Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
[No title]
Wyliedydd Newydd, aros ar y mur, Ac edrych allan am yr iawn a'rpur, Gwas'naetha grefydd,—seinia ar ein clyw Os gelyn feiddia gyffwrdd Ddinas Duw. TALFARDD.
ILLYTHYR AGeRED At Wrthwyaebydd…
LLYTHYR AGeRED At Wrthwyaebydd Cydwybedol. Fy Annwyl Gyfaill, Bu Irene mor garedig a theipio copiau o'ch dau lythyr diweddaf at eich rhieni, a'u hanfon yma fel y gallom wybod eich helynt chwi. Diolch yn fawr i chwi am eich cofion caredig. Ni raid i mi ddy- weyd wrthych ein bod yn meddwl llawer am danoch. Daw eich enw i fyny yn fynych, fynych, yn ein hymddiddanion. Yr oedd yn chwitk iawn geanym goniicb cvhnni diddan yn Rockcliffe yn ystod gwyliau'r haf. Rhyfeid oedd meddwl am danoch yn myned o'r cóleg i'r carchar, ac yn treulio eich; gwyli&ii ya Wormweed Scrubs! Y mae y He yn ddigon hyl 1-beth raid fod y lIe ei hun Ond, yr wyf yn eich adnabod yn ddigon da i wybod fod gennych gysuron na all unycarchar eich amddifadu ohon- ynt Ni ryfeddais pan ddarllenais yn eich llythyr cyntaf fod Duw yn ,ago,s atoch a'ch bod yn derbyn diddanwch dros fesur. Addefaf i mi lawenhau mewn dagiau wrth ddarllen eich tystiolaeth i'w gyn- haliaeth gysurlawn Ef. Os gwerm- od a gawsoch gan ddynion, gofal- odd Duw am gyfrannu dognau melus iawn i'ch cwpan. Wedi i chwi ddioddef eich penyd yn y lie hwnnw, tybiais y caech eich goilwng yn rhydd ac y gwel- ,ai'r awdurdodau mai cwbl ofer ftaasai ceisio eilwaith i wneud mil- wr tthonoch. Ond, ymddengys fod rhai dynion yn rhy ddwl ac yn rhy ddall i wybod beth ydyw ystyr gwrthwynebiad cydwybodol fel yr eiddoch chwi. Ni welant y gwa haniaeth rhwng y gwir a'r gau, rhwng y gwron a'r llwfryn, ac yn eu dallineb trwstan ymddygant yn ,ddiwahaniaeth tuag at y ddau ddosbarth fel ei gilydd. Rhodd wyd adran yn Neddf Gwasanaeth Milwrol o bwrpas i gyfarfod achos- ion fel yr eiddoch chwi. Ond raya gweinyddwyr y Ddeddf ei hanwybyddu. Nfcid yw ond llyth- yren farw yn eu cyfrif. Callwn dybio y buasai yn amhosibl i neb ameu eich cywirdeb-ond dyna, nid oes neb mor ddall na'r sawl na fynnant weled. Mae fy ngwaed yn berwi wrth feddwl amy camwri a wneir-a hynny yn groes i'r Ddeddf. Casglaf oddiwrth eich llythyr diweddaf eich bod nid 3V1 unig yn gwrthod gwasanaethu yny Fyddin ond gyda hynny yn gwrthpd al ternative service," a hynny mae'n ddiau sydd yn cyfrif am y ddedfryd a basiwyd arnoch. Gofid calon i mi ydyw deall eich bod wedi eich cymeryd i garchar arall. Am ba llyd, tybed, y pery eich ail gaethi- wed? Cofiaf yn dda i chwi ddy weyd wrthyf eich bod wedi cyfrif y gost ymlaen llaw. Gwyddwn na fodlonid mohonochar hanner mes- urau, gwyddwn yr aech yr holl fiordd yn eich gwrthdystiad, ac er na allaf gydweld a chwi yn y,safie a gymerwch, ni allaf lai na'ch edmygu am eich gwroldeb a'ch fiyddlondeb diball i ch cydwybod. Peth naturiol iawn ydyw i'ch rhieni a'ch cyfeillion bryderu yn eich achos. Pwy na phryderai pan fo bachgen mor annwyl ac mor lednais yn dioddef carchariad f Ond, y mae yr un fath a chwi yn < union i fychanu eich aberth ac i ddyweyd wrth eich mam Medd- yliwch am y mamau sydd a'u bechgyn yn y ffrynt." Gwelaf eich bod yn cofio am ein gwyl diolch .garwch, a'ch bod yn gofyn i ni ddiolch drosoch chwi. Anodd yn wir ydyw peidio a diolch wrth ddarllen eich geiriau: Nid wyf yn cyfrif dioddef. carchariad yn aberth mawr. A! peth ardderchog ydyw gorwedd bob nos a dywedyd yn wyneb ofn—' Yn llaw Duw, yn llaw Tad.' Teimlaf ei fod Ef yma gyda mi. Rhaid iddi fynd yn dywyll iawn cyn y daw hi'n oleu ond yn wir nid yw hi yn dywyll arnaf £1." Bydded i'r Duw da a'ch cadwodd hyd yma barhau i'ch cynnal a'ch cysuro, fy machgen annwyl, a thywyned ei wyneb ar noch nes bo'r carchar yn goleuo'n ysblenydd o'ch cwmpas. Synais eich bod yn gofyn pwy a enillodd y gadair a'r goron yn yr Eisteddfod—hyd nes y cofiais am y- gwahardd sydd ar gludo newydd- ion i garcharorion. Wel, cadair wag. cadair ddu, oedd y gadair eleni. Ellis Evans, o'r Ysgwrn, Trawsfynydd, oedd y buddugwr- Hedd Wyn wrth ei enw barddopol. Ondnid oedd Hadd Wy* ar;gatl ddydd y cadeirio. Syrthiodd ar faes y frwydr yn Fframe 1m mis Gorffennaf-un arall .'r telynau a dorrwyd yn gynnar gaa ,;ddwrn bzt-atn y Rhyfel. Dwys a difrifol dros ben oedd cyhoeddi'r newydd ym mhabell yr Eisteddfod, a chyda dagrau ar eu gruddiau y eanai'r miloedd yr ben emyn Bydd myrdd o ryfeddodau ar doriad bor- eu wawr." Y Parch. William Evans (Wil Ifan) a enillodd y gor on.Credaf fod coron a chadailr yn eich haros chwithau cyn bo hir, a phwy wyr nad y w'r profiad a ewch yn nhy'rcaeth'iwed yn eich cym- hwyso i'w hennill yn gynt. Bydd eich can yn bereiddiach ar ol y chwerwder hwn. Hyderaf eich bod yn cael hamdden a hwyl gyda'r Awen. Nid y chwi fydd y cyntaf i ganu yn y carchar. Llawenydd oedd gennyf ddeall i chwi dderbyn benditkion mor gyf- oethog trwy ymweliadau'r Parch. P. H. Griffiths. Ie, gwr Duw yw efe. Pwy ddaw tybed i ymweld a chwi yn eich cart-bu agos i mi ddweyd cartref newydd. (0 ran hynny oni ddywedodd Bunyan mewn cyfeiriad at ei ail garcher iad: H 1 w&s had heme again") Gwn fod un ó broSwydi Duw yn byw heb fod yn nepell oddiwrthoch —gweinidog Wesleaidd o'r enw Arthur Hoyle. Mae arnaf awydd anfon ato. Gobeithio'n wir y bydd y swyddogion yn garedig wrthych, ac y cewch nerth aciechydi ddal y driniaeth yn wrol hyd y diwedd. Pan yn gweddio dros ein milwyr a'n morwyr, ni aoghofir mohonoch chwithau wrth yr orsedd. A oes llyfrau o fewn eich cyrraedd ? Mae llyfrau da yn cymdeithion gwerth- fawr mewn unigedd, a hyderaf eich bod yn cael mwynhau eu cwmni. Mi a wn fod y Beibl wrth law. Daw yn fwy gwerthfawr nag erioed yn eich gqlwg. Dywedodd John Bunyan: "I never had in all my life so great an inlet into the Word of God as now." Yn y carchar y deallodd ef y Beibl breu ac y cafodd fwyaf o gymdeithas ei Dduw. A theimlaf yn sicr i-naiicyffelyb fydd eich profiad chwithau. Yr ydych yn perthyn i gwmni ardderchog, cwmni sydd yn cyn- nwys dynion fel Bunyan, Ruthe: ford, Penri, Paul. Gymaint yw dyled y byd i'r gwroniaid hyn, a'r fath drysorau a gafwyd ganddynt o'r carchar Credaf yn wir mai o blith y rhai sydd heddyw yn di- hoeni yn y carcharau y cyfyd Duw rai o arweinwyr y dyfodpl. Rhwng- muriau moelion y carchar y maent yn gweled gweledigaethau ac yn breuddwydio breuddwydion, a phan ddelo'r rhyfel i ben deuant allan i ddal delfrydau disglair o flaen yr oes, a bydd y byd yn bar- otach i'w dilyn y pryd hynny nag yn awr. Anodd yw gweled, heb son am ddilyn, delfrydau uchel pan fo mug y magnelau yn llenwi'r awyr. Ond wedi i'r awyr glirio a swn y magnelau ddistewi, bydd arnom aagfa eich gwasanaeth chwi aI- cymdeitkion i'n harwain ar hyd llwybrau uniondeb yn y cyfnod newydd sydd i ddyfod trannoeth y rhyfel. Fe'ch dirmygir yn awr gan ddynion nad ydynt deilwng i ddatod carai eich esgidiau bwrrir pob drygair yn eich erbyn gan y di-ras ond y mae'r awr yn dyfod y deffry'r byd i gyfarch boreu braf tangnefedd. A phan dorro'r wawr wedi hir nos ddu y rhyfel, fe'ch croesawir chwi fel proffwydi y dyf- odol gwell ac fel arweinwyr y mudiad mawr yrnhlaid heddwch a brawdgarwch. Hyd nes torro'r wawr, fy annwyl gyfaill, daliwch i ddioddef yn ddewr, daliwch i freu- ddwydio, a Duw fyddo'n amlwg gyda chwi. Yr Eiddoch, Mewn cofion serchog, I W. O. ETAXS.
M. AsellTH YN -LEIRL.
M. AsellTH YN LEIRL. I {ODVI WRTH Em GSI&WITDID AitzFhq- NIG-1 Mawr fu'r paratoi a'r disgwyl am ymweliad Mr Asquith A Lar- pwl, nos Iau, Hydref 11. Cyn gya- ted ag y derbyniwyd ei addowid i ddod yma, .dylifai ceisiadau am docynau wrth y miloedd. Sicrha- wyd y neuadd fwyaf yn y ddinas, sef Sun Hall, a ddeil tua chwe mil o bobl; ond buan y gwelwyd nad oedd hyd yn oed y neuadd eang honno yn ddigon i gynnal y rhai oedd yn awyddus, i'w glywed. Llogwyd, o ganlyniad, neuadd ychwanegol—y Picton Hall,-ac er hyn i gyd, bu raid siomi cannoedd o bobl o ddiffyg lie i'w cynnal. Pa fodd, tybed, y gellir cyfrif am boblogrwydd anarferol Mr Asquith y dyddiau diweddaf hyn f Mae'n ddiau fod ei alluoedd disglaer a'i wasanaeth hir a gwerthfawr i'r Wladirriaeth yn cyfrif am hyn i raddau helaeth; filae'r ffaith mai arno ef y disgynodd mantell Mr Campbell-Bannerman fel arwein- ydd y Blaid RyddfrydoK—mai ef oedd y Pnf Weinidog pan, ar ol gwneuthur pob ymdrech i rwystro'r Rhyfel, oedd swyddog uchaf y Goron i gyhoeddi penderfyniad aruthrol bwysig ein gwlad i ddad- weinio'r cledd yn erbyn rhaib a thraha Germani ac Awstria,—mai ef oedd y genau cyhoeddus i fyn- egi'r rhesymau dros wneuthur hyn- ny,—mai'r rhesymau a fynegodd ef yn Awst, 1914, ydyw ei, resymau ef heddyw dros barhau'r Rhyfel,— mai'r rhesymau hynny sydd wedi dwyn mwyafrif mawr cenedloedd y ddaear i gydweld ac i gydweith redu A ni,-mai. arno ef y disgyn- odd baich y cyfrifoldeb i lywiO'r wlad yn wyneb ei holl amharod- rwydd ar gyfei* ymdrech mor fawr, I-mal amoefy syrthiodd y gwaith, er mwyn sicrhau mwy o undeb a ch>dweithrediad, o ffurfio Llywod- raeth a gynrychiolailr holl bleidiau gwleidyddol,—mai ef, fel prif swyddog y wlad, fu hefyd,am dios ddwy flynedd, yn brif darged saeth- au y Wasg Felen a chynllwynion cyfeillion gau, --mai ef, o bawb, er yn ferthyr gwasg enllibus a dynion uchelgeisiol, ydyw cadernid hyd yni oed y Llywodraeth -bresennol,ernad yn aelod, ohoni, yn gystal ac mai ef yw genau cyhoeddus, amlycaf, trymaf, a diogelaf y wiad hon yng nghynghorau gwledydd y byd,— ftiai ef a bwysleisiodd gyntaf hawl- iau y cenedloedd bychain, cysegr- edigrwydd cyfamodau, a'r angen am ddinystrio militariaeth Prwsia tra'n parchu dyheuadau goreu gwerin Germani,—mai ef a ar ddengys heddyw, o bob gwr cy- hoeddus, y rhinweddau hynny sydd yn y man i orchfygu'r gelynion lwyraf ac i glymu cenedloedd y ddaear yn un Frawdoliaeth, sef yw hynny, talu da am ddrwg, gwneu- thur daioni i'r rhai a wnaeth niwed iddo, ymatal rhag chwerwi teim- ladau gwrthwynebwyr gyda geir- iau sarhaus, bostfawr, eithr ymres- yww. mteciQQ YA, bwylleg, teg, a cklir, a pkan y'i difenwir ni ddifen- wa drachefn,-hyn, mi dybiaf, a phethau cyffelyb, sy'n cyfrif am ei fod yn ymdaith yn amlder ei rym i serch, edmygedd, ac ymddinedaeth pobl y wlad hon a gwledydd eraill cred. Yr oedd y derbyniad a gaf- odd yn Lerpwl yn un nad oedd cysgod o amheuaeth am ei ddilys- rwydd a'i wres. Ar ei ymddangos. iad cyntaf ar y llwyfan, cododd y miloedd ar eu traed fel un gwr, ac adseiniwyd y neuadd gan eu cym- eradwyaeth. Talwyd deyrnged ucheliddo gan yr Arglwydd Faer fel un o wladweinwyr mwyaf y byd,-o,aii Syr Frederick Sniith, a ddatganai iddo gael y fraint o weithredu dano am flwyddyn fel ei chief,gan Syr Archibald Sal- vage, a hawliai fod Mr Asquith yn uwch ei barch heddyw nag yn un cyfnod o'i yrfa hir, ac anturiodd ddywedyd na ddarostyngodd arwr y cyfarfod hwnnw erioed i ddefn- yddiocynIlttyniun anheilwng yn ei. blaid nac. afall. Toriaid o'r Tori- aid, fel y gwyddis, yw'r ddau olaf a enwyd, ac ategwyd teyrnged y tri gyda, beaUeiau hir-barhaol y dyrta. Diangmrhaid, bellach, yw c^f- eirio at gynnwys araith bwysi a-r Asquith y noson dan sylw.- foddlonaf ar grybwyll mai baich ei anerchiad oedd atebiad i araith Herr Von Kuhlmann, Ysgrifennydd Tramor Germani, a gyhoeddwyd yn y papurau y bore hwnnw ac atebiad oedd araith Kuhlmana drachefn i eiddo Mr Asquith yn Leeds wythnos neu ddwy yn flaen- orol. Dywedasai. Mr Asquith mai un o'r telerau heddwch fyddai adfer i Ffrainc diriogaethau Alsace a Lorraine, a ysbeiliwyd oddiarni 50 mlvnedd yn ol, nid yn gymaint fel ysbail concwest ag o ddiraddiad ar Ffrainc. Gwingai Kuhlmann yn erbyn hyn, a dywedai yn ben- dant na roddai Germani byth mo'r tiriogaethau i fyny. Ail fynegodd Mr Asquith hawl y wiad hon am hyn, yn gystal ag am adferiad Bel- gium, Serbia, Roumania, &c., a gwnaeth hynny yn dawel, pwyllog, clir, ac ymresymiadol, heb un ym- gais i godi hwyl, fel y gweddai i un a siaradau d'r byd mawr, llydan, ar faterion o bwysigrwydd aruthr- ol. Gadewais y neuadd gan deim- 10 fy mod wedi clywed, nid yn unig wladweinydd mawr, ond hefyd broffwyd a lladmerydd ei oes. Y nefoedd a drefno iddo fod yn y Gynhadledd fydd yn penderfynu telerau heddwch, a bydded hynny'n fuan. Sylwyd fod yn y cyfarfod lu o Wesleaid Cymreig, yn eu plith y Parchn. T. Isfryn Hughes, Edward Davies, R. W. Jones, R. W. Davies, &c.
[No title]
Dywedir fod y Parch R. J. Cambpell yn debyg o fynd yn ol i'r Biafddinas cyn bo hir. Daw yn ol fel ficer Christ Church, Westmin- ster—rhyw ddau neu dri ergyd carreg o gapel mawr Westminster. Felly bydd Mr. Campbell a Dr. Jowett yn gymdogion agos. Nodd- wr y fywoliaeth hon yw Canon Carnegie, yr hwn briododd weddw Mr. Joseph Chamberlain. Diau y bydd dyfodiad Mr. Campbell yn adgyfnerthiad i al u pregethwrol yr Eglwys Sefydledig yn y Brif- ddinas. Yn Llanbrynmair, yr wythnos ddiweddaf, ar gynygiad y Parch. W. Thomos, Llanfair, a chefnogiad y Parch. D. Morgan, Trallwm, pasiodd Annibynwyr Maldwyn y penderfyniad canlynol: "That this Conference, representing the Welsh 'Congregational Churches of Mont- gomeryshire, desires to re affirm its emphatic opposition to State Pur- chase, and especially to the efforts now made to bring the same before the public in Wales and that the only attitude to the Drink Question compatible with our position as representatives of the churches is Prohibition in some form or other."