Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Business will Certainly Boom after the War I History will be repeated! We venture to predict an immense increase of trade in all directions after the conclusion of the present war! An inevitable result of this will be a substantial increase in the prices of most commodities, and especially will this be the case with regard to Furniture! As a result of keeping men employed during the present strenuous times, our various Establishments are now crammed with Goods. These vast Stocks we are offering at unprece- dently low prices. The foregoing are genuine reasons why, in order to economise, you should place your Furnishing Orders NOW. Delay positively means extra cost! Prompt purchasing it is equally certain means considerable Saving BEYAN 4Ln, COMPANY, PMtmiM, Miff, SwMSN,t.. BEVAN L tda 3 COMPAN 11 Poi"it yp fidd c a?rd ff? s &c. Largest Furnishers & Pianoforte Merchants. Large Catalogues gratis. Delivery free 200 miles from any Branch.
Y Stori. : Y Stori.i
Y Stori. Y Stori. Y WYNEB ARALL. GAN "LWCHARIAN. PENNOD II.—DIG BOND. (Parhad.) Beth bynnag oedd cyflwr meddwl Dic Bond ar ddyfodiad Abel yn oruchwyl- iwr, neu Stiwart, fel y dywedir ym Meirionydd, danghosodd barch iddo. Ni chymerodd fantais o'r adnabydd- iaeth oedd rhyngddynt yn flaenorol, fel y gwneir yn ami gan rai a fu yn cyd- weithio. Ni wyddai neb ddim am ach- yddiaeth Die na'i gymmeriad. Tybiai rhai ei fod yn hannu o deulu urddasol, canys yr oedd ei ymddygiadau yn ategu hynny. Gwisgai bob amser mewn dillad drud, ac o'r toriad diweddaraf. Wedi gorffen ei ddydd gwaith, ym- olchai a sebon neilltuol, sef Pears; rhannai ei wallt yn y canol, ac ni anghofiai byth roddi cwyr ar flew ei wefl uchaf. Gwisgai grys gwyn o'r lliain meinaf; addurnai ei fron a chad- wen felen, a disgleiriai ei fysedd gan fodrwyau. Gwisgai un faneg, a chariai y llall yn rhydd yu ei law eh with, tra ysgydwai yn ei llaw dde ffon gawnen, a chlop corn bwch iddi wedi ei amgylchu a rhwymyn arian; a thystiai beirniaid sigars ei fod yn derbyn y rhai hynny yn union o Havanna. Hawdd oedd ei ad- nabod yn y tywyllwch gan berarogl mwsg ei ddillad. Edmygai ereill ei Saesneg clasurol, a chredent yn sicr naill ai mai rhywun mawr wedi torri lawr ydoedd, neu fon- eddwr wedi dod gyda rhyw amcan i ddysgu garddwriaeth i Ros Siriol. Daeth tafarnwyr a bar forwynion Penllyn i adnabyddiaeth o hono yn fuan ar ol ei ddyfodiad i'r lie. Yr oedd ei hud-ddeniad yn swyno genethod yr ardal, ac ni chyfarchai neb ef yr adeg y daeth Abel Llwyd i Penllyn ond fel Mistar Bond." Yswagrai o gylch chwarae-fwrdd y peleni yfori, chwaraeai y piano'n ewyll- ysgar pan ddeuai ar draws un, a myn- ychai yr eglwys bob borau Sabath, ac nid rhyfedd oedd i bobl Penllyn gredu ei fod yn foneddwr. Abel a Sarah Llwyd yn unig a wyddent yn wahanol. Ni wyddai neb fod Die yn dod o'r un ardal a'r Stiwart Newydd, ac ni wyddai y Stiwart o ran hynny, brodor o ble ydoedd. Nid oedd prydferthwch "Morwynion glan Meirionydd" yn hud-ddenu Rich- ard Bond; gosodai nod arall iddo'i hun. Cyfrifai ef fod prydferthwch sofren yn rhagori ar deleidrwydd gwyneb a gwychder gwisg. Cyfaddefai wrtho'i hun mai dymunol iawn fyddai cael y ) ddau—y sofren a phrydferthweh, ond, beth bynnag fyddai, rhaid oedd iddo ef gael aurl Mae y gwragedd gweddwon a fynnant ail-briodi, wedi eu graddfreintio a dar- felyddiaeth a chrebwyll tuhwnt i allu cynllwyngar y dihiryn cyfrwysaf. Nid dallineb cariad anianol sydd yn achosi y tor-priodasau ami a geir yn y cyfnod yma; eithr mae un o'r ddwy blaid yn dal ei olygon ar belydrau melynwawr yr haul; ac wedi iddo ail- edrych i'r goleuni cyffredin, mae yn methu a gwel'd, hyd nes dychwel goleuni amgauedig y Ilygaid i'w gynefin. Sylla llawer sydd ar ffin y stad briodasol yn Jbarhaus ar y gwaddol- Dwy sofren welir yn Ilygaid y priodfab, ,Aeu y briodferch; mae clicied drws y ty ¡ yn aur; mae y cwpanau te yn aur; aur yw popeth. Ni fedrant weled dim ond aur, hyd nes deffroer hwynt o'r cwsgbar y gyrrwyd hwy iddo o dan ei effaith. Ar y 5fed o Ebrill, 18-, bu farw Cad- waladr Roberts, Gwesty'r Aran. Ad nabyddid Gwesty'r Aran gan drigolion Penllyn wrth yr enw "Y Gwesty," i'r hwn y perthynai ystablau eyfleus a cher- I bytai diddos er cyfarfod ag anghenion teiihwyr o Llangollen drwy Corwen, a'r Bala, i Dolgellau, cyn dyddiau y rheil- ffordd. Safai Y Gwesty ar fin y ffordd, gyda buarth eang a threfnus o'i flaen, er bwyda a dyfrhau ceffylau y teithwyr, ac yn fau i gysgodi cerbydau. Tucefn iddo mae gardd eang a pherllan gnyd- fawr; heblaw hyn yr oedd ugain erw o dir ffrwythlawn o amgylch iddo. Yr oedd Y Gwesty wedi ei ddodrefnu a goreugwaith celfvddyd. Yr oedd y tri mochyn hallt oedd yn hongian dan nen- fwd y gegin yn ychwanegiad neillduol at harddweh y pictwrau oedd ar y mur- iau. Digon yw dweyd: Yr oedd y Gwestty yn gystal a'r goreu o westai amgylchoedd Penllyn. Ychydig er hynny yr amser hwn oedd gofynion misol y darllawydd, ac anfyn- ych y byddai y Cyllidwr yn talu ymwel- iad a'r lie. Cymhellwyd Mr Richard Bond gan gyfaill iddo i ddyfod i gynhebrwng Mr Roberts, Y Gwesty. Derbyniodd y gwahoddiad. Wedi y gladdedigaeth aeth gydag amryw ereill o'r fynwent i'r Gwesty, yn ol arferiad, i wrando "yr ewyllys yn cael ei darllen" gan offeiriad y plwy'. Gwahoddwyd Mr. Bond i'r parlwr uchaf gyda'r teulu, a chyn yfed te dar- llenwyd yr ewyllys, yr hon fedd fel hyn:- Ewyllys olaf Cadwaladr Roberts. Yr wyf fi yngwydd y tystion sydd a'u henwau yn dilyn fy arwyddnod yn dy- muno fod yr oil a feddaf ac a berch- nogir gennyf ar ddydd fy marwolaeth, i fod yn eiddo cyfangwbl heb un telerau i fy nwraig, Cathrine Roberts. Heblaw buddiannau Y Gwesty—gwelir y budd- ianau neillduol ereill ar y Wyneb Arall Peidiodd yr offeiriad a darllen yn sydyn, a dywedodd: "Nid wyf yn barnu yn ddoeth i egluro y wyneb arall heb ymgynghori a chyfreithiwr yr ystad." Aeth pawb adref yn mhen tipyn. a phawb yn gofyn iddo ei hun Beth oedd ar y Wyneb Arall wn i? Wedi ychydig ddyddiau anghofiodd pawb eiriau y Person ond Die Bond; nid oedd dim ar ei feddwl ef ond "yr oil" i fy nwraig Cathrine, "ac heb delerau." O'r noson honno am yn agos i flwyddyn, teimlodd ei fod yn y "clefyd melyn"clefyd yr aur," a theimlai nad oedd gwellhad iddo ond meddygin- iaeth "Y Wyneb Arall" oedd heb ei ddarllen gan yr offeiriad. Yr oedd ugeiniau o weithwyr ereill hewblaw y garddwyr o dan arolygiaeth Abel Llwyd ar y fagwrfa newydd- cloddwyr cyffredin, seiri coed a maen, ac amryw fath o beirianwyr a gwydr- wyr. Ar brynhawn tawel, cyn bod dail yr Hydref yn dechreu disgyn, cyfarfu Richard Bond a Mr. a Mrs. Lloyd ger Mynedfa y Llyn oedd ar waelod Pare Rhos Siriol. Hwn oedd y tro cyntaf i Mrs. Llwyd gyfarfod Richard Bond er pan dderbyniodd ei hatebiad nacaol i'w gais am iddi fod yn wraig iddo. Rhoddodd Sarah ei braich o dan fraich Abel yn ddiarwybod iddi; a theimlodd yntau fod curiadau ei chalon megis yn deisyfu arno am amddiffyn. Edrych- odd i'w llygaid, a gwelodd ynddynt ar- wyddion gwylltedd ac ofn. Edrychodd eilwaith, a. sicrhaodd ei hun nad oedd yno gysgod o gywilydd nac euogrwydd, eithr yn hytrach wadalwch a ffyddlon- deb yn disgleirio. Croesodd Die yr heol, ac estynodd ei law hyd braich, gan ddywedyd: Sarah,-Mrs. Llwyd ddylaswn ddweyd. Dyma gyfarfyddiad hapus, yn wir; y mae yn dda gennyf eich cyf- arfod. Dewch! beth sydd yn bod? Oni siglwch law a mi 1 Onid ydych yn fy adnabod ? Dewch,—sigliwch law er mwyn yr amser gynt." Syr," meddai Sarah yn hollol hunan-feddianol yn awr, nid wyf yn eich adwaen; nid wyf am eich adwaen am hynny ni fedraf siglo llaw a chwi Nid wyf yn gwadu na welais chwi o'r blaen, nac wedi anghofio fod fy Haw wedi bod yn eich llaw cyn hyn. Eithr, nid wyf yn eich adwaen." Nid yw y frech wen arnaf, ac nid oes dagr yn fy llaw. Beth yw ymddyg- iad fel hyn, Abel Lloyd?" "Nis gwn, eithr mae gennyf ymddir- ied yn Sarah ei bod yn gwneyd yr hyn a farna yn oreu, gan hynny gwell yw parchu ei dymuniad." Talsythodd Die, a chododd gwrid ffromedig i'w ruddiau; ond ni chododd efe ei lais na'i ddwrn, eithr hawdd oedd i Abel weled fod digofaint yn llechu yn ei galon. Edrychodd yn watwarus ar Sarah, a dywedodd: Mae eich ymddygiad sarhaus yn annynol-yn siomiant ac yn brofedig- aeth dra chwerw i mi, yn o gymaint ag fod adnabyddiaeth yn bodoli rhyng- j ddom yn flaenorol. Gan fod ffawd wedi gwenu arnaf, yn ogystal ag arnoch chwithau, yr oeddwn yn meddwl man- teisio ar yr adnabyddiaeth, a gofyn i chwi fod yn was a morwyn priodas i mi a Mrs. Roberts, Gwesty'r Aran, mis i dydd Iau nesaf." "Beth? Bod yn was a morwyn priodas i chwi ? Yr wyf wedi gwrthod bod yn feistres arnoch, heb son am fod yn forwyn. Morwyn yn wir ? Gwybydd- wch hyn hefyd, Richard Bond, mae Abel wedi dyrchafu o raddfa gwas! Gwas a morwyn yn wir!" "Felly, Mrs. Llwyd! Yn araf mae olwyn rhagluniaeth yn troi, ond mae yn malu'n fan, a synnaf fi ddim na falurir peth o'ch balchder chwithau ar ol hyn. Nid oes raid i mi weithio awr o dan Abel mwy, a gwn na estynaf law gyfeill- gar i un o honoch byth eto. Dichon y caf lawenychu eto yn hamddenol o her- wydd eich darostyngiad buan Arhoswch Richard Bond! Credaf fod yn llawn bryd i mi ymyrraeth bell- ach. Nid oes un o honom am gweryla a chwi, ond nid wyf am fod yn ddistaw yngwyneb eich daroganiad. Edrych- wch ar ol eich rhodiad a'ch gweithred- oedd eich hun; gwnawn ninnau yr un modd. Nid wyf yn hidio pa un a weith- iwch danaf eto ai peidio a sierhaf chwi nad wyf fi na Mrs. Llwyd yn chwennych eich cwmpeini mwyach. Ewch rhag- och!" Cefnodd heb yngan gair, a chyfeir- iodd ei gamrau i Westy'r Aran. Bu y cyfarfyddiad yn achos i Bond roi ei waith yn Rhos Siriol i fyny y noson honno. Ni wybu neb ym Mhenllyn betb oedd yr achos; bu y cwbl yn guddiedig gan y ddwy Jblaid. (I barhau.)
! Ysgrapiau o'm Hysgrepan.…
Ysgrapiau o'm Hysgrepan. GAN AP HEFIN, ABERDAR. MAB PARCWYSON. Llongyfarch i Mr. a Mrs. Tom Williams ar lw.yddiant David Philip, eu mab annwyl, 18 oed, yn ennill ysgoloriaeth o ^40 am dair blynedd ( £ 120 i gyd) ym Mhrifysgol Cymru yng Nghacrdydd. I fyny bo'r nod CAN A THELYN. Cefais gopi o ail-argraffiad diwyg- iedig ac helaethedig o Lawlyfr Dewi Mai o Feirion ar Ganu Penhillion. Pris 6ch. Da gennyf ddeall i'r awdur gael archeb am nifer dda gan Gymrodor- ion Bargoed. Gan hyderwn y bydd o ryw fantais i Ddewi Mai o Feirion a'i gydymaith, y Telynor Dall o Feirion, gadawaf i'r llythyr canlynol siarad drosto ei hun 40 Heol Ddorfil, Blaenau Ffestiniog, Hyd. 12, 1914. "Annwyl Ap Hefin,-Yn eich ad- nabod yn yr ysbryd ers talm o amser bellach, anturiaf anfon gair atoch. Mae y Telynor Dall o Feirion a minnau wedi cael gwahoddiad i un neu ddau o fannau yn y De i ddar- lithio neu gyngherdda gyda'r delyn a chanu penhillion, ond prin y talai'r daith inni heb gael rhyw hanner d\tfsin o fannau, neu fyned yn drwm ar ychydig. Nid anturiaeth ariannol mohoni o gwbl, ond fel y gwyddoch mae'r Telynor Dall a minnau i'r graddau helaethaf yn dibynnnu ar hyn. Gwelais eich bod chwi yn fyw yna fel Cymrodyr er gwaetha'r rhyfel annuwiol presennol. Tybed a ellid trefnu noson inni yna; ein bwriad yw cychwyn o hyn i ben tair wythnos, ond diau y bydd yn fis neu bum wythnos cyn y gallem gyrraedd yna. Hwyrach i chwi sylwi ar eirda'r "Brython inni pan fuom yn agor tymor Cymdeithas Cymry Lerpwl. 0 berthynas i 'fee' bodlon fuasem ar y gydnabyddiaeth ellid estyn, ond carem gael gwybod beth fyddai fel y gallem deimlo'n ffordd o'n blaenau, a pheidio sugno'n drwm o neb. Mae gennym gannoedd os nad miloedd o gyfeillion yng ngwahanol ardaloedd y De. Os bydd yn wiw gennych ddwyn hyn i sylw, diolchwn am air buan. A wyddoch chwi am Ddewi Aeron ac ymhle y mae yn awr? Gellir trefnu ffurf y cwrdd eto.—Gyda chofion cynnes iawn, yn rhwymau llenawen a chan, yn wir, DEWI MAI 0 FEIRION." TECWYN. I Bu y Parch. D. Tecwyn Evans, B. A., yn cynnal gwyl bregethu flyn- yddol Seion, Aberdar, yr ail waith yn olynol eleni. Mae Tecwyn yn ddiw- invdd mawr, yn credu ilawer mewn uwchfeirniadaeth, ac wedi golygu cyfrol ar y pwnc, ac ysgrifennu llawer iddi. Ail-argraffiad yn y wasg. Mae yn ddarlithiwr enwog, ei ddarlith ar lyfr Job yn feistrolgar. Cydnabyddir ei fod yn ieithiwr Cymraeg tan gamp, fel y dengys ei lyfr ar y pwnc sydd yn myned trwy ail argraHiad yn awr. Pregethwr galluog a phoblog- aidd, ysgolheigaidd a difrifol yw Tecwyn. Gelwir ef at yr Annibynwyr yn fynych ym Merthyr a Dowlais. !3yda y n pregethu Nln Bydd yn pregethu yn Nghaerdydd y dyddiau nesaf gyda Brynsiencyn. Yr oedd y rhyfel yn cropio i fewn i'r bregeth yn fynych. N wnai un gwa- haniaeth i bobl yr Arghvydd pc bai'r gelyn yn cymeryd L lundain, Caerdydd, a Llynlleifiad. Nid ofnwn pe sym- j udai y ddaear a phe treiglid y mynydd- oedd i ganol y mor." Un o'r esponiad- au mwyaf diddorol a gafwyd gandd, oedd yn y bregeth ar Y PECHOD YN ERBYX YR YSBRYD GLAX. Llawer o wahanol farnau ar y pwnCj, a llawer wedi gwneud diwedd am eu bywyd gan ofn eu bod wedi cyflawni'r pechod hwn. Mae'r esbonwyr wedi. bod yn llunio eu syniadau yng ngoleuni canrifoedd o athrawiaethau ar bersonau y Drindod Sanctaidd, ac yn cymervd yn ganiataol mai'r trydydd person yn y Drindod sydd yma. Ond nid iocs anRen holi un esboniad heblaw esboniad Iesu Grist ei hun yn y paragraff. Gellid iiiaddeu, i ddynion am bechu yn erbyn natur l a b v ddynol Iesu Grist, "Mab y Dyn." Yr oedd wedi ymddangos mor wahan- ol i bob disgwyliad. Ond priodoli gau ddibenion, a dweyd mai trwy Belse- bub, pennaeth y cythreuliaid, yr oedd yn gwneud ei weithredoedd goreu- yr oedd hynny yn anfaddeuol. Nid' ysbryd drwg, ond ysbryd glan oedd yn llywodraethu Iesu Grist-yr ysbryd glanaf, puraf, perffeithiaf fu yn y byd erioed. Yr oedd Crist y goreu o bawb, neu ynte y gwaethaf o bawb. Ac nid oedd obaith i neb tra yn y cyflwr hwnnw o ragfarn yn erbyn. cymeriad Mab Duw. MOELWYN. Cefais y pleser o wrando'r Dr. J. Moelwyn Hughes, M.A., Ph.D., yng nghyrddau pregethu Libanus, Aberaman, nos Lun diweddaf. Fel y gellid disgwyl yr oedd y rhyfel yn amlwg iawn yn y bregeth. Un o'r adnodau dan sylw ydoedd, "Yr Hwn sydd yn gosod tylathau ei ystafell- oedd yn y dyfroedd, ac yn rhodio ar adenydd y gwynt." Yr oedd Duw yn mynd ymlaen a'i waith, nid ar wa- han, neu ar waethaf y rhyfel, ond. trwyddo. Mae Duw yn trin y cledd. "Y fi a Duw," meddai Emprwr Ger- mani. Perygl John Bull oedd dweyd "Y fi fy hun." Y ffordd iawn i ddweyd oedd, "Cleddyf yr Arglwydd a Gid- eon. Mae William wedi cyflawni mesur ei anwiredd" Ceir hanes am Dduw yn cyfrwyo'r diafol, ac yn ei farchogaeth droion yn y Beibl. Mae yn cyfrwyo rhagor nag un o honynt heddyw. Mae y rhyfel wedi dwyn bendithion lawer yn barod, agor calonnau hen gybyddion na wyddai neb iddynt wneud tro caredig erioed o'r blaen maent yn lletya Belgiaid heddyw. Tynnu i lawr furiau enwad- aeth. Mae yn gywilydd i ni son am .« enwadau mor bell o'r dvdd mewn 'm Cristionogaeth. Heddyw gwelir Bel- giaid pabyddol ac estronol eu hiaith yn addoli yn nhemlau YmneHltuwyf Cymru. 41