Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

LLANRWET, I

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

LLANRWET, I TREFN Y MODDION SABBOTHOL, Yr Eglwys Sefyiledig. ST, CRWST.—10 30 a 6. Gwasarsaeth Cymreig. ST\ MARY.—11, a 6, Gwasanaeth Seisnig, Y Methodistiaid, SEION .-Parcli Evan Davies, Trefriw, HEOL SCOTLAND,-Palch 0. Gtiarydd Wil- liams, Roe Wen, Annibynwyr, TABERNACL—Parch W Cynwyd Williams EBENEZER.— Wesleyaid, FIOREB.-Parch Tegla Davies, Porthaethwy. ST. JAMES (English).—Mr John Ellis, Bedyddivyr, PENUEL-Pa.rch Owen Davies, D,D., Caernar- fon. EGLWYS BABAIDD.-II, Cymun Sacctaidd. 6-30, Gwasanaeth Cymreig, y Tad Treb- aol, Q. M 1, Llongyfarchwn yn dra chalonog ddaú o feibion y diweddar Mr Hugh Pierce ar eu I gyrfa Iwyddianus gyda'u baroliadau meddygol. Y mas Mr William R. Piercs wedi enill y radd I 0 M D. a Mr Hugh Pierce, yr hwn nad yw ond 22 oed, wedi pasio y rhan gyntaf a'i arhol- iad am M.D., ac enill y Bathodyn Aur roddir i'r myfyriwr uwchaf yn yr arholiad, Gwened ffawd arnynt yn y dyfodol etc. Dydd Sadwrn, cynhaliwyd Cyfarfod Chwar- terol CylchdaitL y Wesleyaid yn Horeb, y Parch T. C. Roberts, yr Arolygwr yn y gadair. Daeth y swyddogion perthynol i'r Gylchnaith at eu gilydd yn bur gyfain, ac adroddwyd am gynydd yn rhif yr aelodau eglwysig.-Cafwyd adroddiad ffafriol iawn am yr Ysgol Sabbothol drwy y Gylchdaith, a phasiwyd i'r Gymanfa gael ei chynal yn Llanrwst.-Trwy garedig- rwydd diarhebol Dr W. Michael Williams rhoddwyd gwasanaeth meddygol yn ddidal am chwarter canrif i weinidogion yr enwad yn Pen- machno. Diolchwyd yn gynes iawn i Dr Wil- liams am ei hynawsedd yn hyny o beth.—Dyma oedd y Cyfarfod Chwarterol diweddaf i'r Parch W. Lioyd Davies yn ystod ei dymor ar y Gylchdaith, a dygwyd tystiolaeth uehel iawn iddo am ei vasanaeth a'i ymroddiad tra yn ein piith, gan ddymuno yn dda iddo yn ei Gylch- daith newydd. Y mae yr hin odidog roddir ini yn cael ei gwerthfawrogi yn fawr gan Amaethwyr y Dyffryn, a'r oil ohonynt yn Hawn yni gyda'u cynhauaf gwair, yr hwn sydd yn gynydfawr I eleni. Y mae y tywydd hefyd yn tynu yr ym- welwyr yn llu ma\\r iawn i'n mysg, a'r tai yn pry sur len" i a hnnvnt. HEDDLYS.—Dydd Lian, o flaen y Milwriad Johristone ac Ynadon eraill, Ar gais Mr J. E, Humphreys, trosglwyddwyd I trwydded yr Union Inn o enw Mrs E. M. Roberts, i enw Mr Robert Price, cigydd, Yr oedd mam gyda-baban chwech wythnos oed o flaen y Llys am fod yn feddw yn y dref nes Sadwrn. Yr oedd mor feddw fel y bu raid ei chario i'r gell. Margared Owen, Porthmadog ydoedd, a chaed iddi fod o flaen y Llys 19 yn flaenorol, a chwech o'r rhai hyny am fod yn feddw a phlentyn yn ei gofal. Ofer fu pob rhybudd iddi.-Anfonwyd hi i garchar am fis. Dirwywyd William Jones, Narrow Street, i bum' swllt a'r costau am fod yn feddw ac afreo'us ac Ann Roberts, Powell Street i 2/6 a'r costau am drosedd cyffelyb,

BETTWSYOOED. I

fWVWVVVVV xvvvvvx-r-rv w v…

- I- - - Marwolaeth Were y…

Athrodi Gweinidog o Abermaw

.HARLECH.-.I

Advertising

LLANFROTHEN. 'j

Advertising