Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
2 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
DO YOU SUFFER FRONt EYESTRAIN ? CAN YOU READ WITH EASE AND COMFORT AND ALSO SEE I DISTANT OBJECTS CLEARLY AND DISTINCTLY? ARE YOU IN DOUBT ABOUT THE STATE OF YOUR EYESIGHT VISIT. VISIT. C. F. WALTERS, FraSOiMivliCUif OPHTHALMIC OPTICIAN, OXFORD STREET, (Nearly opposite National Schools) SWANSEA. And 49a, Commercial Street, Aberdare. PRICES MODERATE CONSISTENT WITH THE HIGHEST SKILL AND WORKMANSHIP. DOWN & SONS, FOR GOOD SUBSTANTIAL Furniture Bedsteads, Bedding, Carpets, And every Description of HOUSE FURNITURE. 21 CABINET WORKS :—  21 High St. & Morris Lane, ?W?IISC?. The Largest and Cheapest Stea", Cabinet Manufactory iq South Wales. Illustrated Catalogues free on application. • IMMENSE STOCK TO SELECT FROM. Carriage Paid on all Orders above All, or Oalivorod Fret In out own Yr..u MORRISTON 45th ANNUAL I Eisteddfod CHRISTMAS, 1914 (DAY AND EVENING). Conductor and Adjudicator of Literary Com- positions: W. CRWYS WILLIAMS. Adjud'cator of Recitations: Mr. JOHN PHILLIPS (Treforfab). Music: Mr.T. HOPKIN EVANS, Mus. Bac. (Oxon). Proceeds devoted to National War Relief Funds. List of Subjects, by post lid., from the Hon. Secretaries T. D. JONES, Frondeg, Morriston. A. R. LEWIS, Graig House, AT Y CYHOEDD. Mae'n dra pwysig fod arian wedi eu crynhoi ar ol blynyddoedd a lafur caled yn cael eu gosod ar log mewn man diogel; fod y Hog arnynt i'w gael yn gyson a phrydlon, ac hefyd fod yn hawdd i'r perchennog eu cae l allan ar fyr rybudd. Mae CYMDEITHAS ADEILADU BAR- HAOL GLANDWR, ABERTAWE (The Landore Permanent Building Society), yr hon a sefydlwyd agos i 50 mlynedd yn ol, yn barod i sicrhau y pethau uchod. Derbynnir symiau o Y,5 ac uchod am 34 y cant.—a symiau o zC50 ac uchod am 4 y cant a 4i y cant. Nid yw y Gymdeithas hon yn gosod arian ar antur, ond yn unig mewn tai a thiroedd (freenhold and leasehold). Mae gan y Gymdeithas gronfa gref, ac yn agos i 225,006) uwchlaw gwerth yr amodysgrifau mewn llaw. Mae'n ddi- ogelach rhoddi arian yn ngofal Cym- deithas fel hon nac yn unrhyw "stocks" neu "shares." Telir yr arian benthyg yn ol i'w perchennog ar y rhybudd byrraf, a danfonir y llog allan bob chwe mis ar y dydd cyntaf o Fai a'r dydd cyntaf o Dachwedd. Mae'r Gymdeithas yn gyntaf oil yn gyfrifol i'r rhai hynny sydd wedi rhoi eu harian ar log. Edrychir i fewn i'w gweithrediadau gyda'r manylwch mwyaf. a llywodraethir hi gyda gofal arbennig. Gellir cael pob gwyfcodaeth pellach gan yr Ysgrifennydd— Mr. David Roberts, Incorporated Accountant, 19, Heathfield Street, SWANSEA. BODRINGALLT, YSTRAD RHONDDA. OYNHELIR YR 22ain EISTEDDFOD FI/YN YDDOL DYDD NADOLIG, 1914. Beirniaid.-Cerddoriaeth: Mr. Abel Thomas, Inter. Mus. Bac., Caerdydd; Rhyddiaeth, Barddoniaeth ac Adrodd, William Terry, Ysw., Ystradgynlais. Rhai o'r Prif Ddarnau :-Parti Meib- ion heb fod dan 20 o rif, Cydgan y Morwyr" (Dr. Parry), neu "Awn i ben yr Wyddfa Fawr (Hugh Davies, Pencerdd Maelor), Gwobr, £ 5.—Hir a Thoddaid ar ol y diweddar Mr Thomas Harries, Gwobr, igl 10s. Trindod o Ddadleuon cymwys i'r Ysgol Sabbothol, Gwobr, zCl 10s.—Her Adroddiad Cym- raeg neu Seisnig, Gwobr, £ 2 2s. Rhoddir Gwobrwyon da am Unawdau, Englyn, Telyneg, ac Adroddiadau Cym- raeg a Saesneg. Rhaglenni yn awr yn barod, ac i'w cael oddiwrth yr Ysgrifenydd, John Lewis, 118 William St., Ystrad, Rhon- dda. Pris lc. yr un drwy y post, llc. BETHANIA, MAESTEG. ANNUAL COMPETITIVE CONCERT on Wednesday, December 50, 1914. Adjudicators: Musio-A. E. DAVIES, Esq., F.R.C.O., Swansea; Recitation-Dr. EMBYS E. JONES, M. A., London Champion Solo (any voice, own selection) £ 5 ii/ Soprano, Contralto, Tenor, Baritone Solos, £1 10s. each. Recitation (own aelectioa), JE1 10a. Choral (own selection), f5 5/ Programmes now ready, by post Id. eaoh from the Secretary, J. RHYS JENKINS, Bridgend Road Post Office, Maesteg. Y DARIAN. Nid Amddiffyn, ond Tarian. Goreu Tarian, Cyfiawnder. Daw'r Darian allan dydd Mawrth, a gellir ei chael oddiwrth y dosbarthwyr nos Fawrth yn Aberdar a'r cylchoedd cymdogaethol. Diolchir am ohebiaethau a hysbys- iadau i law dydd Llun o bellaf. Gohebiaethau a hysbysiadau pwysig yn unig ellir roddi i fewn bore dydd Mawrth, a rhaid i'r rhai hyn gyrraedd gyda'r post cyntaf. Cyfeirier pob Gohebiaeth ynglyn a'r Darian i'r— GOLYGYDD, SWYDDFA'R DARIAN, ABERDAR. Anfoner Llyfrau, etc., i'w hadolygu i'r Golygydd. D.S.—Ni chyhoeddir adolygiadau oni ddaw copi o'r hyn adolygir gyda'r adolygiad. 0 BWYS I BOB CYMRO EI WYBOD. Y Darian yw'r unig bapur Cymraeg anenwadol a gyhoeddir yn Neheudir Cymru, a'i hamcan yw meithrin y diwylliant gwerinol Cymreig ac am- ddiffyn hawliau'r werin. Gwasan- aetha'r Cymdeithsau Cymraeg, yr Eis- teddfod, a'r Ddrama. Gwneir ynddi ymdrech arbennig gan lenorion coeth a gwlatgar i arwain plant a phobl ieuainc i garu iaith, llenyddiaeth a delfrydau eu cenedl. Gofelir hefyd ei bod yn BAPUR I'R AELWYD GYMREIG, Yn Lan, Dilwgr a Dyrchafol. Oni ellir cael y Darian trwy ddos- barthwr, anfoner i'r Swyddfa a cheir hi oddiyno am lie. yr wythnos, Is. 7bc. y chwarter, 38. 3c. yr hanner blwyddyn, a 6s. 6c. y flwyddyn. Am flaen dfil yn unig yr anfonir hi trwy'r post. Y DARIAN. Y Darian lew, derwyn, lan,—Tarian Hedd, Tirion nodda'r egwan Sythed Twyll-ei saethau tan Dyrr durol dorr Y Darian. AP HEFIN.
DYDD IA U, TACHWEDD 5, 1914.…
DYDD IA U, TACHWEDD 5, 1914. Syr Marchant Williams. GAN BRYNFAB. Chwith gennym sylweddoli ein bod wedi colli Syr Marchant. Dyma yr ail Farchog yr hiraethir ar ei ol mewn cyfnod mor fyrr. Yr oedd ef, fel y di- weddar Syr Edward Annwyl, fel yn an- hepgor gennym fel cenedl. Yr oedd y ddau wedi dod yn ddwy ddolen gydiol rhwng Cymru Hen a Chymru Newydd, a dyma y ddwy wedi eu dryllio, pan oedd y mwyaf o angen am danynt. Feallai nad oedd gennym neb mor anawdd i'w hepgor a Syr Marchant. Yr oedd fel rhyw ysbigot genedlaethol, yn cymeryd ei le mor naturiol yng nghanol yr ysbryd Cymreig. Yr oedd wrtho ei hun yn ein gwlad yn aml- weddau ei fywyd. Nid yn ami y ceir dyn yn llond pob cylch ond yr oedd Syr Marchant yn un o'r cyfryw. Welodd neb ef erioed yn methu llanw ei le ymhob man y gosodid ef gan ei wlad a'i genedl. Ymhlith y werin yr oedd yn ei le, heb angen ei newid, ac yng nghylchoed uchaf ein gwlad nid oedd" neb yn ameu ei hawl a'i safle ymhob amgylchiad, a phob symudiad y byddai angen am ddyn amryddawn ac hirben. Mae Aberdar wedi rhoddi ei hargraff ar Gymru trwy gyfrwng ei henwogion, ac o Ysgol y Comin y trowyd allan In o'r rhai hynny. Gyda phob dyledus barch i'r lleill o'r ysgolheigion, nid wyf yn meddwl y cenfigenna un o honynf wrthyf am i mi osod Syr Marchant ar ben y rhes ddisglaer. Ni chafodd ef, mwy nag eraill o'i gydysgolheigion, yr un fantais fawr i vmddyrchafu, ond yn unig trwy dalent ac ymroddiad dyfal. Pob parch i'r rhai sydd yn cael eu geni a llwy aur yn eu genau, ac yn ymddat- .blygu yn anhepgorion pob cylch o gym- deithas. Ond rywfodd, mae y sawl a ddringant i enwogrwydd trwy anhaws- der, ac heb ddim ond eu hadnoddau eu hunain, yn cerfio eu henwau yn ddyfn- ach ar eu gwlad, gan nad pa Iwybr a gymerant i wneud hynny. Ni pherthyn i mi, yn y nodiadau hyn, fynd dros helyntion oes Syr Marchant. Yr oedd yn "codi" i sylw y wlad pan oedd yn Arolygydd Ysgolion yn Llundain, ac yn mynd i fyny pan aeth yn Fargyfreithiwr, ac yn Brif Ynad. Oddiar pan oedd yn ddyn ieuanc ni adawai i un cyfie fyned heibio, os gall- asai roi gwth ar i fyny i'w wlad a'i genedl. Treuliodd hanner ei einioes yn swn clindarddach y Saeson, ond ni es- troneiddiwyd ei galon, ac nid aeth tine yr hen iaith oddiar ei dafod. Yn ystod yr ugain mlynedd diweddaf nid oedd un mudiad cenedlaethol heb bersonoliaeth Syr Marchant yng nglyn ag ef. Nis gellid rhoi argraff genedl- aethol ar ddim heb gael ei gynhorthwy, mewn rhyw ffordd neu ei gilydd. Nis gellir ysgrifennu hanes Cyfun- drefn Uwchraddol Addysg yng Nghym- ru heb fod ei enw yn amhvg ynddo. Nis gallasai un math o bwyllgor gyfarfod yn enw y genedl heb ei bresenoldeb ef. Yr oedd wedi tyfu ymhob cyfeiriad o fywyd y genedl, fel nas gellid ei anwy- byddu, na'i anghofio. Fe geir llawer a'i defnyddioldeb yn gyfyngedig i gylch enwad ac eraill ar eu huchel- fannau mewn Plaid Wleidyddol. Ond yr oedd cylchoedd felly yn rhy gyfyng i Syr Marchant. Mae yn wir fod un enwad vn ei hawlio, ac un Blaid wedi rhoi ei "nod clust" arno, ond ni chaeth- iwyd ef erioed gan un ohonynt. Os oedd yn Geidwadwr o ran enw, yr oedd y deffiniad gwleidyddol yn diflannu pan fyddai ei genedl yn galw arno. Dy- wedai llawer mai am ei fod yn Geid- wadwr y gwnaed ef yn Farchog. Ond am ei fod yn Gymro y gorffwysai yr anrhydedd mor esmwyth arno yng Nghymru. Os oedd Plaid yn ei an- rhydeddu am y lliw a wisgai ar ddydd Etholiad, am ei liw a'i lais yng nghyng- horau ei genedl y gelwid ef yn Syr Marchant gennym ni. Mae arian yn mynd ymhell i sicrhau teitl wTeithiau. serch fod y pethau hynny yn cael eu cadw dan lywodraeth llinyn y pwrs. Mae ein Marchog diweddaf wedi teilyngu yr anrhydedd trwy gadw ei bwrs yn gegrwth, a bendith ar ei ben am hynny, a chaffed fwy o anrhydedd eto yn y dyfodol agos. Er fod Syr Marchant yn ysgolor gwych, nid ei ddysgeidiaeth fu yn ei wneud mor anhepgorol ym mywyd ei wlad. Yr oedd yn hyddysg yn y Gyfraith, ond yr oedd ugeiniau mor hyddysg ag yntau yn y cyfeiriad hwnnw. Ond yr oedd ei wybodaeth yn y Gyfraith. a'i ysbrydiaeth Gymreig wedf*1 ei dorri allan i esjbonio a chyflawnu gofynion manwl Ddeddf yng Nghym- ru. Pan wnaed ef yn Brif Ynad Mer- thyr ac Aberdar, gwelai y Cymry an- rhydedd eu gwlad yn ei berson. Nid oedd y cenedloedd eraill yn edrych ar ei apwyntiad oddiar yr un safle. 0 gell y troseddwr yr edrychai llawer arno, a'i gymhwysder i weinyddu cosb am drosedd a gawsai y sylw blaenaf. Ond fel cydnabyddiaeth talent a medr un o'r hen gyff yr edrychai ei gyd-gen- edl ar ei ddyfodiad i'w plith. Ychydig o waith oedd yn aros y Prif Ynad gan ei gydgenedl, a dyna y rheswm nad o gyfeiriad y Ddeddf yr edrychent ar ei apwyntiad Deddfol i'w ardal enedigol. Rhyfedd y gwahanol ffyrdd sydd gen- nym i fesur a phwyso un o nodwedd Syr Marchant.. Cafodd lawer o'i ddwrdio a'i regi hefyd, gan y sawl oedd yn rhy barod i sathru Deddf wrth lym- eitian. Nid oedd y sawl oedd a syched arno, na'r un a dorrai ei syched, yn ei gymeradwyo yn y mesur lleiaf. Ond wedi y cwbl, daeth y ddau i gydnabod nad oedd y Prif Ynad yn dial ei lid ar y rhai na wisgent yr un ysnoden ag ef. Cadwodd anrhydedd y Fainc yn lan yn ngwyneb cyfwng pwysig. Er ei fod yn ymddangos yn llym, ambell waith, nid oedd tosturi a thrugaredd yn gym- deithion dieithr iddo wrth weinyddu ei swydd bwysig. Pan godai storm rhwng Cyfalaf a Llafur, a'r Ddeddf yn ei orchymyn i wneud ei ddyledswydd, ni fethai a lliniaru y teimladau mwyaf ys- tormus, a deuai ei barch a'i fri allan yn ddilychwin o'r cythrwfl. Nid yr un dyn oedd Syr Marchant Williams y Llys Gwladol a "Marsiant" y Genedl. Pan y gwelid ef yn dod allan o'r orsaf yn Aberdar neu Merthyr, a'i gyfeiriad tua'r Llys, edrychai cyn Ilym- ed a blaen bidog, a gallai gwr dieithr feddwl mai dim ond trychineb oedd yn aros y deddf-dorrwr oedd yn gorfod sefyll ger ei fron y dydd hwnnw. Fel y dywedai un o feirdd Aberdar, Yr oedd yn mynd trwy y dorf fel pladur." Ond gwneir camgymeriad yn fynych wrth farnu dyn oddiwrth ei olwg. Feallai fod cynefindra ag arferion ddeddfol wedi ei wneud i ymddangos yn an- nhebyg iddo ei hun yn awyrgylch y Llys. Dynion o ymddanghosiad hae- arnaidd iawn yw holl swyddogion y Ddeddf, er y dichon eu bod wedi eu tyneru a dynoliaeth raddlon pan y tu- allan i'r wisg a'r awyrgylch swyddogol. Ond hyd yn oed ar y Fainc, ni allai Syr Marchant guddio rhai o'i nodweddion mwyaf amlwg. Y lie olaf i ddisgwyl am arabedd yw y Llys Gwladol. ond gwelid a ehlywid ef yn torri allan yn ami dros enau y Prif Ynad Cymreig. Mae yn wir nad uwchben achosion di- frifol y digwyddai peth felly. Mae di- grifwch weithiau yn ymwthio i dystiol- aeth person ar ei lw, ond nid pob Hedd m Ynad sydd yn ddigon llygadgraff i'w ddarganfod, heb son am ei fwynhau. Ar y Fainc Gymreig yr oedd y di- weddar Farnwr Gwilym Williams yn neilltuol am ei arabedd. Ar y Fainc Seisnig yr oedd y diweddar Farnwr Owen yn ddiarebol am yr un peth. Ond pennaeth yr oil yn y cyfeiriad hwn oedd Plowden. un o brif Ynadol Llun- dain. Cyfrifid ef fel Josh Billings y Fainc. Oni bae am yr urddasolrwydd a osodai Syr Marchant ar y Fainc, bu- asai efe yn gydymgeisvdd agos a'r gwyr arab a nodwvd. Bum yn rhyfeddu lawer gwaith sut y gallai dyn mor lion a chellweirus fod mor ddifrifol uwch- ben tynged troseddwr. Ond er ei fod yn bosibl i ddyn ymddangos yr hyn nad ydyw. rhaid i'r ysbryd sydd yn treiddio trwy ei holl bersonoliaeth ddangos ei hun ar ambell adeg, o dan amgylch- iadau neilltuol. Mewn Eisteddfodau neu gyfarfodydd y beirdd, ymhlith ei gydwladwyr, y gwelid Syr Marchant yn ei agwedd fwyaf Gymreig. Yr oedd wedi ymddi- hatru o'i holl agweddau Deddfol yn yr amgylchiadau hynny. Yr oedd yn ei hwyl a'i afiaeth pan yn trafod materion yr Wyl Genedlaethol. Efe oedd bywyd pojb Gorsedd er's blynyddoedd Jawer. Mae cyfarfodydd yr Orsedd yn tueddu i fynd yn ddifywyd weithiau-fel rhyw gyfarfodydd eraill. Ond cyn gynted ag yr esgynai Syr Marchant i'r Maen Llog adnewyddid y tan Cymreig ar un- waith. a byddai yr hwyl ar ei huchel- fannau. Yr oedd ei arabedd yno yn ddiarebol. ond nid oedd ei arabedd byth heb ryw wythien o ddifri-foldeb cenedlaethol yn rhedeg trwy y cwbl. Yr oedd yn medru brathu weithiavi hyd yn oed ar y Maen Llog. Ond medrai wneud hynny heb dynnu gwaed o'r archoll. Gwyddai pawb nad oedd dim dig a malais o dan ei gellwair. Yr oedd yn medru ar y gallu o "dam) pob hoelen i dre," ac i sicrhau llwvddiant yr hyn a ymdrechai o'i blegyd. Yn un o gyf- arfodydd yr Orsedd, yn adeg Eistedd- fod Llundain, achwynai rhywun fod gormod o weinidogion a'u bysedd yn y botes ond taflodd Syr Marchant gochl dros y gwendid hwnnw trwy ei sicr- hau nad oedd pob gweinidog yn bre- gethwr. Efe oedd prif ysgogydd Cymdeitha-s yr Eisteddfod." a gellid dweyd gyda llawer o brio dol deb mai efe a Syr Vin- cent Evans oedd y Gymdeithas honno. Beth a ddaw o'r Gymdeithas yn awr,. mae yn anodd gwybod-wedi i'r Vin- sent gael ei adael wrtho ei hun. Ni fu Gorsedd yn ystod y deg mlynedd ar hugain diweddaf heb bresenoldeb y Vincent, nac ond ychydig iawn heb Syr Marchant. Hwy eill dau oedd y ffydd- loniaid lleygol yn yr holl gyfarfodydd. Rai blynyddoedd yn ol daeth credo newydd yng nghylch hynafiaeth yr Or- sedd. a bu amryw o fechgyn yr "Ysgol Newydd" yn ameu ac yn bychanu ei defodau. Bu Syr Marchant a'i golyn yn y brodyr hynny lawer gwaith, ac nid bychan fu y gwewyr a wnaeth yn eu plith. Daliai ef yn dynn dros yr hen ddefodau gyda chyndynrwydd yng ngwyneb pob dysgeidiaeth ddiweddar,. hyd yn oed yng ngwyneb Proffeswyr, yr hen frethyn llwyd" iddo ef, serch, i'r brodyr gwrthryfelgar ymfalchio yn eu Knickerbocers o Scotch Tweed. Yng Ngorsedd Colwyn Bay y rhoes y dar- luniad o'r ddwy "ysgol." a bu y teitl c "Knickerbocers" bron a glynu wrth fechgyn yr "Ysgol Newydd." Os am gael holl arabedd Syr Marchant i'r amlwg, mewn rhyw gongl y tuallan i babell yr Eisteddfod yr oedd cael hynny. Mae y beirdd yn rhwym o gael ysmygu, hyd yn oed mewn uchelwyl; ac nid oes hwyl na bias ar fygyn heb- hanner dwsin o feirdd i ffurfio y cylch myglyd. Ni chlywais yr un bardd yn medru llifeirio arabedd fel Syr Mar- chant, ar achlysuron felly. Heblaw bod yn ddigrif, medrai wan ci yn ei goes" yn effeithiol ar yr un pryd. Yr wyf yn cofio bod yn un o'r ysmygwyr yn adeg Eisteddfod Caerynarfon, a throes yr ymddiddan ar rai o nodweddion "beirdd y tywyllwch," fel y gelwid beirdd yr "Ysgol Newydd" yr adeg honno. Nid wyf yn cofio pwy oeddym i gyd, ond yr oedd Gwili yn ein plith, a chyfrifid ef yn un o'r beirdd cyfriniol. Ymhlith pethau eraill, dywedodd Syr Marchant mai gan fam Gwili y cafodd ef y ganmoliaeth fwyaf a gafodd erioed fel bardd. Dywedodd ei bod yn deall ei waith ef, ond nad oedd yn deall dim o weithiau John ei mab. Edrychai Gwili dros ei wydrau tuag Ynys Mon, tra y chwarddai y cwmni yn iachus.