Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

Cenhadaethau Efengylaidd.i1

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Cenhadaethau Efengylaidd. (Adgofion Cysurlawn) (Gan y PARCH HUGH HUGHES). I XL LLANGOLLEN. Pan aethum i Gylchdaith Llangollen yn y flwyddyn 1883, nid oeddwn-yn foddlon o gryn lawer ar sefyllfa yspryd- ol yr eglwysi. Marweidd-dra a difater- weh nodweddai yr holl gynulleidfaoedd. Nid oeddwn yn teimlo fod ynddynt,lymat- ebion boddhaol i genadwri yr efengyl. Ond mewn ymddiddanion cyfrinachol a nifer o'rj ffyddloniaid ar eu haelwydydd, cefais fod yn eu calon bryder distaw ond dwfn parthed cyflwr ysbrydol yr eglwysi, ac awydd angerddol am- ymweliad Duw trwy ei Yspryd. Pan geir nifer fach o'r arweinwyr wedi eu gweithio i'r pwynt ysbrydol hwn, y mae gobaith gwawr a dydd disglaer, ac heb liynny, y mae yr Efengylwr yn dra thebyg o gael ei siomi. Eithr os rhaid aros i'r lHaws ddod yn aeddfed cyn dechreu y gwaitb, y mae perygl y rhaid aros am byth. Wedi cychwyn y gwaith da, y mae lliaws yn cael eu deffroi, eu bywiogi, au cynhesu. Yn mhen tua thri mis ar ol ymsefydlu yno, teimlais fod yn yr eglwys gryn barodrwydd ac aeddfed- rwydd i ymgyrch efengyleiddiol. Caed wythnos o gyfarfodydd gweddio cynes a llwyddianus iawn. Daeth yr aelodau a rhai o'r gwrandawyr yn ngbyd yn ffyddlon ar hyd yr wythnos. Nodwedd arbenig crefyddwyr Llan- gollen ydoedd tynerwch toddedig dis- taw, heb ddim cyffro na nemawr o swn, a phobl hefyd na hoffent ond yr ochr serchog i genadwri Duw at ddynion. Nid oedd wiw son am uffern yn nglyw rhai o'r dynion goreu yn y lie, Rhyw nodwedd ryfedd ar eu cyfundrefn gieuol oedd yn ddiau yn cyfrif am hyn. Ond yn ystod yr wythnos hono ymddangos- ent fel pe wedi eu codi i sefyllfa gryfch; a mwy galluog i oddef boll gyngor Duw fel ei dysgir yu ei air saneiaid? ? .'5J. ¥ wr gael ei arwain gan dymneredd un dosbarth o bobl, tra y mae dosbarth arall ag sydd gyfartal bwysig yn bresenol i wrando yr Efengyl sydd ar gyfer pawb. Er cyrhasdd ei hamcan yn ei pbertbynas a phobl gwa- harol yn eu tymherau a'u troadau meddyliol, dylai y genadwri fod yn aml-ochrog, uniongyrchol a ffyddlon i Dduw ac i eneidiau anfarwol dynion. Bendith a pharotoad neilltuol oedd y nawseiddiad ysbryd hwn yn Llangollen, gan ei bod yn dref lied anhawdd ei symud i frwdfrydedd. Pa fodd bynag cafwyd .prawf y noson gyntaf fod yr amcan mawr yn cael ei gyraedd. Yr oedd y cynulliad yn hynod foddhaol, a gwelid yno rai na arferent fynychu gwasanaeth crefyddol ond an ami iawn. Yr oedd y capel bron yn llawn, eithr ni chaed dychweleligion y noson hon. Nos Fercher caed llond y capel o bobl, a hawdd oedd gweled fod yr Arglwydd am gymeryd awenau llywodraeth y dref yn ei law am enyd. Un yn unig a ymunodd y noson bono, ond ei fod yn un drodd yn gaffaeliad i'r achos am flynyddau. Dyn ag ydoedd cyn ei ddychweliad yn foesol ei ymarweddiad, yn barchus ei sefyllfa, ac yn barchus yn n[olwg ei gyd-drefwyr. Yr oedd ei deulu gan mwyaf yn aelodau eglwysig, ac-yntau yn wrandawr cyssonach na Ilawer o aelodau. Parodd ei ymuniad a'r eglwys gan hyny lawenydd a gorfol" edd nid bychan yn mysg ffyddloniaid yr eglwys, a tbeimlent fod y Genhadaeth eisoes wedi atteb dyben bendigedig. Trodd y gwr da hwn yn aelod ffyddlon, ac yn mhen amser lied fyr gwnaed ef am gyfnod yn un o Oruchwylwyr y gylchdaith. Y mae wedi esgyn fry er's Ilawer o flynyddeedd, er cryn golled i'r achos ar y llawr. Effeithiodd ei ymun iad yn anrhaetbol fawr ar y symudiad, ac erbyn nos Iau caed arwyddion fod rhyw doriad ac ymollyngiad rhyfedd wedi cymeryd lie yn y dyrfa fawr. Yr oedd y gwynt nerthol yn rhuthro-y saint yn toddi, a phechaduriaid yn ar swydo uwchben eu cyflwr a'u tynged. Daeth rhai i mewn bob nos, a hyd yn oed nos Sadwrn. Yr oeddwn wedi trefnu i mi fod yn Llangollen trwy y Sul, ac nid oedd dim yn bosibl yn nghanol y llwyddiant mawr ond cynhal y Genhadaeth foreu, prydnawn a hwyr. Hyd yn oed erbyn yr oedfa foreuol gwelid pobl yn llifo i'r dref o'r wlad o gwmpas, a chyn diwedd y dydd yr holl gylchdaith bron wedi cyraedd i'r dref. Cafwyd cyfarfodydd bendigedig y boreu a'r prydnawn a nifer dda o ddychweled- igion. Ond am yr oedfa hwyrol gellir dweyd ei bod yn wasanaeth byth-gofiad wy. Caed ugain o ddychweledigion y nos Sul hwnw, ac 0 dyma cedfa ryfedd mown mwy nag un ystyr. "Oedfa cyf aniad y Teuluoedd" byddaf fi yn ei galw. Yr oedd tua haner dwsin o deuluoedd yn cael ea cyfanu yn yr Eg, lwys y nos Sul hwnw. Mewn un teulu yr oedd mam, merch, a mabyn aelodau ffyddlon, ond y tad a dau o'i feibion yn y byd, ond daeth yr oil i mewn y nos hono. Mewn teulu arall, yr oedd y plant oil yn yr eglwys. ond y rhieni, er yn gwpl eithaf glan eu buchedd, yn y byd. Ond y noson hono y maent fel arfer yn codi i fyned allan o'r Gallery, eithr gorchfygwyd hwy gan y dylanwad yn y fynedfa, a throi-, sant i mewn i lawr y capel. Mewn congl arall gwelwyd chwaer i ddau o'r Blaenoriaid, a'i merch wedi aros yn ol. Fel y gwneid yn hysbys i'r gynulleidfa pwy oedd y rhai a ymunasant, cymer- odd yr olygfa mwyaf angerddol gyffrous a gogoneddus le a welais ac a deimlais erioed. Yr oedd rhai o'r teuluoedd oedd yn aelodau o'r blaen, wedi deall fod eu hanwyliaid wedi rhoddi eu hunain i'r Arglwydd, wedi eu gorchfygu yn llwyr gan "lawenydd anrhaethadwy a gogon- eddus," nes methu symud o'r fan-dim ond wylo nes bod yn ddiymadferth holl- ol. Bendith a lawenydd i fy enaid fy hun yr awr hon ydyw yr adgof o'r odfa rasol hono. Yr oedd amrai o'r dychweledigion hyn yn ymuno ag eg- lwysi y wlad. Erbyn hyn yr oedd y gwaith da wedi cymeryd y fath feddiant o'r dref, fel y penderfynwyd dwyn y Genhadaeth yn mlaen gan yr Enwadau eraill, wedi i ni orffen. Ac yr oedd rheswn digonol am hyn yn y ffaith nad oedd y symudiad eto wedi cyraedd ei anterth. Parhawyd felly am fis arall- wythnos gan bob un o'r enwadau eraill, ac wythnos Undebol gan y Saeson yn ddilynol i'r oil. Cafwyd cyfarfodydd poblogaidd a llwyddianus anghyffredin, a daeth ugeiniau yn ychwanegol i mewn i'r eglwysi.* Yr oedd yr oil yh rhifo tua 140. Ymdrechais gymeryd ein gwasanaeth Seisnig yn ystod wythnos olaf y Genbadaeth. Ymddengys fod galw y gyfeillach yn 91 er rhoddi cyfleus- tra i'r annychweledig ddod i mewn, yn arferiad lied ddieithriol i'r Saeson, ac yr oedd yn lied anhawdd gwneud y mater yn ddealladwy iddynt. Yr oedd yn bresenol y noson hono hen foneddwr lied gyfoethog oedd yn wrandawr gyda'r Wesleaid Seisnig. Arhosodd yn ol, ac aethum innau atto, a gofynais iddo a I csdd efe yn penderfynu rhoddi ei hunan 1 r G waruawr, ond y cwbl a iwÿddls i gael o hono oedd call and see me, and I will be very glad to have a chai with you now and then." Er cynyg mewn mwy nag un ffordd, methais a chael boddlonrwydd fy mod wedi llwyddo i'w gael i ddeall beth oeddwn yn ei gylch. Yr oedd yn siarad fel pagan anwybodus, ac nid oedd dim i'w wneud ond ei adael, ac nid wyf yn deall i ddim ddod o hono mewn ystyr grefyddol hyd y diwedd. Yr oedd dylanwad y Genhadaeth hon ar y wlad o amgylch yn ddwfn a gwir- ioneddol. Cynyrchwyd awydd am ad' fywiad ysbrydol trwy y cylch. Caw- sant eisoes flaen y gawod yn y dref trwy ddychweliad nifer o'u gwrandawyr, eithr awyddent am lawer yn ychwaneg. Yr oedd yn Pentredwr a'r Rhewl nifer o hen wrandawyr ffyddlon ond cyndyn iawn i dderbyn yr Efengyl, ac y teimlai pobl yr Arglwydd awyddfryd gweddigar ar i'r don hon o nerth ysbrydol eu cludo i'r diogelwch tragwyddol- Gwnaed cais ar i mi roddi wythnos o Genhad- aeth gan gyfeillion Pentred wr, ond oherwydd prysurdeb ni allaswn roddi wythnos gyfan am dros fis o amser. Er hyny parhasant i weddio bob nos ar hyd yr wythnosau, nes i mi gael wyth- L03 gyfleus. Wedi myned yno, gwelais nad oedd eisiau ond taflu allan y rhwyd i sicrhau ymuniad yr oil o'r gwranda- wyr, ac eithrioun, a'r eglwys. Yroedd dyfalbarhad y saint mewn gweddi fel pe wedi aeddfedu yr olli benderfynu cwest- iwn eu hiachawdwriaeth cyn i mi fyned yno. Ychydig iawn o arwyddion teim- lad oedd yn y cyfarfodydd hyn, ond yr oedd yr ewyllys wedi' plygu yn bryd ferth. Yr oedd rhai o bonynt yn hen wrandawyr, ac yn anobeithiol o galed yn marn rhai o'r aelodau, eithr hwy a barhasant yn ffyddlon hyd angau. Dyma brawf arall nad yw y Gwaredwr mawr yn gaeth i syniadau rhai meddyl- egwyr diweddar. Pwy bynag a ddel, ac y mae yn bosibl i bawb ddod yn awr fel yn y blynyddoedd o'r blaen. Goreu po gyntaf y daw yr ieuangc, ond iddynt gael gafael ar y sylwedd tragwyddol, fel na byddo iddynt gerdded trwy yr eglwys, i'r byd gwyllt prssenol, a cholli sicr- wydd eu gobaith yn y diweld. Cafodd y Rhewl a Glyndyfrdwy ran helaeth o'r dylanwad mawr hwn, ac ychwanegwyd amrai at eu rhifedi. Bu y Genhad aeth yn fendith a chryfhad i'r gylchdaith yn mhob ystyr, a hyny mewn adeg yr oedd angen neilltuol am, hyny. Wrth edrych yn ol i'r adeg bendigedig hwn, teimlaf yn brudd a chwithig iawn wrth adgofio y niter fawr o ffyddloniaid y gylchdaith, ac o'r dychweledigion hyny sydd eisoes wedi myned trosodd i ganol realities tragwyddol. Ffynllonellcysur mawr ydyw fod y Genhadaeth hono wedi ychwanegu rhif teulu mawr Duw yn y trigfanau dedwydd. Ac yr wyf yn dra sicr mai angen mawr y cylch hwn ydyw tywalltiad o nerthoedd cyffelyb yn y presenol. (I barhau). I

[No title]

Llith o Awstralia.

IY Ddiod a Llafu r.-1

[No title]

Y Pethishiwn Anfarwol.