Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

11 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

NODION A HANESION.

- - - -Yr -Eneth Gollcdig.1

Ceisio Neidio o'r Tren.

I -.Rheswm o Bwllheli. |

Henadurtftld y Cyngor Sir.

IQwanc am Ddiod. I

Dirgelwch ar Fwrdd Aeer" .long.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Dirgelwch ar Fwrdd Aeer" long. Pan gyrhaeddodd yr agerlong Oceanic i Southampton, ddoe, hysbys- wyd fod dynes ieuanc wedi marw yn y Hong, ac agorwyd trengholiad ar y corff. Chwareuyddes oedd y drancedig, o'r en w Frances Leslie. Ychydig amser yn ol cyllogwyd hi ag amryw o terched ieuainc ereill o'r Amerig i gymeryd rhan mewn perfformiadau yn un o chwareu- dai Llundain. Cyrhaeddodd y geneth- od ereill i'r wlad hon wythnos yn ol, ond er y disgwyhd y drancedig gyda hwy. ni wnaeth hi ei hymddangosiad, ac ni anfonodd unrhyw reswm tros ei hoediad. Bu farw gynted ag y gadawodd yr agerlong Cherbourg, ac anfonwyd brys-. neges ddi wefr i Southampton i hysbysu y byddai trengholiad yn angenrheidiol. Sylwodd y crwner na wneid dim yn y trengholiad y diwrnod yma ond yr hyn a fyddai yn angenrheidiol er profi ad- nabyddiaeth, ac y byddai yn angen- rheidiol gohirio hyd nes y gwneid yni- chwiliadau i rai agweddau ar yr achos oedd yn gofyn ystyriaeth fanwl. Rhoed tystiolaeth o adnabyddiaeth o honi gan Edward Miller, yr hwn a gyd- deithiai a hi ar y llong. Adnabyddai hi fel Francis Leslie, chwareuyddes. Dynes sengi ydoedd mor bell ag y gwyddai ef. Gwelodd ei thad, ei mam, ei chwasr, ag amryw gyfeillion yn ffarwelio a hi yn New York, ond nid oedd yn eu hadnabod yn bersonol. Tystiwyd y collwyd yr eneth ar fwrdd y Hong brydnawn Sadwrn a gwnaed ymchwiliad am dani ar frys, ond meth- wyd a'i chantod. Hysbyswyd swydd- ogion y Hong, ac aed i edrych ei bystafell. Yr oedd y drws wedi ei gloi a phan y gallwyd ei agor caed yr eneth yn gorwedd yn farw ar lawr. Gohiriwyd y trengholiad hyd Ebrill y 14eg, er mwyn gwneud archwiliad j manwl ar gynwys ystumog y drancedig. Cymerir y corff yn ol i New York ar fwrdd yr agerlong St. Paul, ddydd I Sadwrn

i Cadeirydd y Cvn&ror Sir.

Cwmni Yawarlol y Prudential

Dal Lleldr yn yr Ystafell…