Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

CYNGOR DINESIG FFESTINIOG.…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYNGOR DINESIG FFESTINIOG. Cynhaliwyd cyfarfod rheolaidd y Cyngor nos Wener. pry;i yr oedd yn bresenol Mri. David Willia.ms (Cadeirydd), J. Lloyd Jones (Hynaf), Cadwaladr Roberts, E. M. Owen, Hugh Jones, Hugh Lloyd, William Evans, W. J. Rowlands, R. C., Jones, T, J, Roberts, Ben T. Jones, William Edwards, R. O. Davies (Clerc), W. E. Alltwen Williams (Peirianydd ac Arolygydd), Evan Roberts (Clerc Cynorthwyol), a George Davies (Arolygvdd Iechydol). Pwyllgor Gwaith. Methid a gweled y ffordd yn glir i godi cyflog D. Davies. Argymellid codi dwy geiniog y dydd yn nghyflog y rhai sydd yn trin y Cement 1 wneyd Concrete, a bod W. Powell i gael 4/- y dydd gyda gwaith cyffredin y Cyngor, a 4/6 y dydd pan gyda'r Steam Roller.-Cyflwynwyd cais yr Arolygydd Gwaith am godiad yn ei gyflog i sylw y Pwyllgor arianol.—Ar gynygiad Mr. E. M. Owen, a chefnogiad Mr. William Edwards, mabwysiadwy y cofnodion. Nwy, Dwfr, a Goleuni. Argymellid beidio gwerthu rhagor o Coke mor fuan ag y byddo lie i'w ystorio yn y Gwaith, gan y bydd cymaint o'i angen at y gwaith yn Cwmbowydd. Cyfarwyddwyd y Peirianydd i dynu allan gynllufi Gorsaf Dan at gadw y Peiriant a'r offerynau perthynol iddo at y pwyllgor nesaf. .in ol cyfarwyddyd y Cyngor, yr oedd yr Arloygydd wedi adrodd ar y cyflenwad Dwfr yn Hafodruffydd, Tanyfron a Freeman Terrace, a Pantllwyd. Yr oedd 2 dy wedi cysylltu yn Hafodruffydd, a 9 heb wneyd. Argymellai roddi rhybuddion i'r perchenogion i gysylltu eu tai. Yn Tanyfron a Freeman Terrace yr oedd 17 o dai, ond yr oedd 8 o honynt yn wag. Deallai nad oedd ond un o'r tenantiaid wedi gwneyd ymdrech i dalu am y dwfr, a'r Ileili yn talu trwy randaliadau'yn y Llys.- Yr oedd 32 o dai yn Pantllwyd, a pbump o honynt yn weigion. Ymgais lesg iawn a wnelai y tenantiaid i dalu am y dwfr, llawer o honynt yn weddwon, ac yn dadleu eu hanallu i dalu. Yr oil a gasglwyd o ddechreu Tachwedd 1906, oedd £2 18s Oc, a thalwyd y swm hwnw gan 12 tenant yn unig. Mr. Cadwaladr Roberts, a sylwodd fod yn afresymol meddwl nad oedd ond £ 2 18s Oc wefji eu taIu am ddwfr yn y Ueoedd uchod ar 01 i'r Cyngor wario y fath ganoedd o bunau i fyned a dwfr i'r cyraedd. Dylasai o leiaf £ 24 fod wedi eu derbyn.—Cadeirydd, "Ceir ad- roddiad pellach at y Pwyllgor nesaf." Yr oedd Mr. Bowton yn cwyno am y cyflen- wad diffygiol o ddwfr oedd at ei dy. Bu y pwyllgor yno, ond nid oeddynt wedi gallu cwblhau BU gwaith fel ag i allu adrodd i'r Cyngor.. Ar gynygiad Mr. R. C. Jones a chefnogiad Mr. T. J. Roberts, pasiwyd yr uchod. Man-Ddeddfau. I Yr oedd Pwyllgor Iechydol arbenig wedi ei gynal i ystyriad y Man-ddeddfau (Byelaws), ac argvmellent iddynt gael ei mabwysiadu.— Pasiwyd i wneyd hyny a'u bod i gael eu selio a y Cyngor. 11 PwyUgor Gwaith a'r Carthion. Yr oedd y ddau Bwyllgor hyn wedi cydeistedd, ac argymellent i swyddfa symudadwy gael ei chodi i'r Arolygydd gwaith, a bod cynygiad am ei gwneyd yn cael eu gofyn gan y Seiri.— Pod y reiliau fenthycwyd i gael eu dychwelyd Yn ddiymdroi.-Mr. T. J. Roberts a ofynodd a oeddid i ddeall fod y ddau bwyllgor hyn i fod yn un o hyn allan ?-Cadeirydd, "Nag ydym. Y mae eu gwaith yn hollol wahanol.Mr. Hugh Jones a rhoddodd rybudd o gynygiad, fod y ddau bwyllgor i fod yn un o hyn allan. Nid oedd gormod o waith i un pwyllgor allu ei wneyd, ag yr oedd llawer iawn o amser yn cael el golli wrth fyned gynifer o weithiau i Cwm- bowydd—Mr. T. J. Roberts, "Yr wyf yn rnethu deall paham y mae yn rhaid myned i Cwmbowydd i drafod pobpeth yn nglyn a Gwaith. Mae yn fanteisiol gwneyd hyny yno Syda'r hyn wneir ar y lie; ond nid oes dim rheswm dros ystyried dyweder. achos llwybr Tanygrisiau yno yn y Swvddfa yma y dylid gwneyd pethau felly." Mr. Cadwaladr Roberts, Beth sydd eisiaullusgo achos Llwybr Tanygrisiau i mewn? Y mae Mr. Thomas Roberts vn meddwl na fedr fyn'd yn ddyn toawr yn y Cyngor yma heb gyfeirio at Tany- grisiau "-Mr, T. J. Roberts, "Gwneuthym y cyfeiriad mewn ysbryd didramgwydd ac os bydd galw svlw am Tanygrisiau, gwnaf hyny neb ofyn caniatad Mr, Cadwaladr Roberts." Amrywiol. Caniatawyd trwydded Gwerthu Helwriaeth Mr. J. Bradley. Cydnabyddodd Mam Mr. W. P. Owen, yn ddiolchgar am gydymdeimlad y Cyngor a hi ar farwolaeth ei mhab. Gwnaeth Mr. Isaac Thomas, Moelwyn View, Lian, gais am gael dwfr i'w anifeiliaid yn ei gae.—Pasiwyd i gael adroddiad yr Arol- ygydd arno. Atifonodd Swyddfa Woods & Forests i hys- bysu am benodiad Mr R. 0 Roberts,Caernarfon, Swyddfa y Goron gyda Mwnau yn Ngogledd Cymru. Mr. C. Roberts a alwodd sylw at y Camfeydd anhwylus oeddynt ar y Llwybr o ben y Tunel at y Dduallt, ac argymellent i anfon cais oaredig at y perchenog i ddodi llidiardau yn eu Ce er mwyn y bobl a deithiant y llwybr.— Cefnogodd Mr. W. Edwards, a phasiwyd hyny. ArianoL -Pasi%vyd i brynu yr oll. o'r Cement sydd yn o'ynol i'w gael at y gwai'th yn Cwmbowydd gan Mr. H. Gray Parry. pasiwyd i adael y cais am iawn am dresmas ar dir y Gelli i'r Clerc. "£ Pasiwyd i dalll biliau a chyflogau i'r swm o 2004 Os ge. Yr oeddid wedi casglu Io bob ffynonellyn ystod y mis £ 84 15s 7c. Yr oedd gweddill yn yr Ariandy o £450 19s 9c. Y Clerc a ddywed- odd fod y cyfnewidiad yn y Swyddfa, a'r gwaith gyda pharotoi y llyfrau casglu wedi bod mor drwm fel nad allwyd yn ymarferol gasglu dim o'r trethi yn ystod y mis. Byddid yn awr yn dechreu ar y gwaith o ddif rif, a byddai dwy- law Mr. Evan Roberts yn rhyddion at y gorchwyl. Iechydol. I Cyflwynwyd Adroddiad y Pwyllgor Iechydol, y rhai oeddynt wedi cael adroddiadau y Swydd- ogion. Mr. Arthur H. Davies (Arolygydd Gwaith) a roddodd adroddiad manwl iawn am y gwaith yn Cwmbowydd. Yr oedd pobpeth yn myned yn mlaen yn foddhaol iawn. Gwnaed arbrawf ar y Cement gyda'r peiriant, a phrofodd yn well na'r gofyniad o 90 pwys y fodfedd ysgwar. Mr. George Davies (Arolygydd Iechydol) a adroddodd i 6 achos o glefydon gael eu Nhodi yn ystod y mis, ar gyfer 9 y mis cynt, a 6 yr un mis y llynedd.—Yr oedd y Barracks yn nghefn I 13, New Square, yn ddiffygiol, ac yn anghym- wys i'w breswylio.—Pasiwyd i'w gau.—Yr oedd wal ar y Ffordd Newydd, perthynol i un o'r tai yn Oxford Street wedi syrthio i'r ffordd. -Pasiwyd i anfon at y perchenog i ofalu am ei chodi rhagllaw. Y Peirianydd (Mr. W. E. Alltwen Williams) a gyflwynodd ei adroddiad misol am gyflwr y Ffyrdd, &c.-Yr oedd rhai pethau gofynol eu gwneyd ar Jones Street, cyn y gallai ef argym- ell y Cyngor i'w derbyn drosodd o daneu gofal. —Nid oedd yr hyn a wnaed ar Llyn Tafarntrip yn ddigonol er atal i'r Llyn lifo i'r ffordd. Deallai nad oedd y dyn ddylasai edrych ar ol yr ollyngfa yn ddigon gofalus i wneyd hyny yn ddyddiol, ac felly cauai y lie i fyny, a chronai y Llyn dros ei derfynau.—Yr wedi oedd dodi rhestr o'r manau i'r Cyngor Sirol ddodi myneg- byst arnynt trwy y Dosbarth.-Cyflwynodd i Bwyllgor Sirol y Ffyrdd, gynllun o'r cyfnewid- iad ofynid gael ar Ffordd Tanygrisiau, ond costiau ei gario allan ddwbl y swm gynygiai y Cyngor hwnw gyfranu at y gwaith. Hysbysodd y clerc fod y gwyn o eiddo Mr. R. Jones. Fronhyfryd, Llan, gyda golwg ar lygru y dwfr yn ngwaelod Tyn y maes, yn cael sylw.—Yr oedd y gwyn o eiddo cwmni y Reil- ffordd Gul yn nglyn aordd Dolgarregddu yn cael edrych i mewn iddo, a'i symud. Mr. Hugh Lloyd a ofynodd a oedd atebiad wedi dod oddiwrth Miss Brymer yn nglyn a chael caniatad i gario allan y gwelliant ar Ffos y cae Difyrion; atebwyd nad oedd, a phasiwyd i'r Clerc ofyn i Miss Brymer am ei hatebiad, er mwyn gallu myned yn mlaen gyda'r gwaith.

BwrddGwarcheidwaid Llanrwst.…

RHOS A'R CYLCH.

Advertising

, ! O'R PEDWAR CWR.