Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

17 erthygl ar y dudalen hon

\' -..._- 1 V '""'Prwyaeth…

,. 0..-.-...•"'aid Dwyrain…

- tyr, YOO a Lleihad. -.

Rhagoriaeth y Prif-weinidog.I

Tymer _drwg Mr. -Balfour.-I

ILLANRWST.

BETTWSYCOED.

I I ---HARLECH.'-"I

TREFRIW. -I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

TREFRIW. I Y mae Mr. R. H. Williams, yr Arolygydd Iechydol poblogaidd, wedi cychwyn heddyw (dydd Iau), am ei wyliau i'r Ynys Werdd. Hyderwn y dychwela wedi cael adnewyddiad i'w iechyd a'i nerth, ac na bydd wedi Gwyddel- eiddio Ilawer ar ei syniadau trwy ymrwbio yn ein perthynasau yn y chwaer-ynys. Y mae y Gwaith Dwfr wedi ei gwbl orphen, ac y mae yn glod i'r Cymerwyr, Mri. Hughes a Rowlands, ac i'r Arolygydd Gwaith (Clerk of Work), Mr. Robert Parry, Bettwsycoed. Bu y Cyngor Dosbarth yn nodedig o hapus yn eu dewisiad o'r naill a'r Ilall o honynt, ac felly arbed y draul ar drafferth gafwyd gyda Gwaith Dwfr Cwm Penmachno sydd yn ddihareb am ei drybesdod o bant i bentan. Parha'r Ymwelwyr i ddod i mewn, ac ofer hollol fyddai i ni fyned i'w h°nwi, gan nad yw eu harosiad yn ddigon hir iddynt fyned i'r drafferth o wneyd nyth, er eu bod yn gadael ychydig gregin heddwch ar eu hol yn y manau y lletyasant. Mae y cyngerddau wrth y Ffynon yn boblog- aidd eleni eto, fel yn y blynyddoedd a fu, a'r Telynor Dall o Feirion yno gyda'i Delyn yn arllwys Alawon per o'r tanau tynion. Llawen genym ei weled yn edrych mor dda a chalonog. Bu y Baritone enwog, Mr. J. Tudur Owen, A.R.C.M., Blaenau Ffestiniog,yn canu yn un o'r cyngerddau, ac nid oes ball ar y clodfori ar ei ddatganiadau. Cyfeiliwyd iddo gan Mr. Louis Roberts, Avondale, Llanrwst. Edrychir ymlaen am wledd gerddorol yn yr Organ Ricital gynhelir heno (nos Iau), o dan lywyddlaeth Mr. James Lofftus Owen, C.E., Bryn Hyfryd. Chwareuir yr Organ gan Mr. Harry Evans, Lerpwl, a datgenir gan Miss Louisa James (Soprano), a Mr. Powell Edwards (Baritone)

Ysgoloriaethau Ysgbl Ganol-I…

HEDDLYS BLAENAU FFESTINIOG.

Advertising

BLAENAU FFESTINIOG.

- -..- - - - - .-.,.,- - -…

Advertising

Family Notices

I 1Mr. R. J. Campbell. jj