Ceir lloches gynes i'r gan, Ag iechyd yn y gochan. Os bwytawn, yn llawn ein lluniaeth,—gwen- Ddwg ynom, ac alaeth [wyn Ac o'i ol daw marwolaeth Suddo i wane, beth sydd waeth ? Meddyliwch, chwi feirdd, am ddilyn—yr ych, Er uwched eich tremyn Ei fwyd a'i ddiod a fyn, Ei hudo d'all iieb wed'YD. Rheol sy'n mhob athrawiaeth,—ac hefyd, Cofiwn ein bodolaeth • A 'madael a gormodiaeth- Hyn sydd wir, hen fir sy'n faeth. Ar air a chydwybod. IDRIS FYCHAN. ENGLYN I DEMLYDDIAETH. Urdd, o ddyfais rhyw Saeson,—neu Yankees, I lyncu da'r Brython Ys ddegau o swyddogion Ga fyw yn hael ar gefn hon. A. GWELL. Y FFLAM DREBORAIDD. Yfwn win, mewn doethineb,—a bir hen, Heb wirioni'r wylieb Ni ildiwll i gymedroldeb— Behaviwn ni, waeth befo neb. RHYCHWYN. (Pwbarhau.)
Lord Roberts Memorial Fund.
Lord Roberts Memorial Fund. Derbyniwyd y symiau hyn oddiwrth yr Eglwysi canlynol :— Bryn Crwn $507.20 Treorci 302.00 Bethesda Glan Alaw u 176.00 I Trelew 821.00 A. THOM MORRIS. Anglo South American Bank, Trelew, Medi 6, 1918.
Family Notices
< —— GENI. PUGH.—Awst 30, am 1.15 y prydnawn, gan- wyd mab i Mrs. Florence A. Pugh, priod Mr. Hugh George Pugh. Gelwi'r y mab bychan ynHugh Cyril Pugh.
V RHYFEL.
RHUFAIN. Swyddogol. Mae'r cylch- wilwyr yn weithgar ar yr holl ffrynt. Mae ein cadoffer yn weithgar yn y cylch mynyddig. Gorchfygasom ymosodiadau yn Stelvis yn Asiago. PARIS. Swyddogol.-Gorchfygasom ddau wrthymosodiad yn mhentref Champagne a symudasom yn mlaen i gyfeiriad Concile- chateau. Cymerasom iooyn garcharorion. Trodd ymosodiad y gelyn yn ranbarth Au- bereas yn fethiant. LLUNDAIN. Svvyddogol.—Yr ydym wedi cymeryd Riencourt, Lez, Cagnicourt. I'r dde o Scarpe ymosodwyd gan gad- luoedd Lloegr a Chanada a gwnaethant symudiad rhagorol yn mlaen. AMSTERDAM.—Dywed "Arbeiter Zeitung", Vienna fod y sefyllfa ynglyn a bwyd ych- ydig yn fwy addawol. Mae'r amaethwyr yn cadw eu cynyrch. PEKIN. -Ymddengys fod symudiad yn erbyn yr Arlywiaeth ar gymeryd He, ac fe'i trefnir gan amryw o'r cadfridogion. Medi 3. COPENHAGEN. Berlin. Moscow.—Mae cyflwr Lenin yn gwella, mae pob perygl drosodd. STOCKHOLM.—Dywed arweinwyr Sosial- aidd Isellmynaidd fod arweinwyr y tair plaid yn y Reichstag yn Ionawr diweddaf wedi ceisio dyfod i gyd-ddealltwriaeth a'r Pasiffistiaid Prydeiuig i weithio yn egniol yn ffafr heddwch ar y llinellau osodwyd i lawr gan Wilson. AMSTERDAM.—Ofn gymhellodd Helfferich i adael Moscow. BERLiN.-Mae'r awdurdodau Almaenaidd yn Poland yn cymeryd p.b gofal i amddi- ffyn Llywodraeth Von Hessler. MUNICH.—Mae Prince Ruprecht wedi dychwelyd i'r ffrynt. LLUNDAIN. Mae'r Prydeinwyr wedi cymeryd Lens a Quesant. STOCKHOLM.—Mae perchenogion Swed- aidd wedi rhoddi yn nwylaw adeiladwyr llongau yn Norway i adeiladu 55 o ag'er- longau, cyfanswm eu tunelliaeth yn 142,000 tunell. PEKIN.-Dywed Colonel Semenoff fod y Cydbleidwyr wedi cymeryd Olevenia gyda pedwar o ynau mawr, amryw o ynau peir- ianol a charcharorion. STOCKHOLM.—Mae'r Almaen wedi cyd- synio a threfniadau Ffinland ynglyn a sef- ydlu cyfathrach masnachol. COPENHAGEN.—Mae gorchymyn wedi ei roddi gan y Llywodraeth Sovietaidd fod yr holl ddyeithriaid (?) yn Moscow a Pe- trograd y gadael y dinasoedd o fewn 24 o oriau. WASHINGTON.—Mae delliaid y gwledydd cydbleidiol yn cael caniattad, pan yn gad- ael Rwssia, i fyned trwy Ffinland os na fydd i awdurdodau yr Almaen osod rhwystrau ar eu ffordd. PARIS. Swyddogol.-Mae brwydrau gyd- a'r cadoffer ar ffrynt y Somme, rhwng Oise ac Aisne. Trodd ymosodiadau dirybudd y gelyn yn rhanbarth Visle a'r Vosgos yn fethiant. LLUNDAIN,-Mae'r Prydeinwyr wedi cym- eryd Doignies, Velir, Berthiccourt, Roque- guy. LLUNDAIN.- Mae'r Cydbleidwyr wedi cym- eryd Obserquaya i'r dde o Arkangel. Medi 4. AMSTERDAM.—Mae'r Ymherodres Alinaen- aidd yn dioddef oddiwrth -'Arterio-clerosis" yn cael ei ddilyn gan "curiad y galon," a gorchymynir iddi gadw yn ei gwely. WASHINGTON. Swyddogol. — Mae cyfan- swm eadluoedd yr Unoi Dalaethau sydd wedi myned i'r gwahanol faesydd rhyfel dros 1,600,000. Yn ystod Awst glaniodd dros 250,000 yn Ffrainc. 'AMSTERDAM.Mae'r newyddion ffafriol o'r ffrynt Ffreugig, a Ileoedd eraill, wedi achosi codiad yn werth yn arian Cydbleidiol, a gostyngiad yn ariau y Teutoniaid. COPENHAGEN.—Mae'r "Vossiche Zeitung" yn pwyso ar yr augenrheidrwydd am i'r Al- maen gefnogi polisi Ysbaen yn Morocco, a chydnabydda ddylanwad Ysbaen ar Dde America. Mae Uchelgais OH-Yspaeniaeth yn cyf- ansoddi gwrthglawdd cryf yn erbyn Ymher- odraeth Gogledd America. PARIS. Swyddogol.—Yr ydym yn parhau i ymosod ar y gelyn rhwng Ailette ac Aisne. Yr ydym wedi cymeryd Bercy-Ie-Iong a choedwig Chapitre, gan gymeryd 1,500 yn garcharorion. Yr ydym wedi croesi afon Vesle. RHUFAIN. Swyddogol, Gwrthgurasom ymosodiad o'r Mantello. Mae ein cadoffer yn weithgar i'r dde o Roveretto yn Asiago. LLUNDAIN. Swyddogol. Adroddir am frwydrau lleol o amryw fanau. Yr ydym wedi cyraedd y rhan ddwyreiniol o goedwig Vaux i'r gogledd o Moislans, ac yr ydym wedi symud ychydig yn mlaen mewn Ueoedd eraill. Yr ydym wedi cyraedd Ilinell i'r gogledd o Arras a ffordd Cambrai. Yr ydym wedi cymeryd Court San Quentin. Yn nosran Lys gwnaethom symudiad pellach yn mlaen gan gymeryd Sailly, Surlys, Nieppe, a Ler- omarim. PARis.-Dywed Havas fod cadluoedd Margin yn parhau i ymosod yn ddiymor- phwys ar y gelyn rhwng Vesle ac Aisue. Yn ol adroddiadau carcharorion Almaen- aidd mae'r frwydr wedi cyrraedd graddau o ffyrnigrwydd na welwyd o'r blaen. LLUNDAIN.-Dywe-d adroddiad 0 Palestina ein bod wedi tanbelenu safleoedd y gelyn ar reilffordd Hejaz. Gorchfygwyd ymosod- iad y Tyrciaid a'r Arabiaid yn agos i Alban- em gyda cholledion trymion i'r Tyrciaid, Moscow, Mae'r eadluoedd Sovietaidd wedi symud ymlaan yn rhanbarth Ufa a Saratoff. Mae'r sefyllfa yn un ddyrus o herwydd gwrthryfel pobl y wlad ag sydd yn bwgwth trefnu gwrthwyuebiad i'r Sovietiaid. Medi 5. LLUNDAIN. Swyddogol.- Ymosodasom a chytnerasom Plonge-Street ar ffrynt Lys. Yrydym wedi cymeryd Neuville a Bon- jouval. ZURICH,—Mae Penaeth "Emden" yn cyd- nabod fod y sefyllfa filwrol yn awr yn fwy difrifol nag y mae wedi fod er brwydr y Marne, 1914. LLUNDAIN.—Mae'r Prydeinwyr wedi cym- eryd 16,000 yn garcharorion, a 100 o ynau mawr yn ystod y pedwar diwrnod diweddaf. LLUNDAIN.-Dywed adroddiad North Am- erica eu bod wedi cymeryd Bayoches, Wer- les, Ternettes a Basileux gyda charchorion a gynau peirianol.