Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
8 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
W.WilliamssCo. JEWELLERS, &c., 29 CasH St., Swansea Specialities: l8ct. GOLD DIAMOND, RUBI, AND SAPPHIRE ENGAGEMENJ RINGS, 22ct. GOLD WEDDIN<< RINGS, l8ct. GOLD KEEPERS GOLD AND SILVER WATCH* Gymry hoff, dewoh at y Cymro Os am heirdd fodrwyau aur, Oriaduron ac awrleisiau, Geman a chadwynaa o"?- Yspect,ol gelfydd, bln-fyn g tiwres-fesurydd, Owmpawd mSr Geir gan Wi!! ams, Heo y Castell Trowch i ??n i wel d ei at6r.
Advertising
Mwyn yw dwr yn mynd i waered,-a mwyn Yw y medd yn cerdded; Os achos torri sychedy ?   ?d.?PHEF.N. CEIR MWYNHAD DYBLIG WRTH YFED DIM OND LEMWNED L IV@ w EMOL mD BrynJa? Cymru ("WELSH HILLS" LEMONADE.) Y LLWYDDIANT MWYAF YN HANES DIODYDD DDIRWESTOL. GWNEIR EF GAN THOMAS AC EVANS, PORTH. CANQEN WEITHFAOEDD YMA A THRAW TRWY YR ARDALOEDD GLOFAOL.
..Colofn y Cymdeithasau j…
Colofn y Cymdeithasau j Cymraeg. PENTRE ESTYLL. PENTRE ESTYLL. Cylch y Disgybl" yw enw Cym- .deithas Pobl leuainc Siloam (A.), ac y mae dan lywyddiaeth yr amryddawn "Pennar," y gweinidog. Cynhaliwyd cyfarfod agoriadol y tymor nos Sadwrn, ?yd 24ain. Maes Hafur y tymor fydd "Cyfnod Owen Glyndwr." CYMRODORION PONTYPRIOD. Ca?wyd cyfarfod cyntaf y Gymdeithas hcnnof Wener, y 23am. Y I arch. Ben SDaav™ies Panteg, Ystalylera, fu y-a'r Davies, yu d?dori'r gynulleidfa am tro liwn yii did 1 awr a chwarter, >edd Trebor Mai, y Iluniwr englyn dihafal. Yn y wid hTOgwobrlwd y rhai fu'n llwyddiannus yn nosbarth cynghanedd y Parch. D. Emrys James. T. E. Jones Efailisaf; D. J. Griffiths, Cilfynydd; R.    Jones, a W. D Morgan, Trehopkin dderbynient y g,?,,obrau. Llywyddwyd iran Mr Ben Davies, Y.H. Cawd !j ?.c?u?yMrdd-E.W.H.?? Cilfynydd; D. Emrys James, W. Den Morgan. CWM NEDD. Yn He y cwrdd arferol cafodd y Gym- deithas Ddadleuol ddarlith ragorol nos Fawrth diweddaf yn y Church. H? Llywyddwyd gan Miss M. Thomas, Council Schools. Y testyn oedd "N a- poleon," a'r darHthiwr oedd Mr. Davies, M.A., Prifathraw e Yf0 ?Castellnedd. Yr oedd nifer h,0E°f 0 ymwelwyr yn bresennol, a barnero wrth eu gwrandawiad astud eu bod yn mwyn- hau eu hunain. Rhoddodd Mr Davies hanes manol o fywyd Napoleon, a synnai rhai o honom glywed fod y disgyblwr milwrol hwn yn rhyfedd o anhrefnus gyda'i bethau personol gartref. Dy- wedai fod Napoleon yn feddyliwr dwfn iawn, ond nid oedd ei fywyd yn un i'w efelychu gan ein pobl ieuainc, oherwydd iddo gyfeirio ei dalentau i gyfeiriad anghymeradwy. Yr oedd yn wir wlad- garwr, ond meddyliodd mai trwy goncro gwledydd ereill Iwrop yr enillai Ffrainc ei rhyddid. Pe cysegrasai y gwron hwn ei wroldeb a'i dalentau tuag at ddyrchafu bywyd a meddyliau y trigol- ion, yn ddiameu byddai Ffrainc yn un o'r teyrnasoedd mwyaf llewyrchus. Cynhygiodd Ficer Aberpergwm bleid- lais o ddiolch i Mr Davies. Cymerodd Mr R Jones a Mr J. M. Davies ran yn y siarad. Mae yn ddrwg iawn gennym ddeall fod Mr Oliver Evans, yr ysgrif- ennydd, yn ymadael a'r lie. NODDFA, TRECYNON. Ar yr 28ain o Hydref agorwyd Cym- deithas y Bobl leuaine gan y gwr ifanc talentog, Mr Morgan Watkin, M.A., Cymrawd o Brifysgol Cymru, a Darlith- ydd mewn leithoedd Diweddar ym Mhrif Ysgol Paris, gyda darlith ar Ragarweiniad i'r Mabinogion a'r Rhamantau." Yr oedd y festri yn or- lawn a gwelwyd yn bresennol lawer o ddynion eyfrifol o bob enwad. Amheu- tbyn oedd clywed dyn oedd yn amlwg yn gynnefin a holl lenyddiaeth y pwnc ym mhlith ieithoedd Ewrob, a thystiol- aeth pawb oedd ei fod wedi cael gwledd wrth wrando ar y brawd galluog a di- ymhongar. Cymerwyd y gadair gan y Parch. D. Hopkin, B.A., Uywydd an- rhydeddus y Gymdeithas. PONTARDAWE. x os Fercher diweddaf cynhaliodd y Gymdeithas Gymreig ei chyfarfodydd yn y Neuadd Gyhoeddus. Cymerwyd rhan mewn dadl gan Mr Henry Jones a Mr W. Thomas,- ysgolfeistri, ar a ddylid dysgu Cymraeg yn yr Ysgolion Elfen- nol. Cadeiriwyd sran Mr David Jones, ysgolfeistr. GYMDEITHAS DDIWYLLIADOL SOAR, MAESTEG. Dechreuodd y Gymdeithas' uchod at raglen y tymor nos Fercher, Hydref yr 2lain, gyda the cymdeithasol. Ar ol y te cafwyd awr ddifyr mewn canu, adrodd a darllen cerddoriaeth ar y pryd. Nos Fercher diweddaf cafwyd darlith gan lywydd y Gymdeithas, y Parch. J. T. Parry, ar Y Dyn Ieuanc Delfryd- olf Sylwodd ar ei nodweddion fel y canlvn (1) Ei fod yn effro i'w bosibl- iadau; (2) yn effro i'w gyfleusderau; (3) yn effro i'w beryglon; (4) yn effro i anhepgorion llwyddiant. Cadeiriwyd gan Mr Wm. Morgan, cadeirydd y gym- deithas. Yr oedd y ddarlith drwyddi yn ddiddorol ac adeiladol a phawb yn canmol. AELOD. TONYREF AIL. Nos Fawrth, Hyd. 27ain. y cyfarfu'r Cymrodorion am y tro cynta'r tymor hwn. I ddechreu cafwyd darlith odidog gan Eluned ar y testun, "Arwyr Rhydd- id." Bu i'r ddarlith dylanwad byw ar bawb oedd yn bresennol. Creodd ed- mygedd o'n cyndadau dewr a phur, a chynhyrfu ieuenctyd gobeithio i ben- derfynu ymegnio i wneud a allont i godi'r hen wlad yn ei hoi. Cadeiriwyd gan y Parch. T. Thomas, a chefnogwyd.j y ddarlithyddes gan y Parchn. J. Gwr- j hyd Lewis a Dl. Jones. Disgwyliwn wleddoedd eto gan yr enwogion canlyn- I ol cyn diwedd y tymor: Y Parchn. Id- | wal Jones, Wm. Evans, Tywi Jones, a Bryn Davies. Drigolion Tonyrefail, manteisiwch ar y gwleddoedd rhagorol hyn.—Goh.
I Cwmbach. - i
Cwmbach. Caniatewch ychydig bach o'ch gofod i mi er dangos ein bod ni yng Nghwm- bach yn ffyddlon i'n gwlad a'n Brenin. Y mae amryw fechgyn ieuainc wedi myned i'r ffrynt fel y dywedir, ac yr ydym yn cael newyddion calonogol iawn oddi wrthynt. Blin iawn gennym golli cymeriadau crefyddol a deiliaid yr Ysgol Sabathol o'r lie. Gallwn gyfeirio at un yn neill- tuol, sef Thomas J. Griffiths, mab Mr. Ivor Griffiths, Abernant-Groes Road. Da gennyf hysbysu ei lu cyfeillion ei fod yn dal yn yr un Cymeriad yngwyneb yr holl demtasiwn. Cyfaddefai yn un o'i lythyrau at ei dad a'i fam fod temtasiwn yn gryf iawn yn ei orieu hamddenol. Gobeithiwn y daw Thomas John yn ei ol yn iach a Jbyw, ac ereill gydag ef, a cymeriad fel milwr dewr dros ei gwlad a'i brenin yn ddilwgr. TIM PALMER. I
Advertising
i My Mons Saoce I k-a? Boa" St?- I a 1 DeHghtfut SMM? ?« kda o? ftior i | ? the money. ??0??'<???*' ■ ? ?<? ?<*?—BM<?t?. ??'*? IT, | j Q.A..t"T'¡.4ti 5 The Welshman's Favourite. MABON Sauce I iV As good at its Ncune, i DON'T FAIL TO GET IT. d N \'anufacrurert—HULMCM' St Pee. St.. CtrdtN. |l (.
COLOFN LLAFUR.
COLOFN LLAFUR. I GAN "BEREDUR. BECHGYX 0 DAN 1 4. Mae y rhyfe1 wedi dod a phethau rhvfedd oddiamgylch yn holl gysyllt- iadau bywyd. Y mae y goreu a'r gwaethaf yn cael mantais i ddod yn amlwg iawn. Yr oeddwn wedi go- beithio ein bod wedi teithio ymhell oddiwrth y syniad o orfodi plant o dan 14 oed i weithio tan y ddaear yng nghanol y tywvlhvch a'r peryglon, cysylltiedig a'r gwaith. Y n wir, bvddai yn dda i ni gael enw y perchenog gynhygiodd y fath symud- iad i'r Bwrdd Cvmodol yng N ghaer- dvdd yr wythnos ddiweddaf. Pa nifer o honynt hwy, wys, a foddlonai i anfon eu bechgyn 12 neu 13 oed i weithio yn y lofa? BETH OEDD Y CYMHELLIAD? Gadewch i ni weled beth a'u cym- hellai i geisio gan gynrychiolwyr y gweithwyr foddloni i hyn? Ai medd- wl oeddent am y gweithwyr? A ydym yn arferol o glywed fod y meistri un- rhyw amser yn cynnig mesurau sydd yn debyg o godi cyflogau eu gweith- wyr? A ydyW gloieistri Deheudir Cymru erioed wediennill iddynt eu hunain enw da am eu triniaeth o'r gweithwyr a'u cydnabyddiaeth gar- edig o honynt? Da, y gwrthodgdd cynrychiolwyr y gweithwyr y cynnig. Y mae llafur plant yn golygu lleihad yn y tal a'r gost o weithio y glo, ac ychwanegiad yn yr elw. Dyna'r sym- byliad sydd wrth wraidd y cynnig hwn. l^eiddiwn osod i lawr y gosod- iad hwn, sef na ddylid cyflogi neb i unrhyw waith hyd nes ei fod yn ddigon hen i havvlio telerau rhesymol a chyflawn am y gwaith. Na, gan fod y cam wcdi ei wneyd a safon isaf cyflog wedi ei osod ar y 14 oed, gadewch i ni ddal yn gadarn rhag symud tuag yn ol. PETHAU DA EU COFIO. Byddai yn dda i grybwyll ac atgofio y gweithwyr yn gyffredinol y dyddiau hyn pan ddanghosir cymaint awydd gan y meistri a'r dosbarthiadau llyw- odraethol ar iddynt ymuno a'r fyddin er amddiffyn y wlad, taw dim ond pedair blynedd yn ol yr oedd y Llyw- odraeth a'r mcistri mewn undeb a chydweithrediad, yn gwrthod cydna- bod eu hawliau i dal a thelerau rhes- ymol am waith a bywoliaeth. Yr oedd y gweithwyr y pryd hwnnw, yn ol y newyddiaduron cyflalafol, yn bopeth oedd yn anheilwng, ac yn meddwl dim ond am hawlio y tal mwyaf am y gwaith lleiaf ellid ei wneyd. Yn awr, pan y mae cisiau aberthu bywyd i ddiogeli y wlad rhag ymosodiad yr Ellmyn, canmolir gwroldeb a nod- weddion anrhydeddus y gweithiwr fel y mwyaf pur ac anllygredig yn yr holliyd- Ond sylwer eto, er y canmol, nid oes fawr o argoclion fod y Llyw- odraeth-5 n bwriadu rhoddi tal rhesym- ol a darpariaeth ddigonol i'r milwyr j a'r teuluoedd a ddibynna arnynt. Cofi- j er, Cadlcf Plaid Annibynnnol Llafur, vnte Punt yr wythnos i'r milwr tra wrth y gwaith; punt yr wythnos iddo ar ol dod yn, ol os wedi ei anafu; punt yr wythnos i'r wraig neu'r fam weddw a adewir ar ol os cyll y milwr ei fywyd. Bydded hon yn "waedd uwch adwaedd."
Colofn y Gohebiaethau.
Colofn y Gohebiaethau. BRUTUS A'I DIPYN 0 BOPETH 0 BONTARDAWY." Mr. Gol.,—Yn y nodiadau dan y pen- nawd uchod am yr wythnos ddiweddaf gwelais fod "Brutus" yn methu cael testun i ysgrifennu heb fod sawyr y rhyfel arno. Tebyg ei fod wedi ei lyncu i'r fath raddau gan swn y fagnel fel nas clyw ddim ond y cyfryw ymhob cyfeiriad. Er osgoi swn y fagnel cymer "lan- weithdra" fel testyn, ac yn y fan dyma fe dros ei ben a'i glustiau mewn rhyfel eto. Beth sydd i gyfrif am hyn, os nad ei gariad anrhaethol tuag at lanweith- dra neu ragfarn am na fuasai pob peth yn myned ymlaen yn ei ffordd gul ef ei hun. Yna a ymlaen gan gyfeirio'n rhyfygus at hen arferion y dafarn, 'Shar o beint. ac felly mlaen, fel arwydd o barch a chydymdeimlad i'r yfwyr, ond yn arfer- iad mochynaidd yn ei oiwg ef. Parod wyf, Mr. Gol., i gydsynio a Brutus" i gondemnio yr arferion y cyfeirir atynt, ond pan y cyfeiria yn chwareus a rhyfygus at yr arferion uchod. a'u cymhwyso er dangos fod ar- ferion rnor frwnt neu fochynaidd yn cael eu dal i fyny gan yr eglwysi yn y ffurf y gweinyddir yr Ordinhad o Swper yr Arglwydd, sef defnyddio cwpan cyffredin, hep ,,rfAnad, -ag sydd wedi dal ei dir ar hyd y canrifoedd; ie, ac sydd mor gysegredig yn fy syniadau heddyw ag oedd i'n teidiau, braidd nad wyf yn deimlo ias oer yn fy nghripian o'm pen i'm traed. Yn enw rheswm paham y condemnia y cwpan, ac ar yr un pryd yn cydnabod y cyfryngau ac sydd yn ei halogi, megys fod dannedd ambell un yn drewi, eraill yn cnoi myglys, eraill yn cnoi loshin Eithaf gwir mae yfed o gwpan ar ol pobl felly yn ffieidd-dra ac yn groes i ddeddfau iechyd a chrefydd. Pa un ai angen condemnio y cwpan sydd, neu lanhau y geneuau sydd yn ei halogi ? Rhaid i mi gydnabod fy mod' yn anwylo yr hen ffurf gysegredig. Beth allai ddangos yn well ein hundeb fel canghennau o'r un corff na chydyfed i neu ddangos ein Jbod yn tynnu ein nerth un ffynonell nag yfed o gwpan gyffredin. HEN DIACON.
!Trefforest a'r Cylch.
Trefforest a'r Cylch. Nos Fercher, Hyd. 28ain, Capel i Rhondda, oedd cyrchfa tyrfa ar yr achlysur o anrhegu y brawd rhagorol Mr Robert William Thomas, diweddar organnydd y capel, a mab Mr D. W. Thomas, ysgrifennydd yr eglwys. Mae y brawd ieuanc wedi ei ddyrchafu i swydd bwysig yn y Bane yn Goodwick, Sir Benfro. Cychwynodd yng Nghaer- dydd; aeth oddiyno i Fargoed, yna i Aberdar. Cymer yn awr y prif ofal yn Goodwick. Dyn ieuanc rhagorol ydyw Mr Thomas, ac wedi bod o wasanaeth mawr, yn arbennig fel organydd y capel a'r cymanfaoedd yn y cyleh, felly wedi ennill lie cynnes ymhob calon, fel profai yr anrhegion a'r dyrfa ddaeth ynghyd. Llywyddwyd gan y Parch. R. R. Thomas, Ferryside, cyn weinidog y Rhondda. Cawsom areithiau ac adroddiadau a chaneuon yn y cwrdd, a'r beirdd yn ddirif bron yn tywallt ffrwyth yr awen. Cyflwynwyd yr anrhegion i Mr Thomas gan Mri. John Davies a William Jenkins. Hefyd cyflwynwyd Beiblau i 5 o ddynion ieuainc sydd ar faes y frwydr gan Mr J. Rhys. Cymer- odd y cor ran dan arweiniad Mr D. W. Thomas. CYFAILL JOHN.